Wales_Tourism_03_CYM

Page 1

Rhifyn 1 • Tachwedd 2003

Cynghrair Twristiaeth Cymru

Wales Tourism Alliance

Rhifyn Arbennig Cynhadledd CTC 2003 Ein Ein Cynlluniau Cynlluniau Ar Ar Gyfer Gyfer Twf Twf

Pam Mai Pobl Sy’n Dod Yn Gyntaf

Llandudno – Neisiach Na Nice

Ein Cynlluniau Ar Gyfer Twf

Gweinidog Yn Cefnogi’r Gynghrair



NEGES CADEIRYDD CTC

Grym yn Nwylo’r Bobl Gan Julian Burrell, Cadeirydd Cynghrair Twristiaeth Cymru

Mae’r cylchgrawn hwn, a’r hanesion ynddo am weithgareddau Cynghrair Twristiaeth Cymru yn ystod y flwyddyn, yn dangos cymaint a wnaed gan y Gynghrair mewn ychydig dros flwyddyn. Ni fuasai neb wedi dychmygu ddeunaw mis yn ôl y byddai’r diwydiant twristiaeth yng Nghymru wedi dangos y fath gydweithrediad a phenderfyniad, na’r gallu i weddnewid pethau gan drefnu dwy gynhadledd genedlaethol, cynrychioli buddiannau pawb sy’n gweithredu yn y diwydiant ar bob lefel o ran dylanwad gwleidyddol a masnachol, a chwarae rhan gyfartal gyda’r ddau gorff arall sy’n meddu awdurdod sef y Cynulliad Cenedlaethol a Bwrdd Croeso Cymru. Dyna ein hanes heddiw. Hoffwn ddiolch i chwe aelod arall Bwrdd Cyfarwyddwyr y Gynghrair am roi mor anhunanol o’u hamser a’u parodrwydd i gynorthwyo. Mae strwythur y cwmni yn un unigryw, hawdd ei reoli ac mae’r Bwrdd yn elwa ar gryfderau cynrychiolaeth o bob sector a phob rhan o’r wlad. Er mwyn i hyn weithio’n effeithiol mae’n rhaid i bawb fod yn fodlon cyfranogi yn frwdfrydig – ac yn sicr dyna a welais yn ystod fy nhymor fel Cadeirydd ers Ebrill 2002. Hoffwn ddiolch hefyd i bawb yn y cyrff sy’n aelodau o’r Gynghrair am eu cefnogaeth gyson yn ariannol ac yn bersonol. Er mwyn i’r Gynghrair fod yn llwyddiannus mae angen i bob rhan ohoni fod yn gryf ac rwyf yn ddiolchgar iawn am y cymorth a’r Os hoffech gael gwybodaeth bellach am Gynghrair Twristiaeth Cymru, cysylltwch â ni os gwelwch yn dda yn y cyfeiriad isod: Cynghrair Twristiaeth Cymru, Llawr Un, Dominions House North Heol y Frenhines, Caerdydd. CF10 2AR FFÔN: 029 2038 4440 FFACS: 029 2039 9392

gweithredwyr sy’n ffurfio’r diwydiant cyfan. Mae rhai gweithredwyr bach i’w cael, nad oes arnynt eisiau cael eu dosbarthu’n dwt er mwyn bodloni rhyw system farchnata. Mae rhai yn anhysbys – y bobl yn y fasnach dwristaidd nad ydym yn cael dim neu fawr ddim i wneud â nhw – ac mae angen inni gael hyd iddynt a’u darbwyllo i gyfranogi gyda gweddill y diwydiant.

cyngor a dderbyniais gan bob rhan o’r diwydiant yng Nghymru. Mae cip sydyn ar y geiriau hyn, hyd yn oed, yn datgelu cyfrinach ein llwyddiant yn 2003, sef y bobl yn ein diwydiant. Mae tîm Cynghrair Twristiaeth Cymru wedi bod yn hapus i gydweithio er mwyn chwilio am atebion adeiladol i’r cwestiynau dyrys iawn yn aml sydd yn wynebu’r diwydiant. Nid ydym bob amser yn cydweld ond rydym bob amser yn benderfynol o ganfod atebion cadarnhaol sy’n bodloni pawb. Os mai ein pobl yw hanfod llwyddiant y Gynghrair, maent yn hollbwysig felly i lwyddiant ein diwydiant yn y dyfodol. Yn ddiau, staffio yw’r her fwyaf i rai sectorau yn y diwydiant. Mae denu staff a’u cadw yn parhau i fod yn fater allweddol y mae’n rhaid i lawer o’n busnesau fynd i’r afael ag ef. Os na chawn y staff iawn, bydd goblygiadau difrifol o safbwynt cynnig ansawdd da a chynnig gwasanaethau, sef yr hyn y dymunwn ei wneud drwy Gymru benbaladr. Mae’n rhaid i’n busnesau unigol barhau i ddatblygu wrth inni fynd ar ôl cynaliadwyedd a thwf economaidd. Bydd Cynhadledd y Gynghrair yn 2003 yn canolbwyntio ar bobl a datblygiad am yn agos i ddau ddiwrnod tra byddwn gyda’n gilydd. Pleser o’r mwyaf yw cynnig sesiynau noddedig i roi cynrychiolwyr ar ben ffordd wrth iddynt hybu eu busnesau – fel y byddant yn cael hyd i’r bobl iawn ac yn defnyddio eu sgiliau. Mae’n rhaid inni hefyd roi ar ddeall i bawb mor amrywiol yw’r

Ac wedyn y bobl bwysicaf oll – y Cwsmeriaid. Wrth edrych yn ddiweddar ar Strategaeth Twristiaeth Iwerddon gwelwyd y dyfyniad hwn: “Mae cynnyrch twristiaeth yn cynnwys, ac mae hyn yn bwysig, y rhyngweithiad â phobl”. Sut rydym ni yng Nghymru yn cymharu â’r syniad sydd gan bobl am groeso mewn gwlad fel Iwerddon? Sut rydym ni (a phobl y tu allan i’r diwydiant) yn rhyngweithio â’n hymwelwyr? Mae’n rhaid i ni gydymdrechu i ddeall anghenion a gofynion y cwsmer a throsi’r rhain yn brofiad twristaidd yng Nghymru. Pobl sydd bwysicaf yn y Diwydiant Twristaidd yng Nghymru.

Mae tîm Cynghrair Twristiaeth Cymru wedi dangos ewyllys i gydweithio er mwyn cael hyd i atebion adeiladol i gwestiynau sydd yn aml yn rhai anodd iawn

© Bwrdd Croeso Cymru

CROESO CYNNES I’N HOLL ddarllenwyr! Pleser mawr yw cyflwyno i chi i gyd rifyn cyntaf Twristiaeth, sef cylchgrawn Cynghrair Twristiaeth Cymru, a gyhoeddir i ymddangos ar yr un pryd ag y cynhelir ail gynhadledd y Gynghrair yn Llandudno.

Mae’n rhaid i ni yng Nghyngrair Twristiaeth Cymru fod yn benderfynol o wneud yn fawr o’r posibiliadau, y trefniadau ymarferol a’r buddiannau pendant a ddaw drwy gydweithio’n fwy clòs o lawer â phawb sy’n ymwneud â thwristiaeth. Lle bynnag y bydd pobl yn dod i gysylltiad â thwristiaeth Cymru – boed yn weithredwr bach, y m w e l y d d achlysurol, gweithiwr rhan-amser neu rywun sy’n llunio polisi – mae’n rhaid i ni anelu’n uwch a dal ati i ymgyrraedd at y nod anodd hwnnw, rhagoriaeth.

3


NEWYDDION

A

SYLWADAU’R GYNGHRAIR

Gwe Enillion MAE GAN GYNGHRAIR TWRISTIAETH CYMRU ei wefan ei hun yn awr, er mwyn cyflwyno diwydiant twristiaeth Cymru i’r byd a chadw’r rhai sy’n ennill bywoliaeth yn y diwydiant mewn cysylltiad â’r hyn sy’n digwydd a’r wybodaeth ddiweddaraf. Mae’r wefan yn weithredol ers mis Mawrth. Mae’r wefan hon – www.wta.org.uk – yn llawn gwybodaeth ar gyfer aelodau’r Gynghrair a’r rhai sy’n gweithio yn y diwydiant. Mae’r manylion diweddaraf i’w cael yma am weithgareddau’r Gynghrair, datganiadau i’r wasg, cylchlythyrau a gwybodaeth am y cyrff sy’n aelodau gyda ni. Mae’r wefan yn cael ei diweddaru’n gyson gyda gwybodaeth newydd a’r newyddion diweddaraf

Cynghrair Twristiaeth Cymru

o’r diwydiant yn barhaus. Meddai Julian Burrell, Cadeirydd Cynghrair Twristiaeth Cymru, “Mae’r datblygiad cyffrous yma yn dangos sut y mae Cynghrair Twristiaeth Cymru’n gweithio gyda’r cyrff sy’n aelodau a gweithwyr eraill yn y diwydiant yn y dull diweddaraf sydd ar gael.” “Yn yr oes dechnegol sydd ohoni, mae gwybodaeth yn hollbwysig; mae ein gwefan yn ffordd bwysig o gyfathrebu â’r holl sector twristiaeth.” Am wybodaeth bellach ynghylch gwefan y Gynghrair, cysylltwch os gwelwch yn dda â Chynghrair Twristiaeth Cymru ar y rhif 029 2038 4440.

Gwefan Cynghrair Twristiaeth Cymru

Twristiaeth Gogledd Cymru Gan Esther Roberts, Twristiaeth Gogledd Cymru

Yn ogystal â’r manteision a sefydlwyd eisoes ar gyfer yr aelodau, fe drefnodd y cwmni eleni gyfarwyddyd/seminarau cyfreithiol i’r aelodau ar y newidiadau mewn Cyfraith Cyflogaeth a Deddf Anffafrio’r Anabl. Cafwyd cadarnhad pellach o bwysigrwydd y diwydiant twristiaeth i’n hardal pan dderbyniodd Cyfarwyddwr Cyffredinol Cydffederasiwn Diwydiant Prydain, Digby Jones, wahoddiad i annerch

4

aelodau Twristiaeth Gogledd Cymru ynghyd â gwesteion a wahoddwyd mewn cyfarfod amser brecwast dan nawdd Banc HSBC. Digby Jones yw Cadeirydd cyntaf y Gynghrair Twristiaeth sy’n cydweithio’n glòs â Chynghrair Twristiaeth Cymru ar yr holl faterion allweddol a gefnogir yn gryf gan y Cydffederasiwn. Fe roddodd yr ymweliad proffil uchel yma ‘sêl bendith’ i bwysigrwydd Twristiaeth Gogledd Cymru fel corff ar gyfer y fasnach dwristiaeth. Hefyd, cafwyd gan yr Athro John Lennon, y siaradwr allweddol yn y Cyfarfod Cyffredinol Blynyddol, gyflwyniad ysbrydoledig ar dueddiadau i’r dyfodol yn y diwydiant Teithio a Thwristiaeth a sut i ddatblygu mantais gystadleuol. Dyma rai o sylwadau ein haelodau: ‘y tymor gorau ers blynyddoedd’ a ‘thymor a ddechreuodd ym mis Mawrth gan barhau hyd fis Medi’.

© Bwrdd Croeso Cymru

“ARDAL FFANTASTIG, llawn potensial” – dyna a ddywed Cadeirydd newydd Twristiaeth Gogledd Cymru, Adrian Barsby, un o Gyfarwyddwyr Gwesty Beaufort Park, yr Wyddgrug. Fel Cadeirydd y corff aelodaeth mwyaf yng Nghymru, sydd â thros 1400 o aelodau, ei nod yw cynrychioli’r diwydiant a materion sy’n effeithio ar fusnesau, gan gydweithio â phwerau Llywodraeth ar wahanol lefelau er mwyn i’r diwydiant gael mwy o gydnabyddiaeth.


NEWYDDION

A

SYLWADAU’R GYNGHRAIR

Ein Cynlluniau ar gyfer Twf Gan Julian Burrell, Cadeirydd Cynghrair Twristiaeth Cymru MAE’R FLWYDDYN NEWYDD ar y gorwel ac adduned y Gynghrair, a arddelir yn gryfach nag erioed, yw sicrhau twf pellach i ddiwallu’r gofynion cynyddol yn niwydiant mwyaf Cymru.

cynnydd aruthrol a wnaed yn y ddwy flynedd diwethaf. Gydag adnoddau newydd, bydd modd i ni: t

Wrth i awdurdod y Gynghrair gael ei gydnabod yn ystod y flwyddyn diwethaf, daeth cyfrifoldebau hefyd i’n rhan; bellach rydym yn cymryd rhan yn gyson yn yr holl ymgynghori sy’n digwydd yn sgil partneriaeth â Llywodraeth a’r Bwrdd Croeso ynghylch materion sy’n effeithio ar y diwydiant. Dyna sydd arnom ei eisiau – mynegi barn y diwydiant, dylanwadu a chynghori ar bolisi a mentrau hyrwyddo, pryd bynnag a lle bynnag y trafodir twristiaeth. Fodd bynnag, mae hyn yn rhoi pwysau cynyddol ar ein hadnoddau cyfyngedig yn fewnol. Ein blaenoriaeth gyntaf yn y deuddeng mis nesaf fydd cael rhagor o adnoddau fel y gall y Gynghrair gyfnerthu ac adeiladu ar sail y

t

t

t

t

t

Ehangu’r aelodaeth a chael mwy o aelodau; Cyhoeddi cylchgrawn rheolaidd ar gyfer aelodau’r Gynghrair, sef Twristiaeth – er mwyn cyfathrebu’n well â’r diwydiant; Gwella’r sianelau cyfathrebu gyda chymdeithasau twristiaeth yn lleol, trwy sefydliadau sydd mewn bodolaeth yn barod lle bo hynny’n bosibl; Paratoi a chynhyrchu dogfennau ymchwil manwl sydd yn adlewyrchu’n llawn farn y diwydiant ar yr holl faterion o bwys, er mwyn hwyluso pethau wrth i’r Gynghrair gymryd rhan yn y broses o wneud penderfyniadau; Cael rhan helaethach eto yn y broses o wneud penderfyniadau ar lefel Llywodraeth; Cael rhan helaethach yn San Steffan o safbwynt materion sy’n effeithio ar y Deyrnas Gyfunol i

gyd a datblygu ymhellach ein gwaith mewn cydweithrediad â’n cyd-aelodau yn yr Alban, Lloegr a Gogledd Iwerddon o fewn Cynghrair Twristiaeth y Deyrnas Gyfunol. Mae Pwyllgor Gwaith y Gynghrair a finnau yn chwilio am ffyrdd o sicrhau arian a darparu rhagor o adnoddau i gyrraedd y nodau hyn. Byddwn yn ceisio eich cefnogaeth i’n gwelliannau ac wrth inni wneud mwy o bethau.

Dyma ni bellach ym mhen draw’r man cychwyn…

Rhifyn 1 • Tachwedd 2003

Cynghrair Twristiae th Cymru

Rydym wedi dod i ben draw y rhan gyntaf o’n gwaith; mae’n braf cael ein cydnabod ond y nod yw gwneud mwy a chyflawni mwy. Mae gan bob aelod o’r Rhifyn A rbennig diwydiant twristiaeth C y n h a d le dd CTC 2003 yng Nghymru ran i’w Ein Cynllunia chwarae yn hyn; u Ar Gyfer Tw f mae eich rhan chi yn nhwf ein Cynghrair yn bwysicach nag erioed yn awr. Pam Mai Pob l Sydd Bwysicaf

Llandudno – Neisiach Na Nice

Ein Cynlluni au Ar Gyfer Twf

Wales Tourism Allia nce

Gweinidog Yn Cefnog’r Cynghrair

Cymdeithasau Twristiaeth De Orllewin Cymru Gan Dr Colin Rouse, Aelod o Bwyllgor Gwaith y Gynghrair sy’n cynrychioli’r De Orllewin MAE CYMDEITHASAU LLEOL De Orllewin Cymru (sef Cymdeithas Twristiaeth Sir Gaerfyrddin, Twristiaeth Sir Benfro, Twristiaeth Abertawe a Gˆ wyr a Thwristiaeth Castell Nedd a Phort Talbot) yn cynnig i’r diwydiant twristiaeth a chroeso yn ne orllewin Cymru, sefydliadau y mae’n berchen arnynt ac a gyfarwyddir ganddo ac sy’n cyfranogi wrth gyflawni drwy bartneriaeth strategaethau lleol, rhanbarthol a chenedlaethol ar gyfer twristiaeth. Tyfodd y Cymdeithasau hyn allan o’r grwpiau twristiaeth lleol a bellach maent yn gweithio gyda’r Bartneriaeth Dwristiaeth Ranbarthol, y cynghorau sir lleol a hwyluswyr ardal er mwyn cynyddu nifer yr ymwelwyr â’r ardal drwy farchnata llyfrynnau a gwefannau ar gyfer yr ardal. Mae cymdeithasau lleol yn targedu cynifer ag sy’n bosibl o gynrychiolwyr y fasnach er mwyn sicrhau eu bod i gyd yn unedig ac y gall asiantaethau eraill wedyn weithio drwyddynt. Mae’r cymdeithasau lleol hyn yn parhau i esblygu; dyddiau cynnar iawn yw hi ar rai ohonynt ond mae gan eraill (o bosib?) y fantais o fod wedi magu profiad. Nid gwaith yw unig ddiddordeb y Cymdeithasau! Er enghraifft, mae Cymdeithas Twristiaeth Sir Gaerfyrddin wedi sefydlu partneriaeth â Mentrau Sir Gaerfyrddin i roi cyfle i’r aelodau gymryd rhan mewn rhaglen addysgol sy’n ceisio gwella gwybodaeth aelodau’r Gymdeithas am drysorau cudd Sir Gaerfyrddin. Fodd bynnag, un digwyddiad na welwn efallai mo’i debyg byth eto oedd y “Parth Twristiaeth” yn ystod Diwrnod Menter Sir Gaerfyrddin yn 2002, sef arddangosfa wych, a chydag ychydig o fistimanars fe lwyddon ni i gael sylw’r Frenhines – a chyfweliad annisgwyl!

Yn y llun, o’r chwith i’r dde: Dr Colin Rouse, Lynne Walters, Prif Weithredwr Antur Teifi a’i Mawrhydi y Frenhines Elizabeth II

Fodd bynnag, mae’n rhaid i ni symud ymlaen a thrafod hefyd y problemau sydd yn gyffredin inni yn y De Orllewin. Rydym yn cael ein cynrychioli’n barod ar Bartneriaeth Twristiaeth yr ardal ond mae angen inni gyfranogi’n llawn yng Nghyngrair Twristiaeth Cymru os ydym am wireddu’r hyn a ddywedir ym mharagraff cyntaf yr erthygl hon.

5


Y GYNGHRAIR YN EDRYCH NÔL

Cipolwg ar flwyddyn brysur yn gweithio ar eich rhan…

Rhwng Cynadleddau… Blwyddyn ym Mywyd y Gynghrair YN SGIL LLWYDDIANT y gynhadledd gyntaf a gynhaliwyd gennym yng Nghaerdydd ym mis Tachwedd, cadarnhaodd Pwyllgor Gwaith y Gynghrair fod ail gynhadledd i’w chynnal yng Ngwesty’r Imperial, Llandudno ar Ddydd Sul a Dydd Llun yr 2il a’r 3ydd o Dachwedd 2003.

2002

TACH

Fe wnaeth dros 140 o gynrychiolwyr o’r diwydiant gofrestru ar gyfer y gynhadledd yn 2002, yng Ngwesty Hilton, Caerdydd, i glywed Andrew Davies, y Gweinidog dros Ddatblygu Economaidd, Phillip Evans, Cadeirydd Bwrdd Croeso Cymru, a siaradwyr allweddol eraill yn cyfrannu at y thema “Mynd â Chymru at y Byd”. Cyhoeddodd Tessa Jowell, Gweinidog dros Dwristiaeth yn San Steffan, ym mis Tachwedd y byddai Cyngor Twristiaeth Lloegr yn cael ei gyfuno â Bwrdd Croeso Prydain. Gwnaed hyn heb nemor ddim ymgynghori â neb ynghylch buddiannau Cymru a’r Alban nac edrych ar y goblygiadau i rannau o’r Deyrnas Gyfunol lle mae datganoli wedi digwydd. Ysgrifennodd y Gynghrair at Tessa Jowell i ofyn am sicrwydd y byddai buddiannau Cymru yn cael sylw dyledus (gyda chopi i Andrew Davies, Gweinidog Datblygu Economaidd Cynulliad Cenedlaethol Cymru). BU JULIAN BURRELL, y Cadeirydd, yng nghynhadledd Fforwm Twristiaeth yr Alban ym mis Rhagfyr. Roedd nifer da, dros 400 o bobl, yn bresennol yno ac roedd wedi denu trawsdoriad eang o fuddiannau. Serch hynny, teimlai ef fod cynhadledd Cynghrair Twristiaeth Cymru yn cymharu’n dda, yn enwedig o ran cynnwys a chanolbwyntio ar y diwydiant.

2002

RHAG

Cynhaliodd Undeb Amaethwyr Cymru gynhadledd ar Arallgyfeirio yng Nghefn Gwlad yn Aberystwyth, a bu Julian a David Chapman yno ar ran y Gynghrair. Gwnaeth Rhodri Morgan, y Prif Weinidog, ddatganiad ar y dewisiadau sy’n wynebu’r Cynulliad o ran polisi ar ddatblygu Ffermydd Gwynt yng Nghymru.

6

YN DILYN PWYSAU gan y Gynghrair, yn gofyn ar i rywbeth gael ei wneud ar frys, cadarnhaodd y Bwrdd Croeso fod TEAM i’w benodi dan arweiniad Dr Roger Carter, i ymgymryd â phrosiect ymgynghorol – “Rôl, Ffocws a Rheoli at y Dyfodol y DMS Ymweld â Chymru”. Rhoddodd y Gynghrair grynodeb o’r pryderon a’r materion a godwyd yn ystod y pedair blynedd diwethaf mewn cyfarfod o’r Gr w ˆ p Defnyddwyr ar 7fed Ionawr.

2003

ION

Cyfarfu’r pedwar corff sy’n cynrychioli’r diwydiant twristiaeth yn y Deyrnas Gyfunol (sef Cynghrair Twristiaeth Cymru, Fforwm Twristiaeth yr Alban, Cynghrair Twristiaeth Lloegr a Chydffederasiwn Diwydiant Twristiaeth Gogledd Iwerddon) am y tro cyntaf yn Llundain ar 27 Ionawr er mwyn gweld pa faterion y dylai pob rhan o’r Deyrnas Gyfunol lobïo arnynt gyda’i gilydd. Y prif faterion a drafodwyd oedd cynlluniau argyfwng i wynebu rhyfel a’i effeithiau ar farchnata, cytgordio cynlluniau i’r Deyrnas Gyfunol i gyd ar sicrhau ansawdd/cynlluniau gosod graddau, mynediad gydag awyren a datblygu llwybrau hedfan, materion treth a TAW.

2003

MAW

AETH GWEFAN Y GYNGHRAIR ar-lein ym mis Mawrth, gyda rhestrau o weithgareddau’r Gynghrair, datganiadau i’r wasg, cylchlythyrau a rhestrau o’r cyrff sy’n aelodau.

Cyfarfu Julian Burrell a David Chapman ag uwch was sifil sef Dr. Emyr Roberts yn Adran Ddatblygu Economaidd y Cynulliad Cenedlaethol. Roedd yn gyfle buddiol iawn i osod gerbron safbwynt y fasnach dwristaidd ar amryw byd o faterion gan gynnwys Cofrestru Statudol, Graddio, mynediad am ddim i atyniadau anfasnachol, bwriad y Cynulliad i wahardd ysmygu mewn tafarndai, gwestyau a thai bwyta, cyfuno Bwrdd Croeso Prydain a Chyngor Twristiaeth Lloegr, Ymweld â Chymru a ffermydd gwynt. Roedd Dr. Roberts am gynnal adolygiad o Gofrestru Statudol gan roi adroddiad yn ddiweddarach yn y flwyddyn. Rhoddodd y Gyngrair ddatganiad i’r wasg yn lleisio’i hofnau y bydd corff newydd a sefydlir i

Syr Brooke Boothby

farchnata Prydain dramor a Lloegr yn fewnol yn tanseilio’n ddifrifol ymdrechion Cymru i hyrwyddo gwyliau yn y wlad hon. Cyhoeddwyd canlyniadau ymchwiliad Twristiaeth San Steffan. Croesawodd y Gynghrair y sylweddoliad fod angen i’r llywodraeth roi mwy o amlygrwydd i dwristiaeth a chydnabod pwysigrwydd twristiaeth i’r economi. At hyn, mae’n rhaid i’r llywodraeth ymgynghori’n fwy effeithiol, gan ymgynghori hefyd â buddiannau twristaidd Cymru. Bu Syr Brooke Boothby, aelod o Bwyllgor Gwaith y Gynghrair, mewn cyfarfod a gynhaliwyd gan Fwrdd Dyfrffyrdd Prydain. “Rwy’n siˆ wr mai’r canlyniad fydd cefnogaeth lwyr i adfywio dyfrffyrdd Cymru. Mae ar dwristiaeth y sector preifat yng Nghymru bob amser angen ‘cynnyrch’ ychwanegol o ansawdd da,” meddai wrth Mr Brian Hancock, AC, Cadeirydd y Gr w ˆ p. Yn dilyn cynllun argyfwng Clwy’r Traed a’r Genau, a chynhadledd Undeb Amaethwyr Cymru fis Rhagfyr diwethaf, teimlai’r Gynghrair fod angen mwy o gydweithio rhwng yr holl gyrff sy’n ymwneud â thwristiaeth yng nghefn gwlad. Fel rhan o’r broses hon, aeth Esther Roberts, aelod o’r Pwyllgor Gwaith a Rheolwr Gyfarwyddwr Twristiaeth Gogledd Cymru, i seminar Defra/y Cynulliad yn Llandudno. Bu John Walsh-Heron, aelod o Bwyllgor Gwaith y Gynghrair, ac Eluned Davies, Cadeirydd Partneriaeth Twristiaeth Rhanbarthau Amcan Un, mewn Seminar ar Gymorthdaliadau’r Wladwriaeth a drefnwyd gan Swyddfa Cyllid Ewropeaidd Cymru; bu’r Gynghrair yn bresennol mewn cyfarfod o Bartneriaeth Cefn Gwlad Cymru dan y Cynulliad, mewn fforwm ymgynghorol ar


Y GYNGHRAIR YN EDRYCH NÔL bolisi, a gynhaliwyd yn The Manor, Crughywel, ac mewn cyfarfod lansio dogfen Twristiaeth Wledig y Gymdeithas Tir a Busnesau Gwledig yn Nhˆy’r Cyffredin. Mynegwyd peth pryder gan aelodau’r Gynghrair wedi iddynt fod mewn seminarau/cyfarfodydd diweddar ynghylch Deddf Anffafrio’r Anabl; roeddent hwy o’r farn nad oedd yn ymddangos fod llawer o gyfarwyddyd ymarferol i’w gael o ran beth y dylai’r fasnach dwristaidd ei wneud i gydymffurfio. Roedd sawl aelod o Gymdeithas Tywyswyr Teithiau Swyddogol Cymru, a ymunodd yn ddiweddar â’r Gynghrair, yn gweithio’n galed yn Fforwm Twristiaeth Prydain. Maent wedi darparu gwasanaeth ardderchog i dywys grwpiau, sef Pasport i Gymru; gellir cael manylion gan enquiry@passporttowales.com. Cyfarfu cyfarwyddwyr strategaeth Partneriaeth Twristiaeth y Rhanbarth â Phwyllgor Gwaith y Gynghrair. Y brif eitem ar yr agenda oedd cyfathrebu â’r diwydiant twristiaeth a’r diwydiant twristiaeth yn ei dro yn cyfathrebu. GWAHODDWYD Y FASNACH dwristiaeth yng Nghymru i gyfranogi mewn adolygiad o strategaeth dwristiaeth y Bwrdd Croeso, dan y pennawd “deall y cefndir i ddyfodol twristiaeth yng Nghymru”. Comisiynwyd Canolfan Henley i gefnogi’r broses hon.

2003

EBR

Mae Cadeirydd Bwrdd Croeso Cymru bellach yn mynd i gyfarfodydd chwarterol “Visit Britain” dan Bwyllgor Datblygu Twristiaeth Prydain lle rhoddir sylw arbennig i farchnata mewn gwledydd tramor. Gan fod sôn yn awr am ychwanegu gwerth at fusnesau twristaidd trwy hyrwyddo a gwerthu bwyd gan gynhyrchwyr lleol neu rannau eraill o Gymru, fe arweiniodd hyn at gyfarfod gyda chynrychiolydd Amaeth-Fwyd Awdurdod Datblygu Cymru, sef Sandra Williams, a oedd ar fin cael ei “benthyg” i Fwrdd Croeso Cymru er mwyn helpu i ddatblygu twristiaeth bwyd. CAFWYD CYFLWYNIAD ar Amcan Un gan Tim Beddoe o Fwrdd Croeso Cymru yng nghyfarfod cyffredinol y Gynghrair. Wedi gwrando ar sgwrs gynhwysfawr gan Tim, cytunodd aelodau’r Gynghrair y byddent yn ceisio helpu’r Bwrdd Croeso i gynnal yr un lefelau o gefnogaeth o du’r diwydiant yn y tymor byr neu ganolig.

2003

MAI

Penodwyd Dr. Colin Rouse yn seithfed aelod o Bwyllgor Gwaith Cynghrair Twristiaeth Cymru, i gynrychioli Twristiaeth yn y De Orllewin. Cafodd y Gynghrair y cyntaf o ddau gyfarfod gyda Dr Roger Carter ynghylch dyfodol Ymweld â Chymru.

YMUNODD JULIAN BURRELL, Cadeirydd Cynghrair Twristiaeth Cymru, â thua 750 o gynrychiolwyr a masnachwyr yn y diwydiant a wahoddwyd i fynd i forio mewn “seiat ddoethion” ar y môr, ar fwrdd MS Aurora yn hwylio o Southampton, sef cartref y Fforwm Arlwyo.

2003

MEH

Roedd aelodau o’r Gynghrair a chynrychiolwyr eraill o’r diwydiant ymhlith tua 700 o bobl mewn derbyniad i’r Diwydiant Twristiaeth ym Mhalas Buckingham ar 10 Mehefin, yng nghwmni’r Frenhines a Dug Caeredin. Roedd Iarll Wessex, y Dywysoges Frenhinol, Dug Caerloyw, Dug Caint a’r Dywysoges Alexandra hefyd yn bresennol. Cyfarfu Cadeirydd y Gynghrair ag aelodau eraill Cynghrair Twristiaeth y Deyrnas Gyfunol (Richard Tobias (Dirprwy Gadeirydd Cynghrair Twristiaeth Lloegr), Ivan Broussine (Prif Weithredwr Fforwm Twristiaeth yr Alban) a John O’Carroll (Prif Weithredwr Cydffederasiwn Diwydiant Twristiaeth Gogledd Iwerddon) ar 5 Mehefin yn Llundain. O ran cyd-fentrau, cytunwyd i weithio dan y ragdybiaeth fod y pedwar corff yn gweithredu fel “Cynghrair Twristiaeth y Deyrnas Gyfunol”. Mae Pwyllgor Twristiaeth Diwylliannol Bwrdd Croeso Cymru yn awr wedi ei sefydlu a bu David Chapman yn cynrychioli’r Gynghrair mewn cyfarfod ohono ym mis Mehefin.

Antur Cymru Gan Brian Davies, Cadeirydd Antur Cymru

Mae Antur Cymru wrthi’n brysur iawn ar hyn o bryd yn cefnogi cynnydd twristiaeth antur a chyfleoedd mewn twristiaeth yn seiliedig ar weithgareddau ar y dw ˆ r, gan hybu’r rhain. Mae hefyd yn gweithio er mwyn sicrhau bod Cymru’n elwa’n llawn ar yr holl gyfarwyddiadau a mentrau statudol, sydd yn annog a galluogi ystod eang iawn o weithgareddau antur ac ymweliadau ag atyniadau, fel y gall pobl ifainc wneud y pethau hyn yn ddiogel.

Mae’n darparu fforwm beirniadol i gyfnewid syniadau a datblygu ymatebion a mentrau cefnogol ar gyfer y diwydiant awyr agored. Y Cadeirydd yw Brian Davies a gellir cysylltu ag ef drwy ffonio 01792 232743 neu e-bostio brian@kilvrough.org.uk

© Bwrdd Croeso Cymru

…mentrau, sydd yn hybu a galluogi ystod eang o weithgareddau anturus, a gynhelir mewn modd diogel ar gyfer pobl ifainc

Bu’n chwarae rhan yn y gwaith o fonitro rhoi ar waith Ddeddf Cefn Gwlad a Hawliau Tramwy a chymerodd ran yn yr adolygiad o’r rheoliadau Trwyddedu Gweithgareddau Antur, yn ogystal â’r cynnydd tuag at Gyfarwyddeb ar Weithio ar Uchder gan y Gweithredwyr Iechyd a Diogelwch.

ANTUR CYMRU YW’R ymbarèl sy’n cynrychioli pethau yn yr awyr agored – addysg, adloniant a thwristiaeth yng Nghymru. Mae’r aelodaeth yn tyfu ac mae’n cynnwys amrywiaeth eang iawn o fudiadau sydd â diddordeb byw mewn amrywiaeth eithriadol o ddarpariaeth yn yr awyr agored yng nghefn gwlad ac ar arfordir Cymru. Mae ganddo statws sylwedydd ar gyfer cyrff allweddol eraill yng Nghymru, gan gynnwys Cyngor Cefn Gwlad Cymru, Cyngor Chwaraeon Cymru a Bwrdd Croeso Cymru.

7


Y GYNGHRAIR YN EDRYCH NÔL

Rhwng Cynadleddau… Blwyddyn ym Mywyd y Gynghrair

Dyddiadau Ar Gyfer Y Dyddiadur Tachwedd 2003 5

GWAHODDWYD JULIAN BURRELL i ymuno â Gr w ˆp Adolygu Ansawdd Alan Britten sydd yn arwain adolygiad o Ansawdd Twristiaeth drwy Brydain gyfan. Canolbwyntir ar gynyddu boddhad cwsmeriaid ac ar y cychwyn y prif nod y dylid ymgyrraedd ato yw safonau cyffredin a dull cyffredin o fynd ati i sicrhau ansawdd drwy Brydain gyfan.

2003

GOR

Bu Cadeirydd y Gynghrair mewn cyfarfod i drafod Cofrestru Statudol, a alwyd gan y Cynulliad Cenedlaethol. Roedd y Bwrdd Croeso a Chymdeithas Llywodraeth Leol Cymru hefyd yn cael eu cynrychioli yno. Cyfarfu’r Bartneriaeth Wledig yn Llandudno ac edrych i mewn i’r cylch gorchwyl ar gyfer dogfen ymgynghorol y bydd yn ei chyflwyno i’r Gweinidog Materion Gwledig ddiwedd y flwyddyn. Mae Cynghrair Twristiaeth Cymru wedi brwydro ers ei sefydlu i atal yr anghysondeb chwerthinllyd o gynnal rhagor o bleidleisiau ar yfed ar y Sul yng Nghymru y gelwir amdanynt gan ddyrnaid o weithredwyr sy’n llofnodi dros hyn. Yn awr mae’r Llywodraeth, yn dilyn argymhelliad y Cynulliad, wedi cael gwared â’r ffordd ymwared a gynigid gan refferendwm a chytuno ar bolisi trwyddedu unffurf.

2003

AWST

BU CWMNI YMCHWIL FARCHNAD annibynnol yn gwneud astudiaeth i wybod beth fyddai effeithiau (cadarnhaol a negyddol) ffermydd gwynt ar dwristiaeth yng Nghymru.

Anfonwyd llythyr at Gyllid y Wlad ar ran Aelodau’r Gynghrair, yn mynegi pryder ynghylch y gofynion biwrocrataidd pellach sydd mae’n debyg yn seiliedig ar brisiadau treth fusnes. Roedd aelodau wedi mynegi pryder gan ddweud eu bod wedi cael llythyrau yn gofyn am wybodaeth, yn ôl pob golwg at ddibenion prisiad treth fusnes, oddi wrth Gyllid y Wlad. Gofynnant am fanylion masnachol o ddata marchnata amrywiol, anghynaliadwy neu dymhorol megis tariff a materion nad oedd a wnelont o’r blaen â phroses asesu treth fusnes. Mynegwyd pryder, gan fod y llythyrau yn sôn am gosb lem oni chydymffurfid, y byddai gweithredwyr yn hel gwybodaeth ar frys a’i chyflwyno yng nghanol y flwyddyn at y diben hwn ac na fyddai’r wybodaeth honno efallai yn gyflawn nac yn adlewyrchu cyfrifon terfynol a ddarperir yn broffesiynol i’w cyflwyno’n ffurfiol i Gyllid y Wlad.

8

Penderfynodd tai bwyta Pizza Hut wahardd ysmygu ym mhob un o’r tai bwyta yn y Deyrnas Gyfunol. Dywedodd y cwmni ei fod yn gobeithio y byddai hyn yn gwarchod cwsmeriaid a staff rhag peryglon ysmygu goddefol. Gofynnodd Cynghrair Twristiaeth Cymru i’r Cynulliad am unrhyw gynlluniau i geisio cyflwyno deddfwriaeth ar ysmygu mewn mannau cyhoeddus. S E F Y D L O D D LLYWODRAETH y Cynulliad a’r Bwrdd Croeso weithgor annibynnol i adolygu a darparu cynllun gweithredu ar gyfer twristiaeth yng nghefn gwlad. Cynigiodd y Gynghrair Syr Brooke Boothby (sector carafanau), Sam Richards (Gweithgareddau), Colin Rouse (Gwely a Brecwast), Ian Rutherford (Atyniadau), Peter Smith (Gwestyau) a Julian Burrell (Cadeirydd y Gynghrair a hunanarlwyaeth) fel ei chynrychiolwyr ar y Gweithgor.

6 10 – 13 11 13 16 – 17 18 – 19

2003

MEDI

Cynhaliwyd ail gyfarfod y Bartneriaeth Twristiaeth Ddiwylliannol Genedlaethol. Bu David Chapman yno ar ran y Gynghrair.

2003

HYD

BU JULIAN BURRELL, Cadeirydd Cynghrair Twristiaeth Cymru, yng nghyfarfod Cynghrair Twristiaeth y Deyrnas Gyfunol ym Melffast.

Cymerodd y Gynghrair ran hefyd yn y cyfarfodydd a ganlyn: Cynhadledd Awdurdodau’r Parciau Cenedlaethol, Gr w ˆp Amlbleidiol y Cynulliad ar Ddyfrffyrdd, Gr w ˆp Adolygu Ansawdd y Deyrnas Gyfunol yn Llundain; cyfarfod i drafod cyhoeddi gwybodaeth ar effaith Ffermydd Gwynt ar y diwydiant twristiaeth; Gweithgor Cofrestru Statudol Llywodraeth y Cynulliad; Cynllun Gweithredu Cefn Gwlad y Bwrdd Croeso; cyfarfod Fframwaith Polisi y Bwrdd Croeso; lansio Llygad Busnes a Gr w ˆ p Defnyddwyr Ymweld â Chymru i gytuno ar welliannau yn y tymor byr.

19 25 – 27

27

Cinio’r Gr wp ˆ Seneddol Amlbleidiol ar Dwristiaeth, Llundain Cyfarfod Partneriaeth Wledig Llywodraeth Cynulliad Cymru Marchnad Deithio’r Byd Cinio Blynyddol y Gymdeithas Dwristiaeth, Llundain Gr wp ˆ Adolygu Ansawdd y DG, Llundain Cynhadledd Unedig yr Alban, Glasgow Cyfarfod Gweithgor Cynllun Gweithredu Cefn Gwlad, Bwrdd Croeso Cymru ‘Visit Britain’ Pwyllgor Datblygu Twristiaeth Prydain, Llundain Cwpwrdd Gwydr Cymru, gwahanol lefydd yng Nghaerdydd Gwobrau Twristiaeth Cenedlaethol Cymru, Canolfan Griced Genedlaethol Cymru, Gerddi Sophia, Caerdydd

Rhagfyr 2003 4 9

11

17

Gr wp ˆ Adolygu Ansawdd y DG, Llundain Cyfarfod Pwyllgor Gwaith y Gynghrair, Gwesty Caer Beris Manor, Llanfair ym Muallt Fforwm Agored De Ddwyrain Cymru, Clwb Golff a Gwledig Brynmeadows, Maesycwmmer, Hengoed Gweithgor Twristiaeth Cefn Gwlad y Bwrdd Croeso yn y Metropole

Mai/Mehefin 2004 28 – 6 Mehefin Gˆ wyl Gelli Gandryll y Guardian 31 – 5 Mehefin Eisteddfod yr Urdd, Ynys Môn

Gorffennaf 2004 6 – 11

Eisteddfod Ryngwladol Llangollen 19 – 22 Y Sioe Amaethyddol (Canmlwyddiant), Llanfair ym Muallt 31 – 7Awst Yr Eisteddfod Genedlaethol, Casnewydd

© Bwrdd Croeso Cymru

Cipolwg ar flwyddyn brysur yn gweithio ar eich rhan…


NEWYDDION

Farmstay UK 024 7669 6909 info@farmstayuk.co.uk Consortiwm yw Farmstay UK ym mherchnogaeth ffermwyr, sy’n ceisio hyrwyddo’r syniad o dwristiaeth ar ffermydd yn y DG Twristiaeth Canolbarth Cymru 01654 702653 valh@mid-wales-tourism.org.uk Prif ffynhonnell cefnogaeth i’r economi twristaidd yn y Canolbarth, yn cynrychioli buddiannau twristiaeth ar lefel leol, rhanbarthol a chenedlaethol Ffederasiwn Busnesau Bychain 029 2052 1230 rlawson.wales@fsb.org.uk Corff sy’n lobïo ac ymgyrchu i sicrhau y clywir llais perchnogion busnesau bychain. Twristiaeth Gogledd Cymru 01492 531731 esther.roberts@nwt.co.uk Mae Twristiaeth Gogledd Cymru yn cynrychioli 1300 o gyrff yn y sector preifat a chyhoeddus, o fewn y diwydiant twristiaeth/croeso yng Ngogledd Cymru. Dyma brif ffynhonnell cefnogaeth i’r diwydiant twristiaeth ar sail partneriaeth. Cymdeithasau Twristiaeth yng Ngorllewin Cymru 01267 290455 w.c.rouse@btinternet.com Mae’r cymdeithasau lleol, sef Twristiaeth Sir Benfro, Cymdeithas Twristiaeth Sir Gaerfyrddin, Twristiaeth Abertawe a Gw ˆ yr a Thwristiaeth Castell Nedd a Phort Talbot, yn cynnig i’r diwydiant twristiaeth a chroeso yn ne orllewin Cymru, sefydliad y mae’n berchen arno ac a gyfarwyddir ganddo ac sy’n cyfranogi wrth gyflawni drwy bartneriaeth strategaethau lleol, rhanbarthol a chenedlaethol ar gyfer twristiaeth. Fforwm Twristiaeth a Hyfforddiant Cymru 029 2075 5974 enquiries@ttfw.org.uk Mae’r Fforwm yn hyrwyddo ac yn arwain addysg a hyfforddiant yn y diwydiant twristiaeth.

Cymdeithas Gweithredwyr Hunan-arlwyo Cymru 08701 283152 wasco@bala.wales.org.uk Llais hunan-arlwyo yng Nghymru. Mae’r gymdeithas yn cynnwys pawb, o asiantaethau mawr sy’n gweithredu ym mhob cwr o’r wlad i unigolion sy’n cynnig un bwthyn.

Gan Howard Jenkins, Cymdeithas Gweithredwyr Hunan-arlwyo Cymru MAE SECTOR Y GWYLIAU BYTHYNNOD yn gyfran sylweddol iawn o’r busnesau lletya, yn enwedig yng ‘nghefn gwlad’ Cymru. Mae ar y sector angen cefnogaeth crefftwyr a chyflenwyr lleol ac mae’r arian a werir gan yr ymwelwyr yn cyfrannu i fusnesau lleol. Mae sector y gwyliau bythynnod yn cael effaith sylweddol sy’n sylfaen i’r economi yng nghefn gwlad Cymru.

Cymdeithas Atyniadau Ymwelwyr Cymru 01248 440541 WAVA1@tiscali.co.uk Mae’r gymdeithas yn cefnogi ac yn cynrychioli gweithredwyr atyniadau i ymwelwyr. Mae’n rhoi cyfle i weithredwyr rwydweithio er mwyn trafod problemau a rhannu profiadau.

Mae’r Gymdeithas: Yn croesawu aelodau, gan gynrychioli pob math o fusnesau hunan-arlwyo o’r rhai sy’n berchen ar un bwthyn i’r asiantaethau mwyaf sy’n gweithredu ledled Cymru. Yn hyrwyddo anghenion arbennig busnesau hunan-arlwyo gan fod ganddi aelodau sy’n chwarae rhan weithredol ar gyrff rhanbarthol a chenedlaethol ac sy’n gallu rhannu wedyn eu dealltwriaeth o dwristiaeth ar raddfa genedlaethol a hyrwyddo buddiannau busnesau hunan-arlwyo ar y cyrff hyn. Ymhlith pethau eraill ceir cynrychiolaeth ar Gynghrair Twristiaeth Cymru sydd, gan ei bod yn siarad dros bob maes twristiaeth, yn gallu dylanwadu ar gyfranogiad y sector cyhoeddus.

Cymdeithas yr Hosteli Ieuenctid 029 2039 6766 wales@yha.org.uk Mae’r Gymdeithas yn cynnig llety hawdd ei fforddio mewn 36 o Hosteli Ieuenctid ledled Cymru, y rhan fwyaf ohonynt ym mharciau cenedlaethol Eryri, Bannau Brycheiniog ac Arfordir Sir Benfro. Cyngor Carafanau Cenedlaethol 01252 318251 info@nationalcaravan.co.uk Cymdeithas fasnach oedd y Cyngor yn wreiddiol, ar gyfer diwydiant carafanau’r DG. Mae bellach wedi tyfu ac yn cynrychioli gwneuthurwyr, gwerthwyr, gweithredwyr parciau a darparwyr cyflenwadau a gwasanaethau ym mhob rhan o Brydain a Gogledd Iwerddon.

Yn darparu fforwm lle gall ei haelodau drafod barn ymhlith ei gilydd, gofyn am gyngor, mynegi eu barn yn ei chyfarfodydd agored, siarad ag aelodau o’r cyngor, darllen a chyfrannu at ei newyddlen Yr Allwedd ar bapur ac ar-lein yn www.YrAllwedd.com neu www.WASCO.org.uk Yn ymgynghori yn rheolaidd â Bwrdd Croeso Cymru, sy’n cydnabod y Gymdeithas fel y corff cynrychioladol ar gyfer y diwydiant hunan-arlwyo yng Nghymru. Cynrychiolir Bwrdd Croeso Cymru yng nghyfarfodydd Cyngor y Gymdeithas gan uwch swyddog er mwyn hwyluso cyfnewid barn i’r naill gyfeiriad a’r llall. Ymhlith y materion y mae’r Gymdeithas yn ymwneud â hwy y mae: cyflwyno cynllun graddio sêr, newidiadau arfaethedig i gysoni’r cynlluniau cyfredol ar draws y Deyrnas Gyfunol, goblygiadau Cofrestru Statudol, newidiadau i www.visitwales.com, newidiadau i’r polisi Annomestig presennol, goblygiadau Ddeddf Anffafrio’r Anabl.

Cymdeithas Tywyswyr Teithiau Swyddogol Cymru 01633 774796 enquiry@walestourguides.com Mae’r Gymdeithas hon yn hyrwyddo a chynrychioli buddiannau tywyswyr hunan-gyflogedig cymwys yng Nghymru. Cymdeithas Asiantau Cymru 01492 582492 barbara@nwhc.demon.co.uk Mae’r Gymdeithas yn cynrychioli nifer fawr o weithredwyr hunan-arlwyo, llawer ohonynt yn cynnig un ffermdy neu fwthyn yn unig ac eraill yn rhedeg llefydd mwy. Bydd yn sicrhau gwell cynrychiolaeth i bob Asiant, bach a mawr. Antur Cymru 01348 840763 sealyhamsam@aol.com Antur Cymru yw’r ymbarèl sy’n cynrychioli addysg awyr agored, adloniant a thwristiaeth yng Nghymru. Mae’n darparu fforwm beirniadol i gyfnewid syniadau a datblygu ymatebion cefnogol a mentrau yn y cyswllt hwn.

Yn cynnig cyfle i’r aelodau hyrwyddo eu busnesau ar ei gwefan ardderchog yn www.walescottages.co.uk . a chael cysylltiad trwy’r wefan hon i’w gwefan eu hunain.

© Wales Tourist Board

Cymdeithas Croeso Prydain 0207 404 7744 martin.couchman@bha.org.uk Y gymdeithas genedlaethol sy’n cynrychioli’r diwydiant gwestyau, tai bwyta ac arlwyo

SYLWADAU’R GYNGHRAIR

Cymdeithas Gweithredwyr Hunan-arlwyo Cymru

PWY I GYSYLLTU Â NHW YN Y GYNGHRAIR Cymdeithas Parciau Gwyliau a Chartrefi Prydain 01452 526911 enquiries@bhhpa.org.uk Dyma’r corff sy’n cynrychioli’r diwydiant parciau yn y Deyrnas Gyfunol

A

9


YN FLASUS WAHANOL CIG OEN AC EIDION CYMRU O ANSAWDD

Mae HYBU CIG CYMRU / MEAT PROMOTION WALES yn cynrychioli’r diwydiant cyfan yng Nghymru ac yn siarad ar ran datblygu, hyrwyddo a marchnata cig coch o Gymru. Yn ddiweddar cafodd Cig Oen Cymru a Chig Eidion Cymru eu dynodi’n gynhyrchion Dynodiad Daearyddol Gwarchodedig (PGI) gan y Comisiwn Ewropeaidd, sy’n golygu taw dim ond cig oen ac eidion o anifeiliaid a gafodd eu geni a’u magu yng Nghymru y gellir ei ddisgrifio felly. Mae’r enw da am ansawdd yn cael ei adlewyrchu hefyd yn ein delweddau brand newydd ar gyfer Cig Oen Cymru a Chig Eidion Cymru sy’n meithrin cryfderau’r cynhyrchion ac yn cadarnhau bod cwsmeriaid yn eu cysylltu â chig Cymreig o ansawdd a’r ffordd unigryw a’r amgylchedd llesol sy’n ymwneud â’i gynhyrchu. Mae ein dull ffres a modern o hyrwyddo’r brandiau Cig Oen Cymru a Chig Eidion Cymru yn symboleiddio glaswellt Cymru a’r awyr las a chlir sy’n helpu cwsmeriaid i uniaethu â’r cynhyrchion hyn sy’n flasus wahanol ac yn destun balchder i ni.

HYBU CIG CYMRU / MEAT PROMOTION WALES Blwch SP 176 Aberystwyth SY23 2YA Ffôn: 01970 625050 Ffacs: 01970 615148 E-bost: enquiries@hccmpw.org.uk Y We: www.hccmpw.org.uk


NEWYDDION

A

SYLWADAU’R GYNGHRAIR

CTC – Llais Cryf Dros Y Diwydiant Twristiaeth Gan Philip Evans, Cadeirydd Bwrdd Croeso Cymru RWYF YN FALCH IAWN o gael y cyfle i’ch cyfarch yn ail gynhadledd flynyddol Cynghrair Twristiaeth Cymru. Gwaetha’r modd, ni allaf fod gyda chi fy hun oherwydd fy mod yn arwain elfen dwristiaeth ‘Tîm Cymru’ yn Awstralia ar hyn o bryd ond rwyf yn dymuno dau ddiwrnod llwyddiannnus iawn i chi. Mae Cynghrair Twristiaeth Cymru wedi mynd o nerth i nerth; mae’r Gynghrair bellach yn cynrychioli dros 7,000 o fusnesau a mudiadau ym myd twristiaeth ac rwyf yn hynod falch bod gan y diwydiant twristiaeth yng Nghymru – un o’r diwydiannau mwyaf yn y wlad – lais credadwy, proffesiynol a deallus bellach sy’n gallu ei gynrychioli ar yr holl faterion allweddol, gan lobïo’r llywodraeth a’r bwrdd croeso pan fo angen. Mae’r Bwrdd yn cefnogi yn llwyr gorff sy’n rhoi llais mor gryf i’r diwydiant twristiaeth. Efallai y bydd y Bwrdd yn hyrwyddo strategaethau gwahanol i rai o rai’r Gynghrair, oherwydd bydd ein strategaethau ni wastad yn canolbwyntio ar gynyddu cyfran Cymru o’r farchnad tra bydd gan Gynghrair Twristiaeth Cymru flaenoriaethau masnachol arbennig, ond rwyf yn sicr y bydd gennym o hyd yr un nod terfynol.

Bydd y Gynghrair yn allweddol wrth sicrhau y cynhwysir y diwydiant wrth ddatblygu polisi ar dwristiaeth ac mae wrthi eisoes yn edrych ar bolisi graddio cyffredin i’r Deyrnas Gyfunol. Rydym hefyd yn cydweithio mewn partneriaeth ar gofrestru statudol. Rydym eisoes wedi sicrhau cefnogaeth gan y llywodraeth a bydd mabwysiadu cynllun cofrestru statudol yn rhoi i Gymru fantais glir dros ein cystadleuwyr. Byddwn ni’n gallu dweud mai ni yw’r unig wlad yn y DG sy’n gallu rhoi gwarant i’r cwsmer am safon y cynnyrch. Unwaith eto, bu cyfraniad eich cadeirydd i’r gr w ˆ p llywio ar sicrhau polisi graddio cyffredin yn y DG yn broffesiynol dros ben. Gobeithio y bydd yr ail gynhadledd mor llwyddiannus â’r gyntaf ac yn cynnig cymaint i gnoi cil drosto.

Mae Bellamy Yn Canmol Parciau Gwyrdd Ein Gwlad Gan Ros Pritchard Prif Weithredwr, Chymdeithas Parciau Gwyliau a Chartrefi Prydain

Mae CPG&CP yn gofalu am fuddiannau’r diwydiant drwy helpu’r aelodau i ddatblygu

Mae parciau gwyliau yng Nghymru yn cynrychioli’r sector lletya unigol mwyaf sy’n cyfrannu at economi twristaidd y wlad. Mae’r gymdeithas yn hyrwyddo buddiannau’r diwydiant trwy helpu’r aelodau i ddatblygu a chynnal y safonau ansawdd uchel sy’n nodweddiadol o’r diwydiant. Cyflawnir hyn trwy nifer o fentrau gwahanol, gan gynnwys gweithio ar y cyd gyda’r awdurdodau twristiaeth i reoli cynllun graddio ansawdd y parciau ac annog busnesau i gymryd rhan, sefydlu codau ymarfer a’u rhoi ar waith a darparu cyngor proffesiynol ar bob

agwedd ar reoli parciau er lles y cwsmeriaid, gan gynnwys hyfforddi staff a darparu cyfleusterau ar gyfer gwesteion anabl. © Bwrdd Croeso Cymru

MAE’R CADWRAETHWR BLAENLLAW David Bellamy wedi llongyfarch y 70 a mwy o barciau gwyliau yng Nghymru a enwyd yr hydref hwn fel enillwyr ei Gynllun Gwobrau Cadwraeth o fri. Dyfernir y gwobrau blynyddol gan yr Athro Bellamy i barciau sydd wedi mabwysiadu mentrau arbennig i warchod byd natur, ac fe’u trefnir mewn cysylltiad â Chymdeithas Parciau Gwyliau a Chartrefi Prydain.

Mae’r parciau sy’n aelodau hefyd yn manteisio ar gymorth marchnata trwy nifer o strategaethau a arweinir gan y Gymdeithas, gan gynnwys cael eu rhestru gyda’r holl aelodau ar wefan boblogaidd y Gymdeithas, sef www.ukparks.com, a chyfle i gymryd rhan yng Nghynllun Gwobrau Cadwraeth David Bellamy, lle gwelwyd eleni dros 500 o wobrau amgylcheddol yn cael eu cyflwyno i barciau ledled y Deyrnas Gyfunol gan yr Athro Bellamy. Hwylusir cymorth gyda rheoli’r parc o ddydd i ddydd trwy’r mynediad a roddir i’r aelodau i adnoddau gwybodaeth eang y Gymdeithas, sy’n cael eu diweddaru yn rheolaidd. Gall y parciau dderbyn cyngor awdurdodol a chyfredol ar

bynciau sy’n cynnwys sut i gydymffurfio â’r ddeddfwriaeth a’r rheoliadau perthnasol a chymorth gyda materion cynllunio. Rhan arbennig o bwysig o waith y Gymdeithas dros ei haelodau yw ei gwaith yn cynrychioli’r diwydiant ar lefel llywodraeth y Deyrnas Gyfunol ac Ewrop. Mae’r Gymdeithas yn chwarae rhan weithredol yn y broses ymgynghori wrth i ddeddfwriaeth newydd gael ei llunio sy’n effeithio ar berchnogion parciau ac mae’n helpu i sicrhau bod buddiannau’r sector yn cael eu hystyried pryd bynnag y mae newidiadau i’r rheoliadau dan ystyriaeth.

11


NEWYDDION

A

SYLWADAU’R GYNGHRAIR

Yr Anghysbell Yn Nes MAE DIWEDD

cyfnod ar gyfer Hostel Ieuenctid Anghysbell wedi cynnig cyfle busnes diddorol dros ben yng nghanol harddwch Bannau Brycheiniog. Bydd rheolwr Hostel Ieuenctid Ystradfellte, Dilys Jenkins, yn ymddeol ym mis Tachwedd, gan ddod â 40 mlynedd o waith gan ei theulu yn yr Hostel Ieuenctid i ben. Mae Cymdeithas yr Hosteli Ieuenctid yn chwilio yn awr am rywun sy’n awyddus i fwynhau bywyd tawel yng nghefn gwlad a hefyd yn fodlon buddsoddi yn y busnes. Y cynnig yw rhedeg yr Hostel Ieuenctid o dan gytundeb detholfraint mewn partneriaeth gyda Chymdeithas yr Hosteli Ieuenctid. Fodd bynnag, bydd angen i’w gydberchnogion newydd fuddsoddi yn sylweddol yn yr eiddo i ddod ag ef i fyny i safon tair seren Bwrdd Croeso Cymru ar gyfer llety i ymwelwyr. Bydd angen talu ffi flynyddol i Gymdeithas yr Hosteli Ieuenctid i dalu am ei chefnogaeth farchnata, gwasanaeth bwcio a chefnogaeth weithredol. Mae’r eiddo yn Hostel Ieuenctid ers 1948, pan brynodd y Gymdeithas y gr w ˆ p o fythynnod i weithwyr y cyngor, i’r de i bentref bach tawel Ystradfellte ac o fewn taith gerdded hamddenol i ardal ysblennydd Coed y Rhaeadr a Phorth-yrOgof. Mae lle i 28 o hostelwyr gysgu yn y ddau brif adeilad ar hyn o bryd, ac mae’n rhaid iddynt goginio drostynt eu hunain. Mae’r Gymdeithas yn credu y gallai’r adeilad, ar ôl cael ei adnewyddu, gynnwys caffi neu ystafell de hefyd. Mewn pentref sydd ag eglwys, swyddfa bost, tafarn a dim llawer o gyfleusterau eraill a lle mai ffermio defaid yw’r prif ffynhonnell gwaith, mae’r Hostel Ieuenctid yn rhan annatod o’r gymuned ac mae ei bresenoldeb yn helpu i sicrhau bod twristiaeth yn dal i ddod â refeniw ychwanegol i mewn. Dywedodd Alison Crawshaw, Rheolwr Ardal Cymdeithas yr Hosteli Ieuenctid dros Fannau Brycheiniog: “Mae potensial gwirioneddol yma, er bod angen dybryd am fuddsoddiad newydd. Ni allwn addo y bydd y sawl sy’n ei gymryd drosodd yn ennill ffortiwn. Bydd rhywun yn gorfod penderfynu dod er mwyn cael ffordd wahanol o fyw, ond nid oes llawer o lefydd mor hyfryd â hyn lle mae’r math yma o gyfle ar gael. “Dan y cytundeb detholfraint, byddwn ni’n cynnig i berchennog newydd y busnes gefnogaeth ymarferol o ran ein harbenigedd yn y diwydiant twristiaeth, ein hadnoddau marchnata, gwasanaethau bwcio canolog ac, wrth gwrs, brand enwog Cymdeithas yr Hosteli Ieuenctid.”

12

Mae Dilys (64) wedi rheoli’r Hostel Ieuenctid ers 1991, pan gymerodd hi drosodd gan ei mam Ethel, a fu’n ei redeg am 30 mlynedd. Mae’n cofio gorfod nôl dˆ wr o’r pentref cyn i gyflenwad gael ei osod yn yr Hostel Ieuenctid a gorfod nôl cyflenwadau argyfwng pan gaewyd yr Hostel Ieuenctid oherwydd eira am ddeg diwrnod, gyda’r lluwchfeydd yn cyrraedd y ffenestri i fyny’r grisiau. Mae Dilys hefyd yn cofio mor hoff yw gwesteion o Hostel Ieuenctid Ystradfellte, ac yn arbennig cwpl o’r Swistir ar eu mis mêl oedd yn ddigon hapus i gysgu mewn storfa pan oedd pob gwely arall yn llawn. Meddai Dilys: “Mae’n rhaid i chi ymroi i’r swydd ac yn sicr ni fyddwch yn gweithio o naw tan bump. Byddwch yn byw yn yr eiddo. Byddwch yn codi’n gynnar ac yn mynd i’r gwely yn hwyr a bydd angen i chi droi eich llaw at bopeth. Dwi ddim yn dweud ein bod ni’n arbennig, ond mae angen y math yna o berson. Mae’n ffordd o fyw yn hytrach na swydd. “Mae’r wlad yma yn wych ac mae’n lle tawel, ond rydych yn ddigon agos at yr holl gyfleusterau os oes arnoch eu hangen. “Rydym wedi croesawu pob math o ymwelwyr ac mae’n debyg i deulu estynedig. Mae llawer ohonynt yn dweud eu bod yn hoffi’r lle ac y byddant yn dod yn ôl, ac maent yn gwneud.” Gellir mynegi diddordeb yn Hostel Ieuenctid Ystradfellte trwy gysylltu â Chymdeithas yr Hosteli Ieuenctid ar y rhif 01629 592675 neu anfon e-bost at enterprise@yha.org.uk Am wybodaeth bellach cysylltwch os gwelwch yn dda â Swyddog y Wasg, Cymdeithas yr Hosteli Ieuenctid, sef Rob James, ar y rhif 01629 592775 neu e-bost robjames@yha.org.uk

DAVID BAIRDMURRAY 1931 – 2003 Ar 3 Mai bu farw David Baird-Murray OBE, Cadeirydd cyntaf Cynghrair Twristiaeth Cymru, yn 72 oed. Mynychodd Julian Burrell, Cadeirydd presennol y Gynghrair, John Walsh-Heron, Mick Payne, Peter Heard, David Chapman a Jonathan Jones, Prif Weithredwr Bwrdd Croeso Cymru, ei wasanaeth goffa yn Llandrindod ddydd Mercher, Mai 14. Hyrwyddodd David sefydlu’r Gynghrair ar ôl etholiadau’r Cynulliad Cenedlaethol ym 1999 a gweithiodd trwy gyfnod ei Gadeiryddiaeth (1999-2002) i sicrhau bod yr aelod-fudiadau yn cydweithio a chyflawni potensial mawr y diwydiant twristiaeth ledled Cymru. Bu’n cynrychioli Cymdeithas Croeso Prydain (BHA) ar y Gynghrair, ar ôl gweithio dros y BHA a llawer o fudiadau twristiaeth eraill yn ystod ei yrfa, yn gysylltiedig am flynyddoedd â Gwesty’r Metropole yn Llandrindod. Roedd gwaith David yn allweddol wrth ffurfio a sefydlu’r Gynghrair ac yn ei hymdrechion i sicrhau cydnabyddiaeth ehangach o fuddion economaidd y diwydiant; roedd David yn effeithiol mewn pwyllgorau ac yn rhoi yn hael o’i amser wrth geisio symud pethau yn eu blaenau. Yn ddyn cadarnhaol, oedd yn creu undod a thawelwch meddwl, roedd David yn gyfaill i bawb a weithiai gydag ef ac roedd pawb a’i hadwaenai yn llwyr cytuno â’r brif deyrnged a fynegwyd yn ei wasanaeth coffa – sef bod David yn w ˆ r bonheddig.


NEWYDDION

Yn Gaeth Yn Y We MAE NAW O BOB deg defnyddiwr yn y Deyrnas Gyfunol wedi rhoi’r gorau o leiaf unwaith i geisio bwcio gwyliau ar y we oherwydd perfformiad gwael y wefan, yn ôl arolwg newydd.

Dadleua Nigel Thomas, Cyfarwyddwr Marchnata (Ewrop) CatchFIRE Systems, fod cyflenwyr yn colli elw ac yn gweld eu costau am bob trafodiad yn codi yn sylweddol trwy beidio â rheoli’r galw am eu gwefan yn iawn. “Y peth pwysig yw canfod pa rai yw’r cleientau pwysig – sef y rhai sy’n mynd i fwcio – a sicrhau y gallant gwblhau eu busnes heb oedi neu gael eu rhwystro gan borwyr gwerth isel sydd am edrych am amserau yr awyren i Hawaii fis Mawrth nesaf.”

© Bwrdd Croeso Cymru

Yn ôl arolwg 2003 CatchFIRE Systems eCommerce, mewn 70% o’r achosion aeth pobl i sianel arall fel canolfan alw neu asiantaeth ar y stryd fawr, a throdd 30% eraill at wefannau cystadleuwyr neu rhoesant y ffidil yn y to.

llawer mwy o ymwelwyr Ewropeaidd ar eu ffordd i Gaerdydd cyn bo hir i brofi naws a diwylliant bywiog y ddinas. Mae’r ddinas yn un o’r partneriaid mewn ymgyrch teithiau byr yn costio £4 miliwn a lansiwyd gan VisitBritain i hybu twristiaeth o wledydd Ewrop yn ystod yr hydref hwn ac yna yn 2004.

DYFARNWYD GWOBR AUR I FWRDD CROESO CYMRU am yr

Y partneriaid yng Nghymru ar gyfer yr ymgyrch yw Bwrdd Croeso Cymru, Menter Caerdydd a Thwristiaeth Rhanbarth y Brifddinas, ac mae’r cwmnïau hedfan bmibaby ac AirWales wedi ymuno â hwy. Bydd yr ymgyrch yn manteisio ar gysylltiadau bmibaby i Paris, Toulouse a Cork a chysylltiadau Airwales i Cork a Dulyn.

hysbyseb radio orau yn hysbysebu gwyliau yn y gwobrau hysbysebu gan Gr w ˆp y Diwydiant Gwyliau, Sefydliad Siartredig Marchnata (CIMTIG). Cynhyrchwyd yr hysbyseb fel rhan o’r ymgyrch farchnata tair blynedd ‘Cymru – y Wlad Fawr’ a lansiwyd yn rhanbarthau allweddol y Deyrnas Gyfunol ym mis Ionawr 2002.

SYLWADAU’R GYNGHRAIR

Canmoliaeth I Gaerdydd Fel Rhywle “Y Mae’n Rhaid Ei Weld” EFALLAI Y BYDD

Gwobr Aur I’r Wlad Fawr

A

Daeth dros hanner y 24.1 miliwn o ymwelwyr i Brydain yn 2002 o’r 11 o wledydd lle bydd yr ymgyrch yn rhedeg a daeth 1.5 miliwn o bobl o Ewrop ym mis Mehefin yn unig eleni. Anogir ymwelwyr o Ffrainc ac Iwerddon i ddod i Gaerdydd i fwynhau siopa, theatr, amgueddfeydd ac orielau, bywyd nos a gweld golygfeydd, gan gael gwyliau byr ardderchog. Am wybodaeth bellach, cysylltwch os gwelwch yn dda â: Heledd Llewelyn, Swyddog y Wasg, Bwrdd Croeso Cymru, 029 20 475 326 Elliott Frisby, Swyddog Corfforaethol y Wasg, Visit Britain: Ffôn – 020 8563 3035, Symudol – 07951 996241

…mwynhau siopa, mynd i’r theatr, amgueddfeydd ac orielau, bywyd nos a gweld golygfeydd

Crëwyd hysbyseb y Wlad Fawr gan HHCL / Red Cell ac fe drechodd gystadleuaeth gref gan ymgeiswyr eraill ar y rhestr fer, sef: British Airways, P&O Cruises a Historic Royal Places.

Am wybodaeth bellach, cysylltwch os gwelwch yn dda ag adran gyfathrebu Bwrdd Croeso Cymru ar y rhif 029 2047 5326 (ISDN 029 2040 7799) neu anfonwch e-bost: press@twristiaeth.wales.gov.uk

© Bwrdd Croeso Cymru

Darlledwyd yr hysbyseb ar Ddydd G w ˆ yl Dewi, i ddenu pobl i Gymru. Fe’i cysylltwyd gyda Brand y Wlad Fawr a thema lliniaru straen a lles. Yn lle’r “hysbysebion plagus” arferol yn y slotiau hysbysebu, cafwyd yr hysbyseb 90 eiliad yma gyda sw ˆ n tonnau’r môr ac adar yn canu yn fodd i dawelu’r meddwl.

13


NEWYDDION HYFFORDDI

GAN

GTC

Morâl Morol Moes Mwy © Bwrdd Croeso Cymru

Sˆ w Môr Môn, atyniad sydd wedi ennill gwobrau ac sydd yn cyfleu neges glir i’w weithwyr a’i gwsmeriaid

CWMNI SY’N CREDU fod hyfforddiant yn dwyn ffrwyth yw Sˆ w Môr Môn, atyniad sydd wedi ennill gwobrau ac sydd yn cyfleu neges glir i’w weithwyr a’i gwsmeriaid. Mae ganddo bolisïau cyflogi effeithiol gan gynnwys cynllun gwerthuso sy’n gysylltiedig â phroses y Sˆ w Môr ar gyfer cynllunio busnes, mewn ymgais i ddenu a chadw’r staff gorau posibl. Dywed y cwmni fod pawb o’r staff parhaol a thymhorol wedi derbyn hyfforddiant llawn a bod ganddynt gymhelliant, ac mae’r buddsoddiad yma wedi arwain at well perfformiad busnes a phroffidioldeb. Mae’r atyniad wedi cael statws Buddsoddwyr mewn Pobl ers 1996. Busnes teuluol ydyw, a lansiwyd yn 1983 ac fe’i gweithredir fel partneriaeth gan David ac Alison Lea Wilson, gyda thair cenhedlaeth o’r un teulu yn helpu. Mae’r Sˆ w Môr yn aelod o Gymdeithas Twristiaeth Ynys Môn, Cymdeithas Atyniadau Ynys Môn, y Deg Atyniad Uchaf a Chymdeithas Atyniadau Ymwelwyr Cymru.

Meddai Alison Lea Wilson, un o’r partneriaid:

14

“Er enghraifft, mae cynorthwywyr gwerthu wedi bod ym Mhortmeirion a siop o eiddo’r Ymddiriedolaeth Genedlaethol mewn tref i weld systemau rheoli stoc ac arddangosfeydd. Mae rhai o staff y sˆ w wedi bod i Norwy i astudio sut y mae cimychiaid yn deor ac Acwariwm Llundain i edrych ar drin ceffylau môr. Yn sgil y lleoliad olaf a enwyd, cafodd ein sgiliau eu cydnabod gan Dollau Cartref a Thramor Ei Mawrhydi, a anfonodd gasgliad o geffylau môr a ataliwyd atom ni i’w cadw’n ddiogel. Roeddent wedi eu cymryd yn Heathrow, ar eu ffordd i mewn o Fflorida, ac er gwaethaf y broblem o gadw stoc gwyllt maent wedi ymaddasu’n dda yn eu hamgylchedd newydd. Yn olaf, treuliodd ein Gweinyddwraig Fusnes ddiwrnod yn Sˆ w Mynydd Cymru yn edrych ar systemau swyddfa a rhoi cynnig ar gael adar ysglyfaethus i hedfan!

Mae gwneud pethau fel hyn yn talu ar ei ganfed, oherwydd y cyfle i rannu arfer dda a rhwydweithio gyda busnesau o’r un fryd â ni. Mae hefyd yn hwyl ac yn symbyliad i’r bobl dan sylw.” Mae’r staff yn cael eu hannog i fod yn rhan o’r fenter hefyd trwy ddod â’r cwmni i gyd ynghyd ar ddiwedd pob tymor pan drafodir cynlluniau ar gyfer y flwyddyn wedyn. Y llynedd fe wnaeth y staff ‘gerdded trwy’ profiad yr ymwelydd ac eleni fe ganolbwyntiwyd ar ddehongli a marchnata. Daeth dros gant o syniadau i’r fei ac mae llawer o’r rhain yn awr yn y cynllun busnes. Mae’r Sˆ w Môr yn credu fod ei lwyddiant yn llwyr ddibynnol ar ei staff. ‘Oni bai am ymroddiad a brwdfrydedd ein staff, ni fyddai gan yr ymweliad yr un apêl. Rydym yn cystadlu yn erbyn atyniadau llawer mwy a mwy adnabyddus mewn cymdeithas sy’n fwy a mwy prin o amser. Mae pobl yn dod atom ni am ein bod yn cynnig profiad gwirioneddol drwy law pobl frwdfrydig sydd yn wir awyddus i roi amser da i’r ymwelydd.’

Rhoi’r Troed Gorau Ymlaenaf MAE BWRDD CROESO CYMRU wedi dewis tair ardal yng Nghymru i gymryd rhan mewn cynllun peilot ar gyfer cerdded mewn trefi a phentrefi. Y tair ardal yw Blaenafon yn Nhorfaen, Llanfynydd yn Sir Gaerfyrddin ac Amlwch a’r cyffiniau yn Ynys Môn. Bydd Bwrdd Croeso Cymru yn ariannu pob cynllun peilot gyda hyd at £15,000 yn ystod 2003/2004. Gellir ategu at yr arian hwn trwy gynlluniau ariannu eraill, fel cynlluniau Amcan Un a chronfeydd adfywio cymunedol.

© Bwrdd Croeso Cymru

Dyma’r atyniad cyntaf yng Nghymru i dderbyn achrediad VAQAS Cymru ym mis Gorffennaf 2003. Mae’r Sˆ w Môr yn llawn canmoliaeth i’r gwasanaeth newydd, a ddefnyddiwyd ganddo fel awdit mewnol. Gofynnwyd i aelodau’r staff edrych ar feysydd y tu allan i’w hadran nhw a llunio rhestr o bwyntiau gweithredu i’w gwella. Mae’r pwyntiau gweithredu gan yr Asesydd wedi eu cynnwys yng nghynllun busnes 2004. Cafodd llwyddiant y busnes ei gydnabod hefyd pan enillwyd Gwobr Amgylcheddol Schroder/Bwrdd Croeso Cymru a Gwobr Iechyd Corfforaethol Aur.

“Mae ein hymrwymiad hirdymor i hyfforddiant a datblygiad personol wedi golygu fod ysbryd da iawn ymhlith y staff. Un o’r pethau mwyaf anarferol yr ydym yn ei wneud o ran datblygiad yw trefnu lleoliadau gwaith. Mae’r staff yn cael cyfle i fynd i fusnesau eraill am gyfnod.


RHIFYN ARBENNIG CYNHADLEDD Y GYNGHRAIR © Bwrdd Croeso Cymru

Llandudno – Neisiach na Nice! Gan Denise Idris-Jones, AC

Mae Etholaeth Conwy yn estyn o’r dwyrain i Landudno ar hyd yr arfordir i orllewin Bangor ac wedyn i lawr Dyffryn Ogwen ysblennydd, gan gynnwys tref chwarelyddol Bethesda.

…mae’n dal i fod yn gain a chymen ac yn hynod boblogaidd gydag ymwelwyr

Mae’n ardal arbennig – gyda phobl arbennig – ac mae’n cynnwys amrywiaeth eang o dirwedd, o’r traethau i’r mynyddoedd. Tlws y goron, mae’n rhaid dweud, yw Llandudno. Mae Llandudno yn fy atgoffa o Nice yn Ne Ffrainc, gyda’i rhes glan môr hir, gain a’i phromenâd llydan; mewn gwirionedd yn fy marn i mae Llandudno yn well na Nice gan fod ganddi’r nodwedd unigryw, sef dwy res glan-môr, gefn wrth gefn, gyda phrin filltir rhyngddynt. Wedi’i chynllunio o ddim byd yng

Rwyf yn llongyfarch Cynghrair Twristiaeth Cymru am weithredu’n effeithiol dros y llu o fudiadau twristiaeth yng Nghymru. Sefydlwyd y Gynghrair ym 1999 – yr un flwyddyn â’r Cynulliad Cenedlaethol – ac mae parch mawr tuag ati ledled Prydain a’r byd. Cynhelir y Gynhadledd yn Llandudno am y tro cyntaf eleni. Rwyf yn hyderus y bydd hyn yn gosod cynsail a dymunaf amser hyfryd a buddiol i’r cynrychiolwyr ym “Mrenhines Trefi Glan Môr Cymru.”

nghanol y bedwaredd ganrif ar bymtheg, crëwyd Llandudno gan deulu Mostyn, fel canolfan iachusol i ymwelwyr. Deuai’r rhan fwyaf ohonynt ar y trên bryd hynny, gan ddisgyn yng Nghyffordd Llandudno, yr orsaf ar y brif reilffordd. Trwy lwc, nid yw wedi newid llawer, mae’n dal yn gain a dilanastr (nid oes neb yn gwerthu cˆ wn poeth a phethau tebyg ar y promenâd) ac mae’n dal yn boblogaidd iawn gydag ymwelwyr. Byddaf yn cyfarfod yn aml â phobl sy’n sôn gyda phleser am eu harosiadau rheolaidd mewn gwestyau yn Llandudno. Mae Gogledd Cymru yn lle gwych ar gyfer twristiaeth. Fe’i lleolir o fewn cyrraedd rhwydd mewn car o Birmingham, Manceinion, Lerpwl a Leeds, ac mae trefi prysur fel Llangollen a Betws-y-Coed yn dangos faint o bobl sy’n gyrru i’r ardal am y diwrnod. Rwyf yn falch o ddweud bod tymor y twristiaid yn mynd yn hwy gyda mwy o ymwelwyr yn yr hydref a thywydd braf bellach ym mis Hydref a hyd yn oed Tachwedd.

© Bwrdd Croeso Cymru

FEL AELOD Y CYNULLIAD dros Etholaeth Conwy, mae’n bleser a braint i mi gyfrannu at Twristiaeth a meddwl am bwysigrwydd y diwydiant twristiaeth i Ogledd Cymru.

Mae’n hanfodol buddsoddi mewn canolfannau twristaidd os ceir, yn lle’r hen batrwm o “wythnos ar lan y môr”, model newydd lle mae’r ymwelwyr yn elwa a lle cynigir trefn sy’n hyfyw yn economaidd. Hoffwn weld atyniadau sydd wedi’u cynllunio yn dda gyda llawer o waith meddwl tu ôl iddynt, fel (i enwi tair enghraifft yn unig) “Drysfa’r Brenin Arthur” yng Nghorris, Ceudyllau Llechwedd ym Mlaenau Ffestiniog a Thrên Bach yr Wyddfa yn Llanberis. Mae’n rhaid i ni warchod ein tirwedd gwerthfawr, mae’n rhaid i ni ddiddanu ac addysgu’r ymwelydd; rydym yn falch iawn o’n hetifeddiaeth a’n diwylliant.

Grant yn rhoi hwb i brosiect yn Neganwy CAFODD DATBLYGIAD GWESTY pum seren yn costio £12 miliwn ar lan moryd ysblennydd Conwy yn y Gogledd hwb arall gyda chymorth grant gan Fwrdd Croeso Cymru. Mae’r Bwrdd wedi cytuno i roi £650,000 tuag at y cynllun – rhan o brosiect uchelgeisiol Cei Deganwy, sydd hefyd yn cynnwys marina a thai, gyda chyfanswm y buddsoddiad tua £35 million. Bydd tua 90 o swyddi yn cael eu creu, y rhan fwyaf ohonynt yn y gwesty. Y datblygwr yw Lifetime Projects Ltd, a arweinir gan Alan Waldron, cyn-beldroediwr proffesiynol gyda Bolton Wanderers a datblygwr eiddo bellach, a’i bartner John Ward. Mae llawer o waith wedi’i wneud ar adeiladu’r marina a’r tai. Bydd y marina yn agor ym mis Ebrill 2004, gyda gwaith i ddechrau ar y gwesty yn ystod y gwanwyn nesaf ac i’w gwblhau cyn

pen dwy flynedd. Mae Awdurdod Datblygu Cymru yn adfer safle diffaith ar gyfer y gwesty. Meddai Andrew Davies, Gweinidog Datblygu Economaidd a Thrafnidiaeth Cymru: “Cynllun gwych yw prosiect Deganwy yn un o’r lleoliadau gorau yn y Deyrnas Gyfunol. Bydd yn gwneud cyfraniad mawr at godi proffil yr ardal hardd hon yng Ngogledd Cymru fel man arbennig i gael gwyliau.” Meddai Jonathan Jones, Prif Weithredwr Bwrdd Croeso Cymru: “Fel rhan o’r holl gynllun, bydd gan y gwesty gyda’i chyfleusterau iechyd a harddwch arfaethedig rôl bwysig wrth farchnata arfordir y Gogledd a daw’r gwesty i safon pum seren y Bwrdd Croeso. Bydd yn eithaf llawn trwy gydol y flwyddyn a bydd yn darparu swyddi newydd gwerthfawr. Cymerwyd gofal mawr wrth ei gynllunio i sicrhau y bydd yn gweddu i’r lleoliad sensitif hwn.”

Bydd gan y gwesty 43 o gyfresi o rhwng un a thair o lofftydd a byddant i gyd yn edrych dros yr aber neu’r marina. Meddai Alan Waldron, y Rheolwr Gyfarwyddwr: “Mae’r safle yn haeddu gwesty o fri ac mae’n bwysig bod un i’w gael yn yr ardal. Bydd yn cyflenwi’r cyfleusterau eraill yn yr Ardal Twf Twristiaeth Strategol ac ni fydd yn cystadlu â hwy. Mae’r grant hwn yn ffactor allweddol wrth sicrhau y bydd y gwesty yn cael ei adeiladu a’i reoli i lefelau ansawdd uchel, gan gynnig cyfleoedd gwych am gyflogaeth trwy gydol y flwyddyn. Byddwn yn dal i weithio gyda’r Bwrdd Croeso i ychwanegu cymaint o werth ag y bo modd i economi’r Gogledd.” Gwybodaeth bellach gan Swyddfa’r Wasg, Bwrdd Croeso Cymru neu George Newsome, 01492 583984

15


RHIFYN ARBENNIG CYNHADLEDD Y GYNGHRAIR

Hyrwyddo Ac Aros Mewn Busnes!

Gan Billy Dixon, Ymgynghorydd Personol ar Farchnata a siaradwr gwâdd yn y gynhadledd eleni

MAE’R DIWYDIANT TWRISTIAETH yn dibynnu yn fawr ar adeiladu perthnasau cryf, parhaus â’u cwsmeriaid a chwsmeriaid potensial. Bwriad y sesiwn a arweinir gennyf yng nghynhadledd Cynghrair Twristiaeth Cymru yw helpu’r cynrychiolwyr i ddeall pwysigrwydd canfyddiadau i lwyddiant cyffredinol a phroffidioldeb busnes. Bydd y ffordd y byddwch chi a’ch staff yn eich cyfleu eich hunain yn cael effaith uniongyrchol ar foddhad cwsmer. Mewn geiriau eraill, rydych chi ac aelodau eraill o’ch staff yn hysbysebion byw i’ch busnes. Bydd y sesiwn hwn yn trafod materion megis gwneud argraff gyntaf gadarnhaol, dangos hyder, datblygu ymddiriedaeth, pwysigrwydd ansawdd, adeiladu perthynas fusnes dda a chynnal perthynas barhaus a phroffidiol. Mae Billy Dixon yn adnabyddus fel un o’r

Ymgynghorwyr Personol mwyaf blaenllaw ar Farchnata yn Ewrop. Mae’n gweithio mewn llawer o feysydd, gan gynnwys gwleidyddiaeth, busnes a’r cyfryngau, yn ogystal ag arwain llawer o unigolion trwy’r rhaglenni datblygu personol y mae’n eu cynnig. Mae ei waith ym mhob cwr o Ewrop, Canada ac America wedi rhoi i Billy brofiad dwfn, y gall ei ddefnyddio yn ei seminarau a’i weithdai. Mae wedi cynghori arweinwyr cenedlaethol a rhyngwladol, sêr y cyfryngau, corfforaethau ac aelodau o’r cyhoedd. Mae’n argyhoeddedig bod marchnata a datblygiad personol yn hanfodol wrth gyfleu busnes yn llwyddiannus. Fel sylwebydd ar ddelwedd, gofynnir i Billy ymddangos yn rheolaidd ar raglenni teledu a radio, gan gynnwys cyfres arobryn y BBC “Hearts and Minds”, a gyflwynir gan Noel Thompson. Adroddwyd ar ei farn hefyd mewn nifer o gyhoeddiadau cenedlaethol a rhyngwladol.

Dyma rai o gleientiaid Billy Dixon: Banc Iwerddon BBC Maes Awyr Rhyngwladol Belfast Boehringer Ingelheim BT Coca-Cola Cross Refrigeration DARD Cyngor Dinas Derry Bwrdd Menter Swydd Donegal

Inter Trade Ireland Sefydliad y Bancwyr, Iwerddon Lombard Aviation Capital Macmillan Media Marks and Spencer Asiantaeth Menter Newry a Mourne Pfizer Limited Weber Shandwick Prifysgol Limerick UTV Viridian Group Women Means Business

Bydd Reid Newydd Yn Gweithio Ar ‘Bˆ wer Y Teithwyr’ BYDD ATYNIAD TWRISTIAETH teuluol yn y Gogledd yn defnyddio ‘pwer ˆ y teithwyr’ i yrru reid Ffigar Êt Ynni newydd, gan roi profiad unigryw i ymwelwyr. Bydd y ffigar êt, gyda golygfeydd gwych ym Mharc Coedwig Gelli Gyffwrdd, rhwng Caernarfon a Bangor, yn costio bron i £460,000. Fe’i hadeiledir gyda chymorth grant o £220,000 gan Fwrdd Croeso Cymru.

Bydd y ffigar êt, a anelir at y teuluoedd sy’n ymweld â’r Gelli Gyffwrdd yn mynd am 230 metr a bydd yn cyrraedd cyflymder o 22 milltir yr awr. Daeth y parc yn gwmni cyfyngedig yn gynt eleni wrth iddo ddathlu ei 10fed penblwydd. Y ddau gyfarwyddwr yw Stephen ac Andrea Bristow, gˆ wr a gwraig.

16

Disgwylir y bydd y prosiect yn gwneud y Gelli Gyffwrdd yn un o’r pump uchaf ymhlith yr atyniadau teuluol sy’n codi am fynediad yng Nghymru. Bydd yn creu 34 o swyddi newydd yn lleol, ar ben y 56 o swyddi presennol. Sefydlwyd y Gelli Gyffwrdd gan Mr a Mrs Bristow ym 1993 fel atyniad amgylcheddol, sy’n cyfuno addysg â hwyl i’r teulu. Mae wedi ennill gwobr Tywysog Cymru am ei ganolfan i ymwelwyr cafodd gymeradwyaeth uchel gan Fwrdd Croeso Cymru pan ymgeisiodd am y Wobr Amgylcheddol, a chafodd statws Atyniad Serennog ym 1999. Dyfarnwyd iddo hefyd Seren Aur ‘Welcome Host’.

© Bwrdd Croeso Cymru

Yr atyniad yma fydd y cyntaf o’i fath yn y byd. Fe’i gyrrir gan rym disgyrchiant, gan ddefnyddio egni a gynhyrchir gan y teithwyr, sef technoleg debyg i dechnoleg a ddatblygwyd 200 mlynedd yn ôl i symud llechi yn chwareli’r Gogledd.

Dywedodd Stephen: “Pwysau dim ond 10 o deithwyr ar gyfartaledd fydd ei angen i dynnu cerbydau’r ffigar êt i fyny i’r man cychwyn a bydd y trydan a gynhyrchir yn cael ei ddefnyddio mewn llefydd eraill ar y safle. Rydym wedi defnyddio fel model ddulliau a ddefnyddiwyd ers talwm yn y chwareli, oedd yn effeithlon dros ben.”

Gwybodaeth bellach gan Stephen Bristow, Rheolwr Gyfarwyddwr, GreenWood Forest Park Ltd, 01248 671493 neu Ian HunterFranks, Rheolwr Cyffredinol, GreenWood Forest Park Ltd, 01248 671493


RHIFYN ARBENNIG CYNHADLEDD Y GYNGHRAIR

Gorau Arf Ymarfer Gorau Adeg lansio’r rhaglenni Elw Trwy Gynhyrchedd cyntaf yng Nhgymru yn Ninbychy-pysgod – o’r chwith i’r dde: Chris Osborne (Gwesty Fourcroft), Barbara Priest (Awdurdod Datblygu Cymru), Matt Goldwait (Tai Bwyta Blueberry’s a Pam Pam), Lynne Jones (Dysgu ac Addysgu Cymru) a David Edwards (Hyfforddwr PTP). Cymerodd Andrew Evans (Gwesty St Bride’s) nad yw yn y llun, ran hefyd.

MAE’R FFORWM YMARFER GORAU ar gyfer y diwydiant twristiaeth, croeso a hamdden yn cynnwys y prif grwpiau cyflogwyr yn ymuno i helpu busnesau i wella eu cynhyrchedd, eu proffidioldeb a’u gallu i gystadlu. Elw Trwy Gynhyrchedd (PTP) yw rhaglen gwella busnesau y Fforwm, gyda chefnogaeth yr Adran Fasnach a Diwydiant a’r DCMS, a lansiwyd eleni yng Nghymru a ledled y Deyrnas Gyfunol, gan weithio yn uniongyrchol gyda’r cyflogwyr. Dinbych-y-pysgod a Saundersfoot oedd yr ardal gyntaf yng Nghymru i ddechrau’r rhaglen PTP. Cynhwyswyd pum busnes yn y cam cyntaf – sef tai bwyta Pam Pam a Blueberry’s a Gwesty’r Fourcroft yn Ninbych-y-pysgod, ynghyd â gwesty St Bride’s a thˆy bwyta Mermaid on the

Strand yn Saundersfoot. Y bwriad yw i 20 cyflogwr lleol arall ymuno yn yr ail gam y flwyddyn nesaf. Helpodd Fforwm Hyfforddi Twristiaeth Cymru i sefydlu’r fenter, a gefnogwyd gan Awdurdod Datblygu Cymru a Dysgu ac Addysgu Cymru (ELWa). Mae’r rhaglen PTP yn dechrau gydag ymarfer meincnodi busnes cyfrinachol, sy’n rhoi cyfle i’r busnesau fesur eu perfformiad yn erbyn cwmnïau blaengar a’r ymarfer gorau. Mae’n rhoi iddynt asesiad o’u cryfderau a’u gwendidau ac yn dangos yn glir rai bylchau penodol yn eu perfformiad. Mae hyfforddwr busnes achrededig o’r sector yn gweithio gyda’r busnes i’w helpu i lunio cynllun gwella’r busnes a’i roi ar waith. Gall hyn gynnwys cyfres o weithdai ymarfer gorau, sesiynau hyfforddiant un i un a hefyd, trwy’r Clwb Ymarfer Gorau, ymweliadau â sefydliadau ymarfer gorau. Gellir cydnabod llwyddiannau’r busnesau trwy’r Cynllun Gwobr Ardderchogrwydd Busnes. Bydd dros 4,000 o fusnesau yn cymryd rhan yn y cynllun yn ystod y ddwy flynedd nesaf. Yn y Gogledd, mae rhaglen PTP wrthi’n cael ei lansio yn y sector atyniadau, wedi’i chychwyn gan Bartneriaeth Twristiaeth Gogledd Cymru gyda chefnogaeth gan Awdurdod Datblygu Cymru. Roedd Dewi Davies, rheolwr gyfarwyddwr y Bartneriaeth wedi sylwi bod meincnodi yn allweddol i fusnesau twristiaeth ac yn elfen allweddol yng nghynlluniau’r Bartneriaeth. Ymhlith y cyflogwyr fydd yn cymryd rhan bydd aelodau grwpiau megis Deg Prif Atyniad ac Atyniadau Eryri, sydd wedi rhoi croeso brwd i’r fenter. Am ragor o wybodaeth am PTP a sut i gymryd rhan yng Nghymru, cysylltwch os gwelwch yn dda â Sangeeta Suthar yn Hospitality and Leisure Manpower, sef cydlynwyr cenedlaethol PTP, ar y rhif 020 8977 4419 neu ss@halm.co.uk

Cymdeithas Asiantau Cymru

Penderfynodd y gr w ˆ p yn ddiweddar ei fod am ffurfio Cymdeithas Asiantau Cymru a dod yn aelodau o Gynghrair Twristiaeth Cymru er mwyn hwyluso’r cyfathrebu rhwng yr Asiantau eu hunain, y Bwrdd Croeso a’r Gynghrair. Mae’r Gymdeithas yn cynnwys bron pob Asiantaeth yng Nghymru (ac un ychydig dros y ffin!) a chyda’i gilydd mae’r aelodau’n marchnata tua 2500 o unedau hunan-arlwyo. Rydym yn cynrychioli llawer iawn o

weithredwyr twristiaeth, llawer ohonynt yn cynnig un ffermdy neu fwthyn yn unig ac eraill yn cynnig llefydd mwy. Mae ffurfio’r Gymdeithas yn golygu y bydd gwell cynrychiolaeth ar gael, nid yn unig i’r Asiantau eu hunain ond hefyd i’r gweithredwyr unigol. Mewn cyfarfod ar 17 Hydref, cytunwyd y byddai Barbara Griffiths, Bythynnod a Ffermdai Gwyliau Gogledd Cymru, yn cynrychioli’r Gymdeithas yng nghyfarfodydd y Gynghrair a Gwen Thomas, Gwasanaethau Twristiaeth Eryri, yn darparu’r ysgrifenyddiaeth. Gellir cysylltu â Barbara yn barbara@nwhc.demon.co.uk a Gwen yn all@sts-holidays.com

© Bwrdd Croeso Cymru

MAE ASIANTAU HUNAN-ARLWYO sy’n cyfranogi yng nghynllun graddio Bwrdd Croeso Cymru wedi cyfarfod y Bwrdd yn rheolaidd, ryw ddwywaith y flwyddyn i drafod yn anffurfiol.

17


RHIFYN ARBENNIG CYNHADLEDD Y GYNGHRAIR

Gwobrau Twristiaeth Cenedlaethol a Chwpwrdd Gwydr Cymru

Dathliad Newydd i Hybu Busnes GYDA’R DIWYDIANT TWRISTIAETH

yng Nghymru bellach yn cyflogi dros un ym mhob 10 o’r gweithlu, mae’r diwydiant yn un o’r cynhyrchwyr swyddi a chyfoeth pwysicaf yn y wlad. Bydd Gwobrau Twristiaeth Cenedlaethol Cymru 2003 yn dathlu goreuon y diwydiant mewn digwyddiad a gaiff broffil uchel. Am y tro cyntaf cynhelir y cinio gwobrwyo mewn partneriaeth â Chwpwrdd Gwydr Cymru – digwyddiad busnes i fusnes fydd yn para am dri diwrnod yng nghanol ein

prif ddinas, gan ddwyn ynghyd weithredwyr a chyflenwyr yn y diwydiant twristiaeth. Bydd cyfres o seminarau a gyflwynir gan arweinwyr y diwydiant yn gorffen mewn arddangosfa undydd o gynnyrch a gwasanaethau. Bydd Cwpwrdd Gwydr Cymru yn agor yn Neuadd ysblennydd Dinas Caerdydd ar ddydd Mawrth 25 Tachwedd, gyda’r Gwobrau yn cael eu cyflwyno yn y Ganolfan Griced Genedlaethol, Gerddi Sophia, Caerdydd, ar ddydd Iau 27 Tachwedd. Llywyddir y noson gan Huw Edwards, cyflwynydd newyddion teledu’r BBC gerbron cynulleidfa o 500 – gweithredwyr yn y diwydiant twristiaeth, asiantau, pobl ddylanwadol a llu o enwogion. Mae’r Gwobrau Twristiaeth Cenedlaethol a Chwpwrdd Gwydr Cymru yn dangos mewn gwirionedd allu a hyder Cymru i gystadlu fel cyrchfan gwyliau o bwysigrwydd byd-eang. Pwrpas y Gwobrau Twristiaeth Cenedlaethol yw gwobrwyo’r goreuon sydd gan Gymru i’w cynnig i’r ymwelwyr. Maent hefyd yn bwysig wrth roi i’r diwydiant yng Nghymru rywbeth i anelu ato – hoffem i bawb deimlo eu bod yn dymuno bod y gorau yng Nghymru ac yn gallu bod felly.

© Bwrdd Croeso Cymru

Cymdeithas Hosteli Ieuenctid Cymru Gan Maggie Cooper, Swyddog Marchnata a Materion Corfforaethol – Cymdeithas Hosteli Ieuenctid Cymru SEFYDLWYD CYMDEITHAS YR HOSTELI IEUENCTID ym 1930 a’r nod yw “helpu pawb, yn enwedig pobl ifainc heb lawer o fodd, i ddod i wybod mwy am gefn gwlad, ei charu a gofalu amdani, yn arbennig trwy ddarparu hosteli neu lety syml arall ar eu cyfer pan fyddant yn teithio, gan hyrwyddo trwy hynny eu hiechyd, cyfle iddynt orffwys a’u haddysg.” Mae Cymdeithas Hosteli Ieuenctid

Cymru yn dod â thua £5.3m o werth ychwanegol i’r economi leol. Mae’n cefnogi 320 (cyfwerth llawn amser) o swyddi ac amgangyfrifir fod gwariant yr ymwelwyr tua £3.7m. Mae’r 35 o Hosteli a Byncdai ledled Cymru yn cynnig llety y gall pobl ei fforddio mewn mannau sydd ymhlith y mwyaf anhygoel o hardd – cefn gwlad, yr arfordir, trefi a dinasoedd, mewn llawer o wahanol adeiladau – ar gyfer gwesteion o bob oed. Mae ystafelloedd gyda dau wely i’w cael, ystafelloedd teulu ac ystafelloedd cysgu mawr, rhai gydag ystafell ymolchi yn gysylltiedig. Mae prydau bwyd ar gael mewn llawer o’r hosteli yng Nghymru yn ogystal â chyfleusterau hunan-arlwyo lle gall gwesteion goginio eu prydau eu hunain. Gan gydweithio â phartneriaid yn y diwydiant twristiaeth, rydym yn cynnig cyrsiau a gweithgareddau at ddant pawb gan geisio ymestyn y ddarpariaeth hon hefyd. Yn y llun, adeg lansio Polisi Iaith Gymraeg Cymdeithas Hosteli Ieuenctid Cymru yn y Sioe Frenhinol eleni, o’r chwith i’r dde: Lynn Garner, Rheolwr Cymru; Maggie Cooper, Swyddog Marchnata a Materion Corfforaethol; a Siân Parry Jones, Bwrdd yr Iaith Gymraeg.

18

Bydd gwesteion yn cael eu goleuo am iaith, diwylliant a threftadaeth Cymru drwy gyfrwng prosiectau fel ein Cynllun Iaith Gymraeg, a gymeradwywyd yn ddiweddar gan Fwrdd yr Iaith Gymraeg. Bydd ein Hosteli Ieuenctid sy’n cynnig prydau yn derbyn tystysgrif Gwir Flas Cymru, gan gynnig bwydydd a rysetiau lleol. Prosiect newydd yw Menter Hosteli Ieuenctid, yn gweithio mewn partneriaeth â darparwyr llety eraill er mwyn cynnig Hosteli Ieuenctid trwyddedig newydd, byncdai a llety syml arall er mwyn ychwanegu at ein rhwydwaith yng Nghymru. Bydd ein rhaglen “Hosteli Ieuenctid i Bawb” yn ceisio rhoi lle i bobl ifainc dan anfantais, pobl sydd ag anabledd a’r rhai sy’n perthyn i leiafrifoedd ethnig. Rydym hefyd yn ceisio cael gwirfoddolwyr i chwarae rhan fwy yn ein gwaith, yn enwedig trwy gael pobl i gymryd rhan na fyddent fel rheol yn ystyried gwirfoddoli.


19


NEWYDDION

A

SYLWADAU’R GYNGHRAIR

Farm Stay UK Gan Nigel Embry, Prif Weithredwr, Farm Stay UK CONSORTIWM MARCHNATA NID-AM-ELW YW FARM STAY UK, a sefydlwyd yn gynnar yn yr wythdegau er mwyn helpu ffermwyr sydd wedi arallgyfeirio i ddarparu llety fel y gallant gystadlu’n fwy effeithiol wrth hyrwyddo’u cyfleusterau. Er ei fod yn sefydliad Prydeinig, mae gan Farm Stay aelodaeth gref ac ymroddedig iawn ledled Cymru gan gynnig rhai cannoedd o lefydd aros, yn llefydd gwely a brecwast ac yn llefydd hunan-arlwyo a hefyd carafanau a llefydd gwersylla. Mae’n rhaid i bob eiddo gael ei archwilio dan gynllun y Bwrdd Twristiaeth Cenedlaethol a rhoddir y pwyslais bob amser ar ansawdd nid maint. © Bwrdd Croeso Cymru

Mae llawer o fanteision i’r aelodau, gan gynnwys cael eu henwau yn y llyfryn gwybodaeth a argreffir mewn lliw bob blwyddyn, yn rhad ac am ddim (130,000+ o gopïau yn cael eu hargraffu), map lonydd yn rhad ac am ddim i’w gadw yn y car ac, wrth gwrs, gwefan

ryngweithiol o’r math diweddaraf un. Mae brand Farm Stay yn bwerus iawn o ran cydnabyddiaeth gyhoeddus ac ymwybyddiaeth sydd wedi cynyddu’n ddramatig yn y blynyddoedd diwethaf. Ar lawer golwg, y consortiwm yw “gwir lais twristiaeth ar ffermydd” ac i gydnabod hynny fe roddwyd iddo Wobr y Gymdeithas Dwristiaeth am “y cyfraniad eithriadol a wnaed i ddatblygu twristiaeth yn y DG”. Yna yn 2002 cafwyd y wobr uchaf un sydd gan y diwydiant i’w chynnig, sef Catey Twristiaeth, am “ddod â thwristiaeth ar ffermydd i gymryd lle blaenllaw mewn twristiaeth o ansawdd da yn y wlad”. Mae gan Farm Stay rwydwaith helaethach a mwy cynhwysfawr o lety i ymwelwyr nag unrhyw gorff arall o’r fath ac mae bob amser yn ceisio atgyfnerthu’r aelodaeth er mwyn parhau i arwain yn y farchnad. Gan hynny, mae croeso bob amser i ddarpar aelodau wneud ymholiadau felly cofiwch gysylltu naill ai trwy e-bost, admin@farmstayuk.co.uk neu drwy ffonio 02476 696909.

Ffederasiwn Busnesau Bychain Gan Neil Taylor, Ffederasiwn Busnesau Bychain

Yr aelodaeth yn cyrraedd 25,000 a phobl yn dechrau gwrando

20

Y

FFEDERASIWN

Busnesau Bychain ym 1974 yn dilyn llythyr i’r wasg gan Norman Small yn gwrthwynebu’r cyfraniadau Yswiriant Gwladol Dosbarth 1V arfaethedig. Roedd yr ymateb yn anhygoel wrth i lawer o bobl hunan-gyflogedig sylweddoli nad oedd ganddynt lais yng nghoridorau grym. Yn ystod y flwyddyn ddilynol roedd hyd at 200 o aelodau y dydd yn ymuno â Ffederasiwn yr Hunan-gyflogedig a Busnesau Bychain. Cafwyd 25,000 o aelodau ac roedd pobl yn dechrau gwrando. Yr aelodaeth gyfredol yw 185,000 ac mae’n dal i dyfu. Ceir 35 o Ranbarthau a thros 100 o Ganghennau gyda Swyddfeydd y Wasg a Seneddol yn Llundain, Caerdydd, Glasgow a Belfast. Mae’r Ffederasiwn yn cyflogi dros 100 o bobl gyda staff proffesiynol ym mhob Rhanbarth a Swyddogion Datblygu Polisi yn yr ardaloedd Cymorth Datblygu Rhanbarthol. Y Ffederasiwn bellach yw’r mudiad mwyaf sy’n lobïo ac ymgyrchu dros fusnes yn y Deyrnas Gyfunol ac mae’r Llywodraeth a’r Cynulliad

Cenedlaethol yn ymgynghori ag ef yn rheolaidd. Yng Nghymru bydd y Ffederasiwn yn lobïo ASau ac ACau yn rheolaidd ynghylch newidiadau i ddeddfwriaeth gyflogaeth a rheoliadau busnes. Bydd y Ffederasiwn hefyd yn ymateb i ddogfennau ymgynghori, gan sicrhau y clywir llais perchnogion busnesau bychain. Fe’i cynrychiolir hefyd ar nifer o gyrff cyhoeddus. Yn ogystal â’i rôl lobïo, mae’r Ffederasiwn yn cynnig amrywiaeth

© Bwrdd Croeso Cymru

SEFYDLWYD

eang o fanteision i’w aelodau, gan gynnwys llinell gymorth gyfreithiol yn rhad ac am ddim a chymorth mewn ymchwiliadau dwys gan Gyllid y Wlad a’r Swyddfa Tollau Tramor a Chartref. Mae gan y Ffederasiwn adran gwasanaethau aelodau yn ymwneud ag yswiriant, cyngor a gwasanaethau ariannol, benthyciadau busnes, marsiandwyr, yswiriant meddygol a gwasanaethau’r rhyngrwyd.


NEWYDDION

A

SYLWADAU’R GYNGHRAIR

Cymdeithas Tywyswyr Teithiau Swyddogol Cymru Gan Derek Roberts, Cymdeithas Tywyswyr Teithiau Swyddogol Cymru

© Bwrdd Croeso Cymru

CYMDEITHAS TYWYSWYR TEITHIAU SWYDDOGOL CYMRU yw’r mudiad tu ôl i deithiau tywysedig gan dywyswyr proffesiynol ledled Cymru. Mae’r teithiau yn amrywio o deithiau undydd neu deithiau cerdded mewn trefi neu safleodd treftadaeth © Bwrdd Croeso Cymru i deithiau sy’n gwneud cylch cyfan o gwmpas y wlad. Mae gennym ymhell dros hanner cant o aelodau bellach ac mae’r nifer yn ehangu yn gyflym. Bydd ein haelodau yn cyflwyno Cymru i ymwelwyr yn bersonol, mewn coetsys, ar droed neu weithiau mewn car.

Cymdeithas Atyniadau Ymwelwyr Cymru Gan Ian Rutherford, Cymdeithas Atyniadau Ymwelwyr Cymru

Maent yn cynnig amrywiaeth eang o deithiau arbenigol i ymwelwyr sy’n teithio o gwmpas. Gellir cysylltu pob cleient sydd â gofynion arbennig â thywysydd cymwys sydd ar gael trwy ein gwasanaeth archebu ar-lein canolog neu trwy’r rhwydwaith sefydlog o Ganolfannau Gwybodaeth i Ymwelwyr.

Mae CYMDEITHAS ATYNIADAU YMWELWYR CYMRU yn dod ag atyniadau Cymreig ynghyd i weithredu er lles pawb a gwneud gwahaniaeth. Nid oes gan hyd yn oed yr atyniadau mwyaf yng Nghymru y grym, ar eu pennau eu hunain, i ddylanwadu ar ddigwyddiadau yn sylweddol. Mae’r rhan fwyaf o’r atyniadau yn fusnesau bychain gyda hyd yn oed llai o ddylanwad.

Eleni o dan y cynllun Adfywio bu modd i ni lansio pecyn o ddeuddeg o deithiau undydd ym mhob rhanbarth nad oeddent yn costio DIM i’r gweithredwyr am y daith gyntaf ar bob llwybr a ddewiswyd. Roedd hyn yn llwyddiant ysgubol ac o ganlyniad gwariwyd dros £600,000 hyd yn hyn gan dwristiaid, gyda thros 12,000 gwely-nos. Dyma’r tro cyntaf i Dywyswyr fod yn rhagweithiol yn y farchnad a thrwy fod felly maent wedi llwyddo i gynyddu eu busnes.

Mae gan fusnesau sy’n atyniadau lawer o broblemau cyffredin. Mae cyfarfodydd y gymdeithas yn darparu fforwm i weithredwyr ledled y wlad drafod materion o ddiddordeb, yn ffurfiol ac yn anffurfiol.

Mae hyn yn mynd yn bell tuag at brofi y gall tywysydd proffesiynol gynhyrchu gwerth gwirioneddol mewn twristiaeth.

Ymhlith yr materion y bu’r Gymdeithas yn ymwneud â hwy yn ystod y flwyddyn diwethaf mae’r canlynol: t Gormod o Atyniadau: mae gormod o atyniadau yng Nghymru yn cystadlu am rhy ychydig o fusnes. Yn y cylch presennol o ysgrifennu strategaethau mae’r Gymdeithas wedi ymgyrchu i sicrhau nad yw datblygu rhagor o atyniadau yn cael ei hyrwyddo. t Gwella Ansawdd: mae’n rhaid i atyniadau wella eu hansawdd trwy’r amser os ydynt am ddal i fod yn gystadleuol. Bu’r Gymdeithas yn gweithio gyda Bwrdd Croeso Cymru i ddatblygu gwasanaethau ymarferol a realistig a fydd yn hyrwyddo gwelliannau ansawdd, gan gynnwys y cynllun sicrhau ansawdd newydd, VAQAS Cymru. t Costau Yswiriant yn Mynd Dros Ben Llestri: Mae’r Gymdeithas yn cydnabod bod costau yswiriant yn mynd dros ben llestri ac yn bygwth dyfodol llawer o atyniadau oherwydd cynnydd mewn ymgyfreitha. Mae’n cefnogi BALPA wrth geisio newid y ddeddfwriaeth i gydnabod esgeuluster cyfrannol. t Arian Ewropeaidd: Y Gymdeithas sydd yn cadeirio Partneriaeth Twristiaeth Rhanbarthol Cymru. Mae’n ystyried ceisiadau am arian Amcan Un ar gyfer prosiectau o arwyddocâd ‘cenedlaethol’. Mae gan y Gymdeithas gynrychiolaeth hefyd ar Bartneriaeth Strategaeth Asedion Busnes Amcan Un Cymru.

© Bwrdd Croeso Cymru0

Mae llawer o weithredwyr yn poeni fod llai o grwpiau addysgol yn ymweld ag atyniadau ac mae’r Gymdeithas yn trefnu seminar ar 17 Tachwedd yn Aberystwyth i edrych i mewn i’r materion dan sylw. Ceir cyfraniadau gan arbenigwyr ar deithiau ysgol, athrawon ac atyniadau sydd â rhaglen addysgol lwyddiannus, i roi i’r rhai sy’n cymryd rhan well dealltwriaeth o’r problemau a’r ffyrdd y gellir targedu’r farchnad addysg yn fwy effeithiol. Cysylltwch os gwelwch yn dda â WAVA1@tiscali.co.uk i gael manylion pellach am y seminar neu wybodaeth am ymaelodi â’r Gymdeithas.

Gellir gweld ein gwefan ar: www.walestourguides.com a dylid defnyddio enquiry@walestourguides.com i weld a defnyddio ein system archebu ar-lein. Gellir cael yr un canlyniad trwy ffonio’r rhif 01633 774796!

21


NEWYDDION

A

SYLWADAU’R GYNGHRAIR

Twristiaeth Canolbarth Cymru CORFF GYDA 750 O AELODAU sy’n gweithredu ym Mhowys, Ceredigion ac ardal Meirionnydd yng Ngwynedd yw TWRISTIAETH CANOLBARTH CYMRU. Yn dilyn newidiadau gan Fwrdd Croeso Cymru yn 2002 (pan ffurfiwyd y Partneriaethau Twristiaeth Rhanbarthol) rydym bellach mewn sefyllfa gryfach o lawer i ddarparu gwasanaeth cefnogol i’n haelodau ac i’r cymdeithasau twristiaeth yn y rhanbarth a ni yw’r mudiad mwyaf gydag aelodau yn y Canolbarth. Prif rôl y cwmni yw rhoi cyngor a gwybodaeth, ymgynghori a chynrychioli buddiant ein haelodau ar bob lefel. Rydym hefyd yn cynnig amrywiaeth eang o fanteision, gan gynnwys porwyr llofftydd, gwefan ranbarthol, cynllunio gwefannau, a dosbarthu llyfrynnau ac rydym yn rheoli’r Prosiect Rhagweld ym Mhowys, sy’n cyflwyno hyfforddiant mewn ffurf hylaw i weithredwyr twristiaeth.

© Bwrdd Croeso Cymru

Gan Anne Lloyd Jones, Twristiaeth Canolbarth Cymru

Ein nod o hyd yw gwarchod buddiannau ein haelodau mewn modd proffesiynol a chyfeillgar ac rydym yn ffodus bod gennym staff ardderchog sy’n gweithio i’r cwmni ac yn gwireddu’r nod hwn. Cwmni cyfyngedig trwy warant yw Twristiaeth Canolbarth Cymru, gyda bwrdd cyfarwyddwyr a etholir gan yr aelodau neu a gyfetholir gan y bwrdd, a rheolir y cwmni o ddydd i ddydd gan

Gwesyn Davies, Gyfarwyddwr.

y

Rheolwr

Mae Memorandwm ac Erthyglau’r Cwmni yn caniatáu hyd at 12 o gyfarwyddwyr a’r cyfarwyddwyr cyfetholedig presennol yw Tony Bywater, Ian Rutherford a Lisa Francis A.C., y Cynghorydd Gillian Hopley sy’n cynrychioli’r awdurdodau lleol a chynrychiolwyr masnach yw Joan Best, David Clay, Peter LloydHarvey, Steve White ac Anne Lloyd-Jones.

Cymdeithas Croeso Prydain Gan Bob Cotton, Prif Weithredwr, Cymdeithas Croeso Prydain CYMDEITHAS CROESO PRYDAIN yw’r gymdeithas genedlaethol ar gyfer y diwydiant gwestyau, tai bwyta ac arlwyo, diwydiant sy’n cyflogi rhyw 80,000 o bobl mewn 13,000 o sefydliadau yng Nghymru. Y diwydiant croeso yw prif elfen y diwydiant twristiaeth yng Nghymru, sy’n werth rhyw £2 biliwn y flwyddyn (7.5 y cant o’r Cynnyrch Mewnwlad Crynswth (GDP). Prif nod y gymdeithas yw cefnogi’r diwydiant a chynrychioli ei fuddiannau gerbron gweinidogion, gwleidyddion a swyddogion yng Nghaerdydd, Caeredin a San Steffan yn ogystal â Brwsel. Mae hefyd yn ceisio darparu cefnogaeth fusnes i’w haelodau, sy’n cynnwys dros 30,000 o sefydliadau gyda mwy na 350,000 o ystafelloedd ledled y Deyrnas Gyfunol, gan gyflogi bron i hanner miliwn o staff. Oherwydd ei phrif nod, mae llawer o waith y gymdeithas yn ymwneud â lobïo, yn enwedig mewn perthynas â deddfwriaeth sy’n ymdrin â staffio a rheoli’r gweithlu, ond mae materion

22

Mae ymroddiad y gymdeithas i wella ansawdd a safonau yn cael ei adlewyrchu yn y ffaith mai hi sy’n arwain y Fforwm Ymarfer Gorau – sef cynghrair ar draws y diwydiant sy’n cynnwys saith cymdeithas fasnach, dau gorff proffesiynol a mudiadau eraill; y gymdeithas oedd tu ôl i’r

© Bwrdd Croeso Cymru

…yn cynnwys dros 30,000 o sefydliadau yn cynnig dros 350,000 o ystafelloedd

eraill sydd o bwys ar hyn o bryd yn cynnwys ansawdd, bwyd a diogelwch bwyd, trwyddedu, ysmygu mewn mannau cyhoeddus a hyrwyddo twristiaeth.

fenter hon. Mae rhaglen Elw Trwy Gynhyrchedd y Fforwm yn galluogi busnesau i fabwysiadu – neu addasu – ymarfer gorau ym mhob rhan o’u gweithredoedd, er mwyn cyrraedd eu cynhyrchedd (a phroffidioldeb) uchaf posibl. Hyd yn hyn mae dros 1,000 o fusnesau wedi cymryd rhan yn y rhaglen, a’r nod yw recriwtio cyfanswm o dros 4,000 erbyn 2005. Mae Mynegai Meincnodi wrthi’n cael ei ddatblygu i alluogi’r rhai sy’n cymryd rhan i fesur eu perfformiad yn erbyn busnesau eraill, tebyg.


NEWYDDION

A

SYLWADAU’R GYNGHRAIR

Y Cyngor Carafanau Cenedlaethol Gan Alan Bishop, Cyfarwyddwr Cyffredinol Cyngor Carafanau Cenedlaethol MAE’R CYNGOR CARAFANAU CENEDLAETHOL yn gymdeithas fasnach weithredol a dynamig ar gyfer y diwydiant carafanau (a pharciau cartrefi) yn y Deyrnas Gyfunol. Gyda thros 500 o aelodau, mae’n cynrychioli parciau, gwneuthurwyr, gwerthwyr a chyflenwyr gwasanaethau. Ei genhadaeth yw gwella safonau technegol a masnachol ardderchog y diwydiant yn barhaus. Gyda throsiant blynyddol o dros £1 miliwn ac 20 o staff, mae’n gallu bod yn llais pwerus yn cynrychioli barn y diwydiant i’r llywodraeth a buddiolwyr eraill. Mae’r Cyngor yn cynnig i’w aelodau gyngor ar nifer o faterion, gan gynnwys diogelwch a materion cyfreithiol, ystadegau cyfredol a gwybodaeth dechnegol. Mae’n cynhyrchu nifer o daflenni buddiol i’r fasnach deithio gan gynnwys Canllawiau Ymarfer Da y Cyngor Carafanau Cenedlaethol Croesawu Ymwelwyr Anabl ar gyfer Rheolwyr Parciau. Mae hefyd yn gweithredu Siarter y Parciau Cartrefi a chynlluniau Gwobrwyo Ansawdd. Roedd yn un o sefydlwyr cynllun y Bwrdd Croeso ar gyfer graddio parciau carafanau a gwyliau. Mae’r cynllun graddio sêr yn cynnig i ddefnyddwyr ganllawiau allweddol o ran ansawdd y cyfleusterau ar safle; mae llawer o’r gwasanaethau eraill a ddarperir gan y Cyngor o fudd uniongyrchol i garafanwyr. Mae’r Cyngor yn gweithredu’r cynllun ardystio diffiniol ar gyfer pob carafan newydd a wneir gan ei aelodau (gan sicrhau y cydymffurfir â safonau iechyd a diogelwch Ewrop a Phrydain) yn ogystal â’r Cynllun Cofrestru ac Adnabod ar gyfer carafanau teithiol. Mae’r cysylltiadau cryf rhwng y Cyngor a defnyddwyr carafanau yn cael eu cryfhau trwy ei bresenoldeb mewn arddangosfeydd cenedlaethol a rhanbarthol ac mae’r wefan a lansiwyd yn ddiweddar, www.thecaravan.net, yn dangos toreth o wybodaeth fuddiol i’r defnyddiwr, gan gynnwys lle i aros a sut i ddewis carafan neu gartref parc. Gwefan: www.thecaravan.net

Yn y llun, yng Nghynhadledd ‘Contour’ Fforwm Twristiaeth a Hyfforddiant Cymru, o’r chwith i’r dde y mae Catherine Kiley, myfyrwraig o Goleg Castell Nedd Port Talbot, a Siân Lloyd, dynes tywydd y teledu.

Fforwm Twristiaeth A Hyfforddiant Cymru Gan Diana James, Fforwm Twristiaeth a Hyfforddiant Cymru TWRISTIAETH A HYFFORDDIANT – mae’n debyg i briodas. Mae adegau gwell a gwaeth ym mhob perthynas. Dyna pam mae Fforwm Twristiaeth a Hyfforddiant Cymru wedi ymgymryd â’r rôl o arwain a chyfarwyddo, gan gymodi os bydd unrhyw anghydfod rhwng y diwydiant twristiaeth a’r darparwyr hyfforddiant. Mae Fforwm Twristiaeth a Hyfforddiant Cymru wedi ymroi i ddarparu arweiniad, cyfarwyddyd a chydlyniant ar gyfer hyfforddiant ym maes twristiaeth yng Nghymru. Mae’n gweithio gyda phartneriaid mewn busnes ac addysg i sicrhau bod y diwydiant yn manteisio ar werth ei fuddsoddiad yn ei weithlu, a bod cyrsiau hyfforddiant yn berthnasol ac ar gael i ddiwallu anghenion y diwydiant. Ac er na fydd y partneriaid yn hollol gytûn bob amser, mae’r Fforwm yn credu y gall helpu i ddatrys unrhyw anghydfod a sicrhau y gall eu perthynas ffynnu mewn cytgord. Gydag arbenigedd mewn Twristiaeth, Addysg, Busnes a Chyfathrebu, mae’r mudiad wedi tyfu ac mae bellach yn llais blaenllaw wrth sicrhau bod gwasanaethau hyfforddiant yn cael eu darparu a’u bod ar gael, a hefyd bod anghenion hyfforddiant y diwydiant twristiaeth yng Nghymru yn cael eu diwallu. Bu’r Fforwm hefyd yn gweithio yn agos gyda phobl ifainc. Er enghraifft, trefnasom gynhadledd “Amlinell” eleni ar gyfer pobl ifainc sy’n astudio yn y maes. Roedd siaradwyr o fasnach a diwydiant, gan gynnwys rhai o Gynghrair Twristiaeth Cymru, yn gallu trosglwyddo eu profiad a’u gwybodaeth ac rydym yn gobeithio y bydd hyn o les i dwristiaeth yn y dyfodol.

© Bwrdd Croeso Cymru

Yn y pen draw, rydym yn gobeithio rhyngom ni y gallwn wneud i’r briodas hon weithio! Os dymunwch wybod rhagor am waith Fforwm Twristiaeth a Hyfforddiant Cymru cysylltwch ag enquiries@ttfw.org.uk neu drwy: Fforwm Twristiaeth a Hyfforddiant Cymru Uned 16 Adeiladau Frazer, 126 Heol Bute, Caerdydd. CF10 5AE Ffôn 029 2049 5174 neu Ffacs 029 29049 0291

23


Issuu converts static files into: digital portfolios, online yearbooks, online catalogs, digital photo albums and more. Sign up and create your flipbook.