Is-ddeddf 16

Page 1

Passed GM - 220318

Cyfansoddiad Undeb Myfyrwyr Prifysgol Bangor: Rhan 2 – Isddeddfau Is-ddeddf 16 – Cyfleoedd Myfyrwyr Mae’r is-ddeddf hon yn eiddo i Fwrdd yr Ymddiriedolwyr a gellir ei diwygio gan Fwrdd yr Ymddiriedolwyr a Cyngor Myfyrwyr ynghyd â’u gweithdrefnau. Mae Cyfleoedd Myfyrwyr Undeb Bangor yn cynnwys Clybiau Chwaraeon Undeb Bangor a’r Undeb Athletau, Cymdeithasau Undeb Bangor ac Urdd y Cymdeithasau, Gwirfoddoli Myfyrwyr a Phrosiectau Gwirfoddoli, Clybiau a Chymdeithasau UMCB, Prosiectau Ehangu Mynediad a Chodi Arian gan Grwpiau Myfyrwyr. Strwythur Cyfleoedd Myfyrwyr Undeb Bangor Gweler Atodiad Cyfansoddiad Clybiau. Gweler Atodiad Cyfansoddiad Cymdeithasau. 10.1. Clybiau Chwaraeon, Cymdeithasau a Phrosiectau Gwirfoddoli Undeb Bangor. 10.1.1 Mae Clybiau, Cymdeithasau a Phrosiectau Gwirfoddoli sydd wedi’u cydnabod yn gysylltiedig ag Undeb Bangor ac felly disgwylir i’r aelodau ddilyn ei reolau a’i ddogfennau llywodraethu. Mae’n rhaid i geisiadau i ddechrau cyfle newydd i fyfyrwyr ddilyn Polisi Cadarnhad Cyfleoedd Myfyrwyr Undeb Bangor. 10.1.2 Undeb Bangor sy’n berchen ar unrhyw adnoddau ac offer y’u prynir gan Glwb, Gymdeithas neu Brosiect Gwirfoddoli. 10.1.3 Mae Is-lywydd yr UA ac Is-lywydd Cymdeithasau a Gwirfoddoli yn gyfrifol am ddarparu adnoddau cyffredinol a chyfleusterau i’r Clybiau, Cymdeithasau ac aelodau Gwirfoddoli. 10.1.4 Mae pob Clwb, Cymdeithas a Phrosiect Gwirfoddoli yn gysylltiad anghorfforedig, yng nghlwm gan gyfansoddiad neu gytundeb partneriaeth ac mae eu pwyllgorau gwaith yn gyfrifol am eu holl ddigwyddiadau. 10.1.3 Disgwylir i aelodau clybiau, cymdeithasau a phrosiectau gwirfoddoli ddilyn deddfwriaeth blaenorol gan gynnwys ond nid yn gyfyngedig i gyfraith elusennau priodol, cyfraith iechyd a diogelwch, cyfraith diogelu data ac unrhyw Bolisi Prifysgol Bangor neu Undeb Bangor priodol. 10.2. Cyfarfodydd Cyffredinol Clybiau, Cymdeithasau a Phrosiectau Gwirfoddoli. 10.2.1 Disgwylir i bob clwb, cymdeithas a phrosiect gwirfoddoli ddanfon o leiaf 2 gynrychiolydd i bob cyfarfod cyffredinol. Mae Cyfarfodydd Cyffredinol yn ddigwyddiadau pwysig sy’n galluogi trafodaethau a chyfathrebu gwybodaeth bwysig. Gall unrhyw glwb, gymdeithas neu brosiect

Bangor University Students’ Union (Undeb Bangor) Articles of Association: Bye-Laws

Page 1 of 15


Turn static files into dynamic content formats.

Create a flipbook
Issuu converts static files into: digital portfolios, online yearbooks, online catalogs, digital photo albums and more. Sign up and create your flipbook.