Rhun ap Iorwerth - Ynys Môn 2013

Page 1

DATGANIAD I’R WASG. PRESS RELEASE. I’w rhyddhau’n syth. For immediate release. 28 / 07 / 2013 Plaid Cymru Ifanc. Plaid Cymru Youth. www.plaidcymru.org/ifanc

GALWAD I GEFNOGI RHUN AP IORWERTH Mae’n dda iawn gan Blaid Cymru Ifanc alw ar bobl ifanc Ynys Môn i gefnogi Rhun ap Iorwerth yn yr is-etholiad ddydd Iau nesaf. Fel ymgeisydd Plaid Cymru, Rhun yw’r dewis gorau i’ch cynrychioli a’ch cefnogi chi fel Aelod Cynulliad. Ry’n ni ym Mhlaid Cymru Ifanc yn edrych ymlaen yn fawr iawn at y posibilrwydd o gael rhywun fel Rhun ar feinciau’r Blaid yn y Senedd – mi fydd yn ased i’r Blaid a’r mudiad cenedlaethol yn ogystal â Môn. Mae Rhun, a Phlaid Cymru, yn gwbl ymrwymedig i bobl ifanc Ynys Môn. Ar ymweliad diweddar â Choleg Menai yn Llangefni, dywedodd Rhun ap Iorwerth: ‘Mae’n hollbwysig fod ein pobl ifanc yn cael y sgiliau angenrheidiol ar gyfer dyfodol disglair. Bydd buddsoddi mewn mwy o brentisiaethau a hyfforddiant yn arwain at weithlu mwy medrus yn golygu y gallwn wneud yn fawr o brosiectau a buddsoddiadau newydd ar yr ynys. ‘Rydw i wedi datgan yn glir mai fy mhrif flaenoriaethau yw’r economi a swyddi. Cafodd pobl ifanc eu hamddifadu o gyfleoedd gwaith a hyfforddiant ar yr ynys a bu’n rhaid iddynt symud i ffwrdd i ddod o hyd i waith. Bydd ein cytundeb cyllideb ar gyfer Parc Gwyddoniaeth Menai a phrentisiaethau yn golygu y bydd gan nifer go dda o bobl ifanc ym Môn ddyfodol disglair.’ Ychwanegodd ein Cyfarwyddwr Ymgyrchoedd a Pholisi Glenn Page: ‘Plaid Cymru wnaeth sicrhau fod Llywodraeth Cymru’n buddsoddi mewn prentisiaethau – mewn swyddi a sgiliau i bobl ifanc ar draws Cymru, o Gaerdydd i Gaergybi.

Angen Llun? Need a picture? www.flickr.com/plaidcymru Mae Plaid Cymru yn rhoi’r hawl i chi ddefnyddio unrhyw rai o’r lluniau i’w cyhoeddi neu’u defnyddio ar-lein. Plaid gives you the right to use any of our high-resolution pictures for your publication or online use.


‘Mae’r Blaid yn blaenoriaethu sicrhau fod gwaith ar gael i bobl ifanc Cymru, a does dim amheuaeth yn fy meddwl i y bydd Rhun ap Iorwerth yn ychwanegiad gwerthfawr dros ben i grŵp y Blaid yn y Cynulliad, wrth barhau i weithio dros bobl ifanc Ynys Môn.’

CALL TO SUPPORT RHUN AP IORWERTH Plaid Cymru Youth is very pleased indeed to call on the young people of Ynys Môn to support Rhun ap Iorwerth in next Thursday’s by-election. As a Party of Wales candidate, Rhun is the best choice to support and represent you as your Assembly Member. We in Plaid Cymru Youth are very excited by the possibility of having someone like Rhun join the Plaid Cymru benches in the Senedd – he will be an asset to the Party and the national movement as well as to Môn. Rhun, and the Party of Wales, are totally committed to the young people of Ynys Môn. On a recent visit to Coleg Menai in Llangefni, Rhun ap Iorwerth said: ‘It is essential that we equip our young people with the skills they need for a bright future. Investment in more apprenticeships and training will lead to a more highly skilled workforce and will enable us on the island to make the most of new projects and investment. ‘I have made it clear that my key priorities are the economy and jobs. Young people have been starved of employment and training opportunities on the island and been forced to move away in order to find work. Our budget deal for the Menai Science Park and apprenticeships will now allow a significant number of young people in Anglesey to have a brighter future.’ Our Director of Campaigns and Policy Glenn Page added: ‘The Party of Wales ensured that the Welsh Government is investing in apprenticeships – in jobs and skills for young people across Wales, from Abertillery to Amlwch. ‘Plaid Cymru’s priority is creating work for the young people of Wales, and I have no doubt that Rhun ap Iorwerth will be a valuable addition to the Plaid Cymru group in the Assembly, as he continues to work for the young people of Ynys Môn.’ = = DIWEDD / ENDS = =

Cysyllter â / Contact:

Cerith Rhys Jones – cerithrjones@live.co.uk / @cerithrhys Cyfarwyddwr y Wasg a Chyfathrebiadau Director of Press and Communications

Angen Llun? Need a picture? www.flickr.com/plaidcymru Mae Plaid Cymru yn rhoi’r hawl i chi ddefnyddio unrhyw rai o’r lluniau i’w cyhoeddi neu’u defnyddio ar-lein. Plaid gives you the right to use any of our high-resolution pictures for your publication or online use.


Issuu converts static files into: digital portfolios, online yearbooks, online catalogs, digital photo albums and more. Sign up and create your flipbook.