Youth Training Evaluation - Welsh

Page 1

CYMRU WELL WALES CANOLFAN CYMORTH ACE CYMRU GWEITHLU IEUENCTID ADRODDIAD GWERTHUSO MAWRTH 2019 Wedi’i baratoi gan Paperboat


TABL CYNNWYS 1 | CRYNODEB GWEITHREDOL

3

2 | CYFLWYNIAD A CHYD-DESTUN

4

2.1 Cefndir y Prosiect

4

2.2 Canlyniadau’r Prosiect

4

2.3 Gweithgareddau Prosiect

5

3 | METHODOLEG

6

3.1 Diben y Gwerthusiad

6

3.2 Casglu Data

6

3.3 Heriau Ymchwil

6

4| CANFYDDIADAU’R PROSIECT

6

4.1 Trosolwg o’r Prosiect

6

4.2 Effaith Uniongyrchol hyfforddiant i ymarferwyr

7

4.3 Effaith hirdymor ar ddarpariaeth gwaith ieuenctid

9

4.4 Heriau darpariaeth

12

4.5 Canlyniadau Ychwanegol

13

4.6 Gwerth y Model Hyfforddi’r Hyfforddwr

13

5 | CRYNODEB O’R CANFYDDIADAU AC ARGYMHELLION ALLWEDDOL

14

6 | ATODIADAU

15

6.1 Atodiad 1: Rhestr Wirio Parodrwydd Sefydliadol ACE

15

6.2 Atodiad 2: Agored Cymru: Uned Ymwybyddiaeth o ACE Lefel 2

19

6.3 Atodiad 3: Cyfweliadau

20


1

CRYNODEB GWEITHREDOL

Lluniwyd yr adroddiad hwn gan werthuswyr annibynnol Paperboat, ar ran Canolfan Cymorth Profiadau Niweidiol mewn Plentyndod (ACE) Cymru Well Wales. Mae’n darparu gwerthusiad o gymorth y Ganolfan i weithlu ieuenctid Cymru. Mae’r gwerthusiad hwn yn cynnwys y gweithgareddau yr ymgymerwyd â nhw i gefnogi’r gweithlu ieuenctid yng Nghymru yn ystod y cyfnod rhwng mis Medi 2018 a mis Mawrth 2019. Mae’r Ganolfan Cymorth ACE wedi bod yn gweithio mewn partneriaeth â Chymdeithas Llywodraeth Leol Cymru, y Bwrdd Cyfiawnder Ieuenctid a Jain Book - Cyfarwyddwr Theatr, wedi’i chefnogi gan Gyngor Cymreig Gwasanaethau Ieuenctid Gwirfoddol (CWVYS) i ddatblygu cwrs hyfforddi am ddim i ymarferwyr sy’n gweithio mewn gwasanaethau ieuenctid a chyfiawnder ieuenctid ledled Cymru. Nod hyfforddiant Ymwybyddiaeth o ACE yw cynyddu ymwybyddiaeth o ACE a’u heffaith ar ymddygiad. Nod arall sydd ganddo yw darparu amrywiaeth o ddulliau i ymarferwyr i gefnogi gwydnwch ac hunan-reoleiddio, a galluogi staff i hyfforddi eraill. Mae’r Ganolfan Cymorth ACE wedi sefydlu bwrdd cynghori ieuenctid i weithredu fel grŵp cynghori arbenigol i feithrin dealltwriaeth ddyfnach o waith ieuenctid a’r gweithlu troseddwyr ieuenctid mewn perthynas â gwaith sy’n canolbwyntio ar ACE. Mae Paperboat wedi bod yn gweithio mewn partneriaeth â’r Ganolfan Cymorth ACE i’w helpu i fonitro a gwerthuso ei hyfforddiant a’i weithgareddau eiriolaeth. Mae’r gwerthusiad wedi galluogi’r Ganolfan Cymorth ACE i olrhain nifer y sefydliadau sydd wedi dod yn ACE-ymwybodol, sydd wedi dangos pa mor barod ydynt i gynnig cymorth ACE ac i ba raddau maent wedi gwreiddio dysgu am ACE ac wedi newid systemau sy’n berthnasol i ddarpariaeth sefydliadol.

CANFYDDIADAU AC ARGYMHELLION ALLWEDDOL Mae’r gwerthusiad wedi canfod y canfyddiadau allweddol canlynol:

Mae’r gwerthusiad yn cynnig yr argymhellion canlynol:

1

Mae ymwybyddiaeth am ACE wedi creu iaith ac ymagwedd gyffredin at ddefnyddio model o ofal sy’n ystyriol o drawma.

1

2

Mae gan weithwyr ieuenctid fwy o werthfawrogiad a chydnabyddiaeth o’u profiadau a’u gwybodaeth bresennol wrth gefnogi ACE.

Sefydlu rhwydwaith sefydliadol sy’n ACE-ymwybodol i rannu arfer gorau a hwyluso cefnogaeth draws-sector i blant, pobl ifanc a theuluoedd.

2

Datblygu modiwl hyfforddi dilynol ar ymagweddau at wydnwch a’u cymhwyso.

3

Mae mwy o gydnabyddiaeth o’r angen i ganolbwyntio ar les staff a phobl ifanc.

3

Datblygu adnoddau addysg ar-lein i’w rhannu ar draws y rhwydwaith ACE.

4

Mae mwy o gydnabyddiaeth o ACE, ymhlith staff a phobl ifanc, ond mae angen rhoi gwasanaethau cymorth angenrheidiol ar waith er mwyn mynd i’r afael â’r rhain.

4

Cyfeirio at sefydliadau i atgyfnerthu’r model hyfforddi adfer ar ôl trawma.

5

Mae gan rai staff yn y sector ieuenctid ddylanwad cyfyngedig i roi newidiadau ar waith yn eu sefydliadau. Pan fydd ymrwymiad gan yr uwch-dîm rheoli, mae newidiadau systemig a pholisi sylweddol wedi’u rhoi ar waith.

5

Rhaeadru dulliau monitro gwydnwch a gydnabyddir ar draws y rhwydwaith i fonitro effaith y rhaglen hyfforddi.

6

Cynyddu’r ffocws ar gymorth lles i gynnwys lles staff yn ogystal â lles pobl ifanc.

6

Mae’r sector ieuenctid yn awyddus i fabwysiadu ymagwedd draws-sector at ACE a chanfod ffyrdd o gysylltu gwasanaethau ymhellach.

7

Mae’r Ganolfan Cymorth ACE wedi cyflawni canlyniadau rhagorol wrth gefnogi datblygiad cymwysterau a gydnabyddir ym maes ACE.

8

Mae’r model Ymwybyddiaeth o ACE - Hyfforddi’r Hyfforddwr wedi bod yn effeithiol wrth raeadru gwybodaeth ymhellach o fewn y sector.

3 | Adroddiad Gwerthuso Canolfan Cymorth ACE Cymru: Mawrth 2019


2

CYFLWYNIAD A CHYD-DESTUN

2.1 CEFNDIR Y PROSIECT Mae Profiadau Niweidiol yn ystod Plentyndod (ACE) yn brofiadau trawmatig sy’n digwydd cyn 18 oed sy’n cael eu cofio gydol oes. Mae’r profiadau hyn yn amrywio o gam-drin geiriol, meddyliol, rhywiol a chorfforol, i gael eich magu mewn aelwyd lle mae cam-drin domestig, cam-drin alcohol, rhieni’n gwahanu neu gam-drin cyffuriau. Mae tystiolaeth gynyddol sy’n awgrymu y gall profiadau yn ystod plentyndod effeithio ar ddatblygiad ac iechyd unigolyn gydol eu hoes. Mae ymchwil genedlaethol a rhyngwladol yn awgrymu bod plant sydd wedi profi ACE yn fwy tebygol o fabwysiadu ymddygiad sy’n niweidiol i iechyd a all arwain at gyflyrau iechyd meddwl a chlefydau cronig megis canser, clefyd y galon a diabetes math II yn hwyrach yn eu bywydau. Mae ymchwil Iechyd Cyhoeddus Cymru yn cynnig tystiolaeth o’r cysylltiad rhwng ACE â chanlyniadau addysgol gwael, risg uwch o ymddygiad troseddol a symudedd cymdeithasol gwael. Ym mis Mawrth 2017, sefydlwyd Canolfan Cymorth ACE Cymru Well Wales i arwain ymateb Cymru i’r agenda ACE. Mae Canolfan Cymorth ACE yn ceisio arwain newid sefydliadol i sicrhau bod staff yn ACE-ymwybodol, a bod systemau integredig i fynd i’r afael â chanlyniadau sy’n gysylltiedig ag ACE yn eu sectorau. Strategaeth y Ganolfan Cymorth ACE yw gwreiddio ymwybyddiaeth o ACE ac ymagwedd sy’n seiliedig ar gryfderau i atgyfnerthu parodrwydd sefydliadau ar gyfer newid trawsffurfiol. Comisiynodd Canolfan Cymorth ACE yr ymgynghorwyr annibynnol Paperboat i ymgymryd â gwerthusiad o gymorth Canolfan ACE Cymru i weithlu ieuenctid Cymru. Mae hyn wedi canolbwyntio’n benodol ar archwilio effaith hirdymor cyrsiau Ymwybyddiaeth o ACE Hyfforddi’r Hyfforddwr i ddangos sut mae gweithwyr proffesiynol wedi gwreiddio dysgu am ACE a newid systemau yn eu darpariaeth sefydliadol.

2.2 CANLYNIADAU’R PROSIECT Mae’r Ganolfan Cymorth ACE wedi nodi’r canlyniadau prosiect gweithlu ieuenctid canlynol:

CANLYNIAD 1 Sefydliadau sy’n defnyddio dull bod yn barod am ACE i gefnogi’r broses o roi gweithgareddau ar waith

CANLYNIAD 2 Sefydliadau â gallu priodol i gefnogi hyfforddiant mewnol sydd wedi’i lywio gan ACE

CANLYNIAD 3 Cynnydd mewn niferoedd yr ymarferwyr sy’n ACEymwybodol o fewn y gwasanaethau ieuenctid

CANLYNIAD 4 Ymarferwyr sy’n dangos gwydnwch a hunan-reoleiddio

CANLYNIAD 5 Lleoliadau sector sy’n defnyddio arfer sy’n ystyriol o drawma’n rhagweithiol o fewn eu sefydliad Astudiaeth Profiadau Niweidiol yn ystod Plentyndod (ACE) Cymru, Iechyd Cyhoeddus Cymru

1

4 | Adroddiad Gwerthuso Canolfan Cymorth ACE Cymru: Mawrth 2019


2.3 GWEITHGAREDDAU PROSIECT Strwythurwyd gweithgareddau gweithlu ieuenctid y Ganolfan Cymorth ACE o amgylch y meysydd allweddol canlynol:

DIWRNODAU HYFFORDDI YMWYBYDDIAETH O ACE

RÔL HYRWYDDWYR NEWID

Cyflwynwyd cyfres o ddiwrnodau hyfforddi Ymwybyddiaeth o ACE i roi’r cyfle i weithwyr gwaith ieuenctid proffesiynol gael cyflwyniad cychwynnol i ddysgu am ACE a’u deall. Cynulleidfa darged yr hyfforddiant hwn oedd gweithwyr ieuenctid awdurdodau lleol, staff timoedd troseddu ieuenctid, gwasanaethu ieuenctid y trydydd sector a gweithwyr ieuenctid. Roedd y sesiynau’n gyflwyniad i gyfranogwyr i’r cysyniad o Hyrwyddwyr Newid, sef unigolion sy’n gweithio mewn lleoliad gwaith ieuenctid sy’n hyrwyddo’r syniad o weithlu sy’n ymwybodol o ACE. Cafodd y sesiynau hyn eu defnyddio fel dull recriwtio gweithwyr proffesiynol ieuenctid ar gyfer y cwrs pellach, Ymwybyddiaeth o ACE: Hyfforddi’r Hyfforddwr.

• Helpu i ddatblygu iaith a dealltwriaeth gyffredin am ACE o fewn eu cyd-destun gwaith ieuenctid.

HYFFORDDIANT YMWYBYDDIAETH O ACE I HYFFORDDWYR

• Darparu (neu helpu i ddarparu) hyfforddiant ar ACE, yn seiliedig ar y model hyfforddi’r hyfforddwr.

Roedd y cwrs Ymwybyddiaeth o ACE i Hyfforddwyr yn gwrs hyfforddi un diwrnod am ddim â’r nod o gynyddu ymwybyddiaeth o ACE, ymagweddau sy’n ystyriol o drawma a sut i gymryd ymagwedd sy’n seiliedig ar gryfder at waith ieuenctid ymhlith y rhai a oedd yn cymryd rhan. Lluniwyd yr hyfforddiant i ddatblygu arfer presennol gweithwyr ieuenctid proffesiynol er mwyn iddynt deimlo’n hyderus wrth fod yn Hyrwyddwyr Newid a defnyddio’r dulliau a’r gweithgareddau a ystyriwyd yn ystod yr hyfforddiant yn eu gwaith eu hunain. Enwebwyd y cyfranogwyr a ddaeth i’r cwrs hyfforddi un diwrnod gan eu sefydliadau i raeadru’r hyn a ddysgwyd ymhlith eu cydweithwyr.

• Bod yn ymwybodol o’r ymagwedd genedlaethol at ACE a chyfleoedd i ddatblygu ac atgyfnerthu cysylltiadau ag amrywiaeth eang o weithwyr proffesiynol amlasiantaeth.

BWRDD CYNGHORI GWEITHLU IEUENCTID CANOLFAN CYMORTH ACE Sefydlwyd bwrdd cynghori gweithlu ieuenctid o uwchreolwyr gwasanaethau ieuenctid allweddol i ddarparu gwybodaeth sector arbenigol a mwy o dryloywder i waith ieuenctid a’r gweithlu troseddu ieuenctid mewn perthynas ag ACE.

5 | Adroddiad Gwerthuso Canolfan Cymorth ACE Cymru: Mawrth 2019

• Gweithredu fel pwynt cyswllt i staff o fewn ardal o ddarpariaeth leol a darparu cyngor ar faterion sy’n ymwneud ag ACE a rhoi ymagweddau sy’n ACE-ymwybodol ar waith. • Cynnig gwasanaeth ymgynghori a chyngor i helpu i lywio datblygiad deunyddiau hyfforddi ACE, ac ystyried systemau, prosesau ac arferion sefydliadol o safbwynt ACE.


3

METHODOLEG

Mae’r adroddiad hwn yn seiliedig ar ddata a gasglwyd yn ystod y cyfnod rhwng 1 Medi 2018 a 1 Mawrth 2019.

3.1 DIBEN Y GWERTHUSIAD

3.2 CASGLU DATA

3.3 HERIAU YMCHWIL

Diben cyffredinol y gwerthusiad yw:

Defnyddiwyd y dulliau casglu data canlynol:

Y bwriad gwreiddiol oedd olrhain sefydliadau gan ddefnyddio dulliau gwydnwch parhaus gyda staff a phobl ifanc. Yn anffodus, o ganlyniad i ofynion presennol ar sefydliadau i gwblhau gweithgareddau asesu gan gyllidwyr a chomisiynwyr, roedd hyn yn anodd ei roi ar waith.

• Asesu i ba raddau mae’r Ganolfan Cymorth ACE wedi cyflawni ei chanlyniadau wrth gefnogi’r gweithlu ieuenctid yng Nghymru. • Olrhain nifer y sefydliadau sydd wedi dod yn ACE-ymwybodol, sydd wedi dangos pa mor barod ydynt i gynnig cymorth ACE ac i ba raddau maent wedi gwreiddio dysgu am ACE ac wedi newid systemau sy’n berthnasol i ddarpariaeth sefydliadol. • Darparu canfyddiadau ac argymhellion allweddol i gefnogi gweithlu ieuenctid Cymru mewn perthynas â’r agenda ACE.

4

• Holiaduron cyn y cwrs Hyfforddi’r Hyfforddwyr ac ar ei ôl, a holiadur dilynol pum mis ar ôl yr hyfforddiant • Gweithgareddau gwerthuso cyfranogol yn ystod y cyrsiau Hyfforddi’r Hyfforddwr • Cyfweliadau hysbysu allweddol â rhanddeiliaid o’r grŵp cynghori • Cyfweliadau ac ymweliadau dilynol â chyfranogwyr Hyfforddi’r Hyfforddwr

CANFYDDIADAU’R PROSIECT

4.1 TROSOLWG O’R PROSIECT

DIWRNODAU HYFFORDDI YMWYBYDDIAETH O ACE Five Ace Awareness Youth Workforce Training Days were designed and delivered by Jain Boon, Theatre Director, co-produced by Laura Tranter, in collaboration with the ACE Support Hub. An initial ‘critical friend’ training day was held as a trial to adapt the training to be most appropriate for youth work professionals in Wales. The introductory course was designed to raise awareness of ACEs, their impact on behaviour and provide practitioners with a range of tools to support resilience and self-regulation. The training was designed to build upon and support participant’s existing practice. Training days were attended by 100 participants (25 people at each session) and targeted at a range of youth work professionals from across Wales. All the participants were given a Change Champion role description and an ACE readiness tool to undertake within their organisation. A further commitment from service managers was given to enable participants to go on to attend further Training the Trainer courses.

6 | Adroddiad Gwerthuso Canolfan Cymorth ACE Cymru: Mawrth 2019


PECYN CYMORTH PARODRWYDD SEFYDLIADOL ACE Fel rhan o’r hyfforddiant ymwybyddiaeth o ACE, mae’r Ganolfan Cymorth ACE wedi cylchredeg Pecyn Cymorth Parodrwydd Sefydliadol ACE i’w ddefnyddio gan sefydliadau a gwasanaethau. Mae’r arf parodrwydd yn darparu rhestr wirio sefydliadol (gweler Atodiad 1) sy’n amlinellu meini prawf megis ymrwymiad sefydliadol, arweinyddiaeth, gwerthoedd craidd, gweithlu, a monitro a gwerthuso y dylai sefydliadau eu mabwysiadu i ddangos parodrwydd am ACE ac ymagwedd sy’n ystyriol o ACE wrth eu gwaith.

HYFFORDDIANT YMWYBYDDIAETH O ACE I HYFFORDDWYR Cynhaliwyd dau gwrs Ymwybyddiaeth o ACE: Hyfforddi’r Hyfforddwr: cynhaliwyd un yng Nghaerdydd ar gyfer gweithwyr yn ne Cymru, a’r llall yn Wrecsam ar gyfer gweithwyr yn y gogledd. Bu cyfanswm o 50 o bobl yn bresennol ydynt. Daeth cyfranogwyr Hyfforddi’r Hyfforddwr o amrywiaeth o wasanaethau ieuenctid, gan gynnwys o’r sectorau gwasanaeth ieuenctid, cyfiawnder ieuenctid, digartrefedd a gwirfoddoli. Darparodd yr hyfforddiant sesiwn atgoffa am ACE a’u heffaith ar amrywiaeth o ganlyniadau iechyd, lles a bywyd. Cyflwynwyd dysgu pellach ar ddeall trawma ac ymagweddau sy’n ystyriol o ACE at waith ieuenctid i’r cyfranogwyr. Arweiniodd hyn i gymhwyso ymarferol y sgiliau a’r adnoddau i fabwysiadu ymagwedd sy’n seiliedig ar gryfderau at weithio gyda phobl ifanc. Yn ogystal, darparodd y cwrs Hyfforddi’r Hyfforddwyr gyfle i weithwyr ieuenctid proffesiynol adolygu ac adfyfyrio ar gymhwysiad ymarferol y Pecyn Cymorth Parodrwydd Sefydliadol ac awgrymu meysydd i’w gwella i’r GanolfanCymorth ACE.

ROEDD NODAU’R HYFFORDDIANT FEL A GANLYN: • Paratoi ac arfogi gweithwyr ieuenctid am eu rôl fel Hyrwyddwyr Newid. • Adeiladu blwch offer o sgiliau, adnoddau ac ymagweddau wedi’u seilio ar gryfderau. • Archwilio sut mae sefydliadau’n dechrau paratoi ar gyfer newid gan gynnwys ystyried rhwystrau a heriau. • Deall sut mae ymagwedd sy’n seiliedig ar gryfderau’n berthnasol i adfer. • Archwilio ymagweddau creadigol at ddatblygu gwybodaeth a sgiliau.

BWRDD CYNGHORI GWEITHLU IEUENCTID CANOLFAN CYMORTH ACE Since 2018 The Youth Workforce Advisory Board has provided sector knowledge and expertise to support the ACE Support Hub to effectively engage and communicate with the youth work sector.

MAE BWRDD CYNGHORI’R GWEITHLU IEUENCTID WEDI DARPARU CYMORTH YN Y FFYRDD CANLYNOL: • Cefnogi cyfathrebu ac ymgysylltu â’r sector gwaith ieuenctid drwy nodi rhwydweithiau a digwyddiadau presennol i hyrwyddo gwaith y Ganolfan Cymorth ACE. • Galluogi hyrwyddo a chynyddu ymwybyddiaeth bellach o arfer a dysgu da am barodrwydd ACE yn eu gwasanaethau a’u rhwydweithiau.

• Profi adnoddau’r Ganolfan Cymorth ACE, megis y dull parodrwydd ACE, a chynnig adborth ac awgrymiadau ar gyfer gwella. • Hyrwyddo cysylltiadau parodrwydd ACE â’r Model Adfer Wedi Trawma a’r model Rheoli Achosion Uwch.

7 | Adroddiad Gwerthuso Canolfan Cymorth ACE Cymru: Mawrth 2019

• Cefnogi Canolfan Cymorth ACE i ddilyn y diweddaraf o ran datblygiadau sy’n berthnasol i’w gwaith, gan gynnwys mentrau a phrosiectau sydd ar y gweill ledled Cymru (a’r tu hwnt iddi).


4.2 EFFAITH UNIONGYRCHOL HYFFORDDIANT I YMARFERWYR Roedd yr adborth yn dilyn y cyrsiau hyfforddiant Ymwybyddiaeth o ACE a Hyfforddi’r Hyfforddwr yn gadarnhaol. Roedd cyfranogwyr yn falch o gael y cyfle i gwrdd â chydweithwyr o sefydliadau eraill i ystyried ymagweddau at ACE a sut y gellir cynnwys y syniadau hyn yn eu hymarfer. Roedd yn glir bod cyfranogwyr yn cael budd mawr o dderbyn hyfforddiant mewn ymagwedd sy’n seiliedig ar dystiolaeth a chael cyflwyniad i becyn cymorth parodrwydd sefydliadol penodol er mwyn defnyddio’r hyn a ddysgwyd yn ymarferol i gymryd ymagwedd wybodus at ymateb i drawma. Roedd gweithwyr ieuenctid proffesiynol yn cydnabod gwerth creu iaith gyffredin y gellir ei defnyddio ar draws asiantaethau i gynnig cysondeb wrth weithio i gefnogi ymagwedd sy’n ystyriol o drawma sy’n mynd yn ddyfnach wrth geisio deall achosion sylfaenol ymddygiad ac anawsterau pobl ifanc. Roedd cyfranogwyr o’r farn bod yr hyfforddiant wedi cynyddu eu: Dealltwriaeth o ACE a’u hymwybyddiaeth o sut mae digwyddiadau trawmatig yn effeithio ar blant a datblygiad plant.

Hyder wrth weithio gyda phobl ifanc wrth nodi ACE a llwybrau atgyfeirio.

Nodwyd awgrymiadau ar gyfer agweddau pellach i’w hystyried yn ystod yr hyfforddiant: • Cyfle i ymarfer gyda hyfforddwr, gydag arsylwi ac adborth. • Darparu hyfforddiant untro mewn sefydliad i ddangos sut y gellir darparu hyn. • Dulliau mesur effaith ACE ar brofiad pobl ifanc o drawma. • Rhagor o ddulliau a strategaethau ymarferol i’w darparu gan weithwyr rheng flaen. • Gwneud y Ganolfan ACE yn fwy gweladwy a chreu bathodynnau ACE. • Mwy o ddigwyddiadau lleol i annog cyfranogiad o bob rhan o’r sector. • Mwy o wybodaeth am sut i ddefnyddio ymagweddau, adnoddau ac ymyriadau gwydnwch i’w defnyddio gyda phobl ifanc. • Mynediad at adnoddau a deunyddiau addysgol a rennir am ACE. • Cwrs Hyfforddi’r Hyfforddwr ar Fodel Adfer ar ôl Trawma.

Gallu i gymhwyso ACE mewn arfer presennol, a strategaethau ar gyfer rhaeadru dysgu ymhlith cydweithwyr.

• Mewnbwn gan seicolegydd ynghylch trawma, e.e. arwyddion, adfer. • Gweithdai i bobl ifanc. • Rhannu enghreifftiau o arfer da.

Strategaethau clir i symud gwaith ACE ymlaen yn eu sefydliadau.

Mae’r hyfforddiant wedi fy helpu i ddatblygu ymwybyddiaeth well o ACE a sut i gynnwys hynny o fewn arfer da’r tîm. Mae wedi cynyddu fy hyder wrth weithio gyda phobl ifanc i nodi ACE a chysylltu ag asiantaethau eraill ar gyfer cyngor a chymorth priodol.”

8 | Adroddiad Gwerthuso Canolfan Cymorth ACE Cymru: Mawrth 2019


The following diagram provides an overview of feedback about enabling and inhibiting factors in creating an ACE-aware workplace. These findings are taken from a participatory evaluation activity that was delivered as part of the ACE Awareness Training for Trainers Courses in Cardiff and Wrexham.

Ffigur 1: Beth yw’r ffactorau galluogi a rhwystro allweddol wrth greu gweithle sy’n ymwybodol o ACE?

GALLUOGWYR

RHWYSTRAU

Cefnogaeth polisi i ymarfer

Adnoddau/cyllid

Strategaeth Rheoli Achosion Uwch Gadarnhaol eisoes ar waith

Diffyg hyfforddiant cydgysylltiedig i asiantaethau partner

Wedi'i ysgogi gan y GIG, yn berthnasol i bob sefydliad

Labeli

Amser

Systemau/strwythurau, megis meini prawf tai

Cyllid

Yr angen am ragor o strategaethau ymdopi ymarferol

Hyfforddiant i staff ar draws gwasanaethau lluosog

Staff llai gwybodus ac empathig mewn sefydliadau eraill

Ymagwedd gyfannol

4.3 EFFAITH HIRDYMOR AR DDARPARIAETH GWAITH IEUENCTID Nodwyd y meysydd effaith hirdymor canlynol:

01

ARFER GWELL Roedd cyfranogwyr yn cydnabod bod yr hyfforddiant Ymwybyddiaeth o ACE wedi gwella eu harfer gwaith ieuenctid drwy ddefnyddio dulliau a gweithgareddau a gafodd eu cynnwys yn yr hyfforddiant, ac roeddent yn teimlo’n fwy hyderus eu bod yn gweithio tuag at ymagwedd sy’n ystyriol o drawma. Roedd gan sefydliadau a anfonodd ddau gyfranogwr i’r hyfforddiant Ymwybyddiaeth o ACE fwy o ddylanwad dros rannu’r wybodaeth ymhlith eu cydweithwyr a mwy o hyder wrth ymgymryd â gweithgareddau rhaeadru. Mae cylchredeg y Pecyn Cymorth Parodrwydd Sefydliadol ACE wedi cynnig ymagwedd strwythuredig at ddatblygu cymorth sy’n ACEymwybodol i bobl ifanc a’u teuluoedd. Mae cydnabyddiaeth glir bod cyfranogwyr wedi gallu dosbarthu gwybodaeth a dysgu ymhlith eu cydweithwyr, wrth hefyd gael cydnabyddiaeth o’u gwybodaeth a’u profiad presennol fel gweithiwr ieuenctid proffesiynol. Roedd cyfranogwyr yn teimlo’n fwy hyderus yn eu harfer gwaith drwy ddatblygu strategaethau newydd, yn enwedig ym maes trawma ac ymagweddau sy’n seiliedig ar gryfderau at gynnwys pobl ifanc yng ngwaith ACE. Roedd gweithwyr ieuenctid proffesiynol yn hoffi’r ymagwedd sy’n seiliedig ar gryfderau at y gwaith hwn a sut y gall rymuso pobl ifanc i gydnabod cryfderau a photensial yn eu hunain.

Rhoddir lle i bobl ifanc siarad am ACE, gan rymuso pobl ifanc i gymryd rheolaeth dros eu profiadau.’

9 | Adroddiad Gwerthuso Canolfan Cymorth ACE Cymru: Mawrth 2019


02

IAITH GYSON AC YMAGWEDD GYFFREDIN Roedd nifer sylweddol o’r cyfranogwyr o’r farn bod yr agenda ACE yn cydnabod y ddealltwriaeth bresennol o brofiadau bywyd a thrawma pobl ifanc. Mae hyn wedi arwain at rymuso cynyddol ymhlith gweithwyr ieuenctid a chynyddu eu sgiliau i gefnogi pobl ifanc. Mae’r defnydd o iaith gyffredin yn dechrau arwain at ddealltwriaeth well o’r broblem ar draws sefydliadau. Mae hyn yn arwain at newid diwylliant o ran sut mae gweithwyr proffesiynol yn gweithio gyda phobl ifanc ag ACE, ac mae gweithwyr proffesiynol sy’n gweithio gyda phobl ifanc yn dod yn fwy empathig o ran eu hanghenion. Codwyd rhai pryderon am sut y mae ACE yn creu labeli i bobl ifanc a’u teuluoedd, yn enwedig i’r rhieni. Teimlwyd y gallai rhieni deimlo bod bai arnyn nhw am sefyllfa eu plentyn/plant, gan deimlo eu bod wedi ‘niweidio’ eu plentyn. Mae angen cefnogaeth ar weithwyr proffesiynol o ran cael trafodaethau anodd â rhieni pan fyddant yn ceisio meithrin y perthnasoedd hyn.

03

YMAGWEDD SENSITIF Roedd gweithwyr ieuenctid yn teimlo’n fwy hyderus wrth ymateb i anghenion pobl ifanc a bod ganddynt ddealltwriaeth well o achosion sylfaenol ymddygiad o ganlyniad i’r ymwybyddiaeth well o ACE. Cafwyd enghreifftiau o athrawon a oedd yn dangos mwy o dosturi at fyfyrwyr a oedd yn derbyn cymorth gan wasanaethau ieuenctid a oedd wedi mabwysiadu ymagwedd ACE-ymwybodol y tu allan i’r ysgol.

Mae’r ddealltwriaeth well o sut y gall ACE a thrawma effeithio ar ymddygiad yn yr ysgol wedi arwain at fwy o drafodaethau â phobl ifanc’.

04

GWEITHIO AR Y CYD Roedd y rhan fwyaf o gyfranogwyr wedi dweud bod ganddynt berthynas well â sefydliadau ac asiantaethau eraill yn dilyn yr hyfforddiant. Roedd hyn yn cynnwys sicrhau bod sefydliadau eraill yn gweithio tuag at ymagwedd sy’n ystyriol o ACE a bod ganddynt ddealltwriaeth well o ddangosyddion trawma. Roedd cyfranogwyr yn awyddus i weld ymagwedd aml-asiantaeth at ACE a phartneriaid yn gweithio’n effeithiol gyda’i gilydd. Yn benodol, nodwyd bod angen am wasanaeth gwell (gyda mwy o ddealltwriaeth) rhwng adrannau gwahanol yr awdurdodau lleol. Roedd gan ddau draean o’r cyfranogwyr y gofynnwyd iddynt ddiddordeb mewn bod yn rhan o rwydwaith rhanbarthol o sefydliadau sy’n ACE-ymywbodol, gan fynegi’r farn y gallai’r ganolfan cymorth ACE eu cefnogi’n ymhellach yn eu gwaith. Awgrymodd cyfranogwyr y gellid gwahodd asiantaethau nad oeddent wedi cwblhau’r hyfforddiant i’r rhwydwaith i hyrwyddo hyfforddiant aml-asiantaeth, megis tai, yr Adran Gwaith a Phensiynau a’r Heddlu. Roedd barn gyffredin mai’r canfyddiad oedd bod yr agenda ACE wedi deillio o’r GIG, heb gael ei chydnabod gan Lywodraeth Cymru. Gallai rhwydwaith rhanbarthol o sefydliadau sy’n ACE-ymwybodol gefnogi ymagwedd fwy cydlynol, gan symleiddio peth o’r gwaith hyrwyddo effeithiol. Roedd sawl cyfranogwr yn teimlo bod angen cymorth arnynt i wybod sut i gyfathrebu â chleientiaid ac asiantaethau eraill am yr agenda ACE.

VOLUNTEERING MATTERS, CYMRU Mae’r tîm Volunteering Matters Cymru lleol ym Mhont-y-pŵl wedi gweithio’n galed i wreiddio arfer ACE yn eu gwaith o ddydd i ddydd ac, o ganlyniad, maent wedi llywio polisïau ac arferion parhaus eu sefydliad ar lefel genedlaethol. Mae’r meysydd allweddol o weithredu wedi cynnwys: • Mabwysiadu Pecyn Cymorth Parodrwydd Sefydliadol ACE fel fframwaith gweithredu • ACE fel eitem ar agendâu pob cyfarfod tîm. • Addasu ffurflenni atgyfeirio er mwyn cynnwys gwybodaeth am ACE. • Archwilio unrhyw ACE sy’n effeithio ar ddiamddiffynedd pobl ifanc. • Nodi trawma eilaidd o ganlyniad i ACE.

10 | Adroddiad Gwerthuso Canolfan Cymorth ACE Cymru: Mawrth 2019


05 06

07

08

RHAEADRU’R YMAGWEDD ACE Roedd dau draean o gyfranogwyr Hyfforddi’r Hyfforddwr wedi cylchredeg y wybodaeth o’r hyfforddiant ymhlith eu tîm i fwy na 100 o aelodau o staff. Roedd hyn yn cynnwys ychwanegu ACE i hyfforddiant a diwrnodau datblygu staff, eu cynnwys mewn cyfarfodydd tîm a seminarau sy’n cynnwys dealltwriaeth sylfaenol o Ymwybyddiaeth o ACE a dangosyddion ACE. O’r sawl a ddaeth i’r hyfforddiant, roedd 12.5 % wedi cwblhau’r pecyn cymorth parodrwydd sefydliadol ACE yn eu timoedd.

LLES PERSONOL Mae hyfforddiant Ymwybyddiaeth o ACE wedi cynyddu cydnabyddiaeth o’r angen i ganolbwyntio ar hunanofal a lles staff a phobl ifanc. Roedd hefyd gydnabyddiaeth o’r ffaith y dylid ystyried ACE yn gyfannol, yn achos staff a phobl ifanc. Mae angen i sefydliadau sicrhau bod mecanweithiau ar waith i gefnogi eu staff. Roedd hyn yn cynnwys awgrymiadau ar gyfer rhestr wirio ACE i staff er mwyn sicrhau bod sefydliadau’n cynnig cymorth a goruchwyliaeth briodol ac yn hyrwyddo strategaethau gwydnwch personol. Nododd cyfranogwyr bod angen gwell dealltwriaeth a dulliau ar gyfer gweithio gyda phobl ifanc, yn enwedig mewn perthynas â magu gwydnwch yn eu plith. Mae diddordeb sylweddol mewn cynnwys dull gwydnwch i fonitro lles staff a phobl ifanc.

O’R BRIG I LAWR/O’R GWAELOD I FYNY Nododd adborth bod ymrwymiad gan uwch-reolwyr yn ffactor pwysig o ran a yw staff yn gallu troi cydnabyddiaeth o ACE yn ymarfer ac a gaiff yr amser a’r adnoddau angenrheidiol eu blaenoriaethu, er bod adborth yn dangos bod gwaith sylweddol wedi’i wneud gan staff rheng flaen i integreiddio terminoleg ac ymagweddau ACE yn eu gwaith. Mewn rhai achosion, cyflwyno uwch-reolwyr i’r cysyniad o weithio’n ymwybodol o ACE. Mae tystiolaeth bod Penaethiaid Gwasanaeth yn gweithio i sicrhau y caiff ACE eu gwreiddio mewn meddwl strategol newydd a strategaeth gwaith ieuenctid.

TROTHWY AR GYFER GWASANAETHAU Wrth i ACE ddod yn derm mwy cyfarwydd yn y lleoliad gwaith ieuenctid, codwyd pryderon am 4 ACE neu fwy yn cael eu defnyddio fel trothwy ar gyfer gwasanaethau, gan arwain at eithrio plant a phobl ifanc ag anghenion cefnogaeth uchel. Amlygodd y cyfranogwyr yr angen i weithio’n fwy cydlynus ar lefel strategol i gydnabod ACE wrth gomisiynu gwasanaethau heb eu gwneud yn ofyniad trothwy. Amlygwyd cynnwys ymwybyddiaeth o ACE mewn ymyriadau timoedd troseddu ieuenctid yn benodol.

11 | Adroddiad Gwerthuso Canolfan Cymorth ACE Cymru: Mawrth 2019

CYNGOR BWRDEISTREF SIROL CONWY Gofynnwyd i Rachel Simmonds fod yn Hyrwyddwr ACE y Cyngor, er mwyn i ACE barhau i fod yn flaenoriaeth yn eu gwaith.

Yn ystod proses ailstrwythuro bresennol y Gwasanaeth Ieuenctid, nodwyd disgrifiadau swydd a chyfrifoldebau mewn perthynas ag ACE. Rydym eisoes yn gweithio gyda chydweithwyr yn y Gwasanaethau Cymdeithasol ar SERAF a gwaith Ar Ffiniau Gofal. Mae staff y gwasanaethau ieuenctid wedi ymateb i’r deilliannau dysgu arfaethedig a amlinellwyd gan Agored ar ACE. Rydym yn gweithio’n agos gydag adrannau eraill y Cyngor megis Tîm o Amgylch y Teulu, Cyfiawnder Ieuenctid, Ysgolion a chefnogi pobl ifanc yn uniongyrchol neu drwy raglenni addysg. Bydd mwy o staff ieuenctid yn mynd i hyfforddiant ACE gyda thîm Addysg Conwy. Rydym yn anfon mwy o staff ar hyfforddiant ar fodel adfer ar ôl trawma, gan ddatblygu’r sgiliau ychwanegol i gefnogi pobl ifanc. Bydd pob aelod newydd o staff yn derbyn hyfforddiant er mwyn bod yn ymwybodol o ACE.’


09

ADRODD AM ACE Ystyriodd gweithwyr proffesiynol y buddion o ddefnyddio profformas i helpu i ystyried a chofnodi ACE a brofwyd gan bobl ifanc y gellid eu defnyddio mewn amrywiaeth eang o sefydliadau. Gellid hefyd ystyried ymhellach sut mae ACE yn berthnasol i adroddiadau safonol, megis y bwrdd cyfiawnder ieuenctid.

O ganlyniad i’r hyfforddiant hwn, rydym wedi rhannu gwybodaeth gyda staff/gweddill y gweithlu i atgyfnerthu dealltwriaeth o ACE, gan greu amgylchedd sy’n ystyriol o ACE, ac mae gennym becyn cymorth ar gyfer gweithio gyda phobl ifanc.’

10

PERTHYNAS Â MODEL ADFER AR ÔL TRAWMA A MODEL RHEOLI ACHOSION UWCH Mae gweithio mewn partneriaeth â sefydliadau eraill, tuag at ddealltwriaeth o drawma ac ymagwedd ato a rennir, wedi arwain at fwy o ddiddordeb mewn mabwysiadau ymagwedd ACE. Mae hyn hefyd wedi arwain at weithlu sy’n ymwybodol o ACE a’i gysylltu â modelau eraill o weithio, megis y model adfer ar ôl trawma a’r model rheoli achosion uwch. Amlygodd sawl aelod o’r grŵp cynghori y gwerth ychwanegol o hyfforddi staff ar y model adfer ar ôl trawma i wreiddio ymwybyddiaeth o ACE ymhellach yn y gwasanaethau ieuenctid. Gellir ystyried hyfforddiant ymwybyddiaeth o ACE fel cam tuag at waith adfer ar ôl trawma. Cafwyd hefyd gydnabyddiaeth bod sefydliadau sy’n mabwysiadu’r model rheoli achosion gwell yn ei chael hi’n haws i wreiddio arferion sy’n ystyriol o ACE yn eu sefydliadau. Fodd bynnag, awgrymodd adborth nad oedd fframweithiau asesu rheoli achosion yn well wedi newid yn sgil dysgu am ACE: ‘mae ymyriadau wedi’u trefnu’n llwyddiannus’ (aelod o’r bwrdd cynghori) ac mae staff yn teimlo’n fwy hyderus wrth fynd i’r afael â materion a diwallu anghenion plant a phobl ifanc.

4.4 HERIAU DARPARIAETH SGRINIO ACE Wrth i ACE ddod yn rhan o derminoleg gwaith ieuenctid, amlygodd ymarferwyr y gallai ACE gael eu defnyddio fel rhan o ddull sgrinio. Codwyd pryderon y gallai fod yn anodd gofyn cwestiynau am ACE yn ystod y cam cychwynnol o weithio gyda phlant a phobl ifanc, pan geisir magu ymddiriedaeth.

PWYSAU CROESTYNNOL Cafwyd adborth gan weithwyr proffesiynol ieuenctid fod comisiynwyr yn gofyn i ddarparwyr gwasanaeth weithio ar agendâu gwahanol ar yr un pryd. Mae hyn wedi creu gwrthdaro ag ymyriadau eraill sy’n destun terfynau amser a blaenoriaethau sy’n cystadlu.

CYSONDEB YMARFER Codwyd pryderon am gysondeb arfer sy’n berthnasol i ACE ar draws adrannau awdurdodau lleol. Amlygodd aelodau o’r bwrdd cynghori’r angen i sicrhau bod Hyrwyddwyr Newid ar draws pob maes mewn awdurdodau lleol.

CYSYLLTU POBL

CEFNOGAETH CWNSELA

Roedd gweithwyr ieuenctid proffesiynol yn poeni am sut gallant gael gwybod pwy sydd wedi derbyn hyfforddiant ar ACE a sut gellir gwybod pa adrannau sy’n cysylltu â’r agenda hwn?

Wrth i gydnabyddiaeth o drawma pobl ifanc gynyddu, mae hefyd alw cynyddol am wasanaethau cwnsela. Nid oes gan weithwyr ieuenctid y sgiliau i ymdrin ag achosion cymhleth ac nid yw pobl ifanc yn cwrdd â’r trothwy CAMHS. Mae hyn yn amlygu’r cyfyngiadau proffesiynol sydd ar y systemau gwaith ieuenctid presennol wrth ymateb yn effeithiol i gydnabod ACE.

12 | Adroddiad Gwerthuso Canolfan Cymorth ACE Cymru: Mawrth 2019


4.5 CANLYNIADAU YCHWANEGOL Mae Agored Cymru wedi gweithio gyda’r ganolfan ACE i ddatblygu uned sy’n cynnwys arfer sy’n ystyriol o drawma ac sy’n cynnwys ACE. Datblygwyd yr uned i ddiwallu anghenion ymarferwyr sy’n gweithio gyda phlant a phobl ifanc yn enwedig yn y Sector Cyfiawnder Ieuenctid a gwaith ieuenctid yng Nghymru.’

Myfyriwr Lefel Pump Prifysgol De Cymru

O’r diwedd, dw i wedi cael swydd hirdymor fel Cydlynydd Pontio i lwybrau i ddarpariaeth amgen. Fy rôl i yw helpu i ganfod ysgol y gall pobl ifanc fynd iddi a’u cefnogi wrth ddychwelyd i weithio prif ffrwd, mewn partneriaeth â’r ysgol a rhieni. Diolch i’m gwybodaeth am ACE a rôl bwysig y mae ysgolion ac addysg yn ei chwarae mewn bywyd unigolyn ifanc, fe gynigwyd y swydd imi. Yn wreiddiol, gwnes i gais am swydd cynorthwyydd addysgu.’

HYFFORDDIANT ACHREDEDIG Mae gwaith y Ganolfan Cymorth ACE wedi arwain at ganlyniadau rhagorol wrth gefnogi datblygiad cymwysterau newydd. Mae Hyfforddiant Ymwybyddiaeth o ACE i’r Gweithlu Ieuenctid a ddarparwyd gan y Ganolfan Cymorth ACE wedi cael ei fapio yn unol â’r lefel Sgiliau ACE yn y Fframwaith Gwybodaeth a Sgiliau ACE. Mae pedwar cymhwyster gwaith ieuenctid wedi integreiddio ymwybyddiaeth o ACE i’r cwricwlwm, gyda thrafodaethau parhaus â sefydliadau pellach. Agored Cymru: mewn partneriaeth â’r Bwrdd Cyfiawnder Ieuenctid, mae Agored Cymru wedi datblygu Agored Cymru: Uned Ymwybyddiaeth o ACE Lefel 2/3 (gweler Atodiad 2). Addysg Oedolion Cymru: mae ymwybyddiaeth o ACE wedi’i gwreiddio yn y Cymhwyster Gwaith Ieuenctid Lefel 2 i bob gweithiwr ieuenctid newydd sy’n ymuno â’r proffesiwn. Disgwylir i’r cymhwyster ieuenctid gael ei adolygu yn 2020 a chaiff elfennau Hyfforddiant Ieuenctid ACE penodol eu hychwanegu bryd hynny. Prifysgol Metropolitan Caerdydd: wedi gwreiddio ymwybyddiaeth o ACE yn ei chymwysterau Gwaith Ieuenctid Lefel 4 a Diploma Ôl-raddedig. Prifysgol De Cymru: yn darparu elfennau craidd o’r agenda ACE yn ei chwrs Gwaith Ieuenctid a Cymunedol Israddedig Lefel 5 ar hyn o bryd. Mae hyn yn cynnwys archwilio i nodi anghenion pobl ifanc a pha systemau a phrosesau y gall gweithwyr ieuenctid eu rhoi ar waith i’w cefnogi. Mae ymarferwr o Gymdeithas Tai Bron Afon yn darparu trosolwg o sut y gwneir hyn yn ymarferol. Mae’r Brifysgol hefyd yn cynnwys hyn yng nghwricwlwm y cwrs MA Gweithio i Blant a Phobl Ifanc Lefel 5 (Cymhwyso Cychwynnol yng Ngwaith Ieuenctid), yn y modiwl Ymarfer Proffesiynol.

DATBLYGIADAU HYFFORDDI PARHAUS Mae’r Ganolfan Cymorth ACE yn gweithio gydag arweinwyr Gwaith Ieuenctid Llywodraeth Cymru i sefydlu Hyfforddiant Gweithlu Ieuenctid sy’n ACE-Ymwybodol fel rhan o’r Strategaeth Gwaith Ieuenctid i Gymru newydd ac i atgyfnerthu Fframwaith Hyfforddi Gwaith Ieuenctid. Mae’r Ganolfan Cymorth ACE wedi trefnu cyfarfodydd â Chyfarwyddwr Rhaglen BA Gwaith Ieuenctid a Chymunedol Prifysgol Cymru’r Drindod Dewi Sant ac arweinwyr rhaglenni gwaith Ieuenctid a Cymunedol Prifysgol Glyndŵr i drafod gwreiddio hyfforddiant mewn cyrsiau gwaith ieuenctid. Mae Gwasanaeth Ieuenctid Caerffili wedi bod yn rhan o ffilmio astudiaeth Achos Arfer Da, sy’n amlygu pwysigrwydd y gweithlu ieuenctid wrth gefnogi pobl ifanc i fagu gwydnwch. resilience.

4.6 GWERTH Y MODEL HYFFORDDI’R HYFFORDDWR Mae gwerth clir yn y model darpariaeth Hyfforddi’r Hyfforddwr, yn enwedig pan fydd dau aelod o staff wedi derbyn hyfforddiant, gan fod hyn wedi hwyluso rhaeadru effeithiol ac effeithlon o’r hyn a ddysgwyd. Dengys adborth y gellid gwreiddio’r hyfforddiant ymhellach drwy sicrhau y gall y rhwydwaith o ymarferwyr cymwys barhau i rannu syniadau a meysydd o arfer da. Byddai cyfranogwyr yn gwerthfawrogi’n fawr gael y cyfle i gymryd rhan mewn hyfforddiant gwydnwch pellach a drefnir drwy’r Ganolfan Cymorth ACE a gallu cyrchu unrhyw adnoddau newydd a fyddai o gymorth wrth gymhwyso ACE yn eu gwaith bob dydd. Ystyrir y cwrs Hyfforddi’r Hyfforddwr i fod yn gam da i hyfforddiant trawma pellach.

13 | Adroddiad Gwerthuso Canolfan Cymorth ACE Cymru: Mawrth 2019


5

CRYNODEB O’R CANFYDDIADAU AC ARGYMHELLION ALLWEDDOL

Mae’r gwerthusiad wedi canfod y canfyddiadau allweddol canlynol:

Mae’r gwerthusiad yn cynnig yr argymhellion canlynol:

1

Mae ymwybyddiaeth o ACE wedi creu iaith ac ymagwedd gyffredin at ddefnyddio model o ofal sy’n ystyriol o drawma.

1

Sefydlu rhwydwaith sefydliadol sy’n ACE-ymwybodol i rannu arfer gorau a hwyluso cefnogaeth draws-sector i blant, pobl ifanc a theuluoedd.

2

Mae gan weithwyr ieuenctid fwy o werthfawrogiad a chydnabyddiaeth o’u profiadau a’u gwybodaeth bresennol wrth gefnogi ACE.

2

Datblygu modiwl hyfforddi dilynol ar ymagweddau at wydnwch a’u cymhwyso.

3

Mae mwy o gydnabyddiaeth o’r angen i ganolbwyntio ar les staff a phobl ifanc.

3

Cyfeirio at sefydliadau i atgyfnerthu’r model hyfforddi adfer ar ôl trawma.

4

Mae mwy o gydnabyddiaeth o ACE, ymhlith staff a phobl ifanc, ond mae angen rhoi gwasanaethau cymorth angenrheidiol ar waith er mwyn mynd i’r afael â’r rhain.

4

Datblygu adnoddau addysg ar-lein i bob un sy’n cymryd rhan mewn hyfforddiant i’w rhannu ar draws y rhwydwaith.

5

Mae gan rai staff yn y sector ieuenctid ddylanwad cyfyngedig i roi newidiadau ar waith yn eu sefydliadau. Pan fydd ymrwymiad gan yr uwch-dîm rheoli, mae newidiadau systemig a pholisi sylweddol wedi’u rhoi ar waith.

5

Rhaeadru dulliau monitro gwydnwch a gydnabyddir, i staff a phobl ifanc, ar draws y rhwydwaith i fonitro effaith y rhaglen hyfforddi.

6

Cynyddu’r ffocws ar gymorth lles i gynnwys lles staff yn ogystal â lles pobl ifanc.

6

Mae sector ieuenctid yn awyddus i fabwysiadu ymagwedd draws-sector at ACE a chanfod ffyrdd o gysylltu gwasanaethau ymhellach.

7

Mae’r Ganolfan Cymorth ACE wedi cyflawni canlyniadau rhagorol wrth gefnogi datblygiad cymwysterau a gydnabyddir ym maes ACE.

8

Mae’r model Ymwybyddiaeth o ACE - Hyfforddi’r Hyfforddwr wedi bod yn effeithiol wrth raeadru gwybodaeth ymhellach o fewn y sector.

14 | Adroddiad Gwerthuso Canolfan Cymorth ACE Cymru: Mawrth 2019


6

ATODIADAU

6.1 ATODIAD 1: RHESTR WIRIO PARODRWYDD SEFYDLIADOL ACE [DRAFFT] Pecyn Cymorth Parodrwydd Sefydliadol Profiadau Niweidiol yn ystod Plentyndod (ACE)

MEINI PRAWF

TYSTIOLAETH

1 | YMRWYMIAD Y SEFYDLIAD 1.1.

Mae ymagwedd ACE-ymwybodol bwrpasol ac mae'r holl staff yn disgrifio ac yn deall yr ymagwedd maent yn gweithio yn unol â hi a/neu mae ymrwymiad cadarn i dwf a newid.

1.2.

Mae polisi sy'n amlinellu egwyddorion ac arferion/polisïau ACE-ymwybodol sy'n gyson ag arfer ACE-ymwybodol.

1.3.

Prosesau/gweithdrefnau sy'n adlewyrchu'r berthynas rhwng ACE/trawma ac adfyd ac adfer, a'r goblygiadau ar gyfer y gwasanaeth/sefydliad, gan gynnwys mynediad a lluniad

1.4.

Mae arfer ACE-ymwybodol wedi'i gymeradwyo gan y tîm rheoli

1.5.

Mae gwasanaethau wedi'u llywio gan fodelau sy'n drawmaymwybodol wedi'u seilio ar dystiolaeth/fframweithiau seicolegol

1.6.

Mae'r sefydliad yn sicrhau bod gweithdrefnau'n gyson ag arfer ACE-ymwybodol

15 | Adroddiad Gwerthuso Canolfan Cymorth ACE Cymru: Mawrth 2019


MEINI PRAWF

TYSTIOLAETH

2 | Y TÎM RHEOLI 2.1.

Mae Cyfarwyddwyr/y Tîm Rheoli yn deall y ddarpariaeth gwasanaeth sy'n ofynnol i bobl sydd wedi profi ACE/ trawma ac adfyd

2.2.

Mae arweinwyr yn caniatáu adnoddau ar gyfer rhoi arfer ACE-ymwybodol ar waith

2.3.

Mae'r Tîm Rheoli yn gydweithredol ac yn ystyried profiadau pobl (staff a'r cyhoedd) a'u hadborth wrth lywio cynlluniau

2.4.

Cynhelir gwerthusiadau rheolaidd obolisïau ac arferion fel rhan o’r broses adolygu a chynllunio er mwyn rhoi newidiadau ar waith pan fo’n berthnasol

3 | GWERTHOEDD CRAIDD 3.1.

Caiff diogelwch corfforol ac emosiynol ei flaenoriaethu a'i ddiogelu

3.2.

Caiff ymddiriedaeth ei mwyafu drwy eglurder tasgau, cysondeb a ffiniau rhyngbersonol

3.3.

Mae gweithgareddau a lleoliadau'r sefydliad yn mwyafu profiad pobl o ran dewis a rheolaeth. Gwneir gwaith y sefydliad ar sail asesu.

16 | Adroddiad Gwerthuso Canolfan Cymorth ACE Cymru: Mawrth 2019


MEINI PRAWF

TYSTIOLAETH

3 | GWERTHOEDD CRAIDD 3.4.

Mae gweithgareddau a lleoliadau'r sefydliad yn mwyafu cydweithrediad

3.5.

Mae gweithgareddau a lleoliadau'r sefydliad yn blaenoriaethu grymuso a magu sgiliau

4 | GWEITHLU 4.1.

Mae gofynion sgiliau a gwybodaeth ACE-ymwybodol wedi'u cymeradwyo wrth recriwtio (e.e. disgrifiadau swyddi a'r broses ddethol) a sefydlu/anwytho corfforaethol

4.2.

Mae prosesau ar waith i bennu gofynion hyfforddi staff am ACE - mae'r holl staff yn derbyn hyfforddiant ymwybyddiaeth o ACE a hyfforddiant o flaen llaw, yn ôl yr angen

4.3.

Hyfforddiant o flaen llawn (yn ôl yr angen) sy'n cynnwys cynllunio camau gweithredu i sicrhau y caiff gwybodaeth a sgiliau eu gwreiddio, y caiff dysgu ei drosglwyddo ac y ceir cefnogaeth ddilynol

4.4.

Darperir goruchwyliaeth a chefnogaeth i staff er mwyn cynnwys yr effaith ar eu lles, eu hunanofal a'u diogelwch

4.5.

Anogir arfer adfyfyriol i gynnwys yr effaith ar les, hunanofal a diogelwch personol

4.6.

Mynediad at gymunedau arfer/setiau camau dysgu/ cyfleoedd eraill ar gyfer rhannu gwybodaeth a sgiliau mewn perthynas ag ACE/arfer sy'n ystyriol o ACE

17 | Adroddiad Gwerthuso Canolfan Cymorth ACE Cymru: Mawrth 2019


MEINI PRAWF

TYSTIOLAETH

5 | MONITRO A GWERTHUSO 5.1.

Caiff gwybodaeth am brofiadau pobl ei chasglu'n rheolaidd a'i defnyddio i lywio cynlluniau

5.2.

Cynhelir gwerthusiadau rheolaidd o bolisïau ac arfer sydd wedi'u seilio ar ACE fel rhan o'r broses adolygu a chynllunio – er mwyn rhoi newidiadau ar waith pan fo'n berthnasol

18 | Adroddiad Gwerthuso Canolfan Cymorth ACE Cymru: Mawrth 2019


6.2 ATODIAD 2: AGORED CYMRU: UNED YMWYBYDDIAETH O ACE LEFEL 2 Teitl yr Uned:

Deall sut i gefnogi plant a phobl ifanc mewn perthynas â thrawma yn ystod plentyndod

Lefel:

2

Credyd:

3

Os yw cyfyngiad oedran yn ofynnol, nodwch yr oedran a’r rheswm: Rhaid i’r dysgwr fod 16 oed i ymgymryd â’r uned hon gan y bydd yr uned yn cael ei chyflwyno fel rhan o’r cymhwyster Tystysgrif mewn Ymarfer Gwaith Ieuenctid (Cymru) lefel 2 y mae’n rhaid bod yn 16 oed neu hŷn i’w astudio. A yw dysgu o flaen llaw yn ofynnol i’r uned? Os ydy, rhowch resymeg: Dim.

A oes angen cyfieithu’r uned (Cymraeg/Saesneg)? Os oes, rhowch gyfiawnhad, gan gynnwys brasamcan o nifer y dysgwyr a fydd yn elwa o’r cyfieithiad) Oes. Caiff yr uned ei defnyddio ar draws nifer o sectorau yng Nghymru er mwyn cynyddu gwybodaeth a dealltwriaeth y sector o fodelau sy’n seiliedig ar drawma. Caiff yr uned ei defnyddio i atgyfnerthu sefydliadau sector cyhoeddus, megis gwasanaethau ieuenctid a’r sector cyfiawnder ieuenctid a’r tu hwnt. Mae hyn yn cyd-fynd â disgwyliadau Safonau’r Gymraeg.

Cyfieithiad Cymraeg/ Saesneg:

Oes

Côd Blaen yr Uned: (At ddefnydd Agored Cymru’n unig)

PR5 (Sector 1/Is-sector 1.3 – nid yw’n dod o dan ôl-droed Gofal Cymdeithasol Cymru)

Diben a Nod yr Uned:

Bydd y dysgwr yn deall effaith trawma yn ystod plentyndod a’r dulliau a’r technegau er mwyn cefnogi plant a phobl ifanc sydd wedi profi trawma yn ystod eu bywydau.

DEILLIANNAU DYSGU

MEINI PRAWF ASESU

Bydd y dysgwr yn:

Gall y dysgwr:

1. Ddeall damcaniaethau ymlyniad.

1.1. Disgrifio mathau o ymlyniad. 1.2. Disgrifio effeithiau ymlyniad ansicr. 1.3. Disgrifio damcaniaethau ymlyniad.

2. Deall y term ‘profiadau niweidiol yn ystod plentyndod’.

2.1. Diffinio’r term ‘profiadau niweidiol yn ystod plentyndod’ (ACE). 2.2. Crybwyll amrywiaeth o ACE.

3. Deall effeithio trawma mewn plentyndod.

3.1. Disgrifio effeithio trawma ar ddatblygiad niwrolegol. 3.2. Disgrifio effeithiau trawma ar blant a phobl ifanc o ran: - a. datblygiad corfforol - b. datblygiad emosiynol - c. datblygiad cymdeithasol - d. datblygiad gwybyddol

19 | Adroddiad Gwerthuso Canolfan Cymorth ACE Cymru: Mawrth 2019


DEILLIANNAU DYSGU

MEINI PRAWF ASESU

Bydd y dysgwr yn:

Gall y dysgwr:

4. Deall sut i gyfathrebu ac ymgysylltu mewn ffordd sy’n sensitif o ran datblygiad â phlant a phobl ifanc.

4.1. Disgrifio arfer da mewn perthynas â gweithio’n effeithiol gyda phlant a phobl ifanc sydd wedi profi trawma 4.2. Disgrifio pwysigrwydd gweithio’n berthynol 4.3. Disgrifio’r sgiliau sy’n ofynnol er mwyn ennyn ymgysylltiad â phlant a phobl ifanc a gweithio’n effeithiol gyda nhw 4.4. Disgrifio pam y dylai dewisiadau ymgysylltu ac ymyrryd gydfynd ag anghenion datblygiadol plant a phobl ifanc

5. Deall ymagweddau at gefnogi gwydnwch ac hunanreoleiddio.

5.1. Disgrifio sut mae gwydnwch yn gweithredu fel ffactorau amddiffyn yn erbyn effaith trawma 5.2. Disgrifio ymagweddau at gefnogi plant a phobl ifanc i fagu gwydnwch ac hunan-reoleiddio sy’n cefnogi arferion presennol

6.3 ATODIAD 3: CYFWELIADAU Cynhaliwyd cyfweliadau â’r unigolion a’r sefydliadau canlynol: • Mandy Wilmot, Volunteering Matters • Andrew Smalley, Rheolwr Cefnogi Pobl • Nicci Speed, Action for Children • Kirsty Pringle, Cyngor Sirol Powys • Paul O’Neill, Gwasanaeth Ieuenctid Caerffili • Tim Opie, Swyddog Polisi Dysgu Gydol Oes (Ieuenctid), Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru • Annette Irving • Donna Lemin • Christa Matthews • Jain Boon

20 | Adroddiad Gwerthuso Canolfan Cymorth ACE Cymru: Mawrth 2019


Issuu converts static files into: digital portfolios, online yearbooks, online catalogs, digital photo albums and more. Sign up and create your flipbook.