Canolfan Ragoriath SBRI​

Page 7

ASTUDIAETH ACHOS DIHEINTIO AMBIWLANSIAU Y S B R I C Y F LY M C Y N TA F O ’ I F AT H

Yn ystod y pandemig, roedd yn rhaid glanhau ambiwlansiau Gwasanaeth Ambiwlans Cymru (WAST) yn drylwyr ar ôl cludo cleifion yr amheuwyd bod ganddynt COVID-19. Byddai’n cymryd o leiaf 45 munud i lanhau pob ambiwlans ond gallai gymryd hyd at 2 awr. Mewn rhai achosion, roedd rhaid mynd i ganolfannau glanhau arbenigol a fyddai gryn bellter o’r orsaf ambiwlans neu safle’r ysbyty. Gan nad oedd hi’n bosibl defnyddio’r cerbydau nes cwblhau’r gwaith glanhau, roedd hyn yn ychwanegu mwy o bwysau ar wasanaeth a oedd eisoes yn brysur ac o dan straen.

Nod yr her hon oedd nodi, datblygu ac arddangos technolegau diheintio cyflym i helpu timau WAST. Penderfynodd y Ganolfan SBRI a chydweithwyr Llywodraeth Cymru gynnal SBRI ‘cyflym’ i ymateb i natur gyflym ac esblygol pandemig COVID-19, Y dull hwn oedd y cyntaf o’i fath yn y DU i alluogi mynediad cyflym at unrhyw dechnolegau. Llwyddodd y prosiect i gyflymu’r broses SBRI o broses 12-18 mis i 6 wythnos.

Roedd Hygiene Pro Clean yn un o 12 yn unig o gyflenwyr a ddewiswyd i’w profi ac mae eu cynnyrch bellach wedi’i fabwysiadu gan Ymddiriedolaeth GIG Gwasanaethau Ambiwlans Cymru (WAST). Cynlluniodd Hygiene Pro Clean system atomeiddio uwchsain sy’n gwasgaru hydoddiant diheintio hynod o effeithiol mewn chwistrell ysgafn ar ffurf pluen; gan sicrhau ei fod yn cael ei wasgaru’n gyson, heb or-chwistrellu na chreu gwastraff. Mae’r system ynghyd â hyfforddiant a phrotocolau HPC, yn diheintio unrhyw wagle neu ofod yn effeithiol.

Mae’r dechnoleg hon wedi arwain at lawer o arbedion i WAST • Lleihau’r amser mae’n ei gymryd i lanhau ambiwlans gan 86%. • Lleihau’r gost o lanhau ambiwlans gan 82%. • Rhoi amser i gyflawni dyletswyddau eraill tra bod y broses lanhau yn mynd rhagddi. • Gallu cyflawni glanhau o ‘safon aur’. Manteision i’r Busnes ac i’r Economi

Roedd y prosiect hwn yn gydweithrediad integredig rhwng WAST, y Ganolfan SBRI a Llywodraeth Cymru. Roedd hefyd yn meithrin sgiliau o adrannau eraill y DU gan gynnwys y Cyflymydd Amddiffyn a Diogelwch a’r Labordai Technoleg Amddiffyn a Diogelwch.

Dywedodd Jonathan Turnbull-Ross, Cyfarwyddwr Cynorthwyol Llywodraethu Ansawdd: “Mae SBRI wedi galluogi’r Ymddiriedolaeth a staff allweddol i ymgymryd â phrosiect arloesol uchelgeisiol ar adeg heriol dros ben.”

7

Caffaelwyd datrysiad Hygiene Pro Clean gan Wasanaeth Ambiwlans Cymru ar gyfalaf/cost cychwynnol oddeutu £75K Mae her SBRI wedi cynorthwyo’r busnes drwy wneud y canlynol: • Creu 2 swydd newydd. • Contractau eraill gwerth £308K • Rhagamcanion pellach ar gyfer cyllid a swyddi a greir dros y 12 mis i 3 blynedd nesaf – £300-450K yn uniongyrchol gysylltiedig â’r Gwasanaeth Ambiwlans, >£1m yn anuniongyrchol i wasanaethau brys eraill a diwydiant yn ehangach, a photensial i ehangu’r tîm gyda 7-10 aelod arall o staff uniongyrchol. • Mae’r dechnoleg bellach yn cael ei defnyddio mewn sawl maes arall gan gynnwys yr Heddlu a’r Frigad Dân, ac yn cael ei chymhwyso i lawer o sectorau a phroblemau mewn diwydiannau eraill.

Mae Lynda Jones, Pennaeth Canolfan Ragoriaeth SBRI yn falch iawn o gyflawniad y ganolfan: “Drwy ein dulliau cydweithredol o weithio a’n hymrwymiad i wthio’r ffiniau, rydym wedi gallu gwneud gwahaniaeth gwirioneddol. Edrychwn ymlaen at barhau â’n gwaith a chyflawni mwy o lwyddiannau yn y dyfodol."


Turn static files into dynamic content formats.

Create a flipbook
Issuu converts static files into: digital portfolios, online yearbooks, online catalogs, digital photo albums and more. Sign up and create your flipbook.