Golwg Mehefin 19, 2014

Page 1

cariad@iaith

GOLWG CYF 100%MAG -0.40BWR

GOLWG CYF 100%MAG -0.40BWR

GOLWG CYF 100%MAG -0.40BWR

GOLWG CYF 100%MAG -0.40BWR

Behnaz

Akhgar

GOLWG CYF 100%MAG -0.40BWR

GOLWG CYF 100%MAG -0.40BWR

GOLWG CYF 100%MAG -0.40BWR

GOLWG CYF 100%MAG -0.40BWR

Cyfrol 26 . Rhif 40 . Mehefin 19 . 2014

£1.75

yn hedfan Deffroad cnawdol yn y De

Capsiwl gwydr ar ben siambr gladdu

Holi Hollander – seren Rev yng Nghymru


gowaleskickadvertorial[FPW]15.6.14_Layout 1 16/06/2014 15:25 Page 1

RHOI HWB I’CH GYRFA RADDEDIG GYDA GO WALES Mae’r cynllun Twf Swyddi Cymru i raddedigion yn cynnig swyddi lefel graddedig o ansawdd â thâl, sy’n para isafswm o 6 mis. Mae cyfleoedd ar gael i raddedigion 24 oed ac iau, gyda 96% o’r lleoliadau’n arwain at rôl barhaol gyda’r cwmni. dod o hyd i’r cyfaddawd cywir, roedd yn teimlo fel cyflawniad mawr iawn gweld y ffurflen gais yn cael ei chymeradwyo, ac mae nawr yn cael ei defnyddio gan bawb sy’n ymgeisio i’r Brifysgol.”

Gallai fod gan GO Wales y swydd ddelfrydol i chi, fel y darganfu Joseph Beau Hopkins, myfyriwr graddedig 24 oed o Brifysgol Abertawe; “Roeddwn i’n gweithio 12 awr yr wythnos ac, ar ôl cwblhau cwrs MSc mewn Rheoli ac Adnoddau Dynol, roeddwn i eisiau cael profiad yn y sector Adnoddau Dynol”.

Mae Beau wedi cael contract tymor penodol gyda’r Brifysgol ac mae’n parhau i ddysgu a datblygu yn ei rôl. Dywedodd Beau;

Fe wnaeth Beau gais am swydd Twf Swyddi Cymru trwy wefan GO Wales a chafodd ei benodi’n llwyddiannus i rôl Cynorthwyydd Gweinyddol Adnoddau Dynol ym Mhrifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant; dechreuodd ym mis Medi 2013. “Mae’r profiad wedi ail-gadarnhau beth roeddwn i eisiau ei wneud ac wedi fy helpu i gael fy swydd broffesiynol gyntaf yn y sector Adnoddau Dynol. Rwyf wedi dysgu llawer iawn yn ystod fy chwe mis gyda Phrifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant. Un o’r uchafbwyntiau oedd cydlynu ymgorffori ffurflen gais am swydd. Roedd yn broses hir gyda llawer o ymgynghoriaeth, ond ar ôl cael adborth gan bawb a

“Byddwn i 100% yn argymell cynllun Twf Swyddi Cymru i raddedigion. Mae’n gyfle gwych i chi weithio gyda sefydliad i ennill profiad hanfodol. Pan rydych chi newydd orffen eich astudiaethau ac nid oes gennych chi lawer o brofiad, dyma’r peth gorau erioed i’w wneud. Mae gwefan GO Wales yn dda gan ei bod hi’n cynnig lleoliadau a swyddi â thâl, ac mae hon yn wefan hanfodol i fyfyrwyr a graddedigion Cymru erbyn hyn.”

‘‘’’

Byddwn i 100% yn argymell cynllun Twf Swyddi Cymru i raddedigion. Mae’n gyfle gwych i chi weithio gyda sefydliad i ennill profiad hanfodol. Joseph Beau Hopkins

Os ydych yn fyfyriwr graddedig sy’n chwilio am brofiad gwaith â thâl gwerthfawr, ewch i www.gowales.co.uk i gofrestru a gwneud cais am swyddi.

RHOWCH HWB I DDECHRAU EICH GYRFA GYDA GRADDEDIGION TWF SWYDDI CYMRU!

KICK START YOUR CAREER WITH JOBS GROWTH WALES GRADUATES!

+ Gwaith cyflogedig am 6 mis

+ 6 months paid work

+ Caiff swyddi gwag newydd eu hychwanegu bob dydd

+ New vacancies added daily

+ Cyfle i chi ddatblygu eich gwybodaeth a’ch sgiliau + Mae 96% o raddedigion mewn gwaith ar ôl Twf Swyddi Cymru

+ The chance to develop your knowledge and skills + 96% of graduates are employed after Jobs Growth Wales

Ewch i weld y manylion a gwneud cais ar / View and apply online at

www.gowales.co.uk/vacancies Twf Swyddi Cymru Jobs Growth Wales

www.gowales.co.uk

Tanysgrifiwch i gylchgrawn wythnosol

golwg

am £85 y flwyddyn a bydd eich enw yn mynd i’r het am gyfle i ennill y print hardd hwn wedi’i fframio

Cofiwch mae pawb sy’n prynu Soar y Mynydd – Wy n n e M e lvill e Jo n e s

Am fwy o wybod aeth am y cynnig hw n, cysylltwch â

marchnata@g

olwg.com

01570 423529

tanysgrifiad blwyddyn i’r cylchgrawn yn cael blwyddyn o ap Golwg am ddim hefyd!


cynnwys mehefin 19 . 2014

6

AR Y CLAWR

13 Holi Hollander – seren Rev yng Nghymru 16 cariad@iaith Behnaz Akhgar 19 Deffroad cnawdol yn y De 20 Capsiwl gwydr ar ben siambr gladdu 24 Plu yn hedfan

STRAEON ERAILL

G

osod her oedd bwriad y Prif Weinidog wrth gyhoeddi ‘rhagor o gig’ ar ei gynlluniau ar gyfer dyfodol y Gymraeg. Fe fu hir ddisgwyl iddo ddatgelu sut y mae am sicrhau bod yr iaith yn cryfhau yn y dyfodol, sut i’w gwarchod yn ei chadarnleoedd a sut i annog mwy o bobol i’w defnyddio yn eu bywyd bob dydd. Does neb yn dweud ei bod yn dasg hawdd, ond roedd y llywodraeth wedi cael digon o gyfle i gasglu tystiolaeth gyda sawl adroddiad cynhwysfawr ar fywyd y Gymraeg yn dod i’r golwg ers cyhoeddi canlyniadau Cyfrifiad 2011. Roedd yr ymchwil hwnnw yn dod i gasgliadau penodol ym maes addysg, y cymunedau Cymraeg, y Mentrau Iaith ac yn cynnig argymhellion ar sut i weithredu ymhellach. Wrth gyhoeddi ei fwriad, mae’r gweinidog sydd â chyfrifoldeb am y Gymraeg yn cydnabod na fydd hi’n hawdd ond ei bod yn gyfnod tyngedfennol i’r Gymraeg. Mae sôn am £1.6 miliwn yn fwy o arian, £1.2 miliwn at gyrff sy’n hybu’r defnydd o’r Gymraeg yn y gymuned gan gynnwys £750,000 i’r Mentrau Iaith. Ac er bod y nod i’w groesawu - creu cronfa i hybu’r iaith yn y cadarnleoedd, datblygu gwaith ein partneriaid i hybu’r Gymraeg, cefnogi arferion iaith pobol ifanc a rhoi mwy o hyder i ddefnyddio’r

Gymraeg yn gymdeithasol - prin yw’r manylion am sut mae’r gwaith yma’n mynd i gael ei wneud na gan bwy? Ym myd addysg mae sôn am newid y drefn o ddysgu Cymraeg mewn ysgolion Saesneg heb gydnabod y bydd yn dalcen caled darbwyllo disgyblion o’i gwerth a chael digon o athrawon i wneud y gwaith. Ar ôl trafodaeth hir a phroses ymgynghorol gan yr awdurdodau lleol ar eu Cynlluniau Datblygu Lleol, mae canllaw newydd TAN 20 wedi’i gyhoeddi i sicrhau bod y Gymraeg yn cael ei hystyried wrth greu’r Cynlluniau hynny. Ond fe fydd hi’n flynyddoedd lawer cyn i’r rhain ddod gerbron yr awdurdodau eto. Ac mae gan Carwyn Jones ‘ddisgwyliadau’ hefyd ar i sefydliadau ac arweinwyr gymryd mwy o gyfrifoldeb dros y Gymraeg. Er bod y datganiad yn gadarnhaol o ran agwedd y Prif Weinidog tuag at yr iaith, mae’n brin o’r manylion fydd yn gosod yn glir pwy sydd i fod i weithredu ar yr argymhellion a sut i gyrraedd y nod. Ar ôl blynyddoedd o brofiad ym maes cynllunio iaith o dan hen Fwrdd yr Iaith mae teimlad o ddechrau yn y dechrau ond heb y corff profiadol i lywio a chadw golwg ar y gwaith. A thra bod y cynllunio yn digwydd at y dyfodol, mae bywyd yn mynd yn ei flaen a thynged yr iaith yn dal yn nwylo pob un sy’n ei siarad.

13

4 Bwrw Mlaen – cynllun Carwyn dros y Gymraeg 10 Adennill parch yng Nghymru a gweddill y byd 11 Cynnau’r fflam ym Mametz 14 60 mlynedd o gydweithio unigryw 18 Caneuon gofid a gobaith 21 Belgiaid dawnus Sir Drefaldwyn 25 Electro-gwerin gwefreiddiol

BOB WYTHNOS 8

Yr Wythnos

– pigion newyddion golwg360 Bwrlwm y Bae Llun newyddion yr Wythnos 9 Byd y blogiau

16

10

Cartŵn Cen Williams

20

11

Llythyrau

12

Portread

– Melanie Ziegler

16

20-1 – Behnaz Akhgar

17

Tu ôl i’r llenni

22 Y

Calendr

24 Y

Babell Roc

19

– Plu

Pobol a diwylliant – Catrin Morris De Junyent

Colofnau

24

8 Dylan Iorwerth 22 Manon Steffan Ros 23 Ar y bocs – Dylan Wyn Williams Jac Codi Baw 26 Phil Stead 27 Leighton Andrews 17 Gwaith

Chwaraeon Blwch Post 4 Llanbedr Pont Steffan Ceredigion SA48 7LX Ffôn 01570 423 529 Ffacs 01570 423 538 e-bost ymholiadau@golwg.com safwe www.golwg360.com Golygydd Gyfarwyddwr Dylan Iorwerth Cyfarwyddwr Busnes Enid Jones Rheolwraig Hysbysebion Helen Sweeney

Cysylltiadau Golygydd Siân Sutton Dirprwy Olygydd Barry Thomas Gohebydd Celfyddydau Non Tudur Gohebydd y Cynulliad Gareth Pennant Gohebydd Cyffredinol Siân Williams Newyddiadurwraig Gwasanaethau Golwg Llinos Dafydd

26 Rhwyfo i Tokyo? Brasil yn ‘haeddu ennill’

Dylunio Dyfan Williams Swyddog Marchnata Lowri Steffan Swyddog Cyllid Rhiannon Lloyd Williams Swyddog Gweinyddol Wendy Griffiths Swyddog Tanysgrifiadau Mair Jones

Cyhoeddir Golwg gan Golwg Cyf gyda chymorth ariannol gan Gyngor Llyfrau Cymru. Nid yw ein noddwyr o angenrheidrwydd yn cytuno gyda’r farn yn y cylchgrawn. Cofrestrwyd yn y Swyddfa Bost fel papur newydd. Argraffwyd gan Argraffwyr Cambrian.

Llun Clawr: Behnaz Akhgar


Issuu converts static files into: digital portfolios, online yearbooks, online catalogs, digital photo albums and more. Sign up and create your flipbook.