1 minute read

Dulliau

Mabwysiadwyd dull dulliau cymysg o gasglu data gan gynnwys casglu data meintiol eilaidd, cyfweliadau lledstrwythuredig gyda gweithwyr proffesiynol, ac adolygiad o lenyddiaeth a dogfennau polisi. Ni chynhwyswyd casglu data meintiol fel rhan o’r adolygiad, ond mae wedi ystyried data a gasglwyd fel mater o drefn gan Uned Atal Trais Cymru ar lefelau trais yng Nghymru, Llywodraeth Cymru ac asiantaethau statudol a gwirfoddol ehangach. Cynhaliwyd cyfweliadau lled-strwythuredig gyda gweithwyr proffesiynol a’r rheini sy’n gweithio gyda menywod sy’n fewnfudwyr, ffoaduriaid neu geiswyr lloches trwy wasanaethau aelodau Cymorth i Fenywod Cymru. Roedd y rhain yn wirfoddol a gyda chaniatâd. Gwahoddwyd y Swyddfa Gartref, Llywodraeth Cymru, y pedwar heddlu, awdurdodau lleol, Cymorth i Fenywod Cymru a’r holl asiantaethau eraill y rhoddwyd argymhellion penodol iddynt yn adroddiad 2013 i roi’r diweddaraf ar y cynnydd mewn cyfarfodydd gyda’r ymchwilwyr, a thrwy gyfrwng ysgrifenedig. Ar ddechrau’r astudiaeth, y gobaith oedd y byddai cyfle i gyfweld menywod a merched sy’n fewnfudwyr, ffoaduriaid a cheiswyr lloches yn uniongyrchol am eu profiadau o gael mynediad at wasanaethau yn ystod COVID-19. Yn anffodus ar adeg cynnal yr ymchwil, gosodwyd cyfyngiadau cenedlaethol ac nid oedd trafodaethau wyneb yn wyneb yn gallu digwydd. Barnwyd bod mynediad digidol i’r grwˆp hwn hefyd yn rhy heriol, o ystyried yr angen i sicrhau caniatâd gwybodus a mynediad at gefnogaeth angenrheidiol gan gynnwys cyfieithu ar y pryd. Fodd bynnag, darparwyd astudiaethau achos a defnyddiwyd tystiolaeth eilaidd i sicrhau bod lleisiau menywod a merched eu hunain yn cael eu cynnwys.

Advertisement

This article is from: