Porthmadog - porth Eryri - Golwg

Page 1

HYSTORI

Mae un o olygfeydd gorau Cymru’n dweud y cwbl am safle tref Porthmadog. Oddi ar y Cob ar y ffordd i mewn o’r de, mi allwch chi weld talp helaeth o fynyddoedd Eryri, o Foel Hebog a’r Wyddfa, draw at y Cnicht a’r Moelwynion. Mae’n dangos yn glir mai Porthmadog ydi porth Eryri, y dre’ i aros ynddi cyn cychwyn am y mynyddoedd ar un ochr, neu Benrhyn Llŷn ar y llall. Ac ychydig i’r De, mae pont newydd sbon yn arwain i Ardudwy a’i thraethau.

Mae’r stryd fawr hir yn fyw ac yn fywiog a’r ffordd osgoi newydd yn golygu bellach bod canol y dre’n lle braf iawn i oedi a threulio amser. Nid siopau cadwyn sydd yno, ond cymysgedd o fusnesau bach a chaffis a thafarndai deniadol a nifer sylweddol yn nwylo siaradwyr Cymraeg.

Mi allech chi dreulio bore cyfan, neu brynhawn, yn cerdded i lawr un ochr i’r stryd ac am ychydig rownd y tro, cyn cerdded yn ôl yr ochr arall, gan aros yn y siopau neu bicio am baned neu bryd.

Siopau

Porthmadog lle mae’r ffyrdd yn cwrdd.

Gwyndaf Evans Motors Dolgellau & Porthmadog

Ceir FORD a SUZUKI newydd ar werth yn ogystal â cheir ail law o safon. MOT • Gwasanaeth Atgyweirio • Motabilitiy • ATVs

Cynigion arbennig ar gael bob mis. Dewch draw i’n gweld am bris da ar eich car nesaf. Arran Road, Dolgellau, LL40 1HS • Marian Mawr, Dolgellau, LL40 1DG

Madoc Street, Porthmadog, Gwynedd, LL49 9DB

Ff: 01341 423441 • 01766 549280 E:ge@gemotors.co.uk

www.gwyndafevans.net

BWYTY GORAU PORTHMADOG

BWYD ARBENNIG PRISIAU ARBENNIG! ^ CROESO I BLANT A CHW N! ● ●

● ● ●

Ystafell Fwyta, Bar Gelert, Lolfa A Gardd Patio Perllan Bwydlen Prydeinig Modern A Thraddodiadol, Cinio Rost Dydd Sul, Prydau Ysgafn, Bwydlen i Blant, & Brecwast Llawn A Chyfandirol. Bwyd llysieuol & Anghenion Dietegol Arbennig Diodydd – Cwrw Cask Mws Pws, Lager, Gwin & Cocktails Digwyddiadau Preifat & achlysuron arbennig 10% discownt ar bwyd gyda cerdyn braint teyrngarwch y gwesty! 01766 512015 enquiries@ / www.royalsportsman.co.uk 131 Stryd Fawr LL49 9HB

63 Stryd Fawr Porthmadog LL49 9LR

Papurau Newydd & Tybaco

01766 512578

merylpike@davidport.plus.com

PikesPorthmadog


Issuu converts static files into: digital portfolios, online yearbooks, online catalogs, digital photo albums and more. Sign up and create your flipbook.