Bod yn y canol

Page 1

Bod yn y canol Sub heading here? Y berthynas newydd gyda gwasanaethau cyhoeddus


Mae Cymru’n symud tuag at berthynas newydd rhwng aelodau’r cyhoedd a’n gwasanaethau cyhoeddus. Yn y berthynas hon, pobl, ac nid gwasanaethau na gwaith papur, sydd yn y canol. Nid yw’n disgwyl i bobl ysgwyddo’r cyfrifoldeb dros wasanaethau cyhoeddus oherwydd toriadau. Yn y berthynas newydd hon, bydd gwasanaethau cyhoeddus, aelodau’r gymuned a mudiadau gwirfoddol yn rhannu pˆ wer, cyfrifoldeb ac ymrwymiad i gryfhau cymunedau. Mae’n golygu newid gwirioneddol mewn pˆ wer, a pharodrwydd i weithio ynghyd ar lefel gyfartal. Mae rhai pobl yn galw hyn yn gyd-gynhyrchu. Gallwch ei alw’n beth fynnoch chi. Yr hyn sy’n bwysig yw bod pobl, gwasanaethau a mudiadau’n dechrau rhannu’r pˆ wer, y rheolaeth a’r cyfrifoldeb dros wneud Cymru’n gryfach, a diwallu anghenion pobl. Mae hyn yn wahanol iawn i’r hen berthynas, lle’r oedd pobl yn eistedd yn ôl a disgwyl i wasanaethau cyhoeddus ddatrys ein problemau. Roedd rhai rhinweddau’n perthyn i’r hen berthynas, ond ychydig iawn o lais neu reolaeth oedd gan bobl unwaith i’r gwasanaethau cyhoeddus gamu i mewn. 2

Nid oedd gwasanaethau cyhoeddus bob tro’n darparu’r hyn yr oedd pobl eisiau ac, yn aml, nid yw gwasanaeth cyhoeddus yn gallu darparu’r hyn y mae pobl eisiau, beth bynnag. Roedd yr ymdeimlad o gymuned yn aml yn gwanio wrth i bobl ddibynnu ar wasanaethau cyhoeddus i wneud yr hyn yr oedd cymunedau’n ei wneud drostynt eu hunain, ar un adeg. Mae’n bosib na fydd y berthynas hon yn hawdd bob tro. • Gall fod yn anodd i wasanaethau cyhoeddus rannu pˆ wer a chyfrifoldeb. • Gall fod yn anodd ysgogi pobl i ysgwyddo mwy o gyfrifoldeb drostynt hwy eu hunain a thros eraill o’u cwmpas. Ond mae ffrwyth y berthynas newydd hon yn aruthrol.


Hoffwn i chi gwrdd â Mrs Jones

…Neu beth am Mr Williams?

Mae hi’n byw ar ei phen ei hun, a does ganddi ddim teulu sy’n gallu ei helpu. Roedd angen triniaeth ganser arbenigol arni ymhell o’i chartref.

Roedd wedi hen flino â’r sbwriel cyson ar ei stryd. Fe ffoniodd y cyngor i ddatrys y broblem, ac fe wnaethant. Ond roedd y sbwriel yn dal i gael ei ollwng, roedd Mr Williams yn dal i wneud ei alwadau ffôn, ac roedd y cyngor yn dal i anfon pobl draw i’w glirio – a doedd neb yn hapus.

Gallai hi fod wedi codi’r ffôn a gofyn i’r GIG drefnu cludiant iddi. Ond byddai’r trefniadau cludo cleifion wedi gorfodi iddi adael yn gynnar a byddai hi wedi poeni beth fyddai’n digwydd pe na baent yn cyrraedd, a doedd hi ddim yn edrych ymlaen at eistedd gyda rhywun nad oedd hi’n eu hadnabod pan oedd hi eisoes yn teimlo’n bryderus. Byddai hefyd wedi bod yn ddrud iawn i’r GIG. Ond roedd Mrs Jones wedi creu cysylltiadau da yn y gymuned. Felly fe ofynnodd i ffrind fynd â hi. Mrs Jones a’i ffrind oedd yn dewis pryd i adael, ac roedden nhw hyd yn oed yn caniatáu digon o amser i wneud dipyn bach o siopa ar y ffordd. Roedd ei ffrind yn aros gyda hi drwy’r driniaeth, ac roedd hynny’n gwneud y sefyllfa’n dipyn llai dychrynllyd. A’r unig beth yr oedd rhaid i’r GIG ei dalu oedd arian petrol.

Daeth gweithiwr newydd i weithio i’r cyngor, ac fe gysylltodd â Mr Williams i weld a fyddai diddordeb ganddo mewn cael criw o gymdogion at ei gilydd i wneud cais am grant cymunedol. Fel mae’n digwydd, doedd y cymdogion ddim yn adnabod ei gilydd, ond wrth iddynt ddechrau trafod y grant cymunedol gyda’i gilydd, dechreusant deimlo fel cymuned. Dechreusant deimlo y gallent ofyn i bobl godi’r sbwriel yr oeddent yn ei ollwng, gan wybod yn awr y byddai eu cymdogion yn eu cefnogi. Gydag amser, rhoddodd pobl y gorau i ollwng sbwriel. Dywedodd Mr Williams,

‘ Datblygodd i fod yn rheol gymdeithasol. Unwaith i’r gymuned gyfan ddeall, gwelsom fod pobl yn rhoi’r gorau i ollwng sbwriel’. 3


Mae WCVA eisoes wedi gofyn i wasanaethau cyhoeddus ymrwymo i’r canlynol: • Dod o amgylch y bwrdd ar yr un lefel â mudiadau gwirfoddol, unigolion a grwpiau cymunedol, er mwyn i bobl allu siarad, cynllunio a gweithio gyda’i gilydd. • Edrych ar ffyrdd i atal problemau rhag digwydd, neu ddelio â nhw cyn iddynt ddod yn broblemau mawr. Mae hyn yn golygu edrych ar ffyrdd i gefnogi aelodau’r gymuned, grwpiau cymunedol a mudiadau gwirfoddol i wneud yr hyn y maent yn ei wneud orau. Mae’n golygu meddwl am ffyrdd gwahanol i wario arian. • Rhoi cynnig ar ffyrdd gwahanol o ddarparu gwasanaethau cyhoeddus, lle gall aelodau’r gymuned a mudiadau gwirfoddol gymryd mwy o ran, neu gymryd yr awenau. • Cyflwyno rheol newydd fod aelodau’r gymuned a mudiadau gwirfoddolwr yn cael golwg fanwl ar unrhyw gynlluniau neu syniadau newydd, i weld a ydynt yn credu y bydd y cynlluniau’n gweithio.

4

Bydd gofyn i aelodau’r cyhoedd hefyd ymrwymo i newid. Ydych chi’n barod i ymrwymo i’r canlynol: • Chwilio am ffyrdd i gryfhau eich cymuned a gweithio gyda’ch gwasanaethau cyhoeddus. • Rhannu eich profiad, amser a sgiliau i weithio gyda gwasanaethau cyhoeddus ar ffordd newydd o gynllunio a darparu gwasanaethau. • Bod yn barod i rannu’r cyfrifoldeb dros ganfod atebion i broblemau unigolion a chymunedau. • Bod yn barod i rannu’r pˆ wer sydd ei angen i sicrhau newid go iawn - gan wybod bod cyfrifoldeb yn dod law yn llaw â phˆ wer. • Meddwl am yr hyn sydd orau i’r gymuned yn ei chyfanrwydd, ac nid dim ond beth sydd orau i chi. • Derbyn ein bod ni i gyd yn dysgu ffordd newydd o weithio gyda’n gilydd; bydd camgymeriadau’n siˆ wr o gael eu gwneud.


Os ydych chi’n barod i chwarae eich rhan yn y berthynas newydd hon, da chi, siaradwch â ni ynglˆyn â sut i roi cychwyn arni. Cysylltwch â ni:

Ysgrifennwyd ar gyfer WCVA gan Barod (www.barod.org) Cyhoeddwyd gan WCVA, ISBN 978-1-910340-04-2 Mai 2014 Cyngor Gweithredu Gwirfoddol Cymru, Tˆy Baltig, Sgwâr Mount Stuart, Caerdydd, CF10 5FH Ffôn: 0800 2888 329 Ffacs: 029 2043 1701 Minicom: 029 2043 1702 help@wcva.org.uk www.wcva.org.uk Rhif cofrestru elusen 218093 Dyluniwyd gan Creative Loop www.creative-loop.co.uk 5


Turn static files into dynamic content formats.

Create a flipbook
Issuu converts static files into: digital portfolios, online yearbooks, online catalogs, digital photo albums and more. Sign up and create your flipbook.