1 minute read

Torri Tir Newydd

Advertisement

Yn 2013, noddodd y Swyddfa Gartref a Llywodraeth Cymru ymchwil ar y cyd gan y WSMP i brofiadau trais yn erbyn menywod sy’n fewnfudwyr, ffoaduriaid a cheiswyr lloches yng Nghymru. Roedd yn astudiaeth arloesol ar y pryd ac mae’n parhau i fod yr unig ymchwil yng Nghymru i drais a brofwyd gan y grwˆp hwn o fenywod a merched. Archwiliodd yr adroddiad ystod o faterion a phrofiadau gan gynnwys digwyddiadau o gam-drin yn y cartref yn y wlad gartref, sut mae hyn yn cael ei archwilio ym mhroses lloches Llywodraeth y DU gan gynnwys trawmateiddio yn ystod y cyfweliad, ynghyd â threfniadau ar gyfer tai a chymorth. Roedd yn ymdrin ag ystod o fathau penodol o drais a chamfanteisio fel masnachu mewn pobl, profiadau ceiswyr lloches LHDT, y rhai â NRPF, plant a darparu gwasanaethau arbenigol. Helpodd yr adroddiad ymchwil i lenwi bwlch tystiolaeth yng Nghymru, a nododd faterion o fewn rhai cymunedau sy’n fewnfudwyr er mwyn sicrhau nad yw’r materion penodol a chymhleth iawn hyn yn cael eu hesgeuluso ym mholisi Cymru. Roedd yn uniongyrchol berthnasol i nodau strategol y Swyddfa Gartref a Llywodraeth Cymru i ddod â thrais yn erbyn menywod i ben. Gwnaeth ‘Torri Tir Newydd’ sawl argymhelliad ar gyfer ystod o bartneriaid gan gynnwys y Swyddfa Gartref; mewn perthynas â chyfweld menywod a merched sydd wedi profi trais, galw ar adolygiad o ganllawiau’r Swyddfa Gartref a hyfforddiant ar gynnal y cyfweliad lloches. Galwodd yr adroddiad hefyd ar i Lywodraeth Cymru, yng nghyd-destun ei gwaith arloesol ar gam-drin yn y cartrefv, i sicrhau bod pob menyw yng Nghymru yn rhannu’r hawl i fod yn ddiogel trwy gymryd camau i ymestyn yr amddiffyniadau y mae mwyafrif y menywod yn eu mwynhau i’r menywod a’r merched mwyaf agored i niwed yng Nghymru. Roedd yr adroddiad hefyd yn cynnwys nifer o argymhellion ar gyfer awdurdodau lleol, iechyd, yr heddlu a gwasanaethau arbenigol. Datblygwyd cynllun gweithredu ond ni chafwyd monitro cyson o hyn ar ôl 2015 oherwydd diffyg capasiti.

This article is from: