Trin Tai - Awst 2012

Page 1

Trin Tai Awst 2012 Cyhoeddir ‘Trin Tai’ bob mis i roi sylw i waith ardderchog aelodau mewn amrywiaeth eang o ardaloedd gwahanol. Os oes gennych unrhyw straeon yr hoffech eu cynnwys yn y rhifyn nesaf, anfonwch hwy at bethan-samuel@chcymru.org.uk os gwelwch yn dda. Caiff yr holl straeon a dderbynnir hefyd eu rhoi ar wefan CHC.

Adeiladu gyrfaoedd o sgrap Mae cenhedlaeth newydd o ddarpar blymwyr yn derbyn profiad ymarferol diolch i Cartrefi RCT, yr arbenigwyr plymio a gwresogi Bouchard a Jones, a Choleg Morgannwg. Gyda dros 10,000 o gartrefi, mae Cartrefi RCT yn diweddaru cartrefi tenantiaid gyda chelfi ystafell ymolchi, systemau gwresogi a cheginau. Mae’r contractwr Bouchard a Jones, a fyddai’n flaenorol wedi mynd â hen foeleri i iardiau metel sgrap, yn awr yn cymryd rhan yn y cynllun cyntaf o’i fath gyda Cartrefi RCT. Caiff hen gelfi ystafell ymolchi, rhannau a boeleri yn awr eu cyfrannu i Goleg Morgannwg i gefnogi’r adran plymio. Mae myfyrwyr yn y Ganolfan Plymio yn treulio dwy flynedd yn dysgu’r sgiliau a’r wybodaeth i ganfod cyflogaeth. Byddant yn awr yn gallu defnyddio’r deunyddiau a gyfrannwyd gan Cartrefi RCT a Bouchard a Jones i ennill profiad hanfodol. Dywedodd David Carr, Asesydd/Arholydd yng Ngholeg Morgannwg, ‘Gallai gostio hyd at £400 i ni brynu dim ond un boeler ac ni aiff hyn ymhell mewn dosbarth mawr. Bydd myfyrwyr yn defnyddio’r offer a gawn i ganfod namau a maes o law bydd myfyrwyr yn trwsio eitemau i’w cael i weithio eto.’

Gwalia yn rhoi chwarae yn gyntaf Mae Grŵp Gwalia wedi cyhoeddi cyllid ar gyfer Swyddog Datblygu Chwarae i wella cyfleoedd chwarae mewn cymunedau lleol. Mewn partneriaeth gydag elusen Play Right, mae Gwalia yn lansio cynllun ‘Cymunedau Chwareus’ i wella llesiant a meithrin ymdeimlad cryfach o ysbryd cymunedol. Cyflogwyd Tori Wright, Swyddog Datblygu Chwarae, i weithio gyda phlant a phobl ifanc sy’n byw yng nghartrefi Gwalia a’r ardaloedd o amgylch. Bydd Cymunedau Chwareus yn rhoi cyfleoedd ar gyfer plant ac oedolion. Bydd llong morladron Play Right yn ymweld â chymunedau drwy gydol yr haf, gan gynnig cyfle i blant ddod at ei gilydd a chwarae’n ddiogel yn yr awyr agored. Bydd y prosiect hefyd yn cefnogi oedolion i ddatblygu cyfleoedd chwarae yn eu hardal. Dywedodd Lesley Penn, Cyfarwyddydd Gweithredol Tai a Lles Cymunedol Gwalia: ‘Buom yn gweithio gyda Play Right ar brosiectau megis cynlluniau chwarae haf llong morladron am nifer o flynyddoedd a bu’n llwyddiant enfawr. Gobeithiwn y bydd ariannu swyddog datblygu chwaraeon yn helpu i ateb anghenion datblygiadol plant a phobl ifanc gan arwain at wella eu llesiant.’


Llwyddiant yn blodeuo Mae defnyddwyr gwasanaeth hostel digartref Noddfa (Tai Gogledd Cymru) ym Mae Colwyn wedi trawsnewid eu gardd gefn i fod yn werddon o flodau, planhigion, ffrwythau a llysiau ac wedi rhoi cynnig yng nghystadleuaeth Colwyn yn ei Flodau i ddangos eu hymdrechion. Bu’r tîm yn cydweithio i drawsnewid hen iard wag yn defnyddio deunyddiau, bylbiau ac offer a gyfrannwyd. Gwelodd haf eleni’r cnwd cyntaf o letys, nionod, tomatos a chillies, a ddaeth yn rhan o ddiet haf Noddfa! Dywedodd Geoff Baldwin o hostel Noddfa, ‘Bu hwn yn gynllun hirdymor y mae llawer o’n defnyddwyr gwasanaeth wedi cymryd rhan ynddo o’r dechrau cyntaf. Mae’n wych gweld eu gwaith caled, ymdrechion a brwdfrydedd yn arwain at ein cnwd cyntaf a daeth y cynnyrch yn rhan o’n prydau bwyd bob dydd. Rydym yn croesi’n bysedd ar gyfer y gystadleuaeth ond rydym yn teimlo ein bod wedi ennill eisoes!’

Tenantiaid Cartrefi NPT yn gallu talu rhent drwy ffonau deallus Gall tenantiaid Cartrefi NPT a fu’n talu eu rhent yn defnyddio cardiau Allpay yn awr dalu eu rhent ar ffonau deallus drwy lawrlwytho’r ap Allpay newydd. Gall tenantiaid sydd eisoes wedi derbyn cardiau talu Allpay wneud taliadau i’w cyfrif ar wefan ddiogel Allpay 24 awr y dydd 365 diwrnod y flwyddyn dros y ffôn, mewn unrhyw Swyddfa’r Post neu yn un o’r 82 stôr ym mhob rhan o’r Fwrdeistref sy’n cynnig gwasanaeth PayPoint. Mae’r ap yn galluogi tenantiaid i dalu eu rhent yn rhwydd, lle bynnag y maent, drwy wneud dim ond cyffwrdd botwm. Ymhellach, unwaith y maent wedi mewngofnodi i’w cyfrif, gallant gadw holl gyfeirnodau talu, manylion cardiau banc a symiau talu yn ddiogel fel nad yw’n rhaid eu rhoi i mewn bob tro.

Trin Tai Awst 2012

Prosiect Tai Wales & West i ddarparu 150 o gartrefi yn Wrecsam Mae’r gwaith wedi dechrau ar brosiect £17m gan Tai Wales & West i ddarparu hyd at 150 o gartrefi fforddiadwy yn Wrecsam. Ymwelodd Huw Lewis AC, Gweinidog Tai, Adfywio a Threftadaeth, â’r safle i weld sut mae’r gwaith yn mynd rhagddo. Fel rhan o’r datblygiad caiff 92 o gartrefi a fflatiau fforddiadwy eu hadeiladu yn safle Ffordd Kingsmill a chaiff hen safle’r gwaith nwy ar Ffordd Rivulet ei ailddatblygu gan adeiladu 55 o gartrefi. Bydd pob cartref yn cyrraedd lefel 4 y Cod Cartrefi Cynaliadwy, yn cynnwys lefelau uchel o insiwleiddiad a phaneli ffotofoltaig i ostwng cost trydan i breswylwyr. ‘Rwy’n falch fod Llywodraeth Cymru wedi medru cefnogi datblygu’r cynllun yma gyda £5.4m o’r rhaglen Grant Tai Cymdeithasol,’ meddai’r Gweinidog. ‘Mae’r cynllun yn enghraifft ardderchog o weithio partneriaeth, gyda nifer o wahanol sefydliadau (Llywodraeth Cymru, Tai Wales & West, Cyngor Wrecsam, Cymunedau yn Gyntaf Hightown a Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr) i gyd yn cydweithio. Dyma’n union y math o ddatblygiad yr ydym ei angen yng Nghymru i sicrhau ein bod yn darparu cartrefi fforddiadwy boddhaol i bobl sy’n cyflawni eu hanghenion’. Dywedodd Anne Hinchey, Prif Weithredydd Tai Wales & West: ‘Drwy weithio mewn partneriaeth gyda Chyngor Wrecsam a’r contractwr lleol Anwyl, bydd Wales & West yn helpu’r economi lleol drwy ddefnyddio cadwyni cyflenwi lleol a darparu cyfleoedd cyflogaeth a hyfforddiant ar gyfer pobl leol.’ Bydd preswylwyr yn manteisio o’r cyfleusterau cymunedol fydd yn cynnig neuadd gweithgaredd, ystafelloedd cyfarfod a chegin. Caiff canolfan adnoddau meddygol ei hadeiladu hefyd, a fydd yn darparu tair ystafell ymgynghori ac ardal driniaeth. Mae’r prosiect i gael ei gwblhau erbyn Hydref 2013 a denodd digwyddiad ‘Cwrdd â’r Contractwr’ yn Wrecsam ddiddordeb gan fusnesau lleol. Mae Wales & West yn awr yn gweithio gyda Anwyl i ddatblygu cyflogaeth a chyfleoedd hyfforddiant ar gyfer y gymuned leol.


Trosglwyddo Allweddi i Feddygfa Newydd yn Llanrwst Cafodd meddygfa newydd bwrpasol ei chwblhau yn Hafan Gwydir yn Llanrwst yn cynnig cyfleusterau o’r math diweddaraf drws nesaf at ganolfan integredig iechyd a gofal cymdeithasol Canolfan Crwst. Cafodd y feddygfa newydd ei datblygu a’i i hariannu gan Grŵp Tai Pennaf. Mae’r feddygfa wedi ei lleoli o fewn hen safle Ysgol Dyffryn Colwyn a chafodd ei hadeiladu gan y contractwyr lleol Anwyl. Cymdeithas Tai Clwyd Alyn, rhan o Grŵp Tai Pennaf, fydd perchennog yr adeilad. Mae’r feddygfa newydd yn cynnwys pum ystafell ymgynghori ar gyfer meddygon a dwy ystafell ymgynghori ar gyfer nyrsys, ynghyd â gofod swyddfa cyffredinol, ystafelloedd triniaeth, ystafelloedd hyfforddiant a phrif ardal derbynfa. Mae Meddygfa Gwydir yn agos at Gynllun Gofal Ychwanegol Hafan Gwydir lle mae caffe cymunedol ar agor i’r cyhoedd bob dydd.

Hwyl i bawb yn niwrnod hwyl a CCB Bro Myrddin Cafodd preswylwyr Bro Myrddin a’u teuluoedd ddiwrnod i’r brenin ym mis Gorffennaf yn Ysgol y Frenhines Elizabeth, Caerfyrddin. Roedd cyfoeth o wybodaeth a chyngor ymarferol ar gael gan sefydliadau ar stondinau ac mewn ystafelloedd a neilltuwyd ar gyfer gweithdai ac arddangosiadau. Roedd Peppa Pig yn atyniad mawr i’r plant yn ystod y bore - roedd rhai aelodau o’r staff hefyd wedi cynhyrfu’n lân fod rhywun mor enwog yn y digwyddiad! Cafwyd adloniant gan Radio Sir Gâr gyda darlledu byw a cherddoriaeth. Cafodd preswylwyr a staff gyfle i roi eu barn am y digwyddiad yn fyw ar yr awyr. Cynhaliwyd gweithdai ar gynhwysiant ariannol gan Moneyline Cymru ac ar atal tân yn y cartref gan Adran Tân Canolbarth a Gorllewin Cymru. Roedd yr arddangosiadau’n cynnwys coginio ar gyllideb, peintio ac addurno, garddio ac iechyd a lles. Wedi’i gynnal yn yr ysgol ar yr un diwrnod, bu cyfarfod cyffredinol blynyddol Bro Myrddin yn llwyddiannus iawn gyda llawer o breswylwyr yn bresennol ac yn dangos eu cefnogaeth.

Trin Tai Awst 2012 Dyfarniad dwbl i Gymdeithas Tai Cantref Dathlodd Cymdeithas Tai Cantref noswaith lwyddiannus iawn yng Ngwobrau Blynyddol TPAS Cymru drwy ennill dwy wobr. Trechodd Cartref gystadleuaeth galed i ennill dau o’r deg categori - Gwobr Val Feld am Gyfathrebu Gorau mewn Tai yng Nghymru a’r Wobr Cydweithiwr Ysbrydoledig. Enillodd Cantref y wobr am Gyfathrebu mewn Tai am gynhyrchu fideos Youtube dwyieithog yn rhoi gwybodaeth i denantiaid ar sut i ddefnyddio technoleg yn eu cartrefi i reoli defnydd ynni. Enillodd Rhiannon Ling, Swyddog Adfywio Cymunedol, y wobr am ‘Gydweithiwr Ysbrydoledig’ am ei gwaith yn creu cymunedau cynaliadwy. Mae ei chynlluniau cymunedol ar y stadau yn cynnwys cyflwyno sesiynau chwarae strwythuredig i greu gweithgareddau amgen i helpu gostwng ymddygiad gwrthgymdeithasol a darpariaeth ardaloedd chwarae. Mae hefyd wedi helpu i sefydlu cyfranogiad tenantiaid o fewn Cantref drwy gyflwyno gweithdai celf. Enillodd Rhonda Hughes, 18 oed sy’n byw yng nghynllun Cantref yn Aberystwyth ar gyfer pobl ifanc yn gadael cartref, y trydydd lle yng Ngwobr Tenant Ifanc o’r Flwyddyn. Mae Rhonda wedi wynebu llawer o heriau yn ei bywyd ond drwy rym penderfyniad, mae wedi llwyddo i droi pethau o amgylch. Mae’n awr yn weithwraig gwirfoddol yn darparu cymorth a chyngor cyfoedion i eraill yn y cynllun. Dywedodd Lynne Sacale, Prif Weithredydd: ‘Rydym wrth ein bodd i ennill y gwobrau hyn yn y seremoni bwysig hon. Mae’n dyst o waith caled ac ymrwymiad y tîm ein bod wedi gwneud cystal.’ Dywedodd John Drysdale, Cyfarwyddydd TPAS Cymru, ‘Dyma wobrau ‘Oscar’ ein diwydiant, ac maent yn dathlu’r llwyddiannau’r rhai sy’n cymryd rhan a hefyd yn ein galluogi i rannu arfer da a dysgu o bob rhan o Gymru.’


Preswylwyr Melin y cyntaf i fanteisio o’r cynllun gwyrdd diweddaraf Cherrie Haines, un o breswylwyr Melin, a’i theulu ifanc fydd un o’r aelwydydd cyntaf yn Nhorfaen i fanteisio o gynllun Powering Up Cymunedau yn Gyntaf. Bydd y cynllun gwyrdd newydd yn helpu aelwydydd ar incwm isel i arbed arian drwy roi cyngor a gwybodaeth ar effeithiolrwydd ynni. Nod y cynllun yw helpu teuluoedd i newid eu harferion drwy newid bylbiau golau am rai ynni isel, troi offer i ffwrdd a newid cyflenwyr ynni ac ati. Mae’r prosiect yn hyrwyddo ‘ymagwedd tŷ cyfan’ a bydd yn sicrhau y caiff pobl fel Cherrie gefnogaeth un i un i’w helpu i wneud arbedion ariannol hollbwysig. Cefnogir y prosiect gan Lywodraeth Cymru a’r Gronfa Gymdeithasol Ewropeaidd ac fe’i cynhelir gan Cartrefi Melin. Bydd Melin yn gweithio mewn partneriaeth gyda Cymunedau yn Gyntaf, Cyngor Bwrdeistref Sirol Torfaen a Tai Cymunedol Bron Afon. Roedd Cherrie, sy’n byw yng Ngarndiffaith, yn un o’r cyntaf i gael ei dethol ar gyfer y cynllun, a bydd aelod o dîm Powering Up yn ymweld â hi i’w helpu gyda chyngor ar arbed arian. Gosodwyd paneli solar ar do cartref Cherrie fel rhan o’r cynllun. Dywedodd Allison Cawley, Rheolydd Prosiect Powering Up Cymunedau yn Gyntaf, ‘Mae hwn yn gynllun newydd gwych. Bydd yn cefnogi aelwydydd ar incwm isel a hefyd yn gweithio o fewn y gymuned i ddangos i ddeiliaid tai sut y gall gwneud newidiadau bach i’w hymddygiad helpu i ostwng faint o ynni a ddefnyddiant - rhoi punnoedd yn eu pocedi yn ogystal ag achub y blaned.’

Trin Tai Awst 2012

Dathliad 40 mlynedd i Cadwyn! Bu Cymdeithas Tai Cadwyn yn dathlu ei phen-blwydd yn 40 oed gyda CCB a Diwrnod Agored llawn hwyl. Roedd sesiynau cerddoriaeth, yoga, arddangosiadau cinio ac ymweliad gan Darren Campbell, sydd â medal aur Olympaidd, ymhlith y gweithgareddau oedd ar gael. Cafodd plant eu diddanu gyda bws chwarae, peintio wynebau, celf a chrefft a sgiliau syrcas. Dechreuodd y prynhawn gydag araith ysbrydoledig gan Darren Campbell a stori sut yr aeth o fod yn fachgen ifanc ar stad gyngor i ennill medal aur Olympaidd. Manteisiodd Cadwyn ar y cyfle i hyrwyddo’r gwasanaethau a gynigir yn y gymuned leol yn cynnwys y gydweithfa fwyd, y rhaglen llythrennedd plant Llyfrgell Dychymyg a chyfleoedd gyrfa a hyfforddiant. Cafwyd adborth cadarnhaol i’r digwyddiad gyda gwesteion yn dweud fod y diwrnod wedi’i drefnu’n dda a chymaint y gwnaethant ei fwynhau. Dywedodd Nichola Williams, tenant i Cadwyn: ‘Doeddwn i ddim yn sylweddoli faint o waith mae Cadwyn yn ei roi mewn prosiectau menter gymdeithasol. Roeddwn i’n meddwl mai dim ond darparu llety yr oedd cymdeithasau tai ond mae’n glir o heddiw fod Cadwyn yn gymaint mwy na hynny. Rwy’n falch i fod yn denant i sefydliad sy’n rhoi cymaint yn ôl i’r gymuned leol. Da iawn chi!’ Dywedodd Chris O’Meara, Prif Weithredydd Cadwyn: ‘Rydym wrth ein bodd i fod wedi cyrraedd y garreg filltir 40 oed ac roedd y Diwrnod Agored yn ffordd berffaith i ddathlu! Yn y 40 mlynedd diwethaf rydym wedi tyfu o ddim ond 5 aelod o staff ac 80 cartref i 100 o staff a thros 1,000 o gartrefi. Roedd y Diwrnod Agored yn ffordd wych o ddangos ein gweithgareddau amrywiol a dathlu’r hyn yr ydym wedi’i gyflawni dros y 40 mlynedd ddiwethaf.’


Issuu converts static files into: digital portfolios, online yearbooks, online catalogs, digital photo albums and more. Sign up and create your flipbook.