Head of Project Development Candidate information pack
July 2023
Contents • Foreword 3 • About us 4 • About the role 7 • Person specification 8 • Terms and conditions of appointment 9 • Indicative timeline 10 • How to apply 11 • Further information about this role 12 • Diversity monitoring form 13
Foreword
Trawsfynydd has a nuclear heritage extending back over 60 years to the building and opening of the existing power station in 1965. The Trawsfynydd station generated 69 terawatt-hours (TWh) of low carbon electricity over 26 years of operation and employed many hundreds of people on site at peak. It stopped generating electricity in 1991 and decommissioning has been ongoing since 1993.
There is now an exciting opportunity to bring new nuclear technology to the site to create jobs, boost economic activity and promote social benefits for the local community, the wider North Wales region and further afield in the UK.
As the project development company for the site, Cwmni Egino is putting together detailed proposals for the deployment of Small Modular Reactor technology at Trawsfynydd, with the aim of getting approval to build by the latter part of the decade.
As well as create growth locally, regionally and nationally, this will generate low carbon, reliable electricity to help meet increasing energy demands, reduce dependency on fossil fuels, and contribute towards decarbonisation in the fight against climate change.
I would like to thank you for your interest in joining us at Cwmni Egino. I very much look forward to welcoming and working with our new Head of Project Development to achieve our ambitions.
Alan Raymant Chief Executive
3
About us
Background
Cwmni Egino was set up by the Welsh Government in 2021 to deliver the Trawsfynydd Site Development Programme and build on the work of the Snowdonia Enterprise Zone. In line with the Site Development Programme, the company’s core purpose is to create sustainable job opportunities and promote economic and social regeneration by driving development at the former nuclear power station site in Trawsfynydd.
‘Egino’ is a Welsh word meaning ‘to germinate’. This represents Cwmni Egino’s role in growing the concept of a new nuclear development at Trawsfynydd and turning it into a deliverable project. A lot of work has to be done before any visible development can happen on the site; just as a seed planted in the ground needs to be nurtured and the right conditions created before green shoots appear.
Cwmni Egino is working to bring all the pieces together to enable the successful delivery of an SMR project at Trawsfynydd. We are engaging the Welsh and UK Governments, regional stakeholders, industry partners and local communities to make sure that the project is designed and delivered in a way that secures the maximum social, economic and environmental benefits for decades to come.
Vision
Our vision is that Trawsfynydd will be confirmed as the site of the first Small Modular Reactor (SMR) under construction in the UK; North Wales will be recognised as a centre of excellence for low carbon energy; and people’s quality of life will be improved.
This vision connects a socio-economic opportunity presented by SMR deployment at Trawsfynydd with the increasing demand for secure low carbon energy to decarbonise the UK’s electricity system and decrease our reliance on imported fuels.
4
About us (cont’d)
Development strategy
We are developing the project in 3 phases, leading to a Final Investment Decision (FID) and approval to build at the end of Phase 3:
• Building and promoting the case for Trawsfynydd: defining and explaining the opportunity of a new nuclear project at the site and the potential to drive economic growth locally, regionally, Wales- and UK-wide, as well as demonstrate that the project is viable.
• Project design: further project development, including technology selection, site characterisation, environmental studies, engineering development, socio-economic plan, extensive stakeholder and community engagement, organisational development and preparation of consents and licence applications.
• Prepare for construction: submit consent and permit applications; procure key contracts; enable preliminary site works; and secure finance for construction.
The first phase of work has confirmed that the project is viable, and Cwmni Egino is now ready to enter the second phase, involving more detailed project development.
Early development work by Cwmni Egino has established:
• the suitability of land within NDA ownership for a range of SMR technologies, generating up to 1GW of new capacity;
• there is significant interest by technology providers in deploying SMR at Trawsfynydd;
• in terms of the Target Operating Model (TOM), Cwmni Egino can adapt its role to meet the needs of the sponsor (DESNZ/GBN) and the market;
• the work programme and estimated costs required to deliver the outcomes required for approval to proceed with construction; and
• potential risks, impacts and mitigations for the project.
5
About us (cont’d)
Current situation
Trawsfynydd is a highly credible and attractive opportunity to kick start a long-term programme of SMR projects in the UK. Cwmni Egino provides a development vehicle to push the project forward.
We are positioned to be one of the projects ready for approval by the latter part of the decade, in line with the UK Government’s energy security priorities, seeking nomination by UK Government for SMR to be developed at Trawsfynydd in the initial wave of SMR developments. The creation of Great British Nuclear (GBN) is hugely important in this regard and we will work with them to build the capability rapidly to drive the nuclear programme forward.
To unlock the opportunity at Trawsfynydd, Cwmni Egino is focussing on 4 critical areas in 2023:
• confirmation that the Department for Energy Security and Net Zero (DESNZ)/Great British Nuclear (GBN) wishes to proceed with development of Trawsfynydd as one of the projects planned for approval in the next Parliament;
• clarification of the role of GBN and its relationship with Cwmni Egino;
• confirmation of the technology for Trawsfynydd; and
• Core development activities to mitigate key risks and further define the development programme.
More information
For more information about Cwmni Egino, please visit www.cwmniegino.wales
6
About the role
The Head of Project Development is a member of the Senior Leadership Team. The post holder will lead the programme of development work required to enable a decision to invest in the construction of a new nuclear power station at Trawsfynydd. In addition, the post holder will establish and lead the Programme Management Office for the whole project. The post holder will play a critical role in defining the scope of the project, securing the required consents and licences required for construction and defining the delivery strategy, working with the Head of Commercial to establish key supply chain partnerships. The post holder will need to build an in-house development capability and relationships with supply chain partners to ensure effective and efficient delivery of the development programme.
Key responsibilities
• Defining and managing the overall plan for development of SMR at Trawsfynydd
• Establishing and leading the PMO function for Cwmni Egino, including scope, schedule and cost control and risk management
• Development of the site including site characterisation, environmental surveys, layout design
• Construction planning, including access to utilities, access to site, worker accommodation and interface with Magnox decommissioning programme
• Confirm the land requirements (permanent and temporary) and support the Head of Commercial in securing access rights
• Define the strategy and deliver the plan for securing the consents and licenses required for both the development work and construction
• Manage the day-to-day site interface with Nuclear Decommissioning Authority/ Magnox
• Support Head of Commercial in the selection of the proposed technology and manage the technical relationship with the selected partner to ensure efficient and effective delivery of the development programme
• Develop the scope and integrated schedule for construction
7
Person specification
Knowledge, skills and experience
• Proven experience in the pre-construction phase of major infrastructure development projects
• Excellent project management skills and a proven ability to lead multi-disciplinary teams and activities
• Proven team leadership skills and an ability to shape and define programmes of work in a context of ambiguity, uncertainty and at times conflicting requirements
• Highly self-motivated and resilient
• Strong interpersonal skills with proven ability to work with a range of stakeholders to deliver desired outcomes.
• Experience of working in a public sector context would be an advantage
• Knowledge of the energy sector would be an advantage
• Shares and demonstrates Cwmni Egino’s values of, respect, openness, collaboration, performance and creativity
8
Terms and conditions of appointment
Role: Head of Project Development
Reports to: Chief Executive
Location: Predominantly home working basis, however there will be an expectation for the post holder to work in a Cwmni Egino office location (when formally established) near the Trawsfynydd site at times. Travel across the North Wales region, and further afield, as required.
Salary: Attractive salary depending on experience
Job Type: Permanent
Hours per week: Full time – 37 hours a week
Annual Leave: 28 days plus 8 public holidays, raising to 29 days after two years’ service and 30 days after three years’ service
Pension Scheme: Defined contribution scheme
9
Indicative timeline
Please note that these dates are only indicative at this stage and could be subject to change. If you are unable to meet these timeframes, please let us know in your application letter.
Candidates are kindly asked to note the timetable below, exercising flexibility through the recruitment and selection process.
Closing date 17.07.23 Shortlisting w/c 17.07.23 Personality profiling w/c 24.07.23 Interviews w/c 31.07.23 10
How to apply
To apply for this position, please provide the following:
1. A comprehensive CV (max. 3 sides of A4) setting out your career history with key responsibilities and achievements and details of your current remuneration package.
2. A supporting statement of no more than two sides of A4, explaining how you believe your skills and experience match the role specific requirements of the post as outlined in the person specification.
3. Details of two professional referees together with a brief statement of their capacity and over what period of time they have known you, one of whom is expected to be your current or last employer. Referees will not be contacted without your prior consent.
4. A completed diversity monitoring form, which is provided at the back of this candidate information pack for you to complete.
On finalising your application, preferably in MS Word format, please forward to hr@cwmniegino.wales
Once you have submitted your application, you will receive an email to confirm that your application has been received. If you do not receive this email with 24 hours of submission, please contact info@cwmniegino.wales
We value the unique differences that each of our colleagues bring to work every day and are committed to creating an environment where everyone feels respected, included and able to perform at their best. At Cwmni Egino, we are committed to creating a workplace that is diverse and inclusive. We value the diversity of our people and actively seek to have a workforce that represents the rich diversity of the communities we support. We welcome applicants from Women, BAME, LGBTQ+ and candidates who have a disability. We are happy to consider flexible working.
11
Further information about this role
If you have any queries about any aspect of the appointment process, need additional information or wish to have an informal and confidential discussion, please email hr@cwmniegino.wales to request a call and we will be pleased to get back to you.
We will respect the privacy of any initial approach or expression of interest in this role, whether formal or informal.
Data consent
In applying for this role, you consent for your personal data being used by Cwmni Egino and any third-party data processors engaged on their behalf to provide recruitment services. Further information can be found at www.cwmniegino.wales/privacy-policy/
12
Diversity monitoring form
The company is committed to valuing equality and diversity for our workforce. To ensure these objectives are fully met, it is essential that we monitor our recruitment and selection procedures. Therefore, we would like you to complete the attached questionnaire.
Purpose and Benefits
We need to find out whether our policy is working in practice and ensure there is no discrimination in the way that we appoint and promote staff. The purpose of monitoring is to identify trends that indicate problems, so that we can remedy them in order to provide a fairer and more effective appointments process for all applicants.
What happens to the information I supply?
Any information provided will be treated in strict confidence and will not affect your application in any way.
The data will be used to produce statistical reports. These comprise a series of anonymous figures, by which we can monitor our applicant numbers and the outcomes of our recruitment and selection processes.
Only those monitoring job advertising will have access to the data. The information collated will be used entirely anonymously, but names are included on forms to enable cross-checking between the forms and the paperwork to be undertaken by our recruitment professionals. Staff involved in sifting and interviewing for the post will not see your questionnaire. The information collated will not lead to a quota system nor be used against any particular group.
Helping us to help you
Your co-operation is much appreciated; please help us to improve equal opportunities. We strongly encourage all applicants to complete, save separately and return the attached questionnaire together with the other sections of your application documentation.
We thank you for your co-operation.
13
Name of applicant
Position applied for
What is your gender? Male Female
I self-identify as (please specify)
I prefer not to say
What is your age?
Disbability
Do you have any physical or mental health conditions or illnesses lasting or expected to last for 12 months or more? Yes No
Prefer not to say
In your opinion, do you require any adjustments to be made to your working arrangements? If yes, please set out below what these adjustments entail.
Sexual orientation
Bisexual
Gay or lesbian
Heterosexual
Other
I prefer not to say
14
Ethnicity
Please choose one of the following options that most accurately describes your ethnic group or background.
White
British Irish
Irish Traveller
Any other White background, please describe:
Mixed/multiple ethnic groups
White and Black Caribbean
White and Black African
White and Asian
Any other mixed/Multiple ethnic background, please describe:
Asian/Asian British groups
Indian
Pakistani
Bangladeshi
Chinese
Any other Asian background, please describe:
Black African/Caribbean/Black British
African
Caribbean
Any other Black/African/Caribbean background, please describe:
Other ethnic group
Arab
Any other ethnic group, please describe:
I prefer not to say
15
Religion
Buddhist
Christian
Hindu
Jewish
Muslim
Sikh
Other
No religion or atheist
I prefer not to say
Thank you for completing this form.
The information it contains will be treated in the strictest confidence.
16
Pennaeth Datblygu Prosiect
Pecyn gwybodaeth i ymgeiswyr
Gorffennaf 2023
Cynnwys • Rhagair 4 • Amdanom ni 5 • Y swydd 7 • Manyleb person 8 • Telerau ac amodau’r penodiad 9 • Amserlen 10 • Sut i wneud cais 11 • Mwy o wybodaeth am y swydd 12 • Ffurflen Monitro Amrywiaeth 13
Rhagair
Mae gan Drawsfynydd dreftadaeth niwclear yn mynd yn ôl dros 60 o flynyddoedd i’r amser pryd y cafodd yr orsaf drydan bresennol ei chodi a’i hagor yn 1965. Dros gyfnod o 26 o flynyddoedd, cynhyrchodd yr orsaf 69 awr terawat (TWh) o drydan carbon isel gan gyflogi cannoedd o bobl yn ei hanterth. Daeth y cynhyrchu trydan i ben yn 1991 ac mae’r orsaf wedi bod yn cael ei dadgomisiynu ers 1993.
Erbyn heddiw mae cyfle cyffrous i ddod â thechnoleg niwclear newydd i’r safle i greu gwaith, rhoi hwb i economi’r ardal a hybu manteision cymdeithasol i’r gymuned leol, rhanbarth ehangach Gogledd Cymru a thros y DU i gyd.
Fel y cwmni datblygu ar gyfer y safle, mae Cwmni Egino’n rhoi cynigion manwl at ei gilydd ar gyfer sefydlu adweithydd niwclear modiwlaidd bach yn Nhrawsfynydd, gyda’r nod o gael caniatâd i’w adeiladu erbyn diwedd y degawd.
Yn ogystal â chreu twf yn lleol, rhanbarthol a chenedlaethol, bydd hyn yn cynhyrchu trydan glân a dibynadwy i helpu i ateb y galw cynyddol am ynni, lleihau ein dibyniaeth ar danwyddau ffosil a chyfrannu tuag at ddatgarboneiddio yn y frwydr yn erbyn newid hinsawdd.
Hoffwn ddiolch i chi am eich diddordeb mewn ymuno â Chwmni Egino. Edrychaf ymlaen at groesawu a gweithio gyda’n Pennaeth Datblygu Prosiect newydd i wireddu ein huchelgais.
Alan Raymant
Prif
Weithredwr
19
Amdanom ni
Cefndir
Sefydlwyd Cwmni Egino gan Lywodraeth Cymru yn 2021 i ddarparu Rhaglen Datblygu Safle Trawsfynydd ac adeiladu ar waith Parth Menter Eryri. Yn unol â’r Rhaglen Datblygu Safle, pwrpas craidd y cwmni yw creu swyddi cynaliadwy a hyrwyddo adfywiad economaidd a chymdeithasol drwy hybu datblygiad safle’r orsaf niwclear yn Nhrawsfynydd.
Gair Cymraeg am egin neu flagur yn tyfu yw ‘egino’. Mae’n cyfleu rôl Cwmni Egino gyda datblygu’r cysyniad o ddatblygiad niwclear newydd yn Nhrawsfynydd a’i droi’n brosiect ymarferol a realistig i’w ddarparu. Rhaid gwneud llawer iawn o waith cyn y gall unrhyw ddatblygu gweledol ddigwydd; yn union fel y mae hadyn yn cael ei blannu yn y ddaear, mae angen ei feithrin a chreu’r amodau iawn cyn gweld yr egin yn tyfu.
Mae Cwmni Egino’n gweithio i ddod â’r holl wahanol elfennau hyn at ei gilydd i ddelifro prosiect SMR llwyddiannus yn Nhrawsfynydd. Byddwn yn parhau i ymgysylltu â Llywodraethau Cymru a’r DU, rhanddeiliaid rhanbarthol, partneriaid yn y diwydiant a chymunedau lleol i sicrhau bod y prosiect yn cael ei ddylunio a’i ddelifro mewn ffordd sy’n creu manteision cymdeithasol, economaidd ac amgylcheddol am ddegawdau i ddod.
Gweledigaeth
Ein gweledigaeth yw mai Trawsfynydd fydd y safle ar gyfer adeiladu’r Adweithydd Modiwlaidd Bach (SMR) cyntaf yn y DU; bydd Gogledd Cymru’n cael ei hadnabod fel canolfan ragoriaeth ar gyfer ynni carbon isel; a bydd ansawdd bywyd pobl yn well.
Mae’r weledigaeth hon yn cysylltu’r cyfle economaidd-gymdeithasol i sefydlu SMR yn Nhrawsfynydd i’r galw cynyddol am ynni carbon isel sicr er mwyn dadgarboneiddio system drydan y DU a lleihau ein dibyniaeth ar fewnforio tanwydd.
20
Amdanom ni (parhad)
Strategaeth ddatblygu
Rydym yn datblygu’r prosiect mewn tri cham, gan arwain at gael Penderfyniad Buddsoddi Terfynol (FID) a chaniatâd i’w adeiladu erbyn diwedd Cam 3:
• Adeiladu a hyrwyddo’r achos dros safle Trawsfynydd: diffinio ac egluro’r cyfle ar gyfer prosiect niwclear newydd ar y safle a’r potensial i hybu twf yr economi’n lleol, rhanbarthol a thrwy Gymru a’r DU, a dangos bod y prosiect yn un hyfyw.
• Dyluniad y prosiect: datblygu’r prosiect ymhellach gan gynnwys dewis technoleg, nodweddion safle, astudiaethau amgylcheddol, datblygu’r ochr beirianneg, cynllun economaidd-gymdeithasol, ymgysylltu’n helaeth â rhanddeiliaid a’r gymuned, datblygu sefydliadol a pharatoi ceisiadau am ganiatâd a thrwyddedau.
• Paratoi ar gyfer adeiladu: cyflwyno’r ceisiadau am ganiatâd a thrwyddedau; caffael contractau allweddol; hwyluso’r gwaith safle rhagarweiniol a sicrhau cyllid ar gyfer yr adeiladu.
Mae cam cyntaf y gwaith wedi cadarnhau bod y prosiect yn hyfyw ac mae Cwmni Egino bellach ar gychwyn yr ail gam, sy’n cynnwys gwaith datblygu prosiect mwy manwl. Mae’r gwaith datblygu cynnar gan Gwmni Egino wedi cadarnhau:
• addasrwydd y tir sydd o fewn perchnogaeth yr Awdurdod Datgomisiynu Niwclear ar gyfer ystod o dechnolegau SMR, gan gynhyrchu hyd at 1GW o gapasiti newydd;
• fod diddordeb sylweddol gan ddarparwyr technoleg o ran defnyddio SMR yn Nhrawsfynydd;
• o ran y Model Gweithredu Targed, gall Cwmni Egino addasu ei rôl i fodloni anghenion y noddwr (DESNZ/GBN) a’r farchnad;
• y rhaglen waith a'r costau amcangyfrifedig i gyflawni'r canlyniadau sy'n ofynnol ar gyfer cymeradwyaeth i fwrw ymlaen â'r gwaith adeiladu; a’r
• • risgiau, effeithiau a mesurau lliniaru posib ar gyfer y prosiect.
21
Amdanom ni (parhad)
Sefyllfa bresennol
Mae Trawsfynydd yn cynnig cyfle hynod gredadwy i sbarduno rhaglen tymor hir o brosiectau SMR yn y DU ac mae
Cwmni Egino’n cynnig cyfrwng datblygu ar gyfer gweithredu’r prosiect.
Rydym mewn sefyllfa i fod yn un o’r prosiectau a fydd yn barod i’w gymeradwyo erbyn diwedd y degawd, yn unol â blaenoriaethau sicrwydd ynni Llywodraeth y DU, ac i Drawsfynydd gael ei enwebu’n un o’r safleoedd i gael ei ddatblygu yn y don gyntaf o ddatblygiadau SMR. Mae creu Great British Nuclear (GBN) yn hynod o bwysig yn hynny o beth, a byddwn yn gweithio gyda GBN er mwyn gwireddu’r rhaglen niwclear newydd.
I ddatgloi’r cyfle yn Nhrawsfynydd, mae Cwmni Egino yn canolbwyntio ar 4 agwedd allweddol yn 2023:
• cadarnhad bod DESNZ/GBN yn dymuno bwrw ymlaen i ddatblygu Trawsfynydd fel un o'r prosiectau y bwriedir eu cymeradwyo yn ystod y Senedd nesaf;
• eglurder parthed rôl GBN a’i berthynas gyda Chwmni Egino;
• cadarnhad o’r dechnoleg ar gyfer Trawsfynydd; a
• Gweithgareddau cradidd er mwyn lliniaru’r prif risgiau a mireinio’r rhaglen ddatblyu ymhellach.
Mwy o wybodaeth
Am fwy o wybodaeth am waith Cwmni Egino, ewch i www.cwmniegino.wales
22
Y swydd
Bydd y Pennaeth Datblygu Prosiect yn aelod o’r Uwch Dîm Arweinyddiaeth. Bydd deilydd y swydd yn arwain y rhaglen waith datblygu angenrheidiol er mwyn galluogi penderfyniad i fuddsoddi mewn adeiladu gorsaf bŵer niwclear newydd yn Nhrawsfynydd. Bydd deilydd y swydd hefyd yn sefydlu ac yn arwain y Swyddfa Rheoli Prosiect ar gyfer y prosiect cyfan. Bydd yn chwarae rhan allweddol mewn diffinio sgôp y prosiect, sicrhau’r caniatâd a’r trwyddedau angenrheidiol ar gyfer adeiladu a diffinio’r strategaeth ddelifro, gan weithio gyda’r Pennaeth Masnachol i sefydlu partneriaethau gyda’r gadwyn gyflenwi. Bydd gofyn i ddeilydd y swydd adeiladu capasiti datblygu o fewn y cwmni a pherthynas gyda phartneriaid yn y gadwyn gyflenwi er mwyn sicrhau bod y rhaglen ddatblygu’n cael ei gweithredu’n effeithiol ac effeithlon.
Cyfrifoldebau allweddol
• Diffinio a rheoli'r cynllun cyffredinol ar gyfer datblygu SMR yn Nhrawsfynydd
• Sefydlu ac arwain y swyddogaeth PMO ar gyfer Cwmni Egino, gan gynnwys cwmpas, amserlennu a rheoli costau a rheoli risg
• Datblygu'r safle gan gynnwys nodweddu safle, arolygon amgylcheddol, dylunio gosodiad
• Cynllunio adeiladu, gan gynnwys mynediad at gyfleustodau, mynediad i'r safle, llety gweithwyr a rhyngwyneb â rhaglen datgomisiynu Magnox
• Cadarnhau'r gofynion tir (parhaol a thros dro) a chefnogi'r Pennaeth Masnachol i sicrhau hawliau mynediad
• Diffinio'r strategaeth a chyflawni'r cynllun ar gyfer sicrhau'r caniatadau a'r trwyddedau sy'n ofynnol ar gyfer y gwaith datblygu a'r gwaith adeiladu
• Rheoli rhyngwyneb y safle o ddydd i ddydd gyda’r Awdurdod Dadgomisiynu Niwclear / Magnox
• Cefnogi’r Pennaeth Masnachol wrth ddewis y dechnoleg arfaethedig a rheoli'r berthynas dechnegol â'r partner a ddewiswyd i sicrhau bod y rhaglen ddatblygu yn cael ei chyflwyno'n effeithlon ac effeithiol
• Datblygu'r cwmpas a'r amserlen integredig ar gyfer adeiladu
23
Manyleb person
Gwybodaeth, sgiliau a phrofiad
• Profiad blaenorol yng ngham cyn-adeiladu prosiectau datblygu seilwaith mawr
• Sgiliau rheoli prosiect rhagorol a gallu profedig i arwain timau a gweithgareddau amlddisgyblaethol
• Sgiliau arweinyddiaeth tîm profedig a'r gallu i lunio a diffinio rhaglenni gwaith mewn cyd-destun amwysedd, ansicrwydd ac ar brydiau gofynion sy'n gwrthdaro
• Hynod hunan-ysgogol a gwydn
• Sgiliau rhyngbersonol cryf sydd â'r gallu profedig i weithio gydag amrywiaeth o randdeiliaid i gyflawni'r canlyniadau a ddymunir.
• Byddai profiad o weithio mewn cyd-destun sector cyhoeddus yn fantais
• Byddai gwybodaeth am y sector ynni yn fantais
• Rhannu ac yn dangos gwerthoedd Cwmni Egino o barch, didwylledd, cydweithredu, perfformiad a chreadigrwydd
24
Telerau ac amodau’r penodiad
Rôl: Pennaeth Datblygu Prosiect
Yn atebol i: Prif Weithredwr
Lleoliad: Byddai deilydd y swydd yn gweithio o gartref i ddechrau, ond yn dilyn hynny disgwylir y byddai'n gweithio’n hyblyg rhwng y cartref a lleoliad swyddfa Cwmni Egino (pan gaiff ei sefydlu'n ffurfiol) ger safle Trawsfynydd. Dylai ymgeiswyr sydd â diddordeb nodi y gallai'r rôl olygu rhywfaint o deithio i fynychu cyfarfodydd mewn lleoliadau eraill ar draws rhanbarth Gogledd Cymru, a thu hwnt.
Cyflog: Cystadleuol yn ddibynnol ar brofiad
Math o swydd: Parhaol
Oriau yr wythnos: Llawn amser – 37 awr yr wythnos
Gwyliau: 28 diwrnod yn ogystal â 8 o wyliau cyhoeddus, gan gynyddu i 29 diwrnod ar ôl dwy flynedd a 30 diwrnod ar ôl tair blynedd
Cynllun pensiwn: Cynllun cyfraniadau
25
Amserlen
Noder mai amcan o’r dyddiadau a nodir isod, a gallai’r rhain newid. Os na allwch gwrdd â’r amserlen hon, rhowch
wybod i ni yn eich llythyr cais.
Gofynnir yn garedig i ymgeiswyr nodi’r amserlen isod, ond i fod yn hyblyg trwy’r broses recriwtio a phenodi.
Dyddiad cau 17.07.23 Pennu’r rhestr fer w/c 17.07.23 Proffilio personoliaeth w/c 24.07.23 Cyfweliadau w/c 31.07.23 26
Sut i wneud cais
I wneud cais am y swydd hon, gofynnir yn garedig i chi gyflwyno’r canlynol:
1. CV cynhwysfawr sy'n nodi hanes eich gyrfa gyda chyfrifoldebau a chyflawniadau allweddol a manylion eich pecyn tâl cyfredol.
2. Datganiad ategol o ddim mwy na dwy ochr A4, yn esbonio sut rydych chi'n credu bod eich sgiliau a'ch profiad yn cyd-fynd â gofynion penodol y swydd fel yr amlinellir yn y fanyleb person.
3. Manylion dau ganolwr proffesiynol ynghyd â datganiad byr o’u rôl a thros ba gyfnod y maent wedi eich adnabod; disgwylir i un ohonynt fod yn gyflogwr cyfredol neu ddiweddar. Ni chysylltir â chanolwyr heb eich caniatâd ymlaen llaw.
4. Ffurflen monitro amrywiaeth wedi'i chwblhau – gweler y ffurlfen ar waelod y pecyn gwybodaeth hwn.
Ar ôl cwblhau eich cais, yn ddelfrydol ar ffurf MS Word, anfonwch ef i’r cyfeiriad e-bost canlynol: hr@cwmniegino.wales
Ar ôl i chi gyflwyno'ch cais, byddwch yn derbyn e-bost i gadarnhau bod eich cais wedi'i dderbyn. Os na fyddwch yn derbyn yr e-bost hwn gyda 24 awr o gyflwyno, anfonwch e-bost at: gwybodaeth@cwmniegino.wales
Rydym yn gwerthfawrogi'r gwahaniaethau unigryw y mae pob un o'n cydweithwyr yn eu cyfrannu at ein gwaith ac rydym yn ymroddedig i greu amgylchedd lle mae pawb yn teimlo eu bod yn cael eu parchu, eu cynnwys ac yn gallu perfformio ar eu gorau. Mae Cwmni Egino yn ymroddedig hefyd i greu gweithle sy'n amrywiol a chynhwysol. Rydym yn gwerthfawrogi amrywiaeth ein pobl ac yn mynd ati i geisio cael gweithlu sy'n cynrychioli amrywiaeth gyfoethog y cymunedau yr ydym yn eu cefnogi. Mae Cwmni Egino yn croesawu ymgeiswyr benywaidd, BAME, LGBTQ+ ac ymgeiswyr sydd ag anabledd. Rydym yn hapus i ystyried gweithio hyblyg.
27
Mwy o wybodaeth am y swydd
Os oes gennych unrhyw ymholiadau am unrhyw agwedd ar y broses benodi, os bydd arnoch angen gwybodaeth ychwanegol neu os hoffech gael trafodaeth anffurfiol a chyfrinachol, e-bostiwch hr@cwmniegino.wales i ofyn am alwad a byddwn yn falch o gysylltu â chi.
Byddwn yn parchu preifatrwydd unrhyw gyswllt cychwynnol neu fynegiant o ddiddordeb yn y rôl hon, boed yn ffurfiol neu'n anffurfiol.
Cydsyniad data
Wrth wneud cais am y rôl, rydych yn cydsynio i’ch data personol gael ei ddefnyddio gan Gwmni Egino ac unrhyw broseswyr data trydydd parti sy’n gweithio ar eu rhan i ddarparu gwasanaethau recriwtio. Ceir mwy o wybodaeth ar
wefan Cwmni Egino: www.cwmniegino.wales/cy/privacy-policy
28
Ffurflen Monitro Amrywiaeth
Mae'r cwmni wedi ymrwymo i werthfawrogi cydraddoldeb ac amrywiaeth ymhlith ein gweithlu. Er mwyn sicrhau bod yr amcanion hyn yn cael eu cyflawni'n llawn, mae'n hanfodol ein bod yn monitro ein gweithdrefnau recriwtio a dethol felly gofynnwn yn garedig i chi gwblhau'r holiadur atodedig.
Pwrpas
Mae angen i ni ddarganfod a yw ein polisi yn gweithio'n ymarferol a sicrhau nad oes unrhyw wahaniaethu yn y ffordd yr ydym yn penodi ac yn datblygu staff. Pwrpas monitro yw nodi tueddiadau sy’n peri problemau, fel y gallwn eu cywiro er mwyn darparu proses apwyntiadau decach a mwy effeithiol i bob ymgeisydd.
Beth fydd yn digwydd i’r wybodaeth a gyflwynir?
Bydd unrhyw wybodaeth a ddarperir yn cael ei thrin yn gwbl gyfrinachol ac ni fydd yn effeithio ar eich cais mewn unrhyw ffordd.
Bydd y data'n cael ei ddefnyddio i gynhyrchu adroddiadau ystadegol. Mae'r rhain yn cynnwys cyfres o ffigurau dienw, lle gallwn fonitro nifer ein hymgeiswyr a chanlyniadau ein prosesau recriwtio a dethol.
Dim ond y rhai sy'n monitro hysbysebion swyddi fydd â mynediad at y data. Bydd y wybodaeth a gesglir yn cael ei defnyddio'n gwbl ddienw, ond cynhwysir enwau ar ffurflenni i alluogi croeswirio rhwng y ffurflenni a'r gwaith papur gan ein gweithwyr proffesiynol recriwtio. Ni fydd staff sy'n ymwneud â sifftio a chyfweld ar gyfer y swydd yn gweld eich holiadur. Ni fydd yr wybodaeth a gasglwyd yn arwain at system gwota nac yn cael ei defnyddio yn erbyn unrhyw grŵp penodol.
Ein helpu ni i’ch helpu chi Rydym yn ddiolchgar i chi am eich cydweithrediad a fydd yn ein helpu ni i wella cyfleoedd cyfartal. Rydym yn annog pob ymgeisydd i gwblhau ‘r holiadur atodedig, ei gadw ar wahân a’i ddychwelyd ag elfennau eraill eich dogfennaeth gais.
29
Enw’r ymgeisydd
Swydd y gwneir cais amdani
Beth yw eich rhywedd?
Gwryw
Benyw
Rwy’n hunan-adnabod fel (nodwch, o.g.y.dd.)
Byddai’n well gennyf beidio ag ateb
Faint oed ydych chi?
Anabledd A oes gennych unrhyw gyflyrau neu afiechydon iechyd corfforol neu feddyliol sy'n para neu y disgwylir iddynt bara am 12 mis neu fwy?
Oes
Nac oes
Byddai’n well gennyf beidio ag ateb
Yn eich barn chi, a oes angen gwneud unrhyw addasiadau i'ch trefniadau gweithio? Os felly, nodwch isod beth mae'r addasiadau hyn yn ei olygu.
Rhywioldeb Deurywiol
Hoyw neu lesbiaidd
Heterorywiol
Arall
Byddai’n well gennyf beidio ag ateb
30
Ethnigrwydd
Dewiswch un o'r opsiynau canlynol sy'n disgrifio eich grŵp ethnig neu
gefndir yn fwyaf cywir.
Gwyn
Prydeinig
Gwyddelig
Teithwyr Gwyddelig
Unrhyw gefndir Gwyn arall, disgrifiwch o.g.y.dd.:
Grwpiau ethnig cymysg/lluosog
Gwyn a Du Caribïaidd
Gwyn a Du Affricanaidd
Gwyn ac Asiaidd
Unrhyw gefndir ethnig cymysg/lluosog eraill, disgrifiwch o.g.y.dd.:
Grwpiau Asiaidd/Asiaidd Prydeinig
Indiaidd
Pacistanaidd
Bangladeshaidd
Tseiniaidd
Unrhyw gefndir Asiaidd arall, disgrifiwch o.g.y.dd.:
Du Affricanaidd/Caribïaidd/Prydeinig Du Affricanaidd
Caribïaidd
Unrhyw gefndir Du/Affricanaidd/Caribïaidd arall, disgrifiwch o.g.y.dd.:
Grŵp ethnig arall
Arabaidd
Unrhyw grŵp ethnig arall, disgrifiwch o.g.y.dd.:
Byddai’n well gennyf beidio ag ateb
31
Crefydd Bwdhaidd
Cristion
Hindŵaidd
Iddewig
Mwslim
Sikh
Arall
Dim crefydd neu anffyddiwr
Byddai’n well gennyf beidio ag ateb
Diolch i chi am gwblhau’r ffurflen hon.
Bydd yr wybodaeth yn cael ei thrin yn gwbl gyfrinachol.
32
info@cwmniegino.wales www.cwmniegino.wales