Rhoi pobl yn y canol

Page 1

Rhoi pobl yn y canol Dechrau gyda’r bobl, nid y systemau a grymuso ni gyd i gymryd rhan


Mae Cyngor Gweithredu Gwirfoddol Cymru (WCVA) yn cynrychioli ac yn cefnogi mudiadau gwirfoddol, gweithredu cymunedol a gwirfoddoli yng Nghymru, ac yn ymgyrchu drostynt. Mae WCVA wedi’i ymrwymo i drydydd sector cryf a gweithgar sy’n meithrin cymunedau cryfion, cydlynol a chynhwysol, gan roi rhan i bobl yn eu dyfodol drwy eu gweithredoedd a’u gwasanaethau eu hunain, a chreu cymdeithas gref, iach a theg gan arddangos gwerth gwirfoddoli a rôl y gymuned. Credwn fod angen taer i weddnewid gwasanaethau cyhoeddus yng Nghymru drwy wneud y canlynol:

Mae angen newid nawr oherwydd:

• Trin pobl a chymunedau fel asedau ac yn gyfartal wrth ddylunio a darparu

• Ni fydd arbedion effeithlonrwydd yn unig yn ddigon

• Adeiladu gwasanaethau o amgylch yr unigolion a’r gymuned

• Mae gwasanaethau ataliol a chymunedol yn cael eu torri

• Mae arian yn prinhau • Mae’r galw am wasanaethau acíwt yn cynyddu • Ni all y wladwriaeth yn unig sicrhau ansawdd bywyd

• Datgloi darpar adnoddau o ran amser, arian ac arbenigedd i’w cyfuno ag arian y wladwriaeth • Defnyddio adnoddau presennol y wladwriaeth i alluogi a hybu gweithredoedd, cyfalaf a gofal gan ddinasyddion a chymunedau

• Ni fanteisir yn llawn ar weithredu cymunedol na gwirfoddoli • Mae angen i gymunedau fod yn gryf ar lefel leol y fro

Dyma pam mae llawer o bobl yn edrych nawr ar wasanaethau cyhoeddus gwahanol a gydgynhyrchir, sy’n rhoi’r dinesydd a’r gymuned yn y canol, gyda’r wladwriaeth yn alluogydd ac yn hwylusydd. 2


Mae cydgynhyrchu neu rannu cyfrifoldeb, grym ac adnoddau yn y modd hwn yn cydnabod yn fanwl-gywirach y ffordd rydym yn byw ein bywydau mewn gwirionedd.

naethau aciwt Gwasa

u sanaetha cymunedol Gwa Mudiadau lleol

Mae’n diwallu ein hanghenion i fyw mewn lleoedd diogel, iach, llewyrchus a deniadol ac yn cyd-fynd â’n dealltwriaeth fod ansawdd bywyd yn cael ei bennu gan gyfuniad o weithredu gan yr unigolyn, y teulu, y gymuned a’r wladwriaeth lle’n aml y cyntaf o’r rhain yw’r pwysicaf.

Cymuned

chymdo gio iau a d n n i Ffr Teulu

Mae gan Gymru hanes cryf a balch o weithredu cymunedol a chydymddibyniaeth, a gall y trydydd sector adeiladu ar yr hanes hwn o gydweledigaeth, cymunedau yn dod at ei gilydd, cyfrifoldeb a gweithredu ar y cyd yn y ffyrdd canlynol.

Y person

3


1 Ymgysylltu ag unigolion a chymunedau wrth

2 Gweithredu’n gynnar er mwyn osgoi galwadau

ganfod angen neu gydweithio i gwrdd â’r heriau hynny. Mae gwasanaethau a gyd-ddylunir yn aml yn fwy tebygol o lwyddo ym mhob ffordd a galluogi i’r unigolion a’r gymuned gael eu cryfhau a’u grymuso.

mwy hirdymor ar wasanaethau drytach

Mae gweithredu’n gynnar yn rhatach na gweithredu’n hwyr, ond gwariwn y rhan fwyaf o arian cyhoeddus ar weithredu’n hwyr. Gweithredu’n gynnar

Cymuned gyda 4,500 o bobl ynddi yw Llwynhendy ar gyrion Llanelli. Amlygodd ymgynghoriad â’r gymuned bryder ynghylch tir segur a elwid y tip a ddefnyddiwyd fel tomen sbwriel ac roedd yn denu ymddygiad gwrthgymdeithasol. Sefydlwyd prosiect i drawsnewid y ‘tip’ yn dir gwyrdd ffrwythlon a chydag arian gan y llywodraeth a chaniatâd cynllunio, gwirfoddolwyr o’r gymuned drwyddi draw, mae’r prosiect nid yn unig wedi trawsnewid y safle ond mae’n ystyried defnyddio modurdai gerllaw fel gweithdai a datblygu cynllun rhannu gerddi.

Galluogi gwasanaethau

Gweithredu’n hwyr

Ymyriadau prydlon

RHATACH Rhwydweithiau cymorth teuluol a chymunedol lleol Gwasanaethau cyffredinol DRYTACH Darpariaeth wladwriaethol

Gwasanaethau acíwt

Gwasanaethau wedi’u targedu

Cyfyngiant

Dyma enghraifft dda o gydgynhyrchu, defnyddio technegau datblygu cymunedol i ddatrys cyfres o broblemau cydberthnasol yn un o ardaloedd difreintiedig Cymunedau yn Gyntaf sydd ers hynny wedi symud fyny’r raddfa amddifadedd a cholli ei statws Cymunedau yn Gyntaf.

[The Triple Dividend Community Links] Mae llawer o wasanaethau trydydd sector, megis Gofal a Thrwsio, trafnidiaeth gymunedol, cyfeillio a chlybiau cymdeithasol yn hanfodol i gynnal pobl yn eu cymuned ond nawr mae toriadau yn eu bygwth. Mae arnom angen mwy o wasanaethau trydydd sector, nid llai, os ydym am sicrhau nad yw’r galw ar wasanaethau acíwt neu breswyl yn mynd yn ormod.

4


3 Datblygu ffyrdd amgen o ddarparu gwasanaethau

Asgwrn cefn dull cydgynhyrchiol yw ennyn diddordeb a chefnogaeth y gymuned leol ac mae angen datgloi, galluogi a meithrin hyn gyda mynediad at wybodaeth gefnogol, adnoddau hyfforddi a datblygiad portffolio asedau.

Ceir enghreifftiau cyffrous o gydgynhyrchu ar waith ond maent yn anghyson, prin maent yn cael eu hailadrodd ac eto maent dan fygythiad. Un peth sy’n hybu cydgynhyrchu’n sylweddol yw cymorth a gyfarwyddir gan ddinasyddion, sy’n galluogi i’r unigolyn ddewis y gwasanaethau y mae arno eu heisiau, a thalu amdanynt. Gellir gwneud hyn yn unigol neu gyfuno ag eraill i ddatblygu ffurfiau newydd o wasanaethau sy’n cael eu teilwra a’u dylunio’n uniongyrchol gan yr unigolyn.

Nid yw bodolaeth barhaus amwynderau lleol yn rhywbeth y gellir ei gymryd yn ganiataol bellach, ond mae datblygu a chynnal ‘canolfannau cymunedol’ yn seiliau hanfodol i ddull cydgynhyrchiol a all hefyd ddarparu ffyrdd amgen o osgoi cau gwasanaethau drwy drosglwyddo perchnogaeth, ad-drefnu’r gwasanaeth, cynnwys y gymuned a lleihau’r gwasanaeth.

Mae rhai teuluoedd yn teimlo nad yw gofal seibiant traddodiadol i blant ag anghenion cymhleth yn gweithio.

Mae ar ddau gyngor eisiau torri gwariant ar lyfrgelloedd.

‘ Mewn amgylchedd newydd, allan o’i arferion rheolaidd, cafodd drafferth cysgu, bwyta ac yfed digon. Daeth adre’ mewn cyflwr a oedd bron yn ddigon drwg i fynd ag ef i’r ysbyty. Nid oedd yn seibiant i ni.’

Yng Nghyngor 1, y Cabinet sy’n penderfynu ac mae’r llyfrgell yn cau, gyda phrotestiadau a chyhoeddusrwydd negyddol nad ydynt yn newid y penderfyniad. Mae staff yn colli gwaith ac nid oes bellach gwasanaeth o unrhyw fath yn yr ardal.

Fodd bynnag, drwy gyllideb ‘gwasanaeth a gyfarwyddir gan ddinasyddion’ (cyllideb bersonol), roeddynt yn gallu prynu arosiadau dros nos arbenigol iawn, gwyliau byr gyda theuluoedd maeth a gofal wedi’i ddarparu yng nghartrefi teuluoedd yn ogystal â chanolfannau cymdeithasol a hamdden. Pan nad oedd gwasanaethau yn bodoli, mae Scope wedi cynorthwyo rhieni plant anabl i rannu adnoddau a phrynu ar y cyd gwyliau byr wedi’u teilwra a gweithgareddau hamdden, a rhannu trafnidiaeth ac ati a chefnogi ei gilydd. Trwy wneud hyn, mae gwasanaeth gwell wedi cael ei ddarparu gydag opsiynau mwy hyblyg a chynaliadwy

Aeth Cyngor 2 i’r gymuned gyda’i gynnig a gofyn am syniadau. Awgrymodd y gymuned i’r Cyngor drosglwyddo rhydd-ddaliad adeilad y llyfrgell i ymddiriedolaeth datblygu; a throsglwyddo gwasanaeth y llyfrgell i ganolfan gymunedol gerllaw sydd â lle gwag, a’i redeg gyda chymysgedd o drigolion a chydlynydd cyflogedig. Mae’r ymddiriedolaeth yn gwerthu’r adeilad gwreiddiol ac yn defnyddio’r arian i sefydlu gwaddol i fynd tuag at gostau’r cydlynydd. Mae costau cyfredol eraill yn cael eu talu gan grant refeniw parhaus gan y Cyngor sy’n 80 y cant yn llai na’r gwariant blaenorol. Mae’r gwasanaeth ac o leiaf un swydd gysylltiol wedi cael eu hachub.

The Guardian 14/8/2013

5


4 Gwasanaethau cymunedol

5 Gwasanaethau acíwt

Mae cydgynhyrchu gwasanaethau statudol yn gofyn am gomisiynu deallus, sy’n gallu cynnwys y gymuned ac arwain at ofynion ehangach a ffurfiau newydd o wasanaeth gan gynnwys cwmnïau cydweithredol, cwmnïau cydfuddiannol, cwmnïau buddiannau cymunedol neu elusennau.

Dylai llwyddiant dull cydgynhyrchiol leihau neu o leiaf sefydlogi’r galw ar wasanaethau ffurfiol ac acíwt. Mae cryn dipyn o ddiddordeb mewn ymgysylltu’n fwy â defnyddwyr a thrawsffurfio gwasanaethau o fewn system ysbytai acíwt a system cyfiawnder troseddol. Mae’r dulliau hyn yn ceisio dylunio gwasanaethau gan ddefnyddio lluosogrwydd adnoddau sy’n gwella lles y defnyddwyr, teuluoedd, gofalwyr a chymunedau mewn sefyllfaoedd o’r fath.

Microfentrau yn darparu gwasanaethau Nod y prosiect yw cynhyrchu pecynnau bach i ddarparu gofal wedi’i deilwra yn y gymuned ar gyfer pobl hˆyn fregus ac agored i niwed, wedi’u darparu gan ‘ficrofentrau’ annibynnol. Gallai microfenter fod ar ffurf un gwirfoddolwr neu griw bach o wirfoddolwyr, menter gymdeithasol neu unig fasnachwr neu fusnes bach, ond beth bynnag mae’r berthynas rhwng y person hˆyn a’r microfenter yn dibynnu ar gydgynhyrchu er mwyn llwyddo. Mae’r microddarparwr yn darparu’r pecyn mewn perthynas agos â’r cleient a chynhelir cysylltiadau cryfion â staff gofal iechyd sy’n helpu i gychwyn y broses. Yn y tymor canolig a hir, y bwriad yw i’r newid hwn yng nghydbwysedd gofal leihau’r galw ar wasanaethau iechyd acíwt i’r fath raddau fel y gellid trosglwyddo adnoddau er mwyn sefydlu darpariaeth gynaliadwy yn y gymuned.

Gwasanaeth Min Nos: trafnidiaeth o’r ysbyty i’ch cartref ‘tu allan i oriau’ ac asesu risg Mae’r gwasanaeth hwn yn atal derbyniadau diangen i’r ysbyty drwy gynnig trafnidiaeth adref o’r ysbyty i gleifion dros 55 oed sy’n feddygol abl i adael adran damweiniau ac achosion brys mewn dau Ysbyty Cyffredinol lleol. Mae’r gwasanaeth hefyd yn ceisio osgoi aildderbyniadau i’r ysbyty drwy asesu risg yn y cartref ac atgyfeirio cleifion at fudiadau cymorth cymunedol a statudol. Mae’r Gwasanaeth Min Nos yn cael ei ariannu gan y gwasanaethau iechyd a chymdeithasol, ac mae ar waith bum diwrnod yr wythnos, rhwng 2pm a 10pm. Mae’r gyrwyr, sydd i gyd yn ddwyieithog, ar gael yn y ddau ysbyty i gludo cleifion adref mewn modd cyfeillgar. Mae pob claf yn cael ei gludo adref, yn cael cymorth i setlo, yn cael cynnig gwiriad diogelwch yn ei gartref ac yn cael ei gyfeirio at weithgareddau / gwasanaethau eraill os yw’n briodol.

Bragg Enterprises, Fife

Wedi’i gyfieithu o F Zinovieff & B Collis (2010) The Role of the Voluntary Sector in Delayed Transfer of Care (DToC)/Hospital Discharge and Prevention of Readmission

6


6 Craffu Gall craffu annibynnol wella ansawdd penderfyniad ac felly’r canlyniadau. Mae mesurau i ddatblygu mynediad ac ymgysylltiad i ddinasyddion deallus yn rhan allweddol o gydgynhyrchu, gan fod craffu yn cwblhau cylch dylunio – darparu – asesu. Craffwyr lleol Mae Mantell Gwynedd (y cyngor gwirfoddol sirol ar gyfer Gwynedd) a Chyngor Gwynedd wedi gweithio’n agos i hybu cyfranogiad y trydydd sector yn y broses graffu. Mae gan Mantell Gwynedd system ffurfiol yn ei lle i sicrhau bod gan y trydydd sector lais cryf ym mhrosesau craffu’r awdurdod lleol. Mae gan Mantell Gwynedd ‘fanc craffwyr’ o’r trydydd sector sy’n darparu mewnbwn mewn meysydd arbenigol penodol. Mae’r trydydd sector yn cyfrannu hefyd at osod yr agenda craffu i’r sir. Rhaid nodi, fodd bynnag, fod trefn newydd y cabinet yng Ngwynedd yn codi cwestiwn sylfaenol dros ddylanwad craffu yn y dyfodol. Yn ddiweddar, mae enghreifftiau o ddeg aelod y cabinet yn gwneud penderfyniad er gwaethaf argymhellion craffu. Felly, mae Mantell Gwynedd yn rhagweld y gallai fod yn anos denu unigolion o’r trydydd sector i graffu yn sgil yr amgylchiadau hyn. Bethan Russell Williams, Prif Swyddog, Mantell Gwynedd Mae gan fudiadau trydydd sector rolau hanfodol i’w chwarae o ran craffu: gall grwpiau gynorthwyo pwyllgorau craffu drwy ddarparu cyngor, arbenigedd, tystiolaeth rheng flaen ac yn bwysicaf oll drwy fod yn gyfrwng at leisiau dinasyddion (sy’n aml wedi’u difreinio). Cefnogwn gyfetholiad mudiadau trydydd sector i bwyllgorau craffu.

Cyhoeddwyd gan Cyngor Gweithredu Gwirfoddol Cymru Tˆy Baltic, Sgwar Mount Stuart, Caerdydd CF10 5FH rhif elusen gofrestredig 218093 cwmni cyfyngedig drwy warant 425299. Medi 2013 Dyluniwyd gan Creative Loop www.creative-loop.co.uk

7


Y ffordd ymlaen i bartneriaid gwasanaethau cyhoeddus Cymru Mae WCVA yn gofyn i’n partneriaid gwasanaethau cyhoeddus i ymrwymo i’r gweithredoedd hyn, a gweithio gyda ni ynddynt, er lles Cymru:

1 Ymgysylltu

2 Atal ac ymyrryd yn

• Ymgysylltu â dinasyddion a chymunedau wrth ddylunio a darparu gwasanaethau fel partner cyfartal a chyfranogwr gweithgar • Datblygu a chynnal canolfannau cymunedol fel ‘asgwrn cefn’ cydgynhyrchu cymunedol • Cynnal cymorth lleol i grwpiau gan gynnwys cymorth gyda chyllid, llywodraethu, codi arian a gwirfoddoli • Ehangu a chyflwyno cymorth a gyfarwyddir gan ddinasyddion

3 Chwilio am fodelau

gynnar

amgen

• Buddsoddi mewn gwasanaethau trydydd sector • Mabwysiadu comisiynu deallus yn hytrach nag ymarfer caffael cystadleuol byrdymor • Comisiynu ffurfiau newydd o wasanaethau cymunedol i hybu a diwallu anghenion pobl • Ystyried Bond Lles Cymru i greu gwasanaeth newydd neu addrefnu un sydd eisoes yn bod a datgomisiynu yn greadigol • Peidio â thorri amwynderau lleol, ond eu cydnabod fel rhan hanfodol o wasanaethau cyhoeddus y dyfodol a chydgynhyrchu ffyrdd amgen o gynnal amwynderau lleol – gwneud hyn fel rhan o ‘strategaeth cymorth ac ymyrraeth gynnar’

Ymgysylltu

Atal ac ymyrryd yn gynna

4 Craffu

8

• Cyflwyno dyletswydd i sicrhau bod dinasyddion a’r trydydd sector yn cael eu cynnwys mewn prosesau craffu

• Defnyddio ffurfiau hyblyg a newydd o gyllid y gellir wedyn ei ailgylchu mewn mentrau cymunedol eraill • Rhoi prawf ar fodelau gwasanaethau newydd drwy gwmnïau cydweithredol, cwmnïau cydfuddiannol, cwmnïau buddiannau cymunedol ac elusennau

• Cefnogi datblygiad modelau craffu gan ddinasyddion • Gweithio gyda’r trydydd sector i ymgysylltu lleisiau dinasyddion, yn ogystal ag arbenigedd y trydydd sector mewn meysydd polisi a gwasanaeth amrywiol

• Ystyried cyfryngau at ddibenion arbennig ar y cyd yn y sector statudol/trydydd sector, er enghraifft, er mwyn gwella profiadau pobl/gofalwyr o wasanaethau iechyd acíwt a gwasanaethau cyfiawnder troseddol • Cefnogi Llysgenhadon y Stryd, arian cymunedol a Bancio Amser

Chwilio am fodelau amgen

Craffu


Turn static files into dynamic content formats.

Create a flipbook
Issuu converts static files into: digital portfolios, online yearbooks, online catalogs, digital photo albums and more. Sign up and create your flipbook.