Trin Tai - Cartrefi Cymunedol Cymru, Awst 2011

Page 1

Trin Tai Awst 2011 Croeso i rifyn cyntaf ‘Trin Tai’! Cyhoeddir ‘Trin Tai’ bob mis i roi sylw i waith ardderchog aelodau mewn amrywiaeth eang o wahanol feysydd. Os oes gennych unrhyw straeon yr hoffech eu cynnwys yn y rhifyn nesaf, anfonwch hwy at bethan-samuel@chcymru.org.uk os gwelwch yn dda. Caiff pob stori a dderbynnir hefyd ei dodi ar wefan Cartrefi Cymunedol.

Er mwyn y plant: Cartrefi RhCT Mae Cartrefi RhCT yn gweithredu ym Mhenywaun i fynd i’r afael â phryderon am ymddygiad gwrthgymdeithasol. Unodd Cartrefi RhCT gyda sefydliadau lleol i greu ‘grŵp gweithredu Penywaun’ i roi diwedd ar yr ymddygiad. Fe wnaethant gynnal arolwg oedd yn dangos fod ymatebwyr eisiau mwy o weithgareddau ar gyfer pobl ifanc a gwell presenoldeb gan yr heddlu. Trefnodd y grŵp ddiwrnod hwyl diogelwch cymunedol lle’r oedd cloeon beiciau a chyfarpar diogelwch ar gael, a thalu am offer diogelwch newydd i’r heddlu a arweiniodd at fwy o bresenoldeb yr heddlu ar y stad. Dywedodd Maria Griffiths, tenant a gweithwraig ieuenctid: ‘Mae’r gwelliannau ar gyfer y rhai sy’n byw ym Mhenywaun eisoes yn amlwg. Mae pobl yn ymfalchïo mwy yn eu hardal ac mae’r gweithredu’n golygu fod lefelau ymddygiad gwrthgymdeithasol yn gostwng. Mae pethau’n bendant yn edrych yn well ym Mhenywaun!’

Grŵp Tenantiaid yn ymgyfarwyddo gyda’r dechnoleg ddiweddaraf: Tai Ceredigion Mae preswylwyr Cynllun Tai Gwarchod Maes Gogerddan yn Aberystwyth wedi ennill grant gan y Gronfa Loteri Fawr i’w fuddsoddi mewn technoleg ddigidol newydd. Maent wedi cael set deledu digidol sgrîn lydan 50” yn lle’r hen deledu yn y lolfa ynghyd â chyfrifiadur sgrin gyffwrdd gyda chwyddwr ac argraffydd. Rhoddodd Tai Ceredigion Nintendo Wii a chysylltiad band eang. Dywedodd Steve Jones, Prif Weithredydd Tai Ceredigion, ‘Mae hwn yn amser cyffrous iawn, gan mai dyma ran gyntaf ein strategaeth ddigidol ar gyfer ein cynlluniau tai gwarchod. Mae’n hollbwysig fod gwasanaethau digidol ar gael i’n tenantiaid gan fod hyn yn agor sianeli cyfathrebu newydd, gwasanaethau cyhoeddus ac arbedion. Mae’n gyfleus ac yn rhoi mynediad i denantiaid i wasanaethau rhyngweithiol gan Tai Ceredigion. Byddwn yn annog cyfarfodydd grwpiau sgiliau o wahanol genedlaethau, lle gall pobl ifanc a phlant ysgol helpu ein preswylwyr i ddod i arfer gyda’u cyfrifiaduron a’u consolau gemau newydd. Medrant rannu a chymharu profiadau a chwalu’r rhwystrau rhwng y cenedlaethau a dangos y camau sylfaenol iddynt.’


Taith Ffrainc!: CT Newydd

Trin Tai Awst 2011

Mae Paul Roberts, Prif Weithredydd CT Newydd, yn bwriadu beicio o Gaerdydd i Baris. ‘Cafodd y Tour de France ei gynnal yn ddiweddar ac rwy’n awr yn hyfforddi ar gyfer fy Nhaith Ffrainc fy hunan. Rhwng 21 a 24 Medi 2011, bydd grŵp yn mynd ar eu beiciau o Gaerdydd i Baris. Bydd yr arian a godwn yn cefnogi gwaith gwerthfawr tu hwnt Shelter Cymru. ‘Os nad oedd y daith feic ei hunan yn ddigon o her i’r beiciwr 50-rhywbeth yma, mae’r dasg o godi’r isafswm o £1500 yn sicr yn sialens. Dyma pam fy mod yn dibynnu ar eich help a’ch haelioni i fy helpu i gyrraedd y targed fel y gallaf ganolbwyntio ar gadw ar y sedd a phedalu.’ Medrir gwneud cyfraniadau ar-lein yn: http://bit.ly.olhOeq Gofynnir i noddwyr gysylltu â: paul.roberts@newydd.co.uk Meddai Paul, ‘Cofiwch fod hwn yn gyfle gwych i’ch cwmni i gael sylw gan y byddaf ar y ffordd yn hwy na beicwyr eraill! Llawer o ddiolch ymlaen llaw am eich haelioni - nawr lle mae fy nghlipiau beic?’

Cartrefi Dinas Casnewydd yn sicrhau £50,000 mewn Budd-dal Tai wedi’i ôl-ddyddio Mae tîm Cynhwysiant Ariannol Cartrefi Dinas Casnewydd wedi sicrhau gwerth £50,000 o fudddal tai wedi’i ôl-ddyddio ar gyfer o’u preswylwyr ers sefydlu’r tîm yn Ionawr 2010. Manteisiodd 60 o breswylwyr o’r gwasanaeth, gan helpu i ostwng neu glirio ôl-ddyledion rhent ac mewn rhai achosion osgoi gweithredu i droi pobl o’u cartrefi. Sefydlwyd y tîm fel rhan o’r addewidion a roddwyd i breswylwyr yn y cyfnod cyn-trosglwyddo ac mae’n rhoi cefnogaeth a chyngor ar amrywiaeth o faterion ariannol. Mae’r tîm hefyd wedi cyflwyno gweithdai ar gyfer preswylwyr gyda’r nod o roi cyngor a chefnogaeth fanwl ar faterion arian.

Cyfeillion cu gyda bysedd gwyrdd: Tai Siarter Mae tenantiaid hŷn Tai Siarter wdi mwynhau dod yn ffrindiau cu i fyfyrwyr ysgol yng Nghasnewydd. Daeth plant o Ysgol Gynradd Maesglas a phreswylwyr o Tŷ Stratford, cynllun ymddeol a gaiff ei redeg gan Siarter, ynghyd ar y prosiect Cyfeillion Cu, lle buont yn garddio a chyfnewid profiadau o blentyndod. Nod y prosiect chwe wythnos hwn yw annog dealltwriaeth rhwng pobl ifanc a’r henoed. Fe helpodd y disgyblion y preswylwyr i baratoi eu gerddi cymunedol ar gyfer cystadleuaeth Casnewydd yn ei Blodau a mwynhau sgyrsiau am faterion iechyd, ymarfer, cof a hanes. ‘Roedd y plant yn awyddus iawn i ddysgu ac roeddent yn edrych fel eu bod yn mwynhau ein cwmni,’ meddai Gladys Stone, 81 oed sy’n byw yn Nhŷ Stratford. ‘Rydym yn ddiolchgar am eu help yn plannu ac wedi gofyn iddynt i gael diolch am eu gwaith.’ Dywedodd Luke Underwood, disgybl 11 oed ‘Fe wnes i fwynhau Cyfeillion Cu oherwydd mae’r hen bobl yn annwyl a hyfryd ac maent yn hoffi ein cael o’n cwmpas. Rwyf wedi dysgu nad yw hen bobl yn ddiflas – maent wrth eu bodd yn gwneud llawer o bethau a chadw’n brysur. Rwy’n gobeithio eu bod hwythau’n meddwl ein bod ni’n annwyl hefyd.’


Un o sefydlwyr Cymdeithas Tai Clwyd yn dychwelyd i’w wreiddiau Roedd Rhys Dafis, sydd newydd ei benodi’n Gyfarwyddwr Eiddo Cymdeithas Tai Clwyd, yn ymwneud â sefydlu ‘r gymdeithas tai dros 30 mlynedd yn ôl. Dechreuodd ar ei swydd newydd ym mis Ebrill 2011, ar ôl dychwelyd i’r gogledd ar ôl bron 30 mlynedd. Mae wrth ei fodd i fod yn ôl ‘“Dw i wedi bod yn hynod lwcus i dderbyn y swydd hon, a dwi wrth fy modd cael bod nôl yma yn gweithio i sefydliad sydd wedi gwneud cymaint dros yr ardal leol. Mi sefydlwyd Tai Clwyd yn y saithdegau pan roedd galw mawr am dai fforddiadwy yn lleol. Er bod y Gymdeithas wedi darparu dros 1800 o gartrefi ers hynny, mae’r angen am dai yr un mor anghenus heddiw. Mewn ffordd dwi’n parhau gyda’r hyn y cychwynnais i dros 30 mlynedd yn ôl, ac mae’n sialens gyffrous iawn! Mae mwy a mwy o bobl yn ei chael yn anodd prynu eu cartref cyntaf. Bydd hyn yn sicr yn rhoi mwy o bwyslais a galw ar dai cymdeithasol a thai fforddiadwy ar adeg pan fo tai’n wynebu gostyngiad sylweddol mewn grant dros o leiaf y 3 blynedd nesaf - bydd hyn yn her fawr arall i ni, wrth i ni gydbwyso buddsoddiad a phrosiectau newydd gyda chyllideb sy’n gostwng.’

Gwirfoddolwyr o Nepal: Tai Cymunedol Bron Afon Mae Tai Cymunedol Bron Afon yn cynnal prosiect a ariannir gan y loteri i annog pobl i wirfoddoli yn ei 39 cynllun tai ymddeol ac mae 36 o’r gymuned Nepalaidd yn Nhorfaen yn cymryd rhan. Mae gan bob un o’r grŵp gysylltiadau gyda chyn Gurkhas a symudodd i Gymru yn dilyn eu gwasanaeth yn y fyddin. Caiff y prosiect ei redeg gan Rachel a Lukasz, cydlynwyr gwirfoddolwyr Bron Afon. Dywedodd Rachel: ‘Rydym yn edrych am wirfoddolwyr i helpu preswylwyr dros 55 oed gyda phethau fel tripiau siopa neu sgwrs gyfeillgar os ydynt yn unig. Gall gwirfoddolwyr ddysgu sgiliau newydd a medrwn eu helpu i gael lle ar gyrsiau hyfforddi. Dros y ddwy flynedd nesaf anelwn recriwtio 200 o wirfoddolwyr a helpu 50 o bobl i gael hyfforddiant a chyflogaeth. Ychwanegodd Lukasz: ‘Bu’r ymateb gan y gymuned Nepalaidd yn rhyfeddol’.

Trin Tai Awst 2011 Pobl leol i gael blaenoriaeth am dai: Cymdeithas Tai Canolbarth Cymru Mae cynlluniau gan Gymdeithas Tai Canolbarth Cymru i roi blaenoriaeth i bobl leol ar gyfer ei chartrefi wedi derbyn llawer iawn o gefnogaeth yn lleol, yn ogystal â chymeradwyaeth ddealledig gan Lywodraeth Cymru. Cododd Cymdeithas Tai Canolbarth Cymru y mater yma am y tro cyntaf yn Rhagfyr 2010 pan lansiodd ymgynghoriad gyda’r nod o ysgogi trafodaeth ar sut y dylid dyrannu tai fforddiadwy. Mae wedi cyhoeddi canlyniadau’r ymgynghoriad ar www.midwales.ha.co.uk . Roedd 63% o’r ymatebion yn cefnogi cynigion y Gymdeithas i roi blaenoriaeth i bobl leol a/neu ymgeiswyr a fyddai’n cael effaith gadarnhaol ar y gymuned leol, megis rhai gyda hanes o gyflogaeth neu o waith gwirfoddol. Dywedodd Shane Perkins, Prif Weithredydd, ‘Rydym wedi dod yn gynyddol bryderus fod dulliau traddodiadol yn aml yn methu ystyried anghenion ehangach y cymunedau lle mae gennym gartrefi, ac mae’n eithaf clir fod y rhan fwyaf o bobl y Canolbarth yn cytuno gyda ni.’


Gwirfoddolwyr ifanc yn helpu yn Raffles: Cymdeithas Tai Clwyd Alyn Bu grŵp o wirfoddolwyr o gynllun Byw â Chymorth ar gyfer pobl ifanc ddigartref yn helpu i adnewyddu cegin fel y gall clwb cinio newydd ar gyfer pobl hŷn agor yng Nghlwb Raffles (RAFA) yn Wrexham. Mae Cyngor Cymuned Offa yn brysur yn sefydlu clwb cinio yn y safle fel y gall pobl hŷn fynd draw am bryd poeth, a phan oeddent angen help i adnewyddu’r gegin, cynigiodd preswylwyr o gynllun Hurst Newton a gaiff ei redeg gan Gymdeithas Tai Clwyd Alyn helpu. ‘Roeddem yn wirioneddol falch y gofynnwyd i ni helpu. Mae gan y preswylwyr yma lawer o barch ar gyfer pobl hŷn,’ meddai Fiona, uwch Swyddog Prosiect Hurst Newton.

Y cyntaf i Gymru gyda datblygiad ‘lego enfawr’ yng Ngheredigion: CT Cantref Mae’r gwaith adeiladu wedi dechrau ar gynllun tai gwyrdd newydd £250,000 yng Ngheredigion. Datblygwyd y cynllun gan Gymdeithas Tai Cartref, ac ef yw’r cynllun tai cyntaf yng Nghymru fydd yn cyrraedd Lefel 3 y Cod Cartrefi Cymunedol yn defnyddio system chwyldroadol ffurfio waliau rhyng-gloi. Wedi’i gwneud o 80% coed eilgylch, caiff y blociau Durisol eu slotio at ei giliydd mewn proses stac sych i roi strwythur cryf, cadarn, yn gwrthsefyll tân ar 1,100o Canradd ac yn cynnig amrywiaeth o fanteision cynaliadwy. Dywedodd Gareth Thomas, Rheolwr Datblygu: ‘Unwaith y bydd wedi’i orffen, mae’r strwythur yn gwella perfformiad thermol y cartref gan ostwng gofynion ynni, sy’n helpu perchennog y cartref i fwynhau biliau tanwydd is a thymheredd ystafell cysurus drwy’r flwyddyn. Hefyd, wnaiff y blociau ddim pydru na llosgi, gan eu gwneud yn ddewis diogel a chynaliadwy. Caiff y cartrefi newydd eu hadeiladu i’r safon Cartrefi Gydol Oes sy’n sicrhau y byddant yn parhau i gyflawni anghenion tenantiaid wrth iddynt heneiddio, gan eu helpu i barhau’n annibynnol.

Trin Tai Awst 2011

Tai Gogledd Cymru – ailgylchu olion gŵyl Treuliodd staff a defnyddwyr gwasanaeth o hostel Tai Gogledd Cymru i’r digartref ym Mangor ddiwrnod cynhyrchiol yn hel pebyll, offer gwersylla a dillad a gafodd eu gadael ar ôl gan bobl a fu yng ngŵyl Wakestock. Yn dilyn gwahoddiad gan drefnwyr y digwyddiad, casglodd y grŵp dros 100 o bebyll, 47 sach gysgu, 54 gwely gwynt, 51 cadair gwersylla, 45 o fatiau rholio, 17 pâr o wellingtons ac wyth gobennydd! Caiff eu heitemau eu dosbarthu i bobl ddigartref sy’n cysgu allan yn ardal Bangor. Rhennir eitemau hefyd gyda thîm Tai â Chymorth Gwasgaredig Gwynedd, hosteli lleol a chanolfannau dydd a’r ganolfan galw heibio i’r digartref. Dywedodd Lynne Evans o Gymdeithas Tai Gogledd Cymru: ‘Mae digartrefedd yn broblem fawr ym Mangor. Mae gwasanaethau fel ein rhai ni yn cael sialens barhaus i ddod o hyd i gyllid ac adnoddau i roi’r cymorth mae’r bobl hyn ei angen. Hoffem ddweud ddiolch yn fawr iawn i drefnwyr Wakestock a roddodd y cyfle gwych yma i ni a medrwn eu sicrhau y gwneir defnydd da o’r holl eitemau.’


Issuu converts static files into: digital portfolios, online yearbooks, online catalogs, digital photo albums and more. Sign up and create your flipbook.