Quench Magazine Issue 184

Page 42

W

nes i dyfu i fyny o fewn De Cymru yn Rhondda Cynon Taf, ac felly mae gen i acen y cymoedd mae’r mwyafrif yn meddwl am pan maent yn sgwrsio’r acen Cymraeg. Trwy gydol fy mywyd yr wyf wedi dysgu i gofleidio’r acen yma pan wnaeth nifer ei weld fel symbol o draul, ond mae’n rhan o fy hunaniaeth fel Cymraes. Hefyd, mae dod o’r cymoedd wedi dysgu i mi’r pwrpas o gymuned, i ddal y bobl yr wyf yn eu caru yn agos. Oherwydd mae pawb yn edrych mas am ei gilydd mewn rhyw ffordd.

G

yda dros 3 miliwn o bobl yn byw yng Nghymru, mae Cymreictod yn rhywbeth sy’n sicr o chwarae rôl a dal diffiniad gwahanol ym mywydau pob un. Nid yw’r haniaeth o Gymreictod yn rhywbeth newydd o bell ffordd ac mae’n bwysig ystyried gwahanol ddehongliadau ohono a pha mor gynhwysol yr ydynt mewn gwirionedd. Catrin Lewis, Angharad Roberts ac Annell Dyfri, golygyddion a chyfranwyr Clebar, sy’n trafod beth mae Cymreictod yn ei olygu iddyn nhw a pha rôl mae’r gair wedi ei chwarae o fewn eu hunaniaeth.

Doedd dim llawer o ysgolion Cymraeg yn fy ardal yn tyfu lan, yn enwedig o ran ysgolion cynradd. Felly, mae Cymreictod wedi dysgu i mi fod yn ddiolchgar am y cyfleoedd yr wyf yn gallu cael trwy siarad Cymraeg. Efo Mam o’r De a Dad o’r Gogledd yr wyf hefyd wedi cael y cyfle i fabwysiadu iaith o ddau le gwahanol. Mae’r newidiadau mewn geiriau o fewn yr un iaith yn dangos amlochredd a’r cyfoeth mae Cymraeg yn meddu. I wybod yr wyf yn gallu bod yn rhan o ddiwylliant traddodiadol ac iaith sydd wedi rhagori blynyddoedd o hanes, mae’n anghredadwy. Nawr, fel myfyrwyr prifysgol, yr wyf mor falch i allu ysgrifennu yn Gymraeg i ddangos bod iaith hen yn addasadwy ac mae’n ffitio i mewn i gyfryngau modern yn berffaith i siaradwyr Cymraeg cael platfform i rannu a thrafod. Geiriau gan: Angharad Roberts, Rhondda Cynon Taf

42

Beth mae Cymreictod yn ei olygu i mi

Clebar


Turn static files into dynamic content formats.

Create a flipbook
Issuu converts static files into: digital portfolios, online yearbooks, online catalogs, digital photo albums and more. Sign up and create your flipbook.
Quench Magazine Issue 184 by quencheditor - Issuu