Dydd Mawrth 29 Mai 10.30-12.00pm i Flynyddoedd 3 a 4 (7-9 mlwydd oed) 1-2.30pm i Flynyddoedd 5 a 6 (9-11 mlwydd oed)
Gweithdy Drama Cantre’r Gwaelod Stiwdio £3.50 Gweithgaredd dwyieithog. Dewch ar daith hudolus i fyd Cantre’r Gwaelod gyda Manon Wyn Williams.
Bydd yr actores a'r sgriptwraig Manon Wyn Williams yn cynnal gweithdy drama hwyliog yn seiliedig ar stori Cantre’r Gwaelod fel rhan o ddathliadau Blwyddyn Y Môr.
Er nad yw’n hanfodol i rieni fod yn bresennol, mae croeso iddynt eistedd i wylio’r gweithdy. Lle i 20 yn unig.
Dydd Iau 31 Mai 10:30-11:30am 1-2pm 2.30-3.30pm
Fuoch chi rioed yn morio? Stiwdio £3 i bawb Gweithdy dwyieithog i’r teulu cyfan, mwyaf addas i oedran 0-7 oed. Sesiwn gerdd ymarferol gyda Manon Llwyd a Leisa Mererid.
Fe fydd y cerddor amryddawn Manon Llwyd yn arwain sesiwn gerdd ryngweithiol ar ganeuon y môr gyda Leisa Mererid yn cefnogi gyda Macaton a Yoga. 31
Mae hwn yn weithdy teuluol a bydd angen i oedolyn fod yn bresennol gyda’r plant. Nifer cyfyngedig