Chwefror 2013 Llongyfarchiadau i Sian Elin Powell - sydd yn diwtor Cymraeg i'r Teulu, ac yn un o fyfyrwyr y cymhwyster eleni - ar enedigaeth mab bach Owain Myfyr ar ddydd calan. Mae Sian yn byw yn Llanelidan ger Rhuthun ag yn briod 창 Gareth.
Rydym ni wedi dechrau blog newydd ar gyfer tiwtoriaid Cymraeg i Oedolion. Gwefan ydy hon sy'n trafod/rhannu syniadau am addysgu Cymraeg i Oedolion a'r maes yn gyffredinol.
www.ywers.com Dyma gyferiad y safle, gobeithio bydd y safle'n fuddiol a diddorol i chi. Bydd y safle'n cael ei ddiweddaru'n wythnosol. Os ydych yn teimlo bod gennych chi syniadau yr hoffech eu trafod neu eu rhannu, cysylltwch gyda mi lowri.m.jones@bangor.ac.uk Hefyd, mae croeso i chi ysgrifennu unrhyw sylwadau ar y blog a thrafod ymysg eich gilydd!