TALSARNAU, YNYS A LLANDECWYN Gwasanaeth Nadolig Bryntecwyn Daeth nifer dda ynghyd i Wasanaeth Nadolig Capel Bryntecwyn pnawn Sul, 11 Rhagfyr , dan ofal y Parch Anita Ephraim a arweiniodd y rhan dechreuol. Yna cafwyd cyfraniad arbennig o dda gan y plant, dan ofal Carys Evans, yn cyflwyno darlleniadau yn sôn am ddathlu’r Nadolig mewn gwahanol wledydd. Y rhai a gymrodd ran oedd Ellie, Osian, Jack, Sioned, Cari Ellen, Erin, Dylan ac Anna. Cyd-ganwyd ‘I orwedd mewn preseb’ i orffen eu rhan hwy. I ddilyn, rhoddwyd anerchiad cofiadwy iawn gan y Gweinidog, gan ddefnyddio gwifren gyda phedwar bwlb bach arni, wedi’i goleuo mewn gwahanol liwiau, ac eglurodd beth oedd pob lliw yn ei olygu. Ymatebodd y plant yn rhagorol i’w chyflwyniad. Diolchodd Mai Jones i bawb a gymrodd ran, gan ddiolch i’r plant am eu cyfraniad arbennig hwy i’r gwasanaeth. Wedi i’r Parch Anita Ephraim ddiweddu’r oedfa a phawb gyd-ganu’r garol olaf, cafodd y plant de parti bach cyn mynd adref. Yn yr ysbyty Anfonwn ein cofion a’n dymuniadau gorau am wellhad buan at Bili Thomas, 1, Cilfor a Betty May Evans, Maes Mihangel, Ynys a Joyce Atterbury, 5, Cilfor y tri yn Ysbyty Gwynedd ar hyn o bryd.
Merched y Wawr Ar ddydd Iau, 8 Rhagfyr aeth holl aelodau Cangen Talsarnau i’r ‘Fic’ yn Llanbedr am ginio Nadolig, gyda rhai o’r gwŷr yn ymuno hefyd. Mwynhawyd pryd o fwyd da iawn mewn awyrgylch gynnes braf. Cafwyd nifer fawr o wobrau raffl a phawb bron yn ennill gwobr! Diolchodd Siriol i bawb am ddod i’r cinio, i Mai am wneud y trefniadau ac i Gwenda am ofalu am yr ochr ariannol. Dymunodd Nadolig Llawen i bawb ac atgoffwyd yr aelodau y bydd ein cyfarfod nesaf yn Neuadd Talsarnau ar nos Lun, 9 Ionawr yng nghwmni Naomi Jones o Barc Cenedlaethol Eryri.
Neuadd Talsarnau
GYRFA CHWIST Nos Iau Ionawr 12 am 7.30 o’r gloch Croeso cynnes i bawb Capel Newydd IONAWR
8 - Dewi Tudur am 6:00 11 - Oedfa Bregethu Dechrau Blwyddyn, Dewi Tudur am 7:30. 15 - Dewi Tudur am 6:00 22 - Irfon Parry am 6:00 29 - Dewi Tudur am 6:00
Rydym hefyd yn parhau i gofio am Bryn Williams, Tŷ Gwilym, sydd yn gwella yn araf yn Ysbyty Stoke ond sydd â ffordd fawr i fynd cyn gwella’n llwyr.
Cyngerdd Nadolig Ysgol Talsarnau
Unwaith eto, cafwyd cyngerdd Nadolig o safon uchel iawn gan blant yr ysgol gynradd. Sgwennwyd sioe y plant hŷn, oedd wedi ei seilio ar Ŵyl Rhif 6 ym Mhortmeirion, gan y pennaeth, Mr Rhys Glyn, ac ef a gyfansoddodd nifer o’r caneuon. Os na fuoch chi yno - mi gawsoch golled fawr. Roedd y plant i gyd wedi dysgu eu gwaith yn rhagorol. Yn y llun uchod, fe welir y ddau ddisgybl oedd â’r prif rannau sef Erin Michelmore ac Osian Lockett. Cafwyd eitemau ar y piano gan y disgyblion yn ystod yr egwyl. Roedd gogwydd newydd ar Stori’r Geni gan y babanod a oedd yn seiliedig ar rywun o’r gofod yn dod i’r ddaear i ddysgu am y Nadolig cyntaf. Roedd y plantos yma hefyd yn gwneud eu gwaith yn rhagorol. Diolch i bawb sy’n gysylltiedig â’r ysgol am wneud cymaint er lles y disgyblion.
PRIODAS
Llongyfarchiadau i Dafydd Williams (mab Benjie – Geraint – a Margaret Williams o Dalsarnau) a Maddy Matthews (merch Andy ac Amanda Matthews o’r Dyffryn) ar eu priodas ar ddydd Sul 18 Rhagfyr 2016 yng Ngwesty’r Grosvenor Pulford Spa ger Wrecsam. Celyn, eu merch fach, oedd y cludwr blodau a’u morwyn briodas oedd Tash, chwaer y briodferch. Cynorthwywr y priodfab oedd Chris a oedd yn y Brifysgol yr un pryd â Dafydd. Y tywyswyr oedd Euan, brawd y briodferch, a Dougie, Tasha a Billy a oedd hefyd yn y Brifysgol yr un pryd â’r cwpl. Yn dilyn y briodas, cafwyd y brecwast priodas a’r dathliadau gyda’r nos yn yr un lleoliad. Treuliodd y cwpl a’u merch fach wyliau Nadolig ym Minehead, Gwlad yr Haf, cyn dychwelyd adref. Mae’r ddau’n byw ac yn gweithio yn ardal Wrecsam. Diolch Dymuna Gwynfor a Beryl Williams, Angorfa ddiolch o galon am yr holl gardiau, anrhegion, galwadau ffôn ac ymweliadau wrth i Gwynfor ddathlu ei ben-blwydd yn 80 oed a’r ddau yn dathlu penblwydd Priodas Aur yn agos i’r un dyddiad. Mae Gwynfor wedi bod yn yr ysbyty dros yr holl ddathlu a hoffai ddiolch am y gofal arbennig a gafodd yn Ysbyty Gwynedd ac wedyn yn Ysbyty Bryn Beryl pan gafodd gyd-ddathlu hefo’r teulu. Mae Gwynfor adref erbyn hyn ac fe gafodd ddathlu’r Nadolig hefo’i deulu. Dymunwn iddynt Flwyddyn Newydd Dda. Rhodd a diolch £5.
R J Williams a’i Feibion Garej Talsarnau Ffôn 01766 770286
Ffacs 01766 771250
Honda Civic Tourer Newydd
A 9