Trin Tai - Cartrefi Cymunedol Cymru, Awst 2011

Page 4

Gwirfoddolwyr ifanc yn helpu yn Raffles: Cymdeithas Tai Clwyd Alyn Bu grŵp o wirfoddolwyr o gynllun Byw â Chymorth ar gyfer pobl ifanc ddigartref yn helpu i adnewyddu cegin fel y gall clwb cinio newydd ar gyfer pobl hŷn agor yng Nghlwb Raffles (RAFA) yn Wrexham. Mae Cyngor Cymuned Offa yn brysur yn sefydlu clwb cinio yn y safle fel y gall pobl hŷn fynd draw am bryd poeth, a phan oeddent angen help i adnewyddu’r gegin, cynigiodd preswylwyr o gynllun Hurst Newton a gaiff ei redeg gan Gymdeithas Tai Clwyd Alyn helpu. ‘Roeddem yn wirioneddol falch y gofynnwyd i ni helpu. Mae gan y preswylwyr yma lawer o barch ar gyfer pobl hŷn,’ meddai Fiona, uwch Swyddog Prosiect Hurst Newton.

Y cyntaf i Gymru gyda datblygiad ‘lego enfawr’ yng Ngheredigion: CT Cantref Mae’r gwaith adeiladu wedi dechrau ar gynllun tai gwyrdd newydd £250,000 yng Ngheredigion. Datblygwyd y cynllun gan Gymdeithas Tai Cartref, ac ef yw’r cynllun tai cyntaf yng Nghymru fydd yn cyrraedd Lefel 3 y Cod Cartrefi Cymunedol yn defnyddio system chwyldroadol ffurfio waliau rhyng-gloi. Wedi’i gwneud o 80% coed eilgylch, caiff y blociau Durisol eu slotio at ei giliydd mewn proses stac sych i roi strwythur cryf, cadarn, yn gwrthsefyll tân ar 1,100o Canradd ac yn cynnig amrywiaeth o fanteision cynaliadwy. Dywedodd Gareth Thomas, Rheolwr Datblygu: ‘Unwaith y bydd wedi’i orffen, mae’r strwythur yn gwella perfformiad thermol y cartref gan ostwng gofynion ynni, sy’n helpu perchennog y cartref i fwynhau biliau tanwydd is a thymheredd ystafell cysurus drwy’r flwyddyn. Hefyd, wnaiff y blociau ddim pydru na llosgi, gan eu gwneud yn ddewis diogel a chynaliadwy. Caiff y cartrefi newydd eu hadeiladu i’r safon Cartrefi Gydol Oes sy’n sicrhau y byddant yn parhau i gyflawni anghenion tenantiaid wrth iddynt heneiddio, gan eu helpu i barhau’n annibynnol.

Trin Tai Awst 2011

Tai Gogledd Cymru – ailgylchu olion gŵyl Treuliodd staff a defnyddwyr gwasanaeth o hostel Tai Gogledd Cymru i’r digartref ym Mangor ddiwrnod cynhyrchiol yn hel pebyll, offer gwersylla a dillad a gafodd eu gadael ar ôl gan bobl a fu yng ngŵyl Wakestock. Yn dilyn gwahoddiad gan drefnwyr y digwyddiad, casglodd y grŵp dros 100 o bebyll, 47 sach gysgu, 54 gwely gwynt, 51 cadair gwersylla, 45 o fatiau rholio, 17 pâr o wellingtons ac wyth gobennydd! Caiff eu heitemau eu dosbarthu i bobl ddigartref sy’n cysgu allan yn ardal Bangor. Rhennir eitemau hefyd gyda thîm Tai â Chymorth Gwasgaredig Gwynedd, hosteli lleol a chanolfannau dydd a’r ganolfan galw heibio i’r digartref. Dywedodd Lynne Evans o Gymdeithas Tai Gogledd Cymru: ‘Mae digartrefedd yn broblem fawr ym Mangor. Mae gwasanaethau fel ein rhai ni yn cael sialens barhaus i ddod o hyd i gyllid ac adnoddau i roi’r cymorth mae’r bobl hyn ei angen. Hoffem ddweud ddiolch yn fawr iawn i drefnwyr Wakestock a roddodd y cyfle gwych yma i ni a medrwn eu sicrhau y gwneir defnydd da o’r holl eitemau.’


Issuu converts static files into: digital portfolios, online yearbooks, online catalogs, digital photo albums and more. Sign up and create your flipbook.