Canllawiau Brand
I ddeunyddiau hysbysebu a recriwtio i ymgyrchoedd myfyrwyr a staff.
Dyma rai enghreifftiau: Taflenni a llyfrynnau; ymgyrchoedd print a digidol; cynnwys i’r we a’r cyfryngau cymdeithasol.




I ddeunyddiau hysbysebu a recriwtio i ymgyrchoedd myfyrwyr a staff.
Dyma rai enghreifftiau: Taflenni a llyfrynnau; ymgyrchoedd print a digidol; cynnwys i’r we a’r cyfryngau cymdeithasol.
Ein hunaniaeth brand mewn print ac ar ffurfiau digidol.
Mae’r logo wedi ei lunio i sicrhau cydbwysedd rhwng ei esthetig a’i eglurder. Rhaid peidio â newid, aflunio nac addasu graddfa na chyfrannedd yr arfbais, yr elfennau teipiedig na’u perthynas rhyngddibynnol mewn unrhyw ffordd.
Mae’r logo’n cynnwys yr arfbais a’r elfennau teipeidig ac ni ddylid gwahanu’r ddau heb ganiatâd y Cyfarwyddwr Brand ac Ymgyrchoedd.
Prif logoteip a’r prif logo terfynol Ail logoteip a’r ail logo terfynol
Mae ein lliwiau sylfaenol yn rhan allweddol o hunaniaeth ein brand a dylid eu defnyddio’n gyson ar draws hunaniaeth brand negeseuon marchnata a negeseuon i fyfyrwyr a hunaniaeth brand cyfathrebu corfforaethol.
Dylid bob amser ystyried gwelededd ac eglurder y nod brand wrth eu defnyddio.
Mae ein lliwiau’n unigryw i’n hunaniaeth brand ac rydym yn eu defnyddio ym mhob un o’n negeseuon.
Dim ond yn y lliwiau hyn y mae ein logo yn ymddangos, neu’r cyfan mewn du neu i neu mewn gwyn.
Prif Hunaniaeth Graidd
Dyma brif fersiwn lliw ein logo. Dylid ei ddefnyddio ym mhob neges.
Prif Hunaniaeth Graidd
Isod ceir enghreifftiau sy’n dangos sut i ddewis yr amrywiad lliw mwyaf priodol ar gyfer cefndir y cyfrwng.
Prif Amrywiadau ein Hunaniaeth Graidd
Weithiau bydd angen amrywiad ar ein logo. Mae’r fersiynau hyn yn cynnal ein brand yn ei gyfanrwydd.
Amrywiad 1 - Teip Gwyn
Amrywiad 2 - Du i Gyd
Amrywiad 3 - Gwyn i Gyd
Prif Hunaniaeth Graidd Amrywiad 1 - Teip Gwyn
Amrywiad 2 - Du i Gyd Amrywiad 3 - Gwyn i Gyd
Pryd bynnag y defnyddir ein dynodwyr ar gefndir lliw neu ffotograffig, mae elfennau’r arfbais yn aros yr un fath a gellir rhoi enw’r brifysgol mewn gwyn.
Dylid defnyddio’r fersiwn hwn o’r logo mewn cyfryngau mono fel hysbysebion un lliw neu sgrin-brintio ar nwyddau.
Dylid defnyddio’r fersiwn hwn o’r logo pan nad yw’r prif logo ac amrywiad 1 i’w gweld yn glir.
Mae Polisi Iaith Gymraeg Prifysgol Bangor yn galluogi’r brifysgol i gyflawni ei hamcan strategol o fod yn sefydliad dwyieithog sy’n cyfrannu’n flaengar at hyrwyddo a datblygu’r iaith Gymraeg.
Wrth greu cynnwys i wahanol sianeli, dylech fod yn ymwybodol o’r canlynol:
Gallwch uwchlwytho dogfennau i’w cyfieithu neu i’w prawf ddarllen yam:
https://www.bangor.ac.uk/canolfanbedwyr/translation
Dylid cyfeirio unrhyw gwestiynau ynglŷn â sut i sicrhau bod y ddwy iaith yn cael eu trin yn gyfartal at Ganolfan Bedwyr.
Rhaid i’r holl gynnwys fod yn ddwyieithog (ac eithrio ymgyrchoedd sydd wedi eu cyfeirio at fyfyrwyr a marchnadoedd rhyngwladol).
Dylid trin y Gymraeg a’r Saesneg yn gyfartal o ran ansawdd a gwelededd, ac mae’n rhaid i’r Gymraeg ymddangos yn gyntaf, felly dylai ymddangos naill ai uwchben neu i’r chwith o’r testun Saesneg.
Yn achos ymgyrchoedd neu gynnwys lle mae’n rhaid ystyried neges neu naratif yn ofalus i sicrhau eu bod yn gyson yn y ddwy iaith, cofiwch gynnwys swyddogion Canolfan Bedwyr o’r cychwyn cyntaf.
Rhaid i bob cynnwys i’r cyfryngau cymdeithasol fod yn ddwyieithog; dewiswch naill ai un sianel gyda chynnwys Cymraeg a Saesneg, lle mae’r Gymraeg yn cael ei rhoi yn gyntaf, neu ddwy sianel ar wahân.
Hashnodau
Wrth greu hashnodau i’w defnyddio mewn cynnwys gwreiddiol, gwnewch yn siŵr eu bod yn ddwyieithog. Os byddwch yn defnyddio hashnodau ar bostiadau Cymraeg, dylech eu rhoi ar ddiwedd y testun yn hytrach nag o fewn y testun, er mwyn sicrhau nad yw rheolau treiglo’n effeithio ar yr hashnodau.
URL
Dylai unrhyw ddolenni URL mewn postiad gyfeirio at y tudalennau yn yr iaith briodol ar y wefan. to the respective language pages on the website.
Rhaid cynhyrchu fideos yn y ddwy iaith, ond mae’n werth nodi nad oes rhaid i’r fersiynau Cymraeg a Saesneg fod yn union yr un fath â’i gilydd. Cyn belled â bod lefel y wybodaeth sydd yn y fideos yr un fath yn y ddau fersiwn a’u bod wedi eu cynhyrchu i safon debyg, mae gennych le i fod yn greadigol yn y ffordd rydych yn cynhyrchu’r math hwn o gynnwys.
Isdeitlau/Capsiynau a Thestun Amgen
Rhaid creu isdeitlau/capsiynau a thestun amgen yn y ddwy iaith, yn eu hieithoedd priodol. Os oes siaradwr Saesneg mewn fideo Cymraeg, defnyddiwch isdeitlau Saesneg ar gyfer y rhan honno, yn hytrach na dybio’r geiriau yn y Gymraeg.
Cardiau Fideo/ Mân-Luniau
Rhaid cynhyrchu cardiau fideo/ mân-luniau ym mhob iaith berthnasol gan ddefnyddio’r templed brand yn y ddogfen hon.
Teitlau, Disgrifiadau ac Allweddeiriau
Wrth uwchlwytho i Youtube, dylech ychwanegu teitlau, disgrifiadau ac allweddeiriau yn yr iaith berthnasol.
Ein ffurfdeip a sut i’w ddefnyddio.
https://fonts.google.com/specimen/Figtree
Ffurfdeip Eilaidd:
https://fonts.google.com/specimen/Noto+Sans
Penawdau: Figtree (Trwm)
Lorem Ipsum Dolor Sit Amet
Gellir addasu penawdau’n seiliedig ar eu cefndiroedd. Fodd bynnag, y canllaw cyffredinol yw y dylai penawdau ddefnyddio’r ffont Figtree mewn teitlau.
Peidiwch â defnyddio priflythrennau yn unig ar gyfer penawdau, gan y gall leihau hygyrchedd.
Os yw’r pennawd ar gefndir melyn, ni chaniateir testun gwyn er mwyn cydymffurfio â safonau hygyrchedd.
Yn wahanol i’r pennawd, dylai is-benawdau ddefnyddio priflythyren yn y gair cyntaf, a’r holl lythrennau eraill yn fach.
Yn ogystal, ni ddylai is-benawdau ddefnyddio’r cynllun lliw dau dôn a ddefnyddir ar gyfer y penawdau.
Penawdau dau dôn:
Ar gefndiroedd neu ddelweddau tywyllach, gall y pennawd ddefnyddio testun melyn a gwyn. Mae hyn yn sicrhau bod y geiriau yn parhau i fod yn glir ac yn hygyrch, heb effeithio’n andwyol ar y dyluniad.
Dylai’r prif gorff ddefnyddio Noto Sans Regular yn gyffredinol.
Gellir defnyddio pwysau trymach os oes angen, ond rhaid sicrhau nad ydynt yn gorlethu’r is-benawdau nac elfennau eraill.
Penawdau un lliw:
Nid oes rhaid i’r pennawd gynnwys dau dôn bob amser; gall hefyd ddefnyddio un lliw, fel du, gwyn, melyn neu goch, yn dibynnu ar ofynion penodol y dyluniad.
Ffurfdeip trydyddol i’w ddefnyddio mewn cyflwyniadau yn unig :
Os na ellir defnyddio ein prif ffont at ddibenion cyflwyno, defnyddiwch y ffont canlynol:
Arial - Arferol (corff y testun)
Arial - Canolig (is-benawdau)
Arial - Bold (prif benawdau)
Mae byw yn ein neuaddau preswyl fforddiadwy, cyfforddus a diogel yn ffordd ddelfrydol o wneud y gorau o’ch profiad prifysgol.
Gydag ychydig dros 2,600 o ystafelloedd, mae llety wedi’i warantu* bob ymgeisydd israddedig newydd yn un o’n pentrefi myfyrwyr sef Pentref y Santes Fair neu Bentref Ffriddoedd.
*I gael manylion llawn am ein gwarant llety ewch i bangor.ac.uk/llety
• Ystafelloedd gwely en-suite (gan rannu cegin)
• Ystafelloedd gwely fforddiadwy (gan rannu cegin ac mae rhai yn rhannu ystafelloedd ymolchi)
• Stiwdios (gydag ystafell wely en-suite a chegin fach breifat)
• Tai tref (gan rannu cegin / ystafelloedd ymolchi)
• Ystafelloedd hygyrch, gan gynnwys rhai â mynediad gadeiriau olwyn
• Darpariaethau i fyfyrwyr ag amhariad ar y clyw
• Neuaddau fyfyrwyr Cymraeg eu hiaith
• Neuaddau fyfyrwyr gofal iechyd
• Neuaddau tawel
• Fflatiau i ferched yn unig
• Fflatiau di-alcohol
Pob bil (dŵr, gwres, trydan) Wi-Fi cyflymder uchel
Atgyweirio a chynnal a chadw amserol
Ceginau a ardaloedd a rennir sy’n cael eu glanhau’n wythnosol
Yswiriant cynnwys Aelodaeth o’r gampfa ac aelodaeth Campws Byw
(yn seiliedig ar brisiau 2025/26)
Yn dechrau o £99
yr wythnos
Ystafell gydag ystafell ymolchi i’w rhannu
Yn dechrau o £119
yr wythnos Ystafell en-suite
Yn dechrau o £125
yr wythnos
Tŷ tref gydag ystafell ymolchi i’w rhannu
Yn dechrau o £210
yr wythnos
gydag en-
Ym Mangor, rydym yn rhoi pwyslais mawr ar gefnogi a gofalu am ein myfyrwyr. O reoli eich arian i ddod o hyd i swydd ar ôl graddio, mae ein gwasanaethau yno i’ch helpu wneud yn fawr o’ch amser yn y brifysgol.
Ymhlith y gwasanaethau sy’n cael eu cynnig i gefnogi myfyrwyr mae:
• Cyngor ariannol
• Cefnogaeth iechyd a lles
• Cyngor iechyd meddwl
• Cefnogaeth dyslecsia
• Cwnsela
• Gwasanaethau anabledd
• Tîm y Gaplaniaeth
• Cefnogaeth sgiliau astudio
Lliwiau Penawdau
Gellir addasu penawdau ac is-benawdau gydag unrhyw un o’n dewisiadau lliw, fel du ar felyn neu goch ar wyn. Mae’r hyblygrwydd hwn yn caniatáu i ddylunwyr greu cynlluniau sy’n weledol drawiadol gyda’r cyfyngiadau lleiaf posib, gan sicrhau bod gwybodaeth bwysig yn cael ei chyfleu’n effeithiol.
Os ydych yn ystyried eich opsiynau o ran gyrfa, yn gwneud profiad gwaith neu’n sefydlu eich busnes eich hun, byddwn yn cynnig cefnogaeth i chi ac yn darparu ystod o adnoddau i’ch helpu i ddatblygu eich cyflogadwyedd a’ch hyder ac i wireddu eich uchelgais o ran gyrfa
Mae rhai o’r adnoddau’n cynnwys:
• Hyb Cyflogadwyedd ar-lein
• Help i ddod o hyd i waith rhan amser, interniaethau, lleoliadau a phrofiad gwaith
• Cefnogaeth i baratoi a chwilio am swyddi ar ôl graddio
Awen Edwards
Y Gyfraith gyda Chymraeg (LLB), 2020
Cyfreithiwr yn DAC Beachcroft LLP, Llundain
• Cyfleoedd i wneud cais i gynllun interniaethau cyflogedig y Brifysgol.
• Rhaglen i ddatblygu eich sgiliau entrepreneuriaeth
• Llwybrau Sgiliau ar CyswlltGyrfa; cwrs arlein i’ch helpu baratoi ar gyfer eich gyrfa ddelfrydol
Pennawd Dau Dôn
(ddim yn addas i is-benawdau)
Pennawd dau dôn y gellir ei addasu gydag unrhyw un o’r cyfuniadau lliw. I gynyddu’r effaith, gallwch addasu maint y llinell gyntaf o’i gymharu â’r ail linell, gan greu pennawd mwy deinamig a deniadol.
Gellir rhoi pwyntiau mwy mewn print trwm i bwysleisio negeseuon allweddol, a ddefnyddir fel arfer ar gyfer datganiadau craidd neu uchafbwyntiau pwysig. Yna gellir gosod y testun sy’n weddill mewn print rheolaidd neu ganolig i greu hierarchaeth glir a sicrhau eglurder.
Dylai prif destun y corff fod naill ai’n ddu neu’n wyn, yn dibynnu ar ba un sy’n darparu’r cyferbyniad a’r eglurder gorau yn erbyn y ddelwedd neu’r graffig cefndirol. Dylid dewis y lliw yn ofalus i sicrhau eglurder a chydbwysedd gweledol, gan addasu i donau a chymhlethdodau’r cefndir. Mae’r hyblygrwydd hwn yn caniatáu i’r testun sefyll allan yn effeithiol tra’n cadw dyluniad cyffredinol cytûn.
Arfbeisiau ein Brand a sut i’w defnyddio.
Tryloywder
Y prif ddefnydd o’r arfbais ar unrhyw ddeunydd yw at ddiben marchnata a negeseuon i fyfyrwyr. NI DDYLID ei gamgymryd am yr arfbais gyfathrebu corfforaethol.
Mae’r arfbais wedi ei hailgynllunio’n benodol fel addasiad o’r arfbais frandio corfforaethol.
Mae’r fersiwn hwn wedi ei deilwra i apelio’n well at ein cynulleidfa darged, gan gynnig dyluniad mwy deniadol ac apelgar. Trwy ymgorffori addasiadau sy’n canolbwyntio ar y defnyddiwr, rydym wedi gwneud yr arfbais yn fwy ymarferol a hefyd wedi sicrhau ei bod yn cyd-fynd yn weledol â dewisiadau a disgwyliadau ein defnyddwyr, gan sicrhau ei bod yn sefyll allan ac yn cysylltu â hwy’n fwy effeithiol.
Mae’r arfbais yn elfen amlbwrpas y gellir ei defnyddio mewn amrywiaeth eang o gyfryngau. Mae ei phresenoldeb cyson ochr yn ochr â’r prif logo yn hanfodol i gynnal cydlyniant a chydnabyddiaeth y brand. Fel dynodwr gweledol allweddol, bydd yr arfbais yn gwneud cyfraniad hanfodol at atgyfnerthu hunaniaeth y brand yn y dyfodol, gan sicrhau profiad brand unedig a chydlynol ar draws pob llwyfan.
Arfbais Wedi ei Thorri Allan
Gellir defnyddio siâp yr arfbais wedi ei thorri allan, a gellir rhoi delweddau yn y tu mewn, a gellir llenwi’r siâp allanol â lliw. Mae hyn yn creu cynrychiolaeth weledol o ffurf yr arfbais heb yr arfbais ei hun, gan gynnal ei hamlinelliad a’i strwythur a gwneud lle i gynnwys deinamig y tu mewn a’r tu allan.
Ongl 27°
Mae’r arfbais yn eistedd ar ongl sefydlog o 27°, ac mae’n rhaid iddi aros ar yr ongl honno. Mae’n hanfodol bod yr ongl hon yn gyson ar draws yr holl gyfryngau er mwyn cynnal cydlyniant gweledol ac uniondeb y brand.
Graddio
Gellir graddio’r arfbais yn gymesur, ond ni ddylid byth newid ei maint yn rhydd (h.y. ei hymestyn na’i hystumio).
Bydd lled y llinell hefyd yn graddio’n gymesur i gynnal cysondeb gweledol.
Mae wedi ei chynllunio i’w defnyddio mewn amrywiaeth o gymwysiadau heb effeithio’n andwyol ar ei siâp.
Gellir defnyddio tryloywder, gan gynnwys tryloywder graddiant, ar yr arfbais. Fodd bynnag, dylid ei ddefnyddio’n feddylgar i gynnal cyfanrwydd a gwelededd y dyluniad.
Aliniad
Gellir troi’r arfbais yn llorweddol i ddiwallu anghenion dylunio, ond ni ddylid byth ei throi’n fertigol. Mae cadw’r arfbais yn llorweddol yn allweddol i ddiogelu uniondeb ac adnabyddiaeth y dyluniad.
Enghreifftiau o’r arfbais.
Mae’r arfbais yn hynod amlbwrpas a gellir ei defnyddio at amrywiaeth eang o ddibenion. Dyma ychydig o enghreifftiau sy’n dangos ei photensial yn llawn. Mae hefyd yn hanfodol cynnwys yr arfbais ym mhob agwedd lle bo modd, ni waeth pa mor gynnil ydyw. Mae’r presenoldeb cyson hwn yn helpu cryfhau’r brand, gan sicrhau bod yr arfbais yn dod yn symbol adnabyddadwy, sy’n gysylltiedig yn eang â Phrifysgol Bangor.
L liw
Dim ond lliwiau coch a melyn y brand y dylai fod ar yr arfbais. Mae hyn yn sicrhau cysondeb ac yn atgyfnerthu hunaniaeth weledol y brand ym mhob cyhoeddiad.
Gellir defnyddio tryloywder, gan gynnwys tryloywder graddiant, ar yr arfbais. Fodd bynnag, dylid ei ddefnyddio’n feddylgar i gynnal cyfanrwydd a gwelededd y dyluniad.
Ongl 27°
Mae’r arfbais yn eistedd ar ongl sefydlog o 27°, ac mae’n rhaid iddi aros ar yr ongl honno. Mae’n hanfodol bod yr ongl hon yn gyson ar draws yr holl gyfryngau er mwyn cynnal cydlyniant gweledol ac uniondeb y brand.
Gellir graddio’r arfbais yn gymesur, ond ni ddylid byth newid ei maint yn rhydd (h.y. ei hymestyn na’i hystumio). Bydd lled y llinell hefyd yn graddio’n gymesur i gynnal cysondeb gweledol. Mae wedi ei chynllunio i’w defnyddio mewn amrywiaeth o gymwysiadau heb effeithio’n andwyol ar ei siâp.
Gellir troi’r arfbais yn llorweddol i ddiwallu anghenion dylunio, ond ni ddylid byth ei throi’n fertigol. Mae cadw’r arfbais yn llorweddol yn allweddol i ddiogelu uniondeb ac adnabyddiaeth y dyluniad.
Dylai’r arfbais wedi ei thorri allan ar gloriau cyhoeddiadau gadw ei siâp craidd er mwyn cysondeb, gan ganiatáu defnyddio fersiynau symlach pan fo angen i gynnal dyluniad glân a thaclus. Gall gormod o elfennau neu wybodaeth arwain at gynllun sy’n edrych yn anhrefnus.
Mae hyn hefyd yn gyfle i fanteisio’n effeithiol ar gynllun lliw coch a melyn y brand. Mae’n hanfodol cadw’r dull dylunio sy’n seiliedig ar ddelwedd, gan flaenoriaethu’r defnydd strategol o liwiau brand ar yr un pryd er mwyn sicrhau’r adnabyddiaeth orau.
bangor.ac.uk
Enghreifftiau o’r arfbais wedi ei thorri allan.
Yma, mae’r arfbais wedi ei thorri allan yn cael ei defnyddio ar glawr ac ar dudalen ddwbl, gan greu effaith weledol gref a fframio elfennau allweddol y dyluniad. Ar y clawr, mae’r arfbais yn helpu pwysleisio’r logo a’r brif neges, gan ddenu sylw ar unwaith.
Ar y dudalen ddwbl, mae’n parhau i dynnu sylw at gynnwys pwysig, gan gynnal ymdeimlad o strwythur a llif ar draws y tudalennau. Mae’r defnydd hwn yn dangos hyblygrwydd yr arfbais wedi ei thorri allan, gan wella’r cynllun cyffredinol a darparu golwg gydlynol.
Undeb Bangor, yw enw undeb y myfyrwyr, sy’n rhoi llais fyfyrwyr ac yn darparu canolbwynt fywyd myfyrwyr ym Mangor. Mae’r undeb wedi ei leoli ar bedwerydd llawr Pontio ac oddi yno maen nhw’n trefnu clybiau chwaraeon, rhwydweithiau, cymdeithasau a phrojectau gwirfoddoli.
Undeb Myfyrwyr Cymraeg
Bangor (UMCB) sy’n gofalu am les myfyrwyr Cymraeg eu hiaith a dysgwyr Cymraeg, ac unrhyw un arall sydd â diddordeb yn yr iaith Gymraeg a’i diwylliant ym Mangor.
Caiff Undeb y Myfyrwyr ei arwain gan gynrychiolwyr myfyrwyr etholedig sydd yno i gyfoethogi a gwella profiad myfyrwyr ym Mangor. Os oes unrhyw beth yr hoffech ei newid neu sydd angen cael ei newid, maent yno wrando arnoch a’ch cefnogi.
Galwad i Weithredu
LOREM IPSUM
LOREM IPSUM
Galwad i Weithredu
LOREM IPSUM
LOREM IPSUM
Y Cyfryngau Cymdeithasol a’r We
Mae ein dyluniad galwad i weithredu yn gwbl addasadwy ac yn defnyddio lliwiau ein brand - coch, melyn, gwyn a du. Mae’r lliwiau hyn yn sicrhau ymddangosiad cydlynol, sy’n cyd-fynd ag arddull a negeseuon cyffredinol eich cynnwys.
Gall yr alwad i weithredu hefyd ymgorffori gwybodaeth am y wefan, gan gynnig ffordd effeithiol o gynyddu traffig a gwella ein presenoldeb ar-lein.
Y Cyfryngau Cymdeithasol a’r We
Yn ogystal, mae ein set o eiconau cyfryngau cymdeithasol yn hanfodol i gynnal cysondeb y brand ar draws pob llwyfan. Rhaid cynnwys yr eiconau hyn ym mhopeth (lle bo modd) er mwyn hyrwyddo a chodi ymwybyddiaeth o’n negeseuon ar y cyfryngau cymdeithasol.
consectetuer adipiscing elit, sed diam nonummy nibh euismod tincidunt ut laoreet dolore magna aliquam erat volutpat. Ut wisi enim ad minim veniam, quis nostrud exerci tation ullamcorper suscipit lobortis nisl ut aliquip ex ea commodo consequat. Duis autem
LOREM IPSUM!
Ffrâm Troshaen
Testun Cynradd
Ffrâm Troshaen
Testun Eilaidd
consectetuer adipiscing elit, sed diam nonummy nibh euismod tincidunt ut laoreet dolore magna aliquam erater si.
nonummy nibh euismod tincidunt ut laoreet dolore magna aliquam erater si.
LOREM IPSUM!
consectetuer adipiscing elit, sed diam nonummy nibh euismod tincidunt ut laoreet dolore magna aliquam erater si.
nonummy nibh euismod tincidunt ut laoreet dolore magna aliquam erater si.
LOREM IPSUM!
Mae’r troedyn yn adran bwysig mewn deunyddiau print, ac mae’n cynnwys logo cynradd neu eilaidd y brand, yn dibynnu ar ba un sy’n gweddu orau i’r cyd-destun. Mae hefyd yn cynnwys dolenni hanfodol i lwyfannau cyfryngau cymdeithasol a’r wefan, gan gynnig mynediad hawdd at ddeunydd digidol.
Yn ogystal, gall y troedyn gynnwys gwybodaeth gyswllt, slogan byr, neu alwad i weithredu, gan atgyfnerthu hunaniaeth y brand ac annog ymgysylltiad â chwsmeriaid neu ddarllenwyr. Mae’r rhan hon yn sicrhau bod gwybodaeth hanfodol yn weladwy ac yn hygyrch bob tr
Ffrâm Cod QR
Ffrâm Orchudd Testun
Mae ein dyluniad yn seiliedig ar ddelweddau, sy’n gwneud y ffrâm orchudd testun yn hanfodol o safbwynt hygyrchedd. Trwy ddefnyddio’r elfen ddylunio hon, rydym yn sicrhau bod y testun wedi ei osod yn glir ar ben unrhyw ddelweddau cefndir heb effeithio’n andwyol ar eglurder.
Mae’r ffrâm troshaen testun wedi ei chynllunio’n benodol i wella eglurder, hyd yn oed mewn delweddau cymhleth neu ddwys yn weledol, trwy ddarparu cefndir gyda chyferbyniad uchel.
Mae’r dyluniad hwn yn caniatáu i ni gynnwys lluniau a chynnal safonau hygyrchedd, gan sicrhau bod y cynnwys yn hawdd ei ddarllen i bob defnyddiwr, gan gynnwys y rhai â nam ar eu golwg neu mewn amgylcheddau gwylio heriol.
Mae gan y ffrâm cod QR gefndir gwyn gyda ffrâm felen, sy’n cydfynd â hunaniaeth ein brand ac yn sicrhau eglurder gweledol.
Dangos a Rhannu Delweddau ein Brand.
Dilys
Dylech osgoi delweddau sydd yn edrych yn annaturiol neu ddelweddau stoc; canolbwyntiwch ar eiliadau go iawn.
Parchu Preifatrwydd
Gofynnwch am ganiatâd bob tro i dynnu lluniau newydd o fyfyrwyr neu’r cyhoedd.
Ffurflen gydsynio a chanllawiau: https://bangor.canto.global/v/PrifysgolBangorUniversity/album/ UE6N6?display=curatedView&viewIndex=1&referenceTo=&from=thumbnail
Mae delweddau wrth wraidd ein brand, ac yn tynnu sylw at fywyd byrlymus a rhagoriaeth academaidd Prifysgol Bangor.
Rydym yn canolbwyntio ar luniau gonest a phroffesiynol sy’n dangos pa mor wych yw ein campws, ein cymuned a’r ardal o’n cwmpas.
Ein Llyfrgell
Ddelweddau:
Defnyddiwch Canto ar gyfer delweddau stoc y brifysgol — llyfrgell ddelweddau a fideo swyddogol Prifysgol Bangor.
https://bangor.canto.global/v/ PrifysgolBangorUniversity/ landing?viewIndex=1
Gonest a Naturiol
Dangoswch eiliadau digymell, bywyd go iawn - myfyrwyr yn sgwrsio, yn astudio neu’n mwynhau bywyd ar y campws.
Ansawdd Proffesiynol
Dylech sicrhau bod y delweddau o ansawdd uchel, wedi eu goleuo’n dda ac yn adlewyrchu proffesiynoldeb y brifysgol.
Amrywiaeth
Dangoswch ein cymuned amrywiol trwy ddelweddau cynhwysol o wahanol grwpiau ethnig, rhywedd a chefndiroedd.
Gwrthrych
Bywyd ar y Campws
Dangoswch fyfyrwyr a staff yn cymryd rhan mewn gweithgareddau ar y campwsdosbarthiadau, digwyddiadau cymdeithasol a chwaraeon.
Rhagoriaeth Academaidd
Tynnwch sylw at fyfyrwyr mewn lleoliadau academaidd, labordai ac amgylcheddau ymchwil.
Yr Amgylchedd
Dylech gynnwys lluniau o amgylchoedd naturiol godidog Bangor, gan gynnwys yr arfordir a’r mynyddoedd.
Canllawiau Delweddau
Canolbwyntio ar Bobl
Canolbwyntiwch y delweddau ar bobl i greu cysylltiad.
Golau Naturiol
Defnyddiwch olau naturiol lle bo modd i greu teimlad cynnes a dilys.
Cysondeb
Defnyddiwch yr un arddull ar bob llwyfan gyda golygu cynnil a thonau naturiol.
Mae atgyffwrdd delweddau ar ôl sesiwn dynnu lluniau yn hanfodol i fanteisio i’r eithaf ar asedau gweledol. Mae’n dod â chysondeb, yn gwella’r estheteg gyffredinol ac yn caniatáu ichi gyflwyno hunaniaeth brand yn gynnil lle bo’n briodol.
Y nod yw ychwanegu bywiogrwydd ac egni a sicrhau bod y ddelwedd yn naturiol ac yn ddeniadol.
Nid yw atgyffwrdd yn ymwneud â newid y llun, mae’n ymwneud â gwella’r hyn sydd yno eisoes i ysbrydoli a chysylltu â’r gynulleidfa.
Gwreiddiol
1. Pan fydd delwedd yn edrych yn dywyll ac yn ddirlawn i ddechrau, mae ôlgynhyrchu yn caniatáu i ni ei bywiogi.
Wedi Addasu: Disgleirdeb a Chyferbyniad
2. Efallai bod y cyfansoddiad yn gryf, ond efallai nad oedd y golau’n ddelfrydol, felly rydym yn addasu’r disgleirdeb a’r cyferbyniad i efelychu amgylchedd gyda golau gwell.
Wedi Addasu: Arlliw a Dirlawnder
3. Yna rydym yn cynyddu arlliw a dirlawnder i wella lliwiau allweddol. Mae’n bwysig osgoi gormod o ddirlawnder, gan ei fod yn gallu gwneud i’r ddelwedd edrych yn afrealistig.
Lle bo modd, dylid cynnwys lliwiau’r brand mewn modd cynnil. Yn yr achos hwn, roedd cadeiriau coch eisoes yn bresennol yn y ddelwedd.
Trwy fireinio’r arlliw a’r dirlawnder, roeddem yn gallu amlygu ‘coch Bangor’ yn naturiol heb iddo deimlo’n artiffisial.
Mae ein cynnwys ffotograffiaeth a fideo symudol yn rhan hanfodol o’n hunaniaeth weledol. Mae’r canllawiau hyn yn sicrhau cysondeb ac ansawdd wrth gasglu cyfryngau clir, deniadol a phroffesiynol ar gyfer pob llwyfan.
P’un a ydych yn ffilmio ar leoliad neu mewn amgylchedd mwy rheoledig, dilynwch yr arferion gorau hyn i gynnal golwg a theimlad unedig yn holl gynnwys y brifysgol.
Awgrymiadau Fideograffeg
Cymhareb Agwedd a Chydraniad
Ffilmiwch mewn 1080p (Full HD) am fideo clir. Defnyddiwch 16:9 i fideos safonol, neu 9:16 i’r cyfryngau cymdeithasol.
Ffocws ac Aramlygiad
Tapiwch y sgrin i ganolbwyntio ar y pwnc. Clowch yr aramlygiad i osgoi newidiadau i’r golau yn ystod y recordiad.
Ansawdd Sain
Defnyddiwch feicroffon allanol i gael sain gliriach. Gwnewch recordiad prawf cyflym i wirio ansawdd y sain.
Goleuo
Defnyddiwch olau meddal, naturiol neu oleuadau cylch i osgoi cysgodion llym..
Sefydlogi
Galluogwch y nodwedd sefydlogi neu defnyddiwch drybedd i osgoi lluniau sigledig.
Mae rheol y traeanau yn ganllaw cyfansoddi sy’n awgrymu rhannu delwedd yn naw rhan gyfartal gan ddefnyddio dwy linell lorweddol a dwy linell fertigol sydd wedi eu gosod yn gyfartal.
Y syniad yw gosod elfennau pwysig ar hyd y llinellau neu yn y croesffyrdd a elwir yn bwyntiau pŵer, er mwyn creu delwedd fwy cytbwys, diddorol ac apelgar yn weledol.
Awgrymiadau Ffotograffiaeth
Cymhareb Agwedd a Chydraniad
Defnyddiwch y cydraniad uchaf sydd ar gael. Ffilmiwch mewn 4:3 neu 16:9, yn dibynnu ar y pwrpas.
Ffocws ac Aramlygiad
Tapiwch y sgrin i ganolbwyntio ar y pwnc. Clowch yr aramlygiad trwy ddal y pwynt ffocws ar y sgrin.
Goleuo
Defnyddiwch olau meddal neu naturiol i osgoi cysgodion llym. Osgowch olau haul uniongyrchol i atal aramlygiad gormodol.
Sefydlogrwydd
Daliwch y ffôn yn llonydd neu defnyddiwch drybedd i osgoi lluniau aneglur.
Defnyddiwch reol y traeanau ar gyfer lluniau cytbwys.
Dylech sicrhau bod y cefndir yn syml ac yn lân.
Ymgysylltu
Ar y cyfryngau cymdeithasol, dylai delweddau fod yn ddeinamig, yn ddeniadol, ac yn addas i bobl edrych arnynt yn gyflym. Dylent adlewyrchu natur egnïol a bywiog Prifysgol Bangor.
Cymhareb Agwedd
Dylech sicrhau bod delweddau wedi eu fformatio’n gywir i wahanol lwyfannau.
Cysondeb Brand
Cadwch y naws yn gyson â llwyfannau eraill - yn ddilys, yn broffesiynol, ac yn adlewyrchu gwerthoedd Bangor. Osgowch hidlwyr neu olygiadau rhy annaturiol.
Hashnodau a Chapsiynau
Defnyddiwch gapsiynau clir a chryno gydag hashnodau perthnasol. Dylech sicrhau bod y delweddau’n cyd-fynd â negeseuon allweddol ac ymgyrchoedd y brifysgol.
Arfbais
Rhywbeth sy’n ddymunol er nad yw’n hanfodol yw cynnwys logo Prifysgol Bangor a’r arfbais ar ddyluniadau sy’n seiliedig ar ddelweddau. Mae’n ychwanegu at adnabyddiaeth brand ac yn helpu cynnal cysondeb gweledol ar draws llwyfannau.
Lleoliad
Os cânt eu defnyddio, dylech sicrhau bod y logo a’r arfbais wedi eu gosod mewn ffordd sy’n ategu’r ddelwedd heb ei gorlethu.
Cadwch digon o le o amgylch y logo er mwyn iddo fod yn weladwy.
Neges ar ffrwd (Sgwâr): 1:1 (1080 x 1080 px)
Neges ar ffrwd (Tirwedd): 1.91:1 (1080 x 566 px)
Neges ar ffrwd (Portread): 4:5 (1080 x 1350 px)
Straeon: 9:16 (1080 x 1920 px)
Facebook Neges ar ffrwd (Sgwâr): 1:1 (1080 x 1080 px) Neges ar ffrwd (Tirwedd):
Paratowch/gwiriwch eich cynnwys cyn uwchlwytho eich fideo
Cytunwch ar deitl a disgrifiad i’r fideo ymlaen llaw a chofiwch sicrhau bod gennych enwau unrhyw bobl/ ysgolion/cwmnïau sy’n gysylltiedig (unrhyw gyfrifon i’w tagio trwy YouTube, os yn berthnasol).
Awgrymiadau:
Teitl a Disgrifiad: Gwnewch yn siŵr fod eich teitl a’ch disgrifiad yn llawn gwybodaeth ac yn ddengar gan y bydd hynny’n helpu pobl i ddod o hyd i’ch fideo mewn canlyniadau chwilio. Ceisiwch osgoi ychwanegu dyddiadau oni bai ei fod yn benodol iawn h.y. graddio 2025. Bydd YouTube bob amser yn dangos y dyddiad a’r amser y cafodd y fideo ei uwchlwytho.
Geiriau Allweddol: Er mwyn ceisio cael y nifer fwyaf o bobl i wylio a hoffi eich fideo, agorwch YouTube mewn ffenestr newydd a dechreuwch deipio allweddair sy’n gysylltiedig â’ch fideo (e.e. ‘dyddiau agored’ neu ‘dyddiau agored y brifysgol’). Bydd YouTube yn awgrymu chwiliadau cysylltiedig. Gallwch wneud yr un peth ar beiriant chwilio fel Google. Defnyddiwch yr awgrymiadau hyn i bennu’r teitl a’r geiriau allweddol gorau i ddisgrifio eich fideo.
Dylai’r llinell neu ddwy gyntaf yn y disgrifiad gynnwys y wybodaeth bwysicaf gan fod YouTube yn byrhau’r disgrifiad.
Ychwanegwch ddolenni a galwadau i weithredu: Rhowch ddolenni i’ch cyfrifon cyfryngau cymdeithasol, fideos cysylltiedig neu wefannau allanol. Anogwch wylwyr i hoffi, rhoi sylwadau a thanysgrifio.
Mae is-deitlau a phenawdau’n hanfodol i wneud eich fideos yn hygyrch i gynulleidfa ehangach, gan gynnwys pobl sy’n drwm eu clyw, yn ogystal â phobl sy’n siarad ieithoedd gwahanol neu sy’n well ganddynt wylio cynnwys mewn iaith y maent yn ei deall.
Mae ychwanegu is-deitlau yn gwella hygyrchedd ac mae hefyd yn ei wneud yn haws i bobl ddod o hyd i’ch cynnwys.
Gall algorithmau chwilio YouTube fynegeio’r testun yn eich is-deitlau, a all roi hwb i welededd eich fideo mewn canlyniadau chwilio a chynyddu ei gyrhaeddiad.
Pan fydd angen is-deitlau, mae’n well eu creu cyn uwchlwytho eich fideo i sicrhau cywirdeb a chysondeb.
Gallwch ddefnyddio rhaglenni fel Clideo a Clipomatic sy’n eich galluogi i gynhyrchu a golygu is-deitlau â llaw. Mae hefyd yn bwysig gwirio eich isdeitlau am wallau sillafu a gwallau gramadegol i sicrhau proffesiynoldeb. Yn ogystal, mae cydamseru cywir yn hollbwysig.
Cofiwch sicrhau bod yr is-deitlau yn cyfateb i amseriad y ddeialog neu’r sain yn eich fideo. Gall is-deitlau sydd wedi eu hamseru’n wael ddrysu gwylwyr a difetha eu profiad.
Mae YouTube yn cynnig system greu penawdau awtomatig ei hun sy’n cynhyrchu is-deitlau yn awtomatig ar ôl i chi uwchlwytho eich fideo, ond yn aml maent yn llai cywir nag is-deitlau a grëwyd â llaw. Er mwyn sicrhau’r ansawdd uchaf a gwell rheolaeth dros eich cynnwys, argymhellir uwchlwytho eich ffeiliau isdeitl .SRT eich hun. Gallwch wneud hyn yn uniongyrchol trwy YouTube Studio.
Yn ogystal â sicrhau cywirdeb, mae creu eich is-deitlau eich hun yn gwella SEO eich fideo, gan y bydd YouTube yn mynegeio’r cynnwys yn y penawdau, gan wneud eich fideo yn fwy tebygol o ymddangos mewn ymholiadau chwilio perthnasol. Os ydych yn targedu cynulleidfaoedd rhyngwladol, mae YouTube hefyd yn cynnig nodwedd cyfieithu awtomatig i is-deitlau, er efallai nad yw bob amser yn berffaith gywir.
Penawdau Caeedig:
Mae’r rhain yn benawdau dewisol y gall gwylwyr eu troi ymlaen neu eu diffodd wrth wylio fideo.
Maent wedi eu hamgodio fel ffeil ar wahân (e.e. .srt) ac maent yn caniatáu i ddefnyddwyr ddewis a ydynt am eu harddangos.
Mae’n well gan rai pobl benawdau caëedig oherwydd eu bod yn cynnig hyblygrwydd ac mae YouTube yn gallu eu cyfieithu neu eu cynhyrchu’n awtomatig ar gyfer gwahanol ieithoedd.
Penawdau Agored:
Mae’r rhain bob amser yn weladwy oherwydd eu bod yn cael eu “llosgi i mewn” i’r fideo ei hun. Ni all gwylwyr eu diffodd.
Gall penawdau agored fod yn ddewis da os ydych eisiau sicrhau bod y penawdau’n weladwy bob amser, waeth beth y llwyfan neu osodiadau’r gwyliwr.
Fodd bynnag, nid oes modd eu haddasu fel y gellir gwneud â phenawdau caeedig ac ni ellir eu golygu na’u cyfieithu ar ôl eu huwchlwytho.
Arfer Gorau ar Gyfer YouTube:
Wrth ychwanegu penawdau at eich fideos YouTube, mae’n bwysig deall y gwahaniaeth rhwng penawdau caeedig a phenawdau agored.
Defnyddiwch benawdau caeedig i sicrhau’r hygyrchedd a’r hyblygrwydd mwyaf posib.
Maent yn gwella pa mor hawdd yw hi i bobl ddod o hyd i’ch fideo trwy fynegeio allweddeiriau, maent yn gwella profiad gwylio siaradwyr ail iaith ac maent yn ofynnol i gydymffurfio â safonau hygyrchedd.
Saesneg
https://www.youtube.com/@ bangoruniversity
Cymraeg
https://www.youtube.com/channel/ UCn7s3nQ7EeegkdpSBLmzVrg
1. Cliciwch ar yr eicon “create” yng nghornel dde uchaf y dudalen, ac yna cliciwch ar y botwm “upload video”.
2. Cliciwch ar “select files” a dewiswch y ffeil fideo rydych eisiau ei huwchlwytho (neu gallwch lusgo a gollwng).
3. Ychwanegwch fanylion y fideo (teitl, disgrifiad, tagiau)
4. Crëwch fân-lun trwy ddefnyddio templed mân-luniau swyddogol y brifysgol i sicrhau cysondeb brand.
5. Optimeiddio chwilio - gwnewch yn siŵr bod eich fideo wedi ei optimeiddio trwy gynnwys allweddeiriau perthnasol yn eich teitl, disgrifiad a thagiau.
6. Os ydych yn uwchlwytho cynnwys ffurf hir, ychwanegwch benodau fideo trwy gynnwys stampiau amser yn y disgrifiad.
7. Ychwanegwch y fideo at restrau chwarae perthnasol: Trefnwch eich fideos yn rhestrau chwarae sy’n gysylltiedig â themâu. Mae rhestrau chwarae yn helpu i gynyddu amser gwylio oherwydd bod YouTube yn chwarae’r fideo nesaf yn y rhestr yn awtomatig.
8. Ychwanegwch sgriniau diwedd i hyrwyddo fideos eraill neu i annog gwylwyr i danysgrifio.
9. Defnyddiwch anodiadau i ychwanegu dolenni, galwadau i weithredu neu wybodaeth arall.
10. “PUBLISH”.
Tagiau - Allweddeiriau
Mae tagiau YouTube yn helpu YouTube i ddeall cynnwys a chyd-destun eich fideo er mwyn ei gysylltu â chynnwys tebyg a fydd yn cynyddu cyrhaeddiad eich fideo. Mantais arall yw bod y tagiau hyn hefyd yn ein helpu i drefnu a dod o hyd i’n cynnwys ein hunain (e.e. Diwrnod Agored 2025).
Gall tagiau hefyd fod yn gwestiynau fel “pa brifysgol sydd â’r diwrnod agored gorau?” (a all yn aml fod yn ganlyniad i’r chwiliadau mwyaf poblogaidd gan wylwyr er enghraifft).
Hashnodau
Gellir defnyddio hashnodau hefyd fel tagiau yn ogystal ag yn y disgrifiad o’r fideo (neu hyd yn oed y teitl). Lle bynnag y bo’n bosib, gwnewch yn fawr o bynciau neu hashnodau cyfredol poblogaidd.
Keywordtool.io
Defnyddiwch Keywordtool.io i chwilio am eiriau allweddol perthnasol (sicrhewch eich bod ar y nodwedd YouTube).
Google YouTube Trends
Mae Google YouTube Trends yn cynnig cymhariaeth rhwng termau chwilio lluosog i benderfynu pa air neu ymadrodd a allai ennyn y diddordeb mwyaf.
Rydym yn argymell bod pob fideo yn cynnwys y tagiau canlynol:
Bangor
Prifysgol Bangor
Prifysgol Bangor
Y brifysgol
Prifysgol
Myfyrwyr
Myfyrwyr
Yna dylech ychwanegu tagiau ychwanegol sy’n benodol i’r fideo.
Cardiau Fideo
Mae cardiau fideo yn hysbysiadau wedi eu fformatio ymlaen llaw sy’n ymddangos ar y fideo YouTube y gallwch eu gosod i hyrwyddo dolenni eraill a fideos eraill ar eich sianel e.e. pan fydd rhywun yn y fideo yn sôn am ddiwrnod agored, gall blwch bach gyda dolen i fideo o ddiwrnod agored ymddangos ar y sgrin.
Mae cardiau fideo yn ffordd wych o ennyn diddordeb y gwyliwr a gallwch eu hychwanegu cyn y pwyntiau ‘gollwng’, lle mae gwylwyr yn fwy tebygol o glicio i fynd i rywle arall.
Mae hyn yn rhoi cyfle i ailgyfeirio’r gwyliwr i gynnwys arall gan Brifysgol Bangor.
Mae penodau fideo yn ffordd wych o rannu fideo YouTube yn adrannau, pob un â rhagolwg unigol.
Mae hyn yn ei gwneud hi’n haws i’r gwyliwr lamu dros rai rhannau neu ail-wylio rhai rhannau ac mae’n rhan bwysig o optimeiddio peiriannau chwilio. Mae’r rhain yn ddelfrydol ar gyfer fideos hirach
I greu penodau fideo, rhaid i chi gynnwys stampiau amser yn y disgrifiad fideo. Mae pob stamp amser yn nodi dechrau adran neu bwnc newydd yn y fideo.
Fformat:
Y fformat ar gyfer stampiau amser yw 00:00 - Teitl y bennod, gyda phob pennod yn dechrau ar linell newydd. Stamp amser cyntaf: Dechreuwch gyda 00:00 fel y stamp amser cyntaf i nodi cyflwyniad neu ddechrau eich fideo. Mae hyn yn ofynnol er mwyn i YouTube adnabod y penodau.
Enghraifft:
00:00 - Cyflwyniad
01:30 - Cyngor teithio rhad
04:00 - Perlau cudd Paris
07:15 - Llefydd gorau i fwyta
10:00 - Casgliad
Dylech Sicrhau Bod y StampiauAmser yn Dilyn ei Gilydd:
Dylech sicrhau bod pob stamp amser mewn trefn ac nad yw’n gorgyffwrdd â’r un blaenorol. Os byddwch yn hepgor amser, ni fydd YouTube yn cynhyrchu’r penodau’n iawn.
Uwchlwythwch y Fideo:
Ar ôl ychwanegu’r stampiau amser at eich disgrifiad, uwchlwythwch neu ddiweddarwch y fideo. Bydd YouTube yn creu penodau y gellir eu clicio yn awtomatig yn seiliedig ar y stampiau amser.
Wrth uwchlwytho fideo, rhaid creu mân-lun gan ddefnyddio templed mân-luniau swyddogol y brifysgol.
Mae’r templed wedi ei gynllunio i adlewyrchu arddull brand y brifysgol. Gwnewch yn siŵr eich bod yn dilyn y cynllun a’r cynllun lliw yn union fel y darperir i gadw ein sianel yn edrych yn gyson a phroffesiynol.
Cadwch at y canllaw arddull o ran ffurfdeip, lliwiau a graffeg. Mae hyn yn sicrhau bod y mân-luniau yn hawdd eu hadnabod ar draws yr holl fideos ac mae hynny’n gwneud i’r sianel edrych yn unedig.
Peidiwch â stwffio gormod o elfennau neu eiriau yn y mân-lun. Dylai fod yn glir, yn lân ac yn berthnasol, gan roi dealltwriaeth gyflym i wylwyr o gynnwys y fideo.
Lorem ipsum dolor sit amet at Bangor University
Bangor University
Bangor, Gwynedd, LL57 2DG
Ffôn: 01248 351151
E-bost: brand@bangor.ac.uk
Mae Prifysgol Bangor yn elusen gofrestredig: Rhif 1141565
www.bangor.ac.uk