Rhoi pobl yn y canol

Page 1

Rhoi pobl yn y canol

Sut i’n grymuso ni gyd i gymryd rhan


Rhoi pobl yn y canol Mae Cyngor Gweithredu Gwirfoddol Cymru (WCVA) yn gofyn i bawb – hynny yw pobl, cymunedau, y trydydd sector a phartneriaid statudol – i gydweithio i roi pobl yng nghanol popeth rydym yn ei wneud a’n grymuso ni gyd i gymryd rhan. Mae newid yn y ffordd rydym yn darparu gwasanaethau cyhoeddus i bobl yng Nghymru yn angenrheidiol nawr gan fod y galw am wasanaethau acíwt yn cynyddu, mae arian yn prinhau ac mae gwasanaethau ataliol a chymunedol yn cael eu torri. Ni all yr awdurdodau lleol a’r Gwasanaeth Iechyd Gwladol sicrhau ansawdd bywyd ar eu pen eu hunain; mae angen manteisio ar weithredu cymunedol a gwirfoddoli ac mae angen i gymunedau fod yn gryf ar lefel leol y fro. Mae rhoi pobl yn y canol a rhannu cyfrifoldeb, grym ac adnoddau yn arwain at wasanaethau a chanlyniadau gwell i bawb. Mae annog a chefnogi pobl i fod yn ddinasyddion gweithgar yn hanfodol i wasanaeth cyhoeddus y dyfodol yng Nghymru lle y mae hi’n ddigon posib y bydd llawer o’r gwasanaethau yn gynyddol dan berchnogaeth gymunedol ac yn cael eu rhedeg gan y gymuned. Mae WCVA wedi’i ymrwymo i drydydd sector cryf a gweithgar sy’n meithrin cymunedau cryf, cydlynol a chynhwysol, gan roi rhan i bobl yn eu dyfodol drwy eu gweithredoedd a’u gwasanaethau eu hunain, a chreu cymdeithas gref, iach a theg ac arddangos gwerth gwirfoddoli a rôl y gymuned.

Dyma’r tair prif elfen o roi pobl yn y canol wrth ddarparu gwasanaethau: alluogi pobl i fod yn G ddinasyddion gweithgar, yn rhan o grwpiau lleol cryf a chymunedau cryf. weithio gyda phobl a’u G cymunedau gan ddatgloi potensial drwy fudiadau trydydd sector cadarn a all ddarparu gwasanaethau. artneriaid statudol yn cydnabod P cymunedau a’r trydydd sector ac yn buddsoddi ynddynt.


1

Cymunedau cryf

Mae cymunedau cryf yn darparu lles ar lefel leol drwy rwydweithiau anffurfiol, gweithgaredd cymdeithasol a gwasanaethau sylfaenol megis darparu mannau cyfarfod, trafnidiaeth, gweithgareddau balchder bro, digwyddiadau cymdeithasol a gweithgaredd yn seiliedig ar ddiddordebau. Mae cymunedau cryf yn cynnwys dinasyddion gweithgar a lefel o gyswllt, cydweithio a chynhwysiant sy’n deall asedau a dyheadau pobl ac yn darparu sylfaen ar gyfer lles.

2

Mudiadau trydydd sector cadarn

Mae mudiadau trydydd sector cadarn yn golygu mudiadau cynaliadwy a lywodraethir yn dda ac a redir yn effeithiol sy’n deall bywydau, anghenion, diddordebau a dyheadau’r bobl maent yn eu cynrychioli. Bydd llawer, er nad pob un, yn darparu gwasanaethau. Grwpiau o bobl o’r un anian fydd rhai. Mae’r mudiadau hynny sydd yn darparu gwasanaethau, naill ai ag arian cyhoeddus neu wirfoddol, mewn sefyllfa arbennig o dda i ddeall gwirioneddau bywydau pobl.

3

Partneriaid statudol yn buddsoddi mewn cymunedau

Mae adeiladu’r gwasanaeth o amgylch yr unigolion a’r gymuned yn datgloi darpar adnoddau o ran amser, asedau ac arbenigedd, gyda’n partneriaid statudol yn cefnogi ac yn galluogi yn hytrach na darparu gwasanaeth yn uniongyrchol neu gontractio/caffael gwasanaeth. Mae angen meithrin dinasyddion gweithgar, grwpiau lleol a chymunedau i fod yn gymunedau cryf sy’n chwarae eu rhan yn hyderus ac yn darparu gwasanaethau o safon. Mae gan bartneriaid statudol rôl hanfodol yn buddsoddi mewn cymunedau ac yn cefnogi’r gwead cymdeithasol er mwyn lleihau’r galw ar wasanaethau statudol. Gall canolfannau aml-ddiben wrth galon cymunedau chwarae rôl ganolog yn cynnig canolbwynt i bobl leol a sbardun i ddatblygu’r gymuned yn economaidd, yn gymdeithasol ac yn amgylcheddol.


Y blociau adeiladu i roi pobl yn y canol Er mwyn i ni gyd gydweithio i roi pobl yn y canol o ddifrif, dyma’r prif flociau adeiladu:

1

Ymgysylltu o ddifrif

Ymgysylltu wedi’i seilio ar ddealltwriaeth o’r cyfraniad y gall y trydydd sector ei wneud at ddarparu gwasanaethau yng Nghymru. Yng Nghymru nid oes gennym agenda lleoliaeth wedi’i sefydlu ac nid yw cynllunio cymunedol yn rhan o’r dirwedd datblygu polisi. Mae gennym fodd bynnag sgwrs genedlaethol yngly ˆn â’r Gymru a Garem, mentrau’n seiliedig ar le megis Cynefin ac ystod o arfer da a allai fod yn sylfaen ar gyfer dull Cymreig mwy cydlynol.

Enghraifft: Cadwraeth leol yng Nghwmafan Bu Cyngor Gwirfoddol Sirol Castell-nedd Port Talbot yn gweithio gyda 24 o wirfoddolwyr lleol a oedd wedi’u hyfforddi’n ‘ymchwilwyr cymunedol’ gan arwain at dros 1,500 o bobl yn cymryd rhan. Y canlyniad yw prosiectau dan arweiniad y gymuned a fydd yn gwella iechyd a lles lleol o dan bedair thema: mannau a lleoedd lleol; pobl a mudiadau lleol; yr amgylchedd lleol; a chysylltiadau trafnidiaeth leol hyblyg.

2

Mapio asedau

Er mwyn deall pa adnoddau sydd ar gael a sut y gellir eu defnyddio i hyrwyddo lles cymunedol.

Enghraifft: Prosiect seiriol, Cyngor Gwirfoddol Sirol Ynys Môn (Medrwn Môn), lle mae proses mapio asedau wedi’i defnyddio i greu gweledigaeth ac yn hanfodol i osod ffiniau ynghylch yr hyn y gall yr awdurdod lleol ei gyflawni a’r hyn na all ei gyflawni.

3

Trosglwyddo asedau / gwasanaethau

Pan fo’n briodol, gan roi rheolaeth i fudiadau trydydd sector dros adnoddau er mwyn cynnal gweithgaredd. Mae angen i drosglwyddiad asedau (adeiladau, gwasanaethau a thir), rhywbeth sydd ar gynnydd, o awdurdodau lleol i gymunedau gael ei gydgynllunio a’i gydddylunio’n dda.

Enghraifft: Llyfrgelloedd a redir gan y gymuned yng Nghastell-nedd Port Talbot Mae Cyngor Gwirfoddol Sirol Castell-nedd Port Talbot yn gweithio gyda grwpiau gwirfoddol cymunedol i ddatblygu gwasanaethau llyfrgell dan arweiniad y gymuned, sy’n cael eu cydddylunio a’u cyd-ddarparu, mewn rhai ardaloedd.

Enghraifft: Polisi trosglwyddo asedau Mae Cymdeithas Ymddiriedolaethau Datblygu Cymru, gan weithio gyda Locality, wedi gweithio gyda nifer o awdurdodau lleol gan gynnwys Cyngor Dinas Caerdydd.


4

Cyllid yn y gymuned

Mae’n hollbwysig bod cronfeydd lleol yn cael eu sefydlu er mwyn sicrhau nad yw syniadau da yn edwino bron cyn gynted ag y maent wedi dechrau. Mae hyn yn darparu cyllid craidd ar raddfa fach ond mae hefyd angen iddo fod yn rhan o ymrwymiad parhaus Roedd gan fudiadau lleol megis Cynghorau Gwirfoddol Sirol y math hwn o gyllid o’r blaen, ac roeddynt yn arfer ei ddarparu. Ymddiriedolaethau datblygu bach yw’r unig le lle ceir y math hwn o gyllid bellach. Yn ddiweddar mae’r Gronfa Gofal Canolraddol wedi darparu cynlluniau grant lleol mewn rhai ardaloedd ar gyfer dulliau arloesol yn y gymuned i ddarparu gofal i’r henoed.

5

Broceriaeth

Mae buddsoddiad mewn gweithgaredd broceru wedi cael ei ariannu gan brosiectau Lleisiau Lleol y Gronfa Loteri Fawr a phrosiect WCVA a ariannwyd gan Gronfa Gymdeithasol Ewrop ac a ddaeth i ben yn ddiweddar, Creu’r Cysylltiadau, er mwyn sicrhau y gellir adnabod y potensial ar gyfer gwaith ar y cyd a gweithredu arno.

Enghraifft: Cysylltwyr cymunedol yng Nghwm Llynfi Galluogi Cyngor Gwirfoddol Sirol Pen-y-bont ar Ogwr i dargedu gwaith lle mae ystadegau iechyd wedi dangos bod disgwyliad oes 20 mlynedd yn is na chyfartaledd Pen-y-bont.

Enghraifft: Broceriaid y sector gwirfoddol yn sir Benfro a gyflogir gan Gymdeithas Gwasanaethau Gwirfoddol Sir Benfro ac a ariennir gan Gyngor Sir Penfro. Fel aelodau o’r Timau Adnoddau Cymunedol amlasiantaeth, maent yn broceru gwasanaethau trydydd sector i gynlluniau gofal unigol ac maent yn dechrau gweithio gyda’r Clystyrau Gofal Sylfaenol a meddygfeydd teulu ar bresgripsiynu cymdeithasol.

6

Parodrwydd y Trydydd Sector

Deall rôl y trydydd sector a gwneud y gorau o’r cyfleoedd a gynigir gan ei egni, ei ymrwymiad a’i adnoddau. Golyga hyn ddeall potensial mudiadau trydydd sector ar bob lefel a gwneud y gorau ohono. Golyga hefyd seilwaith trydydd sector cydlynol sy’n cefnogi, yn meithrin sylfaen sgiliau, yn creu cyfleoedd ac yn cynnig atebion go iawn.

Enghraifft: Timau ardal yn seiliedig ar Le Mae Cymdeithas Mudiadau Gwirfoddol Gwent yn bartner allweddol yn y Grw ˆp Arweinyddiaeth Cydgysylltu Cymunedol sy’n archwilio timau ardal yn seiliedig ar le a fyddai’n rhannu adnoddau i weithredu darpariaeth gwasanaeth integredig Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru).


7

Cyfuno a lledaenu dysgu

Gan gynnwys defnyddio gweithdai dan arweiniad ymarferwyr, setiau dysgu gweithredol a gwefannau sydd eisoes yn bodoli i rannu arfer da. Mae gan gynadleddau a digwyddiadau eraill rôl i gynnal momentwm.

Enghraifft: Cynghrair Trydydd Sector Ceredigion Mae Cyngor Gwirfoddol Sirol Ceredigion wedi datblygu ac yn hwyluso’r Gynghrair Trydydd Sector ledled y sir sy’n meithrin rhwydweithio ymysg mudiadau trydydd sector sy’n darparu gwasanaethau, megis cynyddu eu gallu i dendro, ochr yn ochr â deialog â chomisiynwyr statudol.

8

Galluoedd newydd

Set sgiliau newydd i bawb sy’n bwriadu datblygu gwasanaethau sy’n cydnabod pwysigrwydd galluogi, meithrin syniadau newydd a chymorth adeiladol ar gyfer dull cydweithredol.

9

Amgylchedd strategol sy’n galluogi

Ni fydd cydweithio yn dwyn ffrwyth os y cwbl a wneir yw mynd yn sownd yn yr un hen ffordd o wneud pethau. Yn hytrach dylid bod yn barod i wrando ar anghenion a’r sefyllfaoedd go iawn ym mywydau pobl. Mae hyn yn gysylltiedig â’r Byrddau Gwasanaethau Cyhoeddus newydd sy’n dod i’r amlwg, sut y byddant yn gweithredu a pha wersi y byddant yn eu dysgu o leoedd eraill megis yr Alban.

Enghraifft: Bond Lles Cymru Mae Bwrdd Iechyd Cwm Taf yn defnyddio cynllun benthyg WCVA i ad-drefnu gwasanaethau iechyd meddwl, gan symud i ffwrdd o bresgripsiynau cyffuriau drud a thuag at ystod o ymyriadau cymunedol sy’n cynorthwyo pobl i wella eu lles, datblygu eu cydnerthedd a rheoli eu lles emosiynol yn well yn y dyfodol. Mae symud at wasanaeth sydd wedi’i drawsnewid yn cynnwys cydreoli gyda nifer o ddarparwyr gwasanaethau yn y trydydd sector a grwpiau defnyddwyr gwasanaethau.

Enghraifft: Wynebu’r dyfodol yn y Gogledd Daeth dau ddigwyddiad yn y Gogledd ag asiantaethau statudol a’r trydydd sector at ei gilydd i archwilio a datblygu cydweithrediadau newydd i ddarparu gwasanaethau, gyda dadansoddiad o anghenion hyfforddiant/ sgiliau ynghyd â sesiynau ar yr Egwyddorion Cenedlaethol ar gyfer Ymgysylltu â’r Cyhoedd, Rhannu Grym/Rheolaeth Dinasyddion, a Datblygu Cymunedol yn seiliedig ar Asedau.

Enghraifft: Cyfranogaeth Cymru Amrediad Cyfranogaeth Cymru o hyfforddiant, ochr yn ochr â’i rhwydwaith cyfoedion ymarferwyr o bob sector. Cyhoeddwyd gan Gyngor Gweithredu Gwirfoddol Cymru, Tˆy Baltig, Sgwâr Mount Stuart, Caerdydd CF10 5FH rhif elusen gofrestredig 218093, cwmni cyfyngedig drwy warant 425299, Awst 2015 ISBN 978-1-910340-09-7 Dyluniwyd gan Creative Loop www.creative-loop.co.uk


Turn static files into dynamic content formats.

Create a flipbook
Issuu converts static files into: digital portfolios, online yearbooks, online catalogs, digital photo albums and more. Sign up and create your flipbook.