Met Caerdydd - Astudio Ôl-raddedig, Proffesiynol ac Ymchwil - Cyfeiriadur Rhagleni - 2023 (Welsh)

Page 1

Prifddinas

uchelgeisiau newydd, newid cyfeiriad, edrych y tu hwnt i’r gorwel, syniadau a heriau newydd, datblygu meddyliau, newid meddylfrydau, ffurfio partneriaethau, mentora’r rhai o’ch cwmpas chi.

Cyfeiriadur Rhaglenni

Astudio Ôl-raddedig, Proffesiynol ac Ymchwil

P’un a ydych chi’n dewis i astudio ym Met Caerdydd am y tro cyntaf neu barhau â’ch taith academaidd gyda ni, byddwch yn ymuno â chymuned o dros 3,000 o fyfyrwyr ôl-raddedig, ymchwil a phroffesiynol o bob cwr o’r byd.

Rydym yn cynnig amrywiaeth eang o gyfleoedd ôl-raddedig, ymchwil a phroffesiynol a addysgir, yn llawn amser ac yn rhan-amser, ar draws ein pum ysgol academaidd – rhaglenni a fydd yn datblygu eich gwybodaeth bwnc arbenigol ymhellach, yn gwella eich rhagolygon gyrfa ac yn cynnig man cychwyn ar gyfer astudiaethau pellach. Rhaglenni Ôl-raddedig a Phroffesiynol a Addysgir Ysgol Gelf a 4 Dylunio Caerdydd Ysgol Addysg a 6 Pholisi Cymdeithasol Caerdydd Ysgol Reoli Caerdydd 10 Ysgol Chwaraeon a 12 Gwyddorau Iechyd Caerdydd Ysgol Dechnolegau Caerdydd 16 Graddau Ymchwil 19 a Doethuriaethau Proffesiynol Noder: Roedd yr wybodaeth yn y prosbectws hwn yn gywir adeg ei argraffu (Mawrth 2023). I gael yr wybodaeth ddiweddaraf am gynnwys cyrsiau a’r gofynion mynediad, ewch i’n gwefan yn www.metcaerdydd.ac.uk/ôl-raddedig Cyfeiriadur Ôl-raddedig 2023 | 1
Y Ddinas Myfyrwyr fwyaf fforddiadwy yn y DU* *Mynegai Byw Myfyrwyr NatWest 2022 yw cyfran ein myfyrwyr ôl-raddedig a addysgir sydd mewn gwaith neu astudiaethau pellach o fewn 15 mis i raddio* *Arolwg Diweddaraf o Ganlyniadau Graddedigion (2022) 95% Pam Met Caerdydd ar gyfer astudiaeth ôl-raddedig, broffesiynol ac ymchwil? Prifysgol y Flwyddyn y DU ac Iwerddon 2021 Gwobrau Times Higher Education Prifysgol y Flwyddyn yng Nghymru 2021 The Times & Sunday Times Good University Guide Academïau Byd-eang Mae ein hacademïau byd-eang yn dwyn ynghyd ein cryfderau ym maes ymchwil, arloesi ac addysgu i fynd i’r afael â’r blaenoriaethau byd-eang heriol. www.metcaerdydd. ac.uk/ academïaubyd-eang

Prifysgol

Orau’r DU am

Gynaliadwyedd

People and Planet 2022

Ymchwil o’r radd flaenaf

Dangosodd canlyniadau

Fframwaith Rhagoriaeth Ymchwil

(REF) 2021 bod Met Caerdydd yn cynhyrchu ymchwil o’r radd flaenaf ym mhob maes, gyda bron i ddwy ran o dair o’r allbynnau ymchwil yn ‘ardderchog yn rhyngwladol’ neu’n ‘arwain y byd’.

25% Gostyngiad

i gyn-fyfyrwyr*

www.metcaerdydd.ac.uk/ gostyngiadigyn-fyfyrwyr

*Telerau yn berthnasol

o

Aelodaeth o Met

Heini am ddim am

flwyddyn i fyfyrwyr

Ôl-raddedig

Llawn Amser:

www.metcaerdydd.ac.uk/ chwaraeon

Cyfeiriadur Ôl-raddedig 2023 | 3

Ysgol Gelf a Dylunio Caerdydd

Rhaglenni a Addysgir Hyd* Celf a Dylunio – Mhres/PgC 1LlA/2RhA Cerameg a Gwneuthurwr – MA/PgD/PgC 1LlA/2RhA Menter Greadigol ac Arloesi – MA/PgD/PgC 1LlA/2RhA Dylunio Ffasiwn – MA/PgD/PgC 1LlA/2RhA Celfyddyd Gain – MFA/PgD/PgC 1LlA/2RhA Dylunio Byd-eang – MDes/PgD/PgC 1LlA/2RhA Darlunio ac Animeiddio – MA/PgD/PgC 1LlA/2RhA Dylunio Mewnol – MA/PgD/PgC 1LlA/2RhA Ffotograffiaeth – MA/PgD/PgC 1LlA/2RhA Dylunio Cynnyrch – MSc/PgD/PgC 1LlA/2RhA Dylunio Cyfathrebu Gweledol – MA/PgD/PgC 1LlA/2RhA
“Roedd yr MFA yn ddeorydd gwych i mi; rydw i bellach yn teimlo’n fwy hyderus ynof fi fy hun ac yn fy ymarfer. Rydw i wedi datblygu hunangymhelliant gwych, ac mae gen i ymdeimlad cryf o gyfeiriad ynglŷn â lle rwy’n mynd nesaf.”
Ren Wolfe
Celfyddyd Gain – MFA/PgD/PgC
*Mewn blynyddoedd oni nodir yn wahanol
4 | Prifysgol Metropolitan Caerdydd

“Gosododd fy ngradd BSc (Anrh) Dylunio Cynnyrch ym Met Caerdydd y sylfeini ar gyfer y cwrs MSc Dylunio Cynnyrch. Fy mhrif reswm dros astudio’r cwrs MSc oedd i fy mharatoi i ymhellach ar gyfer y diwydiant. Roeddwn i’n gwybod bod mwy y gallwn i ei gael o astudiaethau ôl-raddedig; cyfle i aros gam o flaen y gystadleuaeth a datblygu dull manylach o ddylunio cynnyrch.”

Dylunio Cynnyrch – MSc/Pgd/PgC

Sganiwch i ddysgu mwy am ein rhaglenni ôl-raddedig neu ewch i www.metcaerdydd.ac.uk/ygadc

Cyfeiriadur Ôl-raddedig 2023 | 5

Ysgol Addysg a Pholisi Cymdeithasol Caerdydd

“Rydw i wedi gweithio mewn dau leoliad gwahanol yn ystod y cwrs. Roedd y ddau leoliad yn

wahanol o ran yr agweddau at waith ieuenctid, ac fe

wnaethon nhw roi llawer o

dwf proffesiynol i mi. Mae

astudio’r MA wedi fy

ngalluogi i wneud

gwahaniaeth i fywydau

pobl ifanc a’r elusen rwy’n gweithio iddi, sy’n amhrisiadwy.”

Daniel Townsend

Gwaith Ieuenctid a Chymunedol - MA/PgD

Sganiwch i ddysgu mwy am ein rhaglenni ôl-raddedig neu ewch i www.metcaerdydd.ac.uk/yapcc

6 | Prifysgol Metropolitan Caerdydd

“Rhoddodd yr MA Newyddiaduraeth Arbenigol y sgiliau a’r wybodaeth i’m galluogi i sefydlu fy hun yn niwydiant cyfryngau’r DU ac fel newyddiadurwr amlgyfrwng. Roedd yr arfer parhaus o ysgrifennu, ymchwilio a datblygu straeon yn creu hunanhyder yn ystod fy amser ar leoliad gwaith, a nawr yn fy ngyrfa.”

Kristine Clifford Newyddiaduraeth Arbenigol – MA/PgD/PgC

ac Addysg Ôl-orfodol – TAR/PCE

Polisi Cymdeithasol – MRes**

Newyddiaduraeth Arbenigol – MA/PgD/PgC PR

Gwaith Ieuenctid a Chymunedol – MA/PgD

Efallai y bydd cyrsiau proffesiynol a byr ychwanegol ar gael; mae’r rhestr ddiweddaraf ar y wefan.

*Mewn blynyddoedd oni nodir yn wahanol

**Yn amodol ar ddilysu

PR Yn amodol ar adolygiad cyfnodol yn 2023

Rhaglenni a Addysgir Hyd* Ymarfer Ieuenctid a Chymunedol Uwch – MA/PgD/PgC 1LIA/2-3RhA Ysgrifennu Creadigol – MA/PgD/PgC 1LIA/2RhA Troseddeg ac Ymchwiliadau Troseddol – MSc/PgD/PgC** 1LIA/2-3RhA Addysg (Cymru) – MA 3RhA Addysg – MA/PgD/PgC 1-2LIA Addysg – MA/PgD/PgC gyda llwybrau proffesiynol mewn: 1-2LIA/2-5RhA - Anghenion
-
- Arweinyddiaeth mewn Addysg Addysg – Mhres** 1LIA/2RhA Llenyddiaeth Saesneg – MA/PgD/PgC 1LIA/2RhA Llenyddiaeth Saesneg ac Ysgrifennu Creadigol – MA/PgD/PgC 1LIA/2RhA Hyfforddiant
2RhA
1LIA/2RhA
Dysgu Ychwanegol
Polisi ac Ymarfer
Seicoleg mewn Addysg – MSc
1LIA/2RhA
1LIA/2RhA
1LIA/2RhA
TESOL – MA
1LIA/2-3RhA
Cyfeiriadur Ôl-raddedig 2023 | 7

Ysgol Addysg a Pholisi Cymdeithasol Caerdydd

Addysg Gychwynnol Athrawon Hyd*

Cynradd – TAR 1LIA

Uwchradd – TAR 1LIA

- Celf a Dylunio

- Bioleg gyda Gwyddoniaeth

- Cemeg gyda Gwyddoniaeth

- Dylunio a Thechnoleg (Dylunio Cynnyrch, Bwyd a Maeth, Ffasiwn a Thecstilau a Dylunio Peirianneg)

- Drama

- Saesneg

- Daearyddiaeth

- Hanes

- Technoleg Gwybodaeth a Chyfathrebu a Chyfrifiadureg

- Mathemateg

- Ieithoedd Tramor Modern (Gan arbenigo naill ai mewn Ffrangeg, Ffrangeg a Sbaeneg, neu Ffrangeg ac Almaeneg)

- Cerddoriaeth

- Addysg Gorfforol

- Ffiseg gyda Gwyddoniaeth

- Addysg Grefyddol

- Cymraeg

Dhanya Mattuvayal

Uwchradd – TAR (Ffiseg gyda Gwyddoniaeth)

“Rydw i wedi bod yn angerddol am addysgu Gwyddoniaeth erioed. Cefais swydd addysgu lawn amser cyn cwblhau fy nghwrs TAR, yr un fath â’r rhan fwyaf o’m cyd-athrawon dan hyfforddiant, sy’n dangos pa mor boblogaidd yw’r cwrs a’r galw am athrawon llwyddiannus.”
*Mewn blynyddoedd oni nodir yn wahanol
8 | Prifysgol Metropolitan Caerdydd

“Dewisais astudio ym Met Caerdydd gan

fy mod i’n gallu astudio drwy gyfrwng y Gymraeg. Mae’r gefnogaeth academaidd a chan fentoriaid wedi bod yn anhygoel; wna i byth anghofio’r gefnogaeth gawson ni yn yr wythnos gyntaf.”

Sganiwch i ddysgu mwy am ein rhaglenni ôl-raddedig neu ewch

www.metcaerdydd.ac.uk/ partneriaethcaerdydd

Cyfeiriadur Ôl-raddedig 2023 | 9

Ysgol Reoli Caerdydd

Sganiwch i ddysgu mwy am ein rhaglenni ôl-raddedig neu ewch i www.metcaerdydd.ac.uk/yrc

“Ar hyn o bryd, rwy’n cwblhau fy lleoliad gwaith yng Ngwesty Parkgate, Caerdydd fel Rheolwr Derbynfa, lle rwy’n gofalu am weithrediadau blaen tŷ ac yn gweithio fel Rheolwr

Lletygarwch pan fydd rygbi yn Stadiwm Principality. Rydw i wrth fy modd yn cyfarfod â phobl newydd o bob cwr o’r byd a darparu lletygarwch o’r radd flaenaf iddyn nhw.”

Gaurav Choudhry

Lletygarwch Rhyngwladol a Rheoli Twristiaeth – MSc/PgD/PGC

10 | Prifysgol Metropolitan Caerdydd

“Dewisais astudio MSc mewn Rheoli Marchnata

Digidol yn dilyn fy ngradd israddedig BA (Anrh)

Busnes a Rheoli gyda Marchnata, lle gwnes i ddarganfod fy angerdd am farchnata. Gyda’r cynnydd mewn digidol, roeddwn i’n teimlo y byddai perthnasedd y cwrs yn fy rhoi ar ben ffordd wrth gychwyn ar fy ngyrfa. Fe wnes i fwynhau pob agwedd ar y cwrs ac mae’r sgiliau a’r profiadau rydw i wedi’u hennill drwy Met Caerdydd wedi bod heb eu hail.”

Caitie Fitzpatrick

Rheoli Marchnata Digidol – MSc/PgD/PgC

Captivate Digital Marketing

Efallai y bydd cyrsiau proffesiynol a byr ychwanegol ar gael; mae’r rhestr ddiweddaraf ar y wefan. *Mewn blynyddoedd oni nodir yn wahanol

Y mynediad nesaf ar gyfer y cwrs hwn fydd ym mis Medi 2024.

Sylfaenydd
Rhaglenni a Addysgir Hyd* Cyfrifeg a Chyllid – MSc/PgD/PgC PR 1LIA/3RhA   Bancio a Chyllid – MSc/PgD/PgC PR 1LIA/3RhA   Rheoli Marchnata Digidol – MSc/PgD/PgC 1LIA/2RhA   Doethuriaeth mewn Rheoli (DMan) (Gradd Ddoethuriaeth a Addysgir) 3LIA/5RhA  Economeg a Chyllid – MSc/PgD/PgC PR 1LIA/3RhA  Rheoli Entrepreneuriaeth ac Arloesi – MSc/PgD/PgC 1LIA/3RhA  Rheoli Prosiect Digwyddiadau – MSc/PgD/PgC 1LIA/2RhA   Rheoli Marchnata Ffasiwn – MSc/PgD/PgC PR 1LIA/3RhA  Rheolaeth Ariannol – MSc/PgD/PgC PR 1LIA/3RhA  Rheoli Adnoddau Dynol – MSc/PgD/PgC 1LIA Rheoli Busnes Rhyngwladol – MSc/PgD/PgC 1LIA Rheoli Lletygarwch a Thwristiaeth Rhyngwladol – MSc/PgD/PgC 1LIA/2.5-3RhA   Rheoli’r Gadwyn Gyflenwi a Logisteg Ryngwladol – MSc/PgD/PgC 1LIA/3RhA  LLM Busnes Rhyngwladol – Gradd Meistr yn y Gyfraith PR 1LIA/3RhA Rheoli – Mhres/PgC 12-16 mis Rheoli Peirianneg Cynhyrchu – MSc/PgD/PgC 24 1LIA/2-4RhA   Rheoli Prosiectau – MSc/PgD/PgC PR 1LIA  Marchnata Strategol – MSc/PgD/PgC 1LIA/3RhA  Rhaglenni Addysg a Phroffesiynol Gweithredol Hyd Arweinyddiaeth a Rheoli Cynaliadwy 20Twenty – PGC – CMI Lefel 7 10 mis RhA  Tystysgrif / Diploma CIM mewn Marchnata Proffesiynol / Marchnata Digidol Proffesiynol RhA –
MBA – Gradd Meistr Gweithredol mewn Gweinyddu Busnes 2-3RhA  MBA – Mynediad Uwch 7 mis   MBA – Gradd Meistr mewn Gweinyddu
12-16 mis
24
Cyfeiriadur Ôl-raddedig 2023 | 11
gweler y wefan
Busnes (gyda llwybrau arbenigol)
PR Yn amodol ar adolygiad cyfnodol yn 2023

Ysgol Chwaraeon a Gwyddorau Iechyd Caerdydd (Chwaraeon)

*Mewn blynyddoedd oni nodir yn wahanol

** Oes gennych chi ddiddordeb mewn archwilio gradd Meistr Gwyddor Chwaraeon ac Ymarfer Corff neu Cryfder a Chyflyru, ond yn ansicr ble i ddechrau neu a yw eich profiad a’ch cefndir academaidd yn rhoi’r sylfaen gywir i chi? Gall ein rhaglen cyn-feistr cwrs byr roi cyfle i chi brofi gwyddor chwaraeon ym Met Caerdydd. I gael gwybod mwy e-bostiwch gdainty@cardiffmet.ac.uk

Sganiwch i ddysgu mwy am ein rhaglenni ôl-raddedig neu ewch i: www.metcaerdydd.ac.uk/ychgic

Rhaglenni a Addysgir – Chwaraeon Hyd* Gwyddorau Cymdeithasol Beirniadol Chwaraeon, Iechyd ac Addysg – Mhres/PgC 1LIA/2RhA  Rheoli Chwaraeon Rhyngwladol – MSc/PgD/PgC 1-2LIA/2-4RhA  Ymarfer Proffesiynol (Arweinyddiaeth Llywodraethu Chwaraeon) 1-2 LIA/2-4 RhA  Ymarfer Proffesiynol (Dadansoddi Perfformiad Chwaraeon) – MSc/PgD 1-2 LIA/2-4 RhA   Gwyddor Chwaraeon ac Ymarfer Corff – MSc/PgD/PgC** 1-2 LIA/2-4 RhA   Darlledu Chwaraeon – MSc/PgD/PgC 12-15 mis LIA/2-3 RhA  Hyfforddi Chwaraeon – MSc/PgD/PgC 1-2 LIA/2-4 RhA   Seicoleg Chwaraeon – MSc/PgD/PgC 1-2 LIA/2-4 RhA   Adsefydlu Chwaraeon – MSc/PgD/PgC 18 mis LIA/42 mis RhA   Chwaraeon, Moeseg a Chymdeithas – MA/PgD/PgC 1-2 LIA/2-4 RhA   Cryfder a Chyflyru – MSc/PgD/PgC** 1-2 LIA/2-4 RhA   Cryfder a Chyflyru – Mhres/PgC 1LIA/2RhA  Doethuriaeth a Addysgir mewn Hyfforddi Chwaraeon – DSC 3-4 LIA/hyd at 6 bl RhA   Datblygiad Athletaidd Pobl
1-2 LIA/2-4 RhA
Ifanc – MSc/PgD/PgC
12 | Prifysgol Metropolitan Caerdydd

“Mae’r rhaglen yn eich paratoi chi ar gyfer achrediad yr UKSCA (Cymdeithas Cryfder a Chyflyru’r Deyrnas Unedig), y prif Gorff

Llywodraethu ar gyfer cryfder a chyflyru sy’n rhoi mantais

wirioneddol i ni sy’n dilyn

gyrfaoedd yn y diwydiant hwn.

Yn ystod fy astudiaethau, cefais

brofiad o weithio gydag athletwyr perfformio o lu o chwaraeon a rhaglenni datblygu ieuenctid hefyd.”

Cyfeiriadur Ôl-raddedig 2023 | 13
Ryan Stevens Cryfder a Chyflyru – MSc/PgD/PGC

“Dewisais astudio gradd Meistr mewn iechyd a diogelwch galwedigaethol ar ôl bod yn dyst i ddigwyddiad difrifol mewn gweithle. Gwnaeth i mi deimlo’n angerddol am wneud y gweithle’n amgylchedd mwy diogel a chefais fy ysbrydoli i ddilyn gyrfa ym maes iechyd a diogelwch. Rydw i’n gweithio fel Cydgysylltydd Cydymffurfio Iechyd a Diogelwch yn Celsa Steel UK erbyn hyn, lle rwy’n ymwneud â phrosiect cydymffurfio cyfreithiol sy’n archwilio agweddau ymarferol at iechyd a diogelwch.”

Nireeksha Nadig Diogelwch, Iechyd a Lles Galwedigaethol – MSc/PgD/PgC

14 | Prifysgol Metropolitan Caerdydd

Ysgol Chwaraeon a Gwyddorau Iechyd Caerdydd (Gwyddorau Iechyd)

Sganiwch i ddysgu mwy am ein rhaglenni ôl-raddedig neu ewch i www.metcaerdydd.ac.uk/ychgic

Rhaglenni a Addysgir Hyd* Ymarfer Uwch – MSc/PgD/PgC gyda llwybrau mewn: 18 mis LIA/3RhA  - Awdioleg  - Astudiaethau Cyhyrysgerbydol  - Dieteteg   - Therapi Lleferydd ac Iaith   Iechyd Cyhoeddus Cymhwysol – MSc/PgD/PgC 2LIA/3LIA   Gwyddorau Biofeddygol – MSc/PgD/PgC 1LIA/2RhA  Gwyddorau Biofeddygol – Mhres/PgC 1LIA/2RhA  Gwyddorau Cymdeithasol Chwaraeon, Iechyd ac Addysg – Mhres/PgC 1LIA/2RhA  Technoleg Ddeintyddol – MSc/PgD/PgC (Dysgu o Bell) 3 LIA   Deieteg – MSc/PgD 1 LIA   Gwyddor a Thechnoleg Bwyd – MSc/PgD/PgC 12 mis LlA/rhaglen diwydiant 24 mis LlA Technoleg Bwyd ar gyfer Diwydiant – MSc/PgD/PgC (Dysgu o Bell) Hyd at 5 mlynedd   Seicoleg Fforensig – Doethuriaeth (D. Foren. Psy.) 2 LIA/4 RhA   Seicoleg Fforensig – MSc 1LIA/2RhA  Seicoleg Fforensig (Rhaglen Ymarferwyr) – PgD 2-5 LIA   Seicoleg Iechyd – MSc/PgD/PgC 1LIA/2RhA  Iechyd – Mhres/PgC 15 mis LIA/27 mis RhA  Seicoleg – Mhres/PgC 1LIA/2RhA  Strôc – Mhres/PgC 1LIA/2RhA  Diogelwch Galwedigaethol,
2 LIA/3 RhA  *mewn blynyddoedd
Iechyd a Lles – MSc/PgD/PgC
oni nodir yn wahanol
Cyfeiriadur Ôl-raddedig 2023 | 15

Ysgol Dechnolegau Caerdydd

*Mewn blynyddoedd oni nodir yn wahanol

**Mynediad ar gael ym mis Medi a mis Ionawr

Sganiwch i ddysgu mwy am ein rhaglenni ôl-raddedig neu ewch i www.metcaerdydd.ac.uk/ydc

“Fy mhrif reswm dros astudio’r cwrs MSc oedd i fy mharatoi ymhellach ar gyfer y diwydiant. Roeddwn i’n gwybod y gallwn i gael mwy o wybodaeth a phrofiad a fyddai’n rhoi cyfle i mi achub y blaen ar y gystadleuaeth. Mae’r wybodaeth ychwanegol am y diwydiant a gefais o’m cwrs MSc wedi bod yn amhrisiadwy.”
Cyfrifiadureg Uwch – MSc/PgD/PgC** 12-18 mis LIA/ 3RhA Diogelwch Cyfrifiadurol Uwch – MSc/PgD/PgC** 12-18 mis LIA/ 3RhA Gwyddor Data – MSc/PgD/PgC** 12-18 mis LIA/ 3RhA Rheoli Technoleg Gwybodaeth – MSc/PgD/PgC** 12-18 mis LIA/ 3RhA Roboteg a Deallusrwydd Artiffisial – MSc/PgD/PgC** 12-18 mis LIA/ 3RhA Rheoli Prosiectau Technoleg – MSc/PgD/PgC** 12-18 mis LIA/ 3RhA
Sarah-May McVey
Rheoli Technoleg Gwybodaeth
– MSc/PgD/PgC
Rhaglenni a Addysgir Hyd*
16 | Prifysgol Metropolitan Caerdydd

“Cefais foddhad mawr yn astudio ym Met Caerdydd gan fy mod i wedi gallu datblygu fy holl alluoedd i atgyfnerthu fy sgiliau

gwyddor data. Mae’r cwrs yn eich galluogi i archwilio cyfleoedd mewn unrhyw swyddi sy’n gysylltiedig â gwyddor data. Mae arweinwyr y modiwl yn gyfeillgar ac yn hawdd siarad â nhw, ac mae modd rhoi pob modiwl ar waith yn y gweithle.”

Cyfeiriadur Ôl-raddedig 2023 | 17
18 | Prifysgol Metropolitan Caerdydd

Astudiaeth ymchwil

Gyda chymuned ymchwil ôl-raddedig ffyniannus yn astudio amrywiaeth eang o bynciau, mae gan Met Caerdydd ymrwymiad cryf i gyflawni ymchwil sydd ar flaen y gad o ran archwilio gwybodaeth. Mae graddau ymchwil yn canolbwyntio ar astudio annibynnol, ac mae ymgeiswyr yn gweithio gyda’u goruchwylwyr i ganfod y rhaglen astudio fwyaf addas. Y cam cyntaf yw cysylltu â’r Arweinydd Astudiaethau Graddedigion yn yr Ysgol academaidd berthnasol sy’n gysylltiedig â’ch maes ymchwil bwriedig i sicrhau bod yr arbenigedd perthnasol gennym i’ch cefnogi chi.

“Mae Met Caerdydd wedi rhoi cyfle i mi wella fy mhrofiad a’m gwybodaeth yn y byd ymchwilio. Ochr yn ochr ag astudio PhD, rwy’n Gynorthwyydd Ymchwil ar gyfer Prosiect Ymchwil SHOUT4HE Erasmus+. Rydw i wedi gallu cynyddu fy ngalluoedd

academaidd mewn adolygiadau llenyddiaeth a dulliau ymchwil ar Fframweithiau Digidol – pwnc rwy’n teimlo’n angerddol amdano.”

Myfyriwr PhD Addysg – MA

Y brifysgol orau ond un yn Arolwg Profiad Ymchwil Ôlraddedig y DU 2022 gyda boddhad cyffredinol o 90%

Cyfeiriadur Ôl-raddedig 2023 | 19
#2

Cyfleoedd MPhil/PhD

Gan ddilyn llwybr traddodiadol, gallech astudio tuag at MPhil neu PhD. Dyfernir yr MPhil am gynhyrchu thesis hyd at 60,000 o eiriau sy’n darparu gwerthusiad a dadansoddiad beirniadol o gorff o wybodaeth neu gyfraniad gwreiddiol at ddysgu neu wybodaeth. Dyfernir PhD am gynhyrchu thesis o hyd at 100,000 o eiriau neu gyfwerth sy’n gwneud y naill beth a’r llall.

Doethuriaethau Proffesiynol

Efallai y byddwch yn penderfynu dilyn Doethuriaeth Broffesiynol, sy’n rhaglen fodiwlaidd gydag asesiadau sy’n cyfateb i 60,000 o eiriau ac sy’n gorfod dangos cyfraniad at ymarfer proffesiynol drwy gynhyrchu gwybodaeth newydd.

Mae pum dyfarniad Doethuriaeth Broffesiynol ar gael:

• Doethuriaeth mewn Gweinyddu Busnes (DBA)

• Doethuriaeth mewn Peirianneg (DEng)

• Doethuriaeth mewn Addysg (EdD)

• Doethuriaeth mewn Ymarfer Proffesiynol (DProf)

• Doethuriaeth yn yr Amgylchedd Adeiledig Cynaliadwy (DSBE)

Doethuriaethau

a Addysgir

Os oes gennych chi ddiddordeb ym

meysydd pwnc Rheoli neu Fusnes, Hyfforddi Chwaraeon neu Seicoleg

Fforensig, efallai y byddwch yn dymuno

gwneud cais am un o’n Rhaglenni

Doethuriaeth a Addysgir wedi’u teilwra.

Mae’r Doethuriaethau a Addysgir

mewn Rheoli, Hyfforddi Chwaraeon

neu Seicoleg Fforensig (Atodol)

yn mabwysiadu dull modiwlaidd o

ymholi, gan arwain at brosiect ymchwil

cymhwysol sydd ar flaen y gad yn y ddisgyblaeth academaidd a/neu’r maes ymarfer proffesiynol perthnasol.

“Mae gan y Brifysgol yr holl adnoddau sydd eu hangen arnaf i ganolbwyntio ar fy ymchwil. Mae dysgu gan staff a rhannu arbenigedd wedi ychwanegu gwerth at fy astudiaethau ac wedi helpu i ehangu fy ffocws ar y darlun ehangach mewn ymchwil cysylltiedig â seiber. Gallaf siarad yn rhwydd gyda’m goruchwylwyr ac maent yn gefnogol, ac mae eu hadborth wedi bod yn hynod ddefnyddiol. Gyda’u harweiniad a’u cyfarwyddyd, dwi wedi cael y cyfle i gyhoeddi nifer o erthyglau, mynychu cynadleddau a seminarau, cyflwyno fy ngwaith, sefydlu cysylltiadau gwerthfawr a datblygu fy ngyrfa. Os ydych chi’n ystyried gwneud eich ymchwil a datblygu eich gwybodaeth dechnegol, bydd astudio ym Met Caerdydd yn gwneud i hynny ddigwydd i chi hefyd.”

20 | Prifysgol Metropolitan Caerdydd
Vibhushinie Bentotahewa Seiberddiogelwch – PhD

Gwybodaeth a dolenni defnyddiol

Sut i Wneud Cais

Ar gyfer y rhan fwyaf o'n rhaglenni, gellir gwneud ceisiadau ar-lein drwy ein system hunanwasanaeth. www.metcaerdydd.ac.uk/ hunanwasanaeth

Os ydych yn gwneud cais ar gyfer ein rhaglenni addysg gychwynnol i athrawon (TAR Cynradd neu TAR Uwchradd) dylech wneud cais ar-lein ar wefan UCAS yn www.ucas.com. Bydd ceisiadau’n agor ym mis Hydref. Rydym yn annog eich bod yn gwneud cais yn gynnar ar gyfer ein rhaglenni TAR Cynradd oherwydd y galw mawr am leoedd.

Am ragor o wybodaeth, cysylltwch

â’r Tîm Derbyniadau:  +44 (0)29 2041 6010  askadmissions@cardiffmet.ac.uk   Twitter: @CMetAdmissions www.metcaerdydd.ac.uk/ cyngoriymgeiswyr

Gallwch hefyd gael Sgwrs Fyw gyda ni trwy ein gwefan.

Ffioedd Dysgu a Chymorth Ariannol

Am y wybodaeth ddiweddaraf am ffioedd rhaglenni ôl-raddedig, proffesiynol ac ymchwil, ewch i'n gwefan yn: www.metcaerdydd.ac.uk/ffioedd-ôr

Mae gennym ystod o gefnogaeth ariannol ar gael i fyfyrwyr ôl-raddedig, gall gynnwys benthyciadau, bwrsariaethau, ysgoloriaethau a chymhellion hyfforddi (Rhaglenni TAR) i fyfyrwyr ôl-raddedig.

I ddarganfod mwy, ewch i: www.metcaerdydd.ac.uk/ ysgoloriaethau a www.metcaerdydd.ac.uk/ffioedd-ôr

Gostyngiad i Gyn-fyfyrwyr

Mae'r Brifysgol yn cynnig Cynllun Gostyngiad i Gyn-fyfyrwyr sy’n cynnig gostyngiad o 25% mewn ffioedd dysgu ar gyfer graddedigion Met Caerdydd sy’n cofrestru ar raglenni ôlraddedig. Am fwy o wybodaeth, cymhwysedd a thelerau, ewch i: www.metcaerdydd.ac.uk/ gostyngiadigyn-fyfyrwyr

Prifysgol Noddfa Chwilio @metcaerdydd 029 2041 6010 askadmissions@cardiffmet.ac.uk www.metcaerdydd.ac.uk/ôl-raddedig metcaerdydd.ac.uk

Turn static files into dynamic content formats.

Create a flipbook
Issuu converts static files into: digital portfolios, online yearbooks, online catalogs, digital photo albums and more. Sign up and create your flipbook.
Met Caerdydd - Astudio Ôl-raddedig, Proffesiynol ac Ymchwil - Cyfeiriadur Rhagleni - 2023 (Welsh) by Cardiff Metropolitan University - Issuu