CYM Adroddiad Blynyddol 2024-25

Page 1


Cynnwys

Croesoi’nHadroddiadBlynyddol

Einprifnegeseuono’radroddiad

NiywHwbGwyddorauBywydCymru

Blwyddynmewnrhifau

Sutyrydymyncysylltuacyncynnull

Sutrydymynintegreiddio

Sutrydymyncyflymu

Sutyrydymyneiriol

Diweddariadarweithrediadauacadnoddau Edrychi’rdyfodol

Croesoi’nHadroddiadBlynyddol

ChrisMartin,CadeiryddHwbGwyddorauBywydCymru

Mae’n bleser cyflwyno ein Hadroddiad Blynyddol am 2024/5 – blwyddyn sydd wedi’i nodweddu gan gynnydd, partneriaeth a phwrpas. Yn sgil hyn daeth toreth o gyfleoedd newydd a chydweithrediad gwerthfawr sy’n gwneud gwahaniaeth gwirioneddol i bobl Cymru Rydym yn falch o gael y cyfle i weithio â nifer enfawr o bartneriaid a rhanddeiliaid i gyflawni ein gwaith, ac ni allem wneud hynny heb eu cefnogaeth hwy.

Mae arloesi’n hanfodol i gynaliadwyedd tymor hir ein heconomi ac i ganlyniadau iechyd gwell. Yn fyd eang, mae cwmnïau gwyddorau bywyd a darparwyr iechyd yn cydweithio’n fwy clos nag erioed, gyda gwyddorau bywyd yn gonglfaen i strategaethau diwydiannol y Llywodraeth Mi all y GIG fod yn sbardun i arloesi, gyda’r gallu i ddenu’r buddsoddiad sylweddol sydd ei angen ar economi sylfaenol Cymru i fabwysiadu dulliau therapiwtig newydd ac i ddefnyddio technolegau newydd. Gall hyn arwain at fasnacheiddio twf newydd ac economaidd, cynhyrchiant a buddiannau i iechyd.

Rydym yn gweithredu fel rhyngwyneb dynamig, gan gysylltu busnesau ac arloeswyr gwyddorau bywyd â darparwyr iechyd a gofal cymdeithasol a phartneriaid ymchwil Ond beth mae hyn yn ei gyflawni?

I bobl Cymru a staff iechyd a gofal cymdeithasol, gofal gwell, ac yn y pendraw iechyd a llesiant gwell, boed hynny o ganlyniad i ddiagnosisau cyflymach, amseroedd trin cyflymach, gofal yn y cartref, gwasanaethau gwell neu driniaethau mwy effeithiol.

Mae dros 64,000 o gleifion wedi manteisio ar arloesi, gan dreulio 1000 o ddyddiau’n llai mewn ysbytai ac angen 2100 yn llai o ymweliadau clinigol.

Rydym hefyd wedi cynhyrchu twf economaidd, swyddi a ffyniant yng Nghymru. Rydym wedi ychwanegu £3 9 miliwn mewn Gwerth Ychwanegol Gros at economi Cymru drwy ein hystod o wasanaethau, fel cefnogi 422 o ymholiadau, gweithio â diwydiant i gynnal 119 o asesiadau arloesi, cyflwyno 17 o gynigion sy’n barod i’w mabwysiadu i GIG Cymru a chynhyrchu 52 o adroddiadau gwybodaeth am y farchnad.

Rydym hefyd wedi helpu ystod o bartneriaid i sicrhau cyllid i arloesi mewn gwasanaethau iechyd a gofal cymdeithasol rheng flaen, gan gynnwys gwerth £5 miliwn o geisiadau llwyddiannus. Mae ein tîm wedi gweinyddu cyfleoedd cyllido lleol a chenedlaethol ar gyfer arloesi mewn iechyd yng Nghymru gan gynnwys y Gronfa Sbarduno Arloesedd mewn Canser Menywod wedi’i gydlynu â’r Academi Gwyddorau Meddygol. Mae Cronfa Arloesi System Fferylliaeth yn y Gymuned mewn partneriaeth â Llywodraeth Cymru ac Iechyd a Gofal Digidol Cymru wedi helpu i ddarparu dros filiwn o bresgripsiynau electronig.

Bu llawer o sôn am roi lle blaenllaw i leisiau clinigol a chleifion mewn iechyd, rhywbeth rydym wedi bod yn gweithio i’w gyflawni eleni drwy gydweithrediad â nifer o bartneriaid fel ein partneriaeth â’r Rhwydweithiau Clinigol Cenedlaethol a chefnogi Menter Mynd i’r Afael â Chanser Llywodraeth Cymru.

Mi hoffwn fanteisio ar y cyfle hwn i ddiolch i’n holl bartneriaid a phawb sydd wedi cydweithredu â ni am barhau i’n cefnogi. Gyda’n gilydd, rydym yn helpu i wneud Cymru’n lleoliad o ddewis i arloesi mewn iechyd, gofal a llesiant.

Mae'radroddiadhwnynbrawfobwysigrwyddarloesicydweithredolardrawsymaes gwyddoraubywyd.

MaearloesiwrthgalonygwaithodrawsnewidiechydagofalcymdeithasolyngNghymru, ganeinhelpuisicrhaucanlyniadaugwellibobl.Mae’nchwaraerhanallweddolyny gwaitholeihauamseroeddaros,gwellamynediadatofal,athrawsnewidsutrydynni’n canfodacyntrinclefydaufelcanser.

Ardrawsiechydagofalcymdeithasol,maeHwbGwyddorauBywydCymruynparhaui fodyngatalyddargyferarloesidrwyeiraglennicymorth,eibrosiectaua'ibartneriaethau pwrpasol Maeeiwaithyngwellacanlyniadauacyncryfhaueinheconomi

Jeremy Miles AS, Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gofal Cymdeithasol

Einprifnegeseuono’radroddiad

1. Rydym yn trawsnewid canlyniadau i gleifion drwy arloesi

Mae Hwb Gwyddorau Bywyd Cymru wedi galluogi 64,000 o gleifion i fanteisio ar arloesi, sydd wedi arwain at 1,000 yn llai o ddyddiau

mewn ysbytai a 2,191 yn llai o ymweliadau clinigol. Mae’r canlyniadau hyn yn adlewyrchu ein hymrwymiad i wella ansawdd gofal, cyflymu gwneud diagnosisau a thriniaethau, a gwella llesiant cleifion.

2. Rydym yn hybu twf economaidd a buddsoddiad yng Nghymru

Fe wnaethon ni gefnogi £3.9 miliwn mewn GVA at economi Cymru, sicrhau £5 miliwn mewn cynigion ariannu llwyddiannus a buddsoddiad o £2.44 miliwn.

3. Rydym yn cyflymu arloesi i’r rheng flaen

O helpu i ddarparu dros filiwn o bresgripsiynau digidol i dreialu trawsnewid gwastraff clinigol a gwella diagnosteg canser drwy fiopsiau hylif, rydym wedi chwarae rhan allweddol i gyflymu arloesi i reng flaen gofal.

4. Rydym yn datblygu cydweithrediad strategol ar draws sectorau

Rydym wedi dod â rhanddeiliaid o’r sectorau iechyd, gofal cymdeithasol, academaidd, y llywodraeth a diwydiant ynghyd i redeg mentrau fel ein Rhaglen Traws Sector gyda’r Academi Gwyddorau Meddygol.

5. Rydym yn hyrwyddo arloesi mewn canser ac iechyd digidol

Mae canser yn parhau’n flaenoriaeth strategol, ac mae ein tîm yn cefnogi menter Mynd i’r Afael â Chanser Llywodraeth Cymru a phrosiectau digidol fel hyfforddiant realiti rhithwir ar gyfer dysffagia Mae’r ymdrechion hyn yn rhoi pwyslais cryf ar ganfod cynnar, arloesi triniaethau, ac uwchsgilio’r gweithlu.

NiywHwbGwyddorauBywydCymru

Rydym yma i gyflymu arloesi trawsnewidiol drwy gyrraedd rheng flaen gofal, gan annog ffyrdd newydd o gydweithredu ar draws y system i hwyluso twf economaidd ac iechyd gwell.

Rydymyn...

Angerddol Cydweithredol Arbenigol Proffesiynol

Sutydymni’ncyflawnihyn?

Rydym yn gysylltwyr, yn hwyluswyr ac yn anogwyr. Rydym yn cefnogi diwydiant, sefydliadau iechyd a gofal cymdeithasol, llywodraeth a sefydliadau academaidd sy’n rhannu ein nod: rheoli, arafu ac atal afiechyd, drwy fabwysiadu datblygiadau arloesol newydd.

Rydym yn gweithio mewn dau faes o raglenni: Meddygaeth Fanwl a Digidol, Deallusrwydd Artiffisial (AI) a Roboteg. Thema sy’n gyffredin i’r ddwy raglen yw canser, lle mae canfod, diagnosis a thriniaethau gwell yn flaenoriaeth bwysig

Datblygu a hwyluso partneriaethau

Mae gennym gysylltiadau eang a sefydledig sy’n helpu’r broses o rannu gwybodaeth a syniadau, codi ymwybyddiaeth o anghenion, a chanfod cyfleoedd i ddatblygu atebion ar y cyd Mae hyn yn cefnogi gwerthuso, profi’r farchnad, llwybrau i’r farchnad a mabwysiadu. Mae ein digwyddiadau a’n rhwydweithiau hefyd yn ei gwneud hi’n haws ac yn gyflymach partneru a mabwysiadu arloesedd yng Nghymru

Partneriaethau - Syniadau Arloesi

Mae cymorth arbenigol ar gael i arloeswyr drwy werthuso’r farchnad ac asesu hyfywedd cynlluniau arloesol sy’n seiliedig ar heriau gofal iechyd a nodwyd.

Gwybodaeth y Sector - Gwybodaeth am y Farchnad

Gall gwybodaeth am y sector helpu gydag adroddiadau a gwybodaeth am y farchnad, archwilio cyfleoedd mewnfuddsoddi, cefnogi achosion busnes a hwyluso ymgysylltu ag iechyd, gofal cymdeithasol, academia a diwydiant.

Gwybodaeth y Sector - Cyllido

Darperir cyngor a gwybodaeth am gyllid ynghyd â chymorth i ddatblygu cynigion ar gyfer y gwahanol fathau o gyfleoedd cyllido sydd ar gael i hwyluso’r broses o ddatblygu syniadau’n gynnar, casglu tystiolaeth, masnacheiddio a mabwysiadu

Cyflwyno’r Rhaglen - Tystiolaeth y Byd Real

Rydyn ni’n darparu cymorth rheoli prosiectau i weithio’n agos gydag Iechyd a Gofal Cymdeithasol i hwyluso’r gwaith o werthuso a sefydlu sylfaen dystiolaeth ar gyfer effeithiolrwydd cynnyrch a gwasanaethau ar waith

Cyflwyno’r Rhaglen - Brocera a Mabwysiadu

Rydyn ni’n gallu darparu cymorth rheoli prosiectau i hwyluso trafodaethau rhwng iechyd, gofal cymdeithasol a diwydiant i helpu i gyflymu’r broses o fabwysiadu datblygiadau arloesol (ar fwy nag un safle neu’n genedlaethol) gyda sylfaen dystiolaeth gref o ran gwella effeithlonrwydd a chanlyniadau i gleifion

Cyfathrebu - Dathlu Llwyddiant

Mae hyrwyddo yn rhan bwysig o bob llwyddiant – ac rydyn ni’n helpu i godi proffil prosiectau o’r cychwyn cyntaf er mwyn iddyn nhw gael y sylw y maent yn ei haeddu. Gellir dangos llwyddiant drwy well effeithlonrwydd a chanlyniadau i gleifion, canfod ac atal yn gynnar, a hefyd drwy’r effaith ar dwf economaidd yng Nghymru Rydyn ni’n cynnig cymorth marchnata a chyfathrebu i ddathlu’r llwyddiannau.

we

Rydym yn hybu arloesi yn y rheng flaen ac yn annog ffyrdd newydd o weithio ar y cyd ar draws y system i hwyluso twf economaidd ac iechyd gwell.

Yn gyffredinol, llwyddwyd i gyflawni adenillon ar ffuddsoddiad o am bob o wariant.

GwneudbywydynwelligleifionyngNghymru

64,606 ogleifionynmanteisioar arloesi

1,040 ynllaioddyddiaumaecleifion yneutreuliomewnysbyty

2,191 ynllaioymweliadau clinigol

HybutwfeconomaiddyngNghymru Cefnogi’recosystemiechydagofal cymdeithasol

Cyflawni

£3.895miliwn

ynnhwfGwerth

YchwanegolGroesyCwmni yngNghymru

Sicrhau

£5.046miliwn mewncyllid

£2.44miliwn

ofuddsoddiad

prosiectmabwysiadu Helpu 8 oasesiadau Cwblhau 119 arloesi Cynhyrchu 16

28 4 4 oadroddiadau gwybodaethamyfarchnad, oadroddiadausgancyflym, adroddiadsectora adroddiadrhyngwladol.

Sutyrydymyncysylltuacyncynnull

Rydym yn cydlynu ac yn datblygu partneriaethau strategol allweddol, sy’n cynnwys penderfynwyr o ddiwydiant, darparwyr iechyd a gofal cymdeithasol, academia, cyllidwyr, cyrff proffesiynol, ac asiantaethau cymorth

Gweithiomewnpartneriaeth

Rydym wedi ymgysylltu â chydweithredwyr o’r ecosystem arloesi i ffurfio a chynnal partneriaethau strategol, grwpiau â diddordebau arbennig, trefniadau gweithio tymor hir, yn ogystal â chyflwyno gweithdai a chefnogi digwyddiadau traws-sector.

Mae ein cydweithrediad â Hwb Gwyddorau Bywyd Cymru wedi bod yn hanfodol i ddatblygu mentrau effeithiol fel y rhaglen Health+ a digwyddiadau

ar y cyd drwy gydol 2024–2025. Rwyf yn edrych ymlaen yn arbennig at lansio ein partneriaeth strategol newydd, sy’n nodi newid sylfaenol yn y ffordd rydym yn hybu arloesi yng ngogledd Cymru

Pryderi ap Rhisiart, Rheolwr Gyfarwyddwr, M-SParc

Rydym wedi parhau â’n partneriaeth â’r Academi

Gwyddorau Meddygol, gan gyflwyno Rhaglen TrawsSector gydweithredol o ddigwyddiadau a oedd yn cynnig llwyfan hanfodol i bartneriaid i arddangos arloesi yng Nghymru, i drafod materion allweddol, a chreu canlyniadau ystyrlon sydd o fudd i iechyd a gofal cymdeithasol. Roedd y gyfres o ddigwyddiadau’n ymdrin â themâu sy’n berthnasol yn glinigol fel canfod a gwneud diagnosis cynnar o ganser, a llesiant. Hefyd, buom yn darparu cymorth economaidd hanfodol drwy helpu i lansio a rheoli menter cyllid sbarduno newydd yn y DU a oedd yn cynnig hyd at £10,000 i brosiectau arloesol mewn gofal canser i fenywod

Mae digwyddiadau eraill rydym wedi helpu i’w trefnu a’u cefnogi’n cynnwys:

Sesiwn ddatblygu a rhwydweithio rhyngweithiol gyda holl arweinyddion clinigol GIG Cymru.

Ymweliad strategol gan Gynghorwyr o Iwerddon a Gogledd Iwerddon i gryfhau cysylltiadau ac i hybu cynnydd ar y cyd.

Sesiynau yn Fforwm Diwydiant Canser Cymru.

“Roedd cefnogaeth Hwb Gwyddorau Bywyd Cymru’n allweddol i lwyddiant ein sioe deithiol Mindset-XR yng Nghaerdydd ym mis Gorffennaf 2024, ac i’r cysylltiadau mae’r rhaglen DU gyfan hon wedi’u meithrin yn system iechyd a gofal Cymru.”

Jill Owens, UK Mindset Innovator Support, Rheolwr Rhaglen Iechyd

Meddwl, Health Innovation Network South London

HelpuigreucanolfanragoriaethynCardiffEdge

Rydym yn helpu i fanteisio at y llu o gyfleoedd datblygu economaidd a gododd yn sgil datblygiad Cardiff Edge; hybu twf economaidd lleol a swyddi yn y rhanbarth.

Rydym wedi helpu i ddod â rhanddeiliaid allweddol ynghyd ac rydym wedi darparu gwybodaeth am y sector, wedi canolbwyntio ar greu canolfan ragoriaeth ar gyfer genomeg a phatholeg Rydym wedi cefnogi prosiectau cyfochrog, gan gynnwys cydweithrediad a secondiad â Therapïau Uwch Cymru. Drwy hyn, mae Therapïau Uwch Cymru wedi lleoli staff yn Cardiff Edge, gan ddefnyddio gofod ystafell lân yng nghyfleusterau presennol Cytiva i ddechrau gweithgynhyrchu therapïau uwch

Sutrydymynintegreiddio

Rydym yn ymdrechu i fod yn rhan o’r dull ‘Un Gymru’, lle mae partneriaid o bob rhan o’r genedl yn gweithio â’i gilydd mewn ffordd ddi-dor, gan adeiladu ar gryfderau’r cydrannau unigol i greu cyfanrwydd sy’n llawer cryfach

Darparugwybodaethhanfodolamy

Mae ein tîm Gwybodaeth am y Sector yn casglu ac yn dadansoddi gwybodaeth am dueddiadau’r farchnad, anghenion cwsmeriaid ac amodau ehangach y diwydiant. Mae’r wybodaeth hon yn ffurfio strategaethau, yn nodi risgiau ac yn canfod cyfleoedd newydd i dyfu. Mae’r sefydliadau sy’n comisiynu’n cynnwys byrddau iechyd, Llywodraeth Cymru, academia, a BBaChau.

Eleni cynhyrchwyd 52 o adroddiadau gennym, a oedd yn cynnwys adroddiadau ar:

Y seilwaith gwyddorau bywyd ledled Cymru.

Mae’r canfyddiadau ar hyn o bryd yn cefnogi gwaith strategaeth gwyddorau bywyd ar draws amryw o swyddfeydd Llywodraeth Cymru a Strategaeth Ddiwydiannol Llywodraeth Cymru.

Gofal a rheoli diabetes, gan gynnwys atal, diagnosis cynnar a dyfeisiau meddygol

Arloesi mewn canser Mae arweinyddion clinigol yn defnyddio canfyddiadau cyfres o adroddiadau ar gyfer gwahanol fathau o ganser i lywio ac i gynorthwyo rhaglenni canser yng Nghymru’n uniongyrchol.

Darparumiliwnobresgripsiynaudigidol

Mewn cydweithrediad â’r Portffolio

Trawsnewid Meddyginiaethau Digidol (drwy Iechyd a Gofal Digidol Cymru) a Llywodraeth Cymru, rydym wedi parhau i reoli’r Gronfa Arloesi System Fferylliaeth yn y Gymuned gan helpu i roi system ragnodi electronig ar waith yng Nghymru. Mae’r Gronfa Arloesi System Fferylliaeth yn y Gymuned (CPSIF) wedi darparu dros filiwn o bresgripsiynau digidol, gan wneud rhagnodi’n fwy diogel, yn haws, a mwy cost effeithiol i weithwyr gofal iechyd proffesiynol a chleifion Eleni, dyfarnwyd £362,557 50 i gyflenwyr, ac mae mwy na 65 o fferyllwyr yng Nghymru wedi mabwysiadu’r gwasanaeth rhagnodi electronig.

Rydym wedi ymrwymo i barhau â’r cymorth hwn yn y flwyddyn nesaf, gan greu system fwy gwyrdd ac effeithlon lle bydd cleifion a darparwyr gofal iechyd yn elwa

Mae’r gwasanaeth digidol hwn yn gwneud bywyd yn gleifion ledled Cymru ac yn helpu ein gweithwyr gofa proffesiynol ymroddedig i weithio’n fwy effeithlon. M cyflwyno’r Gwasanaeth Rhagnodi Electronig yn llwyd dangos sut yr ydym yn defnyddio technoleg ddigidol gwasanaethau gofal iechyd i bawb yng Nghymru.

Sarah Murphy, y Gweinidog Iechyd Meddwl a Llesiant, sydd â chyfrifoldeb am arloesi mewn iechyd, technoleg, a thrawsnewid digidol

Sutrydymyncyflymu

Rydym am weld arloesi hanfodol yn cyrraedd rheng flaen iechyd a gofal cymdeithasol yn gyflymach. Rydym yn cyflawni hyn drwy ddatblygu dull cenedlaethol i gyflymu mabwysiadu – gan arwain ein partneriaid bob cam o ddatblygu i gyflwyno.

Myndi’rafaelâChanser

Mae gwella canlyniadau i bobl â chanser yn flaenoriaeth bwysig i Lywodraeth Cymru. Rydym wedi cefnogi’r fenter Mynd i’r Afael â

Chanser, sydd â’r nod i ffurfio partneriaethau ymddiriedus rhwng darparwyr iechyd a gofal, diwydiant ac academia, cyflymu cyflwyno datrysiadau sy’n seiliedig ar dystiolaeth, a brofwyd, sy’n ymyrrol i drawsnewid cyfrannau goroesi canser yng Nghymru

Mae’r gwaith wedi canolbwyntio ar ffrydiau gwaith allweddol:

Llwybr mabwysiadu arloesi: llwybr clir, dealladwy sy’n seiliedig ar dystiolaeth ar gyfer mabwysiadu arloesi mewn canser

Treialon clinigol ymchwil fasnachol: o dan arweiniad Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru, sy’n canolbwyntio ar ymdrechion i gyflymu datblygiad, a chynyddu cyfranogiad mewn treialon clinigol, ansawdd uchel

Cydweithio: cyd-ddatblygu set o egwyddorion sy’n galluogi cydweithredu gwell

Buddsoddi mewn arloesi a modelau cyllido arloesol: sefydlu opsiynau polisi a chamau ymarferol i fwrw ymlaen ag arloesi sy’n cael blaenoriaeth i’w mabwysiadu’n genedlaethol

Mae mabwysiadu arloesi a meithrin ymddiriedaeth wirioneddol rhwng y GIG a diwydiant yn hanfodol i canlyniadau canser, i ateb y galw a gwella cynhyrch sy’n her. Mae gennym lawer i ymfalchïo ynddo yng ond rhaid i’n huchelgeisiau fod yn fwy mentrus. Ma Gwyddorau Bywyd Cymru’n bartner pwysig yn y Fe

Afael â Chanser, sy’n canfod datrysiadau i heriau sy allweddol, hybu cydweithio ar draws rhwydweithiau rhanddeiliaid a galluogi mynediad cyflymach at ddatrysiadau arloesol.

Yr Athro Tom Crosby, Oncolegydd Ymgynghorol, Cyfarwyddwr Clinigol Canser Cenedlaethol Cymru

Cyflymucanfodcanser

Mae lleihau amseroedd aros a gwneud triniaethau’n fwy effeithiol yn hanfodol i wella canlyniadau canser Rydym wedi parhau i ddarparu cymorth prosiect a chyfathrebu i QuicDNA, sy’n gwerthuso’r defnydd o fiopsiau hylif mewn canser. Mae’n cynnig dull anymwthiol o wneud diagnosis, gan ddefnyddio dadansoddiad genomig i greu therapïau wedi’u targedu, a gallai hefyd gyflymu’r llwybr triniaeth.

Mae hwn yn brosiect gwirioneddol gydweithredol gyda phartneriaid o’r GIG, diwydiant, academia, a chyrff hyd braich eraill Yn awr mae treial clinigol yn cael ei gyflwyno'n genedlaethol mewn sawl Bwrdd Iechyd gyda channoedd o samplau cleifion yn cael eu dadansoddi

Mae Hwb Gwyddorau Bywyd Cymru wedi chwarae rôl bwysig i helpu i sicrhau llwyddiant QuicDNA - drwy ddarparu cymorth prosiect a chyfathrebu strategol, cofnodi lleisiau cleifion fel tystiolaeth o effaith, a chofnodi cerrig milltir allweddol drwy gyfathrebu a chyfarfodydd cenedlaethol, gan gynnwys sicrhau sylw gan BBC Cymru Mae eu cydweithrediad wedi bod yn allweddol i godi ymwybyddiaeth glinigol a’r cyhoedd, gan atgyfnerthu gwerth cydweithio ar draws gofal iechyd, diwydiant, a’r trydydd sector.

Siân Morgan, Gwyddonydd Clinigol Ymgynghorol, Cyfarwyddwr Labordy Genomeg Meddygol Cymru Gyfan

Rydym hefyd wedi cyflymu arloesi iechyd a gofal cymdeithasol ymhell y tu hwnt i arloesi mewn canser

HyrwyddoarbedioncostauacamgylcheddolyGIG

Bob blwyddyn mae’r GIG yn cynhyrchu maint sylweddol o wastraff clinigol. Gall ei brosesu fod yn gostus ac anghynaliadwy. Mae Curo Waste yn cynnig datrysiad: trawsnewid gwastraff clinigol yn floc, deunydd a geir mewn cynnyrch wedi’i ailgylchu ac y gellir hefyd ei droi’n ynni. Mae prosesu ar y safle hefyd yn arwain at ragor o arbedion ariannol ac yn lleihau’r ôl troed carbon.

Rydym wedi ffurfio partneriaeth â Churo Waste a Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a’r Fro i dreialu’r dechnoleg hon yn Ysbyty Prifysgol Llandochau. Drwy gydlynu’r prosiect a dod â rhanddeiliaid ynghyd, rydym wedi dangos sut y gall cydweithrediad rhwng diwydiant a gofal iechyd arwain at arbedion gweithredol, economaidd ac amgylcheddol i’r GIG yng Nghymru.

UwchsgiliostaffgofalcymdeithasolgydaRea

Gall dysffagia’r oroffaryngeol, anhawster llyncu, ein poblogaeth sy’n heneiddio Mae rheoli’r cyflw cymdeithasol yn her oherwydd oedi cyn cael ase

Mae Hwb Gwyddorau Bywyd Cymru, mewn cydweithrediad â Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm

Taf Morgannwg, Cyngor Pen-y-bont ar Ogwr a Chymunedau Digidol Cymru, yn mynd i’r afael â’r heriau hyn drwy hyfforddiant efelychiad rhithwir gan ddefnyddio technoleg Gogglemind. Mae’r hyfforddiant hwn yn helpu staff mewn cartrefi preswyl i ganfod arwyddion dysffagia’n gyflym, i atal achosion, ac ymateb i argyfyngau fel tagu.

Nod y prosiect, sydd ar hyn o bryd yn cael ei werthuso, yw gwella sut mae dysffagia’n cael ei reoli, lleihau camfaethiad a’r niferoedd sy’n cael eu derbyn i ysbytai, a gwella ansawdd bywyd preswylwyr a grymuso staff yr un pryd

Roedd Hwb Gwyddorau Bywyd Cymru’n allwed diwydiant a oedd yn barod i weithio â’r risg, o gofio bod ein cyllid yn brin ar y dechrau. Roeddent hefyd yn cynnig rheolaeth uwch i’r prosiect, gan helpu drwy brosesau caffael a llywodraethu gwybodaeth cymhleth. Roedd eu cefnogaeth yn cynnwys ein cyflwyno i Gymunedau Digidol Cymru, a oedd yn helpu i sicrhau rhaglen hyfforddi drylwyr a chynaliadwy.

Roedd y rheolwr prosiect yn allweddol i gadw’r prosiect ar y trywydd cywir yng nghanol gofynion clinigol, hwyluso cyfathrebu esmwyth â phartneriaid mewn diwydiant, a gwella gwelededd y prosiect. Cafwyd hwb i broffil y prosiect yn sgil sylw yn y cyfryngau lleol a chenedlaethol ac ar blatfformau digidol a sicrhawyd gan y rheolwr cyfathrebu, a thrwy godi ymwybyddiaeth a hyder mewn defnyddio realiti rhithwir mewn hyfforddiant.

Sheiladen Aquino, Arweinydd Prosiect, Arweinydd Clinigol Therapydd Lleferydd ac Iaith, Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg

Gwellaansawddbywydgydarheolimeddyginiaethaudigidol

Mae mwy a mwy o bobl yn rheoli sawl meddyginiaeth ar yr un pryd, ac mae cymryd y rhain i gyd yn y ffordd ac ar yr adeg gywir yn gallu bod yn anodd i rai.

Mae offer rheoli meddyginiaethau digidol yn ddatrysiad posibl, ac mae ein gwaith yn y gorffennol wedi dangos sut y gall offer rheoli meddyginiaethau digidol YOURMeds helpu pobl i gael y feddyginiaeth gywir ar yr adeg iawn. Roedd hyn yn eu gwneud yn fwy annibynnol, yn lleihau niwed a gwastraff, ac yn rhoi tawelwch meddwl i anwyliaid.

Eleni rydym wedi bod drwy ail gam y prosiect, lle datblygwyd y gwasanaeth ymhellach gan adeiladu ar y gwersi a ddysgwyd a llwyddiant y bartneriaeth â Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg, Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr, SBRI ac Ysgol Reolaeth Prifysgol Abertawe.

Rydym wedi rheoli’r prosiect, darparu cyllid, a chymorth gwybodaeth am y sector, gyda’r cam hwn yn cynyddu cwmpas y prosiect gan gynnwys y gallu i’w ehangu er mwyn ei fabwysiadu’n ehangach. Mae’r gwaith gwerthuso’n cael ei wneud ar hyn o bryd.

Fi oedd y person cyntaf i roi cynnig ar YOURmeds. Mae gen i ffibromyalgia, roeddwn yn ddryslyd, ac nid oeddwn yn cymryd fy holl feddyginiaethau, gan fod angen imi gymryd cymaint ohonyn nhw Roedd y tîm ym Mhen-y-bont yn dda iawn â mi. Mi ges i bob cymorth, ac rwyf yn berson gwahanol erbyn hyn. Rwyf yn ôl fel yr oeddwn o’r blaen, ac yn llawer gwell!

Anita Jones, defnyddiwr YOURmeds

Sutyrydymyneiriol

Sicrhawyd dros £5 miliwn mewn cyllid ar gyfer prosiectau iechyd a gofal cymdeithasol

Mae ein tîm cymorth cyllido’n helpu arloeswyr drwy’r broses gymhleth o wneud ceisiadau am gyllid ar gyfer prosiectau iechyd a gofal cymdeithasol. Eleni, rydym wedi helpu â 22 o wahanol geisiadau am gyllid, gyda’n hymdrechion yn helpu i sicrhau

£5,026,269 o gyllid.

Buom yn helpu’r Rhwydwaith Gweithredu Clefydau Prin i sicrhau cyllid gan raglen

Grantiau Bach Rhwydwaith Arloesi Cymru. Bydd hyn yn galluogi ymchwilwyr o Gymru i ddod at ei gilydd, i chwilio am gyfleoedd cyllido a rhannu gwybodaeth Rydym yn gobeithio adeiladu ar y gwaith hwn gyda rhagor o geisiadau am grantiau'r flwyddyn nesaf.

Rwyf yn ddiolchgar dros ben am yr help a gafwyd gan HGBC i baratoi’r cais am grant bach Rhwydwaith Arloesi Cymru Roedd eu cyfraniad yn amserol, yn fuddiol ac mi wnaeth wahaniaeth gwirioneddol i ansawdd y cais. Rwyf wrth fy modd ein bod wedi

llwyddo i sicrhau’r arian ac rydym yn edrych ymlaen at adeiladu ar waith y Rhwydwaith Ymchwil Clefydau Prin yn sgil cydweithrediad a chymorth gan HGBC.

Yr Athro Kerry Hood, Deon Ymchwil ac Arloesi, Coleg y Gwyddorau Biofeddygol a Bywyd, Prifysgol Caerdydd

Buom yn cefnogi DDM Health gyda chais llwyddiannus am £1.6 miliwn i raglen i4i NIHR. Bydd yr arian hwn yn cael ei ddefnyddio mewn astudiaeth bywyd go iawn i reoli pwysau i helpu pobl sy’n byw â gordewdra. Maent yn edrych ar fentrau fel offer digidol, cymorth â ffordd o fyw a meddyginiaethau colli pwysau gan asesu eu gwerth i’r claf ac i’r GIG.

Chwifio’rfanerdrosGymrudrwygyfathrebuamarchnata

Rydym wedi parhau i sicrhau bod ein gwefan yn rhywle lle gall pobl fynd i gael gwybodaeth am arloesi yng Nghymru Yn ogystal â’n Cyfeiriadur Arloesedd rydym

Diweddariadarweithrediadauacadnoddau

Roedd cyfanswm ein costau eleni yn £4.303 miliwn, sy’n gynnydd o 12.4% o’i gymharu â’r flwyddyn flaenorol, yn bennaf o ganlyniad i £384k ar gyfer gweithgarwch y Comisiwn AI a chyllid grant o £363k gan CIPSF. Rydym yn ddiolchgar i Lywodraeth Cymru (Economi ac Iechyd) am barhau i’n cefnogi, ac a gyfrannodd grant craidd o £3 508 miliwn

Sicrhawyd cyllid ychwanegol drwy ystod o ffrydiau gan gynnwys cyllid grant ymlaen

CPSIF, yr Academi Gwyddorau Meddygol a’r Comisiwn AI. Roedd ein costau cyflogau yn 69% o’n gwariant grant craidd ac roedd costau swyddfa yn 13% Yn gyffredinol, llwyddwyd i gyflawni adenillon ar ffuddsoddiad o £9 am bob £1 o wariant.

WelshGovernmentCoreGrant

CPSIFonwardgranting AICommission

AcademyofMedicalSciences

OceProjectCostsRecovered

Incwm

DeskRentalIncome OtherIncome

£3.8m

WelshGovernmentCoreGrant

CPSIFonwardgranting AICommission

Gwirioneddol

WelshGovernmentCoreGrant

GrantCraiddLlywodraethCymru

GrantymlaenCPSIF YComisiwnAI

YrAcademiGwyddorauMeddygol

CostauProsiectSwyddfaaadenillwyd

IncwmRhentuDesgiau IncwmArall

GrantCraiddLlywodraethCymru

GrantymlaenCPSIF YComisiwnAI

YrAcademiGwyddorauMeddygol IncwmArall

GrantCraiddLlywodraethCymru

GrantymlaenCPSIF

Rhagamcaniad

Rydym yn falch o’n tîm amlddisgyblaeth o 38 o arbenigwyr cyfwerth ag amser llawn, sy’n gweithio â’n partneriaid o bob rhan o’r ecosystem arloesi. Rydym wedi parhau i adeiladu a chryfhau ein tîm i helpu i sicrhau ein bod yn cyflawni newid. Eleni, rydym wedi ymgorffori ffyrdd newydd o weithio o fewn ein hamgylchedd swyddfa sydd wedi’i adnewyddu ac rydym wedi parhau i integreiddio ein gwerthoedd.

Sta ICT&Oce

Ocerefurbishment

Marketing,EventsandTravel

Finance&Compliance

OtherCosts

OnwardGranting

Depreciationandleaseinterest Costau

2023/24

Ffigurau

Gwirioneddol

YnGysylltiedigâChyflogau

TGChaChostauRhedegSwyddfa

CostauAdnewyddu’rSwyddfa

Marchnata,DigwyddiadauaTheithio CyllidaChydymurfiaeth

GrantiauYmlaen Costaueraill

Dibrisiantallogarybrydles

Sta ICT&Oce

Marketing,EventsandTravel

Finance&Compliance OnwardGranting

OtherCosts

Depreciationandleaseinterest

Ffigurau

Gwirioneddol

2024/25 £3.8m £43m

Payrelated ICT&Oce

Marketing,EventsandTravel

Finance&Compliance OnwardGranting

Depreciationandleaseinterest

2025/26

2023/24

Actuals

YnGysylltiedigâChyflogau

TGChaChostauRhedegSwyddfa

Marchnata,DigwyddiadauaTheithio CyllidaChydymurfiaeth

GrantiauYmlaen Costaueraill

Dibrisiantallogarybrydles

2024/25

Actuals

YnGysylltiedigâChyflogau

TGChaChostauRhedegSwyddfa

Marchnata,DigwyddiadauaTheithio

CyllidaChydymurfiaeth

GrantiauYmlaen

Dibrisiantallogarybrydles

2024/25 Actuals

Edrychi’rdyfodol

EinPrifSwyddogGweithredolCari-AnneQuinn,yn ôlareincyflawniadauhydymaacymlaenatddyfo GwyddorauBywydCymru

Rwyf yn ymfalchïo yn yr effaith mae gweithio ag ystod bartneriaid a rhanddeiliaid wedi’i gael, yr heriau rydy helpu ein partneriaid i’w goresgyn, a’r holl gyfleoedd e ar gael i arloesi mewn iechyd a gofal cymdeithasol yn

Byddwn yn parhau i hybu gwerth mewn iechyd a gofa cymdeithasol, gan roi blaenoriaeth i leisiau clinigwyr, defnyddwyr gwasanaeth.

Mae canser yn flaenoriaeth o hyd, gan adlewyrchu agenda polisi Llywodraeth Cymru. Fel prif achos marwolaethau yng Ngh rydym yn cefnogi datblygiadau arloesol i wella ataliaeth a thriniaeth, boed drwy gefnogi prosiectau, ceisiadau am gy neu adroddiadau sy’n gwella dealltwriaeth. Mae ein gwait parhau â’r fenter Mynd i’r Afael â Chanser mewn partneria Llywodraeth Cymru yn hanfodol i hyn.

Rydym wedi ymrwymo i ymgorffori datblygu economaidd y mhopeth rydym yn ei wneud, i hwyluso llywodraethu, anno buddsoddiad, cynnig cymorth i BBaCh, a gwneud y GIG a g cymdeithasol yn sefydliadau sy’n hybu arloesi Mae hyn yn cynnwys ein rôl fel partner Cymru yng ngwasanaeth arloesi r DU a darparu porth Cymreig

Rydym wedi’n cyffroi gan y Rhaglen Potensial Economaidd arfaethedig, menter gydweithredol gan Lywodraeth Cymru Byddwn yn gweithio â rhanddeiliaid allweddol i ddatblygu fframwaith cymorth ar gyfer busnesau gwyddorau bywyd â uchel posibl.

Rydym yn edrych ymlaen hefyd at Uwchgynhadledd Buddsoddiad 2025 Llywodraeth Cymru, ac yn barod i gynorthwyo’r holl randdeiliaid a fydd yn rhan ohoni.

Wrthedrychymlaen,mae’rposibiliadau’neincyffroi

Rydym yn gweithio ag arloeswyr sy’n flaenllaw yn eu meysydd, gan dystio sut mae datblygiadau’n ailddiffinio sut mae gofal yn cael ei ddarparu. Byddwn yn parhau i eiriol dros Gymru fel lleoliad delfrydol i wneud cynnydd, i wella iechyd a llesiant gan annog arbedion yn y system a chreu buddiannau ariannol i ddiwydiant ac economïau lleol

Turn static files into dynamic content formats.

Create a flipbook
Issuu converts static files into: digital portfolios, online yearbooks, online catalogs, digital photo albums and more. Sign up and create your flipbook.
CYM Adroddiad Blynyddol 2024-25 by lshubwales - Issuu