MAE EICH YFORY YN DECHRAU HEDDIW DIWRNOD AGORED CAERDYDD Rhaglen a map 14 Ionawr 2023 Caerdydd | Casnewydd | Pontypridd
"Yn PDC rydyn ni wastad wedi bod yn ymwybodol bod gwell yfory yn bosibl. Trwy ein cyrsiau rydym yn eich helpu i baratoi ar gyfer eich yfory heddiw.
Rydym yn cynnig dysgu i adlewyrchu anghenion myfyrwyr heddiw a gofynion cyflogwr yfory. Mae llawer o'n cyrsiau wedi'u hachredu'n broffesiynol a'u dylunio mewn partneriaeth ag arweinwyr diwydiant. Mae ein haddysgu yn berthnasol ac mae ein cyfleusterau o safon diwydiant.
Gobeithio y gwnewch fwynhau eich diwrnod agored yma gyda ni ym Mhrifysgol De Cymru.”
Yr Athro Ben Calvert Is-Ganghellor a Phrif Weithredwr
2 Diwrnod Agored Caerdydd PDC
Mae ein campws yng Nghaerdydd yng nghanol y brifddinas hon. Yma gallwch ddatblygu eich gwaith creadigol mewn amgylchedd proffesiynol, gyda phopeth sydd ei angen arnoch mewn un lle.
Mae Caerdydd yn fywiog, yn gyfeillgar, yn amrywiol ac yn ddiffwdan. Mae'n cynnig ansawdd bywyd anhygoel a mwy o fannau gwyrdd fesul person nag unrhyw ddinas yn y DU. Yn adnabyddus fel dinas diwylliant ac adloniant, mae'n ddinas myfyrwyr poblogaidd lle mae wastad rhywbeth yn digwydd neu leoedd newydd i'w darganfod.
CAERDYDD PDC RYDYM WEDI CYMRYD CAMAU SYLWEDDOL O FEWN CANLLAW PRIFYSGOLION Y GUARDIAN, GAN GODI 29 LLE ELENI! Good
2023 MAE DWY RAN O DAIR O YMCHWILWYR PDC YN ARWEINWYR BYD-EANG YN EU MAES NEU'N RHAGOROL YN RHYNGWLADOL (REF 2021) 3
University Guide y Guardian
HANFODOL
10am-3pm
• Cofrestru a Desg Gymorth • Teithiau Llety • Gyrfaoedd Galw Heibio • Ymholiadau a Derbyniadau Galw Heibio • Y Llyfrgell ar agor. • Datblygu Myfyrwyr a Sgiliau Astudio • Cyllid Myfyrwyr, Galw Heibio • Gwasanaeth Lles ac Anabledd, Galw Heibio. • Sesiwn Galw Heibio Offer Cyfryngau. Sgwrsiwch â’n tîm technegol am ba offer arbenigol sydd ar gael i’w fenthyg a pha gymorth y gallant ei gynnig i chi tra byddwch yn astudio yn PDC.
Sgwrs Cyllid Myfyrwyr
1.30pm-1.45pm 1.45pm-2.30pm Y Gymraeg yn PDC 2.30pm-2.45pm
Perffeithio eich cais a beth ddaw nesaf. Ymunwch ag aelod o'n tîm recriwtio myfyrwyr i ddarganfod beth mae prifysgolion wir eisiau ei weld yn eich datganiad personol, beth i'w osgoi, a beth sy'n digwydd ar ôl i chi gyflwyno.
4 Diwrnod Agored Caerdydd PDC
SGYRSIAU, TEITHIAU A SESIYNAU GALW HEIBIO GWEITHGAREDDAU
AMSERLEN CYRSIAU
ANIMEIDDIO
(2D a Stopio Symud)
10.30am Cofrestru
10.45am Croeso i’r cwrs Animeiddio (2D a Stopio Symud)
Ymunwch â ni am gyflwyniad i'r cwrs a gweithdy wynebau animeiddio. Profwch sesiwn tynnu llun cymeriad ac yna trin delweddau cyfrifiadurol, dewch â phensil neu feiro gyda chi i dynnu llun.
ANIMEIDDIO CYFRIFIADUROL
10.30am Cofrestru
10.45am Cyflwyniad i Dal Symudiadau yn PDC
DYLUNIO HYSBYSEBU
10am Cofrestru
10.15am Croeso
Dewch i ymuno â ni i gael cipolwg gwybodaeth ar y diwydiant hysbysebu. Byddwch yn profi gweithdy bwrdd stori hwyliog a rhyngweithiol, yn ogystal â throsolwg o gynnwys y cwrs. Byddwn yn rhannu'r cysylltiadau diwydiant anhygoel rydym yn gweithio gyda nhw ar lefel genedlaethol a rhyngwladol, yn ogystal â gwaith myfyrwyr cyfredol. Gyda'n gilydd byddwn yn edrych ar y ffyrdd gorau o'ch paratoi ar gyfer y diwydiant hysbysebu a marchnata.
Dewch i ymuno â ni am daith gyffrous a goleuedig trwy’r broses dal symudiadau lle byddwch yn dysgu sut a ble mae dal symudiadau yn cael ei ddefnyddio yn y diwydiannau Teledu, Ffilm a Gemau. Profwch y broses o'r caffaeliad cychwynnol, gan addasu animeiddiad ac yn olaf cewch gyfle i roi mocap ar gymeriad. Defnyddir enghreifftiau diwydiant ac astudiaethau achos myfyrwyr trwy gydol y broses lle byddwn yn amlygu enghreifftiau o waith gan animeiddiadau CG ac artistiaid CG. Dewch i ymuno â ni i brofi sut deimlad yw bod yn fyfyriwr yn PDC trwy'r gweithgaredd byr hwn.
5
DYLUNIO GEMAU
CYFRIFIADUROL
10.30am Cofrestru
10.45am Cyflwyniad i Gemau yn PDC
Ymunwch â'n gweithgaredd Gemau a fydd yn rhoi blas i chi o'r hyn y byddwch yn ei wneud ar ein cwrs Dylunio Gemau. Gan ddefnyddio offer safonol y diwydiant a’r adnoddau a ddarperir, byddwch yn cael y cyfle i gynhyrchu cyfran o gêm, tra’n archwilio a thrafod rhai o’r pynciau y mae dylunwyr gemau yn meddwl amdanynt.
FFOTOGRAFFIAETH
DDOGFENNOL
10.15am Cofrestru
10.30am Cyflwyniad i Ffotograffiaeth a Ffotograffiaeth Ddogfennol yn PDC
Ymunwch â ni yn y stiwdio Ffotograffiaeth, neu am weithdy Ffotolyfr hwyliog gyda gweithgaredd gwneud Zine. Byddwn hefyd yn mynd â chi ar daith o amgylch y cyfleusterau sydd ar gael i’n myfyrwyr.
BUSNES A MARCHNATA FFASIWN
10.00am Cofrestru
10.15am Croeso
Dysgwch am y rolau amrywiol y gall y cwrs ffasiwn creadigol a masnachol hwn eu cynnig. Clywch am daith rhai o’n cyn-fyfyrwyr. Ymunwch yn ein gweithdy Hanfodion Marchnata.
Diwrnod Agored Caerdydd PDC
6
DARGANFOD EICH YFORY
DYLUNIO FFASIWN
10.00am Cofrestru
10.15am Croeso
Profwch weithdy collage ffasiwn rhyngweithiol, gan ddefnyddio technegau collage a gwneud marciau cyfrwng cymysg. Crëwch ac ewch â llun ffasiwn hwyliog, llawn mynegiant ac unigryw adref gyda chi. Nid oes angen unrhyw sgiliau na pharatoi blaenorol ar gyfer y gweithdy hwn ond parodrwydd i chwarae a gadael i serendipedd ac ysbrydoliaeth gydio. Byddwn yn ateb unrhyw gwestiynau sydd gennych am wneud cais i’r cwrs a’n cyfleusterau yn PDC.
HYRWYDDO FFASIWN
10.00am Cofrestru
10.15am Croeso
Lle mae Ffasiwn, Marchnata a'r Cyfryngau yn Cwrdd. Ydych chi'n caru Ffasiwn? Ydych chi'n caru Cyfryngau Cymdeithasol, Brandiau, Cysylltiadau Cyhoeddus, Ffotograffiaeth, Fideo, Steilio, Marchnata? Ydych chi eisiau gweithio yn y Diwydiant Ffasiwn? Gallai hwn fod y cwrs i chi. Ymunwch â ni am sgwrs cwrs, gweithdy, taith cyfleusterau a mwy.
FFILM
10.45am Cofrestru
11.00am Ymunwch â ni am drosolwg o'r cwrs, taith cyfleusterau a chyfle i weld peth o'n gwaith myfyrwyr gwych
Byddwn yn rhannu ein cysylltiadau unigryw â chi â chwmnïau a gweithwyr proffesiynol blaenllaw yn y diwydiant, yn ogystal â'r cyfleoedd y mae lleoliadau a chysylltiadau ym Mhrifysgol De Cymru yn eu darparu i'ch helpu i drosglwyddo o fyfyriwr i weithiwr proffesiynol creadigol. Byddwch yn cael y cyfle i siarad ag aelodau o'r tîm un-i-un, a thrafod eich diddordebau penodol yn y diwydiant.
CELF GEMAU
10.30am Cofrestru
10.45am Cyflwyniad i Gemau yn PDC
Ymunwch â ni am gyflwyniad cyffrous i ddatblygiad Celf Gemau gyda blas ar y daith weledol o fewn creu celf ar gyfer gemau.
7
CYFATHREBU GRAFFIG
11.00am Cofrestru 11.15am Ymunwch â ni am sesiwn gyffrous a rhyngweithiol, Meddwl Dylunio: Brandio Personol
Bydd y gweithdy hwn yn eich cyflwyno i frandio a lleoli strategol. Mae’n gyfle i chi ddysgu a thrafod pwysigrwydd creu hunaniaeth brand personol a phroffesiynol ar gyfer hunan-farchnata ac i gyfleu eich gwerthoedd a’ch creadigrwydd yn y dyluniad. Bydd y sesiwn ar ffurf sbrint dylunio lle byddwch yn gweithio trwy weithdy cyflym tra'n dod i gysylltiad â'r egwyddorion a'r prosesau dylunio sy'n digwydd o fewn y llif gwaith hwn. Bydd y sesiwn yn eich cyflwyno i frandiau byd enwog a byddwn yn trafod eu gweledigaeth, gwerthoedd ac ymddygiad. Byddwn yn edrych ar sut i gasglu ymchwil dylunio ac yna sut i dynnu ar y ddealltwriaeth ysbrydoledig hon, i ddelweddu eich syniadau trwy egwyddorion dylunio cyffredin megis siâp, lliw a theipograffeg.
DARLUNIO
11.00am Cofrestru
11.15am Ymunwch â ni am gyflwyniad cyffrous i Ddarlunio, cyfathrebu gweledol a chreu delweddau gan ddefnyddio ein hargraffydd risograffeg
Mae hon yn sesiwn ymarferol heb unrhyw liniadur o fewn golwg, ffordd hwyliog o wneud printiau analog. Cydiwch yn eich hoff binau ysgrifennu a phensiliau, byddwn yn gweithio gyda siapiau wedi'u torri a collages, braslunio, sgriblo a gweadau wedi'u stampio i wneud set o brintiau riso 2 liw i chi fynd adref gyda chi i'ch atgoffa o'ch Diwrnod Agored Darlunio yn PDC.
Byddwn yn darparu ffedogau tafladwy ond mae'r inc a ddefnyddiwn ar gyfer y gweithdy hwn yn seiliedig ar bran soi/reis, gwisgwch ddillad addas gan y gall staenio ffabrigau.
Ymunwch â ni am gyflwyniad i Ddylunio Mewnol, ynghyd â thaith o'r stiwdios a gweithdai. Byddwch yn cael y cyfle i weld gwaith cyfredol myfyrwyr yn ogystal â chipolwg ar ein cyn-fyfyrwyr. Byddwn yn ateb unrhyw gwestiynau sydd gennych ar y cwrs.
8 Diwrnod Agored Caerdydd PDC
MEWNOL
11.15am Cyflwyniad
Ddylunio Mewnol
DYLUNIO
11.00am Cofrestru
i
NEWYDDIADURAETH
10am Cofrestru
10.15am Newyddiaduraeth a’r Cyfryngau yn PDC
Dewch i gwrdd â’n staff a’n myfyrwyr i glywed sut y bydd BA Newyddiaduraeth, a achredwyd gan y Cyngor Hyfforddi Newyddiaduraeth Darlledu, yn eich paratoi ar gyfer y diwydiant cyffrous hwn sy’n esblygu’n barhaus. Byddwch yn dysgu sut mae ein Gradd yn cwmpasu’r sgiliau sylfaenol o ddod o hyd i newyddion a’u hadrodd, yn ogystal â’r sgiliau arbenigol sydd eu hangen i gynhyrchu storïau ar gyfer darlledu, ar-lein, print ac amlgyfrwng. A byddwn yn agor eich llygaid i’r cyfleoedd enfawr i raddedigion ar draws darlledu, cyhoeddi, cyflwyno, cysylltiadau cyhoeddus a marchnata.
CYNHYRCHU CYFRYNGAU
10.45am Cofrestru 11.00am Cyflwyniad i Cynhyrchu'r Cyfryngau
Mae ein cwrs Cynhyrchu Cyfryngau yn canolbwyntio arnoch chi fel unigolyn a byddwn yn rhoi'r union sgiliau sydd eu hangen arnoch i fynd i mewn yn hyderus i Ddiwydiannau Creadigol a Chyfryngol Prydain sy'n gynyddol amrywiol a llwyddiannus.
Byddwn yn rhannu promos gyda chi yn ogystal â gwaith cyn-fyfyrwyr a myfyrwyr cyfredol. Bydd taith o amgylch ein cyfleusterau a chyfleoedd i drafod y cwrs neu unrhyw gwestiynau sydd gennych ar sail un-i-un.
Y CYFRYNGAU, DIWYLLIANT A NEWYDDIADURAETH
10am Cofrestru
10.15am Newyddiaduraeth a’r Cyfryngau yn PDC
Yma byddwch yn cwrdd â’n staff, llawer o arbenigwyr a gydnabyddir yn rhyngwladol yn eu meysydd, ac yn darganfod popeth am ein BA Y Cyfryngau, Diwylliant a Newyddiaduraeth pwrpasol sy’n wynebu’r diwydiant. Byddwch yn clywed sut mae ein myfyrwyr yn cysylltu â sefydliadau allanol, yn paratoi eu portffolios proffesiynol, ac yn datblygu eu hunain fel meddylwyr beirniadol aml-sgil, creadigol sy'n barod ar gyfer gyrfaoedd ar draws ystod o feysydd sy'n gysylltiedig â'r cyfryngau a diwylliant.
BUSNES CERDDORIAETH
11.00am Cofrestru
11.15am Croeso i Cerddoriaeth a Sain
11.30am Gweithdy seiliedig ar ddiwydiant a thrafodaeth cwrs
Dysgwch fwy am fyd cyffrous Busnes Cerddoriaeth o ddatblygu artistiaid a chyhoeddi i reoli digwyddiadau a marchnata. Byddwch yn cwrdd â'r tîm addysgu a myfyrwyr presennol. Byddwn hefyd yn mynd â chi ar daith o amgylch ein cyfleusterau ac yn ateb unrhyw gwestiynau sydd gennych.
9
CYNHYRCHU
CERDDORIAETH
11.00am Cofrestru
11.15am Croeso i Cerddoriaeth a Sain 11.30am Ymunwch â ni am daith campws o amgylch ein cyfleusterau a gweithdy creu curiadau
Byddwn yn dangos y nifer o stiwdios recordio i chi y gall rhai ohonynt fod yn llawn prosiectau cerddoriaeth fyw. Yna byddwn yn dychwelyd i labordy cerddoriaeth ar gyfer gweithdy creu curiadau cyffrous, lle byddwn yn defnyddio'r dechnoleg cerddoriaeth ddiweddaraf i greu trac o'r newydd.
PERFFORMIO
Perfformio Theatr a'r Cyfryngau
Cynhyrchu a Rheoli Perfformiad Perfformio a'r Cyfryngau Theatr a Drama 10.30am Cofrestru 10.45am Croeso i faes pwnc Perfformio
Ymgysylltwch â Theatr a Pherfformio yng Nghaerdydd! Darganfyddwch am ein cyrsiau, cwrdd â'r tîm addysgu - dysgwch am yr ystod o fodiwlau a gynigir, a darganfyddwch yr ystod o arbenigeddau staff. Siaradwch â’n myfyrwyr presennol am eu profiadau o astudio theatr a pherfformio ym Mhrifysgol De Cymru. Dewch o amgylch ein cyfleusterau anhygoel, gan gynnwys stiwdios drama a dawns, ystafelloedd ymarfer, stiwdio recordio symudiadau a mwy. A beth am gymryd rhan mewn gweithdy - gwisgwch ddillad cyfforddus. (Sylwer bod y gweithdy yn ddibynnol ar niferoedd).
FFOTOGRAFFIAETH
10.15am Cofrestru
10.30am Cyflwyniad i Ffotograffiaeth a Ffotograffiaeth Ddogfennol yn PDC
Byddwn yn ymweld â’r stiwdio Ffotograffiaeth ar gyfer gweithdy portreadau, cyn taith o amgylch y cyfleusterau sydd ar gael i’n myfyrwyr. Byddwn yn dychwelyd i'r stiwdio am sesiwn Holi ac Ateb neu sgyrsiau un-i-un gydag aelodau o'r tîm.
CERDDORIAETH BOBLOGAIDD A MASNACHOL
11.00am Cofrestru
11.15am Croeso i Cerddoriaeth a Sain
Dysgwch am fanylion y cwrs, cwrdd â'r tîm addysgu, gweld gwaith myfyrwyr a dysgu sut rydym yn integreiddio perfformiad cerddoriaeth, cynhyrchu ac ysgrifennu caneuon yn y rhaglen. Byddwn hefyd yn mynd â chi ar daith o amgylch ein cyfleusterau ac yn ateb unrhyw gwestiynau sydd gennych.
10 Diwrnod Agored Caerdydd PDC
TECHNOLEG SAIN, GOLEUO A DIGWYDDIADAU BYW
10.45am Cofrestru
11.00am Croeso i faes pwnc Technoleg Sain, Goleuo a Digwyddiadau
Dewch i ymuno â ni i gael cipolwg gwybodaeth ar fyd gwyliau, perfformiadau a thechnoleg digwyddiadau o bob math. Byddwch yn profi gweithdy hwyliog a rhyngweithiol, yn ogystal â throsolwg o gynnwys y cwrs a thaith o amgylch ein cyfleusterau rhagorol. Byddwn yn rhannu'r cysylltiadau diwydiant rydym yn gweithio gyda nhw ac yn dangos i chi sut mae technoleg yn galluogi sioeau anhygoel. Gyda'n gilydd byddwn yn edrych ar y ffyrdd gorau o'ch paratoi ar gyfer y diwydiant digwyddiadau.
NEWYDDIADURAETH CHWARAEON
10am Cofrestru
10.15am Newyddiaduraeth a’r Cyfryngau yn PDC
Dewch i gwrdd â'n staff a'n myfyrwyr i ddarganfod sut y gall BA Newyddiaduraeth Chwaraeon eich paratoi ar gyfer y diwydiant cyffrous a deinamig hwn. Dysgwch sut bydd ein cwrs yn rhoi'r sgiliau a'r profiad i chi ar gyfer gyrfa yn y cyfryngau, gyda darlledu, ysgrifennu, sain, gweledol, cysylltiadau cyhoeddus a chyfryngau cymdeithasol yn rhai o'r meysydd y byddwch yn datblygu arbenigedd ynddynt. Clywch am gyfleoedd i weld eich gwaith a gyhoeddir ar ein gwefan (exposport.co.uk) o fewn wythnosau i ddechrau’r cwrs, a darganfod, hefyd, y cyfleoedd i gael profiad o weithio mewn blychau go iawn ar gyfer y wasg mewn amrywiaeth o ddigwyddiadau chwaraeon.
DYLUNIO SET DELEDU A FFILM
11.00am Cofrestru
11.15am Ymunwch â ni am gyflwyniad eang i Ddylunio Setiau Teledu a Ffilm
Yn ystod y sesiwn byddwn yn edrych ar y diwydiant Ffilm a Theledu, y rolau o fewn adrannau celf ffilm a theledu proffesiynol a lle mae ein myfyrwyr yn dod yn rhan o hyn.
Mae'r sesiwn yn adlewyrchu sut mae'r cwrs wedi'i ddatblygu yn unol â diwydiant, dadansoddiad o'r modiwlau a sut rydym yn gweithio ac yn rhyngweithio â dylunwyr cynhyrchu, cyfarwyddwyr celf a'r rhwydwaith o raddedigion. Byddwn yn esbonio’r daith drwy’r cwrs a’r cyfleoedd cyffrous sydd ar gael i’n myfyrwyr. Bydd cyfle hefyd i weld ein cyfleusterau, gweithdai a stiwdio deledu.
EFFEITHIAU GWELEDOL A GRAFFEG SYMUDIAD
10.30am Cofrestru 10.45am Cwrdd â thîm VFX. Beth yw VFX?
Byddwn yn ymdrin â chwmpas VFX a pha rolau swyddi a gwmpesir yn y maes hwn. Cymerwch ran mewn ymarfer ffilmio byr ac arddangosiad o'r sgrin werdd. Defnyddir hwn ym meddalwedd cyfansoddi Nuke, lle byddwn yn arddangos y broses fel rhan o ôl-gynhyrchu i gyfuno'r saethiad i mewn i olygfa seiber-pync. Byddwn yn gorffen drwy arddangos enghreifftiau o waith cyfredol myfyrwyr, ein cyfleusterau ac ateb unrhyw gwestiynau sydd gennych.
11
12 TyndallStreet R I V E R T A F F But e S treet ButeTerrace Central Link A4234 Cardiff Arms Park Cardiff Central Library St David’s Hall Indoor Market Bute Park NorthRoad A470 City Hall M4 Junction 32 Cardiff Bay M4 Junction 33 Cardiff City FC Stadium M4 Junction 29 Park Place CityRoad West Grove NewportRoad FitzalanPlac e Duke Street Kingsway WoodStreet WestgateStreet HighStreet St Ma r yStreet AdamStreet Boulevard de Nantes QueenStreet DumfriesPlace N 500ft 100m P P P P P P P 5 9 13 6 14 11 10 8 3 1 2 12 7 4 15 MAP PDC CAERDYDD USW CARDIFF MAP Cynllun y Map © Gill Advertising Map Design © Gill Advertising
13 Canol Dinas Caerdydd Cardiff City Centre 1. Adeilad yr ATRiuM ATRiuM Building 2. Maes Parcio Str yd Adam Adam Street Car Park 3. Llety – T ^ y Pont Haearn Accommodation – T ^ y Pont Haearn 4. Canolfan Siopa Dewi Sant St David’s Shopping Centre 5. Maes Parcio Heol Knox Knox Road Car Park 6. Maes Parcio Plas Dumfries Dumfries Place Car Park 7. Arena Motorpoint Caerdydd Cardiff Motorpoint Arena 8. Gorsaf Caerdydd Canolog Cardiff Central Station 9. Gorsaf Heol y Frenhines Queen Street Station 10. Stadiwm Principality Principality Stadium 11. Castell Caerdydd Cardiff Castle 12. Parc Cathays Cathays Park 13. Canolfan Siopa’r Capitol Capitol Shopping Centre 14. Arcêd y Frenhines Queen’s Arcade 15. Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd National Museum Cardiff Cofrestru Registration Gorsaf Rheilffordd Railway Station Parcio Parking Parcio i’r Anabl Disabled Parking PDC CAERDYDD USW CARDIFF
DARGANFOD
Y ffordd orau i ddarganfod a yw Prifysgol De Cymru yn addas i chi, yw archwilio a chael teimlad o'r lle.
Felly pan fyddwch chi wedi gorffen yn y Diwrnod Agored, beth am archwilio ychydig mwy? Mae gan Dde Cymru gymaint i’w gynnig a dydych chi byth yn bell o rywle hollol wahanol.
10 munud i ffwrdd: Archwiliwch Gaerdydd, ewch am dro drwy rai o'n harcedau eiconig a darganfyddwch gaffis a siopau annibynnol.
20 munud i ffwrdd: Ewch ar y trên i Fae Caerdydd, cartref Torchwood, Dr Who, Casualty a BBC Cardiff Studios.
30 munud i ffwrdd: Dihangwch i ofodau syfrdanol Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog
14 Diwrnod Agored Caerdydd PDC
Y PRIF FFEITHIAU AM GAERDYDD
Mae Caerdydd yn cael ei hadnabod fel Dinas yr Arcedau. Yma mae'r crynhoad mwyaf o arcedau siopa dan do Fictoraidd, Edwardaidd a modern ym Mhrydain.
Mae gan Gaerdydd achrediad Baner Borffor am gynnig nosweithiau allan difyr, amrywiol, pleserus a diogel.
Mae gan Gaerdydd y storfa recordiau hynaf yn y byd. Mae Spillers yn dyddio i 1894 ac roedd yn arfer gwerthu recordiau cwyr ar gyfer y ffonograff newydd ei ddyfeisio!
Caerdydd oedd prifddinas Masnach Deg gyntaf y byd.
Ar Yr Aes yng Nghaerdydd saif nifer o folardiau metel sy'n edrych yn union fel pob un arall yng nghanol y ddinas. Ond os cymerwch olwg agosach, fe welwch ddarnau anhygoel o gelf wedi'u cuddio y tu mewn iddynt.
15 Y DIWRNOD AGORED HWN YW'R FFORDD ORAU I DDARGANFOD A YW PRIFYSGOL DE CYMRU YN IAWN I CHI, FELLY GWNEWCH Y MWYAF OHONO A DOD O HYD I GYMAINT O WYBODAETH AG Y GALLWCH CHI.
ystod y digwyddiad rydym yn rhoi cyfle i bob gwestai ofyn am gefnogaeth sy’n benodol i’w hanghenion mewn ffordd gynnil a chyfforddus. Gofynnwch i unrhyw aelod o staff am Unedig yn PDC a byddant yn eich cyfeirio at aelod o staff a all gynnig cyngor cyfrinachol.
UNEDIG YN
Yn
CYNLLUNIWCH EICH DIWRNOD... #DIWRNODAGOREDPDC Cadwch i fyny â'r hyn sy'n digwydd yn y Diwrnod Agored - dilynwch ni: Instagram: @de_cymru Facebook: Prifysgol De Cymru Twitter: @de_cymru Byddem wrth ein bodd yn clywed am eich ymweliad, rhannwch eich lluniau gan ddefnyddio: #DiwrnodAgoredPDC. I weld yr holl luniau a sylwadau o'r Diwrnod Agored, dilynwch: @de_cymru • Dewis ‘usw-openday’ fel rhwydwaith • Mewngofnodi trwy Facebook neu greu cyfrif • Defnyddio cod cofrestru: 06072019 Os oes gennych unrhyw gwestiynau, siaradwch ag aelod staff ar y ddesg cofrestru. Mwynhewch eich diwrnod! WI-FI AM DDIM I YMWELWYR AM YFORY GWYRDDACH GWELER EIN PROSBECTWS DIGIDOL prosbectws.decymru.ac.uk
PDC