
1 minute read
Bywyd y Cristion
from Pethau
Mae a wnelo ein ffordd ni o fyw fel Cristnogion â byd gwaith a diwydiant. Nid rhywbeth i’r capel ac i’r dydd Sul yn unig ydyw. Byddwn yn rhoi ein dillad gorau amdanom ar y Sul ac yna eu tynnu a’u cadw hyd y Sul canlynol. Gofalwn beidio gwneud hynny â’n ffordd ni o fyw
Y mae yna lawer o broblemau mawr yn ein byd heddiw – rhyfel, newyn, ffoaduriaid, tlodi a dioddef. Ond beth allwn ni wneud?
Mae’n ddyletswydd ar bawb ohonom i wneud beth allwn ynglyn â chwestiynau’r dydd a pheidio claddu ein pennau yn y tywod, fel yr estrys
Nid yw yr eglwys yn sefyll yn ei hunfan chwaith, rhaid iddi symud yn gyson. Mae’n byd ni wedi mynd mor fychan erbyn hyn fel bod problemau Syria a gwledydd felly sydd ymhell oddi wrthym wedi dod yn hynod o agos atom. Cofiwch, fel aelodau o Eglwys Iesu Grist, ein bod yn perthyn i un o’r cymdeithasau sy’n ceisio gwneud eu gorau dros ddioddefwyr y byd a’n cenhadaeth yw i helpu rhai llai ffodus na ni
Mae yna hen stori am lenor enwog o’r cyfnod lle nad oedd goleuadau stryd trydan wedi eu darganfod
Yr oedd y llenor yn sefyll un min nos ar fryn ger dinas Caerdein ac yn edrych i lawr ar y ddinas yn araf gilio o dan fantell y nos. Prin y gallai weld yr adeiladau ac yr oedd am aros yno nes y methai weld dim. Ond ni ddigwyddodd hynny oherwydd daeth y dyn oedd yn goleuo y lampau nwy at ei waith. Yr hyn a welodd y llenor oedd y naill lamp yn cael ei goleuo ar ôl y llall nes bod pob stryd yn llawn o sêr golau
Y mae hyn yn ddameg o neges yr Eglwys Gristnogol.