5 minute read

Newid Cyfeiriad.

Next Article
Mwy o hapusrwydd.

Mwy o hapusrwydd.

“Paid ag esgeuluso'r ddawn roddodd yr Ysbryd Glân i ti gyda neges broffwydol pan oedd yr arweinwyr yn gosod eu dwylo arnat ti i dy gomisiynu di i'r gwaith.” 1

Timotheus 4:14

Mae sawl un wedi synnu i mi newid cyfeiriad yn y fath fodd a mynd yn weinidog ond pam fod cyn lleied o weinidogion o gwmpas ar hyn o bryd?Fe fyddai ysgrifenyddion cyhoeddiadau capeli yn dweud wrthych ei bod bron yn amhosibl cael gweinidog ordeiniedig i ddod atynt ar fore Sul. Y gwir yw fod gormod o eglwysi a dim digon o weinidogion i gyflawni’r gwaith

Pan oeddwn i’n tyfu fyny yn y 70au ym mhen uchaf Cwm

Gwendraeth roedd fy nhad yn weinidog yng Nghapel Seion ac mi ddywedodd wrth mam, “mae hon yn oes aur yn y cwm yma, welwn ni ddim cyfnod fel hyn eto.”

Cyfeirio yr oedd e at y ffaith fod gweinidog ymhob eglwys. Roedd gweinidogion yn galw yn ty ni yn aml am sgwrs ac roedd ‘fraternal’ y gweinidogion ganddyn nhw i drafod syniadau

Mae’r sefyllfa yn gwbl wahanol heddiw ac yn adlewyrchiad o Gymru ben baladr. Dw i’n ymwybodol mai prin iawn yw’r bechgyn neu ferched ifanc sydd yn dewis mynd i goleg diwinyddol o’r ysgol bellach ond mi fyddai fy nhad yn dweud o hyd y dylai dyn fynd i weithio ymhlith dynion cyn mynd yn weinidog, er mwyn dod i adnabod pobl. Sylw yr ydw i yn ddeall yn iawn erbyn hyn

Dw i’n cael pleser aruthrol o weithio gyda pobl a gallu helpu pobl ond a ydy pobl ifanc yn gweld y weinidogaeth yn ddibwynt yn yr oes hon sgwn i?

Ydy’r hen syniad am weinidogion fel dynion dwys mewn siwt dywyll a thei yn parhau?

Ond mi oedd gweinidog yn berson y byddai pobl yn troi ato am gyngor a chymorth mewn pentref – mae hynny wedi prinhau hefyd. Efallai bod rhaid i ninnau yn ein heglwysi ystyried ein cyfeiriad a chraffu o ddifrif ar ein cyflwr. Oes angen gwneud newidiadau? A fyddai moderneiddio mewn gwahanol ffyrdd yn help i ddenu pobl ifancach i’r weinidogaeth? Dw i’n credu bod modd cynnal y weinidogaeth mewn amryw ffyrdd a does dim rhaid i bethau fod fel yr oedden nhw ganrif yn ôl. I ddychwelyd at y paragraff cyntaf – oes gormod o eglwysi i ateb y galw?“Paid ag esgeuluso'r ddawn roddodd yr Ysbryd Glân i ti gyda neges broffwydol pan oedd yr arweinwyr yn gosod eu dwylo arnat ti i dy gomisiynu di i'r gwaith.” 1 Timotheus 4:14

Mae sawl un wedi synnu i mi newid cyfeiriad yn y fath fodd a mynd yn weinidog ond pam fod cyn lleied o weinidogion o gwmpas ar hyn o bryd?

Fe fyddai ysgrifenyddion cyhoeddiadau capeli yn dweud wrthych ei bod bron yn amhosibl cael gweinidog ordeiniedig i ddod atynt ar fore Sul. Y gwir yw fod gormod o eglwysi a dim digon o weinidogion i gyflawni’r gwaith.

Pan oeddwn i’n tyfu fyny yn y 70au ym mhen uchaf Cwm

Gwendraeth roedd fy nhad yn weinidog yng Nghapel Seion ac mi ddywedodd wrth mam, “mae hon yn oes aur yn y cwm yma, welwn ni ddim cyfnod fel hyn eto.”

Cyfeirio yr oedd e at y ffaith fod gweinidog ymhob eglwys. Roedd gweinidogion yn galw yn ty ni yn aml am sgwrs ac roedd ‘fraternal’ y gweinidogion ganddyn nhw i drafod syniadau. Mae’r sefyllfa yn gwbl wahanol heddiw ac yn adlewyrchiad o Gymru ben baladr. Dw i’n ymwybodol mai prin iawn yw’r bechgyn neu ferched ifanc sydd yn dewis mynd i goleg diwinyddol o’r ysgol bellach ond mi fyddai fy nhad yn dweud o hyd y dylai dyn fynd i weithio ymhlith dynion cyn mynd yn weinidog, er mwyn dod i adnabod pobl. Sylw yr ydw i yn ddeall yn iawn erbyn hyn.

Dw i’n cael pleser aruthrol o weithio gyda pobl a gallu helpu pobl ond a ydy pobl ifanc yn gweld y weinidogaeth yn ddibwynt yn yr oes hon sgwn i?

Ydy’r hen syniad am weinidogion fel dynion dwys mewn siwt dywyll a thei yn parhau?

Ond mi oedd gweinidog yn berson y byddai pobl yn troi ato am gyngor a chymorth mewn pentref – mae hynny wedi prinhau hefyd. yporth.org

Efallai bod rhaid i ninnau yn ein heglwysi ystyried ein cyfeiriad a chraffu o ddifrif ar ein cyflwr. Oes angen gwneud newidiadau? A fyddai moderneiddio mewn gwahanol ffyrdd yn help i ddenu pobl ifancach i’r weinidogaeth?

Dw i’n credu bod modd cynnal y weinidogaeth mewn amryw ffyrdd a does dim rhaid i bethau fod fel yr oedden nhw ganrif yn ôl. I ddychwelyd at y paragraff cyntaf – oes gormod o eglwysi i ateb y galw?

Talcen caled yw creu ymwybyddiaeth a dylanwadu ar feddylfryd sydd wedi ffurfio ac i’r perwyl yma cefnogwyd cais

Capel Seion, Drefach gan Undeb yr Annibynwyr Cymraeg i hyrwyddo’r Efengyl mewn ffordd arloesol i bobl ifanc ac oedolion ifanc a chreu cymdeithas hyfyw drwy wasanaethu’r gymuned leol. Yn ein gweledigaeth i helpu ieuenctid ac oedolion ifanc fyw ei bywyd yn ei holl gyflawnder lluniwyd prosiect gwbl arloesol sydd wedi ei seilio ar ymchwil i angenion aelodau ein heglwys a chymuned Drefach a’r dalgylch.

Ein bwriad yw dyfnhau perthynas pobl ifanc rhwng 15 a 35 â Duw a chyflwyno’r cyfle iddynt dyfu mewn gwybodaeth am gariad Dduw, dysgu’r ffordd orau i gefnogi ei gilydd yn yr eglwys ac adnabod yr Arglwydd Iesu fel ffrind.

Daeth prosiect y Porth o ganlyniad i holi ac asesu anghenion y gymuned yn Nrefach a daeth yn amlwg o’r ymateb bod y canlyniadau yn syrthio i ddau brif faes yn arbennig. Gellir eu disgrifio fel ‘Ffordd o fyw,’ neu weithgareddau er mwyn gwasanaethu’r gymuned a ‘Byw i ddysgu’, sef ffyrdd arloesol o hyrwyddo a chyhoeddi’r Efengyl. Rhennir y ddau faes ymhellach i dri is adran gennym sy’n disgrifio’n glir y trywydd sydd angen i ni gymryd wrth weithio gyda phobl ifanc, i uniaethu â nhw ac i ennill yr hawl i rannu'r newyddion da am Iesu Grist gyda nhw.

Nod isadran y ‘Ffordd o fyw’ yw ymestyn gorwelion Cristnogol pobl ifanc mewn modd ymarferol drwy ddysgu am rôl yr eglwys a’r byd, rôl

Iesu yn y gymuned a gwneud gwahaniaeth positif i fywydau pobl.

Mae ‘Byw i ddysgu’ ar y llaw arall yn canolbwyntio ar ffyrdd digidol cyfoes a hyfforddi er mwyn ddysgu am Dduw, datblygu cynhwysedd personol ac elwa o brofiadau bywyd.

Gan fod yr eglwys yn cyffwrdd a’r byd ym mhob ffordd ac mae rôl bwysig ganddi wrth geisio ymateb i’r materion sydd o bwys i bobl ifanc. Mae delwedd, pwysau corfforol, iselder ysbryd, straen a gorbryder, delio a phrofedigaeth, perthynas a phriodas ond yn rhan o’r rhychwant o ddylanwadau heriol daethom o hyd iddynt.

Bydd y swyddog yn cydweithio â phobl ifanc er mwyn ymateb i’r swnami o ddylanwadau yma ac yn defnyddio’r cyfryngau cyfoes i gysylltu â chwrdd lle mae pobl yn cwrdd. Rhaid i’r cydweithio fod yn addas a pherthnasol gan ddefnyddio chwaraeon fel cyfrwng i weithio mewn tîm, cymdeithasu a chreu perthynas wrth gydweithio a mudiadau gwirfoddol ac elusennau.

Mae hefyd y posibilrwydd i fanteisio ar wersylloedd i ddwysau profiadau Cristnogol.

Bydd y swyddog ieuenctid yn allweddol i lwyddiant y Porth wrth greu gwead cytûn o’r ddau brif faes. Rydym felly yn annog diddordeb trwy hysbysebu am berson ifanc, brwdfrydig i dorri tir newydd gyda ni, gan weithio ochr yn ochr â’r eglwys am ddau ddiwrnod yr wythnos dra hefyd yn gallu gweithio a chyfathrebu o adref ar y llwyfannau cymdeithasol os nad oes angen cwrdd wyneb yn wyneb.

Beth amdai?

“Wel dyma gyfnod newydd yn hanes yr eglwys. Dim yn aml mae swyddog ieuenctid yn cael cyfle i osod ei m(f)arc ar ystod oed mwyaf dylanwadol ein cenedl wrth dorri tir newydd i eglwys Iesu a’r gymuned.”

Y Parchedig Gwyn Elfyn Jones BA.

This article is from: