2 minute read

Ti yw goleuni'r byd. Y freuddwyd sydd

Next Article
wast a ! b

wast a ! b

Mae cofleidio Cristnogaeth yn fwy na thaith ysbrydol bersonol; mae'n cwmpasu cydadwaith deinamig rhwng credoau unigol a dylanwad cyd-gredinwyr a'r byd ehangach. Fel dilynwyr Crist, mae Cristnogion yn canfod eu hunain yn llywio’r cysylltiad dwys rhwng eu ffydd a’r amgylcheddau y maent yn byw ynddynt. Dwy thema hollbwysig sy'n dod i'r amlwg yn y cyd-destun hwn yw bod ym mhresenoldeb eraill a bod ym mhresenoldeb y byd

Yn yr erthygl hon, byddwn yn archwilio arwyddocâd y ddwy thema ac yn rhoi mewnwelediad ymarferol ar sut i lywio’r dirwedd gymhleth o fod yn Gristion ym mhresenoldeb eraill a’r byd. Trwy ddeall a chofleidio'r ddeinameg hyn, gall credinwyr nid yn unig gryfhau eu ffydd bersonol ond hefyd gyfrannu'n gadarnhaol at fywydau'r rhai o'u cwmpas a'r gymdeithas ehangach.

Y cysylltiad â’i gyd Gristnogion.

Ein dull ni o dderbyn un yn aelod yw estyn iddo ‘Ddeheulaw Cymdeithas’. Ystyr hyn yw fod y gweinidog, yn enw’r eglwys, yn estyn ei law dde i’r aelod newydd ac yn ei groesawu mewn i’r gymdeithas.

Dyletswydd gyntaf pob aelod yw bod yn ffyddlon i gyfarfodydd a gwaith y gymdeithas – mae angen ein hatgoffa o hyn ar ôl y cyfnod covid. Peth hawdd yw stopio dod, peth llawer anoddach yw ail gychwyn

Rhaid bod yn ffyddlon i’r capel a meithrin ysbryd da a chariad at ein gilydd. Dyna oedd yn nodweddiadol am yr Eglwys Fore – “Gwelwch fel y mae y Cristnogion yn caru eu gilydd.” Y gair y bydda i yn hoffi ddefnyddio amdanom yw ‘teulu’. Yn union fel y mae cariad a ffyddlondeb yn ein cartrefi rhaid cael hyn yn nheulu’r eglwys hefyd. Uwchben y drws mewn un eglwys mae’r geiriau “Pa fath eglwys fyddai’n heglwys ni pe bai pob aelod yr un fath a fi?”

Geiriau gwych i wneud i bob un ohonom ystyried ein cyfraniad.

Y cysylltiad â’r byd.

Mae stori yn yr Hen Destament am bedwar gwahanglwyfus yn byw tu allan i ddinas Samaria. Yr oedd pobl y ddinas yn taflu ychydig fwyd iddynt dros y mur ac ar hynny roedd y pedwar yn byw. Daeth byddin Syria a gosod gwarchae ar y ddinas ac o ganlyniad ni chai’r pedwar fwyd. Dyma nhw’n cynnal pwyllgor a phenderfynu mynd i ofyn i frenin Syria am fwyd ond pan ddaethant i wersyll y Syriaid doedd neb yno. Roedd y Syriaid wedi clywed swn rhyfedd yn ystod y nos ac yr oeddynt wedi ffoi gan adael popeth ar ôl yn eu pebyll –bwyd, dillad ac aur. Pan welodd y pedwar dyn claf yr holl gyfoeth bu bron iddynt lewygu o lawenydd. Dyma fwyta yn dda, gwisgo dillad newydd a phocedu’r aur a’r arian

Ond yng nghanol hyn oll mi ddywedodd un ohonynt “Nid ydym yn gwneuthur yn iawn.”

Yr oeddynt hwy uwchben eu digon tra roedd gwragedd a phlant yn marw o newyn yn y ddinas – pobl oedd wedi bod yn eu helpu. Gadawsant y cwbl a mynd ar eu hunion i rannu’r newyddion da gyda trigolion y ddinas

Rhaid i ninnau gofio eraill, cofio y rhai sy’n newynnu ac yn dioddef a rhannu gyda hwy. Yn ogystal a hynny rhaid i ni, fel Cristnogion, rannu yr Efengyl â phawb hefyd.

Dywedodd Iesu, ”Nid ydynt ychwaith yn cynnau lamp ac yna'n ei rhoi dan fasged; y mae wedi ei gosod ar ganhwyllbren, lle y mae'n goleuo pawb yn y tŷ. Yn union felly, rhaid i'ch goleuni lewyrchu gerbron eraill, er mwyn iddynt weld eich gweithredoedd da a gogoneddi eich Tad nefol."

This article is from: