Adolygiad o Torri Tir Newydd
Cyllid y Swyddfa Gartref i gefnogi Menywod sy’n Ffoaduriaid yn ystod Covid-19 Mae’r Groes Goch Brydeinig wedi derbyn arian grant ‘Cefnogaeth i Fenywod sy’n Ffoaduriaid yn ystod COVID-19’ [c £585,000] gan y Swyddfa Gartref. Byddant yn cyflawni eu prosiect ‘Grymuso a Chysylltu Digidol’ a fydd yn helpu i ddarparu cefnogaeth i fenywod sy’n ffoaduriaid, ledled y DU, i ddiwallu anghenion sy’n gysylltiedig â chyfyngiadau COVID-19 ac adferiad COVID-19. Bwriad yr arian yw helpu i arwain grymuso digidol trwy ddarparu dyfeisiau, data, arweiniad a chymorth technegol yn uniongyrchol i fenywod ledled y DU; cyflwyno adeiladu cydnerthedd a hyfforddiant wedi’i deilwra trwy sesiynau gwaith grŵp ar-lein i ystod o grwpiau menywod sy’n ffoaduriaid a rhai cysylltiedig y Groes Goch; a chreu gwaddol o ddeunyddiau cwrs a ffilm integreiddio ar gyfer mynediad ar-lein i filoedd o fenywod sy’n ffoaduriaid ledled y DU, carfannau ehangach a rhanddeiliaid. Dylai hyn yn ei dro helpu i leihau ynysiad ymysg menywod sy’n ffoaduriaid ac arwain at welliannau mewn llesiant, yn ogystal â chefnogi gwaith y Groes Goch Brydeinig yn erbyn trais ar sail rhyw trwy ledaenu gwybodaeth. Dyfarnwyd cyllid [c £61,000] i Micro Rainbow i gefnogi menywod sy’n ffoaduriaid ac yn lesbiaidd, deurywiol, trawsrywiol a queer ledled y DU. Mae rhanddeiliaid yn adrodd nad yw’r grŵp hwn o ferched sy’n ffoaduriaid yn aml yn cael ei gefnogi gan naill ai sefydliadau ffoaduriaid prif ffrwd neu rai LHDTI. Bydd y prosiect hwn yn canolbwyntio ar fynd i’r afael â thlodi digidol trwy ddarparu dyfeisiau, ochr yn ochr â gweithgareddau i wella sgiliau digidol, cyflogadwyedd, a sgiliau cyfweliadau swyddi a sgiliau bywyd.
20