Ysgolion a Sefydliadau
Addysgol
CYMWYSTERAU A ARIENNIR YN LLAWN
1
Ein Stori
Sefydlwyd Portal yn 2010 ac, ers hynny, rydym wedi gweithio’n ddiflino i ddarparu hyfforddiant dwyieithog deinamig ac arloesol, er mwyn
cefnogi sefydliadau addysgiadol gyda’u strategaethau i ddatblygu gallu eu gweithlu.
Rydym yn darparu cymwysterau ar lefelau 2, 3, 4, 5 a 7, ac mae gennym brofiad o gefnogi datblygiad proffesiynol mewn ystod eang o rolau, o’r rheiny sy’n newydd i’w swyddi i’r rheiny sy’n uwch-arweinwyr profiadol. Ar hyn o bryd mae dros 500 o ddysgwyr gennym yn dilyn ein rhaglenni Prentisiaeth a ariennir yn llawn gan Lywodraeth Cymru.
Mae Portal yn ymfalchïo mewn darparu cefnogaeth sydd wedi ei theilwra i anghenion ein dysgwyr a sicrhau perthnasoedd adeiladol cadarn gyda’n holl gyflogwyr. Rydym yn gwrando ar anghenion yr unigolion a’r sefydliad er mwyn cynnig cymwysterau a fydd yn caniatáu i’r ddau gyd-dyfu’n hapus a chryf, law yn llaw. Mae bod yn onest tra’n mwynhau ein gwaith wrth wraidd popeth a wnawn.
2
Cynnwys 3 4 Arweinyddiaeth a Rheolaeth 5 Diploma Lefel 3 ILM mewn Rheolaeth 6 Diploma Lefel 4 ILM mewn Arweinyddiaeth a Rheolaeth 8 Diploma Lefel 5 ILM mewn Arweinyddiaeth a Rheolaeth 10 Diploma Lefel 4 mewn Rheoli Prosiect 11 Chwaraeon 12 Diploma Lefel 3 mewn Cefnogi Addysgu a Dysgu mewn Addysg Gorfforol a Chwaraeon mewn Ysgolion 14 Deall ein Cymwysterau 16 Cyflwyniad, Cyllid a Chymhwysedd 18 Partneriaethau ac Ardystiadau 19 Sut i Wneud Cais
Arweinyddiaeth a Rheolaeth
Datblygwch eich potensial i arwain a rheoli gydag un o’n cymwysterau sydd wedi eu hariannu’n llawn.
Nod ein cymwysterau Arweinyddiaeth a Rheolaeth yw datblygu eich sgiliau rheoli pobl, systemau a phrosesau. Byddant yn rhoi wybodaeth, yr offerynnau a’r technegau i chi gyfoethogi’ch cymhwysedd a’ch gyrfa fel arweinydd a rheolwr.
Llwybr
Arweinyddiaeth a Rheolaeth
LEFEL 4
Rheolwyr Canol
Newydd a Darpar
Reolwyr Canol
GWEITHREDOL
LEFEL 3
Y cam cyntaf i Reolaeth
GWEITHREDOL
LEFEL 5
Rheolwyr ac Uwch-Arweinwyr Presennol
STRATEGOL
LEFEL 2
Arweinwyr Tîm
Newydd a Darpar Arweinwyr Tîm
ARWEINWYR TÎM
LEFEL 7
UwchArweinwyr
STRATEGOL
Yn eich arwain chi i’r man lle’r hoffech fod.
4
Diploma Lefel 3 ILM mewn Rheolaeth
I bwy mae’r cymhwyster?
Mae’r Diploma Lefel 3 mewn
Rheolaeth yn cynnwys unedau gwybodaeth a chymhwysedd. Mae’n addas i unigolion sydd â rhywfaint o brofiad blaenorol mewn rôl arwain tîm neu reoli, ond nid yw hwn yn ofyniad ffurfiol. Bydd y cymhwyster yn adeiladu ac yn datblygu sgiliau newydd er mwyn cyfoethogi eu gyrfa fel rheolwyr.
Manteision y cymhwyster
I Unigolion
• Dealltwriaeth fanwl o’r hyn a ddisgwylir wrth reolwyr
• Rheoli’ch tîm yn effeithiol
• Ennill cymhwyster cydnabyddedig am eich datblygiad personol
I Ysgolion
• Rheolwyr llinell-gyntaf â chymhwysedd yn y rôl
• Dewis eang o unedau dewisol er mwyn teilwra’r cymhwyster at anghenion dysgu a datblygiad eich sefydliad
Sut caiff y cymhwyster ei asesu?
Dulliau cymysg yn cynnwys:
• Gwaith ysgrifenedig
• Trafodaeth broffesiynol
• Cwestiynau ac atebion
• Arsylwi perfformiad
• Cynnyrch gwaith
Diploma
Unedau Mandadol
• Rheoli Datblygiad Personol a Phroffesiynol
• Rheoli Perfformiad Tîm
• Egwyddorion Arweinyddiaeth a Rheolaeth
• Egwyddorion Rheoli Pobl
• Principles of Business
• Egwyddorion Busnes
Unedau Dewisol
• Rheoli Perfformiad Unigolion
• Datblygu a Gweithredu Cynllun Gweithredu
• Datblygu Cydberthnasau Gweithio gyda Rhanddeiliaid
• Datblygu Cyflwyniad
• Rhoi Cyflwyniad
• Hawliau a Chyfrifoldebau Cyflogeion
• Annog Dysgu a Datblygiad
Sgiliau Hanfodol Lefel 2 neu 3 Cymhwyso Rhif, Cyfathrebu a Llythrennedd Digidol
• Dull Asesu: Tasgau a phrawf dan reolaeth
17 Mis - Ariennir yn Llawn
Cymraeg 5
PRENTISIAETHDIPLOMA LEFEL 3 ILM MEWN RHEOLAETH
ARIENNIR YN LLAWN GAN LYWODRAETH CYMRU
Diploma Lefel 4 ILM mewn
Arweinyddiaeth a Rheolaeth
GWEITHREDOL
I bwy mae’r cymhwyster?
Mae’r cymhwyster wedi ei gynllunio ar gyfer reolwyr canol newydd a darpar reolwyr canol er mwyn eu galluogi i fedru gwerthuso yn feirniadol i wneud penderfyniadau gwybodus. Trwy’r broses, byddant yn dysgu i ddefnyddio technegau datrys problemau effeithiol, ennill gwybodaeth cynhwysfawr a datblygu sgiliau arwain a reoli newid ar lefel gweithredol.
Yn addas i:
• Athrawon
• Swyddogion Diogelwch
• Arweinwyr Lles a Bugeiliol
• Timau Bugeiliol
• CDLU/HLTA
Manteision y cymhwyster
Rhaglen Arweinyddiaeth a Rheolaeth sy’n alinio gyda
Safonau Proffesiynol Addysgu ac Arweinyddiaeth i ddatblygu staff o fewn y meysydd canlynol:
Dysgu Proffesiynol
Y gallu i reoli datblygiad personol eu hunain ac i addasu’r cymhwyster at anghenion dysgu a datblygiad eich hun.
Arweinyddiaeth
Datblygu eich gallu i arwain, ysgogi ac ysbrydoli eraill er mwyn cyflawni canlyniadau.
Arloesedd
Hwyluso newid o fewn eu hardal o gyfrifoldeb sy’n alinio gydag amcanion yr ysgol.
Cydweithredu
Cyd weithio gyda phartneriaid
allanol a mewnol er mwyn adeiladu perthnasau effeithiol i gyflawni newid a rheoli prosiectau.
Sut caiff y cymhwyster
ei asesu?
Dulliau cymysg yn cynnwys:
• Gwaith ysgrifenedig
• Trafodaeth broffesiynol
• Cwestiynau ac atebion
• Arsylwi perfformiad
• Cynnyrch gwaith
6
PRENTISIAETH UWCHDIPLOMA LEFEL 4 ILM MEWN ARWEINYDDIAETH A RHEOLAETH
Diploma
NVQ - Cymhwyster Ymarferol
• Datblygu a Gweithredu Cynllun Gweithredu
• Arwain a Rheoli
• Datblygu Cydberthnasau Gweithio gyda Rhanddeiliaid
• Rheoli Datblygiad Personol a Phroffesiynol
VRQ - Cymhwyster Theori
• Rheoli a Gweithredu Newid yn y Gweithle
• Deall y Rôl Rheolaeth er mwyn Gwella Rheoli Perfformiad yn Well
• Rheoli Straen a Gwrthdaro o fewn y Sefydliad
• Deall a Datblygu Perthnasau yn y Gweithle
• Rheoli Gwelliant
• Datblygu Meddwl Beirniadol
Sgiliau Hanfodol Lefel 2 neu 3 Cymhwyso Rhif, Cyfathrebu a Llythrennedd Digidol
• Dull Asesu: Tasgau a phrawf dan reolaeth
17 Mis - Ariennir yn Llawn
Fe wnaeth ddysgu am gynllunio strategol, prosesau busnes a rheoli risg fy ngalluogi i ymgymryd a phrosiectau newydd o fewn yr ysgol.
7
PRENTISIAETH UWCHDIPLOMA LEFEL 4 ILM MEWN ARWEINYDDIAETH A RHEOLAETH
Kimberly Williams Willows High School, Caerdydd
ARIENNIR YN LLAWN GAN LYWODRAETH CYMRU Cymraeg
Diploma Lefel 5 ILM mewn
Arweinyddiaeth a Rheolaeth STRATEGOL
I bwy mae’r cymhwyster?
Mae’r cymhwyster wedi ei gynllunio ar gyfer arweinwyr canol presennol a darpar benaethiaid cynorthwyol, er mwyn eu cefnogi i ddatblygu eu sgiliau a’u profiad i wella eu perfformiad. Bydd y cwrs yn datblygu meddylfryd strategol ar lefel uwch ac yn annog dysgwyr i fagu persbectif ysgol gyfan i gynorthwyo a chefnogi gwelliant a bwydo i Gynllun Datblygu’r Ysgol.
Yn addas i:
• Benaethiaid Adran/Blwyddyn/Cynorthwyol
Manteision y cymhwyster
Rhaglen Arweinyddiaeth a Rheolaeth sy’n alinio gyda
Safonau Proffesiynol Addysgu ac Arweinyddiaeth i ddatblygu staff o fewn y meysydd canlynol:
Dysgu Proffesiynol
Y gallu i reoli eu datblygiad proffesiynol parhaus.
Arweinyddiaeth
Cynnig arweiniad ar lefel strategol/ uwch dim i yrru a chyflawni y canlyniadau delfrydol ar gyfer unigolion, dysgwyr a’r ysgol – trwy gymryd trosolwg ysgol gyfan ar bopeth.
Arloesedd
Adnabod angen neu cyfle am newid i gyrraedd yr amcanion gan gymryd i ystyriaeth y risgiau posib.
Cydweithredu
Cyd weithio gyda phartneriaid allanol a mewnol i adeiladu perthnasau cydweithiol a buddiol.
Sut caiff y cymhwyster
ei asesu?
Dulliau cymysg yn cynnwys:
• Gwaith ysgrifenedig
• Trafodaeth broffesiynol
• Cwestiynau ac atebion
• Arsylwi perfformiad
• Cynnyrch gwaith
8
PRENTISIAETH UWCHDIPLOMA LEFEL 5 ILM MEWN ARWEINYDDIAETH A RHEOLAETH
Diploma
NVQ - Cymhwyster Ymarferol
• Rheoli Newid Strategol/Ysgol Gyfan
• Datblygu Prosesau Ysgol Gyfan
• Cyfrannu at Gynllun Datblygu’r Ysgol
• Arwain a Rheoli
VRQ - Cymhwyster Theori
• Datblygu Meddwl Beirniadol
• Arwain Arloesi a Newid
• Rheoli Gwelliant
• Llunio Achos Ariannol
• Deall y Rôl Rheoli er mwyn Gwella
Perfformiad Rheoli
• Rheoli Straen a Gwrthdaro
• Rheoli eich Datblygiad Proffesiynol
Parhaus Eich Hun
Sgiliau Hanfodol Lefel 2 neu 3
Cymhwyso Rhif, Cyfathrebu a Llythrennedd Digidol
• Dull Asesu: Tasgau a phrawf
dan reolaeth
21 Mis - Ariennir yn
Llawn
Fe wnaeth y sgiliau a’r profiad ag enillais trwy astudio y cwrs ILM, chwarae ran allweddol yn fy nghais llwyddiannus i fod yn Bennaeth Adran. Rhoiodd fantais i fi dros ymgeiswyr eraill.
9 PRENTISIAETH UWCHDIPLOMA LEFEL 5 ILM MEWN ARWEINYDDIAETH A RHEOLAETH
Mathew Evans Ysgol St Cyres, Y Fro
ARIENNIR YN LLAWN GAN LYWODRAETH CYMRU Cymraeg
Diploma Lefel 4 mewn
Rheoli Prosiect
I bwy mae’r cymhwyster?
Mae’r cymhwyster yn anelu I ddatblygu sgiliau Rheoli Prosiect unigolion proffesiynol trwy ddatblygu eu gwybodaeth a’u sgiliau ar gyfer y gweithle.
Mae’r cwrs wedi ei gynllunio ar gyfer unigolion sy’n chwilio i gyfeothogi eu sgiliau rheoli prosiect, neu eu galluogi i gyflwyno newidiadau gwerthfawr ac effeithiol yn llwyddiannus.
Manteision y cymhwyster
I Unigolion
• Datblygu y sgiliau a’r wybodaeth angenrheidiol i fynd i’r afael ag ystod o dasgau rheoli prosiect.
• Cymhwyster achrededig wedi ei gynllunio i ddatblygu sgiliau, er mwyn cynorthwyo cynnydd gyrfaol.
I Ysgolion
• Datblygu sgiliau rheoli prosiect y gweithlu i gyfoethogi cynhyrchedd ac effeithlonrwydd.
Prosiectau engreifftiol:
• Adeiladu ysgol newydd.
• Cyrraedd y safon ar gyfer y wobr ‘Y Gofalwyr Ifanc’ mewn Ysgolion.
• Cynllunio a threfnu digwyddiad yn yr ysgol megis seremoni gadael Bl.11.
Sut caiff y cymhwyster ei asesu?
Dulliau cymysg yn cynnwys:
• Gwaith ysgrifenedig
• Trafodaeth broffesiynol
• Arsylwi perfformiad
• Cynnyrch gwaith
PRENTISIAETH UWCHDIPLOMA LEFEL 4 MEWN RHEOLI PROSIECT 10
Diploma
Unedau Mandadol
• Egwyddorion Rheoli Prosiect
• Rheoli Rhanddeilliaid y Prosiect
• Cyfathrebu’r Prosiect
Unedau Enghreifftiol
• Rheoli Sgôp y Prosiect
• Achos Busnes, Strwythur Prosiect a Monitro Cynnydd
• Rheoli Amserlen y Prosiect
• Rheoli Cyllid y Prosiect
• Rheoli Risg y Prosiect
• Rheoli Contractau y Prosiect
• Rheoli Ansawdd y Prosiect
• Rheoli Adnoddau y Prosiect
• Darparu Arweinyddiaeth a Chyfeiriad ar gyfer ardal o gyfrifoldeb
• Cynllunio, Dyrannu a Monitro Gwaith o fewn ardal o gyrifoldeb
Sgiliau Hanfodol Lefel 2 neu 3 Cymhwyso Rhif, Cyfathrebu a Llythrennedd Digidol
• Dull Asesu: Tasgau a phrawf dan reolaeth
24 Mis - Ariennir yn Llawn
PRENTISIAETH UWCHDIPLOMA LEFEL 4 MEWN RHEOLI PROSIECT
11
ARIENNIR YN LLAWN GAN LYWODRAETH CYMRU
Diploma Lefel 3 mewn
Cyflwyno Gweithgareddau
Corfforol a Chwaraeon o Fewn Ysgolion
I bwy mae’r cymhwyster?
Mae’r cymhwyster wedi’i gynllunio ar gyfer dysgwyr sy’n cefnogi cyflwyno sesiynau Addysg Gorfforol a gweithgareddau chwaraeon o fewn ysgolion.
Mae ein cymhwyster Lefel 3 yn cwmpasu popeth o greu amgylchedd ddysgu cynhwysol i edrych ar fodylau datblygiad plant. Bydd y cwrs yn sicrhau fod dysgwyr yn barod i greu gweithgareddau a sesiynau Addysg Gorfforol diogel ac atyniadol.
Yn addas i:
• Y rhai sy’n gyfrifol am weithgareddau corfforol a lles mewn ysgolion
• ANG
• Cynorthwywyr Addysgu Lefel Uwch
Manteision y cymhwyster
• Rhaglen Ddiploma Lefel 3 yn cefnogi Datblygiad Proffesiynol ac yn cyfoethogi effeithiolrwydd proffesiynol a chanlyniadau gwell i babwb.
• Maen cefnogi datblygiad 4 pwrpas y Cwricwlwm Newydd yn enwedig yr elfen o ddatblygu unigolion iach ac hyderus.
• Maen cwmpasu elfennau sylfaenol yr Ardal o Ddysgu a Phrofiad (AoLE) Iechyd a Lles, yn enwedig yr elfen o ddatblygu iechyd corfforol.
• Cynorthwywyr Dysgu
• Swyddogion Datblygu Chwaraeon
• Hyfforddwyr Chwaraeon mewn ysgolion
• Gweithwyr Ieuenctid mewn ysgolion
• Maen cefnogi tyfiant proffesiynol yr unigolyn a’r ysgol fel sefydliad ddysgu ac felly’n galluogi gwelliant parhaus.
• Maen hyrwyddo’r tyfiant o gymunedau iachus.
Sut caiff y cymhwyster ei asesu?
Dulliau cymysg yn cynnwys:
• Gwaith ysgrifenedig
• Trafodaeth broffesiynol
• Arsylwi perfformiad
• Cynnyrch gwaith
12
DIPLOMA LEFEL 3 MEWN CYFLWYNO GWEITHGAREDD CORFFOROL A CHWARAEON O FEWN YSGOLION
Diploma
Unedau Enghreifftiol
• Amgylcheddau Dysgu Cynhwysol ar gyfer Plant a Phobl Ifanc
• Modelau a Pharthau Datblygiad Plant
• Darparu Amgylcheddau Diogel i Blant a Phobl Ifanc
• Datblygu Perthnasoedd o Fewn Cymuned yr Ysgol
• Ysgolion a’u Cymunedau
Yn ogystal â’r uchod, bydd angen i ddysgwyr gwblhau;
• Gwobr Lefel 3 mewn
Ymwybyddiaeth o Gyflogaeth mewn Hamdden a Dysgu
• Sgiliau Hanfodol mewn Cymhwyso Rhif
• Sgiliau Hanfodol mewn Cyfathrebu (lle’n briodol)
18-21 Mis - Ariennir yn Llawn
Roedd fy nhaith ddysgu yn un gyfannol a chefnogol, a fe wnaeth wirioneddol gyfrannu at fy nhwf proffesiynol.
13 DIPLOMA LEFEL 3 MEWN CYFLWYNO GWEITHGAREDD CORFFOROL A CHWARAEON O FEWN YSGOLION
Daniel Murdoch Ysgol Gynradd Hengastell, Pen y Bont
ARIENNIR YN LLAWN GAN LYWODRAETH CYMRU
Deall ein Cymwysterau
CYMWYSTERAU A LEFELAU
Yn Portal, rydym yn darparu ystod o gymwysterau ar lefelau 2 i 7, fodd bynnag mae’r llyfryn hwn yn amlygu’n benodol ein harlwy lefel 3 i 5 a ariennir yn llawn.
Amlinellir isod grynodeb o’n meysydd cymhwyster a’u meysydd addysgiadol cyfatebol.
LEFEL 3
Mae’r cymwysterau yn gymharol â:
• Lefel A/AS
• Prentisiaeth
• Diploma Bagloriaeth Ryngwladol
LEFEL 4
Mae’r cymwysterau yn gymharol â:
• Tystysgrif mewn Addysg Uwch (CertHE)
• Tystysgrif Genedlaethol Uwch (HNC)
LEFEL 5
Mae’r cymwysterau yn gymharol â:
• Diploma Addysg Uwch (DipHE)
• Gradd Sylfaen
• Diploma Cenedlaethol Uwch (HND)
Rydym yn cynnig cymwysterau Lefel 3 mewn:
• Arweinyddiaeth a Rheolaeth
• Hyfforddi a Mentora
• Cefnogi Cyflywyno Addysg Gorfforol a Chwaraeon mewn Ysgolion
• Addysg a Hyforddiant
Rydym yn cynnig cymwysterau Lefel 4 mewn:
• Arweinyddiaeth a Rheolaeth
• Sicrhau Ansawdd Prosesau ac Arferion Asesu Mewnol
• Addysg a Hyforddiant
Rydym yn cynnig cymwysterau Lefel 5 mewn:
• Arweinyddiaeth a Rheolaeth
• Hyfforddi a Mentora
14
Cyflwyniad, Cyllid a Chymhwysedd
CYFLWYNO
Yn Portal rydym yn deall gofynion bywyd gwaith modern. Gwyddom fod angen cydbwysedd gofalus rhwng eich gwaith, cyflawni prosiectau a chyfrifoldebau tim. Dyna pham rydym wedi llunio model ddysgu hyblyg sy’n eich galluogi i fireinio eich sgiliau heb orfod cyfaddawdu eich ymrwymiadau parhaus.
Y GYMRAEG
Gyda ninnau’n gwmni sy’n falch o fod yn ddwyieithog, gallwn gyflwyno’r cymwysterau trwy gyfrwng y Gymraeg. Cadwch eich llygaid ar agor am y swigen siarad ‘Cymraeg’ coch a gwyn drwy’r llyfryn hwn, sy’n nodi argaeledd cyflwyniadau yn y Gymraeg.
Mae Llywodraeth Cymru yn ariannu Uwch Brentisiaethau a Phrentisiaethau. Caiff y meini prawf cymhwystra eu hesbonio ymhellach ar y dudalen nesaf.
Cymraeg
15
ARIENNIR YN LLAWN GAN LYWODRAETH CYMRU
CYMHWYSEDD
Ar gyfer y rhaglenni prentisiaeth a amlinellir yn y prosbectws yma, rhaid i ymgeiswyr fodloni’r cymhwyseddau canlynol gan Lywodraeth Cymru;
Rhaid i unigolion:
• Fod â’r hawl i weithio yn y Deyrnas Unedig
• Fod â’r chontract cyflogaeth am o leiaf 16 awr yr wythnos
• Heb fod yn dilyn unrhyw raglenni eraill a ariennir gan Lywodraeth
Cymru
• Heb fod â gradd yn yr un maes astudiaeth â rhaglen y brentisiaeth
Sgiliau Hanfodol
Yn dibynnu ar y rhaglen a ddewiswyd, mae rhai neu bob un o’r cyrsiau Sgiliau Hanfodol canlynol yn angenrheidiol lle nad oes gan y dysgwr cymwysterau cyfwerth a’r lefelau a nodwyd:
• Lefel 2 neu 3 Cymhwyso Rhif
• Lefel 2 neu 3 Cyfathrebu
• Lefel 2 neu 3 Llythrennedd
Digidol
16
Partneriaethau
ac Ardystiadau
GYDA PHWY RYDYN NI WEDI GWEITHIO
Rydym yn hynod ffodus ein bod wedi gweithio gyda nifer helaeth o sefydliadau addysgol gwych. Gweler rhai esiamplau isod:
Ysgol Gyfun Gŵyr
Ysgol Brynteg School
Connah’s Quay High School
Ysgol Bryn Elian High School
Ysgol Bro Preseli
Ysgol Cwm Brombil
Ysgol Newtown School
Willowbrook Primary School
Ysgol St Cyres School
Ysgol Caer Elen
PARTNERIAID
17
CYMERADWYAETH:
ARWEINYDDIAETH A RHEOLAETH
GYDA PORTAL
Wrth gychwyn ar gymhwyster
Arweinyddiaeth a Rheolaeth Portal, fe welais gyfle Datblygiad
Proffesiynol Parhaus (DPP) arbennig a fasai’n gwella fy sgiliau arwain.
Wrth lywio drwy’r cymhwyster, ces gefnogaeth digonol bob cam o’r ffordd gan Portal. Roedd y llwyth gwaith wedi’i strwythuro’n dda ac yn hylaw, ac roedd y cyfuniad o gyfarfodydd wyneb i wyneb ac ar-lein gyda’r aseswr yn gweithio’n arbennig o dda i mi.
Gallaf gefnogi cydweithwyr sy’n dilyn y cymhwyster, ac ystyried yn fanylach sut i ymgorffori newid mewn arferion presennol.
Uchafbwynt allweddol yr hyfforddiant oedd archwilio i wahanol arddulliau arwain a chymryd rhan weithredol yn y broses o roi newid ar waith –profiadau sydd wedi cyfoethogi fy ngalluoedd arwain yn sylweddol.
Er gwaethaf yr heriau o gydbwyso cyfrifoldebau ysgol â gofynion swydd amser llawn, llwyddais i oresgyn rhwystrau trwy osod nodau llai, mwy hylaw o fewn y cymhwyster.
Rwyf bellach yn cymhwyso’r wybodaeth a’r sgiliau a enillwyd yn effeithiol wrth reoli dysgu proffesiynol, mentora a hyfforddi, a goruchwylio meysydd dysgu yn fy rôl bresennol. Yn ogystal, gallaf gefnogi cydweithwyr sy’n dilyn y cymhwyster ar hyn o bryd, ac ystyried yn fanylach sut i ymgorffori newid mewn arferion presennol.
Emma Laidlaw
18
Pennaeth Cynorthwyol Ysgol St Cyres
Sut i wneud cais
Os am ragor o wybodaeth am ein cymwysterau, croeso i chi drefnu sesiwn wybodaeth gydag aelod o’n tim perthnasau.
Cysylltwch a ni ar y manylion isod:
Jo Smith
Ysgolion cyfrwng Saesneg
07513 717705
joanne.smith@portaltraining.co.uk
Gwawr Booth
Ysgolion cyfrwng y Gymraeg
07730 133642
gwawr.booth@portaltraining.co.uk
Neu, os oes gennych gwestiwn cyffredinol, anfonwch e-bost at: info@portaltraining.co.uk
19
Yn eich arwain chi i’r man lle’r hoffech fod.
portaltraining.co.uk @PortalTraining /PortalTrainingUK