Rhaglen Tymor Y Gwanwyn 2024

Page 1

Caerdydd | Casnewydd | Pontypridd

RHAGLEN TYMOR Y GWANWYN 2024 AR GYFER YSGOLION A CHOLEGAU www.decymru.ac.uk/ysgolionacholegau


CROESO Mae gan Brifysgol De Cymru dîm o arbenigwyr arobryn sy'n cydweithio gydag ysgolion a cholegau ledled y DU wrth gyflwyno gweithdai rhyngweithiol i fyfyrwyr. Mae’r gweithdai yn cynnig cyflwyniad i addysg uwch, ac yn cefnogi myfyrwyr yn eu cyfnod pontio i'r brifysgol. Mae ein Sesiynau Ymwybyddiaeth Addysg Uwch: • Yn rhad ac am ddim • Ar gael trwy gyfrwng y Gymraeg a’r Saesneg • Yn cael eu darparu’n bersonol neu ar-lein • Wedi'u teilwra i ddiwallu anghenion eich myfyrwyr Gall ein rhaglen o weithgareddau, adnoddau a digwyddiadau gefnogi eich ysgol neu goleg i gyflawni Meincnodau Gatsby. I gael rhagor o wybodaeth am yr wyth Meincnod Gatsby ar gyngor gyrfa da, sganiwch y côd QR:

Campws Trefforest, Pontypridd 2.

www.decymru.ac.uk/ysgolionacholegau


DIGWYDDIADAU A GWEITHGAREDDAU PWNC-BENODOL Mae amrywiaeth o sesiynau rhyngweithiol i ddewis ohonynt ar draws ein cyfadrannau. Bydd ein digwyddiadau a gweithgareddau pwnc-benodol yn rhoi’r cyfle i’ch myfyrwyr gael blas ar astudio pwnc penodol yn y brifysgol. Rydym yn cynnig sesiynau yn y meysydd pwnc canlynol: • Celf a Dylunio • Bioleg a Fforensig • Busnes • Cemeg • Ceiropracteg • Gofal Plant, Addysg ac Addysgu • Troseddeg • Technoleg Dylunio • Drama • Peirianneg • Saesneg • Ffilm a'r Cyfryngau • Gwyddor yr Amgylchedd ac Astudiaethau Natur • Iechyd a Gofal Cymdeithasol

• Hanes • Rheoli Gwesty a Lletygarwch • TGCh • Y Gyfraith • Cerddoriaeth • Nyrsio a Bydwreigiaeth • Ffotograffiaeth • Seicoleg • Seicotherapi a Chwnsela • Gwasanaethau Cyhoeddus a Phlismona • Cymdeithaseg • Chwaraeon • Gwaith Ieuenctid a Chymunedol

Gallwch ddysgu mwy am ein gweithgareddau pwnc-benodol ar ein gwefan www.decymru.ac.uk/ysgolionacholegau

MAE’R CYFLEOEDD A’R GEFNOGAETH A GYNIGIR I’N DYSGWYR A’N STAFF TRWY SESIYNAU A DIGWYDDIADAU YN ANHYGOEL! RYDYM YN GWERTHFAWROGI GWEITHIO GYDA’R TÎM YN PDC, DIOLCH YN FAWR. Karen Edge, Cyfarwyddwr Dysgu Ysgol Uwchradd Cantonian www.decymru.ac.uk/ysgolionacholegau

.3


DIGWYDDIADAU A DIWRNODAU BLASU

Rydym yn cynnal nifer o ddigwyddiadau a diwrnodau blasu i ysgolion a cholegau ar ein campysau trwy gydol Tymor y Gwanwyn. Os hoffech drefnu diwrnod blasu ar gyfer eich myfyrwyr Blwyddyn 12 neu Flwyddyn 13, cysylltwch â ni drwy ysgolionacholegau@decymru.ac.uk.

Ysgol Gwyddorau Bywyd ac Addysg I neilltuo lle mewn Diwrnod Blasu, sganiwch y côd QR: Diwrnod Blasu Ceiropracteg:

13 Mawrth 2024

Diwrnod Blasu Lleoliad Trosedd i’r Llys (Throseddeg, Fforenseg a Gwasanaethau Cyhoeddus:

20 Mawrth 2024, 10 Ebrill 2024, 1 Mai 2024, 19 Mehefin 2024

Diwrnod Blasu Cwnsela ac Ymarfer Therapiwtig:

Yn dod yn fuan - sganiwch y côd QR i wirio am ddiweddariadau

Diwrnod Blasu Celfyddydau Creadigol a Therapiwtig:

Yn dod yn fuan - sganiwch y côd QR i wirio am ddiweddariadau

Diwrnod Blasu Addysg ac Addysgu:

Yn dod yn fuan - sganiwch y côd QR i wirio am ddiweddariadau

Diwrnod Blasu Iechyd:

6 Mawrth, 19 Mehefin 2024

Diwrnod Blasu Seicoleg:

14 Chwefror 2024

Diwrnod Blasu Chwaraeon:

Ar gael ar gais

Diwrnod Blasu Gwaith Ieuenctid a Chymuned / Gwaith Cymdeithasol:

Yn dod yn fuan - sganiwch y côd QR i wirio am ddiweddariadau

Cyfadran Busnes a Diwydiannau Creadigol Diwrnod Blasu Gyrfaoedd yn y Taster Diwydiant Creadigol:

Yn dod yn fuan - sganiwch y côd QR i wirio am ddiweddariadau

Diwrnod Blasu Rheoli Gwesty a Lletygarwch (Busnes):

Dydd Mercher 24 Ionawr 2024

Diwrnod Blasu Ysgol Busnes De Cymru PDC:

Yn dod yn fuan - sganiwch y côd QR i wirio am ddiweddariadau

Diwrnod Blasu Mis Hanes Menywod (Hanes, Saesneg):

Dydd Mercher 20 Mawrth 2024

4.

www.decymru.ac.uk/ysgolionacholegau


Cyfadran Cyfrifiadureg, Peirianneg a Gwyddoniaeth Ar gyfer ein holl weithgareddau STEM, sganiwch y côd QR i ofyn am sesiwn: Rydym yn cynnig Diwrnodau Blasu yn y meysydd pwnc canlynol: • • • • • •

Gwyddorau Biolegol Cyfrifiadureg Seiberddiogelwch Peirianneg Gwyddorau Amgylcheddol Gwyddoniaeth Fferyllol

Darperir yr holl ddiwrnodau blasu ar gais, felly cysylltwch â ni am ragor o wybodaeth.

www.decymru.ac.uk/ysgolionacholegau

.5


SESIYNAU GWYBODAETH, CYNGOR AC ARWEINIAD PAM ADDYSG UWCH? Mae’r sesiwn hon yn ateb tri chwestiwn sylfaenol: A yw mynychu’r brifysgol yn werth chweil? A yw'n gyraeddadwy? A yw'n fforddiadwy? Mae'r sesiwn hon hefyd yn tynnu sylw at y gwahanol ddulliau o ymchwilio a dod o hyd i’r brifysgol a'r cwrs cywir.

PROSES UCAS Mae'r sesiwn hon yn arwain myfyrwyr drwy'r broses UCAS, o gofrestru a dewis cwrs, hyd at ddiwrnod canlyniadau a chlirio, ac yn dangos sut y gall myfyrwyr wneud y gorau o'u cais.

CYLLID MYFYRWYR Mae’r sesiwn hon yn cyflwyno’r math a’r swm o gymorth ariannol sydd ar gael, yn ogystal â mynd i’r afael ag unrhyw bryderon ariannol a allai fod gan fyfyrwyr a’u rhieni/gofalwyr.

SGILIAU ASTUDIO Bydd y gweithdy hwn yn amlinellu rhai o'r sgiliau sy'n hanfodol ar gyfer astudio ar lefel 3 a thu hwnt. Bydd myfyrwyr yn ystyried ystod eang o sgiliau astudio, gan gynnwys technegau adolygu, cyfeirnodi, llên-ladrad a rheoli amser.

GWEITHDY YMGEISIO AR-LEIN UCAS Yn ystod y gweithdy hwn, bydd ein tîm yn arwain eich myfyrwyr trwy broses ymgeisio ar-lein UCAS.

YSGRIFENNU DATGANIAD PERSONOL Bydd y sesiwn hon yn helpu myfyrwyr i ddeall yr hyn y mae prifysgolion yn chwilio amdano, sut i gyflwyno eu hunain yn y golau gorau a sut i ddod o hyd i'r cymhelliant i 'gyflawni'.

6.

www.decymru.ac.uk/ysgolionacholegau


PARATOI AR GYFER GYRFAOEDD YN Y DYFODOL Mae dyfodol cyflogaeth yn newid. Mae’r sesiwn hon yn cynnig cipolwg ar sut mae’r byd gwaith yn esblygu, a sut y bydd addysg uwch yn helpu i baratoi myfyrwyr ar gyfer swyddi’r dyfodol.

LLES A GWYDNWCH Mae’r gweithdy hwn yn darparu strategaethau i fyfyrwyr allu sicrhau lles cadarnhaol gyda ffocws ar sut i wneud y mwyaf o’u cyfleoedd astudio.

PARATOI AT OFALU Bydd y sesiwn hon yn cynnig cymorth i fyfyrwyr i baratoi cais ar gyfer nyrsio, bydwreigiaeth a’r proffesiynau sy’n berthynol i iechyd. Gallant ddysgu am yr hyn y mae prifysgolion yn chwilio amdano mewn datganiad personol a sut i wneud argraff mewn cyfweliadau.

CREU ARGRAFF MEWN CYFWELIADAU Trwy ddefnyddio enghreifftiau bywyd go iawn, bydd y sesiwn hon yn paratoi myfyrwyr i greu argraff yn eu cyfweliadau prifysgol ac mewn cyfweliadau swyddi.

ADDYSG UWCH O FEWN Y SECTOR ADDYSG BELLACH Gan fod dros 60 o gyrsiau wedi’u rhyddfreinio i’n colegau partner lleol ledled De Cymru, gallwn gynghori myfyrwyr ar fanteision astudio cymhwyster PDC yn eu coleg Addysg Bellach lleol.

PARATOI AR GYFER FFEIRIAU Mae ffeiriau UCAS ar y gorwel, felly sut gall fyfyrwyr wneud y mwyaf o'r cyfle i gwrdd â staff y brifysgol a'u helpu i wneud dewisiadau gwybodus? Bydd y sesiwn hon yn arwain myfyrwyr trwy restr wirio ynghylch penderfynu â pha stondinau y dylent ymweld, pa gwestiynau i'w gofyn, yn ogystal ag amlinellu’r hyn sydd i'w ddisgwyl ar y diwrnod, er mwyn iddynt allu dychwelyd o’r ffair gyda mwy na beiro am ddim!

CYMORTH PERSONOL Mae ein tîm ar gael i ddarparu cymorth un-i-un i'ch myfyrwyr trwy gydol cylch UCAS. Archebwch sesiwn galw heibio datganiad personol ar gyfer arweiniad ar wneud cais unigol, neu sesiwn galw heibio i ymgeiswyr gyda chwestiynau am yr hyn sy'n digwydd nesaf ar ôl dyddiadau cau UCAS a’u harholiadau.

www.decymru.ac.uk/ysgolionacholegau

.7


Campws Casnewydd

NEILLTUWCH LE MEWN DIWRNOD AGORED HEDDIW:

DIWRNODAU AGORED Rhowch hwb i ymchwil AU eich myfyrwyr ar ein Diwrnodau Agored. Cynhelir ein Diwrnod Agored nesaf ar 27 Ebrill, gyda dyddiadau pellach yn cael eu cyhoeddi trwy gydol y flwyddyn. Mae ein digwyddiadau yn ffordd wych i’ch myfyrwyr ddysgu am yr amrywiaeth o gyrsiau sydd ar gael ym Mhrifysgol De Cymru.

DIWRNODAU PROFIAD YMGEISWYR Gwahoddir myfyrwyr sydd wedi derbyn cynnig gan Brifysgol De Cymru i ddiwrnod profiad ymgeiswyr. Mynychu diwrnod profiad ymgeiswyr yw’r ffordd orau i fyfyrwyr ddod i adnabod eu darlithwyr, dysgu mwy am eu cwrs dewisol trwy sesiwn flasu a gweld ein cyfleusterau. Anogwch eich myfyrwyr sydd wedi gwneud cais i PDC i fynychu. Campws Glyn-taf

Campws Trefforest

8.

www.decymru.ac.uk/ysgolionacholegau


BWRSARIAETH TEITHIO Gallwn dalu am gostau rhesymol sy'n gysylltiedig ag ymweld â Phrifysgol De Cymru i fynychu diwrnod agored israddedig, cyfweliad neu ddiwrnod ymgeiswyr. Sganiwch y côd QR i ddarganfod mwy am gymhwysedd a sut i wneud cais ar ein gwefan.

YSGOLORIAETHAU A BWRSARIAETHAU Rydym yn cynnig amrywiaeth o ysgoloriaethau a bwrsariaethau i gefnogi'ch myfyrwyr gyda'r costau sy'n gysylltiedig â'u hastudiaethau. Am ragor o fanylion am ein hysgoloriaethau a’n bwrsariaethau a’n meini prawf cymhwysedd, ewch i www.decymru.ac.uk/arian neu sganiwch y côd QR. Campws Caerdydd

Parc Chwaraeon

www.decymru.ac.uk/ysgolionacholegau

.9


EHANGU CYFRANOGIAD Mae Prifysgol De Cymru wedi ymrwymo i gefnogi myfyrwyr sydd heb gynrychiolaeth ddigonol o unrhyw gefndir, oed neu grŵp ethnig a sicrhau eu bod yn cael cyfle teg a chyfartal i astudio mewn modd cefnogol. O fewn Tîm Recriwtio Myfyrwyr y DU, mae tîm o staff sy'n cefnogi ac yn cyflwyno ystod o weithgareddau ar gyfer myfyrwyr sydd heb gynrychiolaeth ddigonol mewn addysg uwch ar hyn o bryd. Mae hyn yn cynnwys: • Gofalwyr ifanc a'u teuluoedd • Plant y Lluoedd Arfog a'u teuluoedd • Myfyrwyr ag anghenion dysgu ychwanegol • Myfyrwyr Du a Lleiafrifoedd Ethnig • Oedolion 21+ • Myfyrwyr sydd naill ai mewn gofal ar hyn o bryd, neu sydd â phrofiad o fod mewn gofal • Myfyrwyr o ardaloedd côd post difreintiedig wedi'u nodi trwy systemau WIMD, POLAR a TUNDRA Cysylltwch â ni os hoffech drafod ymweliad neu gymorth pwrpasol i grwpiau neu unigolion sydd heb gynrychiolaeth ddigonol mewn AU.

10.

www.decymru.ac.uk/ysgolionacholegau


YSGOL HAF PDC GORFFENNAF 2024 Gofynnwn i chi gadw llygad mas am fyfyrwyr cymwys ar gyfer yr Ysgol Haf nesaf! Cynhelir yr Ysgol Haf i fyfyrwyr sydd ym Mlwyddyn 12 neu ym mlwyddyn gyntaf lefel 3. Rhoddir blaenoriaeth i fyfyrwyr sy’n bodloni’r amodau canlynol ac yn enwedig y rhai sydd heb benderfynu ar eu cam nesaf hyd yn hyn: • Myfyrwyr o gefndiroedd Du a Lleiafrifoedd Ethnig • Pobl ifanc sydd â phrofiad o fod mewn gofal a'r rhai sydd yng ngofal yr awdurdod lleol • Myfyrwyr sy'n cael eu dosbarthu fel rhai ag anabledd • Gofalwyr Ifanc • Myfyrwyr sydd â rhiant/gofalwr sydd wedi gwasanaethu yn y lluoedd arfog neu sy'n gwasanaethu ar hyn o bryd Bydd y cyfle i fynegi diddordeb yn agor yn gynnar yn 2024, ond os oes gennych unrhyw ymholiadau yn y cyfamser, cysylltwch â ni drwy e-bostio: ysgolionacholegau@decymru.ac.uk Am ragor o wybodaeth am Ysgol Haf PDC, sganiwch y côd QR: www.decymru.ac.uk/ysgolionacholegau

.11


CYNHADLEDD ATHRAWON A CHYNGHORWYR 2024 Rydym yn falch o gyhoeddi bod Cynhadledd Athrawon a Chynghorwyr yn cael ei chynnal eto yn 2024, ar ddydd Mercher 7 Chwefror. 12.

www.decymru.ac.uk/ysgolionacholegau


Cynhelir y digwyddiad ym Mharc Chwaraeon PDC a bydd yn cynnwys nifer o arbenigwyr yn y diwydiant. Bydd y digwyddiad hefyd yn cynnwys diweddariadau UCAS, sesiynau ar ddatganiadau personol a chyllid myfyrwyr i roi'r offer gorau i chi gefnogi eich myfyrwyr a'ch dysgwyr.

GWELWCH RAGLEN Y DIGWYDDIADAU:

www.decymru.ac.uk/ysgolionacholegau

NEILLTUWCH EICH LLE:

.13


GWOBRAU ATHRAWON A CHYNGHORWYR 2024

14.

www.decymru.ac.uk/ysgolionacholegau


Eleni, byddwn yn cynnal ein pedwaredd seremoni flynyddol Gwobrau Athrawon a Chynghorwyr PDC, gyda chefnogaeth Ymestyn yn Ehangach. Dyfernir yr anrhydeddau i athrawon a chynghorwyr o ysgolion uwchradd a cholegau ledled y DU sydd wedi dangos rhagoriaeth mewn tri chategori ym mlwyddyn academaidd 2023-24. Bydd pob enillydd yn derbyn £500 tuag at fentrau lles staff a/neu Ddatblygiad Proffesiynol Parhaus yn eu hysgol neu goleg. Mae'r categorïau'n cynnwys: • Cefnogaeth Fugeiliol a Lles Eithriadol • Cefnogi Dilyniant at Addysg Uwch • Athro neu Gynghorydd Ysbrydoledig y Flwyddyn Gellir cynnig enwebiadau yn fuan yn 2024. Cadwch lygad ar ein gwefan am fanylion pellach: www.decymru.ac.uk/ysgolionacholegau

www.decymru.ac.uk/ysgolionacholegau

.15


CEFNOGWCH EICH MYFYRWYR I GYNLLUNIO EU HYFORY, HEDDIW. Rydym yn credu mewn creu gwell yfory, a dyna pam rydym yn dechrau lleihau ein defnydd o ddeunyddiau printiedig lle bynnag y bo modd. Mae ein prosbectws digidol newydd yn cynnwys yr holl wybodaeth sydd ei hangen ar eich myfyrwyr am Brifysgol De Cymru mewn un lle. Sganiwch y côd QR isod neu ewch at prosbectws.decymru.ac.uk

Chwiliwch am: PrifysgolDeCymru Cynhyrchwyd gan Myfyrwyr y Dyfodol, Prifysgol De Cymru. Mae Prifysgol De Cymru yn elusen gofrestredig. Rhif Cofrestru 1140312.


Issuu converts static files into: digital portfolios, online yearbooks, online catalogs, digital photo albums and more. Sign up and create your flipbook.