3 minute read

Mynediad i ddeffroad ysbrydol.

Next Article
Mwy o hapusrwydd.

Mwy o hapusrwydd.

Cenhadaeth Y Porth

Ein cenhadaeth yw ddyfnhau ein perthnas â Duw a'n gilydd, tyfu mewn cariad a gwybodaeth am Dduw a dysgu'r ffordd orau i gefnogi ein gilydd yn yr eglwys.

Gweledigaeth Y Porth

I helpu plant, ieuenctid ac oedolion i fyw bywyd yn ei holl gyflawnder.

Rhennir cynllun y Porth i ddwy brif adran ddatblygu, sef y Ffordd o Fyw a Byw i Ddysgu.

Y Ffordd o Fyw. Byw i Ddysgu.

Gwasanaethu’r gymuned. Arloesi a chyhoeddi’r Efengyl.

Fel eglwys rydym yn angerddol am y rhan rydym yn chwarae yn gwasanaethu’r gymdeithas. Rydym yn gyffrous am yr effaith mae hyn yn cael ar fywydau'r rhai sy’n ein hangen a’r effaith mae adnabod Iesu yn gwneud.

Mae dod i wybod fwy amdano ac am safbwynt yr eglwys ar faterion cyfoes yn gymorth mawr i fyw bywyd yn ei holl gyflawnder.

Bydd yr adran yma yn estyn allan mewn ffordd fwy ymarferol. Byddwn yn canolbwyntio ein cymorth ymarferol allan o Hebron, Drefach, sydd hefyd yn ffocws i gais i’r Loteri er mwyn ei ddatblygu’n ganolfan amlbwrpas.

Swyddog Ieuenctid

Bydd bod yn aelod o’r Porth yn ein galluogi i ddilyn erthyglau, blogiau a chyrsiau i ddyfnhau ein perthynas â Duw a thyfu ein bywyd Cristnogol. Mae’r cynnwys yn adlewyrchu materion cyfoes a’r heriau sydd i genedlaethau ifanc yr eglwys. Fe ddaw cynnwys yr adrannau yn sail i hyfforddiant sydd yn y pen draw yn cynnig cymwysterau i’r rhai sy’n am eu dilyn.

Bydd yr adran yma yn gymorth i wybod fwy am Iesu a datblygu cymhwyster personol.. Bydd yr eitemau i’w darllen eto yn ein cylchgrawn Pethau sy’n cael ei argraffu ddwy waith y flwyddyn.

Erbyn y rhifyn yma o Pethau rydym yn gallu cyhoeddi a chroesawi Nerys Burton fel aelod newydd o’r tîm. Mae Nerys yn gyn prif swyddog gyda Menter Cwm Gwendraeth Elli ac wedi dechrau yn ei swydd rhan amser ar ddechrau Ebrill eleni. Fel rhan o’r swydd 10 awr yr wythnos mae wedi bod yn brysur gydag aelodau eraill o’r eglwys yn paratoi cais i adnewyddu Hebron yn ganolfan gymunedol yn Nrefach. Dyna beth yw bedydd tân. Ar hyn o bryd mae yn paratoi cynnwys ar gyfer ein blogiau wythnosol a’n cylchgrawn. Llawer mwy i ddod!

Hoffwn ddiolch i Undeb yr Annibynwyr Cymraeg am ymddiried ynom fel eglwys i gydweithio ar brosiect arloesol i hyrwyddo a chyhoeddi’r Efengyl ac estyn allan a gwasanaethu’r gymuned. Bum yn llwyddiannus yn ein cais i ariannu swyddog am ddau ddiwrnod yr wythnos am bum mlynedd i redeg prosiect y Porth ac edrychwn ymlaen at weithio mewn partneriaeth â’r Undeb a phartneriaid eraill yn y dyfodol. Bydd y Porth y tyfu o wythnos i wythnos wrth i ni baratoi deunydd sy’n berthnasol i’r eglwys heddiw ac yn esblygu’n naturiol wrth i’r blynyddoedd fynd rhagddi.

Yn awr i'r hwn sy'n gallu eich cadw rhag baglu, a'ch cyflwyno'n ddi-fai gerbron ei ogoniant â llawenydd mawr. Beth sy'n achosi newid yn y ffordd rydych chi'n ei chymryd?

Mae modd apwyntio arweinydd neu arweinyddion ar eglwys wrth gwrs ac mae yna amryw o batrymau o arwain fel hyn. Mae’r undeb yn cydnabod bellach fod hyn yn un modd i symud yn ein blaenau. Yng Nghasnewydd er engraifft mae tîm o arweinwyr; yng Nghapel Seion mi gychwynais i fel arweinydd ond yn gwneud y rhan fwyaf o waith gweinidog; mewn rhai eglwysi mae arweinyddion yn gweithio ar y Sul yn unig gan hepgor yr ymweld ac yn y blaen. Efallai mai dyma’r ffordd ymlaen i rai. Cyn belled a’n bod yn cadw’r adnod yma o bennod 3 o’r llythr cyntaf at y Corinthiaid yn ein cof bydd popeth yn bosibl –

Gan anghofio’r prinder gweinidogion am funud, mae difaterwch pobl yn gyffredinol tuag at eu heglwysi a neges yr Arglwydd Iesu Grist yn ofid calon i mi. Rydw i’n cynnal angladdau cynifer o bobl sydd heb fod yn agos i oedfa na gwasanaeth ers blynyddoedd –angladd Gristnogol wrth gwrs. Ynghlwm wrth y cwestiwn o ddenu pobl i’r weinidogaeth mae’r cwestiwn mwy efallai o sut i ddenu pobl yn ôl i oedfaon

Hawdd i minnau holi – heb gynnig atebion! Ond efallai nad gan y gweinidog y mae’r atebion. Rydych chi gyd yn gymaint rhan o’r eglwys a’r gweinidog ac mae eich llais chi yr un mor bwysig. Os oes syniad gwych gan rywun peidiwch ag ofni ei rannu, yn enwedig gyda’r gweinidog!

Rhaid terfynu gyda geirau o lyfr cyntaf Pedr –

Yn sicr, mae yna newid pwyslais mawr wedi bod mewn cymdeithas ond fe ddylem holi ein hunain a ydym ni wedi ceisio newid er mwyn cystadlu gyda’r newidiadau yma?

Rhaid i mi gydnabod mai cefnogaeth ydw i wedi gael wrth geisio gwneud newidiadau ond dw i’n amau nad yw hyn yn wir ym mhob eglwys yng Nghymru. Wedi dweud hynny, ydw i wedi gwneud digon o newidiadau? Fel yr ydw i wedi grybwyll eisioes rhaid i’r sylfaen aros ac fe fydd y neges yr un pa bynnag ddull a ddefnyddir.

Mae Duw yn ei haelioni wedi rhannu rhyw ddawn neu'i gilydd i bob un ohonoch, a dylech wneud defnydd da ohoni drwy wasanaethu pobl eraill. Dylai pwy bynnag sy'n siarad yn yr eglwys ddweud beth mae Duw am iddo'i ddweud. Dylai pwy bynnag sy'n gwasanaethu pobl eraill wneud hynny gyda'r nerth mae Duw yn ei roi.

GWNEUD GWAHANIAETH

“God gives mankind its first stewardship assignment. It says, And God blessed them. And God said to them, 'Be fruitful and multiply and fill the earth and subdue it, and have dominion over the fish of the sea and over the birds of the heavens and over every living thing that moves on the earth” Genesis 1:28

This article is from: