Tenovus Cancer Care - Counselling service - Welcome pack BILINGUAL

Page 1

Welcome to our

Counselling service

Kindly supported by


Welcome to the Tenovus Cancer Care

Counselling service What it’s all about

A cancer diagnosis can cause a wide range of feelings and emotions that you may need support with. Talking to a counsellor may help you adjust to what it means to live with cancer. Anxiety levels are very often increased, emotions such as anger and denial, worry and isolation can be difficult and confusing. Our trained *BACP registered counsellors are highly experienced in helping people with cancer and the many emotions it may cause. The Tenovus Cancer Care Counselling service is available to help you explore your feelings and worries about your cancer diagnosis, give you the time and confidential space to express your thoughts and explore ways to help you during this difficult time.

What can counselling do for me? The Tenovus Counselling service is here to support you with what matters most to you. A cancer diagnosis can be life changing and sometimes it can be difficult to talk to family and friends about it for many different reasons. Talking to a counsellor can offer the safe space for you to connect with your feelings and think not just about the support you need, but about the support you would like.

Worries about counselling Sometimes people worry that talking to a counsellor is a sign of weakness, or of not being able to cope with things, but it takes a lot of courage to talk to someone you don’t know about your inner thoughts. The pressure of a cancer diagnosis can be overwhelming and being able to let go of your feelings is an important part in this.

Family and friends You may have people around you for support, but sometimes it’s not easy talking to the people that are closest to you about how you are feeling, and this is ok. A trained counsellor offers you space to explore your thoughts and may help you process and understand them, sometimes it can be easier to open up to someone outside of family and friends. *The British Association for Counselling and Psychotherapy is the professional association for members of the counselling professions in the UK. www.bacp.org.uk


What comes next? 1 Referral This is when your details are passed to us by a healthcare professional, and you will be assigned a Tenovus Cancer Care counsellor.

2 Initial conversation This is a call with your counsellor, we call this ‘Triage’. This simply means the counsellor will ask you a few questions to gain a better understanding of what is going on for you, and to see what support would work best for you. The counsellor will explain what confidentiality will mean in the sessions and how they will run. This session will be 30 minutes long. During this time you and the counsellor may decide to go ahead with counselling and begin. Or you may decide that counselling is not the right thing for you at this time.

3 Next steps If counselling is the right option, a session will be booked for the following week. If counselling is not the right option, the counsellor will explore other services that could be useful for you at this time. You may wish to re-visit counselling at a later date.


What you can expect from us We listen

We explore

We support

We’ll provide a safe space for you to talk about the things that are worrying you or causing upset.

We will encourage you to think about what your diagnosis means for you.

We will create a safe and supportive environment.

We will try to understand how you are feeling, so that we can guide you through your journey. We’ll listen, never judge, and do our best to answer any questions you may have.

We’ll explore how this is impacting on you. We’ll explore your fears and anxieties.

We will not put any pressure on you to talk about things you are not ready to talk about.

We will also explore different options for support.

What we need from you You will need a private space where you feel comfortable, and is free from noise and interruptions, so we can focus on your needs Be ready to attend every session. If you do have to cancel, it is important that you tell us in advance. Please turn up to your session on time, as this will impact on how long you have with your counsellor Come with an open mind and willingness to engage with your counsellor Honesty


FAQs How much does it cost? There is no financial cost to you for the Tenovus Cancer Care Counselling service.

When will the sessions take place, and how often? You will have six sessions of one hour, which will take place weekly at a time arranged with you and the counsellor.

Where will the sessions take place The sessions will take place over Microsoft Teams via the internet. If you do not have access to the internet, we can arrange to call you on the phone.

What if I don’t know what to say Our counsellors are highly skilled in helping people to express how they are feeling. We understand that sometimes it can be hard to find the words to say what you want to say, but we will never put any pressure on you to talk about things you are not ready to talk about. We will go at your pace and support you along the way.

What happens if I can’t attend one week? We know that things can come up at short notice, and we ask that you let us know as soon as you can if you are unable to attend. We will do our best to arrange another session time, but this cannot be guaranteed.

What happens after the six sessions finish? During your sessions, you may want to explore with your counsellor other support services on offer for you, and the counsellor can help you with this.

What If it’s not right for me Sometimes counselling may not seem like the right option for you after a few sessions and this is ok. If you don’t feel ready or unsure about continuing, you can talk this through with your counsellor.

What does confidentiality mean Confidentiality means keeping what is said in the session between you and the counsellor. Nobody else will know what has been talked about. This is what we mean when we say we want to create a safe space for you to talk about the things that matter most to you. There are some instances when information would be passed on but this would be clearly explained to you and nothing would be shared without your consent.

How do I protect my privacy Your contact details will be kept in a secure IT system and only staff within the Support Team will be able to access these.


I’m so worried about my appearance, I don’t want to lose my hair.

I feel so angry and so helpless.

I’m just so tired of having cancer.

My relationship isn’t the same anymore.

I feel like my family think I can’t cope. I’m finding it hard to enjoy everyday things, like being with family and friends.

I don’t know how to tell my children!

My counsellor was very patient, and didn’t make me feel like I needed to have all the answers.

It was hard to talk at first, but I’m so glad I did. It’s been nice just to have time to talk about me!

I’m worried about losing my job, my employer is not very supportive.


More ways to support you The Counselling service is part of a holistic team of support on offer for people affected by cancer. We’re here with information, advice, practical and emotional support so that you can take back some control of your life and live well with cancer

Benefits Advice We understand that cancer can lead to unexpected costs and money worries. You may earn less because you need to work fewer hours and then find that you’re spending more on heating and travelling to hospital. We’re here to help and our advisors can guide you through the benefits and grants that you might be entitled to.

Support Line If you or someone you love has been affected by cancer, our free cancer Support Line is here for you. It’s for anyone affected by cancer and our experienced nurses can offer advice on diagnosis, treatment, side-effects, and anything else that’s on your mind.

Tele-friends service We know being affected by cancer can be difficult and you may be feeling alone and isolated. We’re here to support you so that you can talk about the things that matter to you One of our trained volunteers, could be matched with you, for a weekly phone call. Our paired Tele-friends enjoy talking about how their week has been or their interests. Our volunteers can also talk to you about the support we can offer you at Tenovus Cancer Care.

Sing with Us Our Sing with Us choirs are for anyone affected by cancer. They’re fun, friendly and a great source of support. It’s a wonderful way to lift your spirits, reduce anxiety and be part of something special. The best bit is, everybody can sing – even if you don’t think you can! We have choirs across the country and new people are joining us all the time. To find your nearest choir visit our website.

For more information call us or visit

tenovuscancercareorg.uk

Our Support line is open 9am-5pm Monday to Friday, 10am-1pm weekends and bank holidays. At all other times, leave a message and we will call you back.


Supporting Tenovus Cancer Care Our volunteers, supporters and fundraisers are at the heart of everything we do. It’s because of them that we can continue to support thousands of people every year, when and where it is needed most. There are many ways people can get involved and support the charity.

Fundraising Fundraising is a wonderful way to give back while also having some fun! There are plenty of ways people can support us, from doing a bake sale or taking on a challenge event, to joining one of our Friends of Tenovus Cancer Care groups, who put on local fundraising events across Wales. Or simply by playing the weekly ‘make a smile’ lottery. There’s something for everyone! To find out more visit tenovuscancercare.org.uk/fundraising contact our friendly fundraising team on 029 2076 8850 or email fundraising@tenovuscancercare.org.uk

Our shops Help us support people and their loved ones to live well with cancer, just by visiting one of our shops. Some people pop in for a bargain; others drop in with donations. Either way, you’ll be helping people affected by cancer in your community. To find your local Tenovus Cancer Care shop visit tenovuscancercare.org.uk/support-us/shop

Volunteering We have a wide variety of volunteer roles and opportunities and you can give as much or as little time as you like. Whatever your interests or skills, there’s a way to get involved. From volunteering in one of our shops, to joining a local Friends of Tenovus Cancer Care group. Or maybe helping out at a local event, or becoming a Tele-friends volunteer, there are so many ways you can make a difference. To find out more and get involved visit tenovuscancercare.org.uk/volunteer

facebook.com/tenovuscancercare @tenovuscancer @tenovuscancer

Reg Charity No. 1054015


Croeso i’n

gwasanaeth Cwnsela

Cefnogwyd gan


Croeso i wasanaeth Gofal Canser Tenovus

Cwnsela

Beth yw’r gwasanaeth? Gall diagnosis o ganser achosi amrywiaeth o deimladau ac emosiynau. Ac efallai bydd angen cymorth arnoch chi i ddelio â nhw. Gall siarad â chwnselydd eich helpu i addasu i fywyd gyda chanser. Mae lefel eich pryder yn fwy tebygol o gynyddu, a gall emosiynau fel dicter, gwad ac unigrwydd fod yn anodd a dryslud. Mae ein cwnselwyr profiadol, sydd wedi’u cofrestru â Chymdeithas Cwnsela a Seicotherapi Prydain (BACP*) ar gael i helpu pobl â chanser â’r emosiynau y gall eu hachosi. Mae Gwasanaeth Cwnsela Gofal Canser Tenovus ar gael i’ch helpu archwilio eich teimladau a phryderon ynghylch diagnosis canser, gan gynnig amser a rhywle cyfrinachol i chi allu mynegi eich teimladau ac archwilio dulliau i’ch helpu yn ystod y cyfnod anodd hwn.

Sut gall cwnsela fy helpu? Mae Gwasanaeth Cwnsela Tenovus ar gael i’ch cefnogi gyda’r hyn sy’n bwysig i chi. Gall diagnosis o ganser newid eich bywyd ac weithiau gall fod yn anodd siarad â’ch teulu neu ffrindiau amdano am nifer o resymau. Gall siarad â chwnselydd gynnig ymdeimlad o ddiogelwch i chi wrth drafod eich teimladau ac ystyried pa gymorth sydd ei angen a’i eisiau arnoch chi.

Pryderon ynghylch cwnsela Weithiau mae pobl yn poeni bod siarad â chwnselydd yn arwydd o wendid, neu anallu i ymdopi. Ond, mae siarad am eich teimladau gyda rhywun dydych chi ddim yn ei nabod yn weithred hynod ddewr. Gall y pwysau sy’n deillio o ddiagnosis canser fod yn llethol ac mae’r gallu i ryddhau eich teimladau yn rhan bwysig o’r broses.

Teulu a ffrindiau Efallai bod gennych bobl o’ch cwmpas i’ch cefnogi, ond weithiau mae’n anodd siarad am eich teimladau â’r bobl sydd agosaf i chi . Ac mae hynny’n iawn. Mae cwnselydd hyfforddedig yn cynnig cyfle i chi archwilio eich meddyliau, a’ch helpu i’w prosesu a’u deall. Weithiau mae’n haws siarad yn agored â rhywun y tu allan i’ch teulu a ffrindiau. *Cymdeithas Cwnsela a Seicotherapi Prydain yw’r gymdeithas broffesiynol ar gyfer proffesiynau cwnsela yn y DU www.bacp.org.uk


Beth nesaf? 1 Atgyfeiriad Dyma lle bydd eich manylion yn cael eu rhannu gyda ni gan weithiwr gofal iechyd proffesiynol a byddwn ni’n neilltuo cwnselydd Gofal Caner Tenovus i chi.

2 Sgwrs gychwynnol Galwad ffôn gyda’ch cwnselydd. Gelwir hyn yn ‘Triage’. Mae hyn yn golygu y bydd eich cwnselydd yn gofyn ychydig o gwestiynau i chi er mwyn gwella ei ddealltwriaeth o’r hyn sy’n eich effeithio er mwyn archwilio pa gymorth sydd orau i chi. Bydd y cwnselydd yn esbonio beth yw ystyr cyfrinachedd yng nghyd-destun y sesiwn a sut bydd y sesiynau yn mynd rhagddo. Bydd y sesiwn yn para 30 munud. Yn ystod y sesiwn, mae’n bosib y byddwch chi a’ch cwnselydd yn penderfynu dechrau’r broses cwnsela. Neu efallai y byddwch chi’n penderfynu nad yw cwnsela’n addas i chi ar hyn o bryd.

3 Camau nesaf Os ydy cwnsela yn ddewis addas ar eich cyfer, bydd sesiwn yn cael ei threfnu ar gyfer yr wythnos ganlynol. Os nad yw cwnsela yn ddewis addas, bydd y cwnselydd yn archwilio gwasanaethau eraill a allai fod yn fanteisiol i chi. Mae’n bosib y byddwch chi eisiau ail-ystyried cwnsela ar adeg wahanol.


Beth i’w ddisgwyl gennym ni Rydyn ni’gwrando

Rydyn ni’n archwilio

Rydyn ni’n cefnogi

Byddwn ni’n cynnig rhywle diogel i chi allu siarad am y pethau sy’n eich poeni.

Byddwn ni’n eich annog i feddwl am beth mae eich diagnosis yn ei olygu i chi.

Byddwn ni’n creu amgylchedd diogel a chefnogol.

Byddwn ni’n ymdrechu i ddeall sut rydych chi’n teimlo er mwyn eich arwain chi drwy’r broses.

Byddwn ni’n archwilio sut mae hyn yn effeithio arnoch chi.

Fyddwn ni ddim yn rhoi pwysau arnoch chi i drafod pethau nad ydych chi’n barod i’w trafod.

Byddwn ni’n gwrando, byth yn beirniadu, ac yn gwneud ein gorau i ateb unrhyw gwestiynau sydd gennych chi.

Byddwn ni’n archwilio eich ofnau a phryderon. Byddwn ni hefyd yn archwilio opsiynau cymorth gwahanol.

Beth rydyn ni ei angen gennych chi Bydd angen i chi neilltuo lle preifat ar gyfer y sesiynau lle rydych chi’n teimlo’n gyfforddus, heb sŵn nac ymyriadau, er mwyn i ni allu canolbwyntio ar eich anghenion. Byddwch yn barod i fynychu pob sesiwn. Os oes rhaid i chi ganslo, mae’n bwysig eich bod chi’n rhoi gwybod i ni ymlaen llaw. Dewch i’ch sesiwn yn brydlon, oherwydd bydd hyn yn effeithio ar ba mor hir rydych chi’n ei dreulio gyda’ch cwnselydd. Dewch â meddwl agored a pharodrwydd i ymgysylltu â’ch cwnselydd. Gonestrwydd.


Cwestiynau Faint mae’n costio? Nid oes cost ariannol i chi ddefnyddio gwasanaeth Cwnsela Gofal Canser Tenovus.

Pryd fydd y sesiwn nesaf, a pha mor aml? Byddwch chi’n mynychu chwe sesiwn un awr o hyd a fydd yn cael eu cynnal bob wythnos ar amser sydd wedi’i drefnu gyda’ch cwnselydd.

Ble bydd y sesiynau yn cael eu cynnal ? Bydd y sesiynau yn cael eu cynnal dros y we drwy Microsoft Teams. Os nad oes gennych ddefnydd o’r we, gallwn ni eich ffonio.

Beth os dydw i ddim yn gwybod beth i’w ddweud? Mae ein cwnselwyr yn fedrus iawn wrth helpu pobl i fynegi sut maen nhw’n teimlo. Rydyn ni’n deall y gall fod yn anodd dod o hyd i’r geiriau addas i fynegi eich hun, ond fyddwn ni byth yn rhoi unrhyw bwysau arnoch i siarad am bethau nad ydych yn barod i siarad amdanynt. Byddwn yn gweithredu ar gyflymder sy’n gyfforddus i chi ac yn eich cefnogi pob cam o’r ffordd.

Beth os nad ydw i’n gallu dod i sesiwn? Rydyn ni’n gwybod y gall pethau ddigwydd funud olaf, felly gofynnwn eich bod chi’n rhoi gwybod i ni os nad ydych chi’n gallu dod cyn gynted ag y bod chi’n gwybod. Byddwn ni’n gwneud ein gorau i drefnu sesiwn ar adeg wahanol, ond ni allwn sicrhau hyn.

Beth sy’n digwydd ar ôl i’r chwe sesiwn orffen? Yn ystod eich sesiynau, efallai yr hoffech drafod y gwasanaethau cymorth eraill sydd ar gael i chi. Gall y cwnselydd eich helpu gyda hyn.

Beth os nad yw cwnsela yn addas i mi? Ar ôl cyflawni ychydig o sesiynau, efallai byddwch chi’n teimlo nid yw cwnsela yn ddewis addas ar eich cyfer ac mae hynny’n iawn. Os nad ydych chi’n teimlo’n barod neu’n ansicr ynghylch parhau, gallwch drafod hyn gyda’ch cwnselydd.

Beth yw ystyr cyfrinachedd? Mae cyfrinachedd yn golygu cadw’r hyn sy’n cael ei ddweud yn ystod y sesiwn rhyngoch chi a’r cwnselydd. Ni fydd neb arall yn gwybod am beth rydych chi wedi siarad amdano. Dyma beth rydyn ni’n ei olygu pan rydyn ni’n dweud ein bod ni eisiau creu rhywle diogel i chi allu siarad am y pethau sydd bwysicaf i chi. Mewn rhai achosion, bydd gwybodaeth yn cael ei throsglwyddo ond bydd hyn yn cael ei egluro’n glir i chi a fydd dim byd yn cael ei rannu heb eich caniatâd.

Sut ydw i’n diogelu fy mhreifatrwydd? Bydd eich manylion cyswllt yn cael eu cadw mewn system TG ddiogel a dim ond staff o fewn y Tîm Cymorth fydd yn gallu cyrchu’r rhain.


Dwi’n poeni am sut rydw i’n edrych. Dwi ddim eisiau colli fy ngwallt.

Dwi’n teimlo mor grac a diymadferth.

Dwi wedi cael digon o ganser.

Dwi’n gweld hi’n anodd mwynhau pethau bob dydd, fel treulio amser â theulu a ffrindiau.

Dwi ddim yn gwybod sut i ddweud wrth fy mhlant!

Roedd fy ngwnselydd yn amyneddgar iawn ac yn gwneud i mi deimlo fel bod dim angen yr holl atebion arna i.

Roedd yn anodd siarad yn y dechrau, ond dwi mor falch y gwnes i. Mae wedi bod yn braf cael cyfle i siarad am fy hun!

Nid yw fy mherthynas yr un peth bellach.

Dwi’n teimlo bod fy nhelu yn meddwl fy mod i ddim yn gallu ymdopi.

Dwi’n poeni am golli fy swydd, nid yw fy nghyflogwr yn gefnogol iawn.


Rhagor o gymorth i chi Mae’r gwasanaeth Cwnsela yn rhan o dîm cymorth cyfannol sydd ar gael i bobl sydd wedi’u heffeithio gan ganser. Rydym yn darparu gwybodaeth, cyngor, cymorth ymarferol ac emosiynol ar eich cyfer fel y gallwch gymryd rhywfaint o reolaeth dros eich bywyd a byw’n dda â chanser.

Cymorth Budd-daliadau Rydym yn deall y gall canser arwain at gostau annisgwyl a phryderon ariannol. Efallai y byddwch yn ennill llai o arian oherwydd bod angen i chi weithio llai o oriau ac yn gweld eich bod yn gwario mwy ar wres a theithio i’r ysbyty. Rydym yma i helpu a gall ein hymgynghorwyr eich arwain drwy’r budddaliadau a’r grantiau y gallech fod yn gymwys i’w derbyn.

Llinell Gymorth Os ydych chi neu rywun annwyl wedi cael eich effeithio gan ganser, mae ein Llinell Gymorth canser rhad ac am ddim ar gael i chi. Mae’n berthnasol i unrhyw un y mae canser yn effeithio arno a gall ein nyrsys profiadol gynnig cyngor ar ddiagnosis, triniaeth, sgileffeithiau, ac unrhyw beth arall sydd ar eich meddwl.

Gwasanaeth Tele-ffrindiau Rydyn ni’n gwybod y gall canser fod yn anodd ac efallai eich bod chi’n teimlo’n unig ac yn ynysig. Rydyn ni yma i’ch cefnogi fel y gallwch siarad am y pethau sy’n bwysig i chi. Gall un o’n gwirfoddolwyr hyfforddedig gysylltu â chi drwy alwad ffôn wythnosol. Mae ein tele-ffrindiau yn mwynhau siarad am ddigwyddiadau bob dydd neu eu diddordebau. Gall ein gwirfoddolwyr hefyd siarad â chi am y cymorth y gallwn ei gynnig drwy Gofal Canser Tenovus.

Sing with Us Mae ein corau Sing with Us yn berthnasol i unrhyw un sydd wedi’i effeithio gan ganser. Mae’r corau yn hwyl, yn gyfeillgar ac yn ffynhonnell gefnogaeth arbennig. Mae’n ffordd wych o godi’ch ysbryd, lleihau pryder a bod yn rhan o rywbeth arbennig. Y peth gorau yw, gall pawb ganu - hyd yn oed os nad ydych chi’n meddwl y gallwch chi! Mae gennym gorau ledled y wlad ac mae pobl newydd yn ymuno â ni drwy’r amser. I ddod o hyd i’ch côr agosaf, ewch i’n gwefan.

Am ragor o wybodaeth, ffoniwch ni neu ewch i

tenovuscancercareorg.uk

Mae ein Llinell Gymorth ar agor 9am-5pm o ddydd Llun i ddydd Gwener, 10am-1pm dros y penwythnos a gwyliau’r banc. Ar unrhyw adeg arall, gadewch neges a byddwn ni’n eich ffonio yn ôl.


Cefnogi Gofal Canser Tenovus Mae ein gwirfoddolwyr, ein cefnogwyr a’n codwyr arian wrth galon popeth a wnawn. O’u herwydd nhw y gallwn barhau i gefnogi miloedd o bobl bob blwyddyn, pryd a ble mae ei angen fwyaf. Mae llawer o ffyrdd y gall pobl gymryd rhan a chefnogi’r elusen.

Codi arian Mae codi arian yn ffordd wych o roi yn ôl tra hefyd yn cael ychydig o hwyl! Mae yna ddigonedd o ffyrdd y gall pobl ein cefnogi, o wneud arwerthiant pobi neu gymryd rhan mewn digwyddiad her, i ymuno ag un o’n grwpiau Cyfeillion Gofal Canser Tenovus, sy’n cynnal digwyddiadau codi arian lleol ledled Cymru. Neu yn syml trwy chwarae ein loteri wythnosol. Mae rhywbeth at ddant pawb! I wybod mwy ewch i tenovuscancercare.org.uk/fundraising a chysylltwch â’n tîm codi arian cyfeillgar ar 029 2076 8850 neu e-bostiwch fundraising@tenovuscancercare.org.uk

Ein siopau Helpwch ni i gefnogi pobl a’u hanwyliaid i fyw’n well â chanser, trwy ymweld ag un o’n siopau. Mae rhai pobl yn galw i mewn am fargen; mae eraill yn galw gyda rhoddion. Y naill ffordd neu’r llall, byddwch chi’n helpu pobl sydd wedi’u heffeithio gan ganser yn eich cymuned. I ddod o hyd i’ch siop leol Gofal Canser Tenovus, ewch i tenovuscancercare.org.uk/support-us/shop

Gwirfoddoli Mae gennym amrywiaeth eang o rolau a chyfleoedd gwirfoddoli, a gallwch roi cymaint neu gyn lleied o amser ag y dymunwch. Beth bynnag fo’ch diddordebau neu sgiliau, mae yna ffordd i gymryd rhan. O wirfoddoli yn un o’n siopau, i ymuno â grŵp Cyfeillion Gofal Canser Tenovus lleol. Neu efallai helpu mewn digwyddiad lleol, neu fod yn wirfoddolwr Tele-ffrindiau, mae cymaint o ffyrdd y gallwch chi wneud gwahaniaeth. I wybod mwy a chymryd rhan ewch i tenovuscancercare.org.uk/volunteer

facebook.com/tenovuscancercare @tenovuscancer @tenovuscancer

Rhif Elusen Gofrestredig 1054015


Issuu converts static files into: digital portfolios, online yearbooks, online catalogs, digital photo albums and more. Sign up and create your flipbook.