Cydgynhyrchu – rhoi pobl yn y canol ar ôl Williams

Page 1

Cydgynhyrchu – rhoi pobl yn y canol ar ôl Williams Mae cydgynhyrchu Sub heading here? yn dechrau gyda’r bobl, nid y systemau. Mae Williams yn dechrau gyda’r systemau, nid y bobl.


Yn ddamcaniaethol Ie

Yn ymarferol Na

Mae cydgynhyrchu yn dechrau gyda’r bobl, nid y systemau. Mae Williams yn dechrau gyda’r systemau, nid y bobl. Mae’r ddadl dros gydgynhyrchu bellach wedi’i hennill. Mae WCVA, ynghyd ag eraill, wedi dadlau yn Rhoi pobl yn y canol fod angen trawsnewid gwasanaethau cyhoeddus yng Nghymru ar fyrder drwy’r canlynol: • Trin pobl a chymunedau fel asedau ac yn gyfartal wrth ddylunio a darparu • Adeiladu gwasanaethau o amgylch yr unigolion a’r gymuned • Datgloi darpar adnoddau o ran amser, arian ac arbenigedd i’w cyfuno ag arian y wladwriaeth • Defnyddio adnoddau presennol y wladwriaeth i alluogi a hybu gweithredoedd, cyfalaf a gofal gan ddinasyddion a chymunedau A bod angen newid nawr oherwydd: • Mae arian yn prinhau • Ni fydd arbedion effeithlonrwydd yn unig yn ddigon • Mae’r galw am wasanaethau acíwt yn cynyddu • Mae gwasanaethau ataliol a chymunedol yn cael eu torri • Ni all y wladwriaeth yn unig sicrhau ansawdd bywyd • Ni fanteisir yn llawn ar weithredu cymunedol na gwirfoddoli 2

• Mae angen i gymunedau fod yn gryf ar lefel leol y fro

Mae Comisiwn Williams ar Lywodraethu a Darparu Gwasanaethau Cyhoeddus yn cytuno ‘yr unig ffordd hyfyw o ddiwallu anghenion a bodloni dyheadau pobl yw drwy symud y pwyslais o ran gwasanaethau cyhoeddus tuag at gydgynhyrchu ac atal. Mae’r angen i wneud y newid hwn yn cael ei rannu ar draws y byd datblygedig a democrataidd.’

Nid yw newid strwythurol yn unig yn ddigon. Mae angen camau radical ar fyrder cyn iddi fynd yn rhy hwyr. Ond wedyn mae’r Comisiwn yn cynnig mwy o’r un fath... Llai o awdurdodau lleol, mudiad gwasanaethau a rennir ar gyfer y sector cyhoeddus, strategaeth ddigidol a TGCh, Academi/PSMW newydd, fframwaith perfformiad newydd...a hyn oll yn cael ei ddatblygu a’i weithredu drwy fecanweithiau sydd eisoes yn bod!


Proses nid pobl? Felly, y geiriau symud ymlaen. Cydgynhyrchu yw’r mantra newydd ond mae cydgynhyrchu yn ymwneud â mwy na dim ond y sector cyhoeddus a’i strwythurau, hyfforddiant arwain a thargedau. Nid yw’r sector cyhoeddus hyd yma wedi cofleidio’r ‘cyd’ yn ‘cydgynhyrchu’ na chydnabod yn llawn nad yw hwn yn air newydd ar gyfer partneriaeth neu’n ddamcaniaeth rheoli newydd i’r llywodraeth. Y ‘cyd’ yw’r bobl ac mae cydnabod a mobileiddio eu cyfraniad fel asedau yn dal ar goll. Nid ‘ mae defnyddwyr ein gwasanaeth i gyd yn fregus iawn felly rhaid i ni fod yn ofalus ynghylch beth allwn eu gadael i’w wneud’ Ond Mae bywydau pobl a phrofiad ehangach bywyd yn ganolog i’r ffordd o redeg y gwasanaeth ac rydym yn rhoi gwerth cyfartal ar y cyfraniad y mae’r bobl sy’n defnyddio’r gwasanaeth yn ei wneud â chyfraniad staff cyflogedig.

Mae yna gamargraff gynyddol fod yna gronfa fawr o bobl sy’n aros i gael eu ‘defnyddio’ pan fo arian wedi diflannu neu’n prinhau ‘fydd nifer o bobl hˆyn ddim yn gymwys bellach am ein gwasanaethau ond gallwn lenwi’r bwlch â gwirfoddolwyr a’i alw’n gydgynhyrchu’ Ond ni fydd yr agwedd hon yn gweithio gan nad yw pobl eisiau cymryd gwasanaethau cyhoeddus drosodd ar ben eu hunain a gwirfoddoli i’r cyngor, gan eu bod yn teimlo eu bod eisoes wedi talu am y gwasanaeth. Pan gyhoeddodd GIG Lloegr y byddai’n recriwtio 100,000 o wirfoddoli i gadw golwg ar bobl hˆyn, fe fethodd yn llwyr gan na weithiodd gyda’r mudiadau gwirfoddoli a gwirfoddol a oedd eisoes yn bod1. Felly, mae yna niferoedd mawr o bobl sydd eisoes yn gyfalaf cymdeithasol y gymuned ac yn gwneud y gwahaniaeth rhwng unigedd ac esgeulustod ond nhw fydd yn penderfynu sut, pryd a ble. Mae ehangu’r cyfraniad hwn yn golygu creu perthynas fwy cyfartal. Nid Rydym yn hoff o ganfod cyfleoedd i bobl wneud gwaith gwirfoddol os ydynt yn gallu. Rydym bob tro’n rhoi tystysgrif i bobl.

Mae nifer o awdurdodau yn ymgysylltu’n fwy. Ond mae’r cwestiwn maent yn ei ofyn i gymunedau naill ai’n rhy amwys

Ond Rydym yn cofnodi gwerth a chyfraniad pobl at y gwasanaeth, oherwydd rydym yn gwybod na fyddai’r gwasanaeth yn rhedeg mor effeithiol ag y mae pe na bai pawb yn cyfrannu eu sgiliau a’u profiad.

Pa fath o gymuned yr hoffech ei gweld? Neu’n rhy benodol A ddylem gau’ch llyfrgell neu’ch canolfan hamdden? Anaml y mae awdurdodau yn gofyn cwestiynau sy’n cynnwys, yn mobileiddio neu’n cyffroi. 1

Beth hoffech chi ei wneud gyda ni i wella’r ardal?

F fynhonnell - Gwefan Newyddion y BBC Ionawr 27, 2014: Mae ymgyrch Winter Friends y GIG a lansiwyd ym mis Tachwedd 2013 yn annog pobl i gadw llygad ar ffrindiau a chymdogion oedrannus. Y nod oedd cael 100,000 o wirfoddolwyr ond dim ond 2,000 oedd wedi gwneud cais. Mewn cyfweliad ar BBC Breakfast Radio 5 Live, gwnaethpwyd y pwynt y buasai’r ymgyrch wedi bod yn fwy llwyddiannus os oedd wedi gweithio gyda mudiadau gwirfoddoli sy’n bodoli ac yn briodol.

3


Mae yna dystiolaeth gynyddol fod cydgynhyrchu yn gweithio a diddordeb brwd yn sut i’w wneud. Nid yw cydgynhyrchu yn golygu trosglwyddo popeth i wirfoddolwyr ac elusennau ond mae yn golygu gweithio’n fwy hyblyg ac yn agosach gyda nhw i ddylunio a darparu. Nid yw’r trydydd sector yn gwneud llawdriniaethau ar yr ymennydd ond mae yn gwybod sut i frwdfrydu, ysgogi a threfnu pobl a chreu perchnogaeth a strwythurau cymunedol. Mae cydgynhyrchu bellach ar groesffordd. Ni fydd yn gweithio heb fobileiddio, cydnabod a gwobrwyo pobl a’u cyfraniadau ochr yn ochr â chyfraniadau’r gwasanaethau statudol. Mae rhoi pobl yn y canol yn golygu nad oes un ffordd gywir o wneud pethau na mecanwaith darparu i bopeth, heblaw dechrau gyda’r egni, y brwdfrydedd, y creadigrwydd a’r cryfder mewn cymunedau a bwrw iddi o’r fan yno.

Cyhoeddwyd gan Cyngor Gweithredu Gwirfoddol Cymru Tˆy Baltic, Sgwar Mount Stuart, Caerdydd CF10 5FH rhif elusen gofrestredig 218093 cwmni cyfyngedig drwy warant 425299 Mawrth 2014 ISBN: 1 903416 98 1 Dyluniwyd gan Creative Loop www.creative-loop.co.uk

4

Mae hyn yn rhoi’r trydydd sector mewn safle canolog gan mai dyma’r ffordd y mae cymunedau yn trefnu, yn mynegi pryderon cyfunol ac yn rhoi’r hyder a’r sgiliau i bobl herio, ac yn creu newid. Rhethreg ddiystyr yw cydgynhyrchu heb y ‘cyd’. Mae Comisiwn Williams wedi gwneud un hanner o’r gacen cydgynhyrchu, ond nid yw wedi symud y tu hwnt i ffiniau cyfforddus y sector cyhoeddus. Yr hyn y mae arnom ei angen nawr yw Comisiwn y Bobl sy’n dechrau gyda’r un diagnosis, ond yn llunio argymhellion sy’n egluro’n glir sut i roi pobl yn y canol.


Turn static files into dynamic content formats.

Create a flipbook
Issuu converts static files into: digital portfolios, online yearbooks, online catalogs, digital photo albums and more. Sign up and create your flipbook.