GEID I'R GWYLIAU 2018

Page 1

GEID I’R GWYLIAU 2018 Eich canllaw hanfodol ar gyfer gwyliau Cymreig yr haf Er nad ydy’r tywydd yn awgrymu hynny’n ddiweddar, mae’r haf wedi dod. Ac un peth sy’n siŵr o ddod â digon o heulwen i’n bywydau ydy’r cyfoeth o wyliau gwych sy’n llenwi’r calendr yma yng Nghymru. Mae amrywiaeth eang o wyliau Cymreig erbyn hyn, gyda mwy o ddewis nag erioed o’r blaen gyda rhywbeth i bawb ym mhob cwr o’r wlad. Mae’n ffodus felly bod Golwg yn cynnig canllaw Geid i’r Gwyliau i roi help llaw i chi gynllunio eich dyddiaduron.

Dathlu’r pen-blwyddi yn Sesiwn Fawr Dolgellau Bydd tipyn o barti ar strydoedd Dolgellau dros benwythnos 20-22 Gorffennaf. Nid yn unig bod yr ŵyl ardderchog Sesiwn Fawr yn ôl eto ar ôl dathlu y chwarter canrif llynedd, ond bydd cyfle hefyd i ddathlu pen–blwydd arwyddocaol rhai o fandiau pwysicaf yr iaith Gymraeg. Un o’r grwpiau sy’n cael eu cysylltu’n agos â’r Sesiwn Fawr ydy Anweledig – bu rhai o berfformiadau mwyaf cofiadwy’r grŵp ar lwyfannau Dolgellau. Ac mae’r hogia’ o Flaena’ yn atgyfodi eleni er mwyn dathlu 25 mlynedd ers ffurfio, gyda slot arbennig yn y Sesiwn. Grŵp arall sy’n dathlu pen-blwydd yn y Sesiwn ydy Ail Symudiad – heb os un o grwpiau pwysicaf Cymru dros y degawdau, ac mae cyfle i ddathlu’r deugain gyda nhw ar lwyfan y Sesiwn ar y nos Wener. Gallwn ddisgwyl môr o liw ar Sgwâr Dolgellau ar y dydd Sadwrn wrth i’r ŵyl groesawu grwpiau dawns hynod gan gynnwys Ortzadar Taldea o Wlad y Basg a Dawnswyr Bro Cefni o Ynys Môn. Hefyd yn ymddangos ar y Sgwâr bydd y grŵp gwerin poblogaidd Nantgarw ynghyd â Casset, Arian Mân a’r Cledrau. Ac yn ôl yr arfer bydd amrywiol lwyfannau acwstig, sesiynau llên a chomedi yn ogystal â gweithgareddau i blant hefyd yn cael eu cynnal o amgylch y dref. Ymysg y bandiau yn perfformio nos Sadwrn mae La Inedita o Peru ac un o enillwyr y BBC Radio 2 Folk Awards, Sam Kelly and The Lost Boys. Ac mae’r gerddoriaeth yn parhau ar y dydd Sul gyda Gwyneth Glyn, Siddi, Band Arall Himyrs, Ye Vagabonds o Iwerddon, DnA a Geraint Lovgreen a’r Enw Da yn diddanu’r dorf. Lein-yp anferth ar gyfer Sesiwn Fawr, ac mae’r tocynnau penwythnos bellach ar www.sesiwnfawr.cymru

IM AM DD CAERFYRDDIN

Gŵyl newydd yr hen dref • YO G A • C E L F A CH R E FFT • LLENYDDI AET H • • C LO CS FFI T • G W E IT HDY G YDAG ANNI LLŶN • • BWYD A D IOD • G W E IT H DY IW CA LILI • ST O NDIN AU • • SIO E A CHR E FFTA U GY D A G E N FY S AC EIRL YS • CHW AR AEO N • • D IS G O DIS TAW • SE S IW N ST OR I A CHÂN • • GWEI TH DY D R AMA G Y D A TH E ATR G ENEDLAET HO L CYMRU • • PE R FFO R MIADA U GAN YSG O LIO N LLEO L • • A L LA W E R MW Y •

PARC MYRDDIN, WAUN DEW J UL Y

GORFFENNAF

14

2018 Gŵyl Canol Dre

2018 Amser

11yb - 8yh

@Gwylcanoldre

Caerfyrddin ydy un o drefi hyna’, a mwyaf Cymreig y wlad, ond eto does dim gŵyl flynyddol Gymraeg wedi’i sefydlu yn yr hen dref...nes eleni. Gŵyl Canol Dre ydy’r ŵyl gelfyddydol newydd sy’n cael ei chynnal ar Barc Myrddin, gyda’r bwriad o hyrwyddo’r Gymraeg ymysg teuluoedd y sir. Menter Gorllewin Sir Gâr sy’n

trefnu ar y cyd ag ysgolion yr ardal fel rhan o’u cynlluniau Siarter Iaith, a bydd llu o weithgarwch amrywiol ar 14 Gorffennaf. Ymhlith arlwy yr ŵyl newydd mae celf, llenyddiaeth, gweithdai, chwaraeon, stondinau amrywiol a llawer iawn mwy. Bydd cerddoriaeth yn chwarae rhan amlwg yn yr ŵyl hefyd,

gyda dau lwyfan perfformio. Bydd cyfle i dalentau yr ysgolion lleol berfformio ar y naill lwyfan, gyda nifer o fandiau a cherddorion amlycaf Cymru i’w gweld ar y llall. Rhai o’r enwau sy’n perfformio ydy’r Welsh Whisperer, Gwilym Bowen Rhys, Y Gwdihŵs, Band Pres Llareggub a’r anfarwol Huw Chiswell yn cloi’r ŵyl.


GEID I’R GWYLIAU 2018

H YS TO R I

Ffiliffest – lleoliad eiconig ac ymestyn i’r nos

Mae tocynnau’r gig nos ar werth nawr am ddim ond £5 ar wefan http://tocyn.cymru

FFILIFFEST

hynafol y castell. Y datblygiad mawr arall eleni ydy bod Gig Nos Ffiliffest yn cael ei ychwanegu at yr arlwy gerddorol, sy’n cael ei drefnu mewn partneriaeth â’r Selar. Felly bydd yr ŵyl, sy’n gorffen ddiwedd y prynhawn fel arfer, yn parhau tan ar ôl iddi fachlud, gyda rhai o fandiau ifanc gorau Cymru – Chroma, Mellt, Wigwam ac Y Sybs – yn siŵr o ysgwyd y castell i’w seiliau.

FFILIFEST.indd 1

GIGS CYMDEITHAS, YN Y DDINAS Bydd yr Eisteddfod Genedlaethol yn un go wahanol ym Mae Caerdydd fis Awst, ond bydd un traddodiad yn parhau, sef gigs nos Cymdeithas yr Iaith Gymraeg trwy gydol yr wythnos. Mae’r Gymdeithas yn cynnal gigs yn y Steddfod ers degawdau, gan ddefnyddio lleoliadau sydd yng nghanol y gymuned leol, ac mae hynny’n wir eto eleni. Clwb Ifor Bach fydd lleoliad gigs y Gymdeithas trwy’r wythnos, sef canolfan sydd wedi bod yn ganolog i gerddoriaeth fyw a’r iaith Gymraeg yn y Brifddinas dros y blynyddoedd. Bryn Fôn sy’n hedleinio gig y nos Sadwrn gyntaf i agor yr wythnos mewn steil, ac mae Candelas, Yr Eira, Meic Stevens, Llwybr Llaethog a’r anhygoel Geraint Jarman i gyd ymysg y prif enwau sy’n perfformio. Un o’r prif uchafbwyntiau fydd set Gwenno, ar ôl yr ymateb ardderchog i’w halbwm Gernyweg, a bydd yn perfformio caneuon o’r record honno ar y nos Wener. Bydd nos Sul yn gig arbennig i ddathlu bandiau ifanc y Brifddinas, gyda Breichiau Hir, sy’n dathlu deng mlynedd eleni, yn cloi. Mae tocynnau eisoes ar werth ac yn costio rhwng £10 a £15, ond mae modd prynu tocyn wythnos am £85 sy’n sicrhau mynediad i’r cyfan. Gyda tocynnau’n tueddu i werthu allan cyn yr wythnos, a’r arlwy’n dod â dŵr i’r dannedd, y cyngor ydy i brynu’n fuan – cymdeithas.cymru/steddfod

9 Mehefin Castell Caerffili

2018

19:00

CHROMA Mellt Wigwam Y Sybs

Tocynnau

Does bosib bod llawer o wyliau yn cael eu cynnal mewn safle mwy trawiadol na Ffiliffest. Castell Caerffili ydy cartref unigryw yr ŵyl flynyddol rad ac am ddim sy’n mynd o nerth i nerth ac yn tyfu eto eleni. Gŵyl Menter Caerffili yw Ffiliffest sy’n dathlu iaith a diwylliant Cymru a bydd y digwyddiad yn cynnwys perfformiadau, adloniant, gweithgareddau, gweithdai, stondinau bwyd a diod a chyfle i grwydro’r castell. Eleni am y tro cyntaf, fe fydd ardal traeth newydd i blant gael chwarae yn y tywod! Mae Menter Caerffili wedi gweithio yn agos gyda Cadw, grwpiau cymunedol a pherfformwyr i drefnu’r digwyddiad mewn lleoliad hollol unigryw. Fe fydd stondinau nwyddau, amrywiaeth o fwyd a diod yn cynnwys carafán coctels a phabell cwrw a seidr, hefyd gweithgareddau a gweithdai addysgol amrywiol megis pabell celf a chrefft, ardal VR a gemau retro a hyn i gyd o fewn muriau

GIG

£5

Tocynnau trwy tocyn.cymru - ‘GIG FFILIFFEST’

30/04/2018 11:12


GEID I’R GWYLIAU 2018

H YS TO R I

Sêr yn croesawu Steddfod ar faes y Sioe

Cyngerdd mawreddog i ddathlu agoriad

Eisteddfod yr Urdd Brycheiniog a Maesyfed Nos Sul, 27 Mai 2018

Mae pawb yn gwybod am statws Eisteddfod yr Urdd fel gŵyl ieuenctid fwyaf Ewrop, a safon anhygoel y cystadlu ar y llwyfan. Ond mae’r ŵyl wedi tyfu i fod yn llawer mwy na dim ond eisteddfod erbyn hyn, gydag ystod anhygoel o adloniant a gweithgarwch ar y maes. Eleni, mae’r Urdd yn ymweld â maes y Sioe Frenhinol yn Llanelwedd, ac mae cyngerdd mawreddog wedi’i drefnu i ddathlu agoriad Eisteddfod yr Urdd Brycheiniog a Maesyfed. Ar nos Sul 27 Mai ym Mhafiliwn yr Eisteddfod mae noson yng nghwmni’r sêr i ddechrau cyffro’r cystadlu a chael blas o’r hyn sydd i ddod am weddill yr wythnos. Ifan Jones Evans fydd yn croesawu’r Eisteddfod ac yn cyflwyno’r noson, gyda’r artistiaid Lloyd Macey, Al Lewis, Cedron Siôn, Sŵnami, Greta Isaac, Welsh Whisperer, Sophie Jones, a mwy, yn barod i’ch diddanu! Ond dim ond y dechrau ydy hynny, gan fod llwyth o adloniant i’w fwynhau ar y maes trwy gydol yr wythnos. Unwaith eto eleni mae hynny’n cynnwys llwyfan perfformio’r maes sy’n croesawu mwy nag erioed o artistiaid cyfoes – Mellt, HMS Morris, Adwaith, Alys Williams ac Omaloma yn ddim ond rhai o’r enwau. Ac mae’r cyfan yn dirwyn i ben ar nos Sadwrn 2 Mehefin gyda’r gig nos fydd yn cynnwys Serol Serol, Yr Eira, Y Cledrau a Candelas. Clamp o gig i gloi wythnos orlawn.

Pafiliwn Eisteddfod yr Urdd Agorir y drysau am 19:30 Cychwynnir am 20:00 Dewch i fwynhau noson yng nghwmni’r sêr, i ddechrau cyffro’r cystadlu a chael blas o’r hyn sydd i ddod am weddill yr wythnos? Ifan Jones Evans fydd yn eich croesawu ac yn cyflwyno’r noson, gyda’r artistiaid Lloyd Macey, Al Lewis, Cedron Siôn, S[nami, Greta Isaac, Welsh Whisperer, Sophie Jones a mwy yn barod i’ch diddanu!

Tocynnau: urdd.cymru/eisteddfod neu 0845 257 1639

Tocynnau o urdd.cymru/eisteddfod neu 0845 257 1639

EISTEDDFOD Y BAE Diffiniad i gloi Llwyfan y Maes BBC Radio Cymru ar y nos Wener yn siŵr o droi’n barti a hanner.

Y Llannerch Gudd

Gwyddoniaeth

Caffi’r Theatrau

DAWNS

Canolfan Red Dragon Byw Bywyd

l Bydd y Llwyfan, y Pentref Bwyd a’r bariau mawr i gyd yn y Roald Dahl Plass y tu allan i fynedfa Canolfan Mileniwm Cymru, a dyma lle bydd Cerrig yr Orsedd hefyd.

l Bydd Maes B yn y Bae ei hun hefyd, a hynny yn hen adeilad Dr Who, gan sicrhau bod yr holl weithgareddau’n gyfleus mewn un rhan o’r ddinas. Mae’r defnydd o’r adeiladau trawiadol hyn yn siŵr o roi teimlad unigryw i’r Eisteddfod eleni, ond bydd llawer o’r strwythurau arferol hoff i’w gweld ar y maes fel arfer – yn eu mysg, tipis Maes B a Sinemaes, yurt y Tŷ Gwerin a’r Bar Syched poblogaidd. Eisteddfod sy’n plethu’r gwahanol a’r traddodiadol – mae’n siŵr o fod yn ŵyl i’w chofio.

Y BABELL LEN Pentref Drama

Cei’r Forforwyn Llwyfan y Maes

Y LLE CELF Shw’mae Caerdydd

SYCHED

l Canolfan y Mileniwm fydd cartref y Pafiliwn a’r Babell Lên, gydag adeilad y Pierhead yn gartref i Shw’mae Caerdydd, Dysgu Cymraeg – Learn Welsh a’r Lle Celf a Chymdeithasau yn y Senedd.

Y PAFILIWN

Pentref Bwyd Food Village

Does dim dadl mai’r Eisteddfod Genedlaethol ydy canolbwynt gwyliau Cymreig yr haf. Ac mae eleni’n Eisteddfod arwyddocaol am ddau reswm – yn gyntaf, mae’n eisteddfod arbrofol yng nghanol dinas gyda maes ‘agored’ ym Mae Caerdydd. Ac yn ail, dyma fydd Eisteddfod olaf y Prif Weithredwr, Elfed Roberts, sydd ar fin ymddeol. Wedi’r holl ddyfalu, mae manylion yr ŵyl yn weddol glir bellach gydag addewid o deimlad o faes traddodiadol, ac o’r awyrgylch agos-atoch-chi arferol er gwaetha’r safle anghyffredin. Mae arlwy’r cyngherddau nos eleni’n amrywiol a chyffrous, wrth i’r wythnos agor gyda Bryn Terfel yn serennu yn ‘Hwn yw Fy Mrawd: Paul Robeson – Arwr i Gymru, Arwr i’r Byd’ nos Wener a Sadwrn 3-4 Awst. Ymysg y cyngherddau eraill sy’n dal y llygad mae perfformiad Pendevig, y siwpyr-grŵp newydd sy’n dod ag aelodau Calan, Jamie Smith’s Mabon a Plu ynghyd i gyflwyno’u cyfuniad o synau traddodiadol, jazz, ffync a drwm a bas. Mae tocynnau Gig y Pafiliwn gyda Geraint Jarman eisoes i gyd wedi’u gwerthu, a bydd aduniad y grŵp

ddinas Canol y

- plethu’r gwahanol a’r traddodiadol

Norwegion Church and NORSK Arts Centr COFFEE SHOP e

Caffi Maes B

#steddfod2018 www.eisteddfod.cymru 0845 4090 900

Maes B


GEID I’R GWYLIAU 2018

H YS TO R I

TAFWYL - parti mawr â gwahoddiad i bawb! Prin fod angen cyflwyniad ar Tafwyl! Ers ei sefydlu yn nhafarn y Mochyn Du yn 2006 mae’r ŵyl wedi tyfu’n aruthrol gan ddenu 38,000 o bobol i Gaeau Llandaf llynedd. Ar ôl blwyddyn mewn safle gwahanol, mae gŵyl Menter Caerdydd i ddathlu celfyddydau a diwylliant Cymraeg yn dychwelyd i Gastell Caerdydd. Mae’n ŵyl naw diwrnod mewn gwirionedd, gyda digwyddiadau amrywiol ledled y ddinas, ond y prif ddigwyddiad yn y castell ar 30 Mehefin a 1 Gorffennaf ydy’r uchafbwynt heb os. Er bod naws gyfarwydd wrth ddychwelyd i’r castell, mae nifer o agweddau newydd eleni gan gynnwys ardal fwyd stryd, gyda mwy o stondinau bwyd nag erioed; pabell acwstig newydd Y ‘Sgubor; a’r Yurt Lles, ble bydd

20 Mai: TREGAROC, Tregaron 24 Mai – 3 Mehefin: GŴYL Y GELLI, Gelli Gandryll

28 Mai – 2 Mehefin: EISTEDDFOD GENEDLAETHOL YR URDD, Llanelwedd 31 Mai – 4 Mehefin: GŴYL TÂN YN Y MYNYDD, Ceredigion 1-2 Mehefin: LIVE ON THE WYE, Sir Fynwy 3-4 Mehefin: GŴYL X MUSIC, Parc Biwt, Caerdydd 7-17 Mehefin: GŴYL Y LLAIS, Canolfan y Mileniwm, Caerdydd 7-10 Mehefin: GŴYL GOTTWOOD, Ynys Môn 9 Mehefin: GŴYL CEFNI, Llangefni

9 Mehefin: FFILIFFEST, Castell Caerffili 16 Mehefin: GŴYL FACH Y FRO, Ynys Y Barri 16-24 Mehefin: GŴYL CRICIETH 29 Mehefin – 7 Gorffennaf: GŴYL Y FELINHELI 30 Mehefin: GŴYL MALDWYN, Cann Office, Llangadfan

30 Mehefin – 1 Gorffennaf: TAFWYL, Castell Caerdydd

sgyrsiau, demos a dosbarthiadau yn ymwneud â lles meddyliol a chorfforol. Mae’r wythnos ffrinj yn fywiog unwaith eto, gyda sesiynau Wici Pop, Arddangosfa Arloeswyr Pop Cymraeg, Gweithdy Brodwaith, noson Clwb Gin Caerdydd a pharti lansio cyfrol Bragdy’r Beirdd ymysg y digwyddiadau. I nifer, arlwy gerddorol Tafwyl ydy’r atyniad mawr, ac mae’r lein-yp eleni’n gyfoethog fel arfer gydag enwau fel Eden, Candelas, Bryn Fôn, Tecwyn Ifan, Cadno, Gai Toms, Omaloma a Lleuwen ymysg y rhestr hirfaith. Mae Tafwyl yn ddigwyddiad gwych i ddysgwyr a phobol sy’n awyddus i gael eu blas cyntaf o’r iaith a diwylliant Cymreig. Yn ôl y trefnwyr mae Tafwyl yn ddathliad hyfryd o’r iaith Gymraeg, sy’n agored i bawb – yn siaradwr Cymraeg neu beidio.

6-7 Gorffennaf: GŴYL NÔL A MLA’N, Llangrannog 13-15 Gorffennaf: GŴYL ARALL, Caernarfon

14 Gorffennaf: GŴYL CANOL DRE, Parc Myrddin, Caerfyrddin 14 Gorffennaf: PARTI PONTY, Pontypridd

20-22 Gorffennaf: SESIWN FAWR DOLGELLAU 23 Gorffennaf – 3 Awst: GŴYL GERDD RYNGWLADOL ABERGWAUN

3 – 11 Awst: EISTEDDFOD GENEDLAETHOL CYMRU, Caerdydd 4 – 12 Awst: GIGS STEDDFOD CYMDEITHAS YR IAITH, Clwb Ifor Bach, Caerdydd 16 – 19 Awst: GŴYL Y DYN GWYRDD, Bannau Brycheiniog 24 – 26 Awst: GŴYL HUB, Stryd y Fuwch Goch, Caerdydd 24 – 26 Awst: THE BIG TRIBUTE FESTIVAL, Gelli Angharad, Aberystwyth 1 Medi: GŴYL PENDRAW’R BYD, Aberdaron

6 – 9 Medi: GŴYL RHIF 6, Portmeirion


Issuu converts static files into: digital portfolios, online yearbooks, online catalogs, digital photo albums and more. Sign up and create your flipbook.