Live Screening's Guide Oct - Feb

Page 1

Diary | Dyddiadur October | Hydref 2018 Tuesday | Mawrth 9 Tuesday | Mawrth 16

7.15pm 7.00pm

The Importance of Being Earnest King Lear (Encore)

November | Tachwedd 2018 Thursday | Iau 1 Tuesday | Mawrth 20

7.00pm 7.00pm

Allelujah! (Encore) The Madness of George III

Brycheiniog.co.uk | 01874 611622

December | Rhagfyr 2018 Monday | Llun 3 Thursday | Iau 6

7.15pm 7.00pm

The Nutcracker Antony and Cleopatra

6.45pm 7.00pm

La Traviata I’m Not Running

January | Ionawr 2019 Wednesday | Mercher 30 Thursday | Iau 31

February | Chwefror 2019 7.15pm

Don Quixote

Booking information

Gwybodaeth archebu

How to book

Sut i arcebu

Refunds & exchanges

Ad-dalu a chyfnewid

Theatr Brycheiniog is open Monday – Sunday from 10.00am to 6.00pm (later on a performance night). Online brycheiniog.co.uk Telephone 01874 611622 (card only) In person pop in and see us and pay by cash, card, or with theatre tokens. Tickets may not be refunded unless an event is cancelled. Tickets may be exchanged for another show for a charge of £2.00 per ticket. Please note there is a 50p per ticket admin fee on all tickets.

Mae Theatr Brycheiniog ar agor Llun – Sul rhwng 10.00am a 6.00pm (yn hwyrach ar nosweithiau pan gynhelir perfformiadau). Ar lein brycheiniog.co.uk Dros y ffôn 01874 611622 (cerdyn yn unig) Yn y fan a’r lle galwch i mewn i’n gweld a gallwch dalu ag arian parod neu gerdyn. Ni allwn ad-dalu unrhyw arian oni bydd y perfformiad yn cael ei ganslo. Gellir cyfnewid tocynnau am rai ar gyfer sioe arall am bris o £2.00 y tocyn. Nodwch os gwelwch yn dda y codir ffi archebu o 50c am bob docyn.

Theatr Brycheiniog, Canal Wharf, Brecon | Aberhonddu, LD3 7EW

01874 611622 www.brycheiniog.co.uk @brycheiniog

TheatrB

Charity Number | Rhif Elusen: 1005327

@TheatrBrycheiniog

Design | Dylunio: Nelmes Design

Tuesday | Mawrth 19

Live Screenings Guide | Canllaw Sgrinio Byw Oct | Hyd 2018—Feb | Chwe 2019 Image | Delwedd: King Lear


Live Screenings 2018—2019

Sgrinio Byw 2018—2019

Welcome to Theatr Brycheiniog’s Live Screenings Guide!

Croeso i Ganllaw Sgrinio Byw Theatr Brycheiniog!

We are delighted that Autumn 2018 marks the launch of Live Screenings here in Theatr Brycheiniog, and indeed Brecon. All screenings will be broadcast into our auditorium using brand new state of the art cinema equipment; we hope you can join us as we host a fantastic programme of titles from The Royal Opera House, Royal Ballet and of course National Theatre Live.

Our Waterfront will be open and serving a brand new menu of delicious pre-show light bites, please do book a table in advance to avoid any disappointment by calling Box Office on 01874 611622. Don’t forget you can also order those interval drinks from the Waterfront Bar, resulting in less time queuing and more time to relax with a cold glass of fizz. Do join us over the next few months and experience the magic of Covent Garden in the heart of the Brecon Beacons!

Rydym ni wrth ein bodd fod yr hydref 2018 yn nodi dechrau Sgrinio Byw yma yn Theatr Brycheiniog, ac, yn wir, yn Aberhonddu. Bydd pob sgriniad yn cael eu darlledu i’n hawditoriwm gan ddefnyddio offer sinema newydd sbon; gobeithio y gallwch ymuno â ni wrth i ni gynnal rhaglen ragorol o deitlau o’r Tŷ Opera Cenedlaethol, Bale Cenedlaethol ac, wrth gwrs, National Theatre Live.

Bydd ein Waterfront ar agor ac yn gweini bwydlen newydd sbon o ddanteithion ysgafn cyn y sioeau, byddai’n syniad archebu bwrdd ymlaen llaw er mwyn osgoi cael eich siomi, drwy ffonio’r Swyddfa Docynnau ar 01874 611622. Peidiwch ag anghofio y gallwch archebu diodydd ar gyfer yr egwyl o’r Bar Glandŵr, gan arwain at lai o amser mewn ciw, a mwy o gyfle i ymlacio gyda gwydraid oer o ddiod befriog. Ymunwch â ni dros y misoedd nesaf i brofi hudoliaeth Covent Garden yng nghanol Bannau Brycheiniog!


October | Hydref 2018

November | Tachwedd 2018

December | Rhagfyr 2018

January | Ionawr 2019

Oscar Wilde Season Live

National Theatre Live

The Royal Ballet

The Royal Opera

Thu 1 Nov | Iau 1 Tach. 7.00pm £17.50 | £15

Mon 3 Dec | Llun 3 Rhag. 7.15pm 150m Approx | Tua 150m £15 | £12.50

Wed 30 Jan | Mer 30 Ion, 6.45pm 215m Approx | Tua 215m £12.50 | £15

The Importance of Being Earnest

Tue 9 Oct | Maw 9 Hyd. 7.15pm 165m Approx | Tua 165m 12A Cert £15 | £12.50

A new production of one of the funniest English plays, Oscar Wilde’s The Importance of Being Earnest, will be broadcast live to cinemas from the Vaudeville Theatre in London’s West End. Wilde’s witty masterpiece throws love, logic and language into the air to make one of theatre’s most dazzling firework displays. Jack, Algy, Gwendolyn and Cecily discover how un smooth runs the course of true love, while Lady Bracknell keeps a baleful eye on the mayhem of manners. Cynhyrchiad newydd o un o’r dramâu Saesneg mwyaf doniol, bydd The Importance of Being Earnest gan Oscar Wilde yn cael ei darlledu’n fyw i sinemâu o Theatr Vaudeville yn West End Llundain. Mae campwaith ffraeth Wilde yn taflu serch, rheswm ac iaith yn y pair er mwyn creu un o sioeau tân gwyllt mwyaf syfrdanol y theatr. Mae Jack, Algy, Gwendolyn a Cecily’n darganfod mor anwastad yw llwybr cariad pur, tra bo’r Fonesig Bracknell yn cadw llygad anfad dros y gybolfa foesau. National Theatre Live

King Lear (Encore)

Tue 16 Oct | Maw 16 Hyd. 7.00pm. 12A Cert £17.50 | £15

Broadcast live from London’s West End, see Ian McKellen’s ‘extraordinarily moving portrayal’ (Independent) of William Shakespeare’s King Lear directed by Jonathan Munby. Considered by many to be the greatest tragedy ever written, King Lear sees two ageing fathers – one a King, one his courtier – reject the children who truly love them. Their blindness unleashes a tornado of pitiless ambition and treachery, as family and state are plunged into a violent power struggle with bitter ends. Dewch i wylio perfformiad hynod gynhyrfus Ian McKellen o Frenin Llŷr William Shakespeare, dan gyfarwyddyd Jonathan Munby, yn cael ei ddarlledu’n fyw o West End Llundain. Ystyrir mai King Lear yw’r drasiedi fwyaf i’w chyfansoddi erioed, ac yn y ddrama gwelir dau dad oedrannus – un yn frenin, un yn ŵr y llys – yn gwrthod y plant sydd wir yn eu caru. Mae’r dallineb hwn yn tanio corwynt o uchelgais a brad didostur, wrth i deulu a gwladwriaeth ddioddef brwydr dreisgar am rym, sy’n arwain at ddiweddglo chwerw ofnadwy.

Clockwise from top left: The Nutcracker, Antony and Cleopatra, La Traviata, Allelujah!, The Madness of George III, Don Quixote, I’m Not Running

Allelujah! (Encore)

Alan Bennett’s sharp and hilarious new play is filmed live at London’s Bridge Theatre during its limited run. The Beth, an old fashioned cradle-to-grave hospital serving a town on the edge of the Pennines, is threatened with closure as part of an efficiency drive. A documentary crew, eager to capture its fight for survival, follows the daily struggle to find beds on the Dusty Springfield Geriatric Ward, and the triumphs of the old people’s choir. Ffilmir drama graff a doniol newydd Alan Bennett yn fyw yn Theatr Bridge Llundain yn ystod cyfres gyfyngedig o berfformiadau. Mae’r Beth, ysbyty henffasiwn o’r crud i’r bedd, sy’n gwasanaethu tref ar gyrion y Pennines, dan fygythiad o gael ei gau fel rhan o ymgyrch effeithlonrwydd. Dilynir yr ymdrech feunyddiol i ddod o hyd i welyau ar Ward Henoed Dusty Springfield gan griw dogfen, sy’n awyddus i ddal y frwydr i oroesi, gan gynnwys buddugoliaethau’r côr pensiynwyr. National Theatre Live

The Madness of George III Tue 20 Nov | Maw 20 Tach. 7.00pm £17.50 | £15

Multi-award-winning drama The Madness of George III will be broadcast live to cinemas, in National Theatre Live’s first ever broadcast from Nottingham Playhouse. Written by Alan Bennett, this epic play features Olivier Award-winners Mark Gatiss (Sherlock, Wolf Hall), and Adrian Scarborough (Gavin and Stacey, Upstairs Downstairs). It’s 1786 and King George III is the most powerful man in the world. But his behaviour is becoming increasingly erratic as he succumbs to fits of lunacy. With the King’s mind unravelling at a dramatic pace, ambitious politicians and the scheming Prince of Wales threaten to undermine the power of the Crown, and expose the fine line between a King and a man. Darlledir y ddrama aml-wobr The Madness of George III yn fyw i sinemâu, yn y darllediad byw cyntaf gan National Theatre Live o’r Nottingham Playhouse. Mae’r cynhyrchiad, a gyfansoddwyd gan Alan Bennett, yn cynnwys yr enillwyr gwobrau Olivier Mark Gatiss (Sherlock, Wolf Hall), ac Adrian Scarborough (Gavin and Stacey, Upstairs Downstairs). Mae hi’n 1786 a’r Brenin Siôr III yw’r dyn mwyaf grymus yn y byd. Ond mae’i ymddygiad yn dod yn fwyfwy anwadal wrth iddo ddioddef pyliau o wallgofrwydd. Wrth i feddwl y Brenin ymddatod ar gyflymder brawychus, mae gwleidyddion uchelgeisiol a Thywysog Cymru cynllwyngar yn bygwth tanseilio grym y Goron, a datgelu’r llinell denau sy’n bodoli rhwng bod yn Frenin a bod yn ddyn.

The Nutcracker

The Nutcracker has long been one of the most delightful ways to discover the enchantment of ballet, and makes for a delicious seasonal treat for all the family. Tchaikovsky’s much-loved music is matched to a magical adventure on Christmas Eve for Clara and her Nutcracker doll. Their journey to the Land of Sweets brings with it some of the most familiar of all ballet moments, such as the Dance of the Sugar Plum Fairy and the Waltz of the Flowers. Choreography: Peter Wright after Lev Ivanov. Music: Pyotr Il’yich Tchaikovsky Mae The Nutcracker wedi bod yn un o’r ffyrdd mwyaf swynol i ddarganfod hudoliaeth bale ers tro byd, ac mae’n arbennig o hyfryd yr adeg hon o’r flwyddyn. Cydosodir cerddoriaeth fendigedig Tchaikovsky ag antur hudol ar Noswyl Nadolig i Clara a’i doli Nutcracker. Yn sgil y daith i Wlad y Losin, ceir rhai o’r eiliadau enwocaf oll o fyd y bale, fel Dawns y Sugar Plum Fairy a Waltz y Blodau. Coreograffi: Peter Wright yn arddull Lev Ivanov. Cerddoriaeth: Pyotr Il’yich Tchaikovsky National Theatre Live

Antony and Cleopatra Thu 6 Dec | Iau 6 Rhag. 7.00pm £17.50 | £15

Broadcast live from the National Theatre, Ralph Fiennes and Sophie Okonedo play Shakespeare’s famous fated couple in his great tragedy of politics, passion and power. Caesar and his assassins are dead. General Mark Antony now rules alongside his fellow defenders of Rome. But at the fringes of a war-torn empire the Egyptian Queen Cleopatra and Mark Antony have fallen fiercely in love. In a tragic fight between devotion and duty, obsession becomes a catalyst for war. Mewn darllediad byw o’r National Theatre, mae Ralph Fiennes a Sophie Okonedo’n chwarae pâr tynghedus enwog Shakespeare yn ei drasiedi fawr am wleidyddiaeth, nwyd a grym. Mae Cesar a’i lofruddion yn farw. Y Cadfridog Mark Antony sydd bellach yn teyrnasu ochr yn ochr â’i gydamddiffynwyr Rhufeinig. Ond ar gyrion ymerodraeth a ddrylliwyd gan ryfel, mae’r Frenhines Eifftaidd Cleopatra a Mark Antony wedi cwympo ben a chlustiau mewn cariad. Mewn brwydr drasig rhwng teyrngarwch a dyletswydd, daw obsesiwn yn sbarc i danio rhyfel.

La Traviata

From the thrill of unexpected romance to a heartbreaking reconciliation that comes too late, Verdi’s La Traviata is one of the most popular of all operas. Alfredo falls in love in with the courtesan Violetta in glamorous Paris society, but underneath the surface run darker undercurrents, leading to a tragic ending. Music: Giuseppe Verdi. Conductor: Antonello Manacorda. Director: Richard Eyre Sung in Italian with English subtitles O wefr y garwriaeth annisgwyl i gymodi torcalonnus sy’n digwydd yn rhy hwyr, La Traviata gan Verdi yw un o’r mwyaf poblogaidd o blith yr holl operâu. Mae Alfredo’n cwympo mewn cariad â Violetta, putain y llys yng nghymdeithas gyfareddol Paris, ond o dan yr wyneb ceir tynfa dywyllach, gan arwain at ddiweddglo trasig. Cerddoriaeth: Giuseppe Verdi Arweinydd: Antonello Manacorda Cyfarwyddwr: Richard Eyre National Theatre Live

I’m Not Running

Thu 31 Jan | Iau 31 Ion. 7.00pm £17.50 | £15

I’m Not Running is an explosive new play by David Hare, premiering at the National Theatre. Pauline Gibson has spent her life as a doctor, the inspiring leader of a local health campaign. When she crosses paths with her old boyfriend, a stalwart loyalist in Labour Party politics, she’s faced with an agonising decision. What’s involved in sacrificing your private life and your piece of mind for something more than a single issue? Does she dare? Mae I’m Not Running yn ddrama ffrwydrol newydd gan David Hare, yn cael y dangosiad cyntaf yn y National Theatre. Treuliodd Pauline Gibson ei bywyd fel doctor, arweinydd ysbrydoledig ymgyrch iechyd leol. Pan fydd ei llwybrau’n croesi â hen gariad, un o hoelion wyth gwleidyddiaeth y Blaid Lafur, wynebir Pauline â phenderfyniad anodd iawn. Beth yw oblygiadau aberthu eich bywyd preifat a’ch tawelwch meddwl am rywbeth mwy nag un pwnc ymgyrchu? A yw hi’n meiddio gwneud?

February | Chwefror 2019 The Royal Ballet

Don Quixote

Tue 19 Feb | Maw 19 Chwef. 7.15pm. 165 m Approx | Tua 165m £15 | £12.50

This is a sparkling ballet about the encounters of the man from La Mancha and his faithful squire Sancho Panza. At its heart are virtuoso roles for the lovers Basilio and Kitri. The story follows Don Quixote’s picaresque journey to do deeds in honour of his imaginary noble lady, Dulcinea. Sunny, charming, funny and touching – Don Quixote is a ballet as full of uplifting emotion as it is of astonishing ballet technique. Choreography: Carlos Acosta after Marius Petipa. Music: Ludwig Minkus Dyma fale syfrdanol am gyfarfyddiad y gŵr o La Mancha a’i sgweier ffyddlon Sancho Panza. Yn greiddiol iddo ceir rolau penigamp y cariadon Basilio a Kitri. Mae’r stori’n dilyn taith bicaresg Don Quixote i gyflawni gweithredoedd yn enw’i foneddiges ddychmygol, Dulcinea. Hwyliog, apelgar, doniol a deniadol – mae Don Quixote yn fale sydd yr un mor llawn o deimladau dyrchafol ag ydyw o dechneg bale ryfeddol. Coreograffi: Carlos Acosta yn arddull Marius Petipa. Cerddoriaeth: Ludwig Minkus

Coming soon | Yn dod cyn bo hir April | Ebrill

La Forza del Destino (The Royal Opera)

April | Ebrill

Faust (The Royal Opera)

May | Mai

Mixed Triple Bill (The Royal Ballet)

June | Mehefin

Romeo & Juliet (The Royal Ballet)


Issuu converts static files into: digital portfolios, online yearbooks, online catalogs, digital photo albums and more. Sign up and create your flipbook.