
2 minute read
wast a ! b
from Pethau
Trwy’r cyfnod clo, rwyf wedi dod yn ymwybodol iawn o’r ffaith bod pobol wedi rhoi pwysau ymlaen drwy orfwyta (ac yfed).
Mae hyn yn dod yn amlwg wrth arsylwi cyfryngau cymdeithasol, ac wrth siarad a chlywed ffrindiau a theulu yn cwyno am hyn. Oherwydd hyn mae’r “fads” a’r “diets” wedi dod 'nôl yn boblogaidd unwaith eto, a gyda chymaint o “diets” gwahanol yn hawlio canlyniadau cloi ag anhygoel, mae’n anodd iawn i ddewis un sydd yn mynd i weithio i chi.

Os ydych yn un sydd yn hoff o bryd o fwyd gweddus sydd yn eich llanw nes bod eich boliau yn hapus, mae plât o salad gydag ychydig o gig ddim yn mynd i fod yn ddigon.
Reit…bant a’r cart!
Rhowch badell ffrio ar wres rhwng canolig ag uchel i dwymo
Cymysgwch cynhwysion y crempog (nid y menyn) gyda’i gilydd yn dda mewn bowl neu jwg, gyda chymysgydd llaw trydan os yn bosib.
Rhowch werth llwy de o fenyn i doddi yn y badell nes ei fod wedi ei wasgaru ar draws y badell wedi twymo’r badell ffrio.
Arllwyswch ychydig o’r gymysgedd crempog i mewn i’r badell gan orchuddio gwaelod y badell gyda’r gymysgedd trwy ogwyddo’r badell
Fflipiwch y crempog drosto yn ofalus i goginio ar yr ochr arall ar ôl tua 2 funud,
Tynnwch y crempog allan o’r badell a’i osod ar blât ar ôl munud arall o goginio.
Topinau o’ch dewis chi
Dyma enghreifftiau sy’n lysh… mmmm.

Cnau Ffrengig wedi’i torri
Almonau wedi'u sleisio
Mafon Llus
Chi bron yn barod…
dodwch y tegyll arno a dechreuwch eich diwrnod y ffordd orau. Mwynhewch!
Gwnewch yr un peth drosto nes bod y gymysgedd wedi ei orffen tua 100
Mae llawer o bobl bellach wedi dod yn ymwybodol o’r “keto diet”, sef ffordd o fwyta lle rydych yn lleihau'r carbohydradau yn sylweddol yn eich bwyd.

Bwydydd sydd yn ddim yn cynnwys o “carbs”, neu ychydig iawn, yw bwydydd fel cig, llysiau gwyrdd a salad. Sbel yn ôl, roedd yr “Atkins diet” (enghraifft o keto) yn boblogaidd iawn, ond cafodd ei farni yn ffordd afiach o fyw am ei fod yn canolbwyntio ar lot o gig a braster gydag ychydig iawn o lysiau a ddim lot o ffibr, ac rwy’n cytuno yn llwyr gyda’r farn hyn.
Ond ar ôl neud mwy o ymchwil a mwy o arbrofi yn y gegin, mae 'na ffordd o allu byw'r ffordd keto a bod yn iach ar yr un pryd. Wrth gyfnewid ambell i gynhwysyn, gallwch ail greu eich hoff fwydydd ond gan gynnwys llysiau, ffibr ac ambell i ffrwyth, sydd yn cyfrannu tuag at ffordd o fyw iach.
I lanw, gosodwch y crempog yn fflat ar blât gan roi haenen o gaws i orchuddio hanner y crempog, ac yna haenen o ham ar ben y caws.
Plygwch y crempog yn ei hanner fel bod yr ham a’r caws wedi ei orchuddio fel llythyr mewn amlen.
Rhowch y grempog yn y ficrodon am funud a hanner nes bod y caws wedi ei doddi.
Yn y rysáit hyn, fi wedi cyfnewid y dull traddodiadol o ddefnyddio blawd gwyn i flawd almwnd sydd yn cynnwys llawer o ffibr a braster da llawn omega 3 a 6.
Mae’r crempog ham a chaws hyn yn gwneud brecwast neu brunch blasus iawn, neu gallwch ei fwynhau i ginio neu swper gyda salad neu lysiau gwyrdd ar yr ochr.