1 minute read

I ddod yn 2024…

Scott Bennett: Great Scott

Nos Sadwrn 3 Chwefror, 7.30pm

Theatr Bryn Terfel

£15

Mae Scott Bennett, a ddisgrifiwyd yn ddiweddar gan yr Evening Standard fel “Cyfrinach orau comedi byw” wedi bod yn torri cwys newydd ym maes stand-yp ers bron i ddegawd. Mae wedi ysgrifennu ar gyfer nifer o berfformwyr proffil uchel fel Chris Ramsey a Jason Manford, ac yn ddiweddar recordiodd ei ymddangosiad cyntaf ar Live at the Apollo BBC One. Mae galw mawr am Scott fel awdur comedi ac mae'n ymddangos yn rheolaidd ar The News Quiz a The Now Show ar BBC Radio 4, ac mae ar fin dod i’r amlwg ar y lefel uchaf.

The Fureys

Nos Iau 4 Ebrill, 7.30pm

Theatr Bryn Terfel

£24

Bu mawr ddisgwyl i The Fureys ddychwelyd a phan wnânt, byddant yn rhoi gwledd o gerddoriaeth boblogaidd i’w cynulleidfa.

Maent yn un o fandiau canol y ffordd, gwerin a thraddodiadol mwyaf clodwiw a dylanwadol Iwerddon erioed. Mae clasuron y Fureys fel I Will Love You, When You Were Sweet 16, Red Rose Café, Leaving Nancy, The Old Man, From Clare to Here a The Green Fields of France wedi dod yn drac sain i fywydau cefnogwyr ar draws y byd.