Reaching Wider Adult Learning Programme 2023-24

Page 1

REACHING WIDER ADULT LEARNING PROGRAMME

2023-24

YOUR PATHWAY TO UNIVERSITY FOR ADULTS IN RHONDDA CYNON TAF AND MERTHYR TYDFIL

Reaching Wider is a partnership of universities, schools and colleges working together to improve social mobility by widening access to all forms of higher education.

WELCOME!

Welcome to the Reaching Wider programme for adult learners in Merthyr Tydfil and Rhondda Cynon Taff. We are delighted to present a range of courses designed to help you to succeed and access higher education, especially if you recently been bitten by the education bug!

All our courses are designed to be accessible for learners who are looking to return to learning. We offer them in your community, have a range of experienced tutors delivering our courses, and most of all, we offer advice, support and guidance on all our programmes to help you plan for the future.

2 Reaching Wider Adult Learning Programme | 2023-24

The Adult Learning Programme exists to raise the educational aspirations of adults with no level four qualifications from WIMD40 areas across Rhondda Cynon Taff and Merthyr Tydfil. The programme helps to develop learners’ confidence and resilience to navigate the challenges of university life by tackling the perceived barriers to entry, progression and success in higher education. It is designed for people from areas where university participation rates are low.

The Programme has two parts:

Pathways is a suite of subject specific nonaccredited and accredited courses delivered in community venues offering you the opportunity to explore different subjects and progression pathways in your area of interest. Pathways helps you gain relevant qualifications. These are perfect to help you increase your knowledge, whether you want to improve your subject knowledge or perhaps get on either a foundation or undergraduate degree course.

Future Me is the range of activities to help you develop the ability to make important and informed choices to help you develop the skills, knowledge and confidence to succeed in higher education. Future Me helps to give you a clear understanding of the various routes into university study. These include an insight into university life as a mature student; information on the support available in university and how to access it; campus visits to help you get a feel for the campus and university learning.

To access any of our learning opportunities you need to be an adult learner from an eligible area of Rhondda Cynon Taff or Merthyr Tydfil. Please note our programmes only have limited spaces available and several are run in conjunction with our partners. If you need more information on this, contact us at reachingwider@ southwales.ac.uk

3

PATHWAYS JOURNEY

I loved being able to try new things, with new people and get involved in something new and interesting.

LEARNER

I loved going on to the university campus and getting to meet and work alongside people with similar interests. Getting to learn and experience learning from experienced professionals, the support and guidance to learn and practice has been something I admired and really enjoyed.

LEARNER

The tutor was so encouraging and energising. The environment was great and I gained so much knowledge.

LEARNER

AMAZING teachers. I appreciated the great advice and feedback from them. They really are the best!

LEARNER

I was a complete beginner and I was made to feel right at home. I plan to take what I have learned back to my community and try some more learning.

LEARNER

I was so excited to learn and help support others in a more beneficial way. There are fantastic opportunities and the course gave me a chance to develop professionally. The placement enabled me to reach out to local schools/ nurseries and practice everything I’d learned. Reaching Wider has connections with a university, who can provide help and support when applying for university, if I progress to complete my masters degree in the future. I was comfortable with the weekly lessons and became more confident from the experience.

4 Reaching Wider Adult Learning Programme | 2023-24
5

COURSE PROGRAMME AND CALENDAR

CREATIVE INDUSTRIES

Description: This course looks at the broad range of creative industries in Wales introducing photography, film, performing arts and production, dance, screen writing, literature, art, design, illustration, 3D, set design, interior design, fashion, music performance production and tech, media and journalism. It offers a broad introduction to learn about and try out different creative arts leading to progression pathways to higher education or to working in creative industries.

Date: Mondays

25 September to 6 December 2023

Time: 1pm to 4pm

Location: Tonypandy Library

INTRODUCTION TO YOUTH & COMMUNITY WORK

This Higher Education Level 3 accredited course helps you to recognise the roles & skills required and apply the principles that underpin youth & community work. You will identify and assess different communities and define the concepts of youth & young people. Learners who pass the assessment on this module will be offered an interview for a place on the Foundation Certificate in Youth and Community work at Cardiff Metropolitan University and, depending on experience and qualifications, may be able to progress onto the BA (Hons) Youth and Community Work or PGDip pathways.

Date: Mondays

Mondays 8 Jan to 18 March

Time: 1-4pm

Location: Hwb Cana, Penywaun.

6
Reaching Wider Adult Learning Programme | 2023-24

TRAINING AS A TEACHING ASSISTANT

This is a standalone Higher Education Level 3 module to introduce the role of a Teaching Assistant within an early years/primary school setting. You will explore the role of a Teaching Assistant in the support of young learners within an early years/primary school setting (maintained and non-maintained settings). Understand more about the basic principles of child development and how children learn. Understand the interrelationship and importance of learning through play. You will also learn and about the role government policy, learning environment, class teacher and the wider family play in supporting the development process of a child.

ALL COURSES RUN DURING SCHOOL TERM TIMES WITH A BREAK FOR HALF TERM.

There are three courses to choose from:

Date: Fridays –29 September to 10 December 2023

Time: 9.30am to 12.30pm

Location: YMa, Pontypridd

Date: Fridays – 12 January to 22 March 2024

Time: 9.30am to 12.30pm

Location: Compass Community Hub, Merthyr

Tydfil

Date: Fridays – 15 April to 1 July 2024

Time: 9.30am to 12.30pm

Location: Cynon Linc, Aberdare

MORE COURSES TO BE ANNOUNCED. PLEASE CHECK OUR WEBSITE AND SOCIALS FOR MORE DETAILS. www.reachingwider.ac.uk

HOW TO BOOK

E-mail: reachingwider@southwales.ac.uk

@YmestynEhangach

@reachingwiderSE

7
@ReachingWiderSE
Ymestyn yn Ehangach De Ddwyrain Cymru Reaching Wider SE Wales

If you are an adult learner needing help with an application or writing a personal statement, we can offer support with this too.

APPLYING TO UNIVERSITY AS AN ADULT

When applying to university as an adult learner you will be able to apply direct to the university, instead of going through UCAS. You will have to complete a personal statement and provide a reference. Universities also take into account your personal experiences, especially those which are related or transferable to the course you would like to study.

These include:

If you live in an area of disadvantage or an area with lower progression to Higher Education (POLAR 4 data). Your home postcode is important here.

If you are within the first generation of your immediate family (parents, step-parents, guardians) to apply for Higher Education.

If you have been in public care for three months or more.

The university will take all of these into account and may be able to consider making you a lower offer or even if you are waiting for a qualification.

8
Reaching Wider Adult Learning Programme | 2023-24

WHY REACHING WIDER?

As part of your course you will be part of group of adult learners with similar life experiences, within your own community. You will meet new friends through learning and discover the support and experience from our experienced tutors.

For our Higher Education Level 3 courses, we offer Study Skills support from specialists, plus information advice and guidance if you would like to apply for university in the future and want to know about student finance, how to apply to university or if you have additional learning needs.

As part of your enrolment on the majority of these courses you become an Associate Student with the University of South Wales which means you are able to get a university email address, IT support and membership of the university’s library; ideal for helping you pass the course.

LINKEDIN

Why not join our Reaching Wider LinkedIn Group? It’s a great way to find out more about university open days and news across each of our partners: the University of South Wales, Cardiff Metropolitan University and Cardiff University. There is also information on higher education as an adult learner, application tips and more.

Just search for Reaching Wider SE Wales / Ymestyn yn Ehangach De Ddwyrain Cymru on LinkedIn and join the group.

9

PARTNERSHIP

Reaching Wider is a partnership of universities, schools and colleges working together to improve social mobility by widening access to all forms of higher education. This national programme, funded by the Higher Education Funding Council for Wales (HEFCW), aims to increase higher education participation from under represented groups by raising educational aspirations and skills, and creating innovative study opportunities and learning pathways to higher education.

Reaching Wider Partnerships include all higher and further education institutions in Wales. We work with local authorities, employers, schools and third sector organisations to improve the education outcomes of our learners.

The South-East Wales Reaching Wider Partnership is a collaborative programme led by delivery teams at the University of South Wales, Cardiff Metropolitan University and Cardiff University. We meet the aims of Reaching Wider through a suite of programmes to support attainment raising, increase awareness and provide support for progression to higher education and level 4 learning opportunities. We are part of a continuum of support for learners in South East Wales and work in partnership to deliver the ‘right programmes at the right time’ to enhance progression pathways to Higher Education.

10
Reaching Wider Adult Learning Programme | 2023-24
11

THE RIGHT PROGRAMMES AT THE RIGHT TIME

reachingwider@southwales.ac.uk

www.reachingwider.ac.uk

@YmestynEhangach @reachingwiderSE

Ymestyn yn Ehangach De Ddwyrain Cymru Reaching Wider SE Wales

Reaching Wider is funded by the Higher Education Funding Council for Wales (HEFCW) and aims to increase higher education participation from under represented groups by raising educational aspirations and skills, and creating innovative study opportunities and learning pathways to higher education.

YMESTYN YN EHANGACH RHAGLEN ADDYSG OEDOLION 2023-24

EICH LLWYBR I BRIFYSGOL I OEDOLION YN

RHONDDA CYNON TAF A MERTHYR TUDFUL

Mae Ymestyn yn Ehangach yn bartneriaeth o brifysgolion, ysgolion a cholegau sy’n cydweithio i wella symudedd cymdeithasol drwy ehangu mynediad i bob math o addysg uwch.

Rhaglen Ymestyn yn Ehangach i Oedolion | 2023-24

CROESO!

Croeso i'r rhaglen Ymestyn yn Ehangach ar gyfer oedolion sy'n dysgu ym Merthyr Tudful a Rhondda Cynon Taf. Rydym yn falch iawn o gyflwyno ystod o gyrsiau sydd wedi'u cynllunio i'ch helpu i lwyddo a chael mynediad i addysg uwch, yn enwedig os ydych wedi cymryd diddordeb mawr mewn addysg yn ddiweddar!

Mae ein holl gyrsiau wedi'u cynllunio i fod yn hygyrch i ddysgwyr sy'n dymuno dychwelyd i ddysg. Rydym yn eu cynnig yn eich cymuned chi. Mae gennym ystod o diwtoriaid profiadol sy'n cyflwyno ein cyrsiau, ac yn bennaf oll, rydym yn cynnig cyngor, cefnogaeth ac arweiniad ar ein holl raglenni i'ch helpu i gynllunio ar gyfer y dyfodol.

Jamie Grundy

Swyddog Ymestyn yn Ehangach

2

Mae'r Rhaglen Addysg

Oedolion yn bodoli i godi

dyheadau addysgol

oedolion sydd heb unrhyw

gymwysterau lefel pedwar o ardaloedd MALlC40 ar

draws Rhondda Cynon Taf

a Merthyr Tudful. Mae'r rhaglen yn helpu datblygu

hyder a gwytnwch

dysgwyr i lywio heriau

bywyd prifysgol drwy fynd i'r afael â'r rhwystrau

canfyddedig i fynediad, cynnydd a llwyddiant mewn addysg uwch. Fe'i cynlluniwyd ar gyfer pobl o

ardaloedd lle mae

cyfraddau cyfranogiad prifysgolion yn isel.

Mae gan y rhaglen ddwy ran:

Mae Llwybrau yn gyfres o gyrsiau pwnc-benodol

achrededig a heb eu hachredu, wedi'u cyflwyno

mewn lleoliadau

cymunedol sy'n cynnig

cyfle i chi archwilio

gwahanol bynciau a llwybrau dilyniant yn y

maes sydd o ddiddordeb i chi. Mae Llwybrau yn eich helpu i ennill cymwysterau

perthnasol. Mae'r rhain yn

berffaith i'ch helpu i gynyddu eich

gwybodaeth, p'un a ydych am wella eich

gwybodaeth ar bwnc neu

efallai cael lle ar gwrs

gradd sylfaen neu israddedig.

Fy Nyfodol yw'r ystod o weithgareddau i'ch helpu i ddatblygu'r gallu i wneud dewisiadau pwysig a gwybodus i'ch helpu i ddatblygu'r sgiliau, yr wybodaeth a'r hyder i lwyddo o fewn addysg uwch. Mae Fy Nyfodol yn helpu i roi dealltwriaeth glir i chi o'r gwahanol lwybrau i astudio yn y brifysgol.

Mae'r rhain yn cynnwys mewnwelediad i fywyd prifysgol fel myfyriwr hŷn; gwybodaeth am y cymorth sydd ar gael yn y brifysgol a sut i gael mynediad iddo; ymweliadau campws i'ch helpu i gael blas ar y campws a dysgu yn y brifysgol.

I gael mynediad i unrhyw un o'n cyfleoedd dysgu

mae angen i chi fod yn

oedolyn sy'n dysgu o ardal gymwys yn Rhondda

Cynon Taf neu Ferthyr

Tudful. Sylwch mai dim ond lleoedd cyfyngedig sydd ar gael ar ein rhaglenni ac mae nifer yn cael eu cynnal ar y cyd â'n partneriaid. Os oes angen mwy o wybodaeth arnoch am hyn, cysylltwch â ni drwy reachingwider@ southwales.ac.uk

3

TAITH LLWYBRAU

Roeddwn wrth fy

modd yn gallu rhoi cynnig ar bethau

newydd, gyda phobl

newydd a chymryd rhan mewn rhywbeth newydd a diddorol.

DYSGWR

Roeddwn wrth fy

modd yn mynd i gampws y brifysgol a dod i gwrdd a

gweithio ochr yn ochr

â phobl sydd â diddordebau tebyg.

Roedd gallu dysgu a

phrofi dysg gan

weithwyr proffesiynol profiadol, y gefnogaeth a'r

arweiniad i ddysgu ac

ymarfer wedi bod yn

rhywbeth yr oeddwn yn ei edmygu a'i

fwynhau'n fawr.

DYSGWR

Roedd y tiwtor mor galonogol ac egnïol. Roedd yr amgylchedd yn wych a wnes i ddod i wybod cymaint.

DYSGWR

Athrawon

ANHYGOEL. Rwy'n gwerthfawrogi'r

cyngor a'r adborth gwych ganddynt. Nhw yw'r gorau!

DYSGWR

Roeddwn i'n ddechreuwr llwyr ac roeddwn yn teimlo'n gartrefol yn syth.

Rydw i'n bwriadu mynd â'r hyn rydw i wedi'i ddysgu yn ôl i'm

cymuned a rhoi cynnig ar ychydig mwy o ddysgu.

DYSGWR

Roeddwn i'n teimlo'n gyffrous iawn i ddysgu a helpu i gefnogi eraill mewn ffordd fwy buddiol. Mae yna gyfleoedd gwych ac mae'r cwrs wedi rhoi cyfle i mi ddatblygu'n broffesiynol. Wnaeth y lleoliad fy ngalluogi i estyn allan i ysgolion

lleol / meithrinfeydd ac ymarfer popeth roeddwn i wedi'i ddysgu. Mae gan Ymestyn yn Ehangach gysylltiadau â phrifysgol, a all ddarparu cymorth a chefnogaeth wrth wneud cais am brifysgol, os byddaf yn symud ymlaen i gwblhau fy ngradd meistr yn y dyfodol. Roeddwn i'n gyfforddus gyda'r gwersi wythnosol a wnes i ddod yn fwy hyderus oherwydd y profiad.

LEANNE

Dysgwr ar gwrs

Hyfforddiant Cynorthwyydd

Addysgu Lefel 3

4 Rhaglen Ymestyn yn Ehangach i Oedolion | 2023-24
5

RHAGLEN A CHALENDR Y CWRS

DIWYDIANNAU CREADIGOL

Disgrifiad: Mae'r cwrs hwn yn edrych ar yr ystod eang o ddiwydiannau creadigol yng Nghymru gan gyflwyno ffotograffiaeth, ffilm, celfyddydau perfformio a chynhyrchu perfformiadau, dawns, ysgrifennu ar gyfer y sgrîn, llenyddiaeth, celf, dylunio, darlunio, 3D, dylunio set, dylunio mewnol, ffasiwn, cynhyrchu perfformiad cerddoriaeth a thechnoleg, y cyfryngau a newyddiaduraeth. Mae'n cynnig cyflwyniad eang i ddysgu am a rhoi cynnig ar wahanol gelfyddydau creadigol sy'n arwain at lwybrau dilyniant i addysg uwch neu at weithio yn y diwydiannau creadigol.

Dyddiad: Dyddiau Llun

25 Medi hyd at 6 Rhagfyr

2023

Amser: 1yp tan 4yp

Lleoliad: Llyfrgell

Tonypandy

CYFLWYNIAD I WAITH IEUENCTID A CHYMUNEDOL

Mae'r cwrs achrededig Lefel 3 Addysg Uwch hwn yn eich helpu i gydnabod y rolau a'r sgiliau sydd eu hangen a chymhwyso'r egwyddorion sy'n sail i waith ieuenctid a chymunedol. Byddwch yn nodi ac yn asesu gwahanol gymunedau ac yn diffinio cysyniadau ieuenctid a phobl ifanc. Bydd dysgwyr sy'n pasio'r asesiad ar y modiwl hwn yn cael cynnig cyfweliad am le ar gwrs y Dystysgrif Sylfaen mewn Gwaith Ieuenctid a Chymunedol ym Mhrifysgol Metropolitan Caerdydd ac, yn dibynnu ar brofiad a chymwysterau, gallant symud ymlaen i'r llwybrau BA (Anrh) Gwaith Ieuenctid a Chymunedol neu PGDip.

Dyddiad: Dyddiau Llun

8 Ionawr hyd at 18 Mawrth

Amser: 1-4yp

Lleoliad: Hwb Cana, Penywaun.

6
Rhaglen Ymestyn yn Ehangach i Oedolion | 2023-24

HYFFORDDI FEL CYNORTHWYYDD ADDYSGU

Mae hwn yn fodiwl Lefel 3 Addysg Uwch annibynnol i gyflwyno rôl y Cynorthwyydd Addysgu o fewn lleoliad blynyddoedd cynnar/ysgol gynradd.

Byddwch yn archwilio rôl y Cynorthwyydd Addysgu

wrth gefnogi dysgwyr

ifanc mewn lleoliad

blynyddoedd cynnar/ysgol gynradd (lleoliadau gwladol a nad sy’n wladol).

Deall mwy am

egwyddorion sylfaenol

datblygiad plant a sut

mae plant yn dysgu. Deall

cydberthynas a

phwysigrwydd dysgu trwy chwarae. Byddwch hefyd yn dysgu am rôl y mae polisïau’r Llywodraeth, yr

amgylchedd dysgu, athro dosbarth a'r teulu

ehangach yn ei chwarae wrth gefnogi proses ddatblygu plentyn.

MAE POB CWRS YN CAEL

EU CYNNAL YN YSTOD Y TYMOR YSGOL GYDA

SEIBIANT AM HANNER TYMOR.

Mae yna dri chwrs i ddewis ohonynt:

Dyddiad: Dyddiau Gwener – 29 Medi hyd at 10 Rhagfyr 2023

Amser: 9.30yb tan 12.30yp

Lleoliad: YMa, Pontypridd

Dyddiad: Dyddiau Gwener – 12 Ionawr hyd at 22 Mawrth 2024

Amser: 9.30yb tan 12.30yp

Lleoliad: Canolfan

Gymunedol Cwmpawd, Merthyr Tudful

Dyddiad: Dyddiau Gwener – 15 Ebrill hyd at 1 Gorffennaf 2024

Amser: 9.30yb tan 12.30yp

MWY O GYRSIAU I'W CYHOEDDI. EWCH I’N GWEFAN A'N CYFRYNGAU CYMDEITHASOL AM RAGOR O FANYLION.

www.reachingwider.ac.uk

SUT I ARCHEBU @YmestynEhangach

E-bost: reachingwider@southwales.ac.uk

@reachingwiderSE

Lleoliad: Cynon Linc, Aberdâr @ReachingWiderSE

Ymestyn yn Ehangach De Ddwyrain Cymru

Reaching Wider SE Wales

7

Os ydych yn ddysgwr sy’n oedolyn sydd angen help gyda chais neu ysgrifennu datganiad personol, gallwn gynnig cymorth gyda hyn hefyd.

GWNEUD CAIS I BRIFYSGOL FEL OEDOLYN

Wrth wneud cais i brifysgol fel dysgwr sy'n oedolyn, byddwch yn gallu gwneud cais yn uniongyrchol i'r brifysgol, yn hytrach na mynd drwy UCAS.

Bydd rhaid i chi gwblhau datganiad personol a darparu geirda. Mae prifysgolion hefyd yn ystyried eich profiadau personol, yn enwedig y rhai sy'n gysylltiedig neu'n drosglwyddadwy i'r cwrs yr hoffech ei astudio.

Mae'r rhain yn cynnwys: Os ydych yn byw mewn ardal o anfantais neu ardal sydd â dilyniant is i Addysg Uwch (data POLAR4). Mae cod post eich cartref yn bwysig yma.

Os ydych chi o fewn cenhedlaeth gyntaf eich teulu agos (rhieni, llys-rieni, gwarcheidwaid) i wneud cais am Addysg Uwch.

Os ydych wedi bod mewn gofal cyhoeddus ers tri mis neu fwy.

Bydd y brifysgol yn ystyried y rhain i gyd ac efallai y byddant yn gallu ystyried gwneud cynnig is i chi neu hyd yn oed os ydych yn aros am gymhwyster.

8
Rhaglen Ymestyn yn Ehangach i Oedolion | 2023-24

PAM YMESTYN YN EHANGACH?

Fel rhan o'ch cwrs

byddwch yn rhan o grŵp o oedolion sy'n

dysgu gyda

phrofiadau bywyd

tebyg, o fewn eich

cymuned eich hun.

Byddwch yn cwrdd

â ffrindiau newydd

drwy ddysgu ac yn

dod o hyd i’r

gefnogaeth a'r

profiad gan ein

tiwtoriaid profiadol.

Ar gyfer ein cyrsiau Lefel 3 Addysg Uwch, rydym yn cynnig cymorth Sgiliau Astudio gan arbenigwyr. Rydym hefyd yn cynnig cyngor ac arweiniad gwybodaeth os hoffech wneud cais i brifysgol yn y dyfodol ac eisiau gwybod am gyllid myfyrwyr, sut i wneud cais i brifysgol neu os oes gennych anghenion dysgu ychwanegol.

Fel rhan o'ch cofrestriad ar gyfer y rhan fwyaf o'r cyrsiau hyn, byddwch yn dod yn Fyfyriwr Cyswllt gyda Phrifysgol De Cymru. Golyga hyn y gallwch gael cyfeiriad e-bost prifysgol, cymorth TG ac aelodaeth gyda llyfrgell y brifysgol; sy’n ddelfrydol i'ch helpu chi i basio'r cwrs.

LINKEDIN

Beth am ymuno

â'n Grŵp LinkedIn

Ymestyn yn Ehangach?

Mae'n ffordd wych o ddysgu mwy am ddiwrnodau agored a newyddion prifysgolion ar draws pob un o'n partneriaid: Prifysgol De Cymru, Prifysgol

Metropolitan Caerdydd a Phrifysgol Caerdydd.

Mae yna hefyd

wybodaeth am addysg

uwch fel dysgwr sy’n oedolyn, awgrymiadau ar gyfer ymgeisio a mwy. Y cyfan sydd

angen gwneud yw

chwilio am Reaching

Wider SE Wales /

Ymestyn yn Ehangach De Ddwyrain Cymru ar LinkedIn ac ymuno

â'r grŵp.

9

PARTNERIAETH

Mae Ymestyn yn

Ehangach yn bartneriaeth o brifysgolion, ysgolion a cholegau sy'n cydweithio i wella symudedd cymdeithasol trwy ehangu mynediad i bob math o addysg uwch.

Nod y rhaglen genedlaethol hon, a ariennir gan Gyngor Cyllido Addysg Uwch Cymru (CCAUC), yw cynyddu cyfranogiad addysg uwch gan grwpiau sydd heb gynrychiolaeth ddigonol drwy godi dyheadau a sgiliau addysgol, a chreu cyfleoedd astudio arloesol a llwybrau dysgu i addysg uwch.

Mae Partneriaethau

Ymestyn yn Ehangach yn cynnwys yr holl sefydliadau addysg uwch ac addysg bellach yng Nghymru.

Rydym yn gweithio gydag awdurdodau lleol, cyflogwyr, ysgolion a sefydliadau'r trydydd sector i wella deilliannau addysg ein dysgwyr.

Mae Partneriaeth

Ymestyn yn Ehangach

De-ddwyrain Cymru yn rhaglen gydweithrediadol a arweinir gan dimau

cyflawni ym Mhrifysgol De Cymru, Prifysgol

Metropolitan Caerdydd a Phrifysgol Caerdydd.

Rydym yn cyflawni nodau

Ymestyn yn Ehangach drwy gyfres o raglenni i gefnogi codi

cyrhaeddiad, cynyddu ymwybyddiaeth a darparu cefnogaeth ar gyfer dilyniant i addysg uwch a chyfleoedd dysgu lefel 4. Rydym yn rhan o gontinwwm o gymorth i ddysgwyr yn Neddwyrain Cymru ac yn gweithio mewn partneriaeth i ddarparu'r 'rhaglenni cywir ar yr amser cywir' i wella llwybrau dilyniant i Addysg Uwch.

10
Rhaglen Ymestyn yn Ehangach i Oedolion | 2023-24
11

Y RHAGLENNI CYWIR AR YR

AMSER CYWIR

reachingwider@southwales.ac.uk

www.reachingwider.ac.uk

@YmestynEhangach @reachingwiderSE

Ymestyn yn Ehangach De Ddwyrain Cymru Reaching Wider SE Wales

Mae Ymestyn yn Ehangach yn cael ei ariannu gan Gyngor Cyllido Addysg Uwch Cymru (CCAUC) a'i nod yw cynyddu cyfranogiad addysg uwch gan grwpiau sydd heb gynrychiolaeth ddigonol drwy godi dyheadau a sgiliau addysgol, a chreu cyfleoedd astudio arloesol a llwybrau dysgu i addysg uwch.

Issuu converts static files into: digital portfolios, online yearbooks, online catalogs, digital photo albums and more. Sign up and create your flipbook.