3 minute read

Canolfan Ragoriath SBRI​

Yn ystod y pandemig, roedd yn rhaid glanhau ambiwlansiau Gwasanaeth Ambiwlans Cymru (WAST) yn drylwyr ar ôl cludo cleifion yr amheuwyd bod ganddynt COVID-19. Byddai’n cymryd o leiaf 45 munud i lanhau pob ambiwlans ond gallai gymryd hyd at 2 awr. Mewn rhai achosion, roedd rhaid mynd i ganolfannau glanhau arbenigol a fyddai gryn bellter o’r orsaf ambiwlans neu safle’r ysbyty. Gan nad oedd hi’n bosibl defnyddio’r cerbydau nes cwblhau’r gwaith glanhau, roedd hyn yn ychwanegu mwy o bwysau ar wasanaeth a oedd eisoes yn brysur ac o dan straen.

WAST. Penderfynodd y Ganolfan SBRI a chydweithwyr Llywodraeth Cymru gynnal SBRI ‘cyflym’ i ymateb i natur gyflym ac esblygol pandemig COVID-19, Y dull hwn oedd y cyntaf o’i fath yn y DU i alluogi mynediad cyflym at unrhyw dechnolegau. Llwyddodd y prosiect i gyflymu’r broses SBRI o broses 12-18 mis i 6 wythnos.

Roedd y prosiect hwn yn gydweithrediad integredig rhwng WAST, y Ganolfan SBRI a Llywodraeth Cymru. Roedd hefyd yn meithrin sgiliau o adrannau eraill y DU gan gynnwys y Cyflymydd Amddiffyn a Diogelwch a’r Labordai Technoleg Amddiffyn a Diogelwch.

Dywedodd Jonathan Turnbull-Ross, Cyfarwyddwr Cynorthwyol Llywodraethu Ansawdd:

“Mae SBRI wedi galluogi’r Ymddiriedolaeth a staff allweddol i ymgymryd â phrosiect arloesol uchelgeisiol ar adeg heriol dros ben.”

Roedd Hygiene Pro Clean yn un o 12 yn unig o gyflenwyr a ddewiswyd i’w profi ac mae eu cynnyrch bellach wedi’i fabwysiadu gan Ymddiriedolaeth GIG Gwasanaethau Ambiwlans Cymru (WAST). Cynlluniodd Hygiene Pro Clean system atomeiddio uwchsain sy’n gwasgaru hydoddiant diheintio hynod o effeithiol mewn chwistrell ysgafn ar ffurf pluen; gan sicrhau ei fod yn cael ei wasgaru’n gyson, heb or-chwistrellu na chreu gwastraff. Mae’r system ynghyd â hyfforddiant a phrotocolau HPC, yn diheintio unrhyw wagle neu ofod yn effeithiol.

• Lleihau’r amser mae’n ei gymryd i lanhau ambiwlans gan 86%.

• Lleihau’r gost o lanhau ambiwlans gan 82%.

• Rhoi amser i gyflawni dyletswyddau eraill tra bod y broses lanhau yn mynd rhagddi.

• Gallu cyflawni glanhau o ‘safon aur’.

Caffaelwyd datrysiad Hygiene Pro Clean gan Wasanaeth Ambiwlans Cymru ar gyfalaf/cost cychwynnol oddeutu £75K

Caffaelwyd datrysiad Hygiene Pro Clean gan Wasanaeth Ambiwlans Cymru ar gyfalaf/cost cychwynnol oddeutu £75K

Mae her SBRI wedi cynorthwyo’r busnes drwy wneud y canlynol:

• Creu 2 swydd newydd.

• Contractau eraill gwerth £308K

• Rhagamcanion pellach ar gyfer cyllid a swyddi a greir dros y 12 mis i 3 blynedd nesaf – £300-450K yn uniongyrchol gysylltiedig â’r Gwasanaeth Ambiwlans, >£1m yn anuniongyrchol i wasanaethau brys eraill a diwydiant yn ehangach, a photensial i ehangu’r tîm gyda 7-10 aelod arall o staff uniongyrchol.

• Mae’r dechnoleg bellach yn cael ei defnyddio mewn sawl maes arall gan gynnwys yr Heddlu a’r Frigad Dân, ac yn cael ei chymhwyso i lawer o sectorau a phroblemau mewn diwydiannau eraill.

“Drwy ein dulliau cydweithredol o weithio a’n hymrwymiad i wthio’r ffiniau, rydym wedi gallu gwneud gwahaniaeth gwirioneddol. Edrychwn ymlaen at barhau â’n gwaith a chyflawni mwy o lwyddiannau yn y dyfodol."

This article is from: