Theatrau Sir Gâr Haf | Summer 2025

Page 1


CROESO WELCOME

MYNEDIAD | ACCESS

Mae mannau i gadeiriau olwyn, seddi heb risiau, a dolenni cymorth clyw ar gael ym mhob un o Theatrau Sir Gâr. Mae’r Ffwrnes hefyd yn cynnig cyfleuster Changing Places. Mae croeso i gŵn cymorth. I gael tocynnau Hynt neu fannau i gadeiriau olwyn, cysylltwch â’r Swyddfa Docynnau drwy ffonio 0345 226 3510.

Wheelchair spaces, step-free seating options, and hearing assistance loops are available at all Theatrau Sir Gâr theatres. The Ffwrnes also offers a Changing Place facility. Assistance dogs are welcome. For Hynt tickets or wheelchair spaces, contact the Box Office on 0345 226 3510.

HYNT

Mae Theatrau Sir Gâr yn aelod o Hynt, gan gynnig tocynnau am ddim i ofalwyr neu gynorthwywyr personol pobl sydd â cherdyn Hynt. Gallwch wneud cais am gerdyn Hynt drwy fynd i hynt.co.uk

Theatrau Sir Gâr is a Hynt member, offering free tickets for carers or personal assistants of Hynt cardholders. Apply for a Hynt Card at hynt.co.uk.

TEMPO

Rydym yn derbyn Tempo Time Credits ar gyfer sioeau penodol. Cysylltwch â’r Swyddfa Docynnau i gael manylion neu sganiwch y cod QR yma weld y sioeau cymwys. I gymryd rhan, ewch tempo.co.uk

We accept Tempo time credits for selected shows. Contact the Box Office for details or scan the QR code here to see eligible shows. To get involved visit tempo.co.uk

CADWCH MEWN CYSYLLTIAD KEEP IN TOUCH

Ebost | Email: theatrausirgar.co.uk

Facebook | X | Instagram

SWYDDFA DOCYNNAU

Mae Swyddfeydd Docynnau’r Ffwrnes a’r Lyric ar agor Dydd Mawrth–Dydd Gwener, 10am–3pm, a Dydd Sadwrn, 10am–2pm.

Gallwch hefyd gael tocynnau yn Llyfrgell Rhydaman yn ystod ei horiau agor.

I archebu dros y ffôn, ffoniwch 0345 226 3510 rhwng dydd Mawrth a dydd Sadwrn yn ystod oriau’r swyddfa docynnau.

FF WRNES BW YD A DIOD

FFWRNES FOOD AND DRINK

BAR CAFFI CWTSH

Mae Bar Caffi Cwtsh y Ffwrnes yn Llanelli ar agor yn ystod y dydd ar gyfer diodydd poeth ac oer, byrbrydau, cinio ysgafn a phrydau arbennig y dydd. Ar nosweithiau sioe mae ein bar trwyddedig ar agor ar gyfer diodydd a lluniaeth.

The Ffwrnes Bar Caffi Cwtsh in Llanelli is open during the day for hot and cold drinks, snacks, light lunches and daily specials. On show nights our licensed bar is open for drinks and refreshments.

BAR Y LYRIC LYRIC BA R

ARLWYO

A LLETYGARWCH YN Y FFWRNES

Ynghyd ag ardal bar trwyddedig ac ardal caffi sydd â llefydd i eistedd, gallwn gynnig opsiynau arlwyo wedi’u teilwra i gyd-fynd â’ch anghenion a’ch cyllideb. Gellir darparu ar gyfer alergenau a gofynion deietegol arbennig ar gais. Anfonwch e-bost at:

theatrau@sirgar.gov.uk i gael rhagor o wybodaeth.

CATERING AND HOSPITALITY AT FFWRNES

Together with a licensed bar area and fully equipped cafe area with seating, we can offer tailored catering options to suit your needs and budget. Allergen and special dietary requirements can be accommodated upon request. Please email: theatres@carmarthenshire.gov.uk for more information.

The Ffwrnes and Lyric Box Offices are open Tuesday–Friday, 10am–3pm, and Saturday, 10am–2pm.

Tickets are also available at Ammanford Library during their opening hours.

For phone bookings, call 0345 226 3510, Tuesday–Saturday during box office hours.

Mae bar a chiosg y Lyric ar agor ar gyfer diodydd, byrbrydau a lluniaeth un awr cyn perfformiadau ac yn ystod yr egwyl. Mae’r ciosg wedi’i leoli ar y llawr gwaelod, ac mae’r bar ar y llawr cyntaf. Mae mynediad lifft i’r bar o’r cyntedd.

The Lyric bar and kiosk are open for drinks, snacks, and refreshments one hour before performances and during the interval. The kiosk is situated on the ground floor, and the bar is situated on the first floor. There is lift access to the bar from the foyer.

BLADE RUNNER

DIRECTOR’S CUT (1992) 15

STOCK AND TWO SMOKING BARRELS (1998) 18

Ffwrnes - Stiwdio Stepni Llanelli

Bydd y noson yn arddangos y ffilmiau dogfen byrion gorau gan wneuthurwyr ffilmiau newydd ar y sgrin fawr. Mae’r pynciau’n amrywio o weithgareddau anturus i lesiant a’r amgylchedd. Gyda chyflwyniad arbennig gan Dr Brett Aggersberg.

A showcase of the best short documentary films from upand-coming filmmakers on the big screen. Subjects range from adventure activities to wellbeing and the environment. With introduction from Dr Brett Aggersberg.

Ymunwch â ni am noson allan wych yn ein Clwb Comedi poblogaidd, sy’n cynnwys rhai o’r actau gorau yn y cylch stand-yp yn y DU.

Ewch i brynu diod yn y bar a mwynhewch noson o adloniant o’r radd flaenaf i groesawu’r penwythnos.

Argymhellir yn gryf trefnu lle ymlaen llaw. Join us for a

a

a

Stepni

9 Mai 9 May 7:30pm

Yn ôl gyda dathliad ysblennydd o theatr gerddorol, mae The Opera Boys yn cyflwyno harmonïau syfrdanol, perfformiadau unigol trawiadol, ac ychydig o bethau annisgwyl!

Back with a spectacular celebration of musical theatre, The Opera Boys deliver mesmerising harmonies, stunning solo performances, and a few surprises!

7 Mai 7 May 7:30pm

Sioe Gymraeg

Welsh Language show

Nid yw Huw Fyw yn credu mewn tynged - nac mewn gwenu. Mae tamaid o lwc yn ei anfon o’i bentref tawel i Lundain, gan newid ei fywyd am byth. Gan nodi 80 mlynedd ers diwedd yr Ail Ryfel Byd, mae drama gyntaf y digrifwr Tudur Owen yn stori ddoniol, galonogol am obaith, diogrwydd, a gwneud pedwar paned o un bag te! Wedi’i chyfarwyddo gan Steffan Donnelly ac yn serennu Tudur Owen fel Huw.

Yn cynnwys iaith gref, themâu oedolion a chyfeiriadau at ryfel, euogrwydd goroeswr a PTSD.

Huw Fyw doesn’t believe in fate - or smiling. A stroke of luck sends him from his quiet village to London, changing his life forever. Marking 80 years since the end of WWII, comedian Tudur Owen’s debut play is a hilarious, heartfelt tale of hope, laziness, and making four cuppas from one teabag! Directed by Steffan Donnelly and starring Tudur Owen as Huw.

Contains strong language, adult themes and references to war, survivor’s guilt and PTSD.

Bilingual closed captions will be available via the Sibrwd app.

12+
Bydd capsiynau dwyieithog caeedig ar gael drwy ap Sibrwd.

18+

BINGO LINGO

Drysau’n agor | Doors open: 6pm

Mynediad olaf | Last entry: 7:30pm

£10 (Rhyddhad cyntaf | First release)

Tocynnau ar gael yn unig o | Tickets only available from bingolingo.club

OUTWARD BOUND

Bingo yn dechrau | Bingo starts: 8pm 3pm & 7:30pm

£14

Cynhyrchiad amatur Amateur production

Ymunwch â Phoenix Theatre Group Llanelli a dilynwch y teithwyr trwy niwl antur i fyd tywyll sy’n amwys ac yn ddirgel.

Come aboard with Llanelli’s Phoenix Theatre Group and follow the passengers through the mists of adventure into a vague and mysterious world.

DIVA OF THE DECADES

£24.00 | £22.00 10 Mai

Mae Diva of the Decades yn daith gerddorol anhygoel ar draws sawl degawd o gerddoriaeth sy’n cynnwys y caneuon mwyaf poblogaidd gan rai o’r difas mwyaf eiconig erioed.

Diva of the Decades is an unmissable musical journey spanning several decades of music and featuring the greatest hits from some of the most iconic divas of all time.

18 Mai 18 May 2pm

£17 | £16 | £62 (Teulu | Family)

Yn newydd sbon ar gyfer 2025!

Wedi’i addasu o’r llyfrau poblogaidd a fu’n rhif 1 gan Tom Fletcher a Dougie Poynter, bydd y teulu cyfan yn cael amser gwych yn mwynhau stori newydd sbon ar gyfer y llwyfan. Yn cynnwys caneuon newydd gan Tom a Dougie, llawer o chwerthin a digonedd o gaca!

New for 2025!

Adapted from the number 1 best-selling books by Tom Fletcher and Dougie Poynter, the whole family will enjoy this brand-new story for the stage. Featuring new songs by Tom and Dougie, a lot of laughs and a whole lot of poo!

Stiwdio Stepni
PHOENIX THEATRE GROUP
Studio Stepni

23 Mai 23 May 7:30pm

CARMARTHEN BAY FILM FESTIVAL

Rhwng 19 a 22 Mai yn Theatr y Ffwrnes, bydd dros 120 o ffilmiau’n cael eu dangos a bydd mynediad am ddim i bob un. Mae’r ymrwymiad hwn yn sicrhau bod y gorau ym myd gwneud ffilmiau annibynnol yng Nghymru ac yn rhyngwladol yn cyrraedd cynulleidfa mor eang â phosibl ac yn galluogi Gŵyl Ffilmiau Bae Caerfyrddin i gyflawni ei harwyddair arweiniol: “Excellence Should Be Seen On Screen”

From 19th - 22nd May at the Ffwrnes Theatre, over 120 films will be screened and entry to all screenings is free. This commitment ensures that the very best of Welsh and international independent film-making reaches as wide an audience as possible and allows CBFF to fulfil its guiding motto; “Excellence Should Be Seen On Screen”.

CBFF 2025: “The Film Lover’s Festival”

THE MAKINGS OF A MURDERER 2: THE REAL MANHUNTER

Ar ôl i’r holl docynnau gael eu gwerthu i sioeau ledled y wlad, mae taith theatr droseddau go iawn orau’r DU yn ôl gyda rhaglen newydd sbon! Yn y sioe newydd sbon hon, bydd Colin – a ysbrydolodd y gyfres ddrama ITV, ‘Manhunt,’ gyda Martin Clunes yn serennu – yn eich tywys drwy ei yrfa ryfeddol a sut brofiad yw mynd ar ôl llofrudd cyfresol a’i ddal, a hynny mewn noson unigryw yn y theatr - i’r rheiny sy’n ymddiddori mewn troseddau go iawn a mynychwyr theatr fel ei gilydd.

Following sell-out shows nationwide, the UK’s top true crime theatre tour is back with a brand-new line up! In this all-new show, Colin – who inspired the ITV drama series, ‘Manhunt,’ starring Martin Clunes - will talk you through his remarkable career and what it’s like to chase and catch a serial killer in a unique and one-off night at the theatre - for true crime fans and theatre-goers alike.

Studio Stepni

Stiwdio Stepni

Camwch mewn i un o’r dirgelion mwyaf dryslyd erioed - diflaniad Agatha Christie ei hun. Yn y sioe un-fenyw afaelgar hon, mae’r actor Liz Grand yn datgelu’r cynllwyn y tu ôl i’r 11 diwrnod enwog hynny. Ai amnesia, ymgais i ddenu cyhoeddusrwydd, neu rywbeth tywyllach oedd hyn? Mewn arddull nodweddiadol gyffrous, bydd popeth yn cael ei ddatgelu…

Step into one of the most puzzling mysteries of all time - Agatha Christie’s own disappearance. In this gripping one-woman show, actor Liz Grand unravels the intrigue behind those infamous eleven days. Was it amnesia, a publicity stunt, or something darker? In true thriller style, all will be revealed…

Byddwch yn barod am noson llawn cyffro a chaneuon gafaelgar gyda The Jive Aces! Yn enwog fel un o fandiau Jumping Jive gorau’r byd, maent wedi syfrdanu cynulleidfaoedd ar draws 40 o wledydd gyda’u rhythm a’u perfformiadau arbennig. Mae’r band, a gyrhaeddodd rownd gynderfynol Britain’s Got Talent yn 2012, yn dod â swing, steil ac adloniant pur - peidiwch â cholli! Get ready for a night of high-energy, toe-tapping fun with The Jive Aces! Renowned as one of the world’s top Jumping Jive bands, they’ve wowed audiences across 40 countries with their infectious rhythm and show-stopping performances. Britain’s Got Talent semi-finalists in 2012, they bring swing, style, and pure entertainment - don’t miss out!

THE ANCIENT OAK OF BALDOR

Mai

Stori hudolus am gariad, colled a chyswllt. Wrth i bobl Baldor ddathlu’r Dderwen Hynafol, mae Elspeth yn cychwyn ar daith fythgofiadwy. Mae Frozen Light yn eich gwahodd i’w byd ffantasi diweddaraf.

A magical tale of love, loss, and connection. As the people of Baldor celebrate the Ancient Oak, Elspeth embarks on an unforgettable journey. Frozen Light invites you into their latest fantasy realm.

Profiad amlsynhwyraidd i gynulleidfaoedd ag anableddau dysgu dwys a lluosog a’u cymdeithion.

A multi-sensory experience for audiences with profound and multiple learning disabilities and their companions.

Stepni

Perfformiad Ymlaciedig: 3pm

Mae perfformiadau ymlaciedig yn agored i bawb, ac wedi’u cynllunio’n benodol ar gyfer plant, pobl ifanc neu oedolion a allai fod ag anableddau, anghenion cymorth ychwanegol a’r rheiny sydd ar y sbectrwm awtistig.

Relaxed Performance: 3pm Relaxed performances are open to anyone to attend, and are specially designed for children, young people or adults who may have disabilities, additional support needs and those on the autistic spectrum.

|

Mae’r cwmni arobwyn Ballet Cymru yn cyflwyno Giselle, stori fythgofiadwy sy’n llawn angerdd, brad a maddeuant. Gyda choreograffi syfrdanol, delweddaeth ymdrochol, a sgôr glasurol fythgofiadwy, mae’r dehongliad newydd sbon hwn yn brofiad na ellir ei golli.

The award-winning Ballet Cymru presents Giselle, an unforgettable tale of passion, betrayal, and forgiveness. With stunning choreography, immersive visuals, and a haunting classical score, this brand-new interpretation is an unmissable experience.

THE D-DAY DARLINGS

I’LL REMEMBER YOU

4 Mehefin 4 June 2:30pm

£25.50

£35.45 Cynnwys te prynhawn | includes afternoon tea

Mae’r D-Day Darlings yn cyflwyno sioe arbennig newydd i ddathlu 80 mlynedd ers Diwrnod VE!

The D-Day Darlings present a spectacular new show celebrating the 80th anniversary of VE Day!

Archebwch eich bocs te prynhawn ymlaen llaw i’w fwynhau yn eich sedd yn ystod y sioe.

Pre-order your afternoon tea box to enjoy at your seat during the show.

CRAIG REVEL HORWOOD

Studio Stepni

£9 & £7.50

Cyngerdd | Concert 1

Côr Iau Llanelli, Cerddorfa Gofiadur Llanelli a Dinefwr a Chwythbrennau Iau Sir Gaerfyrddin.

Llanelli Junior Choir, Llanelli and Dinefwr Recorder Orchestra and Carmarthenshire Junior Woodwind.

Studio Stepni

REVELATIONS – Songs Boys Don’t Sing

6 Mehefin 6 June 7:30pm

£35.50

Mae Craig Revel Horwood, y beirniad sydd wedi bod yn rhan o Strictly am y cyfnod hiraf, yn dod â’i steil enwog i’r llwyfan, gan ddathlu rhyddhau ei albwm solo cyntaf, Revelations.

National treasure and Strictly’s longest-serving judge, Craig Revel Horwood, brings his signature style to the stage, celebrating the release of his debut solo album, Revelations.

8 Mehefin

Paratowch am noson fythgofiadwy gyda deuawd canu gwlad mwyaf y DU, The Shires. Mae eu taith 2025 Two Of Us yn dod â Ben Earle a Crissir Rhodes i Gymru am sioe gartrefol llawn yr holl ganeuon poblogaidd.

Get ready for an unforgettable night with the UK’s biggest country music export, The Shires. Their 2025 Two Of Us tour brings Ben Earle and Crissie Rhodes to Wales for an intimate, hit-filled show.

Cyngerdd | Concert 2

Côr Iau Caerfyrddin, Cerddorfa Gofiadur Caerfyrddin a Gwendraeth, Llinynnau Iau Sir Gaerfyrddin ac Offerynnau Taro Iau.

Carmarthen Junior Choir, Carmarthen and Gwendraeth Recorder Orchestra, Carmarthenshire Junior Strings and Junior Percussion.

Cyngerdd | Concert 3

Côr Iau Dinefwr, Ensemble Pres Iau a Gitâr Iau Sir Gaerfyrddin.

Dinefwr Junior Choir, Carmarthenshire Junior Brass and Junior Guitar Ensemble.

12+

WHERE THERE’S A WILL THERE’S A WAY!

Cynhyrchiad amatur Amateur production

Mae Ammanford Community Theatre yn ôl! Pan sylweddolodd teulu Petunia Reynolds y gallen nhw etifeddu rhan o’i hetifeddiaeth dwy filiwn o bunnoedd, doedden nhw ddim yn hir cyn gweithredu!

Ammanford Community Theatre are back! When Petunia Reynolds’s family find out they could inherit part of her 2 million pound inheritance, they leap into action!

MOVIE MUSICALS

12-14 Mehefin 13 June 12-14 June 7:30pm 7:30pm

£10 | £8 13 Mehefin

£25.50

Dathlwch sioeau cerdd mwyaf eiconig y sinema gyda choreograffi gwefreiddiol, lleisiau syfrdanol, a straeon bythgofiadwy a fydd yn eich gwneud chi’n dawnsio yn eich sedd a chanu gyda’ch holl hoff ganeuon!

Celebrate cinema’s most iconic musicals with electrifying choreography, stunning vocals, and unforgettable stories that will have you dancing in your seat and singing along to all your favourite songs!

THE ROD STEWART SONGBOOK

Stiwdio Stepni

Studio Stepni

14 Mehefin 14 June 5:30pm

£12.50 | £8.50 | £38 (Teulu | Family)

13+

Lle daw theatr a chwarae rôl at ei gilydd!

Plymiwch i fyd o ddirgelwch steampunk lle gall unrhyw beth ddigwydd. Beth am greu stori newydd sbon gyda’n perfformwyr proffesiynol, gan helpu i lunio’r hyn sy’n digwydd a dylanwadu ar ddewisiadau’r cymeriadau. Mae

“Chronicles of the Unknown” yn ddigwyddiad theatr rhyngweithiol a llawn dychymyg y byddwch yn ymgolli ynddo.

Where theatre and role-play gaming collide!

Dive into a world of steampunk mystery where anything can, and will, happen. Create a brand-new story with our professional performers, helping to shape the action and influence the characters’ choices. Chronicles of the Unknown is an interactive, immersive and imaginative theatre event.

Byddwch yn barod i rocio gyda’r deyrnged orau oll i Rod Stewart. Gyda band byw gwych, ymunwch â ni ar daith gerddorol sy’n ymestyn dros 50 mlynedd.

Get ready to rock with the ultimate homage to Rod Stewart. Featuring a fantastic live band, join us on a musical journey spanning 50 years.

GWEITHDY 2:30pm | £2

Ymunwch â ni am weithdy cyn y sioe lle gallwch ddysgu chwarae a chreu cymeriadau a straeon.

WORKSHOP 2:30pm | £2

Join us for a pre-show workshop, learn to play and create characters and stories.

CALLING PLANET EARTH

Studio Stepni

£28.50

Dewch i hel atgofion o’r 80au! Mae’r sioe fyw wefreiddiol hon yn dod â chaneuon mwyaf y degawd, gan gynnwys Duran Duran, Spandau Ballet, Human League a mwy. Gyda llais syfrdanol a band byw anhygoel, eisteddwch yn ôl a phrofwch hud yr 80au mewn noson fythgofiadwy o gerddoriaeth eiconig!

Experience the ultimate 80s nostalgia trip! This electrifying live show brings the decade’s biggest hits from Duran Duran, Spandau Ballet, Human League, and more. With stunning vocals and an incredible live band, sit back and relive the magic of the 80s in an unforgettable night of iconic music!

JESUS CHRIST SUPERSTAR

19 & 20 Mehefin 21 Mehefin 19 & 20 June 21

£16

Cynhyrchiad amatur Amateur production

Mae Jesus Christ Superstar yn opera roc wefreiddiol sy’n archwilio cariad, brad ac aberth. Yn cynnwys caneuon eiconig.

10+

CMWNI THEATR ARAD GOCH

SGLEINIO’R LLEUAD

Studio Stepni

14 Mehefin 16 Mehefin 17 Mehefin 14 June 16 June 17 June 7:30pm 1:00pm 10am

£10 | £8

Canllaw oed | Age guidance 3-7

Ymunwch â Byrti a Bwbw wrth iddyn nhw sgleinio’r lleuad. Ond pam mae Pwnîc yn dweud wrth y ddau am beidio gwneud hynny? O diar, bydd y byd i gyd yn dywyll! Yna, mae rhywbeth hudolus iawn yn digwydd…

Join Byrti and Bwbw as they polish the moon. But why does Pwnîc tell them not to? Oh no, the whole world will be dark! Then, something truly magical happens…

Sioe Gymraeg Welsh Language show

Jesus Christ Superstar is an electrifying rock opera exploring love, betrayal, and sacrifice. Featuring iconic songs.

THE SIMON AND GARFUNKEL STORY

£30

Profwch ddelweddau a ffilmiau trawiadol, band byw llawn, a’r holl ganeuon clasurol, gan gynnwys Mrs Robinson, Cecilia, Homeward Bound a llawer mwy.

Experience stunning visuals and film footage, a full live band, and all the classic hits, including Mrs Robinson, Cecilia, Homeward Bound and many more.

AMAZING ANIMALS

22 Mehefin

21 Mehefin 22 June 21 June 2:00pm 7:30pm

£17.50 | £60 (Teulu | Family)

Sioe deuluol galonogol, llawn hwyl sy’n cynnwys anifeiliaid maint go iawn, o grocodeiliaid i orangwtaniaid . Yn llawn cerddoriaeth, comedi ac effeithiau syfrdanol, mae’n brofiad anhygoel i bob oedran!

A heartwarming, fun-filled family show featuring life-sized animals, from crocodiles to orangutans. Packed with music, comedy and stunning effects, it’s a roar-some experience for all ages!

THE WIZARD OF OZ

Stepni

THE SPONGEBOB MUSICAL

MAL POPE AND STEVE BALSAMO

Stiwdio Stepni

£15.50

Treuliwch noson gyda dau o gerddorion enwocaf Cymru, Mal Pope a Steve Balsamo.

Wedi’i arwyddo i Elton John’s Rocket Records yn 13 oed yn unig, aeth Mal Pope ymlaen i ysgrifennu nifer o sioeau cerdd llwyddiannus, a daeth Steve Balsamo yn enwog fel Jesus Jesus Christ Superstar cyn teithio gyda’i fand, The Storys.

Yn cynnwys straeon y tu ôl i’r llenni a digon o chwerthin, mwynhewch gipolwg prin ar eu gyrfaoedd rhyfeddol.

Spend an intimate evening with two of Wales’ most celebrated musicians, Mal Pope and Steve Balsamo.

Signed to Elton John’s Rocket Records at just 13, Mal Pope went on to write a number of successful musicals, while Steve Balsamo rose to fame as Jesus in Jesus Christ Superstar before touring with his band, The Storys.

Featuring behind-the-scenes stories and plenty of laughs, enjoy a rare glimpse into their remarkable careers.

CERIDWEN

25 Gorffennaf 26 Gorffennaf

26 Gorffennaf

25 July 26 July 26 July 7:30pm 2pm 7:30pm (BSL)

Dehongliad BSL gan | BSL interpretation by Cathryn McShane

Gwybodaeth am Gwmni Theatr yr Urdd

Ers ail-lansio Cwmni Theatr yr Urdd yn 2022, mae wedi cynnig amrywiaeth o brofiadau theatr i bobl ifanc ledled Cymru. Drwy deithiau llwyddiannus a phrosiectau arloesol, mae’r cwmni’n parhau i ysbrydoli, meithrin creadigrwydd, talent ac angerdd am berfformio, wrth iddo helpu i feithrin y genhedlaeth nesaf o dalent ym myd theatr Cymru.

Dewch i fyd hudolus tylwyth teg a gwrachod. Wrth iddyn nhw wynebu grymoedd natur, mae’n rhaid iddyn nhw ddysgu cydweithio i oresgyn yr heriau sydd o’u blaenau. Yn llawn cyffro, antur a cherddoriaeth fyw, mae Ceridwen yn brofiad theatrig epic, ac yn wledd i’r synhwyrau.

Enter an enchanted world of fairies and witches. As they confront the forces of nature, they must learn to work together to overcome the challenges ahead. Full of excitement, adventure and live music, Ceridwen is an epic theatrical experience and a feast for the senses.

Sioe Gymraeg Welsh Language show

About

Cwmni Theatr yr Urdd

Since relaunching in 2022, Cwmni Theatr yr Urdd has offered young people across Wales diverse theatre experiences. With successful tours and innovative projects, the company continues to inspire, foster creativity, talent, and a passion for performance, as it helps nurture the next generation of Welsh theatre talent.

Studio Stepni

BREADCRUMBS

Mae Hansel a Gretel ar goll mewn coedwig hudolus! A allan nhw stopio dadlau am ddigon o amser i ddod o hyd i’w ffordd adref? Yn llawn cerddoriaeth, hud a phypedwaith, mae’r antur gyffrous hon i’r teulu yn dathlu sut y gall hyd yn oed y stori symlaf fod yn stori dylwyth teg wyllt dan ofal y storïwr cywir.

Hansel and Gretel are lost in an enchanted forest! Can they stop arguing long enough to find their way home? Packed with music, magic, and puppetry, this exciting family adventure celebrates how even the simplest story can become the wildest fairytale in the hands of the right storyteller.

Studio Stepni

Gair Llafar

HWB CELF YDDY DAU, IECHYD A LLESIANT

ARTS, HE ALTH & WE LLBEING HUB

Amser a lle i’n cymuned gwrdd trwy brosiectau creadigol, sgyrsiau, gweithdai a chyfleoedd gwirfoddoli.

Ry’n ni’n cynnal sesiynau ar gyfer pobl ifanc, oedolion, gofalwyr a rhai dan ofal.

Galwch am ddishgled a sgwrs unrhyw bryd, mae’n drysau ar agor neu eisteddwch yn ein gardd gymunedol unrhywbryd. Mae hyd yn oed oergell cymunedol gyda ni, a gallwch adael neu godi nwyddau.

A time and place for our community to connect through creative projects, conversations, workshops and volunteering opportunities.

We run sessions for young people, adults, older people, cared for and carers.

Pop in for a cuppa and chat any time - our doors are open - or sit in our community garden. We’ve even got a community fridge where you can drop off or pick up some supplies.

Ysgrifennu Creadigol

Adrodd Straeon

Celfyddydau Gweledol

Spoken Word

Creative writing

Storytelling

Visual Arts

People Speak Up

Ffwrnes Fach, Arts, Health and Wellbeing Hub, Park Street, Llanelli. info@peoplespeakup.co.uk 01554 292393 | peoplespeakup.co.uk

Spoken Word / Creative writing/ Singing / Storytelling/ Visual Arts / Community Garden

Grwp canu newydd yn Llanelli ar gyfer pobl gyda dementia, eu ffrindiau a’u teuluoedd

Ymunwch â Côr Cysur newydd OCO yn y Ffwr nes, Llanelli a goleuwch eich prynhawniau Mawrth gyda cherddoriaeth lawen, canu a chwerthin ymhlith ffrindiau!

Bob prynhawn dydd Mawrth, 2pm - 3pm. Yn rhedeg tan Mehefin 24ain.

New singing group in Llanelli for people with dementia, their friends and families

Join WNO’s new Cradle Choir at the Ffwr nes, Llanelli and brighten your Tuesday after noons with some joyous music, singing and laughs among friends!

Every Tuesday after noon, 2pm - 3pm. Until June 24th.

Am fwy o wybodaeth cysylltwch â: Michael Graham

michael.graham@wno.org.uk 029 2063 5086

For more information please contact:

Michael Graham

michael.graham@wno.org.uk 029 2063 5086

wno.org.uk/cradle #WNOcradle

Cyflwynir y prosiect yma mewn partneriaeth â Theatrau Sir Gâr

Gair Llafar / Ysgrifennu Creadigol / Canu/ Adrodd Straeon / Celfyddydau Gweledol/ Gardd Gymunedol

Stryd y Gwynt, Rhydaman SA18 3DN 13 Wind Street, Ammanford SA18 3DN

@Glowyr

Yr anrheg sy’n seren y sioe!

Yr anrheg sioe!

Codwch gerdyn rhodd y theatr neu yn y swyddfa docynnauz

Codwch gerdyn rhodd y theatr ar-lein neu yn y swyddfa docynnauz Unwrap the magic of live theatre!

Pick up a theatre gift card online or at the box office

Sganiwch yma i archebu eich cerdyn rhodd

Scan here to order your gift card

Mae ein cardiau rhodd ar gael i’w prynu ar-lein neu drwy ein swyddfa docynnau. Gellir defnyddio cardiau rhodd i brynu tocynnau yn unrhyw un o’n tair theatr. Yr anrheg berffaith i’r rhai sy’n mwynhau amser da ac adloniant o safon!

Our gift cards are available to purchase online or at our box office. Gift cards can be used to purchase tickets at any of our three theatres. The perfect gift for those who enjoy a good time and quality entertainment!

Turn static files into dynamic content formats.

Create a flipbook
Issuu converts static files into: digital portfolios, online yearbooks, online catalogs, digital photo albums and more. Sign up and create your flipbook.