Shwmai a chroeso i lyfryn haf 2013 Pontio!
Mae tîm Pontio’n falch o gyflwyno rhaglen haf sy’n amrywio o ddigwyddiadau graddfa fechan i sioeau graddfa fawr. A ninnau bellach wedi ymgartrefu yn ein siop dros dro ynghanol Bangor bydd cyfle i chi brofi a mwynhau tamaid o ddawns, cerdd, stori, ffilm a barddoniaeth i aros pryd, ond i chi alw heibio dros y misoedd nesaf.