Cyfiawnder, plismona a'r trydydd sector yng Nghymru

Page 1

CYFIAWNDER, PLISMONA A’R TRYDYDD SECTOR YNG NGHYMRU


Cyfiawnder, plismona a’r trydydd sector yng Nghymru 3

2 Cyfiawnder, plismona a’r trydydd sector yng Nghymru

Cyflwyniad

1. Cyfrifoldebau Llywodraeth Cymru

Yn y blynyddoedd diwethaf, bu’n rhaid i fudiadau trydydd sector yng Nghymru sy’n gweithio ym maes cyfiawnder troseddol ddeall y cryn newidiadau sydd wedi bod mewn polisi, ond maent hefyd wedi gorfod cael pen ffordd drwy’r cymhlethdodau ychwanegol o weithio mewn meysydd polisi datganoledig a’r rheini sydd heb eu datganoli.

Mae hanes datganoli gwleidyddol yng Nghymru yn ymestyn yn ôl ymhell dros ganmlynedd, gydag ymgyrch dros ‘hunanlywodraeth’, a Deddfau cyntaf Senedd y Deyrnas Unedig a oedd yn benodol i Gymru. Mae hanes diweddar datganoli fodd bynnag yn dechrau yn 1997.

Tra mae nifer o elfennau o’r System Cyfiawnder Troseddol yn parhau dan gyfrifoldeb Llywodraeth y Deyrnas Unedig (yn bennaf drwy’r Swyddfa Gartref a’r Weinyddiaeth Gyfiawnder), ceir gorgyffwrdd sylweddol â meysydd y mae Llywodraeth Cymru’n gyfrifol amdanynt gan gynnwys iechyd, addysg, tai a chymorth gofal cymdeithasol. Yn ogystal â hyn, mae gan y Comisiynwyr Heddlu a Throseddu, fel unigolion a etholwyd yn uniongyrchol, eu blaenoriaethau eu hunain.

a Clinks, yn rhoi trosolwg o’r cyfrifoldebau cyfreithiol, strwythurau, a newidiadau posib yn y System Cyfiawnder Troseddol yng nghyd-destun Cymru. Mae’r papur hwn yn ystyried y goblygiadau i fudiadau trydydd sector, a’r ffordd y gallant weithredu yn yr amgylchedd hwn i ddarparu’r gwasanaethau gorau posib i’w defnyddwyr, gan ddeall y cyd-destun o ran polisi ac ymateb i’r datblygiadau sylweddol yn y System Cyfiawnder Troseddol.

Mae’r papur briffio hwn, a gynhyrchwyd ar y cyd rhwng Cyngor Gweithredu Gwirfoddol Cymru (WCVA)

Yn sgil yr ymrwymiad ym maniffesto’r Blaid Lafur i gynnal refferendwm ar greu Cynulliad i Gymru, cafwyd refferendwm fis Medi 1997. Y canlyniad oedd mwyafrif bychan (50.3%) o blaid datganoli. O ganlyniad pasiodd Senedd y Deyrnas Unedig Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998. Sefydlodd y Ddeddf y Cynulliad Cenedlaethol a chynhaliwyd yr etholiadau cyntaf fis Mai 1999. Cyfyngodd y Ddeddf y Cynulliad Cenedlaethol i wneud is-ddeddfwriaeth a hynny dim ond â chytundeb Senedd y Deyrnas Unedig. Mae’r setliad datganoli presennol a grymoedd Cynulliad Cenedlaethol Cymru wedi’u gosod yn Neddf Llywodraeth Cymru 2006. Daeth y Ddeddf hon i rym fis Mai 2007 gan nodi newid arwyddocaol i’r Cynulliad Cenedlaethol o ran ei rymoedd a’i brosesau. Rhannodd y Ddeddf yn swyddogol Gynulliad Cenedlaethol Cymru a Llywodraeth Cymru (y cyfeirir ati yn y Ddeddf fel Llywodraeth Cynulliad

Ymwadiad: Rydym wedi gwneud ein gorau i sicrhau bod y wybodaeth yn y papur hwn yn gywir ar adeg ei ysgrifennu, ond cofiwch y gallai’r wybodaeth hon newid.

Cymru: term a addaswyd ers hynny er eglurder). Roedd hyn yn creu gwahaniaeth clir rhwng y ddeddfwrfa – y Cynulliad Cenedlaethol, y corff deddfu – a’r weithrediaeth – Llywodraeth Cymru, y corff sy’n gwneud penderfyniadau ac yn gweithredu polisïau. Rhoddodd y Ddeddf hefyd rymoedd i greu deddfwriaeth sylfaenol i’r Cynulliad Cenedlaethol am y tro cyntaf. I ddechrau, rhwng 2007 – 2011, roedd gan y Cynulliad y potensial i greu deddfwriaeth yn yr

20 maes datganoledig ond dim ond os oedd San Steffan yn rhoi caniatâd iddo wneud hynny, gan benderfynu fesul achos. Serch hynny, roedd y Ddeddf hefyd yn cynnwys darpariaeth i gael refferendwm ar y mater. Cynhaliwyd ac ennill y refferendwm fis Mawrth 2011 ac mae gan y Cynulliad Cenedlaethol bellach y grym i greu deddfwriaeth sylfaenol yn benodol i Gymru yn yr 20 maes datganoledig.


Cyfiawnder, plismona a’r trydydd sector yng Nghymru 5

4 Cyfiawnder, plismona a’r trydydd sector yng Nghymru

Dyma’r 20 maes datganoledig: Amaethyddiaeth, pysgodfeydd, coedwigaeth a datblygu gwledig Henebion ac adeiladau hanesyddol Diwylliant

Priffyrdd a thrafnidiaeth Tai Llywodraeth leol Cynulliad Cenedlaethol Cymru

Datblygu economaidd

Gweinyddiaeth gyhoeddus

Addysg a hyfforddiant

Lles cymdeithasol

Yr amgylchedd

Chwaraeon a hamdden

Gwasanaethau tân ac achub a hybu diogelwch rhag tân

Twristiaeth

Bwyd

Dw ˆ r ac amddiffyn rhag llifogydd

Iechyd a gwasanaethau iechyd

Cynllunio gwlad a thref

Mae’n amlwg bod nifer o’r meysydd hyn yn gorgyffwrdd ac yn ymwneud â’r System Cyfiawnder Troseddol, a bydd sawl Bil yn rhaglen ddeddfwriaeth Cymru, yn yr un modd, yn effeithio ar gyfiawnder troseddol. Mae Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 20141, er enghraifft, yn cynnwys darpariaeth ar gyfer anghenion gofal a chymorth oedolion a phlant sydd yn y carchar, mewn llety cadw ieuenctid neu lety mechnïaeth. Yn ogystal â phlismona a chyfraith droseddol, mae Senedd y Deyrnas Unedig yn San Steffan yn cadw cyfrifoldeb fel yr unig gorff deddfu mewn meysydd sy’n cynnwys amddiffyn, materion tramor, polisi cyllidol, ariannol ac economaidd, darlledu, diogelwch cymdeithasol, mewnfudo a chyfraith cyflogaeth.

Y Gymraeg

Daeth Deddf Llywodraeth Cymru 2006 i rym fis Mai 2007 gan nodi newid arwyddocaol i’r Cynulliad Cenedlaethol o ran ei rymoedd a’i brosesau.

2. Plismona Mae plismona’n parhau’n faes sydd heb ei ddatganoli. Ceir pedair ardal heddlu yng Nghymru: Gogledd Cymru, Dyfed Powys, Gwent a De Cymru. Yn sgil Deddf Diwygio’r Heddlu a Chyfrifoldeb Cymdeithasol 20112 a’r etholiadau dilynol fis Tachwedd 2012, mae gan bob ardal heddlu bellach Gomisiynydd Heddlu a Throseddu a etholir yn uniongyrchol, gan ddisodli’r Awdurdodau Heddlu blaenorol. Mae’r Comisiynwyr Heddlu a Throseddu yn atebol am y ffordd yr eir i’r afael â throseddu yn eu hardal heddlu ac yn gyfrifol am gyllidebau diogelwch cymunedol. O ran cyfrifoldebau cyffredinol dros blismona, yr Ysgrifennydd Cartref sy’n gyfrifol am y fframwaith deddfwriaethol, am gyllid cyffredinol ac am osod y fframwaith polisi strategol. Mae’r heddlu yng Nghymru yn cael cyllid o dair ffynhonnell: Llywodraeth y Deyrnas Unedig (drwy’r Swyddfa Gartref), Llywodraeth Cymru, a rhan praesept yr heddlu o’r dreth gyngor. Darperir cyllid gan y ddwy Lywodraeth i’r Comisiynwyr Heddlu a Throseddu, sydd wedyn yn cyllido heddluoedd. Mae heddluoedd yng Nghymru yn ymwneud â nifer o wasanaethau datganoledig,

gan gynnwys y gwasanaeth tân brys a’r gwasanaeth ambiwlans. Mae gan iechyd, tai, addysg, gwasanaethau cymdeithasol a phriffyrdd berthynas arwyddocaol â gwaith yr heddlu yn ogystal. Mae’r heddlu’n cyfranogi yn rhai o gynlluniau gwasanaethau cyhoeddus Llywodraeth Cymru megis Byrddau Gwasanaethau Lleol, sef partneriaethau o gyrff statudol o fewn ardaloedd Awdurdodau Lleol a’u cylch gwaith yw gwneud penderfyniadau mewn perthynas â blaenoriaethau trawsbynciol. Mae’r Byrddau Gwasanaethau Lleol yn bodoli ar hyn o bryd yn wirfoddol ym mhob un o’r 22 ardal Awdurdod Lleol yng Nghymru, ond maent yn debygol o gael eu gosod ar sail statudol fel Byrddau Gwasanaethau Cyhoeddus fel rhan o ddarpariaethau Bil Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru)3. Gosodwyd y Bil gerbron y Cynulliad fis Gorffennaf 2014. Amcanion datganedig y Bil yw “gosod fframwaith lle bydd awdurdodau cyhoeddus penodol yng

2 1

http://gov.wales/legislation/programme/assemblybills/social-services/?skip=1&lang=cy

3

Nghymru yn ceisio sicrhau bod anghenion y presennol yn cael eu diwallu, heb beryglu gallu cenedlaethau’r dyfodol i ddiwallu eu hanghenion eu hunain”. O fewn Bil Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru), mae’r Prif Gwnstabl a’r Comisiynydd Heddlu a Throseddu perthnasol yn wahoddedigion statudol i’r Byrddau Gwasanaethau Cyhoeddus, ac felly’n cyfrannu at y nod o geisio gwella llesiant economaidd, cymdeithasol ac amgylchedd yr ardal a datblygiad cynlluniau llesiant lleol. Mae’r Bil hefyd yn cynnwys darpariaeth i wahodd “person y mae’n ofynnol iddo, yn unol â threfniadau o dan adran 3(2) o Ddeddf Rheoli Troseddwyr 2007 (p.21), ddarparu gwasanaethau prawf.” Mae’r heddlu, a’r Comisiynwyr Heddlu a Throseddu, mewn rhai ardaloedd o Gymru wedi llofnodi compactau trydydd sector lleol, sy’n amlinellu codau ymarfer rhwng partneriaid yn y trydydd sector a’r sector statudol.

http://www.legislation.gov.uk/ukpga/2011/13/contents/enacted

http://www.senedd.cynulliad.cymru/mgIssueHistoryHome.aspx?IId=010103


Cyfiawnder, plismona a’r trydydd sector yng Nghymru 7

6 Cyfiawnder, plismona a’r trydydd sector yng Nghymru

3. Cyfiawnder troseddol

5. Carchardai a phrawf

Ac eithrio tribiwnlysoedd datganoledig, nid yw cyfiawnder wedi’i ddatganoli gan mwyaf, ac mae’n parhau’n un o gyfrifoldebau Llywodraeth y Deyrnas Unedig.

Cyfrifoldeb y Gwasanaeth Cenedlaethol Rheoli Troseddwyr yw oedolion sy’n cael dedfryd gymunedol neu ddedfryd o garchar.

Mae’r system cyfiawnder yn cynnwys y farnwriaeth, llysoedd, erlyniadau troseddol, carchardai, gwasanaethau prawf, cyfiawnder ieuenctid, canllawiau dedfrydu, cymorth cyfreithiol a chyfraith droseddol a sifil. Y Weinyddiaeth Gyfiawnder sy’n gyfrifol am weinyddu a gweithredu’r rhan helaeth o agweddau ar y system cyfiawnder, er bod Gwasanaeth Erlyn y Goron yn atebol i’r Twrnai Cyffredinol.

Mae’r farnwriaeth yn annibynnol oddi wrth y Llywodraeth. Ar hyn o bryd nid yw Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn dal cymhwysedd deddfwriaethol o ran cyfiawnder, er y gall Deddfau’r Cynulliad Cenedlaethol greu troseddau. Mae gan Weinidogion Cymru rymoedd gweithredol mewn perthynas â thribiwnlysoedd datganoledig. Mae cyfiawnder troseddol yn golygu pennu beth sy’n

drosedd; rhwystro ac atal troseddu; erlyn troseddwyr; pennu euogrwydd; gosod cosbau; y system apelio; a thrin ac adsefydlu troseddwyr. System i ymdrin ag anghydfodau rhwng pobl, busnesau a mudiadau eraill yw cyfiawnder sifil. Fe’i llywodraethir gan y gyfraith gyffredin. Ceir hefyd cyfraith gyhoeddus a chyfiawnder gweinyddol, sy’n llywodraethu gweithrediad cyrff cyhoeddus.

Mae un Cwmni Adsefydlu Cymunedol ar gyfer Cymru gyfan, a Working Links6 fydd yn ei ddarparu.

Yn gryno, mae’r rhaglen Gweddnewid Adsefydlu ledled Cymru a Lloegr yn cyflwyno’r newidiadau canlynol5:

1 Creu Gwasanaeth Prawf Cenedlaethol newydd yn y sector cyhoeddus i weithio gyda throseddwyr yr asesir bod risg uchel iddynt niweidio’r cyhoedd.

gyda throseddwyr risg ganolig ac isel.

3 Darparu goruchwylio ac adsefydlu statudol yn y gymuned i

I droseddwyr rhwng 10 a 17 mlwydd oed, y Bwrdd Cyfiawnder Ieuenctid sy’n goruchwylio cyfiawnder ieuenctid yng Nghymru a Lloegr, sef corff cyhoeddus anadrannol sy’n atebol i’r Weinyddiaeth Gyfiawnder. Bwrdd Cyfiawnder Ieuenctid Cymru yw adran y Bwrdd yng Nghymru. ifanc yn gyfrifoldebau datganoledig yn bennaf (e.e. addysg a hyfforddiant, gwasanaethau cymdeithasol ac iechyd), ond yr heddlu, y Timau Troseddau Ieuenctid a’r llysoedd ieuenctid, sydd heb eu datganoli, sy’n delio gyda throseddwyr ifanc. Yn ymarferol felly,

Mae darpariaeth gwasanaethau prawf ledled Cymru a Lloegr ar hyn o bryd yn destun y cryn newid sy’n cael ei achosi gan raglen Gweddnewid Adsefydlu y Weinyddiaeth Gyfiawnder.

2 Ffurfio 21 o Gwmnïau Adsefydlu Cymunedol newydd i weithio

4. Cyfiawnder ieuenctid

Tra mae Llywodraeth y Deyrnas Unedig yn dal cyfrifoldeb am gyfiawnder ieuenctid, mae’r mwyafrif o wasanaethau i blant a phobl ifanc yng Nghymru wedi’u datganoli i Lywodraeth Cymru. Mae ffactorau yn ymwneud â throseddu gan bobl

Mae darpariaeth gwasanaethau prawf yng Nghymru wedi’i chontractio ar hyn o bryd â Working Links gan y Gwasanaeth Cenedlaethol Rheoli Troseddwyr ar ran yr Ysgrifennydd Gwladol dros Gyfiawnder. Golyga hyn mai Working Links yw perchennog Cwmni Adsefydlu Cymunedol Cymru4.

bob troseddwr a ryddheir o’r ddalfa, gan gynnwys tua 45,000 o droseddwyr sy’n cael dedfryd o garchar am lai na 12 mis.

4 Sefydlu gwasanaeth ailsefydlu cenedlaethol ‘drwy giât y carchar’

i ddarparu gwell dilyniant yn y cymorth o’r ddalfa i’r gymuned.

5 Agor y farchnad i ystod o ddarparwyr adsefydlu newydd o’r

sector preifat, y sector cyhoeddus a’r trydydd sector, sydd wedi cael contractau i ddarparu Cwmnïau Adsefydlu Cymunedol ledled Cymru a Lloegr.

Ers mis Ebrill 2014, mae gan y Gwasanaeth Cenedlaethol Rheoli Troseddwyr Gyfarwyddwr ar gyfer Cymru, sy’n gyfrifol am wasanaethau prawf yng Nghymru, gan gynnwys cyfrifoldeb uniongyrchol am reoli troseddwyr sydd â risg uchel o niweidio, ac am y pedwar carchar sydd eisoes yng Nghymru (Brynbuga, Caerdydd, Abertawe a Phen-y-bont ar Ogwr). Rheolir tri o’r pedwar carchar hyn yn y sector cyheoddus, ac mae Carchar EM y Parc ym Mhen-ybont ar Ogwr yn cael ei redeg gan y cwmni sector preifat, G4S. Mae gan Frynbuga is-garchar ym Mhrescoed: carchar agored Categori D i ddynion. Does dim carchar i fenywod yng Nghymru, ac mae’r mwyafrif o droseddwyr benywaidd sy’n cael dedfryd o garchar yn mynd i garchar Eastwood Park yn Swydd Gaerloyw. Yn ychwanegol, fis Medi 2013, cyhoeddodd yr Ysgrifennydd Gwladol dros Gyfiawnder y byddai Carchar Gogledd Cymru yn cael ei adeiladu ar Ystad Ddiwydiannol Wrecsam, y carchar cyntaf i’r rhanbarth.

darperir yr arweinyddiaeth ar gyfer cyfiawnder ieuenctid yng Nghymru mewn partneriaeth rhwng mudiadau datganoledig a mudiadau sydd heb eu datganoli gyda llinellau atebolrwydd deuol.

4 5

Cwmni Adsefydlu Cymunedol Cymru, http://cymraeg.walescrc.co.uk/?force=2

I gael y wybodaeth ddiweddaraf yngly ˆn â’r rhaglen Gweddnewid Adsefydlu, gweler www.clinks.org/criminal-justice/transforming-rehabilitation 6

Working Links: http://www.workinglinks.co.uk/justice.aspx


Cyfiawnder, plismona a’r trydydd sector yng Nghymru 9

8 Cyfiawnder, plismona a’r trydydd sector yng Nghymru

6. Datganoli pellach yng Nghymru Comisiwn annibynnol oedd y Comisiwn ar Ddatganoli yng Nghymru7 (‘Comisiwn Silk’) a sefydlwyd gan Ysgrifennydd Gwladol Cymru ar y pryd, Cheryl Gillan, ar 11 Hydref 2011, ac a gadeiriwyd gan Paul Silk. Adolygodd y comisiwn y ddadl dros ddatganoli grymoedd cyllidol i Gynulliad Cenedlaethol Cymru ac ystyried y ddadl dros gynyddu grymoedd y Cynulliad. Cyhoeddodd y Comisiwn ei ganfyddiadau mewn dwy ran: • Rhan 1, a edrychodd ar rymoedd cyllidol, a gyhoeddwyd fis Tachwedd 2012 • Rhan 2, ar rymoedd ehangach y Cynulliad Cenedlaethol gan gynnwys plismona a chyfiawnder, a gyhoeddwyd fis Mawrth 2014 Cyhoeddodd Llywodraeth Cymru ei hymateb i ail adroddiad Comisiwn Silk fis Gorffennaf 2014, gan groesawu argymhellion y Comisiwn i ddatganoli plismona a chyfiawnder ieuenctid, adolygiad fesul cam o blismona a phrawf, ac elfennau pellach o gyfiawnder troseddol maes o law, yn amodol ar drosglwyddo adnoddau digonol. Mae amserlen bosib yn dechrau ymddangos i ddatganoli’r rhain a meysydd eraill, gyda Phapur Gwyn yn 2016; cyflwyno Bil yn 2017 a’i ddeddfu yn 2018. Mae’n bwysig nodi yr ystyrir datganoli rhagor o rymoedd i Gymru fel rhan o weledigaeth Llywodraeth Cymru ar gyfer dyfodol gwasanaethau cyhoeddus yng Nghymru. Heb os, bydd goblygiadau canlyniad refferendwm diweddar yr Alban ar annibyniaeth a threfn gyfansoddiadol y Deyrnas Unedig yn parhau i ddylanwadu ar y ddadl ynglyˆn â datganoli rhagor o rymoedd i Gymru.

Ymysg argymhellion Comisiwn Silk ar blismona oedd:

1 Dylid datganoli plismona a’r meysydd diogelwch cymunedol ac atal troseddu cysylltiedig

2 Dylai’r lefelau presennol o gydweithio trawsffiniol o fewn yr heddlu barhau

3 Ni ddylid datganoli pwerau yng nghyswllt

arestio, holi a chyhuddo’r rheini yr amheuir eu bod wedi cyflawni trosedd, na phwerau cyffredinol cwnstabliaid, oni ddatganolir a hyd nes y datganolir y gyfraith droseddol

4 Ni ddylid datganoli’r Asiantaeth Troseddu Cenedlaethol

Ymysg argymhellion Comisiwn Silk ar gyfiawnder oedd:

1 Dylid datganoli’r trefniadau ar gyfer ymdrin â throseddwyr ifanc a’u hailsefydlu

2 Dylai Llywodraeth y Deyrnas Unedig a

Llywodraeth Cymru gomisiynu astudiaeth ddichonoldeb ar weithredu gwasanaeth prawf a charchardai datganoledig

3 Dylid sefydlu mecanwaith ffurfiol i alluogi

Gweinidogion Cymru gyfrannu at ddatblygu polisïau ym maes rheoli oedolion sy’n troseddu

4 Datganoli rhagor ar weinyddiaeth system y llysoeddsystem

7. Trydydd sector Cymru sydd ar waith ym maes cyfiawnder troseddol Mae gan fudiadau trydydd sector nifer o rolau pwysig sy’n gwneud cryn gyfraniad at waith cyfiawnder cymunedol yng Nghymru… … drwy rymuso a chefnogi dioddefwyr; gweithio ochr yn ochr gyda throseddwyr a’u teuluoedd i gynorthwyo adsefydlu; cynnwys defnyddwyr gwasanaethau; darparu arbenigedd mewn meysydd a chymunedau penodol; darparu gwasanaethau cyhoeddus yn seiliedig ar werth a gweithio i ddarparu cymuned fwy diogel i bawb.

dioddefwyr, troseddwyr, cynlluniau ymweld â charchardai, a chynlluniau gwarchod cymdogaethau. Yn ogystal â hyn, bydd nifer fawr o fudiadau eraill yn gweithio gyda’r un grwpiau o gleientiaid, mewn materion yn ymwneud â thai, addysg a hyfforddiant, dyled ac arian, yn ogystal ag iechyd a gofal cymdeithasol. Mae’r cyhoeddiad diweddar gan Clinks, A snapshot from Wales9, a ysgrifennwyd gan Brifysgol De Cymru a Chanolfan Trosedd a Chyfiawnder Cymdeithasol Cymru (Mawrth 2014), yn rhoi trosolwg o’r trydydd sector sydd ar waith ym maes cyfiawnder troseddol yng Nghymru a’i gysylltiadau â phartneriaid statudol.

Mae WCVA a Clinks ill dau’n dal data yngly ˆ n â graddau a natur gweithgaredd y trydydd sector ym meysydd cyfiawnder troseddol a diogelwch cymunedol. Amcangyfrifir bod dros 33,000 o fudiadau trydydd sector ar waith yng Nghymru. Mae gan Gronfa Ddata Cymru Gyfan WCVA 32,700 o bwyntiau cyswllt, yn amrywio o grwpiau cymunedol lleol i elusennau ledled y Deyrnas Unedig y mae eu hincwm dros £100 miliwn. Mae Adnodd ystadegol y trydydd sector 20148 yn amcangyfrif bod ychydig o dan un y cant o’r mudiadau hyn – tua 300 – yn gweithio yn y sector cyfiawnder troseddol yn unig: gan gynnwys gwaith gyda

Ers 2000, mae WCVA wedi bod yn cefnogi Cyfiawnder Cymunedol Cymru, rhwydwaith o fudiadau trydydd sector yng Nghymru sy’n gweithio ym maes cyfiawnder cymunedol10.

8 9

http://www.assembly.wales/cy/bus-home/research/Pages/research-silk-commission.aspx

Cynhyrchodd y Rhwydwaith Faniffesto11 yn ddiweddar a roddodd flaenoriaeth i weithredu yn y meysydd canlynol: plant a theuluoedd troseddwyr; dioddefwyr, tystion a goroeswyr; menywod; cyfiawnder ieuenctid, adsefydlu a lleihau troseddu. Nododd y Rhwydwaith hefyd fod angen i Lywodraeth Cymru, Llywodraeth y Deyrnas Unedig, a Chomisiynwyr Heddlu a Throseddu fynd i’r afael â dau fater sy’n dod i’r amlwg, sef masnachu pobl a throseddau cyfeillio (targedu pobl ag anableddau dysgu a thrafferthion iechyd meddwl, camfanteisio arnynt a’u cam-drin).

Adnodd ystadegol y trydydd sector, WCVA, Gorffennaf 2014, www.wcva.org.uk

A snapshot from Wales: The voluntary sector working in criminal justice, Clinks, Mawrth 2014, www.clinks.org 10

7

Mae Cyfiawnder Cymunedol Cymru yn un rhan o’r mecanweithiau ffurfiol i’r trydydd sector yng Nghymru ymgysylltu’n uniongyrchol â Gweinidogion Cymru, gan ei fod yn aelod o ‘Gyngor Partneriaeth y Trydydd Sector’.

WCVA, Rhwydwaith Cyfiawnder Cymunedol Cymru: http://www.wcva.org.uk/ members-partners/networks/community-justice-cymru-network 11

Ar gael ar wefan WCVA: www.wcva.org.uk


10 Cyfiawnder, plismona a’r trydydd sector yng Nghymru

8. Goblygiadau i’r trydydd sector Yn ymarferol, ceir nifer o adegau pan fo gwahanol gyrff cyhoeddus, er bod rhai’n atebol i San Steffan ac eraill i Fae Caerdydd, yn gweithio mewn partneriaeth mewn ffyrdd amrywiol. Mae Cyfiawnder Ieuenctid, a drafodir uchod, yn enghraifft o faes lle mae partneriaid ar draws meysydd datganoledig a meysydd heb eu datganoli yn cydweithio. Ledled Cymru, comisiynir gwasanaethau camddefnyddio sylweddau gan Fyrddau Cynllunio Ardal rhanbarthol, sy’n cynnwys Awdurdodau Lleol, Byrddau Iechyd Lleol, yr heddlu, y Comisiynydd Heddlu a Throseddu, y gwasanaeth prawf yn ogystal â chynrychiolwyr o’r trydydd sector, defnyddwyr gwasanaethau a gofalwyr. Ond mae’r amgylchedd gweithredu i fudiadau trydydd sector yng Nghymru sydd ar waith ym maes eang cyfiawnder troseddol yn gymhleth ac yn newid yn gyflym iawn. Ar adeg ysgrifennu, mae’r agenda Gweddnewid Adsefydlu yn cael ei roi ar waith ledled Cymru a Lloegr, a bydd sawl Bil yn rhaglen ddeddfwriaethol Cymru yn golygu goblygiadau i wasanaethau ar gyfer troseddwyr a dioddefwyr troseddau. Bydd etholiadau Llywodraeth y Deyrnas Unedig fis Mai 2015 ac etholiadau Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn 2016 yn esgor ar ddatblygiadau pellach – fel y bydd etholiadau nesaf y Comisiynwyr Heddlu a Throseddu a gynhelir y flwyddyn nesaf (2016) yn ogystal.

Er bod y rhwydweithiau a’r strwythurau ymgysylltu ar gyfer y trydydd sector yn gryf yng Nghymru, a bod adrannau llywodraethol yn ymgysylltu â mudiadau trydydd sector Lloegr, ymddengys fod yna ddiffyg eglurder mewn meysydd megis cwmpas swyddogaethau sydd heb eu datganoli a chyfyngiadau cyfrifoldeb datganoledig. Yn y cyd-destun hwn ac ynddo newid dramatig, gwahanol ffiniau daearyddol, gwahaniaethau datganoledig sy’n newid, mwy o ddiweithdra a newidiadau yn y system les, yn ogystal â chryn doriadau ariannol, mae’n hanfodol bod mudiadau trydydd sector yng Nghymru yn cael eu cefnogi i ymgysylltu â’r amgylchedd cymhleth hwn, er lles y dinasyddion a’r cymunedau maent yn eu gwasanaethu. Mae cymhlethdod y materion sy’n wynebu unigolion yn y system cyfiawnder troseddol, a’r rheini y mae’r system yn effeithio arnynt, yn golygu bod y mudiadau sy’n ceisio eu cefnogi yn wynebu heriau ychwanegol wrth geisio amgyffred yr amrywiol sefydliadau, cyfrifoldebau a fframweithiau deddfwriaethol cysylltiedig. Dywed rhai nad oes modd

gosod bywydau pobl yn daclus o fewn ffiniau datganoledig a ffiniau heb eu datganoli. Yn y dadleuon, sy’n aml yn danbaid, ynghylch datganoli, mae nifer o fudiadau trydydd sector yng Nghymru wedi galw am eglurder, tegwch a chysondeb yn y dull gweithredu, o fewn trafodaethau gwleidyddol byw. Beth bynnag y mae gweinyddiaethau’r dyfodol yn ei benderfynu ynghylch polisi a deddfwriaeth cyfiawnder troseddol, mae’n hanfodol bod penderfyniadau ynglŷn â gwasanaethau yn cael eu harwain gan ystyried yr unigolyn, y sawl sy’n defnyddio’r gwasanaeth, nid dim ond drwy ddiwygio systemau neu strwythurau sydd eisoes yn bodoli.

…mae’n hanfodol bod mudiadau trydydd sector yng Nghymru yn cael eu cefnogi i ymgysylltu â’r amgylchedd cymhleth hwn, er lles y dinasyddion a’r cymunedau maent yn eu gwasanaethu.



Turn static files into dynamic content formats.

Create a flipbook
Issuu converts static files into: digital portfolios, online yearbooks, online catalogs, digital photo albums and more. Sign up and create your flipbook.