CAVO Annual Report 2010

Page 7

Gwybodaeth a Chefnogaeth 134 ymholiadau am grantiau.

AMCAN CAVO: Galluogi a datblygu gallu'r sector trwy ddarparu cefnogaeth, gwybodaeth, cyngor, a hyfforddiant

Mae Tîm Datblygu CAVO yn cefnogi grwpiau gwirfoddol cymunedol trwy ddarparu: § cefnogaeth datblygu sy'n galluogi grwpiau i ymgymryd â rheoli prosiect, § gwybodaeth a chefnogaeth wrth ddatblygu dogfennau llywodraethol a pholisïau, § gwybodaeth gyllidol, § gwybodaeth am ddeddfwriaeth a materion cyfredol sy'n effeithio ar y sector, § trefnu sesiynau gwybodaeth, cymorthfeydd a fforymau er mwyn rhoi gwybodaeth i grwpiau.

Llynedd, mi ddwedom y byddem yn: § Parhau i weithio gydag asiantaethau eraill i sicrhau ein bod yn cynnig y gefnogaeth orau posib i grwpiau gwirfoddol cymunedol yng Ngheredigion. § Parhau i glustnodi ffynonellau cyllid ar gyfer cynllun grant i gefnogi grwpiau i ymgysylltu a'u cymunedau a chynhyrchu incwm. § Sefydlu nifer o fentrau i greu cysylltiadau rhwng grwpiau gwirfoddol cymunedol a'r sector busnes. § Annog defnydd o'r Cyfeirlyfr Adnoddau Cymunedol. § Chwilio am gyfleoedd i barhau Prosiect Cylchredwyr Technoleg a chynnig cefnogaeth TG fforddiadwy i grwpiau gwirfoddol cymunedol yng Ngheredigion. § Adeiladu gallu grwpiau i ymateb i gyfleoedd caffaeliad. § Archwilio cyfleoedd i grwpiau i rannu cyfleusterau ac adnoddau. § Hybu ymarfer da yng ngweithred wirfoddol gymunedol. Yr hyn a gyflawnwyd: § Ym mis Hydref 2009, lansiwyd gwefan CAVO ar ei newydd wedd ynghyd â chyfres newydd o daflenni cyhoeddusrwydd. § Buom yn gweithio gyda chyllidwyr a phartneriaid i annog grwpiau i gofrestru manylion ar Gyfeirlyfr Adnoddau Cymunedol Ceredigion. § Mae staff CAVO wedi cefnogi grwpiau i ymateb i gyfleoedd caffael, trwy'r prosiect Porth Ymgysylltu § Rydym wedi gweithio gyda nifer o grwpiau i ddatblygu mentrau ar y cyd. § Mae CAVO wedi datblygu cais i'w ystyried fel rhan o gyflwyniad Cynllun Datblygu Gwledig Ceredigion i wneud y defnydd gorau o adnoddau cymunedol.

6


Issuu converts static files into: digital portfolios, online yearbooks, online catalogs, digital photo albums and more. Sign up and create your flipbook.