11 minute read

Beth mae Cymreictod yn ei olygu i mi

Gyda dros 3 miliwn o bobl yn byw yng Nghymru, mae Cymreictod yn rhywbeth sy’n sicr o chwarae rôl a dal diffiniad gwahanol ym mywydau pob un. Nid yw’r haniaeth o Gymreictod yn rhywbeth newydd o bell ffordd ac mae’n bwysig ystyried gwahanol ddehongliadau ohono a pha mor gynhwysol yr ydynt mewn gwirionedd. Catrin Lewis, Angharad Roberts ac Annell Dyfri, golygyddion a chyfranwyr Clebar, sy’n trafod beth mae Cymreictod yn ei olygu iddyn nhw a pha rôl mae’r gair wedi ei chwarae o fewn eu hunaniaeth. Wnes i dyfu i fyny o fewn De Cymru yn Rhondda Cynon Taf, ac felly mae gen i acen y cymoedd mae’r mwyafrif yn meddwl am pan maent yn sgwrsio’r acen Cymraeg. Trwy gydol fy mywyd yr wyf wedi dysgu i gofleidio’r acen yma pan wnaeth nifer ei weld fel symbol o draul, ond mae’n rhan o fy hunaniaeth fel Cymraes.

Hefyd, mae dod o’r cymoedd wedi dysgu i mi’r pwrpas o gymuned, i ddal y bobl yr wyf yn eu caru yn agos. Oherwydd mae pawb yn edrych mas am ei gilydd mewn rhyw ffordd.

Advertisement

Doedd dim llawer o ysgolion Cymraeg yn fy ardal yn tyfu lan, yn enwedig o ran ysgolion cynradd. Felly, mae Cymreictod wedi dysgu i mi fod yn ddiolchgar am y cyfleoedd yr wyf yn gallu cael trwy siarad Cymraeg. Efo Mam o’r De a Dad o’r Gogledd yr wyf hefyd wedi cael y cyfle i fabwysiadu iaith o ddau le gwahanol. Mae’r newidiadau mewn geiriau o fewn yr un iaith yn dangos amlochredd a’r cyfoeth mae Cymraeg yn meddu.

I wybod yr wyf yn gallu bod yn rhan o ddiwylliant traddodiadol ac iaith sydd wedi rhagori blynyddoedd o hanes, mae’n anghredadwy. Nawr, fel myfyrwyr prifysgol, yr wyf mor falch i allu ysgrifennu yn Gymraeg i ddangos bod iaith hen yn addasadwy ac mae’n ffitio i mewn i gyfryngau modern yn berffaith i siaradwyr Cymraeg cael platfform i rannu a thrafod.

Geiriau gan: Angharad Roberts, Rhondda Cynon Taf Beth mae Cymreictod yn ei olygu i mi

Cymreictod. Gair digon syml sydd wedi dal llawer o rym i mi erioed. Cefais fy magu mewn pentref gwledig yng Ngwynedd, y sir gyda’r gyfran uchaf o siaradwyr Cymraeg yn y wlad, ble yr oeddwn yn ymfalchïo mewn defnyddio’r famiaith bob dydd. Mynychais ysgolion cynradd ac uwchradd cyfrwng Cymraeg ac mae’r iaith wedi bod yn nodwedd yr un mor amlwg yn fy mywyd prifysgol. Ers cychwyn fy amser yng Nghaerdydd rwyf wedi astudio fy nghwrs yn rhannol drwy gyfrwng y Gymraeg ac mae’r iaith wedi bod yn rhan yr un mor gryf o fy mywyd cymdeithasol yn y brifddinas. Mae’r Gymraeg yn, ac eisoes wedi bod, yn rhan ganolog o fy hunaniaeth ac nid oes dwywaith y buaswn wedi dilyn llwybr gwbl wahanol os nad fuasai’r haniaeth o Gymreictod wedi bod yn rhan mor amlwg o’n magwraeth.

Wedi dweud hynny, ar ôl cychwyn yn y brifysgol agorais fy llygaid i ba mor gyfunedig oedd fy niffiniad i o Gymreictod mewn gwirionedd. Roedd y ffordd yr oeddwn i’n diffinio’r gair yn gwbl ddibynnol ar y gymdeithas a’r bobl a oedd yn bresennol yn ystod fy mhlentyndod. Wrth glywed y gair ‘Cymreictod’ roeddwn yn mynd yn syth at ddarlun o bobl oedd wedi cael eu magu mewn ffordd debyg i mi yn fy nghymuned wledig; Cymry Cymraeg sy’n defnyddio’r iaith pob dydd ac yn amgylchynu eu hunain gydag elfennau traddodiadol o ddiwylliant Cymreig. Heb fod yn ymwybodol o’r peth, roeddwn yn diffinio’r gair mewn ffordd gyfunedig heb ddeall cymaint o haenau oedd ganddi. Fodd bynnag, dros amser, sylweddolais fod y diffiniad yn lawer ehangach a fwy cymhleth nac yr oeddwn i wedi ei ystyried. Gallaf ddweud gyda hyder bod Cymro neu Gymraes yn ansoddair y byddai bron pawb ym mro fy magwraeth yn uniaethu gyda. Beth nad oeddwn yn llwyddo i’w ystyried ar y pryd oedd perthynas y rheiny nad oedd yn ffitio’r stereoteip cyfunedig o Gymry Cymraeg traddodiadol gyda’r gair.

Mewn gwirionedd, mae Cymreictod a’r gallu i siarad Cymraeg yn gwbl annibynnol i’w gilydd. Nid yw Cymreictod mor syml â’r stereoteipiau ‘Cymreig’ sy’n saethu i’r meddwl megis mynychu a chystadlu mewn Eisteddfodau neu gefnogi’r tîm rygbi ym mhencampwriaeth y Chwe Gwlad. Does dim rhaid bod wedi cael eich magu yng Nghymru i fod yn Gymro ac yn yr un modd nid yw Cymreictod rhywun yn ddibynnol ar eu nodweddion llinach. Mae’r gair yn agored i gael ei ddefnyddio gan unrhyw un sy’n teimlo fel ei fod yn eu disgrifio boed wedi eu magu yng Nghaerdydd neu yng Nghambodia.

edrych mas am ei gilydd mewn rhyw ffordd.” i ddal y bobl yr wyf yn eu caru yn agos. Oherwydd mae pawb yn “Hefyd, mae dod o’r cymoedd wedi dysgu i mi’r pwrpas o gymuned,

Wrth astudio yn un o ardaloedd fwyaf aml diwylliannol y wlad sylweddolais nad oes un diffiniad pendant i Gymreictod ond yn hytrach sawl ffordd y gall yr elfen o fod yn Gymro blethu i mewn i hunaniaeth unigolyn. I rai, Cymreictod yw’r rhan fwyafrifol o’u hunaniaeth tra i eraill mae’n cymryd y sedd gefn ond nid oes ffordd gywir nac anghywir i’w ddiffinio ac i’w ddathlu. Yn sicr, mae trafodaethau angen eu cynnal ynglŷn â pha mor groesawgar yw’r term ac mae angen talu ystyriaeth i ba mor gynhwysol ydyw. Pwysig yw sicrhau bod pawb yn teimlo’n gyfforddus i gyfeirio at eu hunain fel Cymro heb boeni os ydynt yn ‘ddigon Cymraeg’ neu’n ffitio’r stereoteipiau. Mewn gwirionedd, mae’r gair yn perthyn i bob un ohonom a ni ddylai fod yn air cyfunedig sy’n eithrio unrhyw un sy’n uniaethu a hi.

Geiriau gan: Catrin Lewis, Dyffryn Nantlle ‘Ansawdd Cymreig’ neu ‘Nodwedd Gymreig’ yw Cymreictod yn ôl Geiriadur Prifysgol Cymru. Enw gwrywaidd sy’n cyfuno ‘Cymreig’ a ‘dod’. Digon syml felly?

Gair sy’n dyst i ganrifoedd o hanesion am gymdeithas a diwylliant unigryw yma yng Nghymru.

Fel un sy’n hanu o Gaerfyrddin mae’r gair ‘Cymreictod’ wedi bod yn rhan greiddiol o’m magwraeth, a hynny wrth inni gael ein trochi o fewn y syniadaeth bod Cymreictod yn rhywbeth i’w drysori, i’w barchu a’i ddathlu. Bu yno mewn gwasanaethau ysgol, ym mhob seremoni llongyfarch, ym mhob agenda cyngor ysgol a bellach yn rhan greiddiol o’m mhrofiad yn y brifysgol wrth imi fyw a bod yn Gymraeg a dechrau yn fy rôl newydd fel Swyddog y Gymraeg ym Mhrifysgol Caerdydd.

Ymfalchïo yn ein Cymreictod oedd y wers o hyd. Roedd angen dathlu ein bod yn wahanol. Bod rhinweddau penodol yn perthyn i ni. Bod gwerthoedd gwahanol yn perthyn i ni. Ond gellir dadlau bod darlun digon ystrydebol wedi datblygu o Gymreictod ar hyd y blynyddoedd a bod y cysyniad yn cael ei gysylltu â math arbennig o berson a fyddai’n dod o gefndir penodol. Gellir dadlau bod hwnnw’n ddarlun cul a negyddol sy’n eithrio canran gynyddol o boblogaeth Cymru heddiw.

Clebar

45

“Bellach, mae Cymreictod yn perthyn i ni gyd, beth bynnag fo’n cefndir. Y mae’n rhan ohonom oll; mae’n ein clymu ynghyd; yn rhywbeth sy’n gyffredin i bawb sy’n byw mewn cymunedau amrywiol ar draws Cymru heddiw.”

Bellach, mae Cymreictod yn perthyn i ni gyd, beth bynnag fo’n cefndir. Y mae’n rhan ohonom oll; mae’n ein clymu ynghyd; yn rhywbeth sy’n gyffredin i bawb sy’n byw mewn cymunedau amrywiol ar draws Cymru heddiw.

Er mai dau ddiffiniad digon syml oedd gan Geiriadur Prifysgol Cymru i’r term ‘Cymreictod’, rhaid datgan ei fod yn cwmpasu elfennau eang ac amrywiol sy’n golygu pethau gwahanol iawn i wahanol bobl. Gall y rhain gynnwys iaith, cymdeithas, diwylliant a threftadaeth – elfennau allweddol sy’n treiddio trwy wythiennau’r rheini sy’n arddel Cymreictod ac sy’n cydnabod eu bod yn wahanol i weddill y byd. I rai pobl, gall Cymreictod fod yn rhywbeth dros dro megis cefnogi’r tîm cenedlaethol a gweiddi canu’r anthem fel rhan o dorf sylweddol; i eraill gall olygu dathliad parhaus o bopeth sy’n cynrychioli Cymru – yn gymdeithasol, yn ddiwylliannol ac yn ieithyddol. Heb os, mae Cymreictod yn rhywbeth sy’n ein clymu i ddarn bychan o dir sydd wedi cyfrannu cymaint at ddatblygiad y byd yn ei gyfanrwydd ar hyd y canrifoedd. Mae perthyn i’r wlad honno yn ennyn balchder rhyfeddol ynom – mae’n ein galluogi i ddathlu ein hamrywiaeth gan ddatgan wrth y byd ein bod, er gwaethaf ein maint daearyddol a’n hagosatrwydd at gymdogion mwy pwerus, yn cyfrannu’n adeiladol at les holl genedlaethau’r dyfodol. Mae Cymreictod yn rhywbeth ‘dw i’n ymfalchïo yn fawr ynddo. Mae’n rhan greiddiol ohona i. O’m DNA i. O bwy dw i. Mae wastad wedi bod yno, yn agos i’m calon. Ac yno y bydd e hefyd yn y dyfodol. Ac er i mi gael y cyfle i deithio i bedwar ban byd, gan weld rhai o ryfeddodau’r blaned, mae’r ysfa i ddychwelyd i Gymru wastad wedi bod yno. Fel bod Cymreictod yn gyfeiriad naturiol ar fy nghwmpawd. Does dim dianc rhagddo. Mae’n deimlad greddfol sy’n rhoi hwb i’r galon lle bynnag wyf yn y byd.

Geiriau gan: Annell Dyfri, Caerfyrddin Dyluniad gan: Isabel Brewster

Photography by: Hannah Layton, @laytonhannah Model: @yasminejdavies

Torcross, Devon

Words by: Beth Mendleton

Torcross is my secret oasis of a coastal village. The handful of cottages and coffee shops and long pebbly beach separate the crashing waves of the Atlantic Ocean from the serene lapping of the largest freshwater lake in the Southwest. Its unique setting allowed me to feel like a pinprick on a map whenever I visited. The view of the vast sea and the lack of many human beings made it seem like the most remote place on earth. I grew up there as it changed from a fun holiday spot with bodyboarding and ice-cream cones, to somewhere to sit quietly on the wall with a pint of cider. The sea air always felt easier to breathe – away from the stress of exams or teen drama. The salt in my hair and the wind whistling in my ears became a feeling synchronous with troubles being far away; which is something that has stayed with me through my love of the coast. My family would always joke the symbols on the road sign were simply a duck, a pub and 2 people – as if that was literally all that was there. But the simplicity and solitary nature of Torcross is something which I feel is reflected in me.

The Forest of Dean

Words by: Emma Williams

Upon reading the notion for this article, I knew I wanted to write about the Forest of Dean. Growing up in Gloucestershire, I cannot count how many times I have visited the Forest, both with family and friends. Home to twenty million trees and a wealth of biodiversity including Fallow deer, foxes, badgers, rabbits, and wild boar, the Forest is a place of untamed natural brilliance. Even a visit in the winter will leave you feeling relaxed and refreshed. I have two favourite parts: Beechenhurst because of the stunning sculpture trail, and Cannop Ponds because you can go fishing, with fish such as carp, bream, chub, pike, and roach, or hire a mountain bike to really put your feet up whilst continuing to explore. Plus, in both these areas, once you leave the car park, there is little to no phone reception, allowing Indeed, from royal hunting to coal mining, the Forest boasts a rich history and continues to make one, such as featuring in Harry Potter. Within its heritage lies a key reason that the forest is an important part of my identity. My own lineage stems from areas within the forest, such as Cinderford and Coleford. Sometimes, as I wander through the wilderness, listening to the woodpeckers and tawny owls and breathing in the fresh air, I can almost sense my ancestors walk alongside me; I feel free, whilst also as though I belong there. And that is why home is truly where the heart is.

Portpatrick, Scotland

Words by: Rubie Barker

I may have only visited once, but Portpatrick on the eastern coast of Scotland has always felt like a special place to me. Two years before getting to finally visit the village that a dear family friend had told us so much about, she tragically passed away but getting to visit a place she loved so much meant a lot to us. I got to spend a week there in the summer of 2019 with my family, exploring the rocky coastline, filled with waterfalls and ruined castles and visiting the pubs along the harbour side. The beauty of it has stayed with me ever since and I find myself often longing to go back. But it wasn’t until a summer later that it became an even more special place. While going through my great-grampy’s old film photos with my Grandad, we stumbled across a photo of my great-grandparents standing on an all too familiar harbour side. Clearly behind them, stood the very cottage we had stayed in and The Grand Hotel overlooking the water. They were a part of my family who we lost before I could form any of my own memories but I have heard so many heart-warming stories about them. Seeing them stood on the harbour in a village I had enjoyed so much brought me a strange but familiar sense of comfort and marked Portpatrick as one of my favourite places on earth.

Design by: Rahima Bhatti

This article is from: