PASSED 13-12-19
Erthyglau Cymdeithasiad Undeb Myfyrwyr Prifysgol Bangor (Undeb Bangor): Is-Ddeddfau
Is-ddeddf 2 – Swyddogion Sabothol Mae’r is-ddeddf hon yn eiddo i Fwrdd yr Ymddiriedolwyr a gellir ei diwygio gan Fwrdd yr Ymddiriedolwyr a Cyngor Myfyrwyr gan ddilyn eu gweithdrefnau.
Swyddogion Sabothol / Ymddiriedolwyr Sabothol Undeb Bangor bydd: Swyddogion Traws-Gampws: Llywydd Is-Lywydd Addysg Is-Lywydd Chwaraeon Is-Lywydd Cymdeithasau a Gwirfoddoli Is-Lywydd Myfyrwyr Cymraeg / Llywydd UMCB Bydd Tymor Swyddfa’r Swyddogion Sabothol yn dechrau ar y 1af o Orffennaf ac yn parhau hyd at y 30ain o Fehefin bob blwyddyn. Caiff ‘Cytundeb Sabothol’ ei lunio a’i lofnodi gan bob Swyddog yn unigol cyn iddynt ddechrau yn eu rôl. Bydd y ‘Cytundeb Sabothol’ yn amlinellu lefelau a modd cydnabyddiaeth. Dim ond y Cyngor Myfyrwyr, Bwrdd Ymddiriedolwyr neu Cyfarfod Aelodau Myfyrwyr caiff newid Cydnabyddiaeth y Swyddogion Sabothol. Bydd y swydd ddisgrifiadau yma yn llywio gwaith y Swyddogion Sabothol / Ymddiriedolwyr Sabothol: Pob Swyddog Sabothol:
Yn Ymddiriedolwr i’r Undeb Myfyrwyr
Yn ‘major union office holder’ yn ôl diffiniad Deddf Addysg 1994
Yn aelod llawn sydd â phleidlais ar Bwyllgor Gwaith Undeb Bangor a Bwrdd Ymddiriedolwyr Undeb Bangor
Yn rhoi cymorth a chefnogaeth i ddigwyddiadau’r Wythnos Groeso, yn cynnwys ‘Fresher’s Fair’
Yn cefnogi gwaith swyddogion a staff yr Undeb. Efallai bydd yn rhaid gwneud hyn yn y nosweithiau a phenwythnosau, tu hwnt i oriau arferol
Hybu gwerthoedd yr Undeb ar bob achlysur
Yn gweithio er mwyn sicrhau bod eu gwaith nhw, a’r Undeb Myfyrwyr yn cael eu cyfathrebu’n gywir ac yn effeithiol i’r myfyrwyr
Disgwylir iddynt ddarparu erthyglau cyson i gyhoeddiadau’r Undeb, yn cynnwys y wefan
University Students’ Union (Undeb Bangor) Articles of Association: Bye-Laws
Page 1 of 5