Page 1

rambler_64_CYM_g

4/5/06

10:23 PM

Page 1

Y YR ELUSEN SY’N GWEITHIO AR RAN CERDDWYR

RHIFYN 64

Cerdded ar Hyd Arfordir Cymru Y môr sy’n denu fy enaid i fynd, i grwydro godreon y bae; Gwyllt leisiau y llanw sy’n galw yn glir, ac iddynt rhaid ufuddhau. Eurwyn Pierce

M

ae’n harforlin hardd yn un o’n hasedau naturiol gorau. Mae pobl o bob galwedigaeth yn teimlo eu bod yn cael eu tynnu at yr arfordir ac i lawer does dim byd y maent yn ei fwynhau yn fwy na cherdded ar ben y clogwyni yn edrych dros olygfeydd eang o’r môr a’r awyr. Ond yn ymarferol, mae hyn yn aml yn amhosib. Heb unrhyw hawl mynediad cyhoeddus i draethau a rhwydwaith o hawliau tramwy sy’n llawn o fylchau a rhwystrau, gall cerdded yr arfordir yn aml fod yn brofiad rhwystredig. Mae cerddwyr wrth eu bodd gyda llwybrau arfordirol ond gallant fod yn gul ac yn gyfyngol, gan ein cau i mewn gyda ymyl y clogwyn ar un ochr a ffens gyda weiren bigog arni neu wrych llawn mieri ar y llall. Mae hyn yn tynnu oddi ar yr agoredrwydd a’r synnwyr o ryddid y mae cymaint ohonom yn ei werthfawrogi ac felly yn cwtogi ar ansawdd y profiad o gerdded yr arfordir. Yn hytrach na cherdded ar hyd llwybr cul mewn un rhes rydym am gael ystod eang o dir wedi ei neilltuo ar gyfer mynediad arfordirol sy’n gadael i bobl fwynhau eu hamgylchion heb ofni ymyl y clogwyn. Llain o dir sy’n gadael i bobl edrych tuag at y gorwel ac ymlacio gyda’u ffrindiau a’u teulu yn ddiogel. Ni fu cerdded yr arfordir erioed mor boblogaidd. Aeth bron i 4 miliwn o bobl i gerdded ar arfordir Cymru yn 2003, gan wario ychydig llai na £650 miliwn (Bwrdd Croeso Cymru 2003). Byddai hawl mynediad arfordirol newydd yn agor hyd yn oed mwy o’n harforlin hardd ac yn creu adnodd gydag apêl gwirioneddol a phoblogaidd.

Bae Whitesands, Sir Benfro © Llywodraeth Cynulliad Cymru

Rydym yn ceisio sicrhau cyfle i gael llwybr parhaus o amgylch arfordir Cymru ac i’r mynediad fod yn sicr, yn glir ac yn ddiogel. Dynodi llain eang o dir mynediad wedi ei fapio yw’r ffordd orau o wneud hyn. Byddai band o’r fath ar gael ar hyd arfordir Cymru, gan gulhau a lledu yn unol ag amodau lleol, ond gyda lleiafrif tywysedig o 20m. Byddai hyn yn sicrhau profiad cerdded o ansawdd, yn cadw erydiad i isafswm ac yn ffocws i arian amaethamgylchedd i ganiatáu ar gyfer datblygu cynefinoedd arfordirol. Gan ddefnyddio’r Ddeddf Cefn Gwlad a Hawliau Tramwy – y ddeddf a ddaeth â’r ‘hawl i grwydro’ ein mynyddoedd a’n gweundiroedd

y llynedd, gallem fapio hawl mynediad diogel a darparu ar gyfer cyfyngiadau yn unol â diddordebau yn ymwneud â rheoli tir. I wneud hyn mae arnom angen cefnogaeth oddi wrth Lywodraeth Cynulliad Cymru. Maent eisoes wedi gwneud ymrwymiad i ymestyn mynediad cyhoeddus i’r arfordir erbyn 2008/09 ac mae angen i ni wneud yn siwr ein bod yn cael y fargen orau i gerddwyr. Helpwch ni ac ymunwch â’n hymgyrch i gael hawl mynediad arfordirol i Gymru drwy ysgrifennu at eich Aelod Cynulliad lleol heddiw. Edrychwch ar ein gwefan am fwy o fanylion a’n datganiad swyddogol ynglˆ yn â’r ymgyrch. TUDALEN

1


rambler_64_CYM_g

4/5/06

10:23 PM

Page 2

Y

GWANWYN 2006

Helo oddi wrth Dîm Cymru… Mae gormod o amser wedi mynd heibio ers i ni fod mewn cysylltiad. Rydym wrth ein bodd yn gysylltu â chi i ddweud bod gennym dîm newydd o staff yn ein swyddfa newydd yng Nghaerdydd. Pe baech yn clicio ar ein gwefan* gallwch ein gweld i gyd yn gwenu’n ôl yn braf arnoch chi. Fy nghydweithwyr newydd yw Anwen Hughes sy’n rhedeg y Prosiect Hyrwyddo Cerdded a’n Rheolydd Swyddfa, Richard Granville, Cydlynydd Mynediad, Martin Dowson, Swyddog Gwarchod Cefn Gwlad a Mike Mills, Swyddog Hawliau Tramwy. Felly mae aelod staff yn arwain ynghylch pob un o amcanion elusennol Y Cerddwyr. Mae gan bob un ohonom set o brosiectau a gweithgareddau wedi eu cytuno gyda Phwyllgor Gweithredol Cymru a thrwy’r rhain gobeithiwn ddatblygu effaith a dylanwad Cymdeithas y Cerddwyr yng Nghymru gyda gwirfoddolwyr. P’run ai a fyddwch chi yn ein ffonio ni neu y byddwn ni yn cysylltu â chi gobeithio fod y llun yn eich helpu chi i roi wynebau i’r enwau a’r lleisiau. Gyda llaw, diolch yn fawr iawn i’r rhai hynny ohonoch a lenwodd arolwg Swyddfa Archwilio Cymru, cafwyd ymateb gwych. Gobeithiaf glywed oddi wrthych am y cylchlythyr hwn neu unrhyw mater arall. Mwynhewch eich cerdded!

Beverley

2006 MAI 1af – Lansio Ymgyrch Defnyddiwch Eich Llwybrau 27ain – Dathlu Pen-blwydd 1af Tir Mynediad MEHEFIN 24ain – Wythnos Defnyddiwch Eich Llwybrau GORFFENAF 24ain-27ain – Sioe Frenhinol Cymru (rydym wedi archebu safle - mae angen gwirfoddolwyr) AWST 5ed-12ed – Eisteddfod Genedlaethol, Abertawe (bydd angen gwirfoddolwyr) MEDI 16eg-24ain – Wythnos Croeso I Gerdded RHAGFYR / IONAWR 26ain Rhag - 1af Ion – Gˆ wyl Cerdded y Gaeaf

Cyfarwyddydd Cymru * http://www.ramblers.org.uk/wales/Staff.html

Diolch Yn Fawr Iawn Beverley Penney

Richard Granville

Martin Dowson

Mike Mills

Anwen Hughes

Helo hefyd oddi wrth… Yn y llun isod gwelir aelodau o Bwyllgor Gweithredol Cyngor Cymru a gymerwyd wrth lansio’r swyddfa y llynedd: Rhes ôl: Ron Williams (Cadeirydd), Terry Squires (Is-Gadeirydd Bwrdd Ymddiriedolwyr CC). Rhes Ganol: Colin Yarwood (Trysorydd), Richard Lloyd Jones (Llywydd), Andrew Richards. Rhes Flaen: Beverley Penney (Cyfarwyddydd Cymru), Barbara Palmer (wedi ymddeol), Vernon Davies, Alex Marshall (Is-Gadeirydd). Heb fod yn y llun: Jane Davidson AC, Malcolm Wilkinson, Helen Lloyd Jones, Val Walker Jones, Gerald Moss.

Diolch yn fawr i’n haelodau o’r Pwyllgor sy’n ymddeol, Barbara Palmer a Mary Robinson, sydd rhyngddynt wedi gwasanaethu ar Gyngor Gweithredol Cyngor Cymru am 19 mlynedd.

>> NEWYDDION HWYR>> Yn dilyn Cyngor Cymru 2006 rydym yn falch o gyhoeddi Pwyllgor Gweithredol Cyngor Cymru newydd. Swyddogion: Llywydd – Richard Lloyd Jones Is-Lywydd – Jane Davidson Cadeirydd – Ron Williams Is-Gadeirydd – Alex Marshall Is-Gadeirydd – Malcolm Wilkinson Trysorydd – Colin Yarwood Aelodau’r Pwyllgor: Vernon Davies Helen Lloyd Jones Val Walker Jones Laurence Main Gerald Moss Andrew Richards Cymdeithas y Cerddwyr, 3 Iard y Cowper, Ffordd Curran, CAERDYDD. CF10 5NB Ffon: 029 2064 4308 Ffacs: 029 2064 5187 Ar y we: ramblers.org.uk e bost: cerddwyr@ramblers.org.uk

TUDALEN

2


rambler_64_CYM_g

4/5/06

10:23 PM

Page 3

Y

GWEITHIO AR RHAN CERDDWYR

CEFNOGI CERDDED >>>

Camu ymlaen... ae Cerrig Camu yn olynydd i’n prosiect llwyddiannus Lonc a Chlonc. Mae’n cynnig troeon o hyd cymedrol (3-5 milltir) i bawb, a chyfle gwych i fynd ati i gerdded. Mae Cerrig Camu yn gyfle gwirioneddol i’r rhai hynny sy’n awyddus i ddechrau, ail-ddechrau neu barhau i gerdded. Mae’n bwysig, oherwydd mae’n llenwi’r bwlch rhwng y tro byr awr a mwy o hyd yn nhroeon Cerdded Llwybr Iechyd a theithiau hanner diwrnod i ddiwrnod o hyd yn y prif lif a gynigir gan lawer o grwpiau’r Cerddwyr.

M

Felly crëwyd cyfleoedd ar gyfer teithiau tywys ynghyd ag eraill o unrhyw hyd. Mae’r troeon hyn yn weithgaredd ychwanegol drwy gydol y flwyddyn ar gyfer grwpiau’r Cerddwyr a thrwy hynny’n creu cyfleoedd ychwanegol i aelodau presennol. Gofynnir i gyfranogwyr fonitro yr hyn maent yn ei ennill o ran eu hiechyd eu hunain ar holiadur. Mae angen hyn oherwydd bydd angen i fudd cerdded (er ei fod yn cael ei gydnabod yn eang) gael ei ystyried o fewn pob prosiect. Lansiwyd y prosiect gan ein Is-Lywydd Jane Davidson AC a Chadeirydd Cymdeithas y Cerddwyr Cymru, Alex Marshall. Cafodd sylw gwych yn y wasg yn yr Eisteddfod Genedlaethol yn y Felinheli, ac ar ôl y lansiad, wrth gwrs roedd tro nodweddiadol Cerrig Camu i ddilyn. Ar hyn o bryd mae 185 o bobl wedi dilyn yr hyfforddiant ar gyfer bod yn arweinwyr y troeon (mae mwy ar gael) ac mae 21 o grwpiau wedi trefnu troeon o fewn 17 o awdurdodau lleol (ein targed yw rhaglen ym mhob un). Lansio Cerrig Camu gan Is-gadeirydd Cymdeithas y Cerddwyr Jane Davidson AC gydag Alex Marshall, Cadeirydd Cymdeithas y Cerddwyr Cymru (canol), Bob Lowe and Sue Walton o Gyngor Cefn Gwlad Cymru ynghyd ag aelodau’r Cerddwyr.

Cwestiynau Cyffredin – Cerrig Camu / Stepping Stones C: Pa mor hir yw tro Cerrig Camu? A: Tua 3 i 5 milltir o hyd fel arfer. Byddai’n para tua tair awr yn dibynnu ar unrhyw seibiannau ac unrhyw amser a arhosir i weld mannau o ddiddordeb. C: Beth mae troeon ‘rheolaidd’ yn ei olygu i Cerrig Camu? A: Drwy’r flwyddyn ac isafswm o un y mis. C: Pa radd a roddir i droeon Cerrig Camu? A: Dylai troeon Cerrig Camu fod yn hawdd, yn addas i bobl heb esgidiau cerdded na dillad arbennig. Dim graddiannau serth a dim rhwystrau sylweddol. C: Fedra’ i arwain tro Cerrig Camu? A: Rhaid i arweinwyr troeon i gyd gymryd rhan mewn hyfforddiant Cerrig Camu cyn arwain tro. C: Sut y gallaf ddod i wybod am hyfforddiant Cerrig Camu? A: Gofynnwch i gydlynydd eich gr wp ˆ Cerrig Camu lleol, neu Anwen yn Swyddfa Cymdeithas y Cerddwyr Cymru.

C: A yw Cerrig Camu yn rhan o raglen troeon fy ngr wp ˆ lleol? A: Mae Cerrig Camu yn ceisio denu pobl at gerdded nad ydynt yn gwneud hynny’n rheolaidd. Mae llawer o droeon Cerrig Camu Stones yn cyd-fynd yn dda â rhaglenni grwpiau – ond dylid rhoi cyhoeddusrwydd hefyd i Cerrig Camu y tu allan i’r gr wp. ˆ C: Sut y dylwn i roi cyhoeddusrwydd i droeon Cerrig Camu? A: Mae posteri arbennig ar gael o swyddfa Cymdeithas y Cerddwyr Cymru i’w harddangos mewn llyfrgelloedd, ffenestri siopau, meddygfeydd ac ati. Cofiwch eu gwneud yn rhai dwyieithog! C: Pwy ddylwn i ddweud wrthyn nhw am droeon Cerrig Camu? A: Hysbyswch eich cydlynydd Cerdded Llwybr Iechyd lleol bob amser am eich troeon a’r rhaglen, a chysylltiadau eraill e.e. meddygfeydd Meddygon Teulu, tîm Hybu Iechyd y Bwrdd Iechyd Lleol a chofiwch am Swyddfa’r Cerddwyr! C: A yw fy ngr wp ˆ yn elwa o Cerrig Camu? A: Ydy! Mae grwpiau sy’n cymryd rhan yn darganfod bod llawer o bobl yn cael eu denu at y math hwn o dro – cerddwyr newydd a phobl sy’n teimlo fod troeon hwy bellach yn ormod iddyn nhw, ond sydd eisiau parhau i gymryd rhan mewn troeon i grwpiau.

C: A oes raid i bobl fod yn aelod o Gymdeithas y Cerddwyr i fynd ar droeon Cerrig Camu? A: Nac oes. Gall unrhyw un gymryd rhan mewn troeon Cerrig Camu heb orfod ymuno â’r Gymdeithas. Ond os symudant ymlaen i gymryd rhan yn rhaglen y prif droeon, yna mae’r amodau arferol yn berthnasol a dylent ymaelodi. C: Faint o waith papur sy’n rhaid ei wneud? A: Mae’n rhaid i chi gadw cofnod o • nifer y cerddwyr newydd • cyfanswm nifer y bobl sy’n cymryd rhan yn y tro • dylid rhoi holiadur i gerddwyr newydd ei lenwi. C: Beth y dylwn ei wneud gyda’r holiadur? A: Mae cyfeiriad post rhad ar y ffurflen – anogwch y cerddwr i lenwi’r ffurflen a’i dychwelyd i’r swyddfa. Os gall y cerddwr newydd ei llenwi ar unwaith, gallwch drosglwyddo’r ffurflen i gydlynydd y gr wp. ˆ C: Beth yw’r warchodaeth yswiriant ar gyfer Cerrig Camu? A: Mae arweinwyr troen a chyfranogwyr yn cael yr un lefel o warchodaeth a unrhyw weithgaredd arall y Cerddwyr. TUDALEN

3


rambler_64_CYM_g

4/5/06

10:23 PM

Page 4

Y

GWANWYN 2006

LLWYBRAU >>>

Ymgyrchu Dros Newid yng Nghonwy

Hyfforddiant Ynghylch Llwybrau i Gymru

M

ae gwaith ymgyrchu yn flaenoriaeth uchel yng nghynllun gwaith Mike Mills, ein Swyddog Hawliau Tramwy newydd ar gyfer Cymru. Mae’r gwaith hwn eisoes wedi dechrau gydag ymgyrch ddechreuol wedi ei thargedu at Gyngor Sir Conwy bellach ar y gweill. Amcan yr ymgyrch yw sicrhau cynnydd yng nghyllideb yr hawliau tramwy yng Nghonwy. Gobeithiwn hefyd greu enghraifft a fydd yn tynnu sylw at y modd y gallai ymgyrchoedd llwyddiannus gael eu cynnal yng Nghymru yn y dyfodol.

cyhoedd. Cam cyntaf y broses hon fydd ffurfio gweithgor ymgyrchu yng Nghonwy o dan ofal y Swyddog Llwybrau Lleol, Ann Penketh, Max Grant a David Tindall a chyda cefnogaeth Mike Mills yn Swyddfa Cymru, Cymdeithas y Cerddwyr, bydd y grˆ wp hwn yn canolbwyntio ar fynd â’r ymgyrch hon ymlaen dros yr ychydig fisoedd nesaf.

Dewisiwyd Cyngor Sir Conwy ar ôl ymgynghori helaeth gyda gwirfoddolwyr ac mae’n ardal lle credwn fod gennym y cymysgedd cywir o gefnogaeth gan wirfoddolwyr a photensial ar gyfer budd i’r

Mae’n rhaid i ymgyrchoedd llwyddiannus gael cefnogaeth, felly os hoffech fwy o wybodaeth am sut y gallwch gymryd rhan, cysylltwch ag Anne Penketh ar 01492 622887.

M

Llwyddiant Sir Benfro yn y Frwydr i Gau Llwybr ae Chris Taylor, Swyddog Llwybrau, Cymdeithas y Cerddwyr ar gyfer Sir Benfro yn sôn yma am lwyddiant aruthrol: Mae’r Arolygiaeth Cynllunio wedi diddymu penderfyniad yn cau llwybr poblogaidd yn Sir Benfro, Llawhaden 20/15. Mae’n rhedeg heibio Dwyrain Cleddau o Bont Canaston i’r gogledd i St Kennox ac yn y pen draw i Lawhawden gan ffurfio rhan o Lwybr y Landsker.

M

Cafodd y llwybr hwn, ynghyd â dau arall a oedd yn ymuno ag ef yn y pen gogleddol eu hail-ddynodi fel llwybrau march gan Gyngor Sir Penfro ym 1991. Gwrthwynebwyd yr ailddynodi hwn gan dirfeddiannwr, Mrs Smith, a ffermwr lleol ac arweiniodd at Ymchwiliad Cyhoeddus ym Mawrth 2004. Yn yr ymchwiliad hwn heriodd Mrs Smith

bresenoldeb hawliau cyhoeddus ar ei hadran hi o’r llwybr a dywedodd fod proses y mapio diffiniol yn yr 1950au yn ddiffygiol. Canfu yr Arolygydd o’i phlaid, cyhoeddodd orchymyn cau, a gorchmynnwyd Cyngor Sir Penfro gan y Cynulliad Cenedlaethol i gyhoeddi’r hysbysiad. Apeliodd Cyngor Sir Penfro yn erbyn y ddau benderfyniad, a galwyd Ymchwiliad Cyhoeddus arall yn niwedd Tachwedd 2005, lle cafwyd 40 o wrthwynebiadau i ddileu’r llwybr 20/15 o’r map, ac i golli statws llwybr march ar y ddau lwybr arall, gyda Mrs Smith yn chwarae rhan bwysig, a’r ffermwyr yn gwerthwynebu dynodi’r llwybr march. Roedd gwrthwynebwyr i’r cau yn cynnwys Cyngor Sir Penfro, Cymdeithas y Cerddwyr, y BHS, grwpiau cerddwyr a llawer o drigolion lleol. Parodd yr ymchwiliad am chwe diwrnod, ac fe’i dilynwyd gan ymweliad â’r safle ar y 7fed diwrnod mewn tywydd difrifol. Cynhyrchwyd tystiolaeth hynod o fanwl i ddangos bod y llwybr wedi bodoli ac wedi ei ddefnyddio am lawer o flynyddoedd, a bod y gweithdrefnau cywir wedi eu dilyn pan gynhyrchwyd y Map Diffiniol. O ganlyniad ni chadarnhawyd y diddymiad gan yr Arolygydd sy’n golygu bod y tri llwybr wedi eu diogelu fel llwybrau march. Meddai Chris “Canlyniad i’w groesawu i Gymdeithas y Cerddwyr, trigolion Sir Benfro ac ymwelwyr i’r ardal boblogaidd hon.” Cerddwyr yn defnyddio Llawhaden 20/15

TUDALEN

4

ae Mike Mills, Swyddog Hawliau Tramwy yn Swyddfa Cymru yn datblygu hyfforddiant ar gyfer llwybrau i fodloni anghenion gwirfoddolwyr. Mae Mike yn dweud fod siarad â grwpiau ac ardaloedd yn dangos fod awydd gwirioneddol am hyfforddiant yn ymwneud â llwybrau. Gall Swyddfa Cymru, Cymdeithas y Cerddwyr bellach gynnig nifer o sesiynau hyfforddiant gwahanol ar gais Ardaloedd a Grwpiau yng Nghymru. Gan ganolbwyntio ar waith sy’n ymwneud â’r llwybrau a chyfraith sylfaenol yn ymwneud â llwybrau troed, datblygwyd sesiynau mewn modd sy’n sicrhau eu bod yn addas ar gyfer gwirfoddolwyr sydd wedi eu recriwtio yn ddiweddar yn ogystal â’r gwirfoddolwyr mwy profiadol hynny sy’n ymwneud â llwybrau ac a hoffai wella eu gwybodaeth. Cynhelir chwech o gyrsiau undydd llawn yn ystod y flwyddyn i ddod yng Ngogledd Cymru, Canolbarth Cymru, De Cymru a Gorllewin Cymru a gobeithir drwy sicrhau fod yr hyfforddiant ar gael ar lefel mor lleol y bydd hyn yn golygu y bydd hyd yn oed mwy o wirfoddolwyr ac aelodau yn manteisio ar y sesiynau. Dyluniwyd y deunydd ar gyfer y sesiynau hyn o amgylch anghenion y gwirfoddolwyr a byddant yn cynnwys: Rhagarweiniad i waith yn ymwneud â llwybrau; Y gyfraith sylfaenol ynghylch llwybrau troed; Newidiadau i’r rhwydwaith; Gorchmynion y Ddeddf Priffyrdd; Hawliau tramwy, datblygiad a’r cyhoedd; Ymchwiliadau; ac unrhyw bynciau eraill y gofynnir amdanynt. Yn olaf, rydym yn ymwybodol iawn o’r angen am hyfforddiant ychwanegol mewn materion sy’n gysylltiedig â hawlio llwybrau hanesyddol i’w hychwanegu at y map diffiniol yng ngoleuni’r dyddiad terfyn o 25 mlynedd. Bu i osod ‘Llwybrau Coll’ fel blaenoriaeth isel ar Gynllun Gwaith yr Hawliau Tramwy arwain at ymateb enfawr oddi wrth y rhai hynny sy’n gweld y mater hwn fel rhan bwysig o waith Cymdeithas y Cerddwyr yng Nghymru, ond cyn i ni symud ymlaen yn rhy bell gyda datblygu ein hyfforddiant ein hunain ynghylch y materion hyn rydym ar hyn o bryd yn gwerthuso’r dewisiadau hyfforddiant oddi wrth ddarparwr hyfforddiant allanol a fydd yn gallu dod â llawer o brofiad perthnasol i’r maes gwaith hwn. Er hynny, hoffem glywed oddi wrth weithwyr sy’n ymwneud â’r llwybrau am eu hanghenion hyfforddi yng nghyd-destun gwaith map diffiniol. Mae Mike Mills yn awyddus i glywed oddi wrth Ardaloedd sy’n dymuno cynnal hyfforddiant ac oddi wrth unrhyw un gyda syniadau arbennig am hyfforddiant. Galwch ef yn Swyddfa Cymdeithas y Cerddwyr Cymru neu ebostiwch: mikem@ramblers.org.uk


rambler_64_CYM_g

4/5/06

10:23 PM

Page 5

Y

GWEITHIO AR RHAN CERDDWYR

MYNEDIAD >>>

Lansio Mynediad A Dathlu’r Pen-Blwydd Cyntaf A

r 28 Mai, 2006 mae’r Hawl i Grwydro yn dathlu ei ben-blwydd cyntaf! Ers ei lansio gan y Weinidog dros yr Amgylchedd, Cynllunio a Chefn Gwlad, Carwyn Jones flwyddyn yn ôl, mae miloedd o gerddwyr wedi bod yn gwneud y gorau o’u hawliau mynediad newydd ac yn mwynhau rhyddid nas gwelwyd ei fath o’r blaen i rai o’n tirluniau mwyaf hardd ac ysbrydoledig. Mae cynlluniau i nodi’r diwrnod mawr ar y gweill, gyda chyfres o deithiau i grwpiau lleol wedi eu cynllunio i arddangos tir mynediad lleol i gyd-fynd â dathliadau a drefnir gan y Cynulliad a Chyngor Cefn Gwlad Cymru (CCGC). Os dymunech ein helpu i ddathlu, beth am drefnu tro ar dir mynediad yn eich ardal? Mae hwn yn gyfle gwych i gyflwyno digwyddiad a fydd yn denu sylw ar gyfer Cymdeithas y Cerddwyr a’r ddeddfwriaeth newydd, a dyma’r un ffordd orau o wneud pobl yn ymwybodol o beth y mae’r hawl i grwydro ar dir mynediad yn ei olygu iddynt yn eu hardal. Cofiwch hysbysebu’r tro yn lleol a’i ychwanegu at y cyfleuster i ganfod troeon i grwpiau ar wefan Cymdeithas y Cerddwyr, gan gynnwys cod Gˆ wyl ALWW i’w nodi fel tro dros dir mynediad. Mae mynediad agored i gefn gwlad i ffwrdd oddi wrth rwydwaith yr hawliau tramwy yn gysyniad cwbl newydd i’r rhan fwyaf o gerddwyr ac yn naturiol bydd yn cymryd peth amser i addasu iddo. Gall grˆwp eich Cerddwyr lleol arwain o ran dysgu cerddwyr eraill trwy ddefnyddio tir mynediad, ac annog eraill i ymuno â chi drwy ei gynnwys o fewn eich rhaglen o deithiau cerdded. Mae gwneud pobl yn ymwybodol o fynediad agored, o’r hyn y mae’r hawl newydd yn ei olygu yn ymarferol a’r cyfleoedd newydd gwych y mae’n eu cynnig iddynt fwynhau ein cefn gwlad, yn hynod o bwysig ac yn rhywbeth y gall pob cerddwr helpu gydag ef. Chwaraewch eich rhan a dangoswch eich cefnogaeth i fynediad agored drwy gefnogi Y Cerddwyr yn ystod y penwythnos hwn o w ˆ yl Banc y Gwanwyn.

I gael mwy o wybodaeth am ein dathliadau pen-blwydd neu i gael cyngor am unrhyw agwedd ynglˆyn â’r hawl mynediad newydd cysylltwch â Richard Granville, ein Cydlynydd Mynediad, yn Swyddfa Cymdeithas y Cerddwyr Cymru neu ebostiwch richardg@ramblers.org.uk

Dyfodol Mynediad Roedd 2005 yn flwyddyn wych i gerddwyr. Ym Mai, gyda lansiad swyddogol y Ddeddf Cefn Gwlad a Hawliau Tramwy, cawsom yr hawl cyfreithiol i gerdded ar dros 350,000 hectar o fynydd-dir, gweundir, rhostir, downdir a thir comin ar draws y wlad. Hwn oedd y symudiad mwyaf ynghylch mynediad cyhoeddus i gefn gwlad ers creu’r Parciau Cenedlaethol ym 1949 ac roedd yn fuddugoliaeth fawr i ymgyrch Cymdeithas y Cerddwyr ar ôl bron i 70 mlynedd o ymdrech barhaus. Er mor wych yw’r hawl newydd i grwydro y mae’n ein gadael gyda rhywfaint o ddilema. Yn awr fod gennym fynediad agored, ble rydym yn mynd nesaf? Beth ydych chi yn ei wneud pan ydych chi wedi cyflawni eich uchelgais tymor hir fwyaf? Wel, y cam cyntaf yw mynd allan a gwneud y gorau o’r hyn sydd gennym. Gyda dros 21% o Gymru wedi ei dynodi o’r newydd, fyddwch chi’n sicr fyth yn rhy bell i ffwrdd oddi wrth ddarn o dir mynediad, ble bynnag yr ydych yn byw. Cofiwch, pan ydych ar dir mynediad nid oes raid i chi gadw at y llwybrau, felly gallwch grwydro rhai o’r tirluniau harddaf yn y wlad gyda gwir ryddid. Gweler y Blwch Gwybodaeth am fwy o fanylion. Ond nid dyna’r cyfan! Mae llwyddiant un ymgyrch yn gwneud i chi awchu am fwy! Mae’r ymgyrch fawr nesaf, sydd wedi ei hanelu at wella mynediad arfordirol, yn defnyddio’r un ddeddfwriaeth ag a ddaeth â’r hawl i grwydro i’n

Rhinogydd © Llywodraeth Cynulliad Cymru

mynyddoedd a’n gweundiroedd ac mae ar y gweill yn barod. Gydag ymrwymiad gan Lywodraeth Cynulliad Cymru i fynediad arfordirol a fydd yn cael ei gyflwyno erbyn 2008/09 a chefnogaeth gref ar lawr gwlad, mae dyfodol yr ymgyrch ar hyn o bryd yn edrych yn obeithiol. Ond beth am y tymor hir? Pa weledigaeth sydd gennym fel corff ar gyfer y mathau o fynediad i gefn gwlad yr ydym am ei weld yn cael ei gyflawni ymhen deng neu ugain mlynedd a pha strategaethau neu ymgyrchoedd y mae arnom eu hangen i’w cyflawni? Cynhaliwyd cynhadledd ym mis Ionawr eleni wedi ei hanelu at ymdrin â rhai o’r cwestiynau hyn a mynd â’n hymgyrch mynediad yn ei blaen. Cynhyrchodd rai canlyniadau diddorol. Ar frig y rhestr o ddymuniadau a ymddangosodd oedd awydd i weithio gyda grwpiau eraill, defnyddwyr a rheolwyr tir, i greu croeso gwirioneddol yng nghefn gwlad i gerddwyr adloniadol. Roedd pobl yn dymuno gweld cefn gwlad lle roedd cerddwyr yn amlwg yn ymwybodol o beth oedd eu hawliau ac yn gallu eu defnyddio yn hyderus heb ofni cael eu beirniadu. Mae hyn yn rhannol yn gofyn am newid agwedd, cydnabyddiaeth sy’n cynyddu’n raddol am hawliau cerddwyr i gael mynediad i dir a’r effaith gadarnhaol y mae hyn yn ei gael ar gefn gwlad. Mae angen hefyd i gefn gwlad fod yn agored i gerddwyr, gyda rhwydwaith o hawliau tramwy a chefn gwlad agored sy’n derbyn cyhoeddusrwydd ac sy’n cael ei gynnal yn dda ac y bydd pobl yn dymuno ei ddefnyddio. Daeth ymgyrchu dros ‘hawl i grwydro’ ehangach yn ail. Byddai hyn yn gweld Cymru a Lloegr yn gwthio am system debyg i’r hyn sy’n gweithredu ar hyn o bryd yn yr Alban, lle mae pobl yn mwynhau hawl mynediad cyffredinol dros y rhan fwyaf o dir a dˆ wr mewndirol, sy’n cael ei lywio gan god ysgrifenedig yn argymell defnydd cyfrifol. Mae’n bosib fod yr ymgyrch mynediad wedi cael un llwyddiant arbennig yn barod, ond nid yw drosodd eto. Roedd sicrhau hawl mynediad cyfreithiol i dros 1 rhan o 5 o dir Cymru o dan y Ddeddf Cefn Gwlad a Hawliau Tramwy yn ddechrau gwych ond mae mwy i ddod! Gyda’ch cymorth chi gallwn barhau i wella amodau i gerddwyr, gan chwalu mwy o rwystrau ac agor hyd yn oed mwy o’n cefn gwlad hardd. Mae mynediad agored yma i aros!

MWY O WYBODAETH Gellir cael gwybodaeth am ble y gallwch gerdded a beth y gallwch ei wneud ar dir mynediad yng Nghymru ar www.ramblers.org.uk/freedom Tynnir sylw at dir mynediad hefyd ar y gyfres newydd o fapiau Explorer (1:25000) oddi wrth Arolwg Ordnans. Mae gan wefan Cyngor Cefn Gwlad Cymru fap rhyngweithiol o’r holl dir mynediad yng Nghymru a manylion am unrhyw gyfyngiadau neu waharddiadau a all fodoli yn www.ccw.gov.uk neu gallwch alw eu llinell ymholiadau ar 0845 130 6229. Mae llawer o grwpiau lleol Cymdeithas y Cerddwyr yn trefnu troeon sy’n croesi tir mynediad. Mae Adran Darganfod Teithiau Grˆ wp ein gwefan yn www.ramblers.org.uk/walksfinder yn lle gwych i gychwyn, gyda gwybodaeth am filoedd o droeon a manylion cyswllt ar gyfer yr holl arweinwyr. Mae Cymdeithas y Cerddwyr yn cefnogi’r Cod Cefn Gwlad yn llawn. TUDALEN

5


rambler_64_CYM_g

4/5/06

10:23 PM

Page 6

Y

GWANWYN 2006

CEFN GWLAD >>>

Y Cerddwyr ac Egni Adnewyddol yhoeddwyd TAN8, y Nodyn Cyngor Technegol i roi cyfeiriad i gynllunio ar gyfer egni adnewyddol yng Ngorffennaf 2005. Er gwaethaf gwrthwynebiad oddi wrth Cymdeithas y Cerddwyr Cymru, mae’r TAN yn dynodi saith o ardaloedd chwilio ‘strategol’ (SSAs) yng Nghymru lle canolbwyntir tyrbinau gwynt ar y tir i gefnogi targedau i gwtogi ar CO2.

C

Er bod Cymdeithas y Cerddwyr yn cefnogi’n llawn yr angen am egni adnewyddol i ymladd yn erbyn newid yn yr hinsawdd, ni allwn dderbyn hyn mewn lleoliadau amhriodol lle mae’n difrodi’r amgylchedd mewn ffyrdd eraill – yn weledol ac o ran mwynderau adloniadol. Mae’r ffaith y rhoddir blaenoriaeth i dyrbinau ar y tir yn hytrach na rhai yn y môr yn bryder i Gymdeithas y Cerddwyr a llawer o grwpiau eraill. Mae effaith datblygiadau ar raddfa mor ddiwydiannol ar y tirlun yn enfawr. Mae gan y fferm wynt enwog yng Nghefn Croes, ger Aberystwyth 39 o dyrbinau hyd at 100m o uchder (sydd mor dal â Big Ben). Disgwylir i gannoedd o dyrbinau newydd, er enghraifft yng Nghylchfa Fferm Wynt arfaethedig Clocaenog TAN8 yng Ngogledd Cymru, fod yn 130m o uchder (dros 400 troedfedd) – sy’n uwch nag Eglwys Gadeiriol St Paul. Byddai adeiladau mor uchel â hyn yn cael trafferth mawr i gael caniatâd cynllunio mewn tref heb sôn am ym mherfeddion cefn gwlad! Mae’n anodd deall sut y gall y rhain fyth gael eu gweld fel rhan o’r tirlun. Yn wir, noda LlCC (Llywodraeth Cynulliad Cymru) yn TAN8 mai’r ‘amcan a awgrymir yw derbyn ... newid sylweddol yng nghymeriad y tirlun o ganlyniad i ddatblygu tyrbinau gwynt’. Dydy sensitifrwydd amgylcheddol yn cyfrif dim felly! Mae ein gobeithion am osgoi hyn yn seiliedig ar newid yn yr ysgogiadau ariannol y mae’r Llywodraeth yn eu cynnig i gwmnïau egni adnewyddol – y rhwymedigaeth ynghylch egni adnewyddol. Mae hwn mewn gwirionedd yn hyrwyddo egni gwynt ar y tir fel ateb tymor byr. Dim ond os bydd hyn yn cael ei newid y bydd digon o arian yn cael ei wario ar ymchwil i ddatblygu ffynonellau adnewyddol amgen fel egni’r llanw ac egni’r tonnau. Ond mae newid i’r rhwymedigaeth ynglˆyn ag egni adnewyddol yn ateb tymor hir. Mae ein gobaith ar hyn o bryd yn dibynnu ar gryfder moesol awdurdodau lleol. Gofynnwyd i gynghorau yr effeithiwyd arnynt gan SSAs gan LlCC i benderfynu sut yn union i leoli tyrbinau gwynt o fewn yr SSAs. Mae’n bwysig eu bod yn sylweddoli pwysau’r cyfrifoldeb sydd arnynt. Dim ond blwyddyn ar ôl i Ddeddf Cefn Gwlad a Hawliau Tramwy sefydlu hawl mynediad i lawer rhan o Gymru, mae cynlluniau ar gyfer

datblygiadau tyrbinau gwynt ar yr union yr un ardaloedd o ucheldir ar fin cymryd ymaith ein rheswm dros ymweld â nhw. Credwn fod polisi cynllunio TAN8 yn gwrthdaro’n uniongyrchol ag amcanion deddfwriaeth y Ddeddf Cefn Gwlad a Hawliau Tramwy a ddynododd hawliau mynediad cyhoeddus statudol ar gyfer hamdden awyr agored – y ‘rhyddid’ i grwydro. Rhaid i gynllunwyr awdurdodau lleol sylweddoli hefyd bod yn rhaid i effaith tyrbinau gwynt ar y tirlun ac ar hamdden gael ei ystyried yn llawn ac yn wrthrychol wrth asesu eu hardaloedd dynodedig. Yna byddant yn darganfod fod yr SSA gwreiddiol wedi eu mapio gan LlCC ar wybodaeth a meini prawf anghyflawn. Pan gymerir yr holl ffactorau i ystyriaeth, mae’n amlwg nad yw’r tirluniau hyn yn addas ar gyfer datblygiadau ar raddfa ddiwydiannol – a fyddai’n effeithio ar filoedd o bobl, boed y rhain yn gymunedau lleol neu yn ymwelwyr sy’n cael manteision enfawr o gerdded a mwynhau tirlun ucheldir Cymru. Ydyn ni mewn gwirionedd am weld cannoedd (ie cannoedd) o dyrbinau wedi eu crynhoi yn yr ardaloedd hyn? Mae Cymdeithas y Cerddwyr Cymru yn credu nad ydym. Gall cynlluniau cymunedol lleol ar raddfa fechan gael eu cymhathu’n llawer gwell i’r tirlun, gan ddod â budd uniongyrchol yn y lle y mae’r egni yn cael ei ddefnyddio. I’r bobl hynny sy’n dweud eu bod yn hoffi tyrbinau gwynt, mae’n rhaid i ni ofyn, a ydynt hefyd yn hoffi tirluniau ucheldir Cymru? A yw’n werth aberthu un am y llall, pan fo ffyrdd eraill o gwtogi ar ein heffaith ar newid yn yr hinsawdd ar gael? Os teimlwch y gallwch helpu ein amcanion i warchod cefn gwlad ac yn arbennig sicrhau fod awdurdodau lleol yn rhoi ystyriaeth lawn i’w cyfrifoldebau i warchod yr amgylchedd rhag datblygiad amhriodol, cysylltwch â Martin Dowson, Ymgyrchydd Cefn Gwlad.

Mynediad I Gefn Gwlad – … Arolwg Newydd

M

ae Swyddfa Archwilio Cymru newydd gwblhau ei harolwg o fynediad i gefn gwlad ar gyfer Cynulliad Cenedlaethol Cymru. Yn ogystal â sampl o aelodau Cymdeithas y Cerddwyr yng Nghymru, bu iddynt arolygu cyrff fel tirfeddianwyr, awdurdodau rheoli ynghyd â grwpiau defnyddwyr eraill. Mae casgliad rhagarweiniol yr astudiaeth i’w gyflwyno’n swyddogol yng Ngwanwyn 2006 ac mae’n debygol o roi gwybodaeth i’r Cyngor Cefn Gwlad wrth osod blaenoriaethau ar gyfer y dyfodol i ddatblygu rheoli mynediad yng Nghymru. Yn gyffredinol mae’r adroddiad yn TUDALEN

6

debygol o ddod i’r casgliad fod mynediad agored a weithredwyd drwy’r Ddeddf Cefn Gwlad a Hawliau Tramwy wedi gweithio’n dda, gyda llawer o arfer da yn cael ei ddangos. Ond cydnabyddir bod cyflwr yr hawliau tramwy cyhoeddus yn dal yn wael. Cymerodd Cymdeithas y Cerddwyr Cymru y cyfle hefyd i gasglu barn ei haelodau ynglˆyn ag ystod o bynciau – o osod blaenoriaethau ar gyfer y dyfodol hyd at ffocws gwaith gwarchod cefn gwlad yng Nghymru. Diolch i bawb a gymerodd ran. Roedd yn galonogol iawn hefyd derbyn cymaint o gynigion o gefnogaeth bellach oddi wrth wirfoddolwyr hen a newydd. Byddwn yn cysylltu â chi yn fuan.


rambler_64_CYM_g

4/5/06

10:23 PM

Page 7

Y

GWEITHIO AR RHAN CERDDWYR

Datblygiadau Polisi – Ymatebion Cymdeithas Y Cerddwyr I Ymgynghoriadau Sy’n Effeithio Ar Gefn Gwlad yda newid yn yr hinsawdd yn cael cymaint o sylw, mae arwyddocâd y polisi egni wedi symud i fyny’r agenda. Mae gan Gymdeithas y Cerddwyr Cymru ddiddordeb nid yn unig mewn datblygiadau polisi sy’n ymwneud â thyrbinau gwynt, ond mewn ffynonellau adnewyddol eraill fel cnydau biomas (e.e. prysgoedio coedlannau) a all fod yn duedd newydd mewn amaethyddiaeth a’i effaith ar y tirlun. Mae egni niwclear gyda’i oblygiadau nid yn unig ar gyfer datblygiad adeiledig, ond hefyd o ran storio gwastraff niwclear hefyd yn bwnc allweddol. Oherwydd hyn rydym wedi bod yn adolygu nifer o bapurau ymgynghori, yn seiliedig ar bolisi presennol Cymdeithas y Cerddwyr (gweler yr erthygl ar wahân).

G

• Mae’r Pwyllgor Materion Cymreig (o 11 AS) yn cynnal astudiaeth chwe mis ynghylch ‘Egni yng Nghymru’. Mae hwn yn archwilio sbectrwm y dewisiadau ar gyfer cynhyrchu egni i Gymru. Rydym wedi mynychu sesiwn dystiolaeth yn Llundain (gyda YDCW) ym mis Mawrth. Mae arolwg tebyg ar draws y DG gan y DTI – ‘Ein her o ran egni’ yn cael ei adolygu ar y cyd gyda Chymdeithas y Cerddwyr yr Alban fel rhan o ymateb ar draws Cymdeithas y Cerddwyr. • Mae Cynllun Datblygiad Gwledig Cymru a’r ymarferiad rhychwantu cysylltiedig ynghylch yr Asesiad Amgylcheddol Strategol yn cael eu hadolygu ynghyd â goblygiadau ar gyfer y cynlluniau amaeth-amgylchedd a diwygio’r PAC (CAP). • Mae Cymdeithas y Cerddwyr Cymru hefyd wedi cefnogi Ardal Gogledd Cymru i ymateb i ymgynghoriad ynghylch y Canllawiau Cynllunio Atodol ar gyfer datblygiadau tyrbinau gwynt yn Sir Ddinbych a Chonwy. • Byddwn hefyd yn astudio’n fanwl ymgynghoriad o reolaeth tymor hir gwastraff ymbelydrol lefel isel solid yn y DG a gyhoeddwyd gan DEFRA.

Mwy o Aelodau Mae aelodau yn hanfodol i Gymdeithas y Cerddwyr; maent yn ffynhonnell gwirfoddolwyr, dylanwad gwleidyddol ac incwm. I Gymdeithas y Cerddwyr yn gyffredinol mae’r darlun o ran recriwtio aelodau wedi bod yn galonogol ers llawer o flynyddoedd ond rydym bellach yn gweld gostyngiad bychan yn nifer yr aelodau newydd sy’n ymuno â ni ac aelodau yn ailymuno. Rydym yn pryderu am hyn ac yn ymchwilio iddo. Nid yw’r rhesymau yn eglur ond rydym yn gwybod fod llawer o gyrff yn gweld patrwm tebyg. Y rhesymau fe ymddengys yw cyfuniad o ‘flinder ynglˆyn a rhoi/elusennau’ a’r ffaith fod dulliau traddodiadol o recriwtio yn mynd yn llai effeithiol (nid yw hysbysebion yn dod â chymaint o aelodau newydd ag yr arferent). Roeddem yn gwybod ein bod yn colli’r nifer mwyaf o aelodau yn y flwyddyn gyntaf e.e. y gyfradd adnewyddu i’r rhai hynny a ymunodd yn 2004 oedd 54% (sy’n golygu fod 46% o bobl wedi gadael Cymdeithas y Cerddwyr ar ôl blwyddyn o aelodaeth). Wrth i ni ddal ein gafael ar yr aelodau mae’r ffigurau yn gwella, mae 82% o bobl yn adnewyddu ar ôl eu hail flwyddyn a 92% yn adnewyddu ar ôl eu trydedd flwyddyn. Felly os gallwn ddal ein gafael ar bobl am ddwy neu dair blynedd maent fel arfer yn aros gyda ni fel aelodau ymrwymedig.

Ar nodyn mwy ymarferol, rydym wedi bod yn ymwneud â datblygu ‘Strategaeth Cerdded a Seiclo Cymru’ LlCC. Gweithiwyd ar hyn gan fforwm o bartïon sydd â diddordeb fel Sustrans, Living Streets, CCGC, awdurdodau lleol ac ati ac fe’i hyrwyddir gan y Dirprwy Weinidog dros Ddatblygiad Economaidd a Chludiant Tamsin Dunwoody, AC. Ceisia’r strategaeth roi mwy o flaenoriaeth i hybu cerdded a seiclo a datblygu llwybrau, llwybrau seiclo a chyfleusterau fel rhan o’r tirlun trefol a gwledig. Cyhoeddir y Strategaeth y gwanwyn hwn ac fe’i defnyddir i ddylanwadu ar bolisïau cynllunio awdurdodau lleol. Mae arwyddocâd y tirlun yn bwysig ar hyn o bryd hefyd oherwydd y ffaith fod y Confensiwn Tirlun Ewropeaidd yn ddiweddar wedi cael ei arwyddo gan y DG. Mae hwn yn cydnabod pwysigrwydd tirlun ac yn ei gwneud yn ofynnol iddo gael ei reoli, ei gynllunio a’i warchod mewn polisïau cydnabyddedig. Mewn maes cysylltiedig, mae’r Cyngor Cefn Gwlad wedi bod yn ymgynghori ynglˆyn ag ystyr ‘Harddwch Naturiol’. Yn y gorffennol cafodd ystyr yr ymadrodd hwn ei ddehongli mewn ffyrdd gwahanol (yn ddiweddar, roedd yr hyn a elwir yn ddyfarniad Meyrick ynglˆyn â Parc Cenedlaethol y New Forest yn amau’r dehongliad hanesyddol a diwylliannol o harddwch naturiol). Mae Cymdeithas y Cerddwyr Cymru wedi cyflwyno ei ymateb. Gobeithia’r Cyngor Cefn Gwlad roi datganiad cliriach i LlCC ynghylch harddwch naturiol i lywio polisïau yng Nghymru yn y dyfodol. Ymgynghoriadau eraill sy’n ymddangos yn fuan… • TAN5 – Cadwraeth, Natur a Chynllunio (LlCC) • TAN Mwynau Glo (Drafft) LlCC • Argymhelion i weithredu rheoliadau ar ffliw adar (LlCC) I gael mwy o wybodaeth cysylltwch â Martin Dowson, Ymgyrchydd Cefn Gwlad.

Felly gallwch weld pa mor bwysig yw edrych ar ôl aelodau yn eu blwyddyn gyntaf o aelodaeth a gwneud cymaint ag y gallwn i’w cadw. Beth y gall Grwpiau ac Ardaloedd ei wneud i gadw eu haelodau: * cynnig amrywiaeth o droeon i bob oed/gallu (bydd hyn yn rhywbeth i’w groesawu gan y rhai hynny sy’n newydd i gerdded neu ddim mor brofiadol) * cael arweinwyr y troeon i siarad am y gwaith gwerthfawr ynglˆyn â llwybrau a’r ymgyrchu y mae Cymdeithas y Cerddwyr yn ei wneud (fel bod yr aelodau yn dod yn ymwybodol, ar ein troeon, ei fod yn llawer mwy na chlwb cerdded) * gofalu fod yr holl aelodau newydd yn teimlo fod croeso iddynt ar y troeon ac mewn cyfarfodydd/digwyddiadau cymdeithasol (rydym yn gorff cynhwysol – nid dim ond clwb

i bobl ddetholedig) * bod ag enw cyswllt o bob Grˆ wp yn ffonio unrhyw aelodau sy’n gwangalonni ac yn gofyn iddynt pam a’u hannog i ailymuno (gallai hyn helpu mewn cydweithrediad â’n llythyrau – gallai aelodau sydd wedi peidio ag adnewyddu aelodaeth fod yn fwy tebygol o ddod yn ôl atom pe baent yn cael galwad bersonol oddi wrth rywun yn eu hardal leol. Llwybr Arfordir Sir Benfro © Llywodraeth Cynulliad Cymru

Dyma rai rhesymau pam fod aelodau yn gadael: * roedd eu gr wp ˆ yn rhy oeraidd ac anghyfeillgar (gormod o gliciau) * doedd eu gr wp ˆ ddim yn caniatáu iddynt fynd â chi ar un o’r troeon * maent yn teimlo eu bod yn rhy hen/rhy sâl i gerdded bellach * doedd ganddyn nhw ddim car a doedden nhw ddim yn gallu mynd at ddechrau’r troeon ar gludiant cyhoeddus * maent wedi cwtogi ar eu gwariant ar elusennau (oherwydd newid yn eu hamgylchiadau ariannol) * doedd eu gr wp ˆ ddim yn cynnig troeon byrrach/arafach (roedd yn rhy anodd dal i fyny) * roedd eu gr wp ˆ yn cynnig troeon ar ddydd Sul yn unig (roeddent am gael rhai troeon yng nghanol yr wythnos) * doedd eu gr wp ˆ ddim yn cynnig unrhyw droeon i deuluoedd (roeddent am fynd â’u plant) * nid oeddent bellach yn cytuno â’n nodau elusennol. AWGRYM: Hyrwyddwch Cymdeithas y Cerddwyr drwy gael eich logo ar ddeunydd cyhoeddusrwydd ein Gwyl ˆ Gerdded yr ydych yn cyfrannu ati (ac unrhyw lenyddiaeth arall yn ymwneud â cherdded!)

TUDALEN

7


rambler_64_CYM_g

4/5/06

10:23 PM

Page 8

Y

GWANWYN 2006

LLYFRAU >>> Private Views of Snowdonia Ffotograffau gan Steve Lewis – adolygiad gan Martin Dowson Efallai y byddai golygfeydd personol o Eryri wedi bod yn deitl gwell. Cyhoeddwyd y llyfr hwn mewn cydweithrediad â Chymdeithas Eryri, a dechreuodd fel prosiect ffotograffig. Mae’r canlyniad serch hynny fe gredaf yn cael ei gyfleu yn llawer mwy pwerus drwy gyfraniadau’r unigolion hynny yr oedd eu rhyddiaith yn ysbrydoliaeth i’r ffotograffau yn y lle cyntaf. Gofynnwyd i bobl leol, enwogion a rhai heb fod mor enwog i ysgrifennu am eu hoff le. Yna aeth Steve Lewis ati i ddarlunio’r lleoedd hynny ar ffilm. Ond er bod ansawdd y ffotograffau yn uchel iawn, roeddwn yn aml yn darganfod nad oedd y ddelwedd yr oedd wedi ei dal yn cyfleu’r llun yr oeddwn wedi ei gynhyrchu yn fy meddwl wrth ddarllen y testun. Nid yw’r hyn a ysgrifennwyd a’r atgofion ynddynt eu hunain o anghenraid yn gampweithiau llenyddol ond y maent yn cael eu cyfleu fel teimladau dyfnion am synnwyr o le i’w hawduron. Dyma werth gwirioneddol y llyfr hwn – mae’n eich gwahodd i ymweld efallai â rhai mannau cyfarwydd, ond drwy lygaid pobl sy’n ei weld am fwy na’i nodweddion golygfaol. (Cyhoeddwyd gan Wasg Gomer 2005).

Walking in Pembrokeshire gan Dennis a Jan Kelsall – adolygiad gan Peter Harwood Mae llyfrau am deithiau cerdded yn anochel yn gyfaddawd rhwng bod yn fasnachol, hwylustod a chynnwys. Nid yw ‘Walking in Pembrokshire’ yn eithriad er ei fod yn well na rhai yn ei ymdrech i ddenu mwyafrif y cerddwyr sy’n dymuno cael troeon byr i ganolig eu hyd. Mae’r prif broblemau yn codi oherwydd nifer y troeon a gynhwysir, sy’n golygu nad yw maint y print, maint y mapiau na’r manylion yn ddigon darllenadwy neu’n ddigon hawdd i bobl eu deall. Er hynny, mae gan y llyfr ragarweiniad ardderchog sy’n cynnwys llawer o wybodaeth ddefnyddiol gyda lluniau o ansawdd da a lluniau perthnasol; mae o faint perffaith i’w daro yn eich poced ac mae’r clawr yn un gloyw i gynorthwyo i gadw’r glaw allan.

Wild about the Wild gan Iolo Williams Adolygiad gan Richard Garman Ychydig o Gymry a fyddai’n amau fod Iolo Williams yn wyllt am y gwyllt, ond fydd ei lyfr yn cael yr effaith hwnnw ar y cerddwr cyffredin? Fe’i hysgrifennwyd fel dyddiadur dyn o gefn gwlad, yn rhychwantu blwyddyn yn ei oes o Fedi 2004. Ynddo mae’n cofnodi ei feddyliau a’i sylwadau am fywyd gwyllt a’r cefn gwlad a wêl, ei ymateb i’r modd y mae dyn a chymdeithas yn gweithio, ei gyfarfodydd gyda ffrindiau a chyd-naturiaethwyr ac yn fwy na dim ei olwg hynod o optimistaidd ar y byd. Gallwch ei ddarllen fel naratif am y flwyddyn neu droi ato i ddarganfod beth sy’n digwydd ar adegau penodol o’r flwyddyn. Fe’n cyflwynir i rai geiriau newydd fel ‘sbrotian’ sy’n golygu chwilio yma ac acw am unrhyw beth a phopeth – gair newydd i mi. Y thema drwy’r cyfan yw’r modd y datblygodd ei ryfeddod ei hun at natur fel plentyn ac mae’n parhau i ffynnu wedi iddo dyfu’n oedolyn. Mae’n mynd ati i ddeffro’r teimlad hwnnw yn ei ddarllenwyr, ac i arddangos ei ymrwymiad drwy ysbrydoli ei blant, a naturiaethwyr ifanc ledled Cymru, i brofi a mwynhau’r byd y tu hwnt i’r playstation. Ond beth fydd hyn yn ei wneud i’ch archwaeth am y gwyllt? Os ydych yn chwilio am waith darllen solid yna efallai mai nid hwn yw’r llyfr i chi. Os ydych yn chwilio am rywbeth i godi blas yna mae’n hors d’oeuvre digon da. Mae’n fwy o fag o ‘pick & mix’ nag o bryd swmpus, ond beth sydd o’i le efo hynny? (Cyhoeddwyd gan Wasg Gomer 2005).

Views, Vistas & Reverie A photographic survey of the intrusion of telecommunications infrastructure in the landscape of the Forest of Dean – Adolygiad gan Martin Dowson Ydych chi’n cael eich blino fwyfwy gan y mastiau ac isadeiledd y ffonau symudol niferus a welir yn y tirlun? Ydych chi’n cael eich blino gan y tyrau telecyfathrebu a welir ar y gorwel? Yna efallai y bydd yr adroddiad yma o gysur i chi. Mae’n rhoi arolwg llawn

(Cyhoeddwyd gan Wasg Cicerone 2005).

Cerdded Ar Y We Lansiwyd gwefan newydd gan y Weinyddiaeth Amddiffyn i ddod â’i holl gyfleoedd ar gyfer mynediad at ei gilydd ar un safle. Edrychwch ar: www.access.mod.uk Nid yw holl dir y Weinyddiaeth Amddiffyn yn feysydd tanio ac yn feysydd ar gyfer brwydro gyda thanciau. Iawn, mae llawer ohono felly, ond mae ganddynt hefyd lwybrau troed a llwybrau cerdded a all gynnig rhywbeth gwahanol i ymweld ag ef. Mae’r llwybrau cerdded yng Nghastell Martin a Phont Senni er enghraifft yn cael eu cynnwys fel taflenni y gellir eu llwytho i lawr. Dim byd newydd o ran mynediad ar lawr gwlad efallai – ac mae ffordd bell i fynd o hyd i agor potensial rhai o’r ardaloedd gorau ar gyfer cerdded – ond gall fod yn gam i’r cyfeiriad iawn. Mae yma wybodaeth ddefnyddiol hefyd am adolygiadau sydd ar fin ymddangos ynglˆyn ag isddeddfau’r Weinyddiaeth Amddiffyn. Cofiwch roi gwybod i ni am unrhyw wefannau a allai fod o ddiddordeb i’w cynnwys yn rhifyn nesaf Cerddwr Cymru ar ein gwefan. TUDALEN

8

gwybodaeth ynglˆyn â’r effeithiau cynyddol ar ein golygfeydd pell ac ar ffyrdd ymarferol ond dychmygus o gwtogi ar yr effeithiau hynny. Mae ffotograffau sy’n dangos coed byw yn cael eu defnyddio fel gorsafoedd ffonau symudol gan ddefnyddio polion pren yn hytrach na mastiau latis yn dangos fod atebion eraill yn bosibl. Gallai astudiaethau achos o’r fath gael eu defnyddio i berswadio awdurdodau lleol i ddatblygu eu canllawiau eu hunain ac wrth wneud hynny, cadw effaith yr agweddau hanfodol ond ymwthiol hyn o fywyd modern yn aml i isafswm. (Cyhoeddir gan Place 2005). Gallwch weld yr adolygiad llawn hefyd yn www.viewsvistasandreverie.org neu i brynu copi galwch Andrew Darke ar 01594 562646)

The Archaeology of the Welsh Uplands Golygwyd gan David Browne a Stephen Hughes – adolygiad gan Martin Dowson Mae hwn yn dechnegol yn adolygiad o ddeg mlynedd o Gynllun yr Ucheldir – arolwg ac asesiad o archaeoleg ucheldir Cymru a gomisiynwyd gan Cadw. Ond nid llyfr ar gyfer yr arbenigwr yn unig yw hwn. Mae’n llawn darluniau a ffotograffau, gyda llawer o olygfeydd o’r awyr, sy’n rhoi persbectif newydd ar y tirluniau yr ydym mor hoff ohonynt. Gyda phenodau wedi eu hysgrifennu gan amrywiaeth o gyfranogwyr, fe’n cymerir o’r cyfnod Rhufeinig, drwy’r cyfnod canol oesol i’r cyfnod o ymelwa’n ddiwydiannol ar y tirlun. Mae cipolwg ar batrymau trin y tir ac amgau’r tir ar Epynt; y carneddau o Oes yr Efydd ym mynyddoedd y Berwyn; ac echdynnu mwynau yn gynnar yn y bedwaredd ganrif ar bymtheg ym Mlaenafon, yn rhoi golwg ar y tirluniau y cerddwn drostynt. Efallai fod y llyfr hwn yn tynnu sylw yn fwyaf eglur at y modd y mae’r tirlun bob amser yn newid o ganlyniad i ddylanwad dyn ac yn ein helpu i’w ddehongli mewn modd sy’n ychwanegu at ei werth, yn hytrach na thynnu oddi wrtho. Mae hefyd yn ystyried y pwysau ar yr ucheldiroedd, gan adlewyrchu llawer o’r problemau sydd gennym ni fel cerddwyr o ran gwarchod cefn gwlad. Mae hwn yn llyfr a fydd yn rhoi golwg newydd i chi ar y mynydd o dan eich traed. (Cyhoeddwyd gan y Comisiwn Brenhinol ynghylch Henebion Hynafol a Hanesyddol Cymru 2003).

Welsh Rambler 64 - Cymraeg  

The Newsletter of the Ramblers Society in Wales. Printed "work and turn" English and Welsh