Rhaglen Artistig Medi-Rhagfyr 2023

Page 1

Beth sy' 'mlaen

Canolfan Celfyddydau ac Arloesi Arts and Innovation Centre
Bangor
COPI AM DDIM
Medi –Rhagfyr 2023
Sut i Archebu Os hoffech gopi o destun y rhaglen yma mewn print bras, neu fersiwn glywedol, cysylltwch ar 01248 38 28 28 Ar-lein pontio.co.uk Ffôn 01248 38 28 28 Pontio, Ffordd Deiniol, Bangor, LL57 2TQ Am oriau agor ewch i pontio.co.uk PontioBangor TrydarPontio PontioBangor pontio_bangor Mae'r wybodaeth yn gywir adeg argraffu. Rhif Elusen: 1141565

MonologAYE

Nos Fercher 6 Medi, 7.30pm

Stiwdio

£4 - elw i fynd i Annedd Ni

Prosiect newydd gan BLAS, adran ymgysylltu Celfyddydau Pontio, Bangor yw MonologAYE. Eginodd MonologAYE o brosiectau amrywiol rhwng BLAS, Pobl i Bobl a Chymdeithas Affrica

Gogledd Cymru, ble daeth hi'n amlwg

fod gan nifer fawr o bobl sy’n byw

ym Mangor stori i'w hadrodd – boed

hynny’n stori bersonol neu yn stori am

fyw ym Mangor. Daeth y syniad i arfogi

unigolion gyda’r sgiliau a’r arbenigedd i adrodd eu stori drwy gyfres o fonologau mewn arddull monolog i ddangos yr

holl leisiau amrywiol sydd yma yng nghymunedau Bangor.

Ymunwch â ni am noson o rannu yn

Stiwdio Pontio – gyda pherfformiadau o’r MonologAYE!

THEATR CLWYD YN CYFLWYNO

Fleabag

Nos Wener 15 + Nos Sadwrn 16 Medi, 7.30pm Stiwdio

£15 / £13

Addasiad Cymraeg newydd o'r sioe boblogaidd!

Drama gomedi arobryn Phoebe WallerBridge, Fleabag, wedi’i haddasu i’r Gymraeg gan yr awdur o fri, Branwen Davies.

Mae’r sioe fudr, ddoniol, heb ffilter yma’n dilyn siwrnai ddi-drefn Cymraes tuag at fod

â dim i’w golli.

Efallai ei bod hi'n ymddangos yn

or-rywiol, yn emosiynol amrwd ac yn

hunanobsesiynol, ond dim ond y dechrau ydi hynny. Gyda pherthnasoedd dan straen a chaffi mewn trafferthion, mae hi ar y

dibyn heb unrhyw le i fynd yn ôl pob tebyg. 16+

FARA

Nos Wener 22 Medi, 8pm

£18 / £15

Mae FARA yn cyfuno talentau tair o ffidlwyr a chantoresau Orcadaidd gwych - Jeana

Leslie, Catriona Price a Kristan Harvey - yn

ogystal â phianydd nodedig o Ucheldiroedd yr Alban a'r aelod mwyaf newydd,

The Trials of Cato

Nos Wener 13 Hydref, 8pm

£16 / £15

Wedi ennill clod gan Mark Radcliffe (BBC Radio 2), cafodd eu halbwm cyntaf, Hide and Hair, sylw mewn cyhoeddiadau cenedlaethol. Caiff caneuon oddi arno eu chwarae'n gyson ar BBC Radio 2 a BBC

6 Music, ac enillodd y wobr am yr Albwm

Gorau yng Ngwobrau Gwerin 2019 BBC

Radio 2. Pererin

Nos Wener 10 Tachwedd, 8pm

£15 / £13

Peidiwch â methu’r band poblogaidd o’r

80au, Pererin, mewn perfformiad arbennig yn un o nosweithiau Cabaret Pontio. Yn ymuno â'r band bydd Tecwyn Ifan ac Osian Huw Williams.

Rory Matheson. Maent wedi sicrhau troedle cadarn a blaenllaw ym myd gwerin yr Alban ers eu hymddangosiad ysgubol yng Ngŵyl Werin Orkney yn 2014.

Bridget Christie Who Am I?

Nos Iau 28 Medi, 7.30pm

Theatr Bryn Terfel

£20

Mae Bridget Christie yn boeth, ond nid

mewn ffordd dda. Mae’r stand-yp 51 oed, sydd wedi derbyn canmoliaeth yr adolygwyr, yn gollwng gwaed, yn chwysu, ac yn meddwl bod Chris Rock a The Rock yr un person. Ni all y digrifwr, sydd wedi ennill Gwobr Gomedi

Caeredin Foster's, reidio'r beic modur a

brynodd i frwydro yn erbyn ei hargyfwng canol oed oherwydd osteoarthritis cynnar yn ei chluniau ac RSI yn ei garddwrn. Sioe ddoniol am y menopos gyda dynes ddryslyd, gynddeiriog, chwyslyd sy'n cael ei chythruddo gan bopeth.

Graffiti Classics

Nos Wener 29 Medi, 7.30pm

Theatr Bryn Terfel

£15 / £13

16 o dannau, 8 o draed yn dawnsio a 4 llais

gydag 1 nod: gwneud cerddoriaeth glasurol

hynod ddoniol a llawn egni i bawb, yn hen ac yn ifanc. Mae Graffiti Classics yn chwalu ffiniau elitaidd y pedwarawd llinynnol

traddodiadol gyda sioe gomedi gerddorol hilariws, hwyliog. Cyngerdd clasurol, giamocs gwerin-sipsi, opera, set o gomedi stand-yp a sioe ddawns wych i gyd yn un!

O Beethoven i Bluegrass, o’r Baróc i Bop, Mozart neu Offenbach i Elvis, Strauss i Saturday Night Fever, mae rhywbeth at ddant pawb ac mae cynulleidfaoedd Graffiti

Classics yn chwerthin, yn curo dwylo ac yn cyd-ganu. Mae plant ac oedolion fel ei gilydd wrth eu bodd â'r amrywiaeth ddyrchafol a rhinweddol o arddulliau cerddorol, a’r cysylltiad cwbl ddigywilydd â’r gynulleidfa.

Addas i bob oed.

14+

Horrible Histories: BARMY BRITAIN

Dydd Sadwrn 30 Medi, 2pm + 6pm

Theatr Bryn Terfel

Oedolion: £18 / Plant: £15

Tocyn Teulu i 4: £60

Tocyn Teulu i 5: £75

Tocynnau'n gwerthu'n gyflym

Rydyn ni i gyd eisiau cwrdd â phobl o hanes. Y drafferth yw bod pawb wedi marw!

Felly mae BARMY BRITAIN yn ôl gyda sioe lwyddiannus y West End, yn llawn cymeriadau newydd gwallgof ac arweinwyr newydd anghwrtais o orffennol hurt Prydain!

A fyddwch chi'n cael eich concro gan William? A fyddwch chi'n suddo neu'n nofio

CWPL

LEILA NAVABIA A PRIYA HALL

Nos Sadwrn 30 Medi, 8pm

Stiwdio

£10.50 / £8.50

Mae Cwpl yn sioe sy’n edrych ar y profiad o fod yn Gymry cyfoes trwy lygaid Leila

Navabi a Priya Hall. Trwy ddefnyddio comedi, cerddoriaeth, ac adrodd hanesion mae’r

ddau yn gwahodd y gynulleidfa i weld pa fath o brofiad yw hi i fod yn gwpl o bobl o liw, cwiar a benywaidd yn ceisio adeiladu teulu gwahanol yng Nghymru heddiw.

gyda Brenin Harri I? Ewch i chwilio am dŷ gyda Harri VIII! Ymunwch â'r Sioriaid hyfryd wrth iddynt feddiannu Lloegr! Torrwch i mewn i Balas Buckingham a chuddio rhag y Frenhines Victoria! Mae hoff sioe hanes Prydain yn ôl! Dyma hanes gyda'r darnau afiach wedi eu gadael i mewn!

Canlyniad comisiwn Creu gyda Balchder, rhwydwaith Mas ar y Maes gyda Balchder yw hwn sydd wedi ei ariannu gan gronfa Cysylltu a Ffynnu Cyngor Celfyddydau Cymru.

5+

Cyngherddau Prifysgol Bangor

Gwobr Gerddoriaeth

Ymddiriedoliaeth

Gaynor Cemlyn Jones

Dydd Llun 2 Hydref, 12pm

Theatr Bryn Terfel

Am ddim ond bydd angen tocyn

Datganiad awr ginio gan fyfyrwyr

cerddoriaeth ôl-radd, Prifysgol Bangor.

Cerddorfa Symffoni Prifysgol Bangor

Nos Sadwrn 18 Tachwedd, 7pm

Neuadd Prichard-Jones, Prifysgol Bangor

£5 - £12

Cyngerdd clasurol gyda cherddorfa

Symffoni'r Brifysgol, dan arweiniad Joe

Cooper gyda rhaglen yn cynnwys Symffoni

Rhif 2 gan Brahms, Concerto i’r Piano gan

Clara Schumann a Genoveve Overture gan

Robert Schumann.

Cerddorfa a Chorws

Symffoni Prifysgol Bangor

Nos Sadwrn 9 Rhagfyr, 7pm

Neuadd Prichard-Jones, Prifysgol Bangor

£5 - £12

Dechreuwch ddathliadau’r Nadolig gyda

chyngerdd yn llawn ysbryd yr ŵyl gan

Gerddorfa a Chorws Symffoni Prifysgol

Bangor, gyda rhaglen yn cynnwys y darn

hoffus The Snowman gan Howard Blake, The Nutcracker Suite gan Tchaikovsky, Fantasia on Christmas Carols gan Vaughan

Williams ac Ave Rex gan William Mathias.

AD

DEWCH I BROFI DIWRNOD AGORED YN 2023

Dydd Sul, 20 Awst

Dydd Sul, 08 Hydref

Dydd Sul, 29 Hydref

Dydd Sul, 26 Tachwedd

bangor.ac.uk/diwrnodagored

Triawd Alandale:

Amrywiadau Goldberg J.S. Bach

Nos Fawrth 10 Hydref, 8pm

Stiwdio

£7.50 - £16

Andrew Harvey, feiolin

Alex Mitchell, fiola

Alex Holladay, soddgrwth

Rydym yn edrych ymlaen i groesawu

Triawd Alandale, a ffurfiwyd gan aelodau o

Gerddorfa Ffilharmonig Frenhinol Lerpwl

i’n Stiwdio yr Hydref hwn, am gyngerdd cysurus wedi perfformiad gan y Gerddorfa

Ffilharmonig fis Mehefin pan werthwyd

pob tocyn. Gan berfformio darn hyfryd J.S.

Bach Amrywiadau Goldberg fel rhan o’r

rhaglen – archebwch yn fuan rhag cael eich siomi.

COMEDI DYWYLL NEWYDD GAN SHÔN DALE-JONES.

Cracking

Nos Iau 12 Hydref, 7.30pm Stiwdio

£16 / £13

Mae CRACKING yn stori dywyll a doniol am gariad a chasineb, ac yn dathlu sut mae chwilio am gysylltiad yn curo datgysylltu.

Mae’n stori gomig ysbrydoledig a dyrchafol sy’n cyfuno ffuglen a realiti yn un cyfanwaith di-dor.

14+

Dan Nightingale’s Special

Nos Wener 20 Hydref, 7.30pm

Stiwdio

£16 / £14

Mae Dan wedi treulio'r ddwy flynedd ddiwethaf yn newid y diwydiant comedi o'r tu mewn allan, gan baratoi llwybrau gyrfa

newydd iddo'i hun a llawer o rai eraill; a hynny yr un pryd ag yr oedd yn un hanner y podlediad hynod lwyddiannus Have a Word.

16+

Dim Tocynnau ar ol!

Dreamcoat Stars

Nos Wener 20 Hydref, 7.30pm

Theatr Bryn Terfel

£25

Yn cynnwys sêr o'r cynhyrchiad hynod

lwyddiannus Joseph and the Amazing Technicolor Dreamcoat

Mae’r cynhyrchiad lliwgar hwn yn llawn caneuon bywiog ac egnïol o sioeau cerdd

mwyaf poblogaidd Prydain gan gynnwys

Joseph, Jesus Christ Superstar, SIX, Wicked, Phantom of the Opera, Mamma

Mia, We Will Rock You, Jersey Boys, Les

Misérables, Moulin Rouge a mwy. Tynnwch y llenni’n ôl, cydganwch ac ail-fyw eich hoff

gynyrchiadau mewn un sioe epig.

Catrin

Finch

ac Aoife Ní

Bhriain

Nos Wener 27 Hydref, 7.30pm

Theatr Bryn Terfel

£20

Gyda’i gilydd, mae Aoife a Catrin yn ffurfio deuawd feistrolgar aruthrol, sy’n awyddus i archwilio byd cerddorol yn llawn

posibiliadau, heriau a darganfyddiadau

creadigol, wedi’u hysbrydoli gan lu o

ddylanwadau ac wedi’u cysylltu gan

ddiwylliannau eu gwledydd genedigol. Cafodd eu perfformiadau cyhoeddus

cyntaf yng ngŵyl Lleisiau Eraill Aberteifi ym mis Tachwedd 2022 ganmoliaeth

frwd gan y gynulleidfa. Bydd eu deunydd newydd rhyfeddol a gwreiddiol yn cael ei ryddhau ar eu halbwm cyntaf, Double You, ar 27 Hydref 2023.

Hanner Tymor!

Wifi Wars

Dydd Mercher 1 Tachwedd, 3.30pm (6+) + 7pm (12+)

Sinema

£7.50 - £10

Tocyn Teulu i 4: £30

Mae WiFi Wars yn dychwelyd gyda'r sioe gêm gomedi fyw lle rydych chi i gyd yn

chwarae! Mewngofnodwch gyda'ch ffôn

clyfar neu dabled a chystadlu mewn

amrywiaeth o gemau, posau a chwisiau i ennill y sioe, a gwobrau!

Dan ofal y digrifwr Steve McNeil (capten tîm ar y rhaglen gomedi/chwaraeon

boblogaidd "Dara O'Briain's Go 8 Bit")

a gyda chymorth Rob Sedgebeer, yr

arbenigwr techoleg sydd wedi torri record

Guinness y byd!

Teulu Pontio: Owl at Home

Dydd Sadwrn 4 Tachwedd, 11.30am + 2.30pm

Stiwdio

£7.50 / £26 Tocyn Teulu i 4

Mae'r dylluan fach yn byw mewn tŷ bach

clyd mewn boncyff gwag yn y goedwig. Ond mae'n unig druan, ac yn canu iddo’i hun ac yn chwilio am ffyrdd i ladd amser. Mae’n pendroni llawer am bethau. Beth fyddai’n digwydd pe bai’n gwahodd y gaeaf i mewn i’w dŷ? Ydi'r dylluan fach yn gallu bod mewn dau le ar yr un pryd?

Stori hudolus gyda cherddoriaeth yw Owl at Home sy'n dangos sut mae cyfeillgarwch yn cuddio yn y llefydd mwyaf annisgwyl.

Canllaw Oed: 5 - 11

THEATR IOLO YN CYFLWYNO

Diwrnod yr Wythnos

SINEMA CINEMA

PONTIO BANGOR

Tocynnau: £5.50 - £7.50

70 dangosiad y mis

1 llwyfan ar gyfer goreuon byd opera a theatr fyw

Rhaglen fisol y sinema ar gael yn y ganolfan

Newyddlen e-bost wythnosol:

Crëwch gyfrif ar www.pontio.co.uk

Ffilmiau’r p’nawn dim ond

Llun-Mercher am 2pm

£5.00

Agor7
Ar

DAS RHEINGOLD

Nos Fercher 20 Medi, 7.15pm

Y cyfarwyddwr Barrie Kosky yn ymuno

â'r arweinydd Antonio Pappano mewn

cynhyrchiad newydd, beiddgar o bennod gyntaf cylch Wagner.

DON QUIXOTE

Nos Fawrth 7 Tachwedd, 7.15pm

Yn gyforiog o gomedi, ffraethineb a digonedd o goreograffi bravura, mae cynhyrchiad Carlos Acosta yn dod

â gwres a rhamant Sbaenaidd nofel glasurol Cervantes yn fyw.

L’ELISIR D’AMORE

Nos Iau 5 Hydref, 7.15pm

Haul, hwyl ac acrobateg lleisiol sydd i’w ddisgwyl

yn llwyfaniad hoffus Laurent Pelly o gomedi feddwol a ffraeth Donizetti.

THE NUTCRACKER

Nos Fawrth 12 Rhagfyr, 7.15pm

Dydd Sul 17 Rhagfyr, 2.15pm

Dewch i gael eich swyno gan ddawnsio bale

gyda'r wledd Nadoligaidd odidog hon i'r teulu cyfan.

Rhinoseros

Nos Fercher 1 + Nos Iau 2 Tachwedd, 7.30pm

Theatr Bryn Terfel

£12 - £16

gan Eugène Ionesco

Addasiad Cymraeg gan Manon Steffan Ros

Yn llawn hiwmor annisgwyl yn thensiwn

hunllefus, mae Rhinoseros yn sylwebaeth ar gymdeithas, eithafiaeth a sut y gall

casineb ledaenu fel feirws. Mor berthnasol

nawr ag erioed, daw’r campwaith absẃrd

Yn Blwmp ac yn Blaen

Nos Wener 17 + Nos Sadwrn 18 Tachwedd

7.30pm Stiwdio

£12 / £10

I ddathlu cyrraedd ei 70, mae Cefin Roberts yn mentro yn ôl i'r llwyfan ar ei liwt ac ar ei ben ei hun am y tro yma. Wedi perfformio Y

Dyn Gwyn gan Aled Jones Williams fel rhan o drioleg Theatr Bara Caws, Lleisiau, yn ystod y cyfnod clo gallwch nawr ei weld ar lwyfan ein Stiwdio.

hwn gan Eugène Ionesco i lwyfannau

Cymru yn yr addasiad cyntaf i’r Gymraeg gan Manon Steffan Ros ac o dan gyfarwyddyd Steffan Donnelly.

Byddwch yn ofalus –mae’r rhinoserosod yn dod. 12+

Yn dilyn y perfformiad, bydd Aled Jones

Williams yn ymuno gyda Cefin i lansio ei hunangofiant, Yn Blwmp ac yn Blaen. Gyda darlleniadau a sgwrs.

THEATR GENEDLAETHOL CYMRU YN CYFLWYNO
BAGELS • B RECHDANAU PITSA • CACENNAU Am fwy o wybodaeth ewch i’r tudalennau bwyd a diod pontio.co.uk Archebwch eich diodydd ymlaen llaw yn y bar i’w mwynhau yn ystod yr egwyl 01248 383826 bwydabar@pontio.co.uk

22 – 25 Tachwedd, 7.30pm

Theatr Bryn Terfel

£12 - £18

Teyrnas ar chwâl. Brenhiniaeth lwgr. Cenhedlaeth newydd yn ysu am newid.

Sioe gerdd epig Gymraeg yw Branwen: Dadeni sy’n dod ag un o’n chwedlau mwyaf adnabyddus i mewn i’r byd cyfoes.

Ar ôl rhyfel cartref gwaedlyd, teulu Llŷr sy’n rheoli gwlad Cedyrn. Mae Branwen, y dywysoges ifanc garismatig sydd wedi ennill calonnau’r bobl, yn awyddus i symud ei gwlad ymlaen, ond dyw ei brawd, y brenin, ddim yn gwrando.

Yn ystod ymweliad annisgwyl Brenin Iwerddon, mae hi’n gweld ei chyfle: dianc i wlad flaengar a llewyrchus lle bydd ei llais hi’n cyfrif a bydd ganddi’r grym i newid pethau. Ond, wrth i’w seren hi godi, mae pob bargen, bradychiad a chorff yn ei harwain yn ddyfnach i’r tywyllwch, tan, ar drothwy diwedd popeth, fe ddaw’r gost yn glir.

Beth fyddech chi’n ei aberthu i greu byd cyfiawn?

Sioe gerdd newydd gan Ganolfan Mileniwm Cymru a Frân Wen sy’n ailddychmygu’r stori eiconig, gyda Gethin Evans yn cyfarwyddo cast rhagorol o berfformwyr a cherddorion.

Llyfr gan Hanna Jarman, Elgan Rhys a Seiriol Davies

Cerddoriaeth a geiriau gan Seiriol Davies

Ariennir gyda chefnogaeth gan Gyngor

Celfyddydau Cymru drwy'r Loteri

Genedlaethol

13+

FRÂN WEN A CHANOLFAN MILENIWM CYMRU YN CYFLWYNO

Cadwch olwg am ragor o ddigwyddiadau byw, dangosiadau sinema, agoriad arddangosfeydd a gweithdai ar ein gwefan a chyfryngau cymdeithasol.

Y Catwalk

TWYLL YW’R FFASIWN NEWYDD...

Nos Fercher 29 Tachwedd, 7pm

Theatr Bryn Terfel

£4.50 - £20 (Tocyn Teulu ar gael)

Sioe ddyfeisiol gan griw BLAS Hŷn. Bydd y sioe yn seiliedig ar syniadau’r plant yng

ngweithdai wythnosol BLAS, gyda Mared

Elliw Huws, Gwion Aled Williams, Manon

Gwynant a Sarah Mumford yn dod a’r syniadau ynghyd.

TIR, Stream of Consciousness

Nos Iau 30 Tachwedd, 7.30pm

Theatr Bryn Terfel

£13 / £11

Ballet Cymru yn cyflwyno noson ddisglair o ddawnsio ar ei orau.

Albwm eiconig Cerys Matthews o

Gerddoriaeth Werin Cymru yw’r

ysbrydoliaeth ar gyfer TIR, ac mae’r

coreograffwyr Darius James OBE ac Amy

Doughty wedi defnyddio 11 o ganeuon yr

albwm i greu gwaith unigryw yn arbennig ar gyfer dawnswyr Ballet Cymru.

Daw Marcus J Willis, Coreograffydd Preswyl

Ballet Cymru, â chyflwyniad newydd i’r

A Christmas

Carol – A Live Radio Play

Nos Wener 1 Rhagfyr, 7pm Stiwdio

£15 / £13

Mae Lighthouse Theatre yn dychwelyd y gaeaf hwn gyda fersiwn drama radio

fyw o stori glasurol dragwyddol Dickens, A Christmas Carol – drama i swyno’r

llwyfan o’i waith coreograffig, Stream of Consciousness, a lwyfannwyd am y tro cyntaf gan Ailey II yn 2016. Mae Stream of Consciousness yn rhoi bywyd corfforol i'n meddyliau mewnol. Mae Willis yn plethu chwe ystum syml i’r “ffrwd,” sef yr ymson cythryblus ym meddwl pob person. Wedi'i osod i addasiad newydd, cyfoes Max

Richter o’r Pedwar Tymor gan Vivaldi, mae'r gwaith hwn yn adleisio tensiwn a dwyster llanw cyfnewidiol y gerddoriaeth.

8+

hen a’r ifanc fel ei gilydd yn llawn naws

Nadoligaidd, cyfarfyddiadau ysbrydol, caledi ac achubiaeth.

BALLET CYMRU YN CYFLWYNO

Dvořák 8 gyda Ryan Bancroft

Nos Wener 1 Rhagfyr, 7.30pm

Neuadd Prichard-Jones, Prifysgol Bangor

£5 - £20 (Tocyn Teulu ar gael)

Hannah Kendall Spark Catchers

Glazunov Concerto i’r Feiolin

Dvořák Symffoni Rhif 8

Ryan Bancroft arweinydd

Ben Beilman feiolin

Bydd y Prif Arweinydd Ryan Bancroft yn

ymuno â ni ar daith eto'r hydref hwn, gan ddechrau'r rhaglen â The Spark Catchers

gan Hannah Kendall. O’i fywiogrwydd

llawn ynni a’i egni rhythmig i’w alawon

melancolaidd a’i gywreinrwydd caboledig, mae’r gwaith yn seiliedig ar gerdd hynod

ddeinamig Lemn Sissay o’r un enw.

Mae’r Concerto i’r Ffidil gan Glazunov, er iddo gael ei ysgrifennu dros ganrif cyn gwaith Hannah Kendall, yn dangos bywiogrwydd rhythmig a thelynegol tebyg.

Mae’n cyfuno dawn virtuoso yr unawdydd â mynegiant telynegol ac emosiwn dwfn, gydag awyrgylch, tempo a deinameg

sy’n newid rhwng symudiadau i greu’r cyfanwaith. Mae Dvořák yn adlewyrchu

llawenydd pur y byd naturiol yn ei Wythfed Symffoni, sydd yr un mor rhythmig a melodaidd. Mae'r coralau tywyll, tawel yn ildio i unawdau arwrol ar y chwythbrennau, ac mae huodledd pruddglwyfus yn ildio i lawenydd hoenus yn y symffoni ddramatig gyffrous hon.

Ed Byrne: Tragedy Plus Time

Nos Fercher 6 Rhagfyr, 7.30pm

Theatr Bryn Terfel

£27.50

Yn ôl Mark Twain, hiwmor yw trasiedi plws amser. Ymunwch ag Ed wrth iddo roi prawf ar y fformiwla honno wrth droi digwyddiad mwyaf trasig ei fywyd yn destun chwerthin.

14+

Llŷr Williams

Nos Iau 7 Rhagfyr, 7.30pm

Theatr Bryn Terfel

£5 - £20

Mae'r pianydd o Gymro, Llŷr Williams, yn cael ei edmygu'n helaeth am ei

ddeallusrwydd cerddorol dwfn, ac am natur fynegiadol a chyfathrebol ei ddehongliadau. Mae wedi perfformio gyda phob un o brif gerddorfeydd y Deyrnas

Unedig ac mae ganddo berthynas arbennig o hirsefydlog â Cherddorfa Genedlaethol Gymreig y BBC, a chyda’r gerddorfa honno, dros y tymhorau diwethaf, mae

wedi perfformio concertos yn amrywio o Mozart a Beethoven i Bartók a Mathias.

Mae hefyd yn perfformio’n rheolaidd mewn

neuaddau a gwyliau cerddorol gan gynnwys

Neuadd Wigmore, Neuadd Gyngerdd

Perth, a Neuadd Dewi Sant a Neuadd Dora

Stoutzker yng Nghaerdydd, ac yng Ngŵyl

Caeredin a Gŵyl East Neuk.

Tocynnau'n gwerthu'n gyflym

Nos Sadwrn 9 Rhagfyr, 7.30pm

Theatr Bryn Terfel

£23

The Elton John Show yw’r sioe deyrnged

fwyaf newydd a'r mwyaf cyffrous i gyrraedd llwyfannau'r Deyrnas Unedig.

Ac yntau wedi gwerthu dros 300 miliwn record, Syr Elton John yw un o gerddorion mwyaf llwyddiannus ei genhedlaeth.

Yn seren ddisglair ymhob ystyr y gair, a chanddo gatalog enfawr o ganeuon. O

Rocket Man i Tiny Dance, mae’r Elton John Show yn dod â’r Elton ifanc, llawn egni yn ôl i'r llwyfan.

Gig sefyll gyda rhai seddi ar gael ar y noson

Nos Wener 15 Rhagfyr, 7.30pm

Theatr Bryn Terfel

£18 / £15

Ymunwch â Welsh of the West End am noson o gerddoriaeth Nadoligaidd, yn cynnwys ffefrynnau sioeau cerdd a chlasuron y Nadolig.

Tocynnau'n gwerthu'n gyflym

Yn cynnwys perfformwyr o sioeau fel Les Misérables, Phantom of the Opera a Wicked; mae'r cyngerdd unigryw hwn yn

Theatr Bryn Terfel yn addo bod yn noson na ddylid ei cholli!

MELA

Nos Fercher 13 + Nos Iau 14 Rhagfyr, 7.30pm

Theatr Bryn Terfel

£15 / £10

Mae’r ysgol wedi cau am yr haf ac mae’r ieuenctid yn barod i fwynhau’r gwyliau. Ond…mae’r dyn busnes cyfoethog, Mr Harry Valentine, wedi cael digon. Fo sydd berchen y clwb ieuenctid ac mae o am gau’r sefydliad. Oes yna ffordd i’r ieuenctid

gadw’r adeilad a’r adnodd? Oes na ffordd i gael y gorau ar Mr Valentine? Oes ganddo gyfrinach nad ydi o eisiau i neb wybod amdani?! Dewch i fwynhau cyflwyniad Ysgol Tryfan o stori ddifyr a dramatig!!

YSGOL TRYFAN YN CYFLWYNO

BLAS yw rhaglen ieuenctid Pontio sy’n rhoi’r cyfle i blant a phobl ifanc gael blas o’r celfyddydau

GWEITHDAI WYTHNOSOL BLAS

Gweithdai drama a pherfformio wythnosol i ddatblygu hyder, presenoldeb llwyfan, sgiliau perfformio ac i fwynhau!

Nos Lun:

5.00pm-6.00pm Blwyddyn 3 a 4

6.15pm–7.15pm Blwyddyn 5 a 6

Nos Fercher:

6.30pm-7.30pm Blwyddyn 7, 8 a 9

7.15pm-8.15pm Blwyddyn 10 - 13

Cost: £25 am dymor (mae gostyngiad ar gael ar gyfer trigolion LL57 1)

Bydd y gweithdai yn cael eu cynnal yn bennaf drwy gyfrwng y Gymraeg. Does dim rhaid bod yn rhugl, ac rydym yn croesawu pawb o bob gallu ieithyddol.

I gael rhagor o wybodaeth anfonwch ebost at Mared: m.huws@bangor.ac.uk

Projectau BLAS

Hirael a Beddgelert

Mae BLAS newydd ddechrau ar broject creadigol cymunedol sy'n cael ei gynnal mewn mewn dau le, ym Meddgelert a Hirael. Os ydych chi'n byw yn yr ardaoedd yma, neu wedi bwy yno ac awydd ymuno cysylltwch â m.huws@bangor.ac.uk

Opera Canolbarth Cymru

Llongyfarchiadau anferth i griw y corws ifanc ym Mangor am eu perfformiad arbennig yng nghynhyrchiad Opera

Canolbarth Cymru o’r opera Hansel a Gretel. Profiad gwefreiddiol i’r criw oedd bod yn rhan o’r opera arbennig yma a chanu ar lwyfan gyda chantorion o fri.

“Dwi rioed wedi gweld opera o’r blaen a’r un cynta’ dwi’n weld, dwi ynddi!”

Diolch mawr i Manon Llwyd ac Annette

Bryn Parri am eu gwaith caled yn paratoi’r criw ar gyfer y perfformiad! Dyma brofiad fydd yn sicr o aros yn y co’.

Y

Cwmwl / The Cloud

Mae Tîm BLAS yn hynod falch o griw BLAS Bach a berfformiodd eu sioe ddyfeisiol Cwmwl nôl ym mis Mai. Dyma'r tro cyntaf i 98% o’r cast berfformio ar lwyfan Theatr Bryn Terfel ac roeddent yn wych!

Braf oedd cael cwmni Christopher gefn llwyfan hefyd. Christopher oedd un o aelodau cyntaf BLAS nôl yn 2008. Arhosodd Christopher yn aelod o Blas tan 2020, ac eleni cafodd ei gyflogi gan BLAS i weithio ar sioe BLAS Bach.

Ysgol Pendalar

Bu BLAS draw yn Ysgol Pendalar yn creu campweithiau celf ar gyfer cynhyrchiad Ballet Cymru o Little Red Riding Hood and the Three Little Pigs gyda’r artist Manon

Dafydd, y ddawnswraig Angharad Harrop, a'r bardd Buddug Roberts gyda Mali Elwy yn cefnogi – darllenwch fwy am Mali isod.

Tiwtoriaid dan Hyfforddiant!

Cynllun hyfforddiant sy'n cefnogi pobl ifanc i gysgodi ymarferwyr a thimau sy'n gwneud gwaith ym myd ymgysylltu â'r celfyddydau.

Mali Elwy

Helo! Mali Elwy dw i a dwi’n fyfyrwraig Cymraeg ym Mhrifysgol Bangor. Yn fwy diweddar dwi ‘di cael y pleser o ddechrau gweithio fel tiwtor dan hyfforddiant yn Pontio gyda thîm BLAS. Mae hyn yn brofiad newydd sbon i mi, ac yn fy amser byr gyda’r tîm, dwi wedi cael y fraint o weithio ar ambell i brosiect arbennig iawn. Dwi’n caru’r ffordd mae’r tîm yma’n rhoi cyfle i blant a phobl ifanc yr ardal fynd i'r afael â byd y celfyddydau o oed ifanc, a’r cyfleoedd amrywiol mae BLAS yn gynnig iddynt. Mae nhw mor lwcus o gael prosiect fel hyn yn eu hardal, a dwi’n teimlo’n lwcus iawn i gael bod yn rhan fach ohono.

Marie-Pascale Onyeagoro-Okonkwor

Fy enw i yw Marie-Pascale OnyeagoroOkonkwor. Astudiais MSc mewn Seicoleg Clinigol ac Iechyd ym Mhrifysgol Bangor. Gweithiais gyda BLAS Bangor am y tro cyntaf fel tiwtor dan hyfforddiant ar brosiect llyfrau gyda Chymdeithas Affrica Gogledd Cymru. Penderfynais fy mod eisiau profiadau go iawn yn y gymuned a thu hwnt i ffiniau Bangor cyn mynd ymlaen i astudio PhD.

Mae gweithio gyda BLAS, Pontio, wedi ehangu fy ngorwelion gan fy arwain i archwilio sawl trywydd newydd, gan gynnwys ysgrifennu monologau, dysgu Cymraeg yn ffurfiol, dechrau busnes, cymryd rhan mewn arddangosfeydd celf a gweithgareddau diwylliannol eraill, gan gyfrannu llawer mwy i’r gymuned. Y peth gorau sydd wedi deillio o weithio gyda BLAS yw bod fy nhair merch a fu'n rhan o brosiect y Clwb Darllen, wedi dechrau ysgrifennu gyda hyder anhygoel, a dwi’n gobeithio rhyw ddydd, y daw gwasg i wireddu eu breuddwydion.

Celf

Medi – Rhagfyr 23

CYMERWCH GIP AR

ARDDANGOSFEYDD YR HYDREF

PAUL R JONES + DATAMOSH

Hydref 2023

Gosodiad hybrid yng ngofodau

cyhoeddus Pontio i gyd-fynd â chyngres

IKT 2023 ar Gelf ac Uwch-Dechnoleg.

Chwa o Awyr Iach

Nes diwedd Medi

Arddangosfa aml-gyfrwng, chwareus gyda gwaith celf gan Ella Jones, Esyllt Lewis, Mia Roberts a Gwenllian Spink.

REBECCA F HARDY

Tachwedd – Rhagfyr 2023

‘Yr hyn sy’n pylu’

Cyflwyniad o ymchwil creadigol yr artist ar ffurf lluniadau, sgrin-brintiadau, ffotograffiaeth, ffilm a gosodiadau.

Ciosg Celf ar ein cyfryngau cymdeithasol.

Gweithdai

Hedfan am Hanner Dydd

Bob yn ail ddydd Llun, 12pm

£6.50 / £48 am 8 sesiwn

16+

Caffi Babis

Dydd Gwener cyntaf pob mis, 10am

£3

Addas i blant hyd at 24 mis.

Dawnsio ar Gyfer Parkinson's

Dydd Mawrth, 1.30pm £3.50

Addas i unrhyw un sy’n byw gyda Parkinson’s.

Ymunwch â'n tîm o wirfoddolwyr!

Oes gennych chi...?

- Ddiddordeb mewn theatr, cerddoriaeth fyw a ffilmiau

- Brwdfrydedd i roi gwasanaeth arbennig o dda i gwsmeriaid

- Awydd i ddysgu, datblygu a defnyddio sgiliau newydd

- Dymuniad i gyfarfod â phobl newydd ac adeiladu eich hyder

Credwn y dylai’r Celfyddydau fod yn gynhwysol ac felly rydym yn annog gwirfoddolwyr o bob cefndir i ymuno â niyr unig ofynion yw eich bod dros 16 oed, yn frwdfrydig, yn gyfeillgar ac yn ddibynadwy.

Diddordeb?

gwirfoddolwyr@pontio.co.uk

01248 382666

I ddod yn 2024…

Scott Bennett: Great Scott

Nos Sadwrn 3 Chwefror, 7.30pm

Theatr Bryn Terfel

£15

Mae Scott Bennett, a ddisgrifiwyd yn ddiweddar gan yr Evening Standard fel “Cyfrinach orau comedi byw” wedi bod yn torri cwys newydd ym maes stand-yp ers bron i ddegawd. Mae wedi ysgrifennu ar gyfer nifer o berfformwyr

proffil uchel fel Chris Ramsey a Jason Manford, ac yn ddiweddar recordiodd ei ymddangosiad cyntaf ar Live at the Apollo BBC One. Mae galw mawr

am Scott fel awdur comedi ac mae'n ymddangos yn rheolaidd ar The News Quiz a The Now Show ar BBC Radio 4, ac mae ar fin dod i’r amlwg ar y lefel uchaf.

The Fureys

Nos Iau 4 Ebrill, 7.30pm

Theatr Bryn Terfel

£24

Bu mawr ddisgwyl i The Fureys

ddychwelyd a phan wnânt, byddant yn rhoi gwledd o gerddoriaeth boblogaidd i’w cynulleidfa.

Maent yn un o fandiau canol y ffordd, gwerin a thraddodiadol mwyaf clodwiw a dylanwadol Iwerddon erioed. Mae clasuron y Fureys fel I Will Love You, When You Were Sweet 16, Red Rose Café, Leaving Nancy, The Old Man, From Clare to Here a The Green Fields of France wedi dod yn drac sain i fywydau cefnogwyr ar draws y byd.

GWYBODAETH GYFFREDINOL

Archebion Grŵp

Rydym yn darparu ar gyfer grwpiau ac ysgolion, ac yn achlysurol, gallwn gynnig

gostyngiadau sylweddol. Cysylltwch â’r Swyddfa

Docynnau am fwy o wybodaeth ar 01248 38 28 28.

Mae’r holl archebion yn amodol ar ein telerau a’n hamodau safonol. Am fwy o wybodaeth ewch i’n gwefan pontio.co.uk

Tâl Postio

Codir £1 o dâl postio os gofynnwch am docynnau trwy’r post. Ni allwch ofyn am docynnau trwy’r post yn hwyrach na 10 niwrnod cyn y digwyddiad, er mwyn sicrhau

eu bod yn eich cyrraedd

mewn da bryd. Wedi hynny, fe allwch gasglu’r holl docynnau sydd wedi’u prynu ymlaen llaw o’r swyddfa docynnau, neu eu hargraffu gartref.

Teuluoedd

Lle nodir pris tocyn teulu, mae’r cynnig ar gael i grŵp o bedwar. Rhaid i o leiaf un aelod o’r grŵp fod o dan 18 oed, oni nodir yn wahanol.

Gostyngiadau

Lle bynnag y bo ‘gostyngiadau’ wedi’i nodi ar gyfer digwyddiadau Pontio, mae’r categorïau isod wedi’u cynnwys yn y diffiniad hwnnw: myfyrwyr a rhai dros

60. Mae plant a phobl ifanc yn cynnwys unrhyw un o dan 18 oed. Caiff plant dan 2 oed fynd i mewn am ddim.

Cerdyn Hynt

Mae gan rai â cherdyn Hynt hawl i gael tocyn yn rhad ac am ddim i gynorthwyydd personol neu ofalydd yn Pontio a phob theatr a chanolfan gelf sy’n rhan o’r cynllun.

Ewch i www.hynt.co.uk neu www.hynt.cymru am wybodaeth ac arweiniad am y cynllun.

Adnodd ar gyfer dysgu, ymchwil, addysgu’r cyhoedd a mwynhad

Mae gan Ardd Fotaneg Treborth welyau planhigion, glaswelltir naturiol sy’n doreithiog mewn rhywogaethau, pyllau, gardd goed, Gardd Feddyginiaethol Tsieineaidd, coetir hynafol, a chynefin creigiog ar lannau’r Fenai Mae chwe thŷ gwydr yn darparu amgylcheddau arbenigol ar gyfer casgliadau planhigion trofannol, tymherus, tegeirianau a phlanhigion cigysol

Rydym yn trefnu sgyrsiau, sêl planhigion, gweithdai arbenigol, crefftau (a mwy!) yn rheolaidd

CYSYLLTWCH Â NI www treborth bangor ac uk treborth@bangor ac uk 01248 388877
Sesiynau gwirfoddoli rheolaidd bob dydd Mercher a dydd Gwener
Issuu converts static files into: digital portfolios, online yearbooks, online catalogs, digital photo albums and more. Sign up and create your flipbook.