DIGWYDDIADAU AGORED
Y COLEG MERTHYR TUDFUL
Mae’r Coleg yn cynnal pum diwrnod agored bob blwyddyn, gan gynnwys Digwyddiad Agored AU. Hefyd, gall myfyrwyr fynd i Ddiwrnod Agored Rhithwir 24/7 i gael gwybod mwy am gyrsiau, gwylio fideos, mynd ar deithiau rhithwir a gwrando ar dystebau dysgwyr. Gallwch ddod o hyd i’r cyfan sydd ei angen arnoch i ddewis y cwrs iawn i chi.
Ewch i: www.merthyr.ac.uk
COLEG PENYBONT
Gallwch fynd i ddigwyddiadau agored lle byddwch yn gallu gweld ein cyfleusterau, cwrdd â thiwtoriaid a chael gwybod mwy am ein cyrsiau. Bydd staff o’n timau Gwasanaethau Myfyrwyr, Anghenion Dysgu Ychwanegol a Lles Myfyrwyr yn gallu ateb eich cwestiynau ynglŷn â chyllid, bywyd myfyriwr yn y Coleg a’r cymorth sydd ar gael i chi. Ewch i: www.bridgend.ac.uk
COLEG CAERDYDD A’R FRO
Mae CAVC yn cynnal Digwyddiadau Agored rheolaidd drwy gydol y flwyddyn. Ewch i cavc.ac.uk/cy/openevenings i gael manylion llawn a dyddiadau. Gallwch hefyd fynd i Ddiwrnod Agored Rhithwir yn y Coleg ar unrhyw ddiwrnod ac unrhyw amser. Cael atebion i’ch cwestiynau a dysgu am y cyrsiau a’r cymorth sydd ar gael. Ewch i: cavc.ac.uk/cy
COLEG Y CYMOEDD
Mae ein Digwyddiadau Agored yn ffordd wych o gael gwybod mwy am ein cyrsiau a’r yrfa yr ydych yn gweithio tuag ati. Mae ein staff arbenigol ar gael ac yn gallu ateb unrhyw gwestiynau sydd gennych. Mae cyngor ac arweiniad ar gael drwy gydol y flwyddyn. Cysylltwch i gael gwybod mwy am feysydd pwnc. Ewch i: www.cymoedd.ac.uk
COLEG GWENT
Mae’r Coleg yn cynnal cymysgedd o ddigwyddiadau rhithwir ac ar y campws. Gallwch fynd ar daith o amgylch ei gampysau, cael gwybod am feysydd pwnc a dysgu am gymorth, cyllid a bywyd myfyrwyr yn y coleg. Gallwch glywed profiadau myfyrwyr eraill hefyd. Ewch i: www.coleggwent.ac.uk/cy
COLEG GWYR ABERTAWE
Mae’r Coleg yn gwahodd myfyrwyr i wylio a gwrando ar ei ddigwyddiad agored. Gallwch glywed gan y pennaeth, dysgu am gyrsiau Safon Uwch, profiadau myfyrwyr a chymorth i fyfyrwyr. Ewch i: www.gcs.ac.uk
GRWP COLEGAU CASTELL-NEDD PORT TALBOT
Mae’r Coleg yn cynnal amrywiaeth o ddigwyddiadau drwy gydol y flwyddyn. Mae staff arbenigol wrth law i roi cyngor ac arweiniad arbenigol ar gyrsiau, ceisiadau a bywyd coleg. Ewch i: www.nptcgroup.ac.uk/cy/
CYRSIAU PRIFYSGOL YN Y COLEG
Os hoffech chi yrfa gyffrous yn gwneud rhywbeth rydych chi’n dwlu arno, astudiwch gwrs yn PDC o gysur eich coleg lleol. Gallwch newid eich yfory.
AR EICH CARREG DRWS
Mae PDC yn gweithio gyda cholegau ledled de Cymru felly gallwch astudio cwrs prifysgol yn y coleg. Gallech arbed amser ac arian, parhau i weithio, cydbwyso bywyd teulu ac aros yn nes at gartref. Dewch o hyd i Goleg ar dudalen 6.
CYRSIAU HYBLYG
Mae’n hawdd astudio o amgylch eich bywyd. Mae llawer o gyrsiau llawnamser neu ran-amser ar gael, ac mae rhai yn cael eu darparu yn ystod y dydd ac eraill gyda’r nos. Dewch o hyd i gwrs gan ddechrau ar dudalen 20.
AR GAEL YN HYGYRCH
DROS BEN
Os nad oes gennych y gofynion
mynediad i astudio gradd prifysgol, gallwch astudio HNC, HND neu Radd
Sylfaen yn gyntaf. Mae ein colegau partner hefyd yn cynnig cyrsiau
Mynediad i Addysg Uwch. Darllenwch fwy ar dudalen 16.
CYMORTH ARIANNOL
Gall cost astudio fod yn llai nag rydych yn ei feddwl. Mae myfyrwyr Cymru sy’n astudio cwrs addysg uwch yn elwa ar gymorth ariannol ac efallai byddwch yn gymwys am gymorth gyda ffioedd dysgu neu gostau byw. Darllenwch fwy ar dudalen 14.
GYRFAOEDD CYFFROUS
Gall cymhwyster prifysgol arwain at well cyfleoedd gwaith. Mae llawer o gyrsiau yn cynnwys lleoliad gwaith ac fel myfyriwr PDC gallwch fanteisio ar wasanaethau Gyrfaoedd PDC. Darllenwch fwy ar dudalen 11.
TEULU PDC
P’un a ydych chi’n dychwelyd i ddysgu, neu’n parhau o’r ysgol neu’r coleg, bydd croeso i chi i deulu PDC.
COLEGAU PARTNER
Y COLEG MERTHYR TUDFUL
Gall myfyrwyr astudio cyrsiau HND a Graddau
Sylfaen, neu raddau Anrhydedd a chymwysterau proffesiynol. Mae pynciau’n cynnwys y diwydiannau creadigol, busnes, cyfrifiadura a TG, gofal, Saesneg a hanes, gwasanaethau cyhoeddus a chwaraeon. Mae’r Coleg yn cynnig cyfleusterau, addysg, cymorth a chysylltiadau rhagorol â chyflogwyr. Mae myfyrwyr hefyd yn elwa ar niferoedd bach mewn dosbarthiadau. Darllenwch y rhestr cyrsiau ar dudalen 22.
01685 726 000 www.merthyr.ac.uk/cy/
COLEG PENYBONT
Mae’r Coleg wedi ennill gwobrau ac mae ganddo ryw 300 o fyfyrwyr yn astudio cyrsiau PDC yn llawn-amser nu’n rhan-amser. Mae pynciau’n cynnwys Gofal, Plentyndod ac Addysg, Peirianneg, Gofal Anifeiliaid, Garddwriaeth a Cheffylau. Darllenwch y rhestr cyrsiau ar dudalen 28.
01656 302 302 www.bridgend.ac.uk/
CARDIFF AND VALE COLLEGE
Mae CAVC yn cynnig cymwysterau mewn partneriaeth â phrifysgolion mewn llawer o bynciau, o HND i TAR. Mae’r Coleg yn cynnig cymorth eithriadol, dull personol o addysgu, a chyfleusterau sy’n efelychu amgylcheddau go iawn. Mae cyrsiau’n diwallu anghenion cyflogwyr ac yn paratoi myfyrwyr ar gyfer eu gyrfa. Darllenwch y rhestr cyrsiau ar dudalen 30.
02920 250 250 cavc.ac.uk/cy
COLEG GWENT
Mae Coleg Gwent yn ymdrechu i sicrhau bod astudiaethau prifysgol ar gael i bawb drwy gynnig amrywiaeth eang o opsiynau addysg uwch i ddysgwyr, gan gynnwys Graddau Sylfaen, HND, TAR ac ategion BSc, gan ddarparu ar gyfer mwy na 600 o fyfyrwyr PDC ar drefniant rhan-amser neu lawn-amser. Mae myfyrwyr yn elwa ar gyfleusterau rhagorol, staff addysgu profiadol a chysylltiadau sefydledig â chyflogwyr. Cyflwynir cyrsiau ar draws pum campws yn Sir Fynwy, Torfaen, Blaenau Gwent, Casnewydd a Chaerffili. Nid oes angen ymgeisio trwy UCAS ac anogir ceisiadau uniongyrchol. Darllenwch y rhestr cyrsiau ar dudalen 24.
01495 333 777
www.coleggwent.ac.uk/cy
COLEG Y CYMOEDD
Wedi’i leoli ar draws pedwar campws, mae’r Coleg yn cynnig addysg, cysylltiadau diwydiannol ac opsiynau astudio llawn-amser a rhan-amser rhagorol. Gall myfyrwyr astudio HND, Gradd Sylfaen, Gradd Anrhydedd neu hyfforddiant addysgu. Mae pynciau’n cynnwys busnes, celfyddydau cynhyrchu creadigol, llunio gwisgoedd, ffotograffiaeth, celf a dylunio gemau, addysg, dysgu a datblygu, TGCh a thirfesureg.
Darllenwch y rhestr cyrsiau ar dudalen 26.
01443 662 800
www.cymoedd.ac.uk
GOWER COLLEGE SWANSEA
Mae’r Coleg yn darparu cyrsiau addysg uwch o safon. Mae ei Ganolfan Prifysgol bwrpasol i fyfyrwyr ar gyrsiau lefel uwch yn cynnwys ystafelloedd dosbarth, llyfrgell ac ystafell gyffredin. Mae cyrsiau’n cynnwys busnes, addysg, cyfiawnder troseddol a gwyddoniaeth. Darllenwch y rhestr cyrsiau ar dudalen 20.
01792 284 000
www.gcs.ac.uk
GRWP COLEGAU CASTELL-NEDD PORT TALBOT
Mae’r Coleg yn ymfalchïo mewn cynnig mwy nag addysg. Caiff myfyrwyr eu haddysgu mewn grwpiau bach ac maen nhw’n derbyn profiad dysgu personol.
Mae gan y Coleg gampysau yng Nghastell-nedd, Afan, Aberhonddu, Y Drenewydd a Llandarcy. Mae’n cynnig cyrsiau ym maes busnes, astudiaethau plentyndod, camddefnyddio sylweddau ac addysg.
Darllenwch y rhestr cyrsiau ar dudalen 21.
01639 648 000 www.nptcgroup.ac.uk/cy/
PRIFYSGOL DE CYMRU
Gyda rhestr hir o gyrsiau i ddewis o’u plith, mae rhywbeth i bawb. Mae cwrs gyda PDC yn fwy na gradd. Rydym yn creu graddedigion sy’n barod am y dyfodol.
Gallwch ddewis astudio drwy un o’n colegau partner neu’n uniongyrchol gyda’r Brifysgol, gan sicrhau astudio ar gael yn rhwydd. Darllenwch fwy am PDC ar dudalen 8.
03455 76 77 78
www.decymru.ac.uk
PRIFYSGOL
Mae gan PDC gampysau yng Nghaerdydd, Casnewydd a Phontypridd. Os byddwch yn ategu’ch cymhwyster i radd Anrhydedd gyda ni, gallech astudio mewn un o’n campysau a bod yn gymwys ar gyfer ein bwrsariaeth dilyniant.
PDC PONTYPRIDD
PDC Pontypridd yw ein campws mwyaf sy’n cynnwys dau safle: Trefforest a Glyn-taf. Wedi’u hamgylchynu gan fannau gwyrdd agored, mae ein myfyrwyr yn dwlu ar yr awyrgylch cymunedol. Mae popeth sydd ei angen arnoch ar gael ar y campwseich dosbarthiadau, y llyfrgell, Undeb y Myfyrwyr, caffis a bariau.
www.southwales.ac.uk/cymraeg/bywydmyfyrwyr/croeso-i-bontypridd/
PDC CAERDYDD
Mae PDC Caerdydd yng nghanol y ddinas - lleoliad perffaith ar gyfer ein myfyrwyr sy’n dilyn y diwydiannau creadigol. Byddwch hefyd yn darganfod mannau astudio creadigol, y llyfrgell ac Undeb y Myfyrwyr - a’r cyfan mewn un adeilad nodedig.
www.southwales.ac.uk/cymraeg/bywydmyfyrwyr/croeso-i-gaerdydd/
PDC CASNEWYDD
Mae PDC Casnewydd yn nghanol y ddinas. Mae’n un o adeiladau mwyaf eiconig y Brifysgol ac ni allai fod mewn lleoliad gwell i allu manteisio ar fywyd y ddinas. Mae llety’r myfyrwyr ychydig o daith gerdded i ffwrdd, ac mae Friars Walk gyferbyn â’r campws – sydd llond ei ben â siopau, barau a bwytai. www.southwales.ac.uk/cymraeg/bywydmyfyrwyr/croeso-i-gasnewydd/
CYNGOR GAN PDC
Mae Tîm Recriwtio Myfyrwyr PDC ar gael i’ch helpu. Os oes gennych gwestiynau ynglŷn ag astudio yn y coleg neu’r Brifysgol, cysylltwch â ni.
ysgolionacholegau@decymru.ac.uk 0345 576 0751
YFORY LLWYDDIANNUS
Mae cwrs prifysgol yn fuddsoddiad yn eich dyfodol. Gall wella’ch rhagolygon gyrfa, ac mae gradd yn hanfodol ar gyfer rhai gyrfaoedd. Gallwn eich helpu i lwyddo a chyflawni’ch potensial llawn.
LLEOLIADAU GWAITH
Mae ein cyrsiau wedi’u llunio ar y cyd â chyflogwyr. Rydym yn credu bod profiad gwaith yn amhrisiadwy, dyna pam mae ein Graddau Sylfaen yn cynnwys cyfleoedd lleoliad gwaith. Mae hyn yn eich galluogi i roi’r hyn rydych wedi’i ddysgu ar waith ac mae’n edrych yn wych ar eich CV.
GWOBR GRAD EDGE
Y wobr hon yw eich cyfle i gael eich cydnabod am ddatblygu’r sgiliau neu’r rhinweddau y mae cyflogwyr yn eu gwerthfawrogi wrth chwilio am raddedigion i’w recriwtio. Bydd cymryd rhan yn ystod eich astudiaethau yn eich helpu i roi min cystadleuol i chi sefyll allan wrth chwilio am swydd. Ewch i: careers.southwales.ac.uk/gyrfaoedd/
GRADDIO
Pan fyddwch wedi cwblhau eich Gradd Sylfaen, HNC, HND, CertHE neu radd Anrhydedd yn llwyddiannus, gallwch fynd i seremoni graddio. Gwahoddir myfyrwyr sy’n astudio yng
Ngholeg Caerdydd a'r Fro, Coleg y Cymoedd, Coleg Gŵyr
Abertawe neu Y Coleg Merthyr Tudful i seremoni graddio ym
Mhrifysgol De Cymru. Gwahoddir y rhai sy’n astudio yng
Ngholeg Penybont, Coleg Gŵyr Abertawe a Grŵp Colegau
Castell-nedd Port Talbot i seremoni a gynhelir gan eu Coleg. I gael rhagor o wybodaeth am ein seremonïau graddio, ewch i: southwales.ac.uk/cymraeg/graddio/
CYMORTH GAN PDC A’CH
COLEG
• Cymorth gyda ysgrifennu CV
• Paratoi ffurflenni cais ac at gyfweliadau
• Cyngor ar ddewisiadau gyrfa neu astudiaethau
pellach
• Cyngor ar brofiad gwaith
• Cymorth wrth chwilio am waith
• Cymorth wrth weithio ac astudio dramor
• Ffeiriau Gyrfaoedd, digwyddiadau a gweithdai
ASTUDIAIS RADD SYLFAEN, AC
WEDYN SYMUD YMLAEN I’W
HATEGU YN Y COLEG. ERBYN
GRADDIO, ROEDDWN I’N BAROD
AR GYFER Y DIWYDIANT
OHERWYDD ROEDDWN I WEDI
CAEL PROFIADAU GWAITH GWYCH.
ROEDD CYDBWYSO GWAITH
ACADEMAIDD AC YMARFEROL YN
HAWDD, A CHEFAIS GYMORTH RHAGOROL GAN FY NHIWTORIAID.
Fel myfyriwr sy’n astudio cwrs PDC yn eich coleg lleol, byddwch yn cael y gorau o’r ddau fyd. Gallwch ddefnyddio’r cymorth a’r cyfleusterau sydd ar gael gan y coleg, yn ogystal â PDC.
CYMORTH DYSGU
Mae ein colegau partner yn cynnig gwasanaethau a chymorth amrywiol, a byddwch hefyd yn cael defnyddio’r adnoddau sydd gan Brifysgol De Cymru. Fel myfyriwr PDC, cewch ddefnyddio ein llyfrgelloedd a bydd gennych gyfrif TG y Brifysgol a chyfeiriad e-bost myfyriwr. Mae gennym leoliad ar bob campws ag oriau agor hir a chyfleusterau hunanwasanaeth. Mae gennym filoedd o gyfrifiaduron ar draws ein campysau a’r technolegau a’r adnoddau dysgu diweddaraf.
CYMORTH YN Y COLEG
Bydd gennych fynediad i’r amrywiaeth o wasanaethau cymorth sydd ar gael yn y coleg lle byddwch yn astudio. I gael gwybod pa gymorth sydd ar gael, cysylltwch â’ch coleg neu cadwch le ar Ddigwyddiad Agored i fynd am dro o amgylch y campws. Efallai bydd eich coleg yn eich cyfeirio i Barth Cyngor yn PDC hyd yn oed. Ewch i: advice.southwales.ac.uk/cyngor/
CYMORTH YN PDC
Os byddwch chi’n ategu’ch cymhwyster i radd Anrhydedd lawn ym Mhrifysgol De Cymru, gallwch fanteisio ar yr holl gymorth a chyfleusterau. Mae gennym Barthau Cyngor, Gwasanaeth Anabledd, Gwasanaeth Lles, Clinigau Iechyd, Gyrfaoedd PDC, Tîm Cyngor Ariannol i Fyfyrwyr, Caplaniaeth a Chanolfannau Sgiliau Astudio. Rydym hefyd yn cynnig llety i fyfyrwyr a chyfleusterau gofal plant yn PDC Pontypridd.
CYFLEOEDD CYMRAEG
Gallwch barhau i ddefnyddio’ch sgiliau Cymraeg wrth astudio cwrs PDC. Mae rhai cyrsiau’n cynnig cyfleoedd dwyieithog, a gallwch gyflwyno’ch gwaith yn Gymraeg, hyd yn oed os nad addysgir eich cwrs drwy gyfrwng y Gymraeg. Gallech hefyd ddewis lleoliad profiad gwaith cyfrwng Cymraeg. I gael gwybod mwy, cysylltwch â’r Hyrwyddwr Dwyieithrwydd yn eich coleg.
CYFLEUSTERAU NODEDIG
Mae llawer o’n colegau partner wedi elwa ar fuddsoddiad enfawr dros y blynyddoedd diwethaf. Mae ganddynt gyfleusterau a mannau addysgu nodedig.
CHWARAEON PDC
Er y byddwch yn astudio yn eich coleg lleol, gallwch chwarae i dimau chwaraeon y Brifysgol yng nghynghrair Chwaraeon Prifysgolion a Cholegau Prydain (BUCS). Mae 60 o dimau i ddewis o’u plith, gan gynnwys pêl-droed, rygbi, pêl-rwyd a hoci. I fod yn gymwys mae’n rhaid i chi fod yn 18 oed neu hŷn ac yn astudio 60 credyd neu fwy y flwyddyn. Mae chwarae yng nghynghrair BUCS yn golygu y gallech hyfforddi ym Mharc Chwaraeon PDC. Mae’r cyfleusterau gystal, y mae timau proffesiynol yn eu defnyddio’n rheolaidd, gan gynnwys tîm pêl-droed Cymru a Llewod Prydain.
UNDEB Y MYFYRWYR
Gallwch ddod yn aelod o Undeb y Myfyrwyr yn y coleg lle byddwch yn astudio, yn ogystal ag Undeb y Myfyrwyr y Brifysgol. Mae Undeb y Myfyrwyr yn PDC yn cynnal amrywiaeth o ddigwyddiadau a gweithgareddau drwy gydol y flwyddyn. Mae digon o glybiau a chymdeithasau i ymuno â nhw, wedi’u lleoli ar draws ein holl gampysau. Gall ein cymdeithasau eich helpu i ddarganfod hobïau a diddordebau newydd a chwrdd â phobl â meddylfryd tebyg. Ewch i: www.uswsu.com
BUDDSODDWCH YN EICH DYFODOL
Mae cymorth ariannol ar gael i fyfyrwyr, felly gall astudio fod yn fwy fforddiadwy nag rydych chi’n ei feddwl. Yn dibynnu ar eich amgylchiadau personol, fe allech fod yn gymwys ar gyfer ystod o grantiau, benthyciadau a lwfansau i helpu gyda ffioedd dysgu a chostau byw.
FFIOEDD CYRSIAU
Ar adeg cynhyrchu, nid yw’r ffioedd cyrsiau na’r cymorth ariannol i fyfyrwyr yng Nghymru wedi’i gadarnhau ar gyfer dechreuwyr 2022/23. Cyn i chi wneud cais, rydym yn argymell y dylech fynd i’n gwefan i weld yr wybodaeth ddiweddaraf am ffioedd a chymorth myfyrwyr. Ewch i: www.decymru.ac.uk/arian
CYMORTH ARIANNOL ARALL
Mae cymorth ariannol ar gael trwy Cyllid Myfyrwyr Cymru, i fyfyrwyr sy’n byw yng Nghymru, neu Student Finance England, i fyfyrwyr o Loegr. Mae gwybodaeth am gyllid myfyrwyr, ynghyd â sut i wneud cais ac i wirio cymhwysedd ar gael ar-lein. Ewch i: www.cyllidmyfyrwyrcymru.co.uk neu www.gov.uk. Chwiliwch am ‘cyllid myfyrwyr’ i fyfyrwyr sy’n byw yn Lloegr.
CYMORTH YCHWANEGOL
Ar ôl i chi gwblhau’ch cwrs Prifysgol yn eich coleg lleol, efallai byddwch yn penderfynu ategu’ch cymhwyster i radd Anrhydedd lawn yn un o gampysau’r Brifysgol. Os byddwch yn gwneud hynny, efallai byddwch yn gymwys ar gyfer rhagor o gymorth ariannol, gan gynnwys ein Bwrsariaeth Dilyniant gwerth £1,000.*
COSTAU YCHWANEGOL
Yn ogystal â thalu am lyfrau a offer hanfodol, fe allai fod costau ychwanegol ar gyfer rhai cyrsiau. Gallai hyn gynnwys teithiau maes, offer celf neu amser stiwdio. Cysylltwch â’ch dewis o Goleg i gael gwybod mwy am gostau ychwanegol.
BWRSARIAETH DILYNIANT
Rydym yn cynnig Bwrsariaeth Dilyniant gwerth
£1,000.* Mae myfyrwyr coleg sy’n ategu eu cymhwyster HND neu radd sylfaen i radd
Anrhydedd lawn drwy gwrs ategol ar gampws PDC yn gymwys. I gael manylion llawn, ewch i'n gwefan.
Efallai fod gradd brifysgol yn haws ei gwneud nag y byddwch chi’n ei feddwl. Os nad oes gennych y gofynion mynediad i astudio gradd brifysgol ar unwaith, gallwch astudio HNC, HND neu Radd Sylfaen.
GOFYNION MYNEDIAD
• Nodir gofynion mynediad nodweddiadol isod
• Os nad ydych yn bodloni’r meini prawf mynediad, gellid ystyried gwaith perthnasol a phrofiad bywyd ar sail unigol
• Mae cyfuniadau o gymwysterau yn dderbyniol
Gellid hefyd ystyried cymwysterau Lefel 3 eraill, fel
CACHE, OCR, City and Guilds, Cskills, NCFE a VTCT
• Os nad ydych yn siŵr a ydych yn bodloni’r gofynion, cysylltwch â’ch coleg dewisol.
GOFYNION MYNEDIAD
NODWEDDIADOL AR GYFER HNCs, HNDs A GRADD SYLFAEN
• Proffil BTEC Lefel 3 perthnasol o Deilyngdod/Pasio neu Pasio/Pasio/Pasio; neu
• DD yn Safon Uwch; neu
• D yn Safon Uwch a D yn Nhystysgrif Her Sgiliau Bagloriaeth Cymru; neu
• Mynediad i AU (Diploma Pasio gyda 45 credyd pasio Lefel 3)
• Bydd angen tair gradd C neu uwch yn TGAU hefyd, gan gynnwys mathemateg a Saesneg iaith neu
gyfatebol
• Ar gyfer cwrs ategol, bydd fel arfer angen HND neu Radd Sylfaen mewn pwnc cysylltiedig.
GOFYNION MYNEDIAD I GOLEGAU
• Efallai bydd angen prawf llythrennedd, rhifedd neu
wyddoniaeth
• Mae angen gwiriad DBS uwch ar gyfer rhai cyrsiau*
• Mae rhai proffesiynau yn gofyn am raddau TGAU
penodol mewn pynciau penodol
• Mae meini prawf ychwanegol wedi’u rhestru ar dudalennau’r cwrs ar wefan y coleg.
ATEGU I RADD LAWN
• Mae gan bob cwrs HND a Gradd Sylfaen o leiaf un llwybr dilyniant, felly gallwch ddewis ategu’ch cymhwyster i radd lawn
• I gael gradd Anrhydedd, byddwch yn astudio 360 credyd, fel arfer dros gyfnod o dair blynedd llawnamser
• I ategu’ch cymhwyster HND neu Radd Sylfaen i Radd Anrhydedd, fel arfer byddwch yn astudio 120 credyd dros flwyddyn ychwanegol lawnamser neu gyfwerth ran-amser. Mae rhai cyrsiau’n gofyn am ddwy flynedd astudio ychwanegol oherwydd gofynion statudol
• Fel arfer bydd angen i chi fynd i gampws PDC i ategu’ch gradd i astudiaethau Lefel 6, er bod rhai cyrsiau ar gael mewn colegau.
DOD YN ATHRO
Os oes gennych ddiddordeb mewn gyrfa ym maes addysg, rydym yn cynnig cymwysterau addysgu yn ein colegau partner. Darllenwch ein rhestr cyrsiau sy’n dechrau ar dudalen 20.
CYRSIAU ÔL-RADD
Ni fydd eich perthynas â’r Brifysgol yn dod i ben pan fyddwch yn graddio. Rydym yn cynnig cyrsiau ôl-radd a phroffesiynol i’ch helpu i ddatblygu hyd yn oed ymhellach yn eich gyrfa. Ewch i: www.decymru.ac.uk/ol-raddedig
SUT I YMGEISIO
Cysylltwch â’ch coleg lleol i wirio’r broses ymgeisio. Mae rhai colegau’n derbyn ceisiadau uniongyrchol, a wneir yn bersonol neu ar-lein. Fel arall bydd angen i chi wneud cais drwy UCAS.
*Bydd costau ychwanegol yn berthnasol
Gallwch astudio gradd Anrhydedd lawn ar gampws PDC neu ddilyn cwrs Prifysgol
mewn coleg partner. Mae cyrsiau coleg yn
dechrau ar Lefel 4 gyda chyfleoedd i ddatblygu i radd Anrhydedd ac
astudiaethau ôl-radd yn PDC. Gweler llwybrau dilyniant posibl isod.
LEFEL 3
SAFON UWCH • BTEC • NVQ LEFEL 3
DIPLOMA PRENTISIAETH MYNEDIAD I ADDYSG
UWCH BAGLORIAETH CYMRU MEWN
ASTUDIAETHAU SYLFAEN
LEFEL 4
TYSTYSGRIF GENEDLAETHOL UWCH (HNC)
TYSTYSGRIF ADDYSG UWCH
LEFEL 5
DIPLOMA CENEDLAETHOL UWCH (HND)
GRADD SYLFAEN
LEFEL 6
GRADD ATEGOL (ANRHYDEDDAU)
LEFEL 7
ASTUDIAETH ÔL-RADD
RHESTR TERMAU
GRADD SYLFAEN
Cymhwyster yw hwn yn ei rinwedd ei hun a byddwch yn mynd i seremoni graddio ar ôl ei chwblhau. Mae’n rhoi’r sgiliau i chi sy’n berthnasol i ddiwydiant. Caiff astudiaethau eu cyfuno â dysgu yn y gwaith felly byddwch yn dysgu yn y gweithle yn ogystal â’r ystafell ddosbarth. Ar ôl ei chwblhau’n llwyddiannus, cewch gyfle i symud ymlaen i gymhwyster gradd ategol.
TYSTYSGRIF GENEDLAETHOL
UWCH (HNC) A DIPLOMA
CENEDLAETHOL UWCH (HND)
Mae’r cymwysterau cysylltiedig â gwaith hyn yn rhoi’r sgiliau i chi wneud swydd benodol. Maen nhw’n alwedigaethol, ac felly’n ddeniadol i gyflogwyr, a gallan nhw gyfrif tuag at aelodaeth cyrff proffesiynol. Gallan nhw eich arwain yn syth i yrfa, neu gallwch ddatblygu i Radd Sylfaen neu Radd Anrhydedd.
CERTHE
Mae Tystysgrif Addysg Uwch (CertHE) yn
gymhwyster Lefel 4 a ddyfernir ar ôl blwyddyn o astudiaethau addysg uwch llawn-amser.
DIPHE
Mae Diploma Addysg Uwch (DipHE) yn gymhwyster Lefel 5 a ddyfernir ar ôl dwy flynedd o astudiaethau addysg uwch llawn-amser.
ADDYSG UWCH (AU)
Ar ôl i chi gwblhau addysg bellach mewn coleg neu chweched dosbarth, mae sefydliadau fel prifysgolion a cholegau yn cynnig rhaglenni addysg uwch.
GRADD ANRHYDEDD
Cwrs a gaiff ei astudio mewn prifysgol neu goleg addysg bellach. Bydd gradd BA neu BSc Anrhydedd lawn-amser fel arfer yn para tair blynedd a byddwch yn astudio 360 credyd.
UCAS
Byrfodd y Gwasanaeth Derbyniadau i Brifysgolion a Cholegau. Mae UCAS yn prosesu ceisiadau i brifysgolion a cholegau’r DU ar gyfer cyrsiau israddedig llawn-amser. Nid yw rhai o’n colegau partner yn defnyddio UCAS a derbynnir ceisiadau yn uniongyrchol yn lle hynny - cysylltwch â’r coleg yn uniongyrchol i gael manylion.
CYLLID MYFYRWYR CYMRU
Bydd y corff cyllido yn asesu’ch cymorth ariannol os ydych yn byw yng Nghymru.
FFIOEDD DYSGU
Mae’r ffioedd hyn yn talu cost eich astudiaethau, a gallan nhw amrywio yn dibynnu ar beth a ble y byddwch yn astudio. Gall yr holl fyfyrwyr cymwys wneud cais am Fenthyciad Ffioedd Dysgu, ac ni fydd yn rhaid ei ad-dalu nes eu bod yn ennill mwy na swm penodol o arian.
BWRSARIAETH
Arian a ddarperir tuag at gost astudio nad oes angen ei ad-dalu.
DILYNIANT/GRADD ATEGOL
Blwyddyn ychwanegol o astudio llawn-amser neu ddwy flynedd ran-amser yw hyn fel arfer, ond gallai fod yn fwy yn dibynnu ar ofynion statudol. Byddech yn symud ymlaen neu’n ategu’ch Gradd Sylfaen neu gyfwerth, i radd Anrhydedd lawn. Fel arfer, caiff cyrsiau dilyniant ac ategol eu hastudio yn yr un pwnc neu bwnc cysylltiedig â’r Radd Sylfaen.
COLEG GWYR ABERTAWE
CWRS A LLWYBR DILYNIANT
HND Rheoli Busnes
BA (Anrh) Rheoli Busnes
BA (Anrh) Rheoli Busnes (Marchnata)
BA (Anrh) Rheoli Busnes (Cyfrifeg a Chyllid)
BA (Anrh) Busnes Rhyngwladol
BA (Anrh) Rheoli Busnes (Rheoli Adnoddau Dynol)
BA (Anrh) Rheoli Busnes (Rheoli Cadwyn Gyflenwi)
Gradd Sylfaen Cyfiawnder Troseddol
BSc (Anrh) Troseddeg a Chyfiawnder Troseddol
Gradd Sylfaen Effeithiau Gweledol a Graffeg Symudol
BA (Anrh) Effeithiau Gweledol a Graffeg Symudol
Gradd Sylfaen Addysg, Dysgu a Datblygu
BA (Anrh) Addysg, Dysgu a Datblygu
BA (Anrh) Addysg
Tystysgrif Broffesiynol mewn Addysg (ProfCE) mewn Addysg orfodol a Hyfforddiant Ôl (PcET)
Tystysgrif Graddedig Proffesiynol mewn Addysg (TAR) mewn Ôl-orfodol Addysg a Hyfforddiant (PcET)
Tystysgrif Ôl-raddedig (TAR) Addysg a Hyfforddiant Ôl-orfodol (PcET)
GRWP COLEGAU NPTC
CWRS A LLWYBR DILYNIANT
HND Rheoli Busnes
BA (Anrh) Rheoli Busnes
BA (Anrh) Rheoli Busnes (Marchnata)
BA (Anrh) Busnes Rhyngwladol
BA (Anrh) Rheoli Busnes (Cyfrifeg a Chyllid)
BA (Anrh) Rheoli Busnes (Rheoli Adnoddau Dynol)
BA (Anrh) Rheoli Busnes (Rheoli Cadwyn Gyflenwi)
Gradd Sylfaen Astudiaethau Plentyndod
BSc (Anrh) Astudiaethau Plentyndod
CertHE Camddefnyddio Sylweddau
BSc (Anrh) Nyrsio
Tystysgrif Broffesiynol mewn Addysg (ProfCE) mewn Addysg
Y COLEG MERTHYR TUDFUL
CWRS A LLWYBR DILYNIANT
HND Cyfrifiadura
BSc (Anrh) Cyfrifiadura
BSc (Anrh) Cyfrifiadura Cymhwysol
Gradd Sylfaen Ymarfer Celf
BA (Anrh) Ymarfer Celf
Gradd Sylfaen Ffotograffiaeth
BA (Anrh) Ffotograffiaeth
Gradd Sylfaen Rheoli Busnes
BA (Anrh) Rheoli Busnes
BA (Anrh) Rheoli Busnes (Marchnata)
BA (Anrh) Busnes Rhyngwladol
BA (Anrh) Rheoli Busnes (Cyfrifeg a Chyllid)
BA (Anrh) Rheoli Busnes (Rheoli Adnoddau Dynol)
BA (Anrh) Rheoli Busnes (Rheoli Cadwyn Gyflenwi)
Gradd Sylfaen Seicoleg
BSc (Anrh) Seicoleg
Tystysgrif Broffesiynol mewn Addysg (ProfCE) mewn Addysg orfodol a Hyfforddiant Ôl (PcET)
Tystysgrif Graddedig Proffesiynol mewn Addysg (TAR) mewn Ôl-orfodol Addysg a Hyfforddiant (PcET)
Tystysgrif Ôl-raddedig (TAR) Addysg a Hyfforddiant Ôl-orfodol (PcET)
NPTC Group of CollegesCOLEG GWENT
CWRS A LLWYBR DILYNIANT
HND Peirianneg Electronig a Thrydanol
BSc (Anrh) Peirianneg Electronig a Thrydanol
HND Peirianneg Fecanyddol
BEng (Anrh) Peirianneg Fecanyddol
HND Gwasanaethau Cyhoeddus ac Argyfwng
BA (Anrh) Gwasanaethau Cyhoeddus
Gradd Sylfaen Iechyd a Lles Anifeiliaid
BSc (Anrh) Iechyd a Lles Anifeiliaid (Top-up)
NPTC Group of Colleges
Gradd Sylfaen Nyrsio Milfeddygol
BSc (Anrh) Nyrsio Milfeddygol
Gradd Sylfaen Astudiaethau Plentyndod
BSc (Anrh) Astudiaethau Plentyndod
Gradd Sylfaen Ieuenctid a Gofal Cymdeithasol
BSc (Anrh) Troseddeg a Chyfiawnder Troseddol
BA (Anrh) Gwasanaethau Cyhoeddus
BA (Anrh) Astudiaethau Ieuenctid
Gradd Sylfaen Iechyd a Lles Cymunedol
BSc (Anrh) Iechyd a Lles Cymunedol
BSc (Anrh) Rheoli Iechyd a Gofal Cymdeithasol
CertHE Camddefnyddio Sylweddau
BSc (Anrh) Nyrsio (Blwyddyn 1)
Gradd Sylfaen Celf a Dylunio - Gemau
BA (Anrh) Celf
BA (Anrh) Dylunio Gemau Cyfrifiadurol
Gradd Sylfaen Darlunio
BA (Anrh) Darlunio
Gradd Sylfaen (Celfyddydau) Technoleg Cerddoriaeth Boblogaidd BA (Anrh) Cerddoriaeth Boblogaidd a Masnachol
CWRS A LLWYBR DILYNIANT
Gradd Sylfaen (Gwyddoniaeth) Technoleg Cerddoriaeth Boblogaidd
BSc (Anrh) Diwydiannau Creadigol (Technoleg Cerddoriaeth Boblogaidd)
Gradd Sylfaen Hyfforddiant a Datblygiad Chwaraeon BSc (Anrh)
COLEG Y CYMOEDD
CWRS A LLWYBR DILYNIANT
HNC Peirianneg Drydanol/Electronig
Gradd Sylfaen Peirianneg Drydanol ac Electronig
HND Peirianneg Drydanol/Electronig
BSc (Anrh) Peirianneg Drydanol ac Electronig
HNC Tirfesur
Gradd Sylfaen Adeiladwaith a Thirfesur Cynaliadwy
BSc (Anrh) Tirfesur Meintiau a Rheoli Masnachol
Gradd Sylfaen Rheoli Busnes
BA (Anrh) Rheoli Busnes
BA (Anrh) Rheoli Busnes (Marchnata)
BA (Anrh) Busnes Rhyngwladol
BA (Anrh) Rheoli Busnes (Cyfrifeg a Chyllid)
BA (Anrh) Rheoli Busnes (Rheoli Adnoddau Dynol)
BA (Anrh) Rheoli Busnes (Rheoli Cadwyn Gyflenwi)
Gradd Sylfaen Addysg, Dysgu a Datblygu
BA (Anrh) Addysg, Dysgu a Datblygu
BA (Anrh) Addysg
Gradd Sylfaen Celf a Dylunio Gemau
BA (Anrh) Celf Gemau
BA (Anrh) Dylunio Gemau Cyfrifiadurol
Gradd Sylfaen Technoleg Gwybodaeth a Chyfathrebu
BSc (Anrh) Technoleg Gwybodaeth a Chyfathrebu
Gradd Sylfaen Ffotograffiaeth
BA (Anrh) Ffotograffiaeth
Gradd Sylfaen Adeiladu Gwisgoedd
BA Teledu a Ffilm: Gwallt, Harddwch ac Effeithiau Arbennig
BA Teledu a Ffilm: Gwallt, Harddwch ac Effeithiau Arbennig (Top-up)
BA (Anrh) Teledu a Ffilm: Creu Propiau
BA (Anrh) Teledu a Ffilm: Creu Propiau (Top-up)
COLEG PEN-Y-BONT
CWRS A LLWYBR DILYNIANT
HNC Amaethyddiaeth
HND Amaethyddiaeth
HNC Astudiaethau Anifeiliaid
HND Astudiaethau Anifeiliaid
Gradd Sylfaen Cyfiawnder Troseddol
BSc (Anrh) Troseddeg a Chyfiawnder Troseddol
HNC Peirianneg Drydanol ac Electronig
HND Peirianneg Drydanol ac Electronig
BSc (Anrh) Peirianneg Drydanol ac Electronig
HNC Rheoli Cadwraeth Amgylcheddol
HND Rheoli Cadwraeth Amgylcheddol
HNC Astudiaethau Ceffylau
HND Astudiaethau Ceffylau
HNC Garddwriaeth (Cynhyrchu a Dylunio)
HND Garddwriaeth (Cynhyrchu a Dylunio)
HND Peirianneg Fecanyddol
BSc (Anrh) Peirianneg Fecanyddol
HND Gwasanaethau Cyhoeddus ac Argyfwng
BA (Anrh) Gwasanaethau Cyhoeddus
Gradd Sylfaen Technoleg Cerddoriaeth Boblogaidd
BA (Anrh) Cerddoriaeth Boblogaidd a Masnachol
BSc (Anrh) Diwydiannau Creadigol (Technoleg Cerddoriaeth Boblogaidd)
Gradd Sylfaen Rheoli Iechyd a Gofal Cymdeithasol
BSc (Anrh) Rheoli Iechyd a Gofal Cymdeithasol
BSc (Anrh) Iechyd a Lles Cymunedol
Gradd Sylfaen Seicoleg
BSc (Anrh) Seicoleg
CWRS A LLWYBR DILYNIANT
BSc (Anrh) Cyfrifiadura Cymhwysol
BSc (Anrh) Technoleg Gwybodaeth a Chyfathrebu
HND Gwasanaethau Cyhoeddus ac Argyfwng
BA (Anrh) Gwasanaethau Cyhoeddus
Gradd Sylfaen Astudiaethau Plentyndod
BSc (Anrh) Astudiaethau Plentyndod
Gradd Sylfaen Addysg, Dysgu a Datblygiad
BA (Anrh) Addysg, Dysgu a Datblygiad
BA (Anrh) Addysg
Gradd Sylfaen Ffilm
BA (Anrh) Ffilm
Gradd Sylfaen Celf a Dylunio Gemau
BA (Anrh) Celf Gemau
BA (Anrh) Dylunio Gemau Cyfrifiadurol
Gradd Sylfaen Rheolaeth Iechyd a Gofal Cymdeithasol
BSc (Anrh) Rheoli Iechyd a Gofal Cymdeithasol
BSc (Anrh) Iechyd a Lles Cymunedol
Gradd Sylfaen Celfyddydau Perfformio
BA (Anrh) Theatr a Drama
Gradd Sylfaen Ffotograffiaeth Ddigidol
BA (Anrh) Ffotograffiaeth
Gradd Sylfaen Seicoleg
BSc (Anrh) Seicoleg
Gradd Sylfaen Ieuenctid a Gofal Cymdeithasol
CertHE Camddefnyddio Sylweddau
BSc (Anrh) Troseddeg a Chyfiawnder Troseddol
BA (Anrh) Gwasanaethau Cyhoeddus
BA (Anrh) Gwaith Ieuenctid a Chymunedol
CWRS A LLWYBR DILYNIANT
Tystysgrif Broffesiynol mewn Addysg (ProfCE) mewn Addysg orfodol a Hyfforddiant Ôl (PcET)
Tystysgrif Graddedig Proffesiynol mewn Addysg (TAR) mewn Ôl-orfodol Addysg a Hyfforddiant (PcET)
Tystysgrif Ôl-raddedig mewn Addysg a Hyfforddiant Ôl-orfodol (PcET)
SIARTER
Datblygir y Siarter Myfyrwyr ar y cyd gan y Brifysgol ac Undeb y Myfyrwyr. Mae’n esbonio ymrwymiad y Brifysgol i weithio mewn partneriaeth â chi i ddarparu profiad o ansawdd uchel o fod yn fyfyriwr a’ch helpu i gyflawni llwyddiant personol ac academaidd: www.southwales.ac.uk/cymraeg/amdanom/cydraddoldebamrywiaeth-a-chynhwysiant/
Y GYMRAEG
Gallwch wella a defnyddio’r Gymraeg wrth astudio cwrs PDC. Gall myfyrwyr astudio rhai cyrsiau’n ddwyieithog. Os nad oes cyfleoedd dwyieithog, gall myfyrwyr gyflwyno’u gwaith yn Gymraeg o hyd. Gallwch hefyd ddewis lleoliad profiad gwaith cyfrwng Cymraeg. I gael gwybod mwy, cysylltwch â’r hyrwyddwr dwyieithrwydd yn eich coleg. Ewch i: www.decymru.ac.uk
HYGYRCHEDD
Mae Prifysgol De Cymru wedi ymrwymo i ddatblygu gwefannau a chyhoeddiadau sy’n gwbl gynhwysol. Rydym yn gwneud pob ymdrech i sicrhau bod pob tudalen ar y wefan ac mewn cyhoeddiadau yn cydymffurfio â chanllawiau hygyrchedd. Oherwydd maint a chymhlethdod presenoldeb y Brifysgol ar y we, mae hon yn broses barhaus. I sicrhau bod ein cyhoeddiadau mor hygyrch â phosibl, rydym yn cynnig dwy ffordd o’u cyrraedd, eu gweld a’u darllen. Gallwch naill ai eu darllen drwy’r platfform ISSUU neu eu gweld ar-lein a lawrlwytho PDF. Mae’r ffeil PDF wedi’i datblygu i fod yn hygyrch. Rydym wedyn yn defnyddio’r union ffeil hon ac yn ei llwytho i’r ISSUU i gadw cynifer â phosibl o’r nodweddion hygyrchedd drwy’r platfform. I ddarllen pa nodweddion hygyrchedd sydd wedi’u defnyddio yn y PDF, ewch i’n gwefan. Os oes gennych gwestiynau neu sylwadau ynglŷn â hygyrchedd y wefan hon neu ein cyhoeddiadau, neu os cewch chi unrhyw anawsterau, cysylltwch â ni.
I gael cymorth hygyrchedd, anfonwch e-bost i: accessibility@southwales.ac.uk
I gael cymorth o ran anabledd neu anghenion ychwanegol, anfonwch e-bost i: disabilityadviser@southwales.ac.uk
CYN I CHI WNEUD CAIS
Mae’r Brifysgol yn adolygu ei phortffolio o gyrsiau’n rheolaidd i sicrhau ein bod yn darparu’r ansawdd gorau posibl. Rydym hefyd yn diweddaru ac yn adolygu cynnwys cyrsiau yn ôl yr angen i sicrhau ei fod yn parhau i fod yn berthnasol a chyfoes. Rydym yn cynghori ymgeiswyr yn gryf i fynd i wefannau ein colegau partner a’n gwefan ni i gael yr wybodaeth ddiweddaraf am gyrsiau, cynnwys cyrsiau, gofynion mynediad a chostau ychwanegol cyn cyflwyno’u cais.
GWYBODAETH DDEFNYDDIOL
YNGLYN A’R CANLLAW HWN
Mae’r canllaw hwn yn darparu arweiniad cyffredinol ac nid yw’n ffurfio rhan o unrhyw gontract. Mae’r wybodaeth a roddwyd wedi’i chynhyrchu ymhell cyn cyflwyno’r cyrsiau a amlinellir ar gyfer myfyrwyr sy’n
disgwyl dechrau’r Brifysgol yn y flwyddyn
academaidd 2022/23. Er y credir ei bod yn gywir ar yr
adeg gynhyrchu, dylid edrych ar ein gwefan a/neu
wefannau colegau partner i gael y sefyllfa
ddiweddaraf. Mae’r Brifysgol yn cadw’r hawl i ddiwygio neu ddileu cyrsiau, neu addasu
cyfleusterau, mewn ymateb i amgylchiadau y tu
hwnt i’w’ rheolaeth neu os yw’n ystyried bod
rheidrwydd rhesymol i wneud hynny. Bydd y Brifysgol yn ymdrechu i ymateb i newid drwy ymgynghori â’r rhai y bydd yn effeithio arnynt a/neu gymryd camau unioni i’w helpu. I gael manylion am ffioedd a chyllid a’r wybodaeth ddiweddaraf, ewch i: www.decymru.ac.uk/arian
SICRWYDD ANSAWDD
Mae’r logo diemwnt QAA a ‘QAA’ yn nodau masnach cofrestredig yr Asiantaeth Sicrwydd Ansawdd ar gyfer Addysg Uwch ac yn dangos bod y Brifysgol wedi bod yn destun adolygiad annibynnol o safon y ddarpariaeth addysg uwch, ac wedi cyflawni canlyniad llwyddiannus.
DYLUNIAD
Wedi’i gynhyrchu gan yr Adran Marchnata a Recriwtio Myfyrwyr. Diolch yn fawr i bawb a helpodd gyda’r prosiect hwn.
Dyluniad: Agraffu a Dylunio PDC www.uswprintanddesign.co.uk
Llun y clawr: Myfyriwr o Coleg Gwent
STATWS ELUSEN
Mae Prifysgol De Cymru yn elusen gofrestredig. Rhif Cofrestru 1140312.
GRWP PRIFYSGOL DE CYMRU
Mae Grŵp Prifysgol De Cymru’n cynnwys Prifysgol De Cymru, Y Coleg Merthyr Tudful, a Choleg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru.
DECHREUWCH CREU EICH YFORY, HEDDIW
Ffoniwch (DU): 03455 76 77 78
Ffoniwch (tramor): +44 (0)1443 654 450
Ewch i: www.decymru.ac.uk