Mae colli pobl ifanc yn sialens sy'n wynebu ardaloedd gwledig ledled y byd. Nid yw Cymru yn wahanol. Mae'r duedd yma'n bygwth ein cymunedau a'n busnesau gwledig, ein hiaith a'n diwylliant byd-enwog a'n tirweddau gwerthfawr, hardd. Er mwyn deall y golled hon o'n hieuenctid gwledig yn well ac i chwarae fy rhan i wrthdroi'r duedd yma, roeddwn i'n meddwl ei bod yn bwysig ymgymryd â'r ymchwil yma ymhlith y dinasyddion hynny sydd wedi dewis Cymru wledig fel lle i fyw, gweithio neu astudio. Yn enwedig ein pobl ifanc.