Cwmni Egino - Llawlyfr Gwerth Cymdeithasol 2024-25

Page 1


2024-2025

ADRAN 1 : DIFFINIO GWERTH CYMDEITHASOL

BETH YW GWERTH CYMDEITHASOL A PHAM EI FOD YN BWYSIG

1.1 BETH YW LLAWLYFR GWERTH CYMDEITHASOL CWMNI EGINO?

Pwrpas y Llawlyfr Gwerth Cymdeithasol hwn yw cefnogi’r gwaith o gyflawni cenhadaeth Cwmni Egino - creu’r amodau ar gyfer Gogledd Cymru ffyniannus drwy hwyluso’r manteision cymdeithasol, economaidd ac amgylcheddol mwyaf yn sgil buddsoddiad niwclear newydd yn y rhanbarth.

Yn greiddiol i’n bodolaeth yw ymgyrch i sicrhau bod buddsoddi mewn niwclear newydd o fudd i Ogledd Cymru, yn cyfrannu’n gadarnhaol at ranbarth ffyniannus ac yn gwella ansawdd bywyd yn gyffredinol – neu, mewn geiriau eraill, yn creu ‘gwerth cymdeithasol’. Mae’r llawlyfr hwn yn nodi beth fyddwn ni’n ei wneud a sut byddwn ni’n gwneud hynny, gan gynnwys:

» Beth rydyn ni’n ei olygu pan fyddwn ni’n siarad am ‘werth cymdeithasol’.

» Sut beth fyddai llwyddiant i bobl, yr economi a llefydd yng Ngogledd Cymru.

» Sut byddwn yn cyflawni yr egwyddorion a’r dull gweithredu sylfaenol a fydd yn ein harwain.

» Yr hyn y byddwn yn ei wneud i sicrhau canlyniadau cadarnhaol yn y tymor byr a helpu i greu’r amodau cywir ar gyfer buddion tymor hirach.

» Sut byddwn yn monitro ein cynnydd: wneud yn siŵr ein bod yn cyflawni ein hymrwymiadau

PAM FOD HYN YN BWYSIG?

I Gwmni Egino, mae darparu gwerth cymdeithasol yn mynd ymhell y tu hwnt i fodloni gofynion statudol deddfwriaeth ar gyfer Cwmni Egino, fel Deddf Gwasanaethau Cyhoeddus (Gwerth Cymdeithasol) 2012 a Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015. Mae gwerth cymdeithasol yn rhan annatod o bwy ydyn ni a beth rydyn ni’n ei wneud. Rydyn ni’n credu’n gryf mai ‘y peth iawn i’w wneud’ yw cael buddiannau gorau’r rhanbarth yn ganolog – ac wrth wneud hynny gallwn greu amodau llawer gwell ar gyfer cyflawni prosiectau niwclear yn llwyddiannus yn y dyfodol.

Ni fwriedir i’r Llawlyfr hwn ddarparu rhestr gynhwysol o bob cam y bydd Cwmni Egino yn ei gymryd i sicrhau manteision cymdeithasol, economaidd ac amgylcheddol. Nid yw chwaith yn disgrifio beth, ble, pryd a sut y bydd manteision yn cael eu darparu’n rhanbarthol o ganlyniad i brosiectau niwclear yn y dyfodol.

Yn hytrach, mae’n cynnig fframwaith, sy’n nodi’r meysydd blaenoriaeth, y ffyrdd o weithio a’r prosesau ategol a fydd yn sicrhau bod y gwaith o ddarparu gwerth cymdeithasol yn cael ei wreiddio’n gadarn ym mhopeth a wnawn: yn ddiwylliannol ac yn weithredol.

Byddwn yn adrodd ar gynnydd yn flynyddol, ac yn adolygu ein gweithgareddau’n barhaus yng ngoleuni adboarth a datblygiadau allanol sy’n effeithio ar ein rôl a/neu ein gallu.

I BWY MAE’R LLAWLYFR HWN?

I’n staff, ein contractwyr a’n partneriaid cyflenwi: mae hon yn ddogfen gyfeirio allweddol, y dylid ei defnyddio i lywio’r broses o wneud penderfyniadau ar bob cyfle.

I’n cymunedau ehangach: ein hymrwymiad ni yw cadw buddiannau pobl Gogledd Cymru yn ein meddyliau bob amser – un y dylen ni gael ein dal yn atebol amdano.

Dylid ei ddarllen ar y cyd â Llawlyfr Ymgysylltu Cwmni Egino, sy’n diffinio dull gweithredu Cwmni Egino o gynnwys ein rhanddeiliaid a’n cymunedau yn ystyrlon ym mhob agwedd ar ei waith.

1.2 PWY YDYN NI?

Mae Cwmni Egino yn gwmni sy’n eiddo’n gyfan gwbl i Lywodraeth Cymru, ac fe’i sefydlwyd i fanteisio ar gyfleoedd sy’n deillio o ddatblygiadau niwclear newydd.

Ein cenhadaeth yw helpu i greu’r amodau ar gyfer Gogledd Cymru ffyniannus drwy hwyluso’r manteision cymdeithasol, economaidd ac amgylcheddol mwyaf yn sgil buddsoddiad niwclear newydd yn y rhanbarth.

Rydyn ni’n cydnabod bod ein cenhadaeth yn eang, ac yn un na allwn ei chyflawni ar ein pen ein hunain nac ar unwaith. Fodd bynnag, gyda phrosiectau niwclear newydd yn debygol o ddwyn ffrwyth dros y blynyddoedd nesaf, mae Cwmni Egino eisoes yn gosod y sylfeini ar gyfer adnabod a chyflawni’r manteision hyn a gosod y sylfeini sefydliadol ar gyfer beth bynnag fydd ein rôl o ran cefnogi buddsoddiad niwclear yn y dyfodol.

Sefydlwyd Cwmni Egino yn 2021 i edrych ar gyfleoedd twf economaidd-gymdeithasol o ddatblygiadau niwclear newydd yng Ngogledd Cymru, gan ganolbwyntio i ddechrau ar y posibilrwydd o ddatblygu safle’r hen orsaf ynni niwclear yn Nhrawsfynydd yn y dyfodol.

Nid oes sicrwydd ar hyn o bryd ynghylch ble, pryd a sut bydd prosiectau niwclear newydd yn cael eu cyflawni yn y DU (y tu hwnt i Hinkley Point C a Sizewell C).

Mae hyn yn anochel yn golygu bod rôl Cwmni Egino yn y dyfodol yn rhaglen niwclear y DU a’n gallu i gyflawni ein cenhadaeth yn y tymor hir hefyd yn anhysbys.

Fodd bynnag, gellir gwneud y tybiaethau canlynol:

» Mae’n debygol iawn y bydd buddsoddiad sylweddol mewn niwclear dros y degawdau nesaf fel rhan o gyflawni uchelgeisiau diogelwch ynni a sero net. Bydd hyn yn creu galw am weithlu amrywiol a medrus, gyda miloedd o gyfleoedd gwaith a busnes ledled y DU.

» Mae Gogledd Cymru mewn sefyllfa gref i elwa o’r buddsoddiad hwn; mae gwaith Cwmni Egino yn dangos hyfywedd niwclear ar raddfa fach yn Nhrawsfynydd.

Mae’r ffaith bod Llywodraeth y DU wedi prynu safle Wylfa yn un arwydd o ragolygon cadarnhaol ar gyfer datblygiad niwclear newydd ar Ynys Môn.

» Mae gan Ogledd Cymru dreftadaeth niwclear gref, seilwaith sgiliau, rhwydweithiau cydweithredol traws-sector ac angen clir am ymyrraeth economaidd-gymdeithasol sy’n ei wneud yn ymgeisydd cryf ar gyfer buddsoddiad niwclear.

TRAWSFYNYDD

Rydyn ni wedi bod yn edrych yn fanwl ar y cyfleoedd ar gyfer datblygiad niwclear newydd ar raddfa fach yn Nhrawsfynydd. Mae hyn wedi arwain at gynnig busnes sy’n dangos y posibilrwydd o leoli gorsaf niwclear ar raddfa fach yn Nhrawsfynydd, ac o bosibl i fod yn un o’r safleoedd niwclear bach cyntaf yn y DU.

Yn ystod 2024/5, bydd Great British Nuclear (GBN) yn penderfynu ar dechnolegau a lleoliad dau brosiect adweithydd modiwlaidd bach (SMR) i’w datblygu gyda’r nod o’u cymeradwyo yn y senedd nesaf (sef, erbyn diwedd y degawd). Rydyn ni’n parhau i ddadlau dros leoli un o’r prosiectau hynny yn Nhrawsfynydd ond rydyn ni’n cydnabod bod y penderfyniad y tu hwnt i’n rheolaeth yn y pen draw.

Rydyn ni hefyd yn ystyried llwybrau amgen i ddatblygiadau niwclear newydd yn Nhrawsfynydd er mwyn gallu bwrw ymlaen ag opsiynau eraill pe na bai’r safle’n cael ei ddewis gan GBN yn y don gyntaf o brosiectau SMR. Rydyn ni’n dal yn hyderus y bydd buddsoddiad yn Nhrawsfynydd yn y dyfodol, ac mae ein gwaith yn cryfhau’r achos ymhellach dros hynny.

Mae Cwmni Egino yn cynnig cyfrwng, sydd wedi’i wreiddio yng Ngogledd Cymru, i hwyluso’r broses o weithio mewn partneriaeth fel y gallwn fanteisio ar y cyfleoedd a ddaw yn sgil ynni niwclear newydd.

Er ein bod yn sefydliad bach gyda chapasiti cyfyngedig, rydyn ni wedi sefydlu gallu ac arbenigedd sefydliadol cryf, yn ogystal â pherthnasoedd cadarnhaol â rhanddeiliaid – yn lleol, yn rhanbarthol ac ar draws y DU. Felly, rydyn ni mewn sefyllfa gref

Y ‘CIVIL NUCLEAR ROADMAP’

Cyhoeddodd Llywodraeth y DU ddogfen, ‘Civil Nuclear Roadmap’ ym mis Ionawr 2024 sy’n nodiuchelgais ar gyfer 20 GW o ynni niwclear newydd erbyn 2050 a’r camau sydd eu hangen i’w gyflawni. Ar ben hynny, mae nifer o fuddsoddiadau pwysig wedi cael eu gwneud i ategu’r ddogfen honno.

Mae’r datblygiadau hyn yn tanlinellu’r rhagolygon

cadarnhaol ar gyfer buddsoddiad sylweddol mewn ynni niwclear newydd yn y DU dros y degawdau nesaf, fel rhan o ymateb Llywodraeth y DU i flaenoriaethau diogelwch ynni a sero net. Mae hyn yn gyfle sylweddol i Ogledd Cymru elwa o raglen niwclear y DU.

Rydyn ni eisoes wedi sefydlu perthynas â GBN, ac mae trafodaethau ynghylch rôl Cwmni Egino mewn cefnogi uchelgeisiau niwclear y DU. Sicrhau’r manteision mwyaf bosibl yma yng Ngogledd Cymru yw ein prif flaenoriaeth yn hyn o beth.

EIN RÔL

Rydyn ni’n cydnabod bod ein gallu i wireddu manteision diriaethol tymor hir yn gyfyngedig braidd ar hyn o bryd a bydd hynny’n parhau nes bydd penderfyniadau wedi cael eu gwneud am brosiectau niwclear yn y dyfodol, a rôl Cwmni Egino (os o gwbl) yn eu cyflawni.

Fel tîm bach, rydyn ni hefyd yn cydnabod bod amser, adnoddau, capasiti a chyllid hefyd yn ein cyfyngu.

Drwy gymryd camau graddol yn awr, fodd bynnag, gallwn baratoi’r ffordd tuag at gyflawni ein cenhadaeth graidd a’r weledigaeth ar gyfer Gogledd Cymru ffyniannus – p’un a fydd Cwmni Egino neu eraill wrth y llyw.

Er nad yw rhai o’r penderfyniadau allweddol a fydd yn pennu rhagolygon y rhanbarth ar gyfer y dyfodol yn rhan o’n rhodd, byddwn yn blaenoriaethu camau gweithredu a fydd yn helpu i ddatgloi cyfleoedd a buddion drwy ddylanwadu, partneru, cefnogi a buddsoddi mewn gweithgareddau sy’n helpu i osod Gogledd Cymru mewn sefyllfa gref i elwa’n llawn o fuddsoddiad yn y dyfodol.

Yn y tymor byr, byddwn yn manteisio ar ein rôl hwyluso i gefnogi a chydweithio â sefydliadau eraill sy’n rhannu ein cenhadaeth o sicrhau bod prosiectau niwclear newydd (a datblygiadau mawr eraill) yn cael eu dylunio a’u cyflawni mewn ffordd sy’n gwneud gwahaniaeth ystyrlon a pharhaol i gymunedau lleol.

Ar ôl i brosiectau niwclear newydd gael eu dewis a’u cadarnhau, bydd y gweithgareddau tymor byr hyn yn helpu i ddatblygu a llywio strategaethau cyflawni manylach ar gyfer pob cam cylch bywyd prosiect – o ddatblygu ac adeiladu, i weithrediadau a datgomisiynu. Bydd hyn yn galluogi dulliau a gweithgareddau yn y dyfodol i fod yn benodol i gyd-destun, yn berthnasol ac yn cael eu gwerthfawrogi gan bobl yn y rhanbarth.

CYMDEITHASOL?

Pryd bynnag y byddwn yn sôn am werth cymdeithasol, rydyn ni’n golygu gwneud gwahaniaeth gwirioneddol a chadarnhaol i fywydau pobl Gogledd Cymru, drwy ddarparu manteision cymdeithasol, economaidd ac amgylcheddol.

Credwn fod gwerth cymdeithasol yn ymwneud yn sylfaenol â llesiant pobl, a’r rôl sydd gan ffactorau cymdeithasol, economaidd ac amgylcheddol, gan gynnwys yr iaith Gymraeg a’i diwylliant, yn eu bywydau. Drwy ganolbwyntio ar y manteision y gallai unrhyw fath o fuddsoddi a datblygu niwclear eu cael o ran y ffactorau hyn (yn awr ac yn y dyfodol), gallwn sicrhau ein bod yn gwneud gwahaniaeth cadarnhaol i fywydau’r rheini sy’n galw Gogledd Cymru yn gartref iddyn nhw.

Er y gall deddfwriaeth bennu gofynion cyfreithiol sylfaenol o ran gwerth cymdeithasol (ee drwy gaffael), rydyn ni’n canolbwyntio ar symud ymhell y tu hwnt i’r gofynion sylfaenol hyn trwy wreiddio gwerth cymdeithasol yn ein diwylliant, ein ffordd o feddwl, a ffyrdd o weithio.

RHESTR

O DERMAU GWERTH CYMDEITHASOL

Drwy gydol y ddogfen hon, bydd rhai termau’n cael eu defnyddio dro ar ôl tro. Dyma beth rydyn ni’n ei olygu pan fyddwn yn eu defnyddio:

Canlyniadau Y newidiadau sy’n deillio o brosiectau, gweithgareddau a gweithredoedd.

Gall y rhain fod yn fwriadol neu’n anfwriadol, ac yn gadarnhaol neu’n negyddol.

Buddion Y newidiadau sy’n deillio o brosiectau, gweithgareddau a gweithredoedd.

Gall y rhain fod yn uniongyrchol neu’n anuniongyrchol, ac maen nhw’n cynnwys buddion economaidd, amgylcheddol, cymdeithasol a diwylliannol: bydd yr holl elfennau hyn yn cyfrannu at Ogledd Cymru ffyniannus ac yn gwella ansawdd bywyd y bobl sy’n byw yma.

Byddwn yn targedu’r buddion hynny sy’n gynaliadwy ac yn hirhoedlog.

Gellir cyfeirio at y rhain hefyd fel ‘effeithiau cadarnhaol’.

Gwerth Cymdeithasol Cyfanswm yr holl fuddion a ddaw yn sgil prosiectau, gweithgareddau a gweithredoedd.

Mae llesiant yn gyflwr cadarnhaol, i unigolyn, cymuned neu gymdeithas. Mae’n cynnwys:

Llesiant Economaidd: sy’n canolbwyntio ar sicrhau bod gan bobl fynediad at gyflogaeth deg, economi ffyniannus, ac adnoddau sy’n cefnogi sefydlogrwydd economaidd a thwf.

Llesiant Cymdeithasol: sy’n ymgorffori’r agweddau ar fywyd sy’n galluogi unigolion i fyw bywydau boddhaus, gan gynnwys iechyd, addysg, mynegiant diwylliannol a chydlyniant cymunedol.

Llesiant Amgylcheddol: sy’n ymwneud â chynnal a gwella’r amgylchedd naturiol, sicrhau defnydd cynaliadwy o adnoddau, a mynd i’r afael â materion fel newid hinsawdd a bioamrywiaeth.

Llesiant Diwylliannol: sy’n cynnwys hyrwyddo a gwarchod treftadaeth ddiwylliannol, meithrin yr iaith Gymraeg a’i hunaniaeth, a chefnogi’r celfyddydau a gweithgareddau diwylliannol.

Yng Nghymru, mae llesiant yn cael ei fesur drwy set o 50 ‘Dangosydd Llesiant Cenedlaethol’.

Rhanddeiliaid Sefydliadau, cyrff proffesiynol a phobl rydyn ni’n ymgysylltu â nhw mewn rhinwedd broffesiynol. Gall hyn gynnwys sefydliadau statudol, cyrff cyhoeddus, cynrychiolwyr etholedig, mudiadau gwirfoddol a grwpiau diddordeb penodol.

Cymuned Pobl sydd wedi’u cysylltu â Chwmni Egino mewn swyddogaeth nad yw’n broffesiynol. Fel arfer, mae’r rhain yn cynnwys aelodau o’r cyhoedd sydd â diddordeb yn ein gwaith a/neu a fydd yn cael eu heffeithio gan ein gwaith, ar ryw ffurf neu’i gilydd.

Gwirio ein diffiniadau

Mae ein diffiniadau yn deillio o amrywiaeth o gyfeiriadau cenedlaethol a rhyngwladol allweddol. Gweler Adran

DEDDF LLESIANT CENEDLAETHAU’R DYFODOL

Mae’r modd yr ydyn ni’n ymdrin â gwerth cymdeithasol yn cyd-fynd yn dda â Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015, sy’n diffinio ‘7 nod llesiant’ a ‘5 ffordd o weithio’ i wella llesiant cymdeithasol, diwylliannol, economaidd ac amgylcheddol Cymru. Mae’r rhain, yn eu tro, yn deillio o nodau datblygu cynaliadwy’r Cenhedloedd Unedig ac yn cyd-fynd â nhw.

HAENAU O FUDDION

Mae datblygiadau niwclear yn cynnig cyfuniad o fuddion sy’n gynhenid, wedi’u gwreiddio ac sy’n ychwanegol.

» Buddion Cynhenid: mae’r rhain yn cynnwys y cyflenwad o ynni carbon isel – gan wneud cyfraniad sylweddol at uchelgeisiau diogelwch ynni a sero net y DU.

» Buddion wedi’u Gwreiddio: mae’r rhain yn cynnwys creu swyddi a sgiliau cysylltiedig a datblygu’r gadwyn gyflenwi.

» Buddion Ychwanegol: mae’r rhain yn ymwneud â chanlyniadau ac effeithiau ychwanegol sy’n cael eu cyflawni o ganlyniad i sut mae buddion cynhenid a’r rhai wedi’u gwreiddio’n cael eu gwireddu, a’r ffyrdd o weithio er mwyn creu gwerth cymdeithasol – er enghraifft, drwy weithredu mentrau ar gyfer gweithwyr i annog defnydd o’r Gymraeg.

Ar draws y tair haen, mae’r cyfle am i greu ‘buddion’ yn cael ei gydbwyso yn erbyn risgiau posibl, er enghraifft:

» Gall cyflenwad ynni carbon isel newydd ddod â buddion cynhenid, ond gallai agweddau ar y prosiect fod yn niweidiol i lesiant ehangach pobl.

» Gall creu swyddi arwain at fuddion wedi’u gwrieddio, ond efallai nad yw’r swyddi hynny’n cefnogi’r bobl a’r cymunedau sy’n lleol i safleoedd datblygu.

» Gallai budd ychwanegol sy’n cefnogi un gymuned, niweidio neu roi rhywun arall dan anfantais.

Bydd Cwmni Egino yn canolbwyntio ar ddatblygu a hyrwyddo dull gweithredu a fydd yn galluogi i ddatblygiadau niwclear a gyflawnir yng Ngogledd Cymru gael eu delifro mewn ffordd sy’n:

» Lliniaru yn erbyn y risg o effeithiau negyddol anfwriadol

» Manteisio i’r eithaf ar y buddion ychwanegol posibl y gall manteision cynhenid a’r rhai wedi’u gwreiddio eu cynnig.

» Ymestyn cwmpas, amrywiaeth a chyrhaeddiad y buddion ychwanegol sy’n dilyn.

YCHWANEGOL

BUDDION

BUDDION WEDI’U

GWREIDDIO

BUDDION CYNHENID

1.4 MEINCNODAU LLWYDDIANT

Os byddwn yn llwyddiannus yn ein cenhadaeth, dylai’r buddion cymdeithasol, economaidd ac amgylcheddol a gyflawnir gennym helpu i gyfrannu at Ogledd Cymru ffyniannus.

Mae llawer o gymunedau yn y rhanbarth yn barod i groesawu mewnfuddsoddiad niwclear, ond mae’r neges gan bobl yma yn glir; ni ddylid cyflawni prosiectau niwclear newydd ar draul llesiant cymdeithasol, economaidd ac amgylcheddol yr ardal –sy’n cynnwys yr iaith Gymraeg a’i diwylliant.

IAITH GYMRAEG SY’N FFYNNU

Mae’r Gymraeg yn rhan annatod o ddiwylliant

Gogledd Cymru, ac mae’n ased gwerthfawr sy’n rhan annatod o wead cymdeithasol, economaidd ac amgylcheddol Gogledd Cymru. Rydyn ni eisiau creu cyfleoedd i hybu a hyrwyddo defnydd y Gymraeg er mwyn iddi allu ffynnu, gan fanteisio ar y cyfle y mae’r iaith a’r diwylliant yn ei roi i helpu i greu cyfoeth diwylliannol, yn ogystal ag ymdeimlad o le a pherthyn.

Yn y bôn, mae awydd am ranbarth lle mae cyfleoedd ar gyfer ffyniant ar draws tair agwedd allweddol sy’n gysylltiedig âi gilydd – pobl, economi a lle.

Mae ein gweledigaeth ar gyfer Gogledd Cymru ffyniannus yn cynnwys ein gweledigaeth ar gyfer y bobl, y lle a’r economi, gyda’r Gymraeg yn llinyn sy’n rhedeg rhwng pob un. Rydyn ni’n disgrifio’r rhain isod.

POBL

GOGLEDD CYMRU

LLE ECONOMI

EIN GWELEDIGAETH: POBL

Mae gan bobl Gogledd Cymru yr amodau gorau posibl i wneud dewisiadau sy’n eu galluogi i gael bywyd boddhaus, beth bynnag y mae hynny’n ei olygu iddyn nhw. Mae darpariaeth addas ar gael i alluogi pobl i fod yn hapusach, yn iachach, yn fwy cydnerth, ac mae ganddyn nhw’r modd a’r adnoddau i gael mynediad at gymunedau deniadol, hyfyw, diogel sydd â chysylltiadau da, a chael budd ohonyn nhw.

Os cyflawnir y weledigaeth, bydd pobl yn gallu dweud:

» RWY’N HYDERUS AM FY NYFODOL.

» MAE CYFLEOEDD I MI FYW BYWYD LLAWN BODDHAD YNG NGOGLEDD CYMRU.

» MAE CYFLE I MI I GYMRYD RHAN YN Y CELFYDDYDAU, CHWARAEON A HAMDDEN YN Y RHANBARTH.

» RWY’N TEIMLO’N FWY CYDNERTH YN WYNEB HERIAU.

» MAE GEN I FYNEDIAD AT DAI O ANSAWDD DA.

» RWY’N IACHACH AC MAE GEN I WELL MYNEDIAD AT WASANAETHAU IECHYD.

» RWY’N TEIMLO’N DDIOGEL AC YN CAEL FY NGHEFNOGI YN FY NGHYMUNED LEOL.

» MAE FY RHWYDWEITHIAU CYMUNEDOL YN CAEL EU GRYMUSO A’U CEFNOGI.

» RWY’N TEIMLO’N FALCH O FY ARDAL LEOL AC YN GYSYLLTIEDIG Â HI.

» RWY’N GALLU DEFNYDDIO’R GYMRAEG YN NATURIOL AC YN HYDERUS, AC RWY’N TEIMLO FY MOD YN CAEL FY NGHEFNOGI I WNEUD HYNNY.

EIN GWELEDIGAETH: YR ECONOMI

Mae Gogledd Cymru yn amgylchedd arloesol, cynhyrchiol a charbon isel sy’n creu cyfoeth ac yn meithrin cydnerthedd economaidd y mae pobl leol yn elwa ohono. Mae gan bobl yr addysg, y sgiliau a’r gefnogaeth i fanteisio ar y cyfleoedd sydd ar gael, ac sy’n hygyrch i bawb.

Os cyflawnir y weledigaeth, bydd pobl yn gallu dweud:

» MAE CYFLEOEDD CYFLOGAETH TYMOR HIR, AMRYWIOL A THEG AR GAEL I MI.

» MAE FY AMODAU GWAITH YN DDA.

» RWY’N GALLU CAEL GAFAEL AR Y SGILIAU A’R GEFNOGAETH SYDD EU HANGEN ARNAF I FANTEISIO AR GYFLEOEDD.

» NID WYF YN WYNEBU RHWYSTRAU I GYFRANOGIAD ECONOMAIDD.

» MAE CYFLEOEDD HYGYRCH AR GAEL I BOBL IFANC YN Y SECTOR CARBON ISEL.

» MAE EIN BUSNESAU BACH A’N MUDIADAU CYMUNEDOL YN CAEL EU CEFNOGI I DYFU A DATBLYGU.

» RWY’N GALLU FFORDDIO BYW YN FY NGHYMUNED.

» RWY’N GWARIO ARIAN YN LLEOL AC YN CYFRANNU AT FY ECONOMI LEOL.

» RWYF WEDI ELWA O’R ARLOESI A’R YMCHWIL SY’N DIGWYDD YN FY ARDAL.

» MAE DATBLYGIADAU’N GWELLA TWF Y GYMRAEG, AC NID YW’N EI NIWEIDIO.

EIN GWELEDIGAETH: LLE

Mae Gogledd Cymru yn lle deniadol i bobl fyw a mwynhau, mae’r amgylchedd naturiol a dynol yng Ngogledd Cymru yn cael ei warchod a’i wella, ac mae cefnogaeth i fentrau cymdeithasol, economaidd ac amgylcheddol cynaliadwy sy’n ychwanegu gwerth at fywyd cymunedol, yr amgylchedd, a llesiant ieithyddol a diwylliannol.

Os cyflawnir y weledigaeth, bydd pobl yn gallu dweud:

» RWY’N GWERTHFAWROGI’R LLE RWY’N

BYW AC MAE GEN I GYMHELLIANT I GYMRYD

CYFRIFOLDEB DROS FY ARDAL LEOL.

» MAE GAN FY NGHYMUNED ECONOMI

GYLCHOL SY’N FFYNNU.

» MAE FY NGHYMUNED YN LÂN AC YN RHYDD O LYGREDD.

» MAE GAN FY NGHYMUNED FYNEDIAD AT FANNAU

GWYRDD SY’N CAEL EU CYNNAL A’U CADW’N DDA.

» MAE GAN FY NGHYMUNED FIOAMRYWIAETH GYFOETHOG.

» MAE GAN FY NGHYMUNED SEILWAITH

GWYRDD A MANNAU CYHOEDDUS DA.

» MAE AMGYLCHEDD NATURIOL A THREFTADAETH

DDIWYLLIANNOL FY NGHYMUNED YN CAEL EU

DIOGELU, EU GWARCHOD A’U HYRWYDDO.

» MAE DATBLYGIADAU YN FY NGHYMUNED YN CAEL EU

CYNLLUNIO A’U HADEILADU MEWN MODD SENSITIF.

» MAE FY NGHYMUNED YN CAEL EI CHEFNOGI I

ADDASU I EFFEITHIAU NEWID YN YR HINSAWDD.

» MAE FY NGHYMUNED YN CAEL EI CHEFNOGI I

GYRRAEDD CERRIG MILLTIR ALLWEDDOL YN Y GYMRAEG, GAN GYNNWYS CYMRAEG 2050.

ADRAN 2 : SICRHAU BUDDION

SUT Y BYDDWN YN DOD Â BUDDION

I BOBL GOGLEDD CYMRU

2.1 Y CWESTIYNAU A FYDD YN EIN TYWYS

Er mwyn sicrhau ein bod yn manteisio i’r eithaf ar bob cyfle i ddod â manteision i Ogledd Cymru, byddwn yn dechrau gyda set syml o gwestiynau y byddwn yn eu gofyn i ni ein hunain yn gyson, ac ar draws pob agwedd ar ein gwaith a’n penderfyniadau.

Pryd bynnag y byddwn yn paratoi i weithredu, byddwn yn gofyn:

1 Sut bydd ein gweithredoedd yn cyfrannu at ein gweledigaeth o Ogledd Cymru ffyniannus?

2 Sut bydd ein gweithredoedd o fudd i bobl ar draws Gogledd Cymru yn deg ac yn gyfartal?

3 Sut bydd ein gweithredoedd yn cael effaith barhaol, beth bynnag fydd yn digwydd yn y dyfodol?

4 Sut byddwn ni’n gweithio gyda phartneriaid, rhanddeiliaid a chymunedau i liniaru risgiau, a sicrhau’r manteision gorau posibl?

Bydd y cwestiynau hyn yn rhan annatod o’r gwaith o ddylunio, cynllunio a rheoli ein gwaith, a bydd yr atebion iddynt yn sail i gynlluniau gweithredu, gan nodi sut y byddwn yn sicrhau buddion drwy bob agwedd ar yr hyn a wnawn

Mae ein cwestiynau arweiniol yn seiliedig ar werthoedd corfforaethol Cwmni Egino:

Ymddiriedaeth a pharch: Trin eraill fel y bydden ni’n hoffi cael ein trin – meithrin perthnasoedd dwyffordd sy’n seiliedig ar barch ac ymddiriedaeth rhwng y naill a’r llall; gwrando a dysgu gan eraill yn ogystal â rhannu ein gwybodaeth a’n profiad ein hunain

Rhagoriaeth a Chyflawni: Bod y gorau y gallwn fod – datblygu ein hunain yn barhaus; herio ein meddyliau a’n gweithredoedd; a chyflawni ein pwrpas a’n gweledigaeth yn effeithiol gyda hyder, pragmatiaeth a hyblygrwydd.

Cydweithio a Chynhwysiant: Meddwl yn agored – cydweithio ag eraill, manteisio i’r eithaf ar gyfleoedd i bawb gymryd rhan, croesawu lleisiau a safbwyntiau amrywiol.

Mae’r iaith Gymraeg a Diwylliant yn llinyn aur ar draws y gwerthoedd corfforaethol hyn. Rydyn ni’n sicrhau ein bod yn trin y Gymraeg yn gydradd, ac yn manteisio ar bob cyfle sydd ar gael i ddathlu, hyrwyddo a thyfu’r Gymraeg drwy ein gwaith. Mae ein dull gweithredu ar

2.2 GOSOD Y SYLFEINI : 2024/2025

Yn y tymor byr, byddwn yn canolbwyntio ar dair thema allweddol, pob un yn cwmpasu pob rhan o’n gwaith, a phob un yn adlewyrchu’r cyfleoedd gorau i ni helpu i sicrhau buddion gwirioneddol a pharhaol i Ogledd Cymru o’r man lle rydyn ni heddiw.

BLAENORIAETH UN : ARWAIN DRWY ESIAMPL

Byddwn yn modelu’r ymddygiadau cadarnhaol rydym yn dymuno eu gweld ar draws y sector niwclear, sectorau buddsoddi mawr eraill, ac ar draws y rhanbarth.

Yn ystod 2024/2025 byddwn yn gweithio’n ystyriol ac yn unol â’n gwerthoedd a’n hegwyddorion, byddwn yn hyrwyddo ffyrdd moesegol a chyfrifol o weithio, a byddwn yn rhannu ein dysgu â phawb sy’n gallu elwa ohono.

CWESTIWN ARWEINIOL YMRWYMIAD

Sut bydd ein gweithredoedd yn cyfrannu at ein gweledigaeth o Ogledd Cymru ffyniannus?

Sut bydd ein gweithredoedd o fudd i bobl ar draws Gogledd Cymru yn deg ac yn gyfartal?

Sut bydd ein gweithredoedd yn cael effaith barhaol, beth bynnag fydd yn digwydd yn y dyfodol?

Sut byddwn ni’n gweithio gyda phartneriaid, rhanddeiliaid a chymunedau i liniaru risgiau, a sicrhau’r buddion gorau posibl?

»

Byddwn yn sicrhau bod ein harferion sefydliadol ein hunain yn manteisio i’r eithaf ar gyfleoedd i ddod â buddion i Ogledd Cymru.

Byddwn yn rhannu ein dysgu ar draws Gogledd Cymru ac yn cynnal ein gwerthoedd a’n hegwyddorion yn uniongyrchol, a thrwy ein cadwyn gyflenwi a’n partneriaethau.

Byddwn yn ymdrechu i gefnogi a dylanwadu’n gadarnhaol ar ein partneriaid rhanbarthol a chenedlaethol – gan ddysgu a thyfu gyda’n gilydd.

Byddwn yn cadw at ‘Egwyddor Datblygu Cynaliadwy’ Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015, ac yn gweithio ochr yn ochr â phawb sy’n dilyn yr egwyddor hon yn gyfartal yn eu gwaith. Byddwn yn croesawu'r her, ac yn gofyn am gefnogaeth ein staff, ein rhanddeiliaid a’n cymunedau i sicrhau ein bod yn cynnal ffyrdd cadarnhaol o weithio’n barhaus.

Hyd yma, mae ein camau gweithredu ynglŷn â’r thema hon yn cynnwys datblygu Llawlyfr Ymgysylltu Cwmni Egino, datblygu polisi Iaith Gymraeg addas i’r diben, a sefydlu cysylltiadau cadarnhaol â rhanddeiliaid a chymunedau.

Gweler yr Atodiad am ein cynllun gweithredu amlinellol ‘Arwain drwy esiampl’.

BLAENORIAETH DAU :

Mae ein cenhadaeth yn mynd ymhell y tu hwnt i’r hyn y gallwn ei gyflawni ar ein pen ein hunain.

Yn ystod 2024/2025 byddwn yn gweithio’n agos gyda’n partneriaid rhanbarthol i greu’r amodau ar gyfer gwireddu buddion hirdymor a pharhaol i’r rhanbarth.

CWESTIWN ARWEINIOL

Sut bydd ein gweithredoedd yn cyfrannu at ein gweledigaeth o Ogledd Cymru ffyniannus?

Sut bydd ein gweithredoedd o fudd i bobl ar draws Gogledd Cymru yn deg ac yn gyfartal?

Sut bydd ein gweithredoedd yn cael effaith barhaol, beth bynnag fydd yn digwydd yn y dyfodol?

Sut byddwn ni’n gweithio gyda phartneriaid, rhanddeiliaid a chymunedau i liniaru risgiau, a sicrhau’r buddion gorau posibl?

YMRWYMIAD

Byddwn yn cefnogi gwaith pawb sy’n rhannu ein gweledigaeth ac yn eu gwahodd i gefnogi ein gwaith.

Byddwn yn gweithio gyda phartneriaid lleol, rhanbarthol a chenedlaethol sy’n cynrychioli pob rhan o Ogledd Cymru.

Byddwn yn gweithio gyda phartneriaid yn y sector niwclear a thu hwnt, gan fuddsoddi mewn sylfeini cadarn ar gyfer pob dyfodol posibl.

Byddwn yn ymgysylltu’n weithredol ag amrywiaeth eang o randdeiliaid, gan ofyn ‘sut gallwn ni helpu?’ a ‘sut gallwn ni weithio gyda’n gilydd?’ Byddwn yn datblygu perthynas â’r rheini sy’n cefnogi’r bobl sydd ar y cyrion, dan anfantais a heb gynrychiolaeth ddigonol er mwyn llywio a herio ein penderfyniadau.

» BETH RYDYN NI WEDI’I WNEUD HYD YMA

Hyd yma, mae ein camau gweithredu ynghylch y thema hon yn cynnwys cynnal gweithdai a mynd i ddigwyddiadau cymunedol i ddeall dyheadau lleol yn well, sefydlu menter allgymorth sy’n ceisio cofnodi hanes cymdeithasol cynhyrchu ynni niwclear yn Nhrawsfynydd drwy brosiect ‘Naratifau Cymunedol’, sefydlu Memorandwm Cyd-ddealltwriaeth gyda Phrifysgol Bangor, a chefnogi’r gwaith o gyflwyno rhaglen ysgolion gyda Chyngor Gwynedd ac M-SParc.

Gweler yr Atodiad am ein cynllun gweithredu allanol, sef ‘Gweithio gydag Eraill’.

BLAENORIAETH TRI : HYRWYDDO A CHFENOGI’R RHANBARTH

Mae Gogledd Cymru yn barod ar gyfer mewnfuddsoddiad.

Drwy gydol 2024/2025 byddwn yn hyrwyddo Gogledd Cymru fel cyrchfan ddymunol ar gyfer buddsoddiad niwclear, ac yn gweithio gyda’n partneriaid i gyflwyno’r achos dros gyfleoedd mewnfuddsoddi ehangach ar draws y rhanbarth.

CWESTIWN ARWEINIOL YMRWYMIAD

Sut bydd ein gweithredoedd yn cyfrannu at ein gweledigaeth o Ogledd Cymru ffyniannus?

Sut bydd ein gweithredoedd o fudd i bobl ar draws Gogledd Cymru yn deg ac yn gyfartal?

Sut bydd ein gweithredoedd yn cael effaith barhaol, beth bynnag fydd yn digwydd yn y dyfodol?

Sut byddwn ni’n gweithio gyda phartneriaid, rhanddeiliaid a chymunedau i liniaru risgiau, a sicrhau’r buddion gorau posibl?

Byddwn yn hyrwyddo mewnfuddsoddiad i Ogledd Cymru, yn y sector niwclear a thu hwnt.

Byddwn yn cyflwyno’r achos dros fuddsoddiadau niwclear (a buddsoddiadau eraill) er mwyn sicrhau buddion ar draws y rhanbarth.

Byddwn yn hyrwyddo buddsoddiadau yn y seilwaith a’r sgiliau sylfaenol a all fod yn sail i sawl math o ddyfodol posibl.

Byddwn yn nodi ac yn datblygu mentrau ar y cyd â’n partneriaid, ac yn unol ag agendâu cymdeithasol, economaidd ac amgylcheddol rhanbarthol.

Hyd yma, mae ein camau gweithredu o ran y thema hon yn cynnwys mapio sgiliau, comisiynu astudiaeth o allu cadwyn gyflenwi, gweithio gyda Phrifysgol Bangor i nodi astudiaethau achos cadarnhaol o wireddu buddion y gallai Gogledd Cymru eu hefelychu, a chwarae rhan weithredol mewn amrywiol rwydweithiau a phrosiectau traws-ranbarthol.

Gweler yr Atodiad ar gyfer ein cynllun gweithredu amlinellol ‘Hyrwyddo a chefnogi’r rhanbarth’.

2.3 CYLFAWNI NEWID : 2025 A THU HWNT

Wrth i ni edrych at 2025 a thu hwnt, bydd y model FED, ‘DyfodolYmgysylltu-Cyflawni’, yn darparu fframwaith i’n helpu i fanteisio i’r eithaf ar ein potensial i wireddu gwerth cymdeithasol, a’r cyfleoedd cywir i wneud hynny, gyda’r bobl iawn, ar yr adeg iawn.

BETH YW FED?

DWedi’i gynllunio fel fframwaith strategol, mae model FED yn annog gweledigaeth strategol ac yn meithrin cysondeb ac ymrwymiad i nodau cyffredin. Mae hefyd yn cynnig dull strwythuredig o wireddu buddion a chreu gwerth cymdeithasol. Mae’n arbennig o addas ar gyfer mentrau cymhleth ac ansicr a rhanddeiliaid amrywiol.

Mae’r dull yn cynnwys tri cham:

1. Dyfodol: Rydyn ni’n datblygu (ac yn cyd-ddatblygu)

gweledigaeth ar gyfer y dyfodol.

2. Ymgysylltu: Rydyn ni’n ymgysylltu â phobl a chreu’r dyfodol hwnnw gyda nhw.

3. Cyflawni: Rydyn ni’n defnyddio’r adnoddau sydd ar gael i wneud i bethau ddigwydd.

Trwy hynny mae’r dull yn gwneud cysylltiad clir rhwng y perthnasoedd rydyn ni’n eu ffurfio, a’r canlyniadau y bwriadwn eu cyflawni yn y pen draw.

DYFODOL

CANLYNIADAU

GWEITHREDOEDD

POSIBILIADAU A CHYFLEOEDD

PERTHNASOEDD

SUT BYDD

FED

YN EIN HELPU I GYFLAWNI GWERTH CYMDEITHASOL?

Mae’r model Dyfodol-Ymgysylltu-Cyflawni yn cyd-fynd yn dda â dull gwerth cymdeithasol ehangach Cwmni Egino.

CAM FED BETH MAE HYN YN EI OLYGU I GWMNI EGINO?

Dyfodol Gweledigaeth Cwmni Egino ar gyfer y dyfodol yw ‘Gogledd Cymru ffyniannus’ wedi’i diffinio gan y meincnodau llwyddiant a nodir yn y Llawlyfr hwn. Mae wedi cael ei lywio gan gyfraniad cynrychiolwyr cymunedol, aelodau o’r cyhoedd ac ystod o randdeiliaid, ac mae’n cyd-fynd yn gryf â gweledigaethau rhanbarthol ehangach ar gyfer datblygu Gogledd Cymru.

Ymgysylltu Bydd y themâu allweddol (o arwain drwy esiampl, gweithio gydag eraill, a hyrwyddo a chefnogi’r rhanbarth) y bydd Cwmni Egino yn canolbwyntio ei ymdrechion arnynt yn 2024/2025, i gyd yn helpu i ymgysylltu pobl â’r weledigaeth. Byddant yn ymestyn rhwydweithiau Cwmni Egino, yn codi ymwybyddiaeth o’i waith, ac yn meithrin ymddiriedaeth ynddo fel sefydliad.

Cyflawni Mae ‘cyflawni’ ar gyfer Cwmni Egino yn ymwneud â’r camau penodol y mae’n eu cymryd, a’r mentrau y mae’n eu cefnogi, wrth weithio tuag at wireddu ei weledigaeth.

Bydd elfennau craidd y weledigaeth hon (pobl, lle ac economi), a rôl a chylch gwaith Cwmni Egino yn creu posibilrwydd, ond bydd cyfleoedd a chamau gweithredu yn deillio’n organig o ymgysylltu – bob amser yn ymateb i’r amgylchiadau ar unrhyw adeg benodol, ac yn cael eu nodi gyda (ac nid ar gyfer) cymunedau, rhanddeiliaid a phartneriaid rhanbarthol a chenedlaethol Cwmni Egino.

IYn gryno, mae defnyddio’r model FED i ni yn golygu:

1. Y dylen ni barhau i fuddsoddi mewn ymgysylltu ystyrlon, eang ei gwmpas. Mae’r posibiliadau sy’n agored i Gwmni Egino yn un o swyddogaethau ein perthnasoedd, mae’r cyfleoedd sy’n agored i ni yn rhan o’n posibiliadau, ac mae’r canlyniadau y gallwn eu cyflawni yn rhan o sut rydyn ni’n troi’r posibilrwydd yn weithredu. Mae’r cyfan yn dechrau gydag ymgysylltu.

2. Dylai gweithio mewn partneriaeth fod yn ganolog i ymdrechion gwerth cymdeithasol Cwmni Egino. Mae gweithio mewn partneriaeth yn ymestyn yr adnoddau sydd ar gael i ni, yn ymestyn yr amrywiaeth o gamau y gall eu cymryd ac yn cyfrannu atynt, ac yn ymestyn ehangder a dyfnder y buddion y gall eu sicrhau – gan liniaru risg a diogelu etifeddiaeth ar yr un pryd.

3. Dylai cynlluniau fod yn ailadroddol ac yn ymatebol. Wrth ddarparu buddion, rhaid i Gwmni Egino ymateb i heriau a chyfleoedd byw. Dylai fframwaith clir (fel y nodir yn y llawlyfr hwn) arwain a sicrhau ansawdd ein gweithgarwch, ond ni ddylai gyfyngu ar ei allu i fod yn ystwyth wrth gyflawni.

2.4 STRWYTHURAU ATEGOL

Adlewyrchir ymrwymiad Cwmni Egino i werth cymdeithasol yn ein trefn lywodraethu, ein polisïau, a’n prosesau.

Mae’r tabl isod yn crynhoi’r ffyrdd y mae ein hymrwymiad i gyflawni’r dull gwerth cymdeithasol wedi’i wreiddio ar draws y sefydliad.

ELFEN DISGRIFIAD CAMAU GWEITHREDU CYFREDOL / ARFAETHEDIG

Llywodraethu Mae atebolrwydd clir dros gyflawni yn erbyn ein hamcanion.

» Mae Gwerth Cymdeithasol yn eitem sefydlog mewn cyfarfodydd y Bwrdd a’r Uwch Reolwyr

» Mae atebolrwydd wedi’i neilltuo ar gyfer cyflawni mentrau penodol

» Mae cynnydd yn cael ei fonitro’n rheolaidd

Diwylliant Mae arweinyddiaeth gref ar gyfer cyflawni ein cenhadaeth.

» Mae Gwerth Cymdeithasol wedi’i wreiddio mewn dogfennau recriwtio, disgrifiadau swydd sesiynau cynefino/llawlyfrau staff

» Mae diwrnodau gwirfoddolwyr yn cael eu dyrannu a’u defnyddio i gyflawni mentrau sydd wedi’u targedu at ein hamcanion blaenoriaeth

Polisïau a phrosesau

Cyfathrebu ac ymgysylltu

Mae ein cenhadaeth a’n hamcanion wedi’u gwreiddio yn ein polisïau a’n prosesau.

Mae ein dull o gyflawni ein cenhadaeth yn cael ei gyfleu mewn ffordd glir a didwyll i’n holl randdeiliaid a chymunedau.

Sgiliau a dealltwriaeth Mae gan yr Uwch Reolwyr a staff sgiliau a dealltwriaeth ddigonol i helpu i gyflawni cenhadaeth Cwmni Egino a sicrhau buddion.

Cydweithio Mae Cwmni Egino yn gweithio ar y cyd â rhanddeiliaid, cymunedau a phartneriaid i ganfod a gwireddu’r buddion mwyaf posibl.

» Rydyn ni wedi sefydlu ymrwymiadau iaith Gymraeg clir

» Mae pwysoliad gwerth cymdeithasol ychwanegol wedi’i gynnwys yn ein polisïau caffael

» Mae ymrwymiadau gwerth cymdeithasol wedi’u cynnwys mewn contractau

» Dull clir o ymgysylltu ystyrlon, fel yr amlinellir yn ein Llawlyfr Ymgysylltu â’r Sefydliad

» Mae sianeli cyfathrebu agored i ddatblygu dolen sylwadau ar gyfer cymunedau a rhanddeiliaid

» Hyfforddiant staff ar bynciau fel rheoli contractau a chyflenwyr, effaith/ gwerth cymdeithasol, bioamrywiaeth, economi gylchol ac ati.

» Sefydlu cysylltiadau cryf â rhanddeiliaid a phartneriaethau gweithredol, gan alluogi cydweithio parhaus

ADRAN 3 : MONITRO CYNNYDD

SICRHAU EIN BOD YN GWNEUD GWAHANIAETH

3.1 MESUR EFFAITH

Wrth fesur ein cynnydd, byddwn yn defnyddio amrywiaeth o ddulliau, gan gyfuno rhifau a straeon i greu darlun cyfoethog o’r newidiadau y mae ein gwaith yn eu gwneud i gymunedau, a’r ffordd y mae hyn yn cael ei wneud.

EGWYDDORION GWERTHUSO

Ar draws ein holl weithgareddau gwerthuso, byddwn yn:

1 Mabwysiadu dulliau ansoddol (gan gynnwys straeon a phrofiadau ein cymunedau a’n buddiolwyr), ochr yn ochr â dulliau meintiol (gan ddarparu cyd-destun a llun macrosgopig).

2 Gwerthuso’r newidiadau rydyn ni wedi’u cyflawni yn y tymor byr (canlyniadau) ochr yn ochr â’r newidiadau tymor hir ehangach y gallen ni fod yn cyfrannu atynt (effeithiau).

3 Gwerthuso ein prosesau – nid yn unig yr hyn yr ydym yn ei gyflawni, ond sut yr ydym yn ei gyflawni, ac i ba raddau yr ydym yn parhau i fod yn driw i’n gwerthoedd a’n hegwyddorion.

4

5

Gofyn cwestiynau anodd - gan archwilio nid yn unig y buddion y gallen ni fod yn eu cynnig, ond bod yn agored i unrhyw ganlyniadau anfwriadol a negyddol y gallai ein gwaith fod yn eu creu.

Gweithio mewn partneriaeth lle bynnag y bo modd, gydag arbenigwyr gwerthuso perthnasol, a chysoni ein dulliau gweithredu â gwerthusiad ac asesiad eang o lesiant a gwerth cymdeithasol ar draws Gogledd Cymru.

DULLIAU GWERTHUSO

Er nad oes rhestr wedi’i diffinio ymlaen llaw o’r dulliau gwerthuso y dylen ni eu defnyddio, mae’r tabl gyferbyn yn dangos enghreifftiau o’r dulliau amrywiol sydd ar gael i ni.

FFRAMWATIH GENEDLAETHOL

Mae Themâu, Canlyniadau a Mesurau Cenedlaethol Cymru (TOMs) yn fframwaith mesur a rheoli sy’n cael ei fabwysiadu’n eang gan y sector cyhoeddus i gyflawni yn erbyn saith nod y Ddeddf Llesiant. Mae’n nodi nifer o ganlyniadau a mesurau cyfatebol ym mhob thema y gellir eu defnyddio i asesu a yw’r canlyniad wedi’i gyflawni.

RHANNU’R HYN A DDYSGWN

Bydd canfyddiadau ein gwerthusiad yn cael eu casglu, eu dadansoddi a’u hadrodd yn fewnol ac yn allanol bob blwyddyn. Byddwn yn sicrhau y bydd y canfyddiadau hyn ar gael yn agored, gan rannu ein cyflawniadau, ein camgymeriadau a’r hyn rydyn ni wedi’i ddysgu gyda phob un a fydd yn cael budd o hynny, gan annog trafodaeth ar draws y rhanbarth a fydd yn tyfu ynghylch gwerth cymdeithasol. Rydyn ni eisiau i’n taith gwerth cymdeithasol gynnig ysbrydoliaeth a bod yn dempled y gall pobl eraill ei ddilyn.

GWEITHREDU RHANBARTHOL

Ar draws Gogledd Cymru, mae cyrff yn gwerthuso ac yn asesu llesiant a ffactorau cymdeithasol, economaidd ac amgylcheddol ehangach, gan gynnwys ein

Byrddau Gwasanaethau Cyhoeddus, Byrddau

Partneriaeth Rhanbarthol, Uchelgais Gogledd

Cymru, Awdurdodau Lleol, Cyd-bwyllgorau

Corfforedig a mwy. Byddwn yn cydweithio’n rhagweithiol i adeiladu ar yr hyn sy’n cael ei ddeall a helpu i lenwi bylchau’n strategol mewn meysydd lle mae cwestiynau’n dal i fodoli.

DULL DISGRIFIAD GWYBODAETH BELLACH

Wal sylwadau (Sticky wall)

Wal sylwadau yw wal lle gall pobl roi eu sylwadau, mewn ymateb i unrhyw gwestiwn neu sbardun.

Arolygon Canlyniadau hunan-gofnodedig sy’n deillio o weithgaredd ar adeg benodol. Digidol neu wyneb yn wyneb, wedi’i weinyddu neu ei hunan-weinyddu.

Cyfweliadau allweddol â hysbyswyr

Ymholi gwerthfawrogol

Cyfweliadau manwl gyda phobl sydd â phersbectif arbennig o wybodus am brosiect neu weithgaredd yw’r cyfweliadau allweddol â hysbyswyr.

Mae Ymholi Gwerthfawrogol yn ddull cyfranogol sy’n canolbwyntio ar yr hyn sy’n gweithio, nid yr hyn nad yw’n gweithio.

Gwyriad Cadarnhaol

Y Newid Mwyaf Arwyddocaol

Dadansoddi cyfres amser

Astudiaeth hydredol

Mae gwyriad cadarnhaol yn ddull sy’n seiliedig ar gryfderau, lle rydych chi’n nodi’r pethau sy’n mynd yn dda iawn, yn eu harchwilio, ac yn adeiladu arnyn nhw.

Mae’r Newid Mwyaf Arwyddocaol yn ddull monitro a gwerthuso cyfranogol sy’n golygu casglu a dethol ‘straeon’ gan bobl sydd â safbwyntiau amrywiol ar brosiect.

Cymharu’r newid i linell sylfaen o ddata ar gyfer grŵp neu le penodol i’r perfformiad ar ôl i’r gweithgaredd ddigwydd.

Casglu gwybodaeth am yr un grŵp am gyfnodau sy’n cael eu hailadrodd dros gyfnod estynedig o amser.

Mesur effaith tymor byrrach

Mae Evaluation Support Scotland yn cynnig taflen ddull ar gyfer defnyddio'r cysyniad o Wal sylwadau

Mae Prifysgol Harvard yn cynnig 'taflen awgrymiadau' ar weithio ar gwestiynau ar gyfer arolygon.

Mae BetterEvaluation yn rhoi cyflwyniad i gynnal cyfweliadau allweddol â hysbyswyr.

Mae Taith yn rhoi cyfarwyddiadau cam wrth gam ar gyfer cynnal ymarfer ymchwiliad gwerthfawrogol.

Mae’r Cynllun Gwyriad Cadarnhaol yn cynnig ‘Canllaw Maes’ am ddim i’r dull gwyriad cadarnhaol

Mae datblygwyr y dechneg Y Newid Mwyaf Arwyddocaol yn darparu llawlyfr cyfarwyddyd manwl ar gyfer ei ddefnyddio.

Mae BetterEvaluation yn ganllaw rhagarweiniol i ddadansoddi cyfres amser.

Mae Closer yn cynhyrchu canllaw manwl i fynd i’r afael ag astudiaethau hydredol.

Mesur effaith tymor hwy

3.2 CYFEIRIADAU DEFNYDDIOL

Mae’r adnoddau trydydd parti canlynol yn rhoi rhagor o arweiniad, cyd-destun a gwybodaeth ynglŷn â gwerth cymdeithasol ac arferion cysylltiedig.

Gwerth Cymdeithasol

» Rhestr o dermau ymgysylltu: Mae Rhwydwaith Cydgynhyrchu Cymru yn darparu rhestr fanwl o dermau ymgysylltu. (https://info.copronet.wales/wpcontent/uploads/2022/10/Rhestr-o-dermau-ymgysylltuRhwydwaith-Cyd-gynhyrchu-Cymru-F1.5-A4.pdf).

» Social Value International: Rhwydwaith bydeang sy’n canolbwyntio ar effaith cymdeithasol a gwerth cymdeithasol (www.socialvalueint.org).

» Social Value UK: Dyma’r prif sefydliad i aelodau yn y DU i bobl a sefydliadau sydd wedi ymrwymo i’r gwaith o fesur, rheoli a chreu gwerth cymdeithasol ystyrlon (www.socialvalueuk.org).

» Gwerth Cymdeithasol Cymru: Dyma wasanaeth sy’n cael ei arwain gan Mantell Gwynedd, sy’n rhoi cefnogaeth, cyngor a gwasanaethau ymgynghoriaeth gwerth cymdeithasol i sefydliadau’r trydydd sector ledled Gwynedd a thu hwnt (https://mantellgwynedd.com/svc/social-value-cymru.html).

» Termau gwerth cymdeithasol: Mae Thrive yn cynnig rhestr gynhwysfawr o eirfa gyffredin sy’n ymwneud â gwerth cymdeithasol (https://www.thrive-platform. com/wp-content/uploads/2024/03/Thrive-SocialValue-A-Comprehensive-Glossary.pdf).ThriveSocial-Value-A-Comprehensive-Glossary.pdf ).

Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015

» Comisiynydd Cenedlaethau’r Dyfodol Cymru: Mae gwefan Comisiynydd Cenedlaethau’r Dyfodol Cymru yn rhoi cyflwyniad manwl i’r Ddeddf a’i hegwyddor ‘Cynnwys’ (https://www.futuregenerations.wales/cy/).

Monitro a Gwerthuso

» BetterEvaluation: Llwyfan gwybodaeth Global Evaluation Initiative (GEI), sef cynghrair byd-eang o sefydliadau ac arbenigwyr sy’n gweithio gyda’i gilydd i gfnogi llywodraeth gwledydd i gryfhau’r gwaith o fonitro, gwerthuso a defnyddio tystiolaeth yn eu gwledydd. (www.betterevaluation.org).

» Measuring What Matters: Mae Rhwydwaith Cydgynhyrchu Cymru yn darparu pecyn cymorth syml i nodi’r methodolegau gwerthuso sy’n cyd-fynd orau â’ch anghenion (info. copronet.wales/measuring-what-matters/).

Dyfodol-Ymgysylltu-Cyflawni (FED)

» Tîm FED: Hafan Steve Radcliffe a chyfranogion, sef datblygwyr model Dyfodol-Ymgysylltu-Cyflawni (https://www.futureengagedeliver.com/).

Rydyn ni wedi bod yn gweithio gyda busnesau bach lleol i ddatblygu’r Llawlyfr hwn a’n Llawlyfr Ymgysylltu, gan fynd ati’n rhagweithiol gyda nhw i feithrin eu gallu a’u cysylltu â rhagor o gyfleoedd.

Useful Projects

www.usefulprojects.co.uk

Ymgynghoriaeth cynaliadwyedd, Menter Gymdeithasol a B Corp yw Useful Projects, sy’n helpyu sefydliadau i fynd i’r afael ag amrywiaeth o heriau - sero net, yr economi gylchol a gwerth cymdeithasol.

Ynys Resources

www.ynysresources.co.uk

Mae Ynys Resources ar Ynys Môn yn arbenigo mewn gyrru newid cadarnhaol trwy strategaethau economi gylchol, cydweithio cadwyn gwerth, creu gwerth cymdeithasol ac optimeiddio effeithlonrwydd adnoddau.

Lab Cyd-gynhyrchu Cymru www.coprolab.wales

Mae Lab Cydgynhyrchu Cymru yn gweithio ar draws sectorau i helpu timau i gymhwyso gwerthoedd cydgynhyrchu i’w gwaith. Mae hyn yn cynnwys cydweithredu ac ymgysylltu ystyrlon, yn ogystal â chydgynhyrchu llawn a chynnwys dinasyddion.

Ateb

www.atebcymru.wales

Mae Ateb yn gweithio gyda sefydliadau ledled y DU i wneud y gorau o gyfleoedd a ddaw yn sgil darparu cyfathrebu a gwasanaethau dwyieithog, gan gynnwys dylunio a delifro strategaethau a pholisïau’r Gymraeg.

Droplet www.droplet.co.uk

Asiantaeth greadigol yng Ngogledd Cymru yw Droplet, sy’n gweithio ledled y Du ac yn rhyngwladol i gyflawni prosiectau dylunio creadigol ac aml-lwyfan.

Rhi Moxon www.rhimoxon.com

Darlunydd, gwneuthurwr printiau ac artist graffig llawrydd yn Wrecsam yw Rhi, sy’n dod â nodweddion anniriaethol a chysyniadol yn fyw trwy liw a chelf.

ATODIAD A : CYNLLUNIAU GWEITHREDU AMLINELLOL

CYNLLUN GWEITHREDU

AMLINELLOL 2024/25: ARWAIN DRWY ESIAMPL

YMRWYMIAD

Byddwn yn sicrhau bod ein harferion sefydliadol ein hunain yn manteisio i’r eithaf ar gyfleoedd i ddod â buddion i Ogledd Cymru.

Byddwn yn rhannu ein dysgu ar draws Gogledd Cymru ac yn cynnal ein gwerthoedd a’n hegwyddorion yn uniongyrchol, a thrwy ein cadwyn gyflenwi a’n partneriaethau.

Byddwn yn ymdrechu i gefnogi a dylanwadu’n gadarnhaol ar ein partneriaid rhanbarthol a chenedlaethol – gan ddysgu a thyfu gyda’n gilydd.

GWEITHRED/OEDD

» Adolygu polisïau, dogfennau a gweithdrefnau'r cwmni i sicrhau eu bod yn cydfynd â'n dull gweithredu Gwerth Cymdeithasol ac yn adlewyrchu hynny.

» Cofleidio dwyieithrwydd wrth gyflawni ein gwasanaethau ac yn ein gweithgareddau gweithredol - gan gynnwys mabwysiadu a gweithredu ein polisi Iaith Gymraeg.

» Cyhoeddi ein Llawlyfr Gwerth Cymdeithasol a rhannu ein taith a’r hyn rydyn ni wedi’i ddysgu gyda rhanddeiliaid a phob parti/unrhyw rai sydd â diddordeb.

» Rhannu gwybodaeth a chanfyddiadau ymchwil sy’n ymwneud â’n cenhadaeth a’n gweledigaeth gyda rhanddeiliaid perthnasol.

» Defnyddio ein rôl a’n cysylltiadau â rhanddeiliad i eirioli ar gyfer llesiant cymdeithasol, economaidd ac amgylcheddol (gan gynnwys y Gymraeg) i fod yn ystyriaethau canolog wrth ddarparu manteision rhanbarthol mewn prosiectau yn y dyfodol.

» Cymryd rôl arweiniol wrth gydlynu’r gwaith o ddarparu buddion a gweithio ar traws-sector ar draws y rhanbarth.

» Sefydlu trefniadau a mentrau cydweithio gyda sefydliadau allweddol rhanbarthol, ee Prifysgol Bangor.

Byddwn yn cadw at ‘Egwyddor Datblygu Cynaliadwy’ Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015, ac yn gweithio ochr yn ochr â phawb sy’n dilyn yr egwyddor hon yn gyfartal yn eu gwaith. Byddwn yn croesawu'r her, ac yn gofyn am gefnogaeth ein staff, ein rhanddeiliaid a’n cymunedau i sicrhau ein bod yn cynnal ffyrdd cadarnhaol o weithio’n barhaus.

» Parhau i hyrwyddo cyfathrebu dwyffordd gyda’n rhanddeiliaid a’n cymunedau, gan gydweithredu i nodi cyfleoedd ac atebion sy’n hyrwyddo llesiant pobl y rhanbarth.

CYNLLUN GWEITHREDU AMLINELLOL

2024/25: GWEITHIO GYDAG ERAILL

YMRWYMIAD

Byddwn yn cefnogi gwaith pawb sy’n rhannu ein gweledigaeth ac yn eu gwahodd i gefnogi ein gwaith.

Byddwn yn gweithio gyda phartneriaid lleol, rhanbarthol a chenedlaethol sy’n cynrychioli pob rhan o Ogledd Cymru.

Byddwn yn gweithio gyda phartneriaid yn y sector niwclear a thu hwnt, gan fuddsoddi mewn sylfeini cadarn ar gyfer pob dyfodol posibl.

GWEITHRED/OEDD

» Rhannu a defnyddio ein Llawlyfr Gwerth Cymdeithasol i ysgogi sgyrsiau am ein cenhadaeth, ein gweledigaeth a’n blaenoriaethau/cyfleoedd yn y dyfodol.

» Datblygu partneriaethau rhanbarthol traws-sector a mentrau cydweithredol ymhellach.

Byddwn yn ymgysylltu’n weithredol ag amrywiaeth eang o randdeiliaid, gan ofyn ‘sut gallwn ni helpu?’ a ‘sut gallwn ni weithio gyda’n gilydd?’ Byddwn yn datblygu perthynas â’r rheini sy’n cefnogi’r bobl sydd ar y cyrion, dan anfantais a heb gynrychiolaeth ddigonol er mwyn llywio a herio ein penderfyniadau.

» Cynnal astudiaeth i ddeall yn well gallu a chyfleoedd presennol a phosibl y gadwyn gyflenwi, yn ogystal â meysydd ar gyfer ymyrraeth a chefnogaeth yn y dyfodol.

» Gweithio gyda phartneriaid i gydgynhyrchu a hyrwyddo adnoddau a gweithgareddau allgymorth sydd wedi’u hanelu at wella ymwybyddiaeth/ dealltwriaeth y cyhoedd o ynni niwclear yn nghyd-destun y sector carbon isel ehangach, gan gynnwys cyfleoedd cyflogaeth posibl yn y dyfodol.

» Parhau i gefnogi prosiect allgymorth Egni STEM, ochr yn ochr â Chyngor Gwynedd ac M-SParc.

» Parhau i gymryd rhan ac ymgysylltu’n weithredol mewn fforymau, rhwydweithiau a digwyddiadau ar draws y rhanbarth, ee Bwa Niwclear Gogledd-orllewin Lloegr, Fforwm Niwclear Cymru, Cyngor Busnes Gogledd Cymru Mersi a’r Ddyfrdwy.

» Parhau i hyrwyddo cyfathrebu dwyffordd gyda’n rhanddeiliaid a’n cymunedau, gan gydweithredu i nodi cyfleoedd ac atebion sy’n hyrwyddo llesiant pobl y rhanbarth.

» Datblygu ein perthynas gyda sefydliadau’r trydydd sector ymhellach.

CYNLLUN GWEITHREDU

AMLINELLOL 2024/25: HYRWYDDO A CHEFNOGI’R RHANBARTH

YMRWYMIAD

Byddwn yn hyrwyddo mewnfuddsoddiad i Ogledd Cymru, yn y sector niwclear a thu hwnt.

GWEITHRED/OEDD

» Parhau i hyrwyddo Gogledd Cymru trwy ein negeseuon, ein cyfathrebu a'n sianeli ymgysylltu craidd.

» Hyrwyddo safbwynt a llais unedig ar draws y rhanbarth.

» Cefnogi mentrau sydd wedi ei hanelu at gadw a/neu denu doniau i Ogledd Cymru.

Byddwn yn cyflwyno’r achos dros fuddsoddiadau niwclear (a buddsoddiadau eraill) er mwyn sicrhau buddion ar draws y rhanbarth.

Byddwn yn hyrwyddo buddsoddiadau yn y seilwaith a’r sgiliau sylfaenol a all fod yn sail i sawl math o ddyfodol posibl.

» Hyrwyddo cyfleoedd i gwmnïau’r gadwyn gyflenwi o Gymru elwa o brosiectau niwclear newydd.

» Hyrwyddo cyfleoedd cyflogaeth rhanbarthol presennol ac yn y dyfodol (yn y sector niwclear a sectorau cysylltiedig).

» Hwyluso a hyrwyddo rhannu gwybodaeth a gweithio traws-sector.

» Nodi ymyraethau posibl (nawr ac yn y dyfodol) i gefnogi pobl a busnesau yng Ngogledd Cymru i elwa ar y cyfleoedd a ddaw yn sgil mewnfuddsoddiad.

» Gweithio gyda sefydliadau rhanbarthol i ddeall yn well y potensial ar gyfer meddylfryd a gweithio ar y cyd i wireddu buddion (ee ynghylch sgiliau a gweithgareddau allgymorth.)

» Hyrwyddo prosiect allgymorth Egni STEM, ochr yn ochr â Chyngor Gwynedd ac M-SParc.

Byddwn yn nodi ac yn datblygu mentrau ar y cyd â’n partneriaid, ac yn unol ag agendâu cymdeithasol, economaidd ac amgylcheddol rhanbarthol.

» Cymryd rôl arweiniol yn y gwaith o gyd-ddatblygu, dylunio a gweithredu mentrau gwerth cymdeithasol wedi’u targedu yn y rhanbarth.

ATODIAD B : DATBLYGU EIN DULL GWEITHREDU

SUT CAFODD Y GWAITH EI DDATBLYGU

Mae’r adran hon yn crynhoi’r gwaith blaenorol a wnaed i Gwmni Egino ynglŷn â gwerth cymdeithasol a sut y datblygwyd y ddogfen hon, yn cynnwys y fethodoleg a ddefnyddiwyd i’w chreu.

ASESIAD O ANGHENION LLEOL

A STRATEGAETH GWERTH CYMDEITHASOL

Cafodd Ove Arup & Partners (Arup) eu comisiynu i ddatblygu’r Dadansoddiad o Anghenion Lleol a’r strategaeth gwerth cymdeithasol ar gyfer safle Trawsfynydd. Roedd y Dadansoddiad o Anghenion Lleol yn canolbwyntio ar ardal awdurdod lleol Gwynedd, a darparu llinell sylfaen economaidd-gymdeithasol i ddeall anghenion lleol o safbwynt data meintiol. Roedd hefyd yn ceisio nodi rhanddeiliaid, nodi gweithgareddau gwerth cymdeithasol presennol a rhai wedi’u cynllunio a phartneriaid posibl, yn ogystal â deall cyd-destun polisi Cymru, y DU, yn rhanbarthol ac yn lleol. Cafodd astudiaethau achos eu casglu hefyd er mwyn deall sut oedd prosiectau eraill wedi mynd i’r afael â gwerth cymdeithasol yn y rhanbarth.

Cafodd Strategaeth Gwerth Cymdeithasol ei ddatblygu wedyn, gan ganolbwyntio ar ddarparu gwerth cymdeithasol trwy ddatblygu niwclear yn safle Trawsfynydd. Mae’n sefydlu maes dylanwad Cwmni Egino a’r ysgogiadau sydd ganddo i gyflawni gwerth cymdeithasol trwy gydol cylch bywyd y prosiect, a nodi wyth thema i ddangos meysydd cyfleoedd sy’n dod yn amlwg i Gwmni Egino ddylanwadu ar ganlyniadau gwerth cymdeithasol. Cafodd canlyniadau eu categoreiddio i fatrics blaenoriaethu, ar sail gallu Cwmni Egino i ddylanwadu a pherfformiad dangosyddion perthnasol, yn ogystal ag adborth gan randdeiliaid.

YMGYSYLLTU Â RHANDDEILIAID

Ar y cyd â gwaith Arup, cafodd dau weithdy â rhanddeiliaid lleol eu cynnal gan Lab Cydgynhyrchu Cymru i lywio’r Strategaeth Gwerth Cymdeithasol. Roedd y cyntaf yn cynnwys rhanddeiliaid allweddol o’r rhanbarth o’r sector preifat a’r sector cyhoeddus i brofi’r canlyniadau gwerth cymdeithasol a oedd yn dod yn amlwg. Roedd yr ail yn wahoddiad agored i aelodau’r Grŵp Llywio Dyfodol Gwledig i edrych ar beth ddylid cynnwys ym mlaenoriaethau Cwmni Egino yn gwaith parhaus o ddatblygu a chyflawni gwerth cymdeithasol.

ADOLYGIAD LLINELL SYLFAEN

Yn dilyn y gwaith blaenorol ynghylch gwerth cymdeithasol a oedd yn benodol i safle Trawsfynydd, cafodd Useful Projects ac Ynys Resources Cyf eu penodi ym mis Ionawr 2024 i roi cefnogaeth arbenigol i Gwmni Egino yn yr un ffrwd gwaith ond yn canolbwyntio yn hytrach ar ddaearyddiaeth ehangach Gogledd Cymru o ganlyniad i rôl Cwmni Egino a oedd o bosibl yn esblygu.

Yn gyntaf, cynhaliwyd adolygiad llinell sylfaen i ddeall cyd-destun economaidd-gymdeithasol ac amgylcheddol Gogledd Cymru, yn ogystal â’r polisi gwerth/ effaith cymdeithasol presennol a’r dirwedd mesuriad. Gwnaed hyn er mwyn sicrhau bod y Llawlyfr hwn yn mynd i’r afael ag anghenion cymunedau yng Ngogledd Cymru, yn cyd-fynd ag amcanion y sector cyhoeddus a sefydliadau eraill yng Nghymru, ac yn diogelu ein mentrau ein hunain i’w mesur at y dyfodol gan ddefnyddio TOMs Cymru.

Roedd yr adolygiad llinell sylfaen hwn yn cynnwys:

» Adolygu a dadansoddi anghenion lleol yng Ngogledd Cymru gan ddefnyddio’r ffynonellau canlynol:

» Dadansoddiad o Anghenion Lleol yng Ngwynedd (Arup, 2022)

» Asesiad Llesiant Ynys Môn (Bwrdd Gwasanaeth Cyhoeddus, 2022)

» Asesiad Llesiant Gwynedd (Bwrdd Gwasanaeth Cyhoeddus 2022)

» Asesiad o Lesiant Lleol: Conwy a Sir Ddinbych (Bwrdd Gwasanaeth Cyhoeddus, 2021)

» Adolygiad o Gynlluniau ac amcanion Llesiant rhanbarthol:

» Ynys Môn a Gwynedd (Bwrdd Gwasanaeth Cyhoeddus, 2023 – 2028)

» Conwy a Sir Ddinbych (Bwrdd Gwasanaeth Cyhoeddus, 2023 - 2028)

» Adolygiad o strategaethau sefydliadau eraill yn cynnwys:

» Adra

» Prifysgol Bangor

» Yr Awdurdod Datgomisiynu Niwclear

» Fforwm Gwerth Cymdeithasol

» Dŵr Cymru

» Heddlu Gogledd Cymru

» Trafnidiaeth Cymru

» Adolygiad o Ddeddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol yn cynnwys:

» 7 nod llesiant

» 5 ffordd o weithio

» Adolygiad o Themâu, Canlyniadau a Mesurau Cenedlaethol Cymru (TOMs)

» Adolygiad o Fwrdd Uchelgais Gogledd Cymru, wsy’n gyd-bwyllgor ac yn gorff sy’n gwneud penderfyniadau ac yn goruchwylio Bargen Twf y Gogledd - bargen twf economaidd rhanbarthol sydd â phum rhaglen yn cynnwys rhanbarth Gogledd Cymru ac yn cyd-fynd â’r Nodau Llesiant. Gwefan https://uchelgaisgogledd.cymru/

MAPIO EIN GWELEDIGAETH YN ERBYN TOMS CYMRU

IAITH A DIWYLLIANT CYMRU

» Mae diwylliant Cymru’n cael ei hyrwyddo.

ECONOMI

» Gwell sgiliau ar gyfer trosglwyddo i garbon isel

» Mwy o gyfleoedd i bobl dan anfantais

» Mwy o gyfleoedd i Fudiadau’r Trydydd Sector a Chymdeithas Sifil

» Gwell cyflogadwyedd i bobl ifanc (o dan 24 oed)

» Mwy o gefnogaeth i weithgareddau cwricwlwm wedi’i targedu

» Lleihau anghydraddoldebau

» Gwell sgiliau i bobl

» Mwy o bobl mewn gwaith

» Arloesi i gefnogi Cymru sy’n fwy ffyniannus

» Arloesi i gefnogi Cymru sy’n fwy cyfartal

» Gwerth cymdeithasol wedi’i wreiddio yn y gadwyn gyflenwi

» Mae bywyd gwyllt, natur a safleoedd treftadaeth yn cael eu gwarchod

POBL

» Creu cymuned iachach

» Gwella llesiant staff

» Gweithlu a diwylliant sy’n adlewyrchu amrywiaeth y gymuned leol

» Llai o droseddu

» Pobl sy’n agored i niwed yn cael cymorth i fyw’n annibynnol

» Cymorth i bobl ifanc dan anfantais a’u teuluoedd

» Mwy o weithio gyda’r Gymuned

» Gwaith teg

» Arloesi i gefnogi cymunedau sy’n fwy cydlynus yng Nghymru

» Arloesi i gefnogi Cymru iachach

» Caffael moesegol yn cael ei hyrwyddo yng Nghymru

» Caffael moesegol yn cael ei hyrwyddo’n fyd-eang

» Arloesedd i gefnogi diwylliant mwy byrlymus

LLE

» Hyrwyddo effeithlonrwydd adnoddau ac economi gylchol

» Lleihau allyriadau carbon

» Gwarchod a gwella mannau gwyrdd a bioamrywiaeth

» Diogelu’r amgylchedd

» Lleihau llygredd aer

» Arloesi i gefnogi Cymru sy’n fwy cydnerth

» Hyrwyddo caffael cynaliadwy

» Arloesi i gefnogi Cymru sy’n fwy cyfrifol ar lefel fyd-eang

CYD-DDYLUNIO GYDA CHWMNI EGINO A PHARTNERIAID

Roedd tîm Cwmni Egino yn rhan o gyd-ddyluniad y Llawlyfr hwn, gan gynnwys:

» Cyfweliadau gyda phob aelod o dîm Cwmni Egino i ddeall y sefydliad, y cyd-destun datblygu niwclear yng Ngogledd Cymru, a’r dyheadau o ran effaith.

» Gweithdai gyda thîm Cwmni Egino a phartneriaid perthnasol (Ymgynghorwyr y Gymraeg ac Ymgysylltu)

» Gweithdy 1: adolygu’r llinell sylfaen ac edrych ar fframweithiau strategol

» Gweithdy 2: cytuno ar genhadaeth, themâu ac egwyddorion.

cwmniegino.wales

gwybodaeth@cwmniegino.wales

Turn static files into dynamic content formats.

Create a flipbook
Issuu converts static files into: digital portfolios, online yearbooks, online catalogs, digital photo albums and more. Sign up and create your flipbook.